William Jones (Nofel)/Pennod 17 - Pen y Bwrdd

Oddi ar Wicidestun
Pennod 18 - Pobol Ryfadd William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

PENNOD XVII

PEN Y BWRDD

År'r dyddiau heibio'n weddol gyflym i Grad. Yr oedd ganddo ddwy forwyn a dau was, a galwai rhywun i'w weld bron bob dydd. Safai'r set-radio hefyd ar y bwrdd wrth ei wely a châi fwynhad yn gwrando arno, yn arbennig ar raglenni Cymraeg. Casglai'r teulu oll yn ddefosiynol yn y llofft bob tro y disgwylid llais William Jones o'r teclyn, a phechodd Wili John yn anfaddeuol un nos Fercher wrth farnu bod Gary Cooper mewn ffilm yn fwy diddorol na'i Wncwl William ar y radio.

Synnai Meri fod Crad mor siriol. Pan orchmynasai'r meddyg iddo fynd i orwedd, dychmygai hi y byddai ei gŵr ar bigau'r drain yn ei wely ac yn bygwth codi bob bore, gan awgrymu i'r Doctor Stewart 'na fynd i weld ei nain. Gallai feddwl am William ei brawd yn dioddef yn addfwyn ac amyneddgar, gan yfed ei ffisig yn wrol heb dynnu ystumiau a chan ddiolch yn ddwys am bob cymwynas. Ond nid Crad. Gwrthryfelwr byrbwyll fuasai ef erioed, a chofiai'r adeg pan fflamiai dim ond iddi geisio'i gymell i wisgo'i grafat ar fore oer. Ond er syndod i bawb, yr oedd Crad, fel y proffwydi gynt, yn "siampl o ddioddef blinder ac o hir-ymaros." Collai ei dymer weithiau, wrth gwrs, ac nid unwaith na dwywaith y galwodd Wili John yn "debot gwirion," gan fethu â dyfalu sut yr oedd hi'n bosibl i un o'r hil ddynol fod mor ddwl, ond yr oedd Meri'n falch pan glywai ffrwydriadau Cradyddol felly. A Wili John, o ran hynny. "'Dada'n well 'eddi'," fyddai ei sylw ef ar ôl un o'r ebychiadau hyn.

Yr oedd Shinc hefyd yn wael. Gwyrai un diwrnod wrth fôn y clawdd yn ei alotment, a syrthiodd carreg fawr ar ei wegil. Cludwyd ef i'r ysbyty ar unwaith, ond erbyn hyn dychwelasai adref—i fyw am bythefnos mewn ystafell dywyll, gan i effeithiau'r ddamwain fygwth ei olwg. Âi William Jones i edrych amdano'n fynych a'i gael yn sur a sarrug yn nhywyllwch y parlwr aflêr. Digwyddodd yr anffawd rai dyddiau cyn y bwriadai Richard Emlyn gychwyn ar ei yrfa yn y Royal College of Music, ond llwyddodd y bachgen i ohirio dechrau ar ei gwrs tan fis Ionawr. Ac yn awr, yn y parlwr tywyll, heb fedru darllen na dim, prif gysur Shinc oedd gwrando ar y fiol a ganai ei fab iddo. Ond efallai mai bendith oedd y ddamwain, gan i Shinc fwriadu ymuno â'r International Brigade i ymladd yn Ysbaen.

William Jones oedd un o'r rhai cyntaf i glywed am yr ysgoloriaeth a enillasai Richard Emlyn. Un prynhawn, ac yntau'n digwydd dod allan o'r Post pan lifai'r plant lleiaf heibio o'r ysgol, penderfynodd fynd i gyfarfod Eleri. Cyr- haeddodd waelod y grisiau o'r ysgol yr un pryd â hi, a'r munud nesaf rhuthrodd Richard Emlyn atynt â'i wynt yn ei ddwrn a rhyw olwg gwyllt yn ei lygaid.

"Darllenwch a, Eleri!" meddai, gan estyn rhyw lythyr iddi. "Darllenwch a!"

Un golwg brysiog ar gynnwys y llythyr, ac yna taflodd Eleri ei braich am wddf y llanc a'i gusanu. Cofiodd fod ei hewythr gerllaw, ac mewn ymgais i wneud iawn am ei throsedd, rhoes gusan iddo yntau.

"Sgolarship i'r Royal College of Music, Wncwl!"

"Duwes annwl, go dda!" meddai'r dyn bach, gan roi ei het galed yn syth eto ar ei ben. "Ia, wir, da drybeilig! Rhaid inni ddathlu'r amgylchiad. Rhaid, wir. Mi awn ni'n tri i'r pictiwrs 'na heno. Hwda, Richard Emlyn, dyma iti hannar coron i godi ticedi i ti ac Eleri, rhag ofn y bydda' i dipyn ar ôl. Yr ydw i wedi addo .. wedi addo ..." Ond ni fedrai gofio pa un o'i addunedau fil a oedd i'w chyflawni'r noson honno. "Daria unwaith!" ychwanegodd. "Mi fu bron imi ag anghofio 'mod i isio rhedag i'r Post 'na. Mi ddalja' i chi i fyny ar y ffordd adra. 'Fydda' i ddim chwinciad."

Ond yng nghwmni ei gilydd yr aeth y ddau tuag adref, gan ddyfalu a oedd y Post o hyd yn yr un fan. Yna, ar ôl te, cafodd Eleri afael ar ei hewythr ar ei ben ei hun, a thyngodd ef lw na sonjai air amdani hi a Richard Emlyn "wrth Dada." Galwai'r llanc i edrych am Grad yn weddol aml, bob tro tua hanner awr wedi pump, gan aros tan chwech. Cyd—ddigwyddiad hollol oedd bod Eleri, wrth fynd allan, yn rhoi clep ar y drws ffrynt ryw funud i chwech.

"Diawch, mae hogyn Shinc yn meddwl fy mod i'n un dwl, William," oedd sylw'r claf ryw funud wedi chwech ar un o'r nosweithiau hynny.

"O? Pam, dywad?"

"Mae o'n cymryd arno mai dŵad yma i 'ngweld i y mae o, ond cyn gyntad ag y clyw o sŵn y drws ffrynt 'na'n cau, i ffwrdd â fo. Mi ddechreuis i ddeud stori reit ddiddorol wrtho fo heno—hanas y tro hwnnw y bu'i dad o a finna o dan y cwymp—ond 'wyt ti'n meddwl 'i fod o'n gwrando arna' i? 'No denjar,' chwedl Twm Bocsar ers talwm." "Mae arna' i ofn dy fod ti'n dychmygu petha', Crad. Mae practis y côr heno, y practis cynta' ar gyfar Saint Paul, ac mae Eleri a Richard Emlyn yn mynd yno. Rhaid i minna' 'i throi hi hefyd, fachgan."

"Oedd 'na bractis echnos?"

"Nac oedd, ond i weld hogan Mrs. Leyshon ynglŷn â rhw—bath yr aeth Eleri echnos, medda' hi."

"Yr ydw i wedi ffeindio, William Jones," meddai Crad, gan ddynwared llais crynedig Mr. Lloyd Llan-y-graig, "nad ydach chi, y mae'n ddrwg gin i ddeud, mor ddiniwad ag yr ydach chi'n edrach. Ond y mae 'na un peth, William Jones, yr hoffwn i'i argraffu ar eich meddwl chi."

"Be'ydi hwnnw, Crad?"

"Y medrai'r bôi yma ddysgu tric ne' ddau i Richard Emlyn, 'ngwas i. Oni chofiwch chi, William Jones, mor hoff oeddwn i ohonoch chi pan oeddwn i'n rhedag ar ôl eich chwaer, ac mor hoff hefyd o droi'r mangyl i'ch mam druan? Ond efallai i chwi gredu mai syrthio mewn cariad hefo'r mangyl a wnes i. ... Dos, William, os wyt ti am fod mewn pryd yn y practis."

Rhyddhawyd Shinc o'i gell ar ddydd Sul, a galwodd i edrych am Grad trannoeth. Edrychai'n hen a llwyd, ac aethai ei wallt bron yn wyn. Gwisgai sbectol dywyll, ac ymddangosai'n ddwys a thawel iawn.

"Ydi stori William 'ma'n wir, Shinc?" gofynnodd Crad ymhen tipyn.

"Pwy stori?"

"Dy fod ti a'r plant yn y capal neithiwr?"

"Odi."

"Diawch, yr ydw i'n siŵr fod Sarah Bowen bron â chael ffit!"

"Odd."

"Shincin Rees y Comiwnist yn y capal!"

"Ia."

Dywedai'r unsillafau tawel nad oedd yn y pwnc ddeunydd cellwair.

"Be' ddigwyddodd, Shinc?"

"Pythewnos miwn stafell dywyll, Crad. 'On i jest mynd off 'y mhen yr wthnos gynta', bachan, ac ar y dydd Iou 'allswn i mo'i stico hi rhagor. 'I Ddiawl â'r Doctor! myntwn i a mynd mas i moyn fy nghap. 'Ma Richard Emlyn yn fy hala i'n ôl i'r parlwr ac yn gwneud i fi addo aros yno am dicyn. 'On i'n credu taw rhedag i moyn y Doctor 'odd a, ond yn lle 'ynny, fe ath a i dŷ Rogers, y gwnidog. 'Na fachan, bois!"

"Ia, 'na fachan!" meddai William Jones yn ddwys.

"On i 'riôd 'di siarad â fa o'r blân, a phan oedd a'n galw'n y tŷ i weld Richard Emlyn, 'on i'n 'i gwân hi mas drw'r bac. 'On i ddim yn moyn dope, 'chi'n gweld. Wel, pan ddath a miwn i'r parlwr,'on i'n barod iddo fa. Ond yffarn dân, ma'r bachan yn Gomiwnist, w!"

"Comiwnist!"

"Mr. Rogers!"

"Odi, ond 'i fod a'n moyn rhoi Cristnogath yng nghanol y sistem. Y sistem yn un nêt, medda' fa, yn reit—i—wala, ond bod isha cariad brawdol drwyddi hi. Ma' fa 'di rhoi bencid llyfyr rhw John MacMurray i fi i brofi'ny, a phan fydda' i'n cal iwso'r llygid 'ma eto, 'wy'n mynd i'w ddarllen a. Na ddadla' fydd yn y tŷ 'co wedi'ny! Ond fechgyn, ma' fa'n gweud petha' pert, w! 'Beth ych chi'n gredu sy'n wir bwysig miwn cymdeithas, Shencin?' medda' fa wrtho'i. 'Yr un siawns i bawb, medda' fi. Ac, wrth gwrs, 'odd rhaid i fi gal gwneud speech, y speech 'no on i'n roi hyd y cwm 'ma. Ac wedi i fi gwpla, 'ma fi'n gofyn iddo fa beth odd e'n gyfri'n bwysig."

"Be' ddeudodd o, Shinc?" gofynnodd Crad.

"Dim ond un gair, yn dawel fach. Caredigrwydd,' mynta' fa. A damo, ar ôl iddo fa fynd, 'on i'n dechra' credu bod y bachan yn reit. Oddi ar wy' i'n dost, 'wy' i 'di cal lot o garedigrwydd, 'n enwedig 'da phobol y capel. Oni bai 'mod i'n 'nabod y bachan, fe faswn i'n credu taw fe odd yn hala'r bobol i'r tŷ 'co, i brofi'i fod a'n iawn."

Câi Crad hefyd garedigrwydd mawr, er bod pethau mor dlawd yn yr ardal. Wyau, ymenyn ffarm, hufen, ffrwythau, blodau—trawai llawer ymwelwr, gan geisio ymddangos yn ddifater, rywbeth ar y bwrdd wrth ochr y gwely; yn wir, un dydd Llun, ar ôl y Cyrddau Diolchgarwch yn y capel, edrychai'r llofft fel siop ffrwythau, a chafodd Wili John gyfle da i fod yn ddoniol—ac i loddesta. Dywedai Meri'r drefn wrth y cymwynaswyr hyn, ac addawent hwythau'n edifeiriol na ddygent ddim yno wedyn. Ond nid oeddynt yn wŷr da eu gair.

Canolfan y tŷ erbyn hyn oedd y llofft, nid y gegin fel cynt, ac yno yng nghwmni Crad a'i ymwelwyr y treuliai William Jones bron bob gyda'r nos. Cai ef a'r claf holl hanes Bryn Glo, ac er gwaethaf y pyllau segur, yr oedd bywyd y lle o hyd yn gryf ac eiddgar. Yr Eisteddfod yng Nghalfaria, y Cyrddau Mawr yn Nebo, y ddrama Gymraeg yn Soar, y noson o gystadleuthau Go-as-you-please yn Neuadd y Gweithwyr, y frwydr Rygbi ffyrnig yn erbyn Ynys-y-gog (Admission: 6d. Unemployed: 3d), yr ornest ddyrnol rhwng Pedlar Powell Bryn Glo a Jimmy Doe Caerdydd—yr oedd digon o destunau i sôn amdanynt. Ac, wrth gwrs, yr Wythnos Ddrama.

Ac yntau ar y pwyllgor, Twm Edwards a draethai'n huotlaf am yr Wythnos Ddrama, a haerai ef nad oedd ei fywyd bellach yn werth ei fyw. Talasai cannoedd o bobl chwech cheiniog yr wythnos ers misoedd, a daethai'r awr iddynt ddewis, o'r cynllun a oedd gan yr Ysgrifennydd, eu seddau i'r ŵyl. Cyhuddid y pwyllgor, fel arfer, o gadw'r seddau gorau iddynt hwy eu hunain ac i'w cyfeillion, gan ddisgwyl i bawb arall eistedd "mewn drafft" neu "tu ôl i hen bilar" neu "ar yr ochor" neu "yn y cefan." Onid oedd eu harian hwy gystal ag arian y pwyllgor a'u ffrindiau unrhyw ddydd? Ni châi Twm funud o lonydd: damo, lle bynnag yr âi, gwelai rywun a erfyniai am iddo ddefnyddio'i ddylanwad er mwyn Anti druan nad oedd ar unrhyw gyfrif i eistedd mewn drafft neu Dad—cu a'i glyw mor ddrwg neu Meri Jane na welai ymhellach na'i thrwyn. Y tro diwethaf y gwasanaethai ef ar y pwyllgor, meddai Twm, a nodiodd Crad ei gydymdeimlad, er iddo gredu y clywsai dyngu'r un llw dro neu ddau o'r blaen.

"Be' ydi'r dramas y tro yma, Twm?" gofynnodd.

"Dere weld 'nawr. Nos Lun—'Baby Mine'; nos Fawrth—Candida' Bernard Shaw; nos Fercherc'Hundred Years Old'; nos Iau—'Othello'; nos Wener—Rose Without a Thorn'; nos Sadwrn—'The Sacred Flame.' 'Na ti brogram, bachan! A 'fydd y lle'n packed bob nos.

"Piti na fasa' 'na un neu ddwy yn Gymraeg, yntê?" meddai William Jones.

"Dim galw, dim galw. A 'fydda' Mr. Nibbs, y beirniad, ddim yn 'u deall nhw... O, shwd sêt gawsoch chi, William?"

"Y... un reit dda, wir."

"Wyddwn i ddim dy fod ti wedi talu at gael ticad," meddai Crad wrth ei frawd yng nghyfraith, a edrychai braidd yn euog. "Do, fachgan, yr ydw i'n talu chwe cheiniog yr wsnos ers tro. Meddwl y liciwn i fynd yno un noson a Meri ryw noson arall ac Eleri y noson wedyn a Wili John ..."

"Wy' ddim yn 'i foyn a" Wili John a drawodd i mewn i'r llofft am funud.

"O? Pam?"

"Ma' Gomer a fi 'di cael ein dewis."

"Dewis i be?" gofynnodd ei dad.

"I fod yn Stiwards. Ma'roséts mawr gwyn 'da ni, a fe gewn ni weld pob drama am ddim."

Ac i ffwrdd ag ef a'i ddannedd anwastad fel baneri ar wên ei fuddugoliaeth.

"Diawcs, mae hwn'na yn 'i dallt hi!" oedd sylw'r claf.

"Mae arna' i ofn fod 'na lot o anian 'i dad ynddo fo, William!"

Ond am y gorffennol yr oedd y sgwrs gan amlaf, a gwrandawai William Jones yn astud ar atgofion llawer un. Naturiol oedd i feddyliau glowyr di—waith droi'n ôl i'r amser pan gâi hyd yn oed ŵr ungoes neu unfraich ryw waith yn y pwll. Daro, dvna le oedd yn y cwm y pryd hwnnw, a gweithwyr yn llifo iddo o bob cyfeiriad—Siroedd Henffordd a Chaerloyw, o Ddyfnaint a Chernyw, o gefn gwlad Cymru, ac o Iwerddon. Digon o waith, digon o arian, digon o fynd. Ond prin iawn oedd tai a llety, ac mewn llawer tŷ cysgai dau "lojar" mewn gwely yn y nos ac âi dau arall iddo pan godent hwy yn y bore. Cyrhaeddai llu heb ddim ar eu helw ond y wisg amdanynt, ond ymwthiai pob un i lety yn rhywle a chaent fenthyg rhyw fath o ddillad ar gyfer y pwll.

"Jawch," meddai Ned Andrews, a flinasai ar ennill triswllt yr wythnos mewn ffarm yn y wlad yn y dyddiau hynny ac a ddihangodd i Fryn Glo, "pwtyn byr wy' i, ond 'odd 'da fi drowsus Dic 'y nghender yn mynd i'r gwaith. A 'odd Dic yn fachan six foot four and a 'alf yn nhrad 'i 'sana'. Jiw, 'odd 'da fi ddigon o iorcs am 'y nghoesa' i raffu tarw, bois! Ond 'odd neb yn wherthin am 'y mhen i, am fod sopyn yr un peth hyd y lle. Rhyw hen ddillad am eich cylch, a phrynu mandral a rhaw, ac 'ôch chi'n reit."

"Oedd arnoch chi ofn ar y dechra', Ned?" gofynnodd William Jones.

"Ofan? Odd. 'On i'n credu taw mynd lan, nid lawr, 'on i yn y caets, a fe es i i witho mewn ffwrnas o le yn North Deep. 'Fues i ariôd miwn 'i wath a. 'Odd y to'n gwasgu a'r pyst yn snapo fel matsis yno. Jiw, 'na le i grwt o'r wlad!" A gyrrodd yr atgof law Ned i'w boced i nôl ei hances.

"On ni'n gwitho o saith yn y bora tan 'wech y nos," meddai, gan sychu'i dalcen, "ac yn y gaea' dim ond ar ddiwedd wthnos 'on ni'n gweld gola' dydd. Ond ar y cychwyn, y batho bob nos odd yn 'ala collad ar ddyn. 'Odd pedwar o 'ni'n batho yn y gegin fach yr un pryd—dou'n 'molchi o'n canol lan gynta' ac wedi'ny o'n canol lawr, ontefa? A jawch, 'odd 'na fenyw y Jawl drws nesa', yn siŵr o rytag miwn pan odd neb yn 'i moyn hi. A bachan shei ofnadw on i. Ar ôl 'ny 'odd Bopa Lizzie'n newid y dŵr i'r ddou arall, a'mhen rhw ddwyawr 'odd popeth 'di'i gymonni a'r gegin yn spic a span unwaith eto. Na slafo 'odd mynywod y pryd 'ny, fechgyn! Jiw, jiw!"

"Sawl un oedd yn eich tŷ chi, Seimon?" gofynnodd Crad i Simon Jenkins y Saer, a ddigwyddai fod yn y llofft ar y pryd.

Dewch weld 'nawr. 'On ni'n naw o blant—naw yn fyw, achos fe gladdws 'mam 'wech pan on nhw'n fabis. Wedyn 'odd 'mam a 'nhad, wrth gwrs, a wncwl i 'mam a'i fab e. Nhw odd ein lojars ni. A'r hen fobol—Dad-cu a Mam-gu. 'Faint yw 'wn'na 'nawr? 'Na chi bymthag, ontefa? A dim ond dou fedrwm odd yn y tŷ."

"Odd cwpwl o chi'n cysgu yn y parlwr, sbo!" meddai Ned Andrews.

"Dim ffiar! 'Odd 'da 'mam siop fach loshin fan 'no."

"Rargian fawr, 'roedd gan eich mam ddigon i'w wneud, Seimon," meddai William Jones.

"Odd, ond 'odd hi'n fenyw smart, 'êd, gwaith ne' bido. 'Sach chi'n gweld hi'n cario bwceded o fwyd moch lan i'r mynydd ar 'i phen! 'Odd hi'n cerddad fel brenhines, w."

"Duwcs annwl, moch hefyd!" Awgrymai'r syndod yn llygaid William Jones mai cadw llewod a wnâi Mrs. Jenkins yn ei horiau hamdden.

"Dou fochyn bob amser, a rhyw ugain o ffowls yn y cwtsh mas y bac. A fe gath Wil 'y mrawd bang i gadw clomennod, a Sam, brawd arall, i frido cŵn. Ond er 'bod ni shwd growd, 'odd 'na ddigon o fwyd da ar y ford—tishan lap a thishan 'fala' a Welsh cêcs i de ar ddydd Sul, digonedd o gig a thatws a phwdin reis i gino, a phan on ni'n lladd mochyn, bachan, bachan ...!"

"Nawr, gad hi'n fan'na 'nawr," meddai Ned Andrews.

"Ar y dole 'wy'i o hyd, cofia, a ma' 'da ni ddou fedrwm gwag yn y tŷ 'co, ac Ieuan ni yn y Dagenham 'na a Rachel miwn gwasanaeth yn Llunden. A gwag fyddan nhw, 'êd. Pwy sy'n moyn lojo miwn depressed area? Ond daro, 'ma ffordd i siarad o flân dyn tost, w! Dewch, Seimon, ma'n bryd inni fynd."

Pan ddywedodd Crad stori Simon Jenkins wrth David Morgan, nodiodd y cerddor, gan wenu'n freuddwydiol.

"Odd, 'odd bywyd yn lled galad flynyddodd yn ôl," meddai. "On inna'n un o naw, a dim ond dwy ystafell, y gegin a'r llofft, odd yn y bwthyn to gwellt. 'Odd tri gwely lan llofft, ac yno 'on ni'r plant yn cysgu, tri o' ni ym mhob un. Lawr yn y gegin 'odd 'nhad a 'mam a chyrtan 'da nhw o gylch y gwely. 'On i'n gorffod cerad dros filltir i foyn dŵr o'r pistyll bob bora cyn mynd i'r ysgol—iou ar f'ysgwydda' i a dou bisher yn hongian arno fa. Ac ambell waith yn y gaea', 'odd y llwybyr ar bwys y tŷ ishta pishin o wydyr 'da'r rhew, a llawer tro 'odd raid i fi fynd nôl bob cam i'r pistyll ar ôl cwmpo a cholli'r dŵr. A daro, ar ôl ysgol 'on i byth bron yn mynd mas i'ware heb gario babi mewn siôl!"

"Pryd 'daru chi ddechra' gweithio, David Morgan?" gofynnodd William Jones i'w arwr.

"Deg a hanner on i pan es i i dendo ar y rôls yn y gwaith tun. O saith yn y bore hyd 'wech y nos am swllt y dydd."

"Roeddach chi'n ifanc iawn."

"On, ond 'odd lot o grots dan ddeuddag yno, ac 'on ni'n mynd i gwato pan odd yr Inspector o gwmpas. 'Fues i'n cwato am dri dwrnod un waith, fi a rhyw ddwsin o fechgyn erill lan yn rhyw hen lofft fawr yn gneud dim ond aros i'r Inspector fynd o'r cylch."

"Faint fuoch chi yn y gwaith tun?"

"Pum mlynedd, William, ond 'on i ddim yn lico yno o gwbwl. Dim archwaeth am fwyd, 'chi'n gweld. 'Ôch chi'n 'wsu cymaint nes odd raid i chi gal tamed blasus yn eich bocs cyn allech chi feddwl am fwyta, a 'odd 'da rhieni rhai o'r bechgyn erill fwy o arian i brynu petha' na 'nhad a 'mam. Beth bynnag, fe etho i i ddramo yn y pwll, ac 'on i'n cal tri a grot y dydd fan'no."

"Dramo?"

"Pwsho'r drams, William. 'Odd tri o' ni'n dramo 'da'n gilydd miwn lle â'r to mor ishal nes odd y dram yn rhwto yn erbyn y top. Plygu, plygu, o fore tan nos. 'Odd deuddag cant o bwysa' miwn dram, a 'na galad odd pwsho lan y cwnnad i'r partin! A phan odd hi'n mynd o' ar y raels, 'on ni'n gor—ffod 'i chwnnu hi'n ôl. 'On ni'n dri ar ryw dri chan llatho ffordd—bachan o'r enw Jim Buckley, a Fred Daniels, a finna'. Crwtyn piwr odd Fred—gwallt coch, llygaid glas, glas; llais fel yr eos ac yn canu drw'r dydd. A chanu 'odd a funud cyn iddo fa gal 'i ladd. Fe ath y dram odd 'da fi off y raels a bloco'r ffordd, 'chi'n gweld, a fe wasgwyd Fred i farwolaeth rhyngddi hi ac un Buckley. 'Na'r tro ola' i fi ddramo."

"Y pryd hwnnw y daethoch chi i Fryn Glo 'ma, Dai?" gofynnodd Crad.

"Ia. 'On i'n cyrradd yn y bora ac yn cal start yn Pwll Bach y noson 'onno. "Odd, 'odd digon o waith yma pryd 'ynny. A digon o fynd. Y bywyd yn galad a'r dynon dicyn yn ryff, 'falla', ond 'odd calonna' iawn 'da nhw. 'Odd rhai'n cal 'u dewis bob Sadwrn pae i gasglu arian i helpu rhywun tost ne' withwr 'di cal anap yn y pwll, a fe welas i ddynon yn gwitho dyblar er mwyn rhoi arian un shifft i fachan yn ffaelu."

"Yn gweithio be', David Morgan?"

"Dyblar, William. Dwy shifft ar ôl 'i gilydd ar ddiwadd wthnos, fel rheol."

"Diar annwl! Heb ddim gorffwys rhyngddyn nhw?"

"Ia. 'Welis i lot yn gwitho treblar—dydd a nos Wenar a dydd Sadwrn—i glirio'u dyled ar ôl streic ... A 'nawr... Ond newidiodd y testun ar unwaith. "Ymhen rhw ddwy flynadd 'on i'n canu yng Nghôr Meibion Daniel Rees. 'Na chi gŵr, fechgyn! Tair gwaith bob wthnos 'on ni'n cal practis, ac 'on ni'n ennill ym mhob 'Steddfod. 'Odd dim côr yn y sir allsa'i wado fa ar y Crusaders." A chododd yr hen gerddor o'i gadair i ganu darn o'r gytgan yn dawel Felly y darluniai'r sgwrs basiant bywyd y cwm, a chlywai William Jones hanes 'sgyrsion a streic, ffrwst a ffrwydriad, cymanfa a chynnen, chwarae a chwerwder Ond gwanychu yr oedd Crad, ac erbyn dechrau Tachwedd nid âi ond y teulu a William Jones a Mr Rogers i'w weld. Ac ysgwyd ei ben a wnâi'r Doctor Stewart pan holai'r chwarelwr ef am gyflwr y claf.

Yna, un bore Gwener pan ddychwelai William Jones yn llawen o'r Swyddfa Lafur, yr oedd Meri ar ben y drws yn ei aros. Gwelai'r braw yn ei llygaid.

"Be' sy, Meri fach?"

"Mi gafodd o bwl annifyr iawn gynna'. 'Ron i'n ofni 'i fod o'n mygu. Ond mae o'n well 'rwan. Isio siarad hefo chdi, medda fo. Dos i fyny ar unwaith. William."

Brysiodd ei brawd i'r llofft, a gwenodd Crad wrth ei weld.

"Wedi cal gwaith, Crad! Yn Llan-y-bont! Dechra' dydd Llun! 'On i ddim isio gweithio mewn miwnishons, ond gwaith ydi gwaith, yntê? Ac maen nhw'n talu cyflog reit dda ac yn deud..,"

Ond nid oedd y claf fel petai'n gwrando.

"William?" meddai'n wan.

"Ia, Crad?"

"Isio iti addo ..."

"Rhwbath, 'r hen ddyn, rhwbath."

"...Aros yma hefo nhw."

"Pwy oedd yn deud 'mod i'n bwriadu mynd o' 'ma? A finnau'n rêl Hwntw a newydd brynu belt ac yn deud 'Shwmâi, bachan?' a ..."

Gwelodd na thyciai'r digrifwch ddim. Estynnodd Crad ei law allan, a chydiodd yntau ynddi.

"Diolch iti, 'r hen William ... Am bopath."

Cyfarfyddai'r côr y noson honno, a chafodd Meri waith i gymell ei brawd i fynd i'r practis. Ildiodd o'r diwedd ar ôl rhedeg i fyny i'r llofft ar flaenau'i draed a gweld bod Crad yn cysgu'n dawel. Yn ddiysbryd iawn y cerddodd tua'r capel, a thawel oedd ei "Go lew, wir, diolch," pan gyrhaeddodd yno. Prif waith yr hwyr oedd dysgu'r gytgan Happy and Blest Are They, ond yn beiriannol a breuddwydiol y canai William Jones ac y gwrandawai ar gynghorion yr arweinydd. Cawsant yr hawl ymhen rhyw awr i ganu'r gytgan drwyddi, a thawelwyd ei feddwl gan hud a hyder y gerddoriaeth. Ac erbyn diwedd y darn—

Oh, happy they who have endured!
For though the body dies,
The soul shall live for ever—

canai mewn llawenydd pur, gan ddiolch i Fendelssohn am droi ffydd yr adnod yn orfoledd cerdd. Darfu cân y côr, ac yna, fel petai'r gorfoledd yn ymwrthod â geiriau, ym—chwyddodd yn y seiniau a ddenai bysedd Richard Emlyn o'r organ. Troes y chwarelwr ei ben a gwelai Eleri'n gwrando ar y miwsig a'i llygaid yn gloywi gan falchder. Ia, hogyn iawn oedd Richard Emlyn. Ia, 'nen' Tad.... Rhoes Idris Morgan bwniad i'w fraich, gan nodio tua phen y sedd. Yno safai Shinc, a darllenodd William Jones ar amrantiad y newydd a oedd yn ei wyneb. Amneidiodd ar Eleri, a gadawodd y ddau eu seddau'n dawel, gan frysio drwy'r capel a thuag adref.

* * * *

Syllai William Jones i'r tân, gan wylio fflam droellog yn goleuo a mygu bob yn ail. Noson yr angladd ydoedd, a threuliasai ef ac Arfon ryw awr yn mynd trwy bapurau Crad a thrwy'r biliau ynglŷn â'r cynhebrwng. Ac yn awr aethai Arfon a Wili John allan am dro, ac eisteddai eu hewythr yn y gadair freichiau mewn myfyr. Curodd hwrdd o law ar y ffenestr... Diolch bod ei esgidiau Sul am draed Wili John: 'faint o weithiau yr oedd eisiau ei siarsio i fynd â'r lleill i'w gwadnu? "Y tebot gwirion!" chwedl ei dad.

Bore trannoeth dychwelai Arfon i Lundain, Wili John i'r siop, ac Eleri i'r ysgol, a dechreuai yntau weithio yn Llan-y-bont. Ni wyddai'n iawn beth fyddai ei orchwyl yno, ond deallai mai un o fagad yn torri ffyrdd o adeilad i adeilad fyddai ar y cychwyn. Dywedai Twm Edwards fod y lle'n cynyddu'n haerllug o gyflym, a phroffwydai y gwelid ef yn ymgreinio tros hanner dwsin o gaeau cyn hir. Beth oedd y bwriad tu ôl i leoedd fel hyn, tybed? Dychrynu tipyn ar yr Almaenwyr 'na, wrth gwrs... Ia, wel...

Gwyrodd Meri o'i flaen i bwnio'r tân, a chyffroes William Jones drwyddo am ennyd. Syllodd ar ei gwddf tenau, ar ei gwar grom, ar yr arian yn ei gwallt, ac ar groen crychiog y llaw a ddaliai'r procer. 'Rargian, dyna debyg i'w mam yr oedd Meri'n mynd! Credasai am funud mai ei fam a oedd yno.

Yr oedd hi'n rhyfedd meddwl ei fod ef a Meri hefo'i gilydd eto, yn hwyrddydd eu bywyd fel hyn, a theimlai am foment fel petai'r blynyddoedd rhyngddo ef a'i fachgendod wedi'u dileu'n llwyr. Pan oedd yn hogyn ysgol, ni hoffai Wili ei chwaer o gwbl: hi a gariai straeon pan gwffiai hefo Huw Êl neu pan yrrid ef i aros cosb wrth ddesg y Sgŵl, a hi—"Meri bach" bob gafael oedd ffefryn ei thad. "Welis i ddim ffwlpyn yr un fath â hwn erioed," a gâi ef, ond ni fedrai "Meri bach" wneud dim byd o'i le. Pan fu Richard Jones farw, buan y gwelodd Wili'r diwydrwydd a'r gwroldeb a oedd yn yr eneth eiddil a gynorthwyai'i mam hefo'r manglio a'r smwddio di-baid. A phan aeth hi i weini i dŷ Huws y Stiward, gwelai hi am ennyd bron bob dydd ar ei ffordd adref o'r chwarel, a gwyddai mor anhapus ydoedd. Ond ni châi ef sôn gair wrth eu mam. Ac â'r un gwroldeb tawel yr wynebasai hi'r blynyddoedd llwm yn y De ac yn awr y golled hon. Oedd, yr oedd Meri'n debyg i'w mam—mewn llawer peth. Eisteddodd hi yn y gadair gyferbyn ag ef am funud.

"Meri?"

"Ia, William?

"Wyt ti'n cofio Crad isio 'ngweld i bora Gwenar?"

Nodiodd hithau, gan ochneidio'n dawel.

"Wel, mi wnath imi addo, wsti ... y baswn i ... y baswn i'n edrach ar eich hola' chi yn 'i le fo."

Bu tawelwch rhyngddynt am ennyd: yr oedd y dagrau'n cronni yn ei llygaid.

“Wel, fel y gwyddost ti, rhyw fywyd bach hunanol ydw i wedi'i fyw ers blynyddoedd ..."

“Chdi !"

"Ia, 'nen' Tad, hunanol iawn-mynd i'r chwaral yn y dydd ac i'r capal ne' i'r ardd ne' am dro i'r Hendre gyda'r nos. Ond 'rwan, dyma fi'n cal cyfla i fod o wasanath i rywun, yntê! I chdi ac Arfon a Wili John ac Eleri."

“Wn i ddim be' fasa' ni wedi'i wneud hebddot ti y misoedd dwytha' 'ma, William bach. Na wn i, wir.”

"Twt. Dyma on i am ddeud—fy mod i'n bwriadu cadw f'addewid i Grad, beth bynnag fydd Meri, hogan Ann Jones, yn 'i ddeud.”

“Be' wyt ti'n feddwl, William ?”

"Dim ond dy fod ti'n un ofnadwy o annibynnol, hogan, ac y bydd hi'n rhaid i mi roi fy nhroed i lawr yn o amal. Dyma fi wedi cal cyfla o'r diwadd, ar ôl byw mor hunanol, i drio bod ... i drio bod ... yn debyg i Mr. Rogers."

Gwenodd ei chwaer drwy'i dagrau ; gwyddai gymaint oedd edmygedd ei brawd o'r gweinidog.

"Mi fydda' i'n ennill cyflog reit ddel 'rŵan, er y bydd yn rhaid imi dalu chweswllt yr wshos am y bws, ac 'roedd y clarc yn deud fy mod i'n siŵr o gal caniatâd i ddŵad adra'n gynnar os daw galw am fy ngwasanath i yn y B.B.C.

Ond 'fydd gin i ddim blas ar ddechra' gweithio, wsti, os na . . . os na cha' i'r hawl gin ti i ... i gadw f'addewid i'r hen Grad.”

Gwelai'r frwydr ym meddwl ei chwaer. Yr oedd hi'n deg iddi hi a'i phlant ymdrechu a herio ansicrwydd y dyfodol, ond gwrthryfelai ei holl natur yn erbyn "cardod.”

"Nid dyna oedd ym meddwl Crad, William."

“Y?”

"Isio iti aros i lawr yma i fod yn gwmni inni yr oedd o.

'Roedd Crad druan mor annibynnol â neb.”

“Oedd, 'nen' Tad.”

“Dydi hi ddim yn ddrwg arno' ni, William. 'Rwyt ti'n mynnu talu punt yr wsnos imi ac mae Arfon yn medru cadw'i hun a Wili John newydd gael codiad eto ac mae Eleri’n ennill rhyw gymaint. Mi fydd yn cael wythbunt y mis y flwyddyn nesa', medda hi.”

"Y? Ymh'le ?"

"Fel Uncertif. Mae hi am aros yn yr ysgol yn lle mynd i'r Coleg."

"Ydi hi, wir! Pryd y setlwyd hynny?"

"Neithiwr y buo' ni'n siarad am y peth."

Penderfynodd William Jones ymddangos yn gas.

"Mae hi'n amlwg mai tipyn o lojar ydw i yma," meddai. "Synnwn i ddim na chawn i lawn cystal lojin hefo Jane Gruffydd 'tawn i'n mynd yn fôl i Lan-y-graig ac i'r chwaral.

Ac oni bai am f'addewid i'r hen Grad, yn fôl y baswn i'n mynd yr yfory nesa'."

Adwaenai Meri ei brawd. Cododd gan wenu, ac wedi esmwytho'r glustog tu ôl i'w gefn, tynnodd ei glust yn chwareus. "Aros tan ar ôl swpar cyn pacio, William," meddai.

"Yr ydw i'n mynd i dorri'r bara—'menyn 'rŵan."

Cydiodd William Jones yn rhyw wythnosolyn Saesneg a adawsai Arfon ar gongl y bwrdd, a throes ei ddalennau'n anniddig.. Erthygl ar Mrs. Ernest Simpson, y wraig yr oedd y Brenin mewn cariad â hi... Crynodeb o araith fawr gan Mr. Roosevelt, Arlywydd America am yr ail dro... Un garw oedd y dyn yna, yntê? Buasech yn meddwl yr hoffai orffwys, ar ôl pedair blynedd o arwain America drwy gyfnod mor dlawd a thymhestlog, ond dacw fo'n aros yn y swydd am bedair blynedd eto. Diar, oedd, yr oedd o'n wrol iawn, ac yntau ddim yn iach... Y rhyfel yn Sbaen... Gobeithio'r annwyl nad oedd am ymledu i rannau eraill o Ewrop, yntê?.. The Writing on the Wall oedd y pennawd uwchben yr ysgrif nesaf, a dechreuodd y chwarelwr ei darllen yn ddiog. Haerai'r awdur, a oedd newydd ddychwelyd o'r Almaen, na sylweddolai Prydain na Ffrainc y perygl yr oeddynt ynddo, a galwai'n ffyrnig ar i Mr. Baldwin a'i Senedd ddeffro o'u cwsg. Oni wyddent fod Hitler a'i griw wedi treulio tair blynedd yn pentyrru arfau? Oni welsent beth a allai awyrblanau a nwy gwenwynig ei wneud yn Abyssinia yn y gwanwyn? Dyfynnai ffigurau i ddangos cryfder milwrol yr Almaen, ac yna troai'n broffwyd. Rhyfel erchyll cyn pen dwy flynedd, meddai. Creai ei ddarlun o'r rhyfel hwnnw arswyd yng nghalon William Jones, a theimlai'r chwarelwr yn gas wrth y dyn am ysgrifennu'r fath hunllef o erthygl. Ond dyna fo, yr oedd yn rhaid i ddynion fel'na chwilio am ryw newydd-deb i draethu arno, onid oedd?

Syllodd William Jones eto i'r tân, gan wylio'r fflam a droai'n fwg, ac yn fflam, ac yn fwg. Yr oedd y tŷ'n dawel iawn, fel petai yntau'n gwrando ar sŵn y gwynt a rhuthr y glaw. Rhyw dawelwch astud, disgwylgar, lle bu chwerthin anorchfygol Crad. .. Byddai Meri'n unig 'rwan. Byddai, yn arbennig ar nosweithiau'r côr, ac ni ellid disgwyl i Wili John aros yn y tŷ bob tro yn gwmni i'w fam. Ond yr oedd hi a Mrs. Morgan y drws nesaf yn gyfeillion mawr, a gallai fynd draw yno i sgwrsio a gweu... Rhyfel? Lol i gyd. Pam yr oedd Arfon yn gwastraffu arian ar ryw bapur cyffrous fel hwn'na, tybed?

Daeth tincial llestri'r swper o'r gegin fach. Diar, yr oedd rhywbeth cyfeillgar ac agos-atoch mewn sŵn llestri, onid oedd? Sŵn llestri a golau tân ar noson o Dachwedd fel hon, a theimlai dyn ar ben ei ddigon... 'Faint o awyrblanau a oedd gan yr Almaen, hefyd, yn ôl y dyn 'na? Twt, codi bwganod yr oedd y creadur... I b'le y dywedodd Eleri ei bod hi'n mynd gynnau O, ia, dim ond tros y ffordd i dŷ Ned Andrews, gan fod Rachel gartref o Lundain am ychydig ddyddiau. Hogan glên a llon oedd Rachel, yntê? Ond rhywfodd edrychai'n syn a dwys y tro hwn, fel un a hiraethai am gael aros gartref yn lle gweini yng nghanol unigrwydd Llundain. Daria unwaith, gartref y dylai'r ferch a llu o rai tebyg iddi fod, nid yn sgwrio lloriau a golchi llestri mewn rhyw glamp o dŷ yn Llundain. Ia, 'nen' Tad. Diolch nad aethai Eleri i ffwrdd; ac fe fynnai ef ei bod hi'n mynd i'r Coleg 'na yn Abertawe, a gofalai na fyddai hi ar ôl o ddim yno. Beth pe dôi proffwydoliaeth y dyn 'na'n wir a thorri o'r rhyfel y soniai amdano? Twt, ffolineb oedd meddwl am bethau felly. Ond eto, efallai fod ei ffeithiau'n rhai cywir ac nad siarad drwy'i het yr oedd. Beth a ddeuai o'r plant, tybed? O Arfon? O Wili John? Ac o hogiau fel Richard Emlyn a Gomer? Diolch mai merch oedd Eleri—ond dyn a wyr, efallai y tynnai'r anghenfil enethod fel hi a Rachel Andrews i'w grafangau y tro hwn. Ac nid yn unig enethod fel Eleri, ond gwŷr a gwragedd a phlant mewn trefi a phentrefi ymhell o faes y gad. Yn ôl y papur 'na, yr oedd y mustard—gas yn Abyssinia wedi dallu a llosgi miloedd ar filoedd o frodorion diniwed, ac yna syrthiai'r bomiau ar yr ysbytai lle caent driniaeth a nodded ... Ni ddylai papur gyhoeddi pethau fel yna. A beth ar wyneb y ddaear a wnaeth i Arfon brynu'r fath lenyddiaeth?

"William?"

"Ia, Meri?"

Yr oedd hi wrthi'n gosod swper.

"Wyt ti'n meddwl y medrwn ni ... y medrwn ni'i fforddio fo?"

"Fforddio be?"

"Gyrru Eleri i'r Coleg 'na."

"I fforddio fo, medrwn! Medrwn, 'nen' Tad. A 'does arna' i ddim eisio clywad chwanag o hen lol am Ynsartiff ac wythbunt y mis a phetha' felly. Hen gybôl gwirion. Cofia di, 'rwan."

"Dyma'r hogia'n dwad yn 'u hola'," oedd ei hateb, gan nodio tua sŵn Mot yn cyfarth rywle ym mhen y stryd.

Saethodd William Jones o'i gadair fel petai newydd ddarganfod ei fod yn eistedd ar glustog o binnau, a rhuthrodd i'r gegin fach. Rhoes wib yn ei ôl ymhen ennyd â hen liain go amharchus ei wedd yn ei law, ac i ffwrdd ag ef drwy'r drws ac i'r lobi. Yr oedd y drws ffrynt yn agor pan gyrhaeddodd yno.

"Hwda, Wili John, sycha di draed y ci 'na cyn gadal iddo fo ddwad i mewn i'r gegin. Yn lân, cofia!"

"O.K. Dere yma, Myt, i fi gal rwto dy drad di. Dere'r twpsyn."

Aeth Arfon a'i ewythr i'r gegin, a safodd y llanc ar yr aelwyd am ennyd i gynhesu ei ddwylo.

"Lle cest ti'r papur 'ma, Arfon?" gofynnodd ei ewythr.

"Rhw fachan yn y trên ros a i fi."

"Wyt ti ... 'wyt ti wedi'i ddarllan o?"

"Do, jest i gyd. Pam, Wncwl?"

"Dim ond 'mod i newydd ddarllan un erthygl ynddo fo, fachgan. Ysgrif ffôl iawn 'on i'n meddwl."

"Hon'na am ryfel?"

"Ia. Hen lol gwirion."

"Wn 'im, Wncwl, 'wn 'im. Ma' lot yn sgwennu fel'na heddi." Yr oedd golwg difrifol ar wyneb Arfon.

"Wy' inna' di'i ddarllen a, êd," meddai Wili John, gan gymryd y papur o law ei ewythr. "A ma' fa'n gweud y gwir. Ond yw a, Motsi Potsi?"

"Sut y gwyddost ti?"

"Ma' 'da tad Gomer bamfflets yn gweud yr un peth. A 'fydda'i a Gomer yn ddeunaw pryd 'ny, ac i'r Royal Air Force 'ŷn ni am fynd. Rh—rh—rh—rh!

"Dowch at eich swpar," meddai Meri. "Jest mewn pryd, Eleri," chwanegodd wrth ei merch, a ddeuai i mewn yr ennyd honno.

Ymwthiodd William Jones i'w le arferol wrth ochr Wili John ar y soffa. Ond nid oedd na chwpan na phlât na dim o'i flaen, a syllodd braidd yn ffwndrus ar y bwrdd.

"Nid yn fan'na yr wyt ti i fod, William," meddai'i chwaer.

"Mae'r hen soffa 'na'n rhy ... rhy isal iti. 'Rydw i wedi gosod lle iti yn... yn fan'cw.

"O?"

"Do, ym mhen y bwrdd, William."