William Jones (Nofel)/Pennod 9 - Sowthman

Oddi ar Wicidestun
Pennod 8 - Sabath William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

Pennod 10 - O Fryn Glo—I Fryn Glo

PENNOD IX

SOWTHMAN

"DIWRNOD yn hanes William Jones" a wnâi deitl pur dda i'r bennod olaf, onid e? Ond rhaid inni symud ymlaen yn gyflymach o lawer, neu fe fydd y llyfr hwn yn hwy nag un o nofelau Tolstoy, a thithau, ddarllenydd hynaws, a ddechreuodd ei ddarllen pan oeddit yn llanc mewn cariad, yn gofyn yn grynedig i'th ŵyr neu i'th wyres estyn dy sbectol iti i fynd ymlaen â'r ddeugeinfed bennod. Ac wedi'r cwbl, pwy yw William Jones i ti ymboeni ag ef? Felly, ceisiwn lunio pennod gan gadw teitl fel "Tymor yn hanes William Jones" mewn cof. Os digwydd bod rhai manylion yr hoffet eu gwybod, paid ag ofni eu llenwi i mewn dy hun: ni fydd llawer o wahaniaeth gan y gwron, medd ef. Yn unig, y mae am iti fod yn berffaith glir ar un pwnc—nid oes gennyt hawl i roddi yn ei enau neu yn ei feddwl un gair yn erbyn y Sowth. Y bobol ora' yn y byd, medd ef, ac os oes rhywun ... Ond ymlaen â'r stori.


"Diawch, yr wyt ti'n mynd yn rêl Sowthman, William," oedd sylw Crad un diwrnod ar yr heol pan ddywedodd William Jones "Shwmâi, bachan?" wrth Shinc.

"Wel, ydw', wir, fachgan. Mae'r lle yma'n mynd i waed rhywun."

Croesodd Shinc atynt.

"Victimisation, Crad," meddai.

"Be?"

"Richard Emlyn." Ei fachgen hynaf oedd Richard Emlyn.

"Be' sy wedi digwydd, Shinc?"

"Stopo'i dole a."

"Yr argian fawr, pam?" gofynnodd William Jones.

"Achos fe wrthododd fynd i ryw Training Centre sha Lloegar ’na."

"O? I ddysgu be? Cerddoriaeth?" Gwyddai William Jones fod Richard Emlyn yn gerddor pur dda ac yn grythor gwych.

"Cerddoriath!" Poerodd Shinc yn ffyrnig i'r ffordd. "Na ddyla' fa gal—tair blynadd yn y Royal College of Music. A dyna 'wetais i wrtho fa cyn iddo fa fynd lawr i Gardydd o'u blân nhw. 'Gwêd ti wrthyn nhw dy fod ti'n moyn tair blynadd yn y Royal College of Music, Richard Emlyn,' myntwn i. A fe'wedodd a 'ynny 'ed, myn diawl."

"Be' oeddan nhw'n gynnig iddo fo?" gofynnodd Crad.

"Chwe mish i ddysgu bod yn fricklayer. Yffarn dân! A phan wrthodws a, 'na stopo'i dole a. Victimisation! Am fod 'i dad a'n Gommunist, 'chi'n deall."

"Faint o amser fydd o heb y dole?"

"Gofyn di iddyn nhw, Crad. Nes bydd a'n newid 'i feddwl, sbo. Ond 'dyw Richard Emlyn ni ddim yn mynd yn frici, fe ofala' i am hynny. Clywch!" A gwrandawodd y tri ar hiraeth pêr y ffidil a ganai'r llanc ym mharlwr y tý dros y ffordd. Yr oedd llygaid Shinc yn llaith. "Yffarn dân!" meddai eto, gan frysio ymaith i guddio'i deimladau.

Aethai rhyw bedwar mis heibio, ac yr oedd golwg llai llewyrchus ar William Jones erbyn hyn. Gwisgai ei siwt ail-orau, wrth gwrs, ond yr oedd graen go dda arni o'i chymharu â dillad y mwyafrif o wŷr Bryn Glo. Ei ben a'i draed a gyffesai fod eu perchennog yn ddi-waith. Am ei ben, hen het lwyd i Grad; am ei draed, yr esgidiau hoelion-mawr a ddygasai gydag ef o'r Gogledd. Gwisgai ei esgidiau gorau a'i het galed bob gyda'r nos ac ar y Sul, ond bodlonai ar fod yn amharchus ei ben a swnllyd ei draed yn ystod dyddiau'r wythnos.

Ar eu ffordd i'r Clwb i drwsio'u hesgidiau yr oedd ef a Chrad yn awr.

Ystabl fawr fuasai'r "Clwb" unwaith, ond trowyd hi bellach yn rhyw fath o weithdy i'r di-waith. Prynent ledr a choed yn rhad yno, a chaent arfau a chyfle i drwsio’u hesgidiau neu i lunio dodrefnyn neu degan o bren. Lle digysur iawn oedd, a phrin yr âi neb ar ei gyfyl ond o reid- rwydd. Yr oedd sefyllian ar gonglau'r ystrydoedd neu eis- tedd ar risiau Neuadd y Gweithwyr yn brafiach o dipyn, ac.er i Mr. Rogers lwyddo i neilltuo festri'r capel ar gyfer y di-waith, ychydig a âi iddi: nid oedd ganddynt hawl i ysmygu yno.

Agorodd William Jones y llythyr a ddaliai yn ei law; daethai'r post pan gychwynnent o'r tŷ.

"O Lan-y-graig, William?"

"Ia. Oddi wrth Bob, fy mhartnar."

"Rhyw newydd?" gofynnodd Crad wedi i'w frawd yng nghyfraith ddarllen y llythyr.

"Oes, fachgan. Bob wedi bod yn siarad hefo Tom Owen, y Stiward, a hwnnw'n cynnig fy lle yn ôl imi. Cerrig champion, medda Bob, un o'r bargeinion gora' fu gynno fo 'rioed. Mae o'n gwneud cyflog reit dda."

"Be' wnei di, William?"

"Aros yma."

"Chwara' teg i Tom Owen, yntê?"

"Ia, wir. Mi yrrai air ato fo i ddiolch iddo fo. Ac os bydd y cynnig yn dal ymhen rhyw fis neu ddau ... "Wni ddim Ond mae gan Bob newydd arall. Am Leusa."

"O?"

"Mae hi wedi dechra' gwnïo yn y tŷ. Gwniadwraig oedd hi cyn priodi, fel y gwyddost ti. Ac mae Ifan, 'i brawd, wedi symud i fyw ati hi. Wedi rhentio'i dŷ 'i hun, os gweli di'n dda, a gwneud 'i gartra yn fy nhŷ i."

"Tŷ Leusa."

"Y? Ia. Ond 'rydw i'n gyrru punt iddi hi bob wsnos."

"Gyr chweugain iddi, William, a gofyn i'r Ifan Siwrin 'na dalu hannar y rhent."

"Na, mi gadwa' i at y cytundeb hwnnw tra medra' i."

Derbyniasai gytundeb oddi wrth gyfreithiwr o Gaernarfon yn ei rwymo i dalu punt yr wythnos yn rheolaidd i'w wraig.

"Mae hi'n aea' arno' ni eto, William."

"Ydi, fachgan. Mae'r gwynt yn reit oer hiddiw."

Troesai'r llethrau'n eurgoch erbyn hyn, a threiglai niwl oer i lawr trostynt. Gwelent sbotiau yn symud draw hyd ymyl y tip-gwŷr yn cloddio am glapiau o lo. Buasai Crad a William Jones wrth y gwaith hwnnw y diwrnod cynt, ond, wedi ymladd wrth ddringo yno, gorfu i Grad fodloni ar eistedd i lawr i wylio'i frawd yng nghyfraith yn ceisio llenwi ei sach.

Cyrhaeddodd y ddau yr ystabl a elwid yn Glwb. Nid oedd yno ond dyrnaid, ac aeth Crad ati ar unwaith i drwsio esgidiau Wili John. Dringodd William Jones y grisiau i'r llofft, gan wybod y byddai David Morgan yn y fan honno. Yr oedd ef a'r cerddor yn gyfeillion mawr erbyn hyn a'r chwarelwr yn un o aelodau ffyddlonaf y côr. Cafodd yr arweinydd wrthi'n rhwbio â phapur cras y silffoedd llyfrau a luniasai i'w fab, Idris.

"Wel, beth ych chi'n feddwl ohonyn nhw?" gofynnodd, gan sefyll gam yn ôl.

"Gwych, David Morgan. Ydyn', wir."

"Dim ond ticyn o stein a farnish 'nawr. Sypreis bach i Idris 'co."

"O? Ydi o ddim yn gwbod amdanyn' nhw?"

"Nac yw. Ma'fa'n achwyn obothdu'i lyfra' o hyd—dim lle 'da fa i'w rhoi nhw. A llyfra' Idris yw popeth yn tỳ ni. Dim ond i fi symud un ohonyn nhw oddi ar y ford ne'r seidbord a 'na fi'n cal eitha' pryd o dafod 'da'r fenyw 'co. Ond 'na fe, 'dyw Idris ddim yn gallu 'wara'r organ ’nawr fel odd a."

Na, ni chanai'r bachgen unfraich yr organ yn awr. Collasai ei fraich yn y pwll, a'i dad gerllaw yn gwylio'r ddamwain. Rhawio glo i'r conveyor yr oedd Idris Morgan pan ddaeth rhyw wendid trosto ennyd ac y syrthiodd ar y peiriant. Crafangodd y conveyor ei fraich a thynnu'r gŵr ifanc gydag ef, ond neidiodd dau ddyn ymlaen i gydio ynddo, gan fachu eu gliniau a'u traed ar ryw arwder a deimlent yn y llawr. Yna, yn sydyn, llaciodd y tynnu ac yr oedd Idris yn saff yn eu breichiau—heb ei fraich. Rhwygwyd honno ymaith o'r gwraidd. Bu am ryw naw mis mewn ysbyty, ac yna dychwelodd adref yn wrol ac yn siriol, a chafodd waith i ofalu am lyfrgell Neuadd y Gweithwyr. Ei ofid mwyaf oedd na allai ganu'r organ yn y capel fel cynt, ond darllenai lyfrau am gerddorion a cherddoriaeth yn lle hynny.

Hoffai William Jones Idris Morgan yn fawr, ac âi i'r drws nesaf am sgwrs ag ef yn bur fynych. Ni chyfarfuasai â neb mwynach ei ysbryd erioed. Er hynny, clywsai mai un go wyllt oedd ef cyn i'r anffawd ddigwydd, a phan orweddai yn yr ysbyty, daliai i ofyn iddo ef ei hun ac i bawb arall paham yr oedd yn rhaid iddo ef ddioddef felly. Ofnai ei dad a'i fam am gyflwr ei feddwl ar adegau, ond wedi un o ymweliadau aml Mr. Rogers, cawsant eu mab un diwrnod yn fwyn a thawel a breuddwydiol. Yna, i orffen y driniaeth feddygol, gyrrodd yr ysbyty ef i awel y môr am rai wythnosau, ac ysgrifennai lythyrau siriol oddi yno. Pan ddychwelodd adref, ni soniai air am ei anaf, dim ond am y llyfrau a ddarllenai a'r cewri a gyfarfyddai ynddynt, am fyd rhyfeddol y meddwl a'r ysbryd. Yn wir, ymron na chredech yr edrychai ar yr anhap fel drws i blas yn llawn o hud a lledrith. Ychydig iawn a wyddai William Jones am ramant y plas hwnnw, ond melys oedd gwrando ar Idris Morgan yn adrodd hanes rhyw gerddor neu fardd neu athronydd wrtho. Diar, pwy a fuasai'n meddwl bod y fath bobl wedi byw yn yr hen fyd 'ma, yntê? A dyna'r Albert Schweitzer 'na yr oedd Mr. Rogers yn sôn amdano mor aml. Diawch, dyna ddyn!

"Dewch draw fan hyn i chi gal gweld artist wrth 'i waith," meddai David Morgan, gan ei arwain ar draws yr ystafell. "Fe fasa'r Brenin yn falch o'r cwpwrdd yma."

"Fe ddylai fod, beth bynnag," oedd sylw William Jones wrth syllu ar y seld fawr hardd. "Faint gymerodd hon i chi, Seimon?"

"Pythefnos. 'Wy 'di cymryd f'amsar'da hon."

Dyn tal, tenau, tawedog, oedd Simon Jenkins, a threuliai ef, a fuasai gynt yn saer yn Nymbar Wan, y rhan fwyaf o'i amser yma yn y Clwb. Prin yr oedd unrhyw ddodrefnyn na allai ef ei lunio, a'i lunio'n gywrain, gan roddi i'r pren huodledd celfyddyd. Wedi blynyddoedd o ofalu am ddrysau a phethau tebyg yn y pwll, câi hamdden yn awr i naddu mewn coed ei freuddwydion cudd. Y drwg oedd, meddai trefnydd y Clwb, na fwriadwyd i neb droi allan gymaint o ddodrefn ag a wnâi Simon Jenkins. O, yr oeddynt yn dda, yn wych, ond damo, 'doedd dim digon o goed i'w cael i'r bachan, w. "Sut mae'r ferch, Seimon?" gofynnodd William Jones.

"Y doctor isha iddi gal mish wrth ddŵr y môr." Ac edrychodd yn sarrug ar y chwarelwr, fel petai ei awgrym ef fuasai'r mis o awelon y môr.

"I b'le y gyrrwch chi hi?"

"I'r Rifiera. Licwn i wbod lle 'wy' i'n mynd i gal arian i roi mish ym Mhorthcawl i Gwen."

"Fedrwch chi ddim gwerthu rhai o'r dodrefn 'ma?". "Galla', a 'na nhw'n clŵad am 'ynny, 'na stopo fy nole i."

Ac aeth Simon Jenkins ymlaen i orffen y rhosynnau a roddai ar ddrws seld.

Oedodd William Jones yn y llofft am ryw hanner awr yn sgwrsio â David Morgan. Cofiai'r cerddor am y cinio hwnnw a gawsai ef a'i gôr yn Scranton flynyddoedd cyn hynny. Y rhosynnau a gerfiai Simon a ddug yr amgylchiad i'w gof, meddai ef—yr oedd rhosynnau tebyg ar y gwydrau yr yfent win ohonynt. Daro, dyna'r unig dro yn ei fywyd iddo ef fod yn feddw! Ac ar ddiwedd y cinio aeth i ddadlau gyda chlamp o Eidalwr tew nad ydoedd Caruso yn deilwng i ddatod esgidiau Ben Davies. Ni chofiai ddim am y peth y bore trannoeth nes i rai o'r côr ddechrau tynnu ei goes. Daro, ac yntau byth yn cyffwrdd diferyn!

Soniodd William Jones am y llythyr a dderbyniasai o'r Gogledd ac am y gwahoddiad yn ôl i'r chwarel.

"Ond 'dych chi ddim yn mynd, 'odych chi?" gofynnodd David Morgan.

"Wel ..."

"Allwch chi ddim gadal y côr, bachan."

"O, 'fydd dim llawar o gollad ar f’ôl i."

"Na fydd a? Fi sy'n gwpod ’ynny, nid chi. A pheth arall, 'dych chi ddim yn mynd i golli'r perfformans! A chi- tha' heb glywad y Messiah 'riod! Na, 'allwch chi ddim gadal ’nawr, William."

Pan gyrhaeddodd William Jones waelod y grisiau, taflodd Crad wên slei tuag ato.

"Roeddwn i'n meddwl mai dŵad yma i drwsio dy 'sgidia' yr oeddat ti, William."

"Wel, ia, fachgan, ond dechra' clebran, weldi, a ... Hylô, Ned!"

Ned Andrews, a drigai tros y ffordd iddynt, oedd yr unig un gwir fedrus fel crydd, a pharod iawn oedd i gynorthwyo eraill; rhoddai help llaw i Grad yn awr.

"Practis da neithiwr, Ned?" meddai William Jones.

"Grêt, w. 'Chlywis i mo'r Worthy yn cal 'i ganu'n well ariod. Ôch chi'r tenors mewn fform nithwr. Ôch, wir. Be' odd E lan 'na yn feddwl?" Nodiodd tua'r llofft, lle gwyddai fod yr arweinydd wrth ei waith fel saer.

"Ddeudodd o ddim llawar ar y ffordd adra. Ond 'roedd o i'w weld yn reit hapus. Dechra' shapo 'rŵan—'nawr- medda' fo."

"Wel, os yw Dai yn gweud bod ni'n dechra' shapo, 'ŷn ni'n canu fel angylion, siŵr o fod."

Yr oedd tri diddordeb mawr ym mywyd William Jones erbyn hyn—y capel, lle ni chollai un oedfa; y côr (onid oedd y Trysorydd?); a Mot, y ci a brynasai i Wili John. Yr oedd Mot bellach yn bedwar mis oed, a châi lawer o sylw gan bawb yn y tŷ. Daethai William Jones o hyd iddo ar un o'i deithiau ofer i chwilio am waith. Cerddasai un diwrnod dros y mynydd i'r cwm agosaf, a mentrodd alw yn swyddfa'r gwaith y daliai ei beiriant—codi-glo i besychu'n ysbeidiol. Wedi iddo egluro na fuasai erioed dan ddaear ond ei fod yn chwarelwr go lew ac yn ddirwestwr selog, troes ymaith yng nghwmni glowr bychan, bywiog, o'r enw Sam Ifans.

"Lle ych chi'n mynd ’nawr?" gofynnodd hwnnw.

"Yn ôl dros y mynydd."

"Dim heb i chi gal dishglad o de, bachan. Dewch 'da fi."

Nid oedd modd gwrthod: ni wrandawai Sam Ifans ar esgus o fath yn y byd. Ac fe'i cafodd William Jones ei hun mewn tŷ na welsai ei lanach erioed, er nad oedd y stryd ond enghraifft arall o'r adeiladau salw a brysiog a geid yn y cymoedd hyn. Dyna un peth a wnâi iddo ryfeddu—y glendid a'r balchder yn y tai. Credasai y noson gyntaf honno ym Mryn Glo fod Meri ei chwaer yn ymegnïo i roi gwers i'r anwariaid o'i chwmpas, yn ceisio troi ei thŷ'n batrwm iddynt. Ond sylweddolodd yn fuan iawn mai'r "anwariaid" a ddysgasai wers i Meri, fod aelwyd a chegin a pharlwr yn her i hylldrem y cwm a'r llethrau. Tŷ David Morgan, er enghraifft. Tŷ Ned Andrews dros y ffordd. Go flêr oedd cartref Shinc, efallai, ond dyna fo, ni chredai Shinc na'i wraig mewn rhyw arwynebolrwydd fel sglein. Twyll oedd peth felly, cymryd arnynt eu bod yn feistri ar eu ffawd—a'u tai eu hunain. Ond yr oedd gan Shinc ryw esgus; yr oedd ei wraig yn fwy hoff o fynd o gwmpas i ganu nag o lanhau'r tŷ. Er hynny, beiai'r chwarelwr ef am aflerwch ei gartref.

Darganfu William Jones nad oedd y glowr bychan, bywiog, mor ddibryder ag y dymunai i'r byd gredu ei fod. Yn wir, yr oedd gofid fel plwm yng nghalon Sam Ifans. Trannoeth, yr oedd i golli Nel, yr ast a garai ef a'i wraig gymaint. Rhywfodd neu'i gilydd, ni chawsai nodyn swyddogol o'r Llythyrdy ddechrau'r flwyddyn yn ei atgofio bod arno saith a chwech am drwydded Nel, a chan ei fod yn ddi-waith, ni yrrodd air at yr awdurdodau i brotestio am y diofalwch. Llithrodd hanner blwyddyn heibio, a daliai Sam i daflu ambell winc slei a hapus at Nel. Ond yn sydyn, rai wythnosau cyn ymweliad William Jones, cofiodd rhyw glerc yn rhywle fod ar Samuel Evans, 21 Colliers Row, Cwm Llwyd, saith a chwech am gadw ci, ac wedi iddo wneud y darganfyddiad a methu à chael ateb i dri nodyn, gyrrwyd heddgeidwad i'r tŷ i fygwth mynd â'r ast ymaith. Ateb Nel i hyn oedd cyflwyno i'r byd, y diwrnod ar ôl ymweliad y plisman, dri o gŵn bach tlws dros ben.

"Be' ydach chi am wneud hefo'r cŵn bach 'ma?" oedd cwestiwn William Jones wedi iddo glywed yr hanes.

"S mo i'n gwpod, wir. 'S neb yn moyn cŵn 'nawr, w. Dim arian, 'chi'n gweld."

"Fasach chi'n gwerthu un i mi?"

"Pidiwch â siarad dwli. Cymerwch un. P’un ych chi'n moyn?"

"Hwn'na â'r tei gwyn 'na ar 'i frest o. Ond mae'n rhaid imi gael talu amdano fo."

"Talu! Hwrwch! Fe allwch 'i gario fa yn eich pocad."

"Reit. 'Faint oeddach chi'n ddeud oedd y leisans, hefyd?"

"Saith a 'wech."

"O, ia. Wel, yr ydw i wedi bod yn chwilio am gi bach ers ... ers pythefnos, ac yn .... yn methu'n glir â chael un i'm plesio. A dyma fi wedi dŵad o hyd i un o'r diwadd, y ci bach dela' welis i 'rioed. Isio un i Wili John, hogyn fy chwaer, ydach chi'n dallt. Mi fydd o wrth 'i fodd."

A thra siaradai, darganfu dri hanner coron yn ei bwrs a'u taro ar y bwrdd. Edrychodd y glowr yn gas. "Shgwlwch 'ma," meddai. "Os ych chi'n meddwl mod i'n mynd i gymryd saith a 'wech oddi ar fachan sy mas o waith ..."

"Diar annwl, ’ydw i ddim allan o waith. Ar fy holides i lawr yma yr ydw i. Heb gael gwylia' ers diar, ers blynyddoedd, a blino ar fynd i'r hen chwaral 'na bob dydd heb dipyn o newid. Yr ydw i'n ennill cyflog reit dda."

A oedd colled ar y dyn? gofynnodd Sam Ifans iddo'i hun.

"Be'... be ôch chi'n moyn yn y Neptiwn?"

"O?" A chwarddodd William Jones yn llon. "Crad, fy mrawd yng nghyfraith, sy allan o waith, ydach chi'n dallt, a finna'n gwneud bet hefo fo y medrwn i gael job fel coliar ond imi fynd i chwilio amdani. Fo fydd yn ennill y fet, mae arna' i ofn... Wel, diolch yn fawr i chi am y te. Mae'n rhaid imi frysio adra 'rwan."

Ac wedi palu'r celwyddau hyn, troes ymaith, gan ddal y ci bach yn ofalus yn erbyn ei frest a chymryd arno golli ei dymer pan geisiodd y glowr wthio'r saith a chwech yn ôl i'w law.

"O, ia, pa frid ydi o, er mwyn imi gael deud wrthyn nhw adra?" gofynnodd, y tu allan i'r drws.

"Brid? Wel, ma'i fam e'n spanial ac yn ritrifar ac yn gi defed, ond beth a phwy yw 'i dad e, dim ond y Nefoedd sy'n gwpod, bachan. "Falla' taw milgi Dic Tomos. 'Smo fi'n gwpod, ta beth."

Aethai rhyw bedwar mis heibio er hynny, ac enillasai Mot ei le bellach fel aelod pwysig iawn o'r teulu, y ci bach gorau yn y byd. Dechreuai gallio tipyn erbyn hyn, ac ysgafnhawyd y baich o bryder ar ysgwyddau William Jones. "Diar, yr hen gi yma eto!" fyddai sylw Meri bron bob dydd am rai wythnosau, ac edrychai ei brawd ymaith yn euog a ffwdanus oddi wrth y dodrefnyn a lanhâi ei chwaer. Yn y dyddiau cyntaf, hefyd, darganfu Mot y grisiau a chredai fod eu dringo'n gamp anturus iawn. Y drwg oedd na allai ddisgyn unwaith y cyrhaeddai'r pen, dim ond swnian yn dorcalonnus yno uwch y dibyn. Âi William Jones i fyny i'w nôl, ond cyn hir deuai'r swnian eilwaith o ben y grisiau, a rhaid oedd eu dringo drachefn i'w achub oddi yno. "Cau'r drws 'na, Wili John, rhag ofn i Mot fynd i fyny'r grisia' eto," a oedd frawddeg a glywid yn aml. Wedyn, yn anffodus, yr oedd gan y ci bach ddannedd, a mwynhâi gnoi rhywbeth o fewn ei gyrraedd—matiau, papur, darn o lo, esgidiau, coesau cadair, brws pentan, rhywbeth a phopeth. Prynodd William Jones asgwrno rwber iddo, gan gredu argyhoeddiad gŵr y siop na thalai Mot un sylw i goes cadair na throwsus gorau Crad wedi cael hwnnw rhwng ei ddannedd. Ond yr oedd yn well gan Fot lodrau Crad na'r asgwrn o rwber. Ar Grad ei hun yr oedd y bai am hynny. Digwyddai, un diwrnod, fod yn gwisgo'i hen drowsus gwaith, ac nid oedd wahaniaeth yn y byd ganddo faint a gnoai'r ci ar ei odre; yn wir, câi hwyl fawr yn gwthio'i droed ymlaen a'i thynnu'n ôl yn bryfoclyd, gan lusgo'r ci wrth ei ddannedd o amgylch yr aelwyd. Yna aeth i'r llofft i newid ei ddillad, a phan ddaeth yn ôl i'r gegin yn ei drowsus gorau, credai Mot mai dychwelyd i ailymaflyd yn y chwarae yr oedd. Ni ddeallai'r ci o gwbl paham y rhoddwyd cerydd mor llym iddo am fynd ymlaen â'r gêm, a llanwyd ei feddwl ifanc â dryswch llwyr pan gafodd slap am geisio denu llodrau Mr. Rogers, y gweinidog, i'r ymrafael.

Ond yn awr, wedi pedwar mis o gyngor a cherydd, yr oedd Mot yn dysgu ymddwyn yn fwy gweddaidd. Y mae'n wir y daliai i gredu bod crafu dodrefn a drysau'n chwanegu at eu hurddas a'u gwerth; mai ei swydd ef mewn bywyd oedd bwyta, yn gyfreithlon ac anghyfreithlon, o fore tan nos; a bod ganddo hawl, yn ei dŷ ei hun, i estyn croeso cynnes i bob un o'i gyfeillion, ond fe ddôi doethineb yn araf deg.

Wili John oedd y drwg pennaf. Darllenasai William Jones yn rhywle mai un pryd y dydd a oedd orau i gi, a phenderfynodd gadw at y rheol honno. Ond gan y gweithiai Wili John mewn siop gigydd, cludai adref ddigon o esgyrn a darnau o gig i fwydo holl gŵn y sir. Bu'r ddadl rhyngddo ef a'i ewythr yn un hir a chwyrn, ond o'r diwedd trawodd y ddau ar gyfaddawd—dau bryd y dydd, Wili John i ofalu am un a William Jones am y llall. A bu heddwch—nes i'r chwarelwr ddarganfod, wedi synnu am beth amser fod cynifer o esgyrn o gwmpas y lle, na chadwai ei nai o gwbl at y cytundeb. Yr oedd hyn yn brofedigaeth fawr iddo, gan i Wili John arwyddo'r cyfamod trwy boeri ar ei fys a gwneud llun croes ar ei dalcen.

Meri a gwynai fwyaf am y ci. Cyn gynted ag y golchai hi lawr y gegin fach, fe ruthrai Mot i mewn i'w addurno ag ôl ei draed. Neidiai hefyd, yn wlyb ac yn fudr, i'r gadair orau, a chafwyd ei ysgrifen un diwrnod ar wely Eleri. Beth a ellid ei wneud, mewn difrif? Penderfynodd William Jones geisio'i werthu i rywun, ac os methai, ei ddifodi. "Be’?" meddai Meri. "Gwerthu Mot! Tyd yma, 'ngwas del i iti gal asgwrn bach arall. Tyd; yr wyt ti'n werth y byd, ond wyt ?"

Y capel, y côr, a'r ci—ond yr oedd gan William Jones ddiddordebau eraill hefyd ym Mryn Glo. Âi ef a Chrad bob bore i lawr i'r Workmen's, fel y dysgodd alw Neuadd y Gweithwyr, am gip ar y papur newydd a sgwrs hefo hwn a'r llall. Trawodd i mewn i'r llyfrgell yno un diwrnod, a darganfu, ymhlith rhai miloedd o lyfrau, ddyrnaid o rai Cymraeg. Yr oedd "Capelulo," a "Sioned" Winnie Parry yn eu mysgs ac nid oedd bw na ba i'w gael ganddo wedyn am nosweithiau lawer. Treuliai ambell noson hefyd yn festri Salem yn gwrando ar y radio, neu ar ddarlith neu drafodaeth a drefnai Mr. Rogers yno. Yr oedd yn rhy yswil i gymryd rhan mewn trafodaeth, ond enillodd beth bri un noson trwy ddadlau'n frwd fod meddwl a chof a dychymyg gan gi—"mwy o lawar nag sy gan amball ddyn," meddai ef. Pan fyddai llun go dda yno, denai Wili John ef i'r sinema, a gallai sgwrsio'n bur ddoeth bellach am rai o hoelion wyth y darluniau byw. Âi hefyd bron bob prynhawn Sadwrn i wylio'r gwŷr ifainc yn chwarae Rygbi yn y cae wrth yr afon, a siaradai gyda pheth awdurdod am "lein owt" a "threi” a "sgrym"; yn wir, daliodd Crad ef un diwrnod yn dadlau'n ffyrnig hefo Shinc fod ei fachgen, Richard Emlyn, yn "off-side." cyn ennill trei.

Rhaid imi gofio egluro hefyd fod William Jones yn troi'n dipyn o Sais wrth ddarllen y papur dyddiol a gorfod sgwrsio'n Saesneg â llawer un mewn siop ac ar yr heol. Ac ymhlith llyfrau ysgol Wili John ac Arfon, darganfu'r gyfrol a gyffroes ei feddwl gymaint pan oedd yn fachgen—"Treasure Island." Penderfynodd geisio'i ddarllen—gyda chymorth parod ond ffroenuchel Wili John—a mawr oedd y blas a gafodd arno. Rhai o storïau Hans Andersen a ddarllenai ar hyn o bryd, a deffrowyd ei ddiddordeb gan gip ar amryw eraill—yn eu plith, "The Cloister and the Hearth," "Silas Marner," ac "Ivanhoe." Barn Meri oedd bod ei brawd yn "ddarllenwr mawr".

Rhwng popeth, âi'r dyddiau a'r wythnosau heibio'n gyflym. Diolchai Crad pan ddaeth diwedd Tachwedd; oherwydd yr aflwydd ar ei frest, yr oedd yn well ganddo oerni a rhew Rhagfyr na niwl a lleithder Tachwedd. Cadwai'r côr William Jones yn hynod brysur; cyfarfyddai yn awr deirgwaith yr wythnos, ac ni chollai ef un cyfarfod. Cerddai i bractis ac oddi yno yng nghwmni David Morgan, a rhywfodd neu'i gilydd, daeth y côr i edrych ar y chwarelwr hefyd fel tipyn o gerddor. Nid am y mentrai roddi barn ar bynciau cerddorol, ond am y gallai edrych yn bur gall a nodio'n ddoeth pan eglurid rhywbeth gan yr arweinydd. Cytunai Mr. Rogers a David Morgan fod William Jones yn un o'r gwrandawyr gorau a gawsant erioed, a hyfrydwch iddynt oedd taflu golwg i'w gyfeiriad i weld yr eiddgarwch gloyw yn ei lygaid.

Y gwir oedd bod William Jones yn arwr-addolwr, a thrwy'r blynyddoedd ni chawsai neb y gallai ymgrymu o'i flaen. Ei dad? Na, ei ofni ef a wnâi yn fwy na dim arall, a phan aeth yn wael, tosturiai wrtho. Ei fam? Cymerai ei gwrhydri a'i thynerwch hi'n ganiataol, hyd yn oed wedi iddo dyfu'n ddyn. Mr. Lloyd? Wel, "yr hen Lloyd" didramgwydd a diymadferth oedd ef iddo, yn proffwydo'n grynedig ei bod hi am law neu am ysbaid o dywydd teg. Ei gyfeillion a'i gydnabod yn Llan-y-graig? Pobl yn rhyw fyw o ddydd i ddydd oeddynt hwy, heb un diddordeb arbennig ar wahân i'w gwaith a'u cartrefi. Ac wedi gweld cymaint ar Leusa ac Ifan Siwrin, yr oedd arno newyn a syched am feddyliau mwy aruchel na'r eiddynt hwy. Nid ymresymiad William Jones yw hwn, wrth gwrs, ac ni hoffwn awgrymu iddo godi un bore a phenderfynu brysio draw i'r drws nesaf cyn brecwast i benlinio gerbron y cerddor. Ond sylwai Meri a Chrad y soniai lai bob dydd am Fob Gruffydd a Thwm Ifans, a mwy o hyd, a chyda brwdfrydedd mawr, am Mr. Rogers neu David Morgan. Ac fel y nesâi'r Nadolig a'r ŵyl gerddorol, âi'r teulu i gredu mai "côr William Jones" oedd "côr Dai Morgan" mwyach.

Chwarae teg i siopwyr Bryn Glo, gwnaethant ymdrech deg i addurno'r ffenestri at y Nadolig; yn wir, yr oedd y lle lawer yn siriolach nag y cofiai ef Lan-y-graig. Pan âi drwy'r pentref gyda'r nos ar ei ffordd i'r capel neu i gyfarfod o'r côr, teimlai William Jones fel hogyn wrth syllu ar yr addurniadau a'r an- rhegion a'r goleuadau lliwiedig a'r amrywiaeth o ddanteithion a ffrwythau. A'r noson cyn y Nadolig bu hi'n dipyn o ddadl yn y tŷ.

William," meddai Meri ar ôl te, "mae Crad a finna' wedi bod yn siarad hefo'n gilydd."

"O?"

"Am y 'Dolig a phresanta' a phetha' felly. 'Dydan ni ddim am wneud llawar o ffys 'leni, gan 'i bod hi fel y mae hi arno' ni, a ..."

"Ia?"

"Wel, 'roedd Crad yn deud iti godi arian yn y Post bora 'ma, ac 'roedd o'n rhyw ofni dy fod ti am fynd i siopa heno,

"Ydw."

"Wel, dim ond un wyt ti a ninna’n bump. Ac 'roeddan ni'n meddwl os liciet ti brynu tun o daffi ne' rwbath rhwng pawb ..."

"Ond mae gin i ddigon o bres, Meri, ac wedi'r cwbl, dim ond unwaith mewn blwyddyn y daw'r 'Dolig."

"Gwranda, William," meddai Crad. "Mae Meri a finna wedi siarad dros y peth, ac 'rydan ni'n gofyn iti beidio. Mae'r plant yn dallt sut mae petha' y 'Dolig yma fel y 'Dolig dwytha'"

"Ond ..."

"Os pryni di dun o daffi rhyngddyn nhw," meddai Meri, "mi fyddan nhw wrth 'u bodd."

"Ydach chi'ch dau yn rhoi presanta' iddyn nhw?" "Wel ... y... Tawodd Crad.

"Ydan," atebodd Meri, "ond nid presanta' ydyn' nhw mewn gwirionadd ond petha' y mae'u hangen nhw—crys i Arfon, jympar i Eleri, macintosh i Wili John. Y cwbwl o'r Emporium, y Drepar lle 'rydan ni wedi talu deunaw yr wsnos i'r Clwb 'Dolig ers misoedd. Os lici di brynu tipyn o dda-da ne' ffrwytha' iddyn nhw, William... Ond dim presanta', cofia."

"Na, dim presanta'," meddai Crad.

"Na, dim presanta'," cytunodd William Jones.

Aeth i lawr i'r pentref cyn hir, gan deimlo braidd yn ddigalon. Safodd o flaen yr Emporium i syllu ar y tryblith o anrhegion yn y ffenestr, a gwelodd yno dun o daffi hanner coron ei bris. Oedd, yr oedd Meri a Chrad yn llygad eu lle. Wedi'r cwbl, un o amcanion ei fywyd bellach oedd gwario cyn lleied ag yr oedd modd. Oni thorrai ef a Chrad wallt ei gilydd? Ac onid ysmygai lai nag owns yr wythnos? Oedd, yr oedd Meri a Chrad. ... Aeth i mewn i'r siop. "Y tun 'na o daffi, os gwelwch chi'n dda."

Wedi i'r ferch ei bacio ac iddo dalu amdano,

"Rhwbath arall, syr?" gofynnodd hi.


"Wel, oes, mae arna' i isio'ch help chi, os byddwch chi mor ffeind. Wili John."

"Wili Bwtsiwr?"

"Y?... O, ia. Isio presant iddo fo."

"Beth am y mowth-organ 'ma, 'nawr?" A denodd gwefusau y ferch nodau pêr ohono.

"Diar, un da, yntê? 'Faint ydi o, os gwelwch chi'n dda?"

"Pedwar a 'wech, syr. Ddo cethon ni'r rhein."

"Tewch, da chi! Reit. Mi fydd Wili John wrth 'i fodd."

"Rhwbath arall, syr?"

"Oes, mae arna' i isio presant i Eleri. Be' ga'i, deudwch?"

"Ma' 'Leri yn y Cownti, ond yw hi? Beth am ffownten-pen?"

"Rargian, ia, ffownten-pen fasa'n beth hwylus iddi hi, yntê? 'Wnes i ddim meddwl am ffownten-pen o gwbwl."

"Ma chi rai nêt, syr. Pum swllt."

"Tewch, da chi! Dim ond pum swllt! Beth am yr un werdd 'ma? Hon ydw i'n licio."

"Ond yw hi'n un neis? 'Na falch fydd 'Leri!"

"Bydd, 'ydw i'n siŵr. A 'rwan mae arna' i isio rhwbath i Meri—i fam Eleri."

"Dewch draw fan hyn, syr, i chi gael gweld y ffedoga' 'ma. Ma' nhw'n lyfli. Dim ond tw and lefn."

Edrychodd William Jones ar y ffedogau lliw fel petai'n taflu golwg feirniadol ar res o lechi Dic Trombôn.

"Yr un goch a glas 'ma," meddai, gan ddewis un o ganol y rheng. "Ydach chi'n meddwl y bydd Meri—Mrs. Williams —yn 'i hoffi hi?"

"Diar, bydd, yn dwli arni hi."

Ac yn awr, Arfon. Beth gynllwyn a gâi ef i Arfon?

"Faint yw'r teis 'na, os gwelwch chi'n dda? Mae arna'i isio un i Arfon."

"Hanner coron. Poplin."

"Y?"

"Poplin."

"O."

"Ma chi un neis, syr."

"Gormod o liw ynddo fo. Mae'n well gin i hwn, yr un llwyd 'ma â sbotia' du arno fo."

"Ond bachgen ifanc yw Arfon, syr, a ma' hwn yn rhy hen iddo fa." Bu bron iddi ag awgrymu mai tei iddo ef ei hun a brynai William Jones.

"Ydi, 'falla'. Ydi, yn rhy hen i Arfon. Hwn 'ta'."

"Ond ." Nid oedd llawer mwy o liw yn yr ail dei.

"Ond be', 'merch i?"

"Wel, chi sy'n gwpod, wrth gwrs, ond y rhai streip 'ma— Club colours—ma'r bechgyn yn lico."

"Ia, ond tei ar gyfar y Sul oeddwn i'n feddwl gal iddo fo.

Fe wnaiff hwn yn gampus, yn champion."

"Reit. Rhywbeth eto, syr?"

"Crad—Mr. Williams."

"Tei?"

"Na, mi dorrodd 'i fresus y diwrnod o'r blaen."

"Braces?"

"Ia, wrth wyro i drio trwsio beic Wili John. A dim ond tamaid o linyn sy'n cadw'i drowsus o rhag ...."

"Hanner coron yw'r rhain, syr. Rhai cryf iawn."

"I'r dim, 'nginath i, i'r dim."

Dychwelodd William Jones i'r tŷ'n llwythog, ond medrodd sleifio i'r llofft i guddio'r parseli yn y fasged wellt a oedd o dan ei wely. Galwasai hefyd yn y siop ffrwythau i brynu cnau a ffigys ac afalau. Daria, dim ond unwaith mewn blwyddyn y dôi'r Nadolig, onid e?

Yr oedd hi wedi deg ar Arfon yn cyrraedd adref, a bu'r teulu ar eu traed yn o hwyr yn cael hanes Slough ganddo. "Pawb i gysgu'n hwyr 'fory," oedd gorchymyn Meri pan droesant i'w gwelyau.

Ond deffroes Wili John am hanner awr wedi saith fel arfer, a rhoes bwniad i'w ewythr.

"Nadolig llawen, Wncwl William!"

"Y?... Ac i chditha', 'ngwas i. Hannar munud."

A chododd William Jones i dynnu'r fasged wellt o'i chudd- fan.

"Hwda, dyma iti bresant bach. 'Fedri di 'i ganu o?"

"I ganu fa? Galla'!" A dechreuodd Tipperary ruo drwy'r tŷ.

"Sh! Paid, Wili John, ne' mi fyddi di'n deffro'r tŷ— a'r pentra i gyd."

"Oreit. Yn dawal fach, 'ta'."

A chafwyd datganiad gweddol gywir o hanner dwsino donau Saesneg poblogaidd.

"Wili John?"

"Ia, Wncwl?"

"Mae hi'n fora Nadolig, weldi. Be' am garol ne' ddwy?"

"Reit."

A daeth "While shepherds watched .. a "Good King Wenceslas" allan o'r organ-geg. Daeth hefyd swn Mot yn nadu i lawr y grisiau.

"Wili John?"

"Ia, Wncwl?" "Wyt ti ddim yn gwbod carol Gymraeg? Mi gana' i hefo chdi wedyn."

"Sdim carole Cymraeg i gal, w."

"Oes, ddigon. Dyna Ond ni allai William Jones gofi) un ar y funud. "Sh! Mae 'na rywun yn dwad, fachgan."

Daeth Meri i mewn. "Be' sy'n mynd ymlaen yma, mi liciwn i wbod?" gofynnodd.

Ond fe gysgai'r ddau'n drwm, Wili John â'i ben o dan y dillad.

Cymerodd Meri arni fod yn ddig iawn wrth ei brawd pan ddaeth ef â'i barseli i lawr y grisiau, a rhoes dafod i Grad am chwerthin. Ond yr oedd hi'n hynod falch o'r ffedog, ac addawodd iddi ei hun y gwisgai hi'r prynhawn hwnnw. Mawr oedd llawenydd Eleri wrth drio'r ysgrifell, a dywedai Crad iddo benderfynu prynu bresus yr wythnos wedyn. "Wedi hen flino ar drwsio'r taclyn," meddai. A thu allan yn yr ystryd ni thawai organ-geg Wili John.

Dygasai Arfon hefyd anrhegion adref—chweugain yr un i'w dad a'i fam, crafat i Wili John, llyfr i Eleri, a thei i'w ewythr. Diolchodd William Jones yn gynnes iddo am y tei, er gwybod na wisgai ef mohono byth. Buasai Arfon hefyd yr un mor foesgar ychydig funudau ynghynt. Mentrodd Meri gael ei hystyried yn anfoesgar.

"Tei i hogyn ifanc ydi hwn'na, Arfon," meddai. "A thei i ddyn mewn oed mae d'ewyth' wedi'i brynu i ti. Yr ydw' i'n cynnig eich bod chi'n ffeirio."

"Fasa'n well gin ti gael hwn, Arfon?"

"Wel ... 'Sa'n well 'da chi gal hwn, Wncwl?"

"Wel. Na, fi ddaru ofyn gynta'."

"Reit, 'ta'. Fe swopwn ni, Wncwl."

Yr oedd William Jones wrth ei fodd. Daria unwaith, y Nadolig gorau a gofiai ef. Wedi iddynt gael brecwast, canodd i gyfeiliant yr organ-geg, gwisgodd ffedog newydd Meri o ran hwyl, paffiodd â Mot, a dechreuodd ef ac Arfon chwarae Rygbi hefo clustog fel pêl. Yna daeth cnoc uchel y postman, a dug Eleri bentwr o lythyrau i mewn. "Ma' 'na dri i chi, Wncwl," meddai.

Oddi wrth Leusa yr oedd y cyntaf—cerdyn Nadolig addurnol yn ei sicrhau mewn Saesneg yr un mor lliwgar fod eu cyfeillgarwch fel y gelynnen, yn fythol wyrdd. Trosglwyddodd ef i Grad gyda gwên braidd yn gam. Ond syllodd yn hir ar y ddau arall—un oddi wrth Bob Gruffydd a'r llall oddi wrth blant Twm Ifans i "Yncl William." Sut yr oedd pethau'n mynd yn Llan-y-graig erbyn hyn, tybed? Chwarae teg i'r hen Fob am gofio amdano, onid e? Diar, yr oedd yna le yn nhŷ Twm Ifans heddiw, onid oedd? Âi ef draw i'r Hendre i de bob dydd Nadolig, a chofiai'r hwyl a gawsai flwyddyn ynghynt yn adrodd stori wrth Gwen a Megan a Meurig. Gwelodd Meri fod y dagrau'n dechrau cronni yn llygaid ei brawd.

"Rŵan, allan â chi'r dynion i gyd," meddai, "i Eleri a finna' gael llonydd i wneud y cinio. Ewch o'r ffordd, wir."

"Reit," meddai William Jones. "Tyd, Motsi Potsi."

Chwarddodd Wili John yn uchel. Darganfyddai ei ewythr ryw enw newydd ar Fot bob dydd, a châi'r bachgen hwyl fawr bob tro y clywai un ohonynt.

Gwenai Crad a'i frawd yng nghyfraith ar ei gilydd wrth gerdded i lawr i'r pentref a gwylio plant yn chwarae â'u teganau yn yr holydd. Nid adwaenent ond dau neu dri o'r plant, ond cofient lawer tegan yn cael ei lunio yng Nghlwb y Diwaith. Ia, hogyn hwn-a-hwn, y mae'n rhaid, meddent, gan gofio am y tad yn chwysu wrth roi'r modur neu'r sgwter neu'r peiriant pren wrth ei gilydd yn llofft yr ystabl. Petai Meri gyda hwynt, adwaenai hithau hefyd y doliau heirdd a wisgwyd mor ofalus yng Nghlwb y Merched.

Mwynhaodd y teulu ginio Nadolig heb ei ail. Yr oedd y cigydd y gweithiai Wili John iddo yn ŵr caredig iawn, a rhoesai i Feri goes o borc yn anrheg y diwrnod cynt; cawsai hefyd, rai dyddiau cyn hynny, ddarn o siwed ganddo ar gyfer y pwdin. O ardd Shinc ar ochr y mynydd y daethai'r bresych, a gwnaeth y ffrwythau a'r cnau a brynasai William Jones y noson gynt ddiweddglo anrhydeddus i'r pryd. Uchel oedd y siarad a'r chwerthin a'r tynnu-coes, ac yna canodd Arfon a'i ewythr ddeuawd neu ddwy i gyfeiliant uchel yr organ-geg.

Yn yr hwyr, cafodd William Jones ddigon o gymorth parod i wisgo ar gyfer y cyngerdd. Yr oedd aelodau'r côr, os oedd modd yn y byd, i wisgo'n unffurf—y merched mewn gwyn a'r dynion mewn dillad tywyll a choler big a bwa du. A phan ddaeth yr amser iddo gychwyn, rhuthrodd Meri i nôl y brwsh dillad, dug Wili John gadach i roi sglein ychwanegol ar ei esgidiau, a phenderfynodd Arfon nad oedd y bwa du yn hollol syth. "Hen ffys gwirion" y galwai'r cantor hyn, gan egluro nad oedd ef ond tenor bach ac na ddewiswyd ef i ganu unawd.

Er hynny, nid oedd neb balchach na'r tenor bach yng ngaleri Calfaria'r noson honno. Diar, beth pe gwelai Bob Gruffydd ef yn awr! Teimlai braidd yn nerfus wrth wylio'r gynulleidfa oddi tano; ni wynebasai dyrfa fawr fel hon erioed o'r blaen. Edrychodd o'i amgylch ar y côr â balchder yn ei galon—y merched i gyd mewn gwyn a'r dynion oll yn gwisgo coler galed a bwa du. Gwenodd wrth feddwl am y dirgel ffyrdd y crwydrodd rhai hyd-ddynt i fenthyca "whîl a sprag."” Twm Edwards, er enghraifft, fan acw ymhlith y baswyr—ymddangosai cnawd ei wddf fel rhimyn o does yn ymchwyddo tros ymyl ei goler den: gobeithio y medrai ganu, dyna'r cwbl. Hylô, dacw Arfon a Wili John ym mlaen y galeri, uwchben y cloc. Gwenodd William Jones arnynt, a chydnabu Wili John y cyfarchiad trwy gymryd arno gynnig darn o daffi i'w ewythr. 'Na fachan oedd Wili John, meddai hwnnw wrtho'i hun. Ia—gan gofio mai Gogleddwr oedd—hogyn ar y naw oedd Wili John.

Idris Morgan, mab yr arweinydd, a eisteddai wrth ei ochr, a phan ddechreuodd yr organydd, Richard Emlyn, ganu'r darn arweiniol mawreddog, teimlai William Jones gorff ei gymydog yn ymsythu drwyddo, fel petai pob nerf yn tynhau wrth iddo ddilyn hynt y nodau. Yna cododd y tenor yn y pulpud, a llithrodd ei lais yn esmwyth a swynol trwy "Comfort ye, comfort ye, my people" a chryfhau wedyn yn yr unawd "Every valley shall be exalted." Ni chlywsai'r chwarelwr lais mor beraidd erioed, a gwyrodd ymlaen a'i lygaid yn fawr, gan adael i'r sain a'r geiriau oedi fel pethau byw, sylweddol, ar hyd rhigolau ei feddwl. Teimlai yr hoffai gyffwrdd y llais hwnnw, dal rhai o'r nodau yn ei ddwylo i syllu arnynt, teimlo â'i fysedd sidan a melfed eu rhyfeddod hwy. Yn lle hynny, gafaelodd yn dynnach yn ei gopi, a phan safodd y côr i ganu "And the Glory of the Lord," llyncodd ei boer, gwthiodd ei frest allan yn wrol, a chododd ei ên fel petai yntau'n unawdwr. O'i flaen ac oddi tano, môr anelwig o wynebau, a daeth braw yn gryndod trosto am eiliad. Hoeliodd ei sylw ar lawffon yr arweinydd, ac ymhen ennyd fe gynorthwyai ef, William Jones, y côr i godi un o'r temlau ysblennydd a welsai Handel un awr ysbrydoledig. Pan eisteddodd i lawr eilwaith, pefriai ei lygaid a llanwyd ei galon â gorfoledd. Yr oedd ei ffiol yn llawn pan daflodd ei arwr, David Morgan, wên gyfeillgar tuag ato.

Noson fawr ym mywyd William Jones oedd honno. Cerddodd adref o Galfaria yng nghwmni Idris Morgan, a phur dawedog oedd y ddau. Clywent leisiau chwyrn ar fin yr heol yn dadlau ynghylch rhagoriaethau a gwendidau'r unawdwyr— "dim patch ar Elsie Suddaby, bachan"—a theimlent yn ddig wrthynt am droi'r gerddoriaeth yn destun ymryson. Wrth iddynt fynd heibio i glebran afreolus y Clwb, berwai'r dicter ynddynt: oni wyddai'r bobl hyn fod organ a chôr ac unawdwyr newydd gyfieithu gweledigaeth fawr yn felystra cerdd?

"Na fachan odd yr Handel 'na," meddai Idris pan ddring- ent yr allt.

"Ia, mae'n rhaid. Almaenwr, yntê?"

"Ia. 'Odych chi wedi darllen 'i hanes a?"

"Naddo, wir. 'Wn i ddim byd amdano fo."

"Fe ro' i fenthyg llyfyr bach i chi—hanes 'i fywyd a."

"Diolch, Idris. Gyda llaw, pam oedd y gynulleidfa'n codi yn ystod yr Haleliwia Coras?"

"Hen arferiad. Pan berfformiwyd yr oratorio gynta' yn Llunden, dyma'r Brenin a'r cynulleidfa cwnnu ar 'u trad pan odd y côr yn canu For the Lord God omnipotent reigneth. Odd 'onno'n olygfa, siŵr o fod. Wel, so long 'nawr. Fe gewch chi'r llyfyr bora 'fory."

Cafodd groeso cynnes gan Feri ac Eleri a Mot: teimlai'r chwaer yn falch o'i brawd o denor.

"Sut aeth petha', William?"

"Yn champion, hogan. Canu bendigedig. .. Yntê, Motyn Esgid pwy 'di hon'na sy gin ti yn dy geg? O, 'ches di ddim dwad i'r consart, naddo, 'ngwas i? Hidia befo, mi gei di fynd am dro i'r mynydd yn y bora ... Lle mae Crad?" "Welist ti mono fo wrth y capal? 'Roedd o am fynd i wrando wrth y drws, medda' fo. Mi addawodd yr âi o i mewn i'r lobi rhag ofn iddo gael annwyd ... O, dyma fo." "Diawcs, 'roeddat ti'n edrach yn rêl bôi yn y galeri 'na, William! Oeddat, wir, was! Yn gymaint o ganwr ag un ohonyn nhw. A dyna ganu, fachgan! Mi welis i Dai Morgan gynna', ac 'roedd o fel hogyn bach. Wrth 'i fodd! Champion, William, champion!" Nid oedd pall ar frwdfrydedd Crad.

"Tyd at y tân 'ma," meddai ei wraig wrtho, "rhag ofn dy fod ti wedi oeri. Gobeithio na fuost ti ddim yn sefyllian y tu allan i'r capal."

"Fi! Mi ges i le wrth ymyl y Sêt Fawr, 'nginath i." A chododd Crad ei ên yn urddasol.

"Ond 'roeddat ti wedi rhoi dy dicad i Wili John."

"Ticad! Pan gyrhaeddis i i lawr yno, mi es i mewn i'r festri. Pwy oedd yno ond Jac Jones sy'n llnau'r capal.

Dyma fo'n bowio imi. 'Ma'n dda 'da fi weld bod y Cadeirydd 'di cyrradd, medda' fo. 'Ffor hyn, syr! Ac i fyny'r grisia' â ni, yn cario cadair bob un."

"Sleifio i mewn heb dalu ydw i'n galw peth fel'na," oedd sylw Meri. "Ond dyna fo, un felly ydw i'n dy gofio di 'rioed, ac un felly fyddi di bellach, mae'n debyg. Os medrai Crad ddwyn reid geiniog ar dram yn Nhre Glo, mi fyddai wrth fodd, William—fel 'tai o wedi codi papur punt ar y ffordd. A dyna'r Jac Jones 'na! 'Dydi o ddim ffit i llnau un capal."

"Dyma be' ydw i'n gael ar ôl sgwennu cheque am bum gini i'r côr, William," meddai Crad gydag ochenaid fawr. Aeth William Jones i'w wely'n gynnar. Wedi sibrwd y gyfrinach y bwriadai yntau grwydro'r byd fel unawdwr ryw ddydd, syrthiodd Wili John i gysgu. Ond ni ddôi cwsg i i amrannau ei ewythr. Âi drwy bob unawd a phob cytgan eilwaith, gan ddal ambell nodyn neu far yn hir yn ei feddwl. Gwelai eto'r golau'n chwarae yng ngwallt gloywddu'r soprano, a chlywai ei llais yn yr unawd "I know that my Redeemer liveth" yn esgyn i uchelder y nef. Dringai'r gair "know" at orsedd gras. Diar, ac onid oedd sŵn utgorn yn llais y baswr yna pan ganai "The trumpet shall sound"? Ac wedyn, ar y diwedd, gafaelai rhyw ysbrydiaeth ryfedd yn y côr pan gododd i foli'r Oen ac i uno'n gryf yn yr Amen. 'Rargian, yr oedd rhyw brofiad fel hwn ... Ond syrthiodd William Jones i gysgu.

Dim ond un peth a gymylodd Nadolig llawen y chwarelwr bychan. Cododd fore trannoeth yn llawn asbri, gan edrych ymlaen at yr ail berfformiad o'r "Messiah" y noson honno. Yna, ar ôl brecwast, aeth ef ac Arfon a Mot am dro i'r mynydd.

"Be' sy, Arfon?" gofynnodd ymhen tipyn.

"Beth ych chi'n feddwl, Wncwl?"

"'Waeth iti ddeud wrtha' i ddim. Mi wn i dy fod ti'n ymddangos yn reit hapus, ond ymddangos yr wyt ti."

"Odi 'Mam wedi gweud rhwbath wrthoch chi?"

"Naddo, ddim gair. 'Wyt ti wedi bod yn siarad hefo hi?"

"Diar, nagw' i."

"Be' sy'n dy boeni di, Arfon?"

"Slough, Wncwl. Ma' hirath ofnadw' arno' i am Fryn Glo."

"Oes, yr ydw i'n siŵr, fachgan."

"Dyw'r gaffar yn y gwaith ddim yn fy lico i o gwbwl, a ma' fa'n gneud 'i ora' i fi gal y sac. Ac am y lojin!

"Lle sâl i aros ydi o?"

"Ma' tri o' ni yno. Ma'r ddau arall mas bob nos, ond 'wy' i'n lico bod miwn yn darllen ne' sgfennu. 'Dŷm ni ddim miwn nes bo hi wedi 'wech, ond rhyw dân sy i fod i bara am ddwyawr sy 'na. 'Sech chi'n gweld 'i wyneb hi pan wy' i'n gofyn am ragor o lo! Tlawd yw'r bwyd hefyd—stwff tsiep a dim digon ohono fa. Wel, 'ych chi'n gwbod mor dda ma? Mam 'da bwyd."

"Fedri di ddim cael lle gwell i aros?"

"Dyma'r trydydd lle i fi fod ynddo fa. Ma' Slough yn llawn iawn, a 's dim llawer o amser 'da fi i drampo i wilo am lojin newydd. A ma' hwn yn siwto 'mhoced i."

"Wel, wir, fachgan . Ond ni wyddai William Jones beth i'w ddweud. Yr oedd miloedd o fechgyn fel Arfon mewn lleoedd fel Slough, a pha eiriau o gysur a allai rhywun fel ef eu cynnig iddynt?

"Sut mae'r ddrama'n dwad ymlaen, Arfon?"

Ysgydwodd y bachgen ei ben yn drist. "Ond 'wy'n darllan llawer, Wncwl, a 'falla', un diwrnod..."

"Efallai, un diwrnod"-curai'r tri gair yn ddi-baid ym meddwl William Jones am ddyddiau lawer. Gwelai hwy wedi eu hysgrifennu'n fras tros y cwm; tros y glofeydd tawel, segur; tros yr heolydd a'u tlodi; tros y siopau gweigion, caeëdig: llechent hefyd y tu ôl i londer "Shwmâi, bachan?" y gwŷr a gyfarfyddai ar yr ystryd neu yng Nghlwb y Di-waith, a thu ôl i'r wên ddewr yn llygaid gwragedd ar aelwydydd neu yn nrysau'r tai. Diar, yr oedd hi'n biti, onid oedd, mewn difri'?

Ac wrth syllu drwy ffenestr y llofft fore'r Flwyddyn Newydd, brathodd y chwarelwr ei wefus wrth gofio iddo wario mwy na hanner yr arian a fu ganddo yn y Llythyrdy. Beth a ddygai hi, 1936, iddo, tybed? Gwaith? Neu droi'n ôl i Lan-y- graig—a Leusa? Ysgydwodd William Jones ei ben wrth gau botymau ei wasgod.