Neidio i'r cynnwys

Y Cychwyn/Epilog

Oddi ar Wicidestun
Pennod 8 Y Cychwyn

gan T Rowland Hughes


𝓔𝓹𝓲𝓵𝓸𝓰

PWY oedd y cyfaill di-enw,' tybed? gofynnodd yr hen weinidog iddo'i hun am y milfed tro. Ebenezer Morris? William Jones neu rywun y gallodd e fddylanwadu arno? Richard Owen, Manchester House? Elias Thomas o'i enillion. prin? Nid oedd ddim gwell o ddyfalu.

Yr oedd hynny mor bell yn ôl, mor bell yn ôl, dros hanner canrif yn ôl. Pwy a fuasai'n meddwl y newidiai'r ardal gymaint yn ystod oes un dyn? Bellach, yn y bore bach, rhuai beiciau, modur a bysiau drwy'r pentref tua gwaelod Lôn Serth, rhuent yn eu holau gyda'r nos, ac yna rhuthrai ugeiniau o bobl i sinemâu Caer Heli, llawer o'r rhai ieuangaf yn prebliach Saesneg—os Saesneg y gellid galw'r peth. Ac yr oedd capeli Llan Feurig bron yn wag bob hwyr, fel temlau urddasol gwareiddiad a chrefydd a oedd ar fin trengi. Sardis y Bedyddwyr, Bethel y Wesleaid, Soar yr Annibynwyr, Siloam y Methodistiaid yr oeddynt i gyd yr un fath . . . Y gaeaf, y gaeaf . . . Yr oedd yn aeaf hefyd yng nghyfnod Whitefield a Howell Harris a John Wesley, a rhyfyg ar ran neb yn yr oes debyg honno fyddai proffwydo gwanwyn a chlywed trwst cerddediad ym mrig y morwydd . . . Ia, mawr a rhyfedd oedd ei weithredoedd Ef . . .

Heb ei ddisgwyl, heb ei adnabod efallai, y dôi'r deffroad. A aeth heibio oes y capelau mawr, y pregethau mawreddog, y cyrddau aml a ffurfiol, y parchusrwydd esmwyth? A fyddai angen gweinidog yn Siloam ym mhen hanner canrif arall? Neu a fyddai neges y Galilead fel cynt yn dân yng nghalon cwmnïau bychain o wŷr a golau datguddiad dwyfol yn eu trem? Ia, i gwmni bychan o rai eithaf disylw y rhoes Ef ei gomisiwn mawr, "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Ac efallai nad yn Siloam neu Sardis neu Soar neu Bethel y cyfarfyddai'r gwŷr ifainc hynny, ond mewn ystafell seml a phlaen-ba waeth petai'n ddim ond ysgubor heb na Sêt Fawr na phulpud? Mewn ystafell felly y clywodd y cwmni bychan hwnnw gynt am ysbryd a'i nerthai i dystio "yn Jerwsalem a Samaria, a hyd eithaf y ddaear." Beth bynnag a ddygai'r dyfodol, meddyliodd yr hen weinidog, yr oedd un peth yn sicr : y llyfr a fu ar agor ym mhob oedfa yn Siloam a Sardis a Soar a Bethel fyddai sail y gweithgarwch newydd hwn . . . Ia . . . "Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod . . ."

Torrodd sain pib ar draws ei feddyliau, ac ymhen ennyd daeth ei wraig a'i wyr i mewn i'r stydi.

"Hylô, lle cest ti'r bib 'na, Meurig?"

"Ffowc y Saer roth hi imi, Taid."

"Un dda ydi hi hefyd, yntê, fachgan?" meddai'r hen ŵr gan ei chymryd yn ei ddwylo a syllu'n edmygol arni. "Mae o'n un clyfar efo'i law, mae'n rhaid. 'Roedd 'i daid o yr un fath." "Mae o am fy nysgu i i'w chanu hi'n iawn, medda fo." "Ac mi wneiff Ffowc hefyd, wsti, os ydi o wedi gaddo . . . Wel, Mary, sut oeddach chi'n gweld Myrddin?"

"Go gwla ydi o, Owen. Ac mi aeth yn reit gas efo Meurig bach gynna'."

"Efo Meurig? Pam?"

"Pan ddaru o ddechra' canu'r bib 'na yn y llofft . . . Wel, be' ydach chi wedi bod yn wneud?"

"Synfyfyrio wrth y tân 'ma, mae arna' i ofn."

"A finna'n meddwl eich bod chi am sgwennu tipyn o'ch atgofion."

'Ron i wedi bwriadu mynd ati, hogan. Own, wir, ond . . .

"Ond be', Owen?"

"Prin y basa' gan neb ddiddordab yn fy nhipyn profiada' i." Syllodd yn dyner arni, yna ar Feurig, ac wedyn crwydrodd ei lygaid tua llun Arthur, tad y bachgen, ar y mur. "Ac eto . . . 'Wn i ddim, Mary . . . 'wn i ddim . . . "