Y Cychwyn/Pennod 8

Oddi ar Wicidestun
Pennod 7 Y Cychwyn

gan T Rowland Hughes

Epilog


𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 8

Y DREFN, yr Iawn, Etholedigaeth, Prynedigaeth, Cadwedigaeth trwy Ras, trwy Ffydd, a geiriau cyffelyb—bron nad aethent yn angof bellach, meddyliodd yr hen weinidog. Llithrasent fel dail yr hydref ar afon y blynyddoedd, i'w cludo ymaith gyda'r llif. Yr hydref . . . yr hydref.

Ai yn hydref crefydd y magwyd ef? A bod yn onest, ychydig a olygai'r ymadroddion hynny iddo, llai fyth i'r mwyafrif a adwaenai yn y capel a'r chwarel. Crinddail oeddynt, ac oddi tanynt yr afon ddiymdrech, ddi—stŵr, yn treiglo'n hamddenol i'r gwyll.

Wedi'r hydref, y gaeaf a'i niwl a'i oerfel a'i foelni a'i ystormydd . . . Yr oedd Siloam yn awr heb weinidog, a dim ond dyrnaid a ddôi yno ar fore Sul a noson waith, ychydig mwy ar nos Sul, pobl mewn oed bron i gyd. Capel hardd . . . capel hardd. Diar, yr oedd o'n cofio amser . . . Ysgydwodd yr hen ŵr ei ben yn llwm.

Diolch na welodd yr hen Elias Thomas mo'r dadfeiliad hwnnw. Ac eto, hyd yn oed yn y dyddiau pell hynny, yr oedd yr ysgrifen ar y mur . . . Oedd, yn nifaterwch Wil Cochyn a llanciau tebyg, yn nhriciau Myrddin i osgoi mynd i'r capel, yn amheuaeth a gwawd ambell un fel Rhiannon Morris. Ia, yn Rhiannon efallai yn fwy na neb . . .

Ymhen tua deng niwrnod ar ôl arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, derbyniodd Owen lythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cyfarfod Misol i'w hysbysu iddo fod yn llwyddiannus ac yn gofyn iddo pa gwrs pellach y bwriadai ei ddilyn. "Amgauaf gopi o restr Arfon, Llŷn ac Eifionydd fel y cyhoeddir hi yn y rhifyn nesaf o'r 'Goleuad'," meddai'r llythyr. "Gwelwch mai eich enw chwi yw'r ail arni, a phleser digymysg yw eich hysbysu i'r arholwyr roddi canmoliaeth uchel iawn i'ch gwaith yn y ddau bwngc." Sylwodd Owen nad oedd enw Jeremiah Roberts yn y rhestr o gwbl.

Wel, dyna'r arholiad yna drosodd unwaith ac am byth, meddyliodd. Yr oedd y ffordd yn glir o'i flaen yn awr. Galwai i weld Mr. Roberts yr athro, i ofyn am ei gymorth efo rhai o'r testunau, Mathemateg a Saesneg yn arbennig, a daliai i bydru ar y Roeg a'r Lladin bob cyfle a gâi. Rhaid iddo astudio'n galetach nag a wnaethai'n ddiweddar: rhywfodd, ac yntau heb fod yn cyrraedd adref o'r chwarel tan hanner awr wedi pump a'r nosweithiau braf yn ei wahodd wedyn i grwydro efo Mary hyd lethrau'r Fron neu wrth lan yr afon, ychydig iawn o sylw a roesai i'w lyfrau ers dyddiau lawer. Ailgydiai ynddynt heno nesaf.

"Brysia tros dy swper-chwaral iti gael newid a mynd i ddangos y llythyr i Mr. Morris y gweinidog," meddai'i fam. "Ond Taid, nid Mr. Morris, ddaru fy helpu i efo'r arholiad yna, 'Mam."

Pesychodd Owen Gruffydd braidd yn bwysig. "Ia," meddai, "ond mae'n well iti alw ym 'Mryn Myfyr' yr un fath, wel'di. Mi fydd o'n teimlo os bydd rhywun arall yn torri'r newydd iddo to. Mae amball un dipyn yn groen-dena", wsti."

"Ac wedyn mi gei fyd i dŷ Lias Tomos," ebe'i fam. "Mi fydd yr hen ŵr wrth 'i fodd."

Wedi iddo ymolchi a newid, brysiodd Owen i dŷ'r gweinidog. Rhainnon, y ferch, a atebodd y drws, ac arweiniodd ef i'r parlwr. "Mr. Jones, Sardis, newydd alw i weld Daddy," meddai.

"Ond 'fydd o ddim yn hir, mae'n debyg."

"Pryd daethoch chi adra', Rhiannon?"

"Neithiwr."

"Y Coleg wedi torri?"

"Ddim eto. Mi fethis i fynd ymlaen efo f'ecsams, ac mi baciodd y Doctor fi adra'. Niwsans, yntê?"

"Be' oedd yn bod? Wedi gorweithio?"

"Ia, medda'r Doctor. Y nerves." A chwarddodd, gan geisio ymddangos yn ddiofal. Ond sylwodd Owen fod ei hwyneb yn llwyd iawn a'i symudiadau'n anniddig.

"Rhaid i chi gymryd gofal. Mae'r iechyd mor bwysig å dim, wchi." Bu bron iddo ag ychwanegu, "Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

Chwarddodd hi eto. "Lle mae'ch locsyn chi?" gofynnodd.

"Locsyn?"

"Ia. "Rydach chi'n swnio yr un fath yn union â Daddy...

Dwad i wneud tipyn o Greek ydach chi heno?"

"Naci, dim ond i ddangos llythyr ges i oddi wrth Ysgrifennydd. y Cyfarfod Misol yn deud imi lwyddo yn arholiad yr Ymgeiswyr." Tynnodd ef o'i boced.

"O, da iawn, Owen. 'Ga' i 'i weld o?"

"Cewch, 'nen' Tad."

Gwyliodd hi yn ei ddarllen. Nid oedd hi chwarter mor ddel a'r ferch y syrthiasai Wil Cochyn ac yntau a bechgyn eraill mewn cariad â hi ers talm. Aethai'n denau, yn llym yr olwg, gwisgai sbectol, a chlymai'i gwallt syth yn belen ddiramant tu ôl i'w phen. A siaradai'n bendant, gan dorri'r geiriau'n gwta, fel ysgolfeistres yng ngŵydd plant. Na, ni ddrylliai Rhiannon lawer o galonnau bellach.

"Ia, wir, da iawn, Owen. A be' fydd yr ecsam nesa'?"

"Yr arholiad i fynd i'r Coleg, ymhen dwy flynadd ne' dair." "At hwnnw yr ydach chi'n dysgu'r Greek a'r Latin?"

"Ia. A rhaid imi weithio ar Saesneg a Chymraeg a Maths a..."

"Maths? Dim Science?"

"Na, 'dydi Science ddim yn un o'r testuna', diolch am hynny."

"Diolch am hynny? Pam?"

"Wel, cyfla sâl sy mewn lle fel Llan Feurig . . . "

"O." Syllodd drwy'r ffenestr, a gwên braidd yn fingam ar ei hwyneb.

"Pam ydach chi'n gwenu, Rhiannon?"

"Dim ond bod gin' i bee in my bonnet ar y mater yna. Mi ddyla' pob pregethwr astudio Science." Swniai'n ddeddfol ar y pwnc.

"O? Pam, deudwch?"

"Ydach chi wedi darllan Darwin?"

"Darwin? Naddo, wir, wchi."

"'The Origin of Species'? Descent of Man'?"

"Naddo."

"Na Daddy chwaith, er imi ddŵad â'r ddau iddo fo o Lundain. Mae o'n gwrthod 'u darllan nhw. None so blind as he that will not see, yntê?" Chwarddodd wrth ychwanegu. "Y Beibil ydi'i lyfr o, ac mae o'n 'i goelio fo bob gair!"

Ai mwgwd oedd y pwl hir o chwerthin? Teimlai Owen fod ei llygaid yn ei wylio, fel petai hi'n chwarae ag ef. Clywsai ganwaith fod Rhiannon Morris yn "hogan ofnadwy o beniog," ond ni welsai ef ddim anghyffredin ynddi pan ddigwyddasai daro arni ar y ffordd neu wrth y capel a sôn am ei hiechyd neu'r tywydd neu gryd-cymalau'i mam. Ond yr oedd arno'i hofn. yn awr, a gwrandawai'n astud gan obeithio bod gweinidog y Bedyddwyr yn cychwyn ymaith o'r ystafell nesaf, y stydi. "Ydach chi'n cofio 'Rhodd Mam'?" gofynnodd hi, gan chwerthin eto.

"Ydw', debyg iawn."

""O ba beth y gwnaeth Duw y ddaear?" Gofynnodd y cwestiwn mewn llais dwfn, pregethwrol, ac yna gwnaeth lais plentyn yn adrodd ar goedd wrth ateb, "O ddim."" A'r un modd gyda "Mewn pa faint o amser y gwnaeth efe bob peth? 'Mewn chwe diwrnod.""

Ni ddywedodd Owen ddim, ond teimlai'r gwrid ar ei wyneb

a'r gwaed yn curo yn ei dalcen. Yr oedd y cellwair hwn yn ei ddychrynu, yn... yn rhywbeth aflan.

"A'r 'Hyfforddwr'?"

"Ydw', wrth gwrs."

"'O ba beth y gwnaeth Duw Efa?' 'O asen Adda tra yr oedd ef yn cysgu.'! Wel, wir! 'Tasach chi'n clywad Mr. Radcliff ar betha' fel yna!"

"Mr. Radcliff?"

"Dyn sy'n aros yn yr un tŷ â fi yn Llundain. Lecturer mewn Geology."

"O... 'Ydi... 'ydi'ch tad yn gwbod am y syniada' yna sy gynnoch chi?"

"O, mae Daddy'n hopeless. Hopeless! But he's a dear all the same. 'Rydw i'n siarad am bob dim ond crefydd efo Daddy.

Ac yn edrach mor solemn ag y medra' i yn y capal... Mi ro' i fenthyg llyfra' Darwin i chi, ac mae gin' i un o rai Huxley ac un . . ."

"Dim, diolch yn fawr, Rhiannon." Cododd Owen i gychwyn ymaith.

"'Oes arnach chi 'u hofn nhw, Owen ?"

Yr oedd y wên fingam ar ei hwyneb eto, yn watwar ac yn her. Chwarddodd yntau, gan ddiystyru'r cwestiwn a symud tua'r drws.

"Mi alwa' i cyn capal nos 'fory i weld eich tad."

"'Oes arnach chi 'u hofn nhw, Owen?"

Gwyddai ef mai'r ateb oedd "Oes." Yr oedd ef, fel ei thad, yn credu'r Beibl i gyd-bron i gyd, beth bynnag, ac 'roedd ganddo ddigon i boeni yn ei gylch heb ddechrau brwydro yn erbyn amheuon fel y rhai a oedd yn ei meddwl hi. Pam na rôi'r "bitsh bach" lonydd iddo?

"Ac mae'n debyg eich bod chi'n credu bod pob iaith wedi dŵad o Dŵr Babel? Ac mai effaith y Dilyw ydi'r fossils sy yn y creigia' 'ma? Ac mai..."

"Mi ddarllena' i'r llyfra' 'na pan fydd gin' i fwy o amsar, Rhiannon. A 'rŵan, rhaid imi fynd. Mae arna' i isio mynd cyn bellad â'r Tai Gwyn i weld Lias Tomos."

"Yr hen Lias druan!" A chwarddodd hi'n dosturiol wrth feddwl amdano.

Caledodd llygaid Owen. Petaet ti'n Herbert neu'n Jeremiah Roberts, 'ngeneth i, meddai wrtho'i hun, 'fuasai'r wên yna ddim ar dy wyneb di'n hir iawn.

"Y tro dwytha' yr on i gartra', 'roedd yr hen Lias un noson. yn y Seiat yn trio dangos mor hen oedd y byd. Chwe mil o flynyddoedd, medda' fo! Chwe mil o flynyddoedd! Ac wedyn mi ddechreuodd sôn am y Dilyw a Jona'n casglu'r ani— feiliaid i'r arch . . . "

"'Ron i'n meddwl mai Noa adeiladodd yr arch."

"O ia, dyn y morfil oedd Jona, yntê? . . . 'Ron i isio gofyn iddo fo sut y medrodd Noa gael lle i'r eliffant a'r giraffe a'r . . . "

"Ydach chi'n 'nabod Lias Tomos, Rhiannon ?" Yr oedd ei lais yn crynu er ei waethaf.

"I 'nabod o? Be' ydach chi'n feddwl?"

"Dim ond 'mod i wedi gweithio yn yr un wal â fo ers chwe blynadd."

"Wel?" Ceisiai wenu ond methai.

"Ac wedi'i gael o'n Gristion ac yn sant drwy'r amsar. Pan oedd y graig yn un dda a phan oedd gwnithfaen yn rhedag drwyddi. Ar dywydd braf a phan oedd o'n gorfod troi adra'n gynnar, yn wlyb at 'i groen ac yn crynu yn yr oerfal."

"O, fair play, 'doeddwn i ddim yn

"A chrefydd a'r Beibil sy wedi'i wneud o yr hyn ydi o . . .

'Ydi Mr.— be' oeddach chi'n 'i alw fo, hefyd? . . . "

"Mr. Radcliff?"

"Ia. 'Ydi Mr. Radcliff yn byw'n fain weithia' er mwyn medru cyfrannu'n o lew at achosion da?"

"Dydi Mr. Radcliff ddim yn mynd ar gyfyl capal." Swniai fel petai hynny'n rhoi urddas ar y gŵr.

"Mae 'na achosion da tu allan i'r capal, ond oes?"

"Oes, ond yn Llundain . . . "

"Yn enwedig mewn lle fel Llundain, 'faswn i'n meddwl . . .

'Ydi Mr. Radcliff yn aros ar 'i draed y nos weithia' efo rhywun sål, fel y bydd yr hen Lias Tomos yn amal? Ydi Mr. Radcliff . . . ?"

Ond agorodd y drws a daeth y gweinidog i mewn atynt. "O, dyma chi, Owen! Yr oeddwn i'n meddwl mai . . . ym . . . chi glywais i'n curo gynna'. Ddrwg gen' i i chi orfod aros cyhyd. Ond mae Rhiannon wedi'ch cadw chi'n ddiddig, yr ydw' i'n siŵr."

"Ydi, diolch, Mr. Morris. Sgwrs ddiddorol, ddiddorol iawn, wir."

"Da iawn . . . Hylô, o b'le daeth y rhain, Rhiannon?"

Edrychai ar hanner dwsin o afalau a oedd ar y bwrdd. "Ydi pobl wedi . . . ym . . . dechrau clywed yn barod eich bod chi'n sâl?"

"Ydyn', mae'n amlwg. 'Fala' cadw o ardd yr hen . . ."

Arhosodd hi ennyd gan wrido.

"Yr hen Lias Tomos, yr ydw' i'n siŵr," ebe Owen, gan wenu arni.

"Ia." Ond ni wenai'n ôl.

Er hynny, ei feddwl ef ac nid ei meddwl hi a oedd yn fawr ei gynnwrf.

"Campus, Owen, campus," meddai Ebenezer Morris wedi iddo ddarllen y llythyr yn y stydi. "Ia, wir ; ia, wir. Yr wyf yn falch dros ben, dros ben—er fy mod i'n . . . ym . . . gwybod ymlaen llaw."

"O?"

"Mi ddigwyddais daro ar . . . ym . . . un o'r arholwyr, y Parch. Esmor Jones, ar blatfform Caer Heli y Sadwrn dwytha'. Y safon yn uchel, yn uchel iawn, medda' fo . . . A 'rŵan . . . ym . . . y cwrs yr ydych am ei ddilyn. 'Roedd y Parch. Esmor Jones a minnau'n . . . ym . . . cytuno y dylech chi fynd i'r Ysgol Ragbaratoawl."

"Ond yr ydw' i wedi penderfynu . . . "

"Ydych, mi wn, ydych. Ond yr wyf yn gobeithio eich bod yn barod i . . . ym . . . ailystyried. Pan oeddach chi gartia'n segur yn ystod y tywydd oer y daethoch chi i'ch . . . ym. penderfyniad, onid e? Pan oedd y dydd ar ei hyd gennych i . . . ym . . . lafurio ynddo. Ia . . . ia . . . "

"Mi fedra' i weithio tan hannar nos yn iawn heb flino." Sylweddolodd ei fod yn swnio'n herfeiddiol, fel petai'n siarad â Rhiannon o hyd ac nid â'i thad.

"A chodi wedyn yn y bore bach? Na, 'wnaiff hynny mo'r tro o gwbl, ddim o gwbl. Mens sana in corpore sano, meddai'r hen Rufeiniaid, onid e? 'Meddwl iach mewn . . . . ym . . . corff iach.' Ia. . .ia."

"Mi ga' i help Mr. Roberts yr Ysgol efo'r Mathematics a'r Saesnag, yr ydw' i'n siŵr, ac os bydd rhaid, mi fedraf aros gartra' am ryw fis cyn yr arholiad, on' fedraf?"

Safai'r gweinidog yn anniddig wrth y ffenestr, a'i gefn at Owen. Troes yn awr a cherddodd i'w gadair gan fwmian, "Ia . . . Ia, wir." Yna ymwrolodd.

"Mae materion . . . ym . . . personol yn rhai anodd i'w trin. Ydyn' . . . ym . . . anodd iawn, ac yr wyf yn gobeithio y maddeuwch imi am . . . Pam ydych chi mor benderfynol ?"

"Wel, yr ydw' i'n meddwl y medra' i basio . . . "

"Medrwch, ar draul eich iechyd, ar draul eich iechyd."

"Ac mae . . . mae arna' i isio profi y gall hogyn o chwarelwr . . . " Tawodd, heb wybod yn iawn pa beth yr hoffai ei brofi. Ar y sgwrs a gawsai yn yr ystafell nesaf yr oedd ei feddwl.

"Amcan cymeradwy, cymeradwy iawn. Ond . . . ym . . . mi wyddoch fod y rhan fwyaf o'r myfyrwyr yn medru cynnal eu hunain—wel, bron iawn, beth bynnag—drwy bregethu?"

"Ydyn', ond ydyn'?" Mater dibwys oedd hwnnw, meddai tồn ei lais.

"Yr oedd y Parch. Esmor Jones a minnau'n . . . ym . . . cytuno y byddech chi, ond i chi gael dwy flynedd yn yr Ysgol Ragbaratoawl . . . "

"Tair, yntê, Mr. Morris?"

"Tair yw'r cwrs arferol. Yr oeddym ni'n cytuno—ac fe wrandawai'r Parch. Ellis Edwards ar ein . . . ym . . . argymhelliad —y byddai dwy flynedd yn ddigon i chi, ac y byddech chi'n weddol sicr wedyn o basio i'r Coleg. Ac os mai mater o . . . ym . . . fodd sy'n rhwystr, y mae ffyrdd i . . . ym . . . "

"O na, nid hynny, nid hynny o gwbwl, Mr. Morris. Yr ydw' i'n greadur go ystyfnig, mae arna' i ofn, yr un fath â 'nhaid. Unwaith yr ydw' i wedi penderfynu profi rhwbath i mi fy hun . . . " A chwarddodd fel y codai i gychwyn ymaith.

Aeth y gweinidog gydag ef i'r drws ffrynt, ac oedodd yno'n ei wylio'n cerdded yn dalog i lawr y stryd. Hm, anodd gwybod beth i'w wneud. Yr oedd Elias Thomas a Richard Owen mor bendant fod yr amgylchiadau'n . . . ym . . . gyfyng yn Nhyddyn Cerrig . . . Anodd iawn . . . anodd iawn.

"Y cnafon dichellgar!"

"Pwy, Taid?"

"Tacla'r Fall!"

"Pwy?"

"Yr hen lymgwn!"

Nos Fercher tua phythefnos yn ddiweddarach ydoedd, a rhythai Owen Gruffydd yn chwyrn i'r copi o'r "Faner" a gawsai Owen gan Mr. Roberts yr athro. "Mae isio boddi'r giwed," chwanegodd.

"Y Toris 'na, ia?"

"'Y Toris 'na, ia ?' Paid â swnio fel 'taet ti'n sôn am bobol Tai Gwyn neu ddynion Ponc Rowlar. Ia, y Toris 'na. A Chamberlain a'i Ryddfrydwyr Undebol hefyd."

"Be' maen' nhw wedi'i wneud, Taid?"

"Gwneud! Gwneud! Chdi a'th Fathematics a'th hen Saesnag! Wedi taflu'r Llywodraeth allan, dyna be'. Llywodraeth dda hefyd, er mai siawns sâl gafodd hi, a'r hen Dŷ'r Arglwyddi 'na'n gwrthwynebu pob mesur. 'Ron i'n licio'r Arglwydd Rosebery fel Prif Weinidog, mae'n rhaid imi ddeud, er 'i fod o mor wahanol i'r hen Gladstone ac yn rhedag ceffyla' yn y Darbi a phetha' felly. Cael 'i tha flu allan 'rŵan, 'rŵan o bob adag! A mesur Dadgysylltiad wedi cael ail ddarlleniad ! A Dirprwyaeth y Tir wrthi'n paratoi'i adroddiad! A Dewisiad Lleol a diwygiad Dirwestol yn yr arfaeth! A hogia' fel Tom Ellis a Lloyd George a Herbert Roberts yn barod i herio galluoedd yr hen Arglwyddi 'na a gyrru'u Tŷ nhw'n bendramwnwgl os bydda' raid! 'Rwan! 'Rŵan o bob adag!"

"Be' sy wedi digwydd, Taid?"

Aethai Owen Gruffydd yn ŵr cignoeth ers tipyn bellach, yn arbennig er pan ddechreuasai Owen astudio Mathemateg a Saesneg yn ogystal â Groeg a Lladin. Ni wyddai ef ddim am y testunau hynny, a theimlai'n ddig wrth weld ei wyr yn llithro'n fwyfwy o'i afael ef. Ffrwydrai ar yr esgus lleiaf, a ffrwydrodd yn awr.

"'Waeth gin' i pa mor glyfar wyt ti mewn Mathematics a Saesnag a phetha' felly. Ddim hyn'na." A chleciodd ei fawd. "Os wyt ti'n meddwl bod rheini'n mynd i dyfu'n rhyw fath o gicaion Jona uwch dy ben di . . . "

"O, chwara' teg, Taid, 'chlywis i ddim sôn am y Lecsiwn tan bora ddoe yn y chwaral . . ."

"Y?"

"Chlywis i ddim . . . y . . . Fel y gwyddoch chi . . . "

"Bora ddoe ddeudist ti?

Bora ddoe? A soniaist ti ddim. gair wrtha' i neithiwr. Oni bai i Wil Llefrith ddigwydd crybwyll y peth bora 'ma... Hy, yr ydw' i fel pelican yr anialwch a dylluan y diffeithwch yn y lle 'ma."

"Wel... y... mi wyddoch ar gymaint o frys yr on i i fynd at Mr. Roberts am awr cyn y Seiat. A phan ddois i adra' o'r capal, yr oeddach chi'n hwylio i'ch gwely, ond oeddach?"

"Tyt!" Sorrodd, gan syllu i'r grât a dechrau ymgomio ag ef ei hun ac â chynulleidfa ddychmygol. "Beth sy'n mynd i achub Cymru, meddwch chi? O, Mathematics a Saesnag. Fe fu amsar pan oedd hi'n fraint cael brwydro tros Ryddfryd- iaeth a Dirwest a buddiannau'r werin ac yn erbyn yr hen Eglwys- wyr 'na. Do, wchi, ond 'rŵan, Mathematics a Saesnag. Trin figura' a gwybod yr iaith fain, hynny sy'n bwysig, bobol. 'Synnwn i ddim na fydd 'na argyfwng yn hanas Cymru 'rŵan ar ôl yr Etholiad 'ma. Ond na phoenwn; mae gynno' ni Fathe- matics a Saesnag, ond oes? Efalla' y bydd yr hen Doris 'na, yn Arglwyddi a meistri tir a phersoniaid a bragwyr, yn ennill buddugoliaeth fawr. Ond na hidiwn: mewn Mathematics a Saesnag mae'n diddordab a'n hiachawdwriaeth ni. Efalla'..."

"Amdanach chi yr oeddan' nhw'n sôn yn y caban awr ginio hiddiw, Taid." Honno, meddyliodd Owen, oedd y ffordd orau i atal y llif.

"O?"

""Piti na fasa' Owen Gruffydd yn 'i nerth,' meddan' nhw. 'Mi rôi o Doris iddyn' nhw!' Benja Williams yn eich cofio chi'n gafael yn yr hecliwr hwnnw wrth 'i golar a phen ôl i drowsus..."

"He ! He, he !" Chwarddodd uwch yr atgof; yna ffromodd drachefn fel y rhythai eto ar y papur. "Dadla' ynghylch yr arian i'r Fyddin yr oeddan' nhw, a chan nad oedd y peth yn bwysig, ychydig oedd yn y Tŷ. Ond dyna bob cadno o Dori ac Undebwr yn sleifio i mewn, amryw drwy'r drws cefn, pan ganodd y gloch. Y tacla' digydwybod! Cenhedlaeth gwiberod!"

Ond gwr llesg oedd yr hen wrthryfelwr mwyach, a suddodd yn ôl i'w gadair yn flinedig. Ac yno y bu raid iddo aros, yn gwrando o hirbell bob hwyr ar leisiau croch yn cyhoeddi mai William Jones oedd y gora', y gora', y gora', y G-O-O-RA. Sylwai pawb mor anniddig ydoedd, fel ci methedig yn ffroeni'r helfa ac yn gynnwrf i gyd, ond yn rhy wan bellach i ymuno â'r cyrch. Er bod y tywydd yn braf, ni chaniatâi'r meddyg iddo fynd i'r cyfarfodydd a gynhelid yn yr ysgol, neu ar y codiad tir wrth yr eglwys. Byddai'n siŵr o flino ac oeri yno, meddai, ac yr oedd hynny'n berygl bywyd iddo; ond y gwir reswm oedd y gwyddai'r Doctor Williams mai ar y llwyfan yn ymfflamychu y ceid ef ped âi cyn belled. Felly, gorfu i Owen Gruffydd fodloni ar lunio areithiau ysgubol yn y tŷ a'i ddychmygu ei hun yn eu traddodi â holl angerdd a hwyl ei ddyddiau gorau.

Tan y noson honno pan alwodd William Jones, yr Ymgeisydd Rhyddfrydol, yn Nhyddyn Cerrig.

Nos Wener ydoedd, a phan gyrhaeddodd Dafydd ac Owen y pentref o'r chwarel yr hwyr hwnnw, rhuthrodd Myrddin atynt yn gyffrous allan o Manchester House.

"Mae o yn tŷ ni," meddai.

"Pwy?"

"William Jones. I weld Taid."

Ac yno yr oedd, yn y gegin, yn taflu'i ben hardd i fyny wrth chwerthin yn galonnog am ben rhywbeth a ddywedasai Owen Gruffydd wrtho. Dyn gweddol dal, tenau, sydyn, ydoedd, a'i wallt du wedi'i gribo'n ôl yn llyfn a'i farf gringoch wedi'i thorri'n ofalus. Yr oedd, meddyliodd Owen, yn tynnu at ei ddeugain oed, ond gwnâi'r llygaid gleision llawn chwerthin iddo ymddangos lawer yn ieuangach y munud hwnnw. Pan giliodd y chwerthin ohonynt ac y cododd ef i ysgwyd llaw â'r ddau chwarelwr, sylwodd Owen mor dreiddgar oedd y llygaid hynny. "Yr ydw' i wedi clywad llawar amdanoch chi, hogia'," meddai. "Yn nhŷ'r Parch. Ebenezer Morris. Yno yr ydw' i'n aros heno . . . Ond ewch chi at y bwrdd. 'Rydach chi isio bwyd, mi wn, ac mae 'ogla' bendigedig ar y lobscows 'na."

"Mae croeso i chi gael platiad efo nhw, Mr. Jones," meddai Emily Ellis.

"Dim, diolch yn fawr, Mrs. Ellis. 'Does dim llawar er pan ges i de efo Mr. a Mrs. Morris a'r ferch." Clywsai Owen lawer amdano yntau o dro i dro ymhlith ei gydweithwyr, yn arbennig y flwyddyn gynt pan bleidleisiwyd ar ei enw fel Ymgeisydd Rhyddfrydol. Clywsai am ei huodledd a'i ynni a'i ddysg, ond cofiai hefyd i'w wrthwynebwyr ei alw'n "anffyddiwr" ac yn "bagan" a phethau tebyg, gan atgofio byd a betws iddo gael ei ddiaelodi o gapel Cymraeg yn Llundain am ei fod, meddent hwy, yn anuniongred fel athro Ysgol Sul, yn beirniadu'r Beibl, yn gwenwyno meddwl yr ifainc. A oedd gwir yn y cyhuddiad, tybed? A oedd ef, fel Rhiannon Morris, yn cael hwyl am ben yr Ysgrythur ac am ben hen grefyddwyr fel Elias Thomas? Na, ni allai dyn â llygaid mor ddidwyll, mor onest, mor eiddgar, fod yn euog o bethau felly. Os ydoedd yn anuniongred . . . ond ni hoffai Owen feddwl am hynny.

"O, ac un o Fôn ydach chi felly ?" ebe Owen Gruffydd, yn ailgydio yn y sgwrs.

"Ia, o Langefni. 'Wyddoch chi am yr ardal?"

"Gwn yn iawn. Mi fùm i'n pregethu yno droeon."

""Fuoch chi'n cerddad hyd ffordd Pen Mynydd o Langefni?"

"Do, 'nen' Tad, lawar gwaith." "'Roeddach chi'n mynd heibio i'r Ceint Bach, lle ganwyd fi. Ond bu 'nhad farw pan oeddwn i'n ddim ond teirblwydd oed, ac fe symudodd fy mam wedyn i fyw yn Llangefni."

"O . . . Ac ymhlith y doethion tua Rhydychan 'na yr ydach chi 'rwan ?"

"Ia, ers rhai blynyddoedd, ac yn Llundain cyn hynny."

"Tewch! 'Fydd dim hiraeth am yr hen wlad arnoch chi weithia', deudwch?"


"Bydd, wir, yn o amal. Yn enwedig am y bobol syml, garedig, grefyddol, y magwyd fi yn 'u plith. Mae gwerin Cymru'n un ragorach lawar na gwerin Lloegar, wyddoch chi."

"Wel, mi gewch gyfla i wasanaethu'r werin honno 'rŵan."

"Os llwydda' i i fynd i mewn, yntê?"

"Llwyddo? A'r chwarelwyr yn un corff o'ch plaid chi? Gwnewch debyg iawn. Mae petha' wedi newid erbyn hyn, a'r hen ofn wedi cilio."

"Ofn y meistri? 'Wn i ddim."

"Mae 'na gynffonwyr yn aros, ond ychydig ydyn nhw bellach, o gofio fel yr oedd petha' yn y chwareli 'ma ugain a hyd yn oed ddeng mlynadd yn ôl. Diar, cyn y Balot Act 'doedd. Etholiad yn ddim ond gwatwareg noeth. Mi fydda' Jones-Parry, ac weithia' yr hen Feyricke 'i hun, wrth y bwrdd yn gwylio ac yn gwrando, a thruan o'r gweithiwr a beidiai â dŵad i fotio neu a rôi bleidlais i'r Rhyddfrydwr."

"Fel y gwyddoch chi o brofiad, Mr. Gruffydd."

"Ia, ond 'fu petha' ddim yn wir ddrwg arna' i, fel ar ugeinia' o rai eraill. Pam, 'wn i ddim, os nad oeddan' nhw'n gobeithio rhoi cwlwm ar fy nhafod i. 'Ches i mo'm troi i ffwrdd o'm. gwaith, a 'doeddwn i ddim yn talu rhent i Meyricke, diolch am hynny. Ne' yn y 'Mericia ne' Awstralia ne' rywla y baswn i ers blynyddoedd lawar."

Cododd William Jones i gychwyn ymaith. "Roedd yn wir ddrwg gin' i glywad am eich afiechyd chi," meddai, "ac na fyddech chi yn y cyfarfod heno."

"'Tawn i'n cael fy ffordd, mi faswn ym mhob cyfarfod," ebe'r hen ŵr yn chwyrn. "Ond mae'r Doctor yn gwahardd imi fynd allan gyda'r nos. Yr hen Dori bach!"

"Pam ydach chi'n deud hynny, Taid?" gofynnodd Dafydd.

"Be' ydi o 'ta'?"

"Wn i ddim, wir. 'Dydw' i ddim yn meddwl bod gan y Doctor Williams ddiddordab mewn gwleidyddiaeth."

"Paid di â bod mor siŵr, 'machgan i. Mae'r Torïaid 'na'n rhai cyfrwys, wsti. 'Rydw' i'n cofio'r hen Ddoctor Jones, oedd yma o'i flaen o, yn rhoi coes Ifan Morgan, Llwyn Bedw, mewn splints am wythnos amsar Etholiad. Ac 'roedd Ifan, y Rhyddfrydwr mwya' penboeth yn y lle 'ma, yn sicr mai dim ond tipyn o gryd-cymala' oedd ar 'i goes o. 'Synnwn i ddim nad ydi'r Doctor Bach 'na yn fy nghadw inna' . . . "

"Lol botas," meddai Dafydd.

Chwarddodd William Jones, ac yna ysgydwodd law a'r hen ŵr. "Rhaid imi fynd," meddai. "Mae arna' i isio galw mewn un neu ddau o lefydd eraill cyn y cyfarfod."

"Gwyn yw'ch byd chi," ebe Owen Gruffydd, gan ddal ei afael yn ei law. "Ymladdwch, ymladdwch dros Gymru yn y Senedd 'na. Beth bynnag fydd y Llywodraeth, Rhyddfrydig neu Dori, fe ddaw mesur ymreolaeth i Iwerddon ymlaen ynddi. Brwydrwch trosto fo â'ch holl egni, ac wedyn gweithiwch dros fesur tebyg i Gymru. A dynion ifainc fel Tom Ellis a Lloyd George a chitha' yn y Tŷ, yr ydw' i'n gweld cyfnod newydd yn agor yn hanes yr hen wlad. Bendith arnoch chi, 'machgan i, bendith arnoch chi."

"Diolch yn fawr." Ysgydwodd law â'r fam ac â Dafydd, ac yna gwasgodd law Owen yn hir. "I fyny bo'r nod, Owen," meddai. "Pethau i'w goresgyn ydi anfanteision, yntê? 'Work and go onward,' chwedl yr hen Garlyle."

Cychwynnodd Owen gydag ef tua'r drws, gan feddwl ei ddanfon at y ffordd, ond camodd Dafydd rhyngddynt. "Dos di i newid, Now bach," meddai. Mi â i cyn bellad â'r giât efo Mr. Jones."

"Na, mi . . ." "Dos, 'rŵan, 'r hen ddyn. Mae arna' i isio gair efo Mr. Jones. Am yr Undab."

"O, o'r gora', Dafydd."

Yn fuan wedi iddynt fynd allan rhuthrodd Myrddin i mewn o'r siop.

"Dew, mi fydd 'na le ar y Boncan heno," meddai.

"Pam?" gofynnodd ei daid.

"Pam! Maen' nhw'n cael cwrw'n rhad ac am ddim yn y Crown."

"Pwy?"

"Rhywun sy 'i isio fo. Ac wedyn maen' nhw'n mynd i'r cwarfod i godi twrw. Y Toris wedi gyrru dau faril i'r Crown pnawn 'ma, dyna glywis i."

Cododd Owen Gruffydd o'i gadair ac aeth at y ffenestr i rythu'n chwyrn tua'r pentref.

"Yn union fel nhw," meddai. "Tawn i ugain mlynadd yn 'fengach, mi faswn yn mynd i'r hen dafarn 'na ac yn 'u chwipio nhw allan fel y gyrrodd y Gwaredwr y cyfnewidwyr o'r Deml."

"Peidiwch chi â chynhyrfu, 'rŵan, 'Nhad," ebe'i ferch wrtho. "Dowch i'ch cadair. A chyda llaw, mae'n amsar i chi gael eich ffisig."

"Ffisig! 'Dydw' i ddim isio ffisig y Tori bach. A chan feddwl, lliw y Toris sy arno fo. Teflwch o i'r cŵn."

"Rwan, Taid," ebe Owen. "Mae o'n gwneud lles i chi, mae'n rhaid i chi gyfadda'."

Dychwelodd yr hen ŵr gan rwgnach i'w gongl, yfodd y ffisig, ac yna suddodd yn ôl i'w gadair i gysgu tipyn. Cyn hir, aeth ei dri ŵyr ymaith yn dawel tua'r cyfarfod, a chludodd ei ferch y llestri i'r gegin fach i'w golchi. Agorodd y 'cysgwr' ei lygaid, cododd, cydiodd yn ei het a'i ffon, a sleifiodd ar flaenau'i draed o'r tŷ.

Gwnâi'r Boncen, codiad tir ychydig islaw'r eglwys, le gwych i gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored. Ar ei gwaelod yr oedd llwyfan wastad o graig, o flaen honno ris llydan lle gosodid cadeiriau i'r hen a'r methedig, ac yna dringai'r llechwedd las yn raddol tuag ysgwydd y bryncyn. Cariai llais yn rhyfeddol o rwydd a chlir i fyny'r llethr.

Pan gyrhaeddodd y tri brawd y cyfarfod, yr oedd y Cadeirydd, Ifan Morgan, Llwyn Bedw, wrthi'n dadlau'n chwyrn dros Fesur Tir a roddai i amaethwyr sicrwydd daliadaeth, rhent teg, ac iawn am y gwelliannau a wnaent ar eu ffermydd. Hen ŵr bychan ysgwâr, rhyfelgar, ydoedd, a wisgai glôs pen-glin ac uwchlaw iddo fwnci-siaced drwchus. Yr oedd ei wyneb yn goch a'i lais yn ofnadwy o gras. Gwyddai Owen yn dda pan oedd yn ieuangach am ddychryn y llais hwnnw. "Dowch yma, y diawliaid bach, imi gael eich blingo chi'n fyw," oedd y cyfarchiad a glywai Huw Rôb a Wil Cochyn ac yntau ers talm pan fentrent dros neu drwy glawdd un o gaeau Llwyn Bedw. Ni chofiai i un ohonynt erioed dderbyn y gwahoddiad, er taered ydoedd, a dysgodd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant ei gwrthod mor ddisylw ag yr oedd modd. Bellach, ei fab John a ddaliai Lwyn Bedw, ac fe'i mwynhâi'r hen Ifan ei hun yn bygwth blingo rhai o'i gyd-Gynghorwyr ar bwyllgorau'r Cyngor Sir. Chwifiai'i ddyrnau a bloeddiai yn awr wrth sôn am y Mesur Tir, ac yn reddfol, drwy rym arferiad, troes Owen ei ben ymaith, gan hanner-fwriadu ei gwadnu hi am ei fywyd. Ond yn lle dianc, cydiodd yn gyffrous ym mraich Dafydd. "Yr argian, yli, Dafydd, yli!"

Yn araf, ar bwys ei ffon, dringai Owen Gruffydd y ffordd tua'r Boncen.

"Dos i nôl un o'r cadeiria' 'na sy o flaen y llwyfan, Now bach. 'Waeth inni heb â thrio'i droi o'n ôl, wsti." A brysiodd Dafydd i lawr i'r ffordd.

Gan na ddringasai cyn belled ers tro byd, yr oedd yr hen ŵr yn falch o gael eistedd ar y gadair. Sychodd y chwys oddi ar ei dalcen gan anadlu'n gyflym, nodiodd braidd yn ffwndrus ar rai o'r bobl o'i gwmpas, a gwenodd tua'r llwyfan, lle codasai William Jones ei law mewn cyfarchiad. Tynnai Ifan Morgan at ddiwedd ei araith, ond yn y cynnwrf, yn lle ei gorffen yn daclus, galwodd ar "ein Hymgeisydd newydd, William Jones, Oxford," i annerch y dorf.

Mor rhwydd a diymdrech ei eiriau ! meddyliodd Owen: llithrent tros ei wefusau fel dŵr afonig drwy'r gro. Cytunai'r siaradwr â'r Cadeirydd ynglŷn â'r angen am y Mesur Tir: wedi'i fagu mewn ardal fel Llangefni, gwyddai'n dda am yr ansicrwydd a'r blinder a oedd ym meddwl llawer tyddynnwr a wariai'i elw ar wella'i dir. Heddiw, trwy lafur ac aberth, graen ar ffermdy ac anifail a chae a chlawdd: yfory, trwy drachwant neu fympwy'r perchennog, codiad yn y rhent neu orchymyn i ymadael. Yr oedd rhyw fath o sicrwydd yn hanfodol i fywyd, mor hanfodol â sylfaen i adeilad. Sicrwydd daliadaeth mewn tyddyn, sicrwydd cyflog mewn chwarel. Croesawai â'i holl galon y Ddirprwyaeth Dir a apwyntiwyd ddwy flynedd. ynghynt, a phan gyhoeddai'i hadroddiad, fe frwydrai ef, os câi'r cyfle, dros bob gwelliant a ysgafnhâi faich y tyddynnwr ac a ddileai ofn a phryder o'i fywyd. Ymladdai hefyd tros sicrwydd cyflog i'r chwarelwr.

"Y mae'n rhaid i feistr a Llywodraeth a phawb,' 'meddai, "gydnabod gwerth ac urddas y gweithiwr. 'Ddaw hynny ddim ar ddamwain, ohono'i hun, drwy ddisgwyl amdano fel am law neu dywydd braf. Rhaid i'r crefftwr syml a'r llafurwr cyffredin fagu nerth i fedru sefyll yn gadarn dros eu hawliau a'u rhyddid, heb ofni codi'u llais dros yr hyn sy deg a chyfiawn. Nerth? Mewn undeb y mae nerth, meddai'r hen air, onid e? Aeth ugain mlynedd heibio bellach er pan sefydlwyd Undeb y Chwarelwyr, ond er gwaethaf ei hanes clodfawr a'i ymdrechion dros y gwan a'r gorthrymedig, y mae'r rhagfarn yn ei erbyn mor fyw ag erioed.

"'Wn i ddim a glywsoch chi'r stori honno am hen wraig yn ymyl Llangefni 'cw. 'Dda gin' i mo'r Wesleaid 'na," meddai hi wrth hen flaenor pan oeddan' nhw ar 'u ffordd o'r capel un nos Sul. 'Maen' nhw'n credu mewn cwymp oddi wrth ras.' 'Nac ydyn', Margiad Jones,' meddai yntau. 'Deud y maen' nhw nad oes 'na ddim cwymp oddi wrth ras.' "Dydi o ddim ots gin' i,' meddai hitha'. "Dda gin' i monyn' nhw.' . . . "

Chwarddodd pawb, ond troai amryw eu pennau i gyfeiriad y ffordd a arweiniai o'r pentref. Nesâi sŵn lleisiau croch a meddw, yn rhuo clodydd yr Ymgeisydd Torïaidd: "Si la si ba, Si la si basa, Côr-a-bela, côr-a-bela, Sing, ting, a-ringa, Proff. Hughes ydi'r gora', Proff. Hughes ydi'r gora', Y gora', y gora', y GO-O-RA'."

Cyn hir daeth y fintai o wŷr herfeiddiol, a George Hobley a Robin Ifans a Wil Cochyn yn eu plith, i'r golwg heibio i dro yn y ffordd. Aeth William Jones ymlaen â'i araith, gan godi'i lais, ond anodd oedd hoelio sylw'i gynulleidfa bellach, ac ymhen ennyd tawodd i roi cyfle i'r bagad o feddwon ddewis eu lle ar y llethr o'i flaen.

"Mae myrdd o welliannau y rhaid eu dwyn i fywyd y gweithwyr," meddai, "ac fe frwydra'r Blaid Ryddfrydol i'w sicrhau nhw. Byrhau'r diwrnod gwaith, gwell tai, addysg ragorach i'r plant, iawn am niweidiau, blwydd-dâl i'r hen a'r methedig . . . "

"Cweshtiwn!" gwaeddodd Robin Ifans. "Gin' i gweshtiwn." Cododd y Cadeirydd i'w dawelu. "Mi gei gyfla i hynny ar y diwadd," meddai.

"O, chwara' teg, Mishtar Morgan. Dim ond un cweshtiwn, dim ond un bach." Swniai Robin fel petai ar fin torri i wylo.

"Ar ddiwadd y cwarfod a dim munud cynt," ebe Ifan Morgan yn gadarn.

Dechreuodd Robin feichio crio, ac yna o'r tu ôl iddo, o enau Wil Cochyn, daeth cri plentyn yn torri'i galon yn lân. Ceisiodd eraill yn y fintai greu nadau tebyg, ac ni châi bygythiadau cras Ifan Morgan un dylanwad arnynt, er iddo cyn y diwedd anghofio mai ar lwyfan yr oedd ac addo blingo'r diawliaid yn fyw.

"Gadewch iddo ofyn 'i gwestiwn," sibrydodd William Jones wrtho.

"O'r gora'," bloeddiodd y Cadeirydd. "Un cwestiwn. A dim ond un."

Tawelodd y cynnwrf, a phesychodd Robin yn bwysig.

"Mae arna' i ishio gwbod," meddai, "pa un ydi'r enwad pwyshica'—y Weshleaid, yr Annibynwyr, y Batush, y Methodishtiaid, ne'r Milishia."

Chwarddodd ei gymdeithion yn groch gan bwnio'i gilydd yn eu hafiaith, a daliasant i ruo chwerthin tra galwai'r Cadeirydd yn ofer am osteg. Yr oedd yn amlwg nad oedd y cwestiwn a'r chwerthin ond ystrywiau i wastraffu amser.

Tynnodd Owen Gruffydd ei het a rhoes hi i Fyrddin i'w dal, cododd o'i gadair a cherddodd yn araf i'r llwyfan. Sibrydodd rywbeth wrth Ifan Morgan, nodiodd hwnnw, ac yna troes i wynebu'r dorf. Yn urddasol o lonydd a syth, a'i law i fyny a'i doreth o wallt arian yn chwarae yn yr awel, edrychai fel un o broffwydi Israel gynt. Ond yn lle dicter yr oedd gwên yn ei lygaid.

"Pwy ddaru ofyn y cwestiwn yna?" gofynnodd yn y distawrwydd anniddig.

"Fi," atebodd Robin Ifans yn sur.

"Aros di, nid mab Ishmael Ifans wyt ti, dywad?"

"Ia."

"O... Wel, yr hyn sy'n fy nharo i ydi bod y gofyniad yn un anghyflawn. Mae o'n sôn am y Wesleaid a'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr a'r Hen Gorff, ond yn gadael un enwad allan.

'Rhoswch chi, pa enwad oedd Ishmael Ifans yn perthyn iddo— heblaw'r 'Crown'?"

"Y Batus," gwaeddodd rhywun.

"Naci, yr Eglwys," llefodd un arall.

"Mae 'na ryw gamsyniad yn rhywla, ond oes? 'Dydw' i ddim yn meddwl y medrai hyd yn oed Ishmael berthyn i'r ddau enwad, wchi." Ymddangosai Owen Gruffydd fel petai mewn penbleth fawr, ac apeliodd ei lygaid at hen wr bychan o'r enw Gruffydd Ifans—"Guto Môn" a'r "Batus Mawr" ar dafod yr ardal a eisteddai ar y gris o flaen y llwyfan. Yr oedd ef yn frawd i'r diweddar Ishmael Ifans ac yn ewythr i Robin.

"Mae gynno fo ryw sgîm, Dafydd," sibrydodd Owen.

"Oes, yr hen lwynog. Gyrru Gruffydd Ifans i ben Robin. efalla'. Mae'r 'Batus Mawr' yn un pigog ofnatsan, wsti. Fel draenog."

Gan ei fod yn drwm iawn ei glyw bellach, ni wyddai Guto Môn beth a âi ymlaen, a bu raid i rywun weiddi yn ei glust:

"Ishmael, eich brawd—i ba enwad yr oedd o'n perthyn?"

"Perthyn? Brawd. Fi'n frawd iddo fo a 'fynta'n frawd i minna'." A nodiodd a gwenodd Gruffydd Ifans yn fuddugoliaethus ar bawb o'i gwmpas ac o'i flaen.

"Naci, pa enwad, pa gapal?"

"Ishmael? Mi ddaru droi at yr hen Eglwys 'na, 'ffeio fo.

Nodiodd ei ben eto, ond yn ffyrnig y tro hwn, fel petai'n herio Owen Gruffydd i feiddio pechu yn yr un modd.

"O," ebe'r Holwr, "dyna eglurhad ar y dryswch. Ishmael wedi canfod y goleuni, bobol, ac wedi gwrando ar lais 'i gydwybod... 'Rhoswch chi," aeth ymlaen ymhen ennyd, wedi i'r chwerthin dawelu, "'ddaru o ddim newid 'i waith yn y chwaral tua'r un pryd? Mae gin' i ryw go' mai rhybela yn y Bonc Ucha' yr oedd o cyn hynny."

Daeth o hyd i'w daran o lais ar y frawddeg olaf, a chlywodd Guto Môn.

"Rhybela? Ia, 'nen' Tad, fo a finna'. Tair ceiniog y dunnall am y baw, Wan Gruffydd. Ia, 'nen' Tad. Ond pan aeth Ishmael i'r hen Eglwys 'na, mi gafodd fargan reit dda. Do, 'ffeio fo, a'i wneud yn farciwr cerrig yn fuan wedyn . . . Pwy sy isio gwbod am Ishmael?"

"Eglurwch iddo fo," meddai Owen Gruffydd wrth ddyn a safai tu ôl i gadair yr hen ŵr. "Robert Ifans, 'i nai, deudwch, yn gofyn pa un ai'r Batus ai'r Milisia ydi'r gora'."

"Robat Ifans? Robat Ifans, Bryn Mai? Yn y Milisia ?

He!" A chwarddodd Gruffydd Ifans yn ddireol pan glywodd y newydd. "Mae o bron cyn hynad à finna'!"

"Robert Ifans, eich nai. Mab Ishmael," gwaeddodd y dyn. "Y?" Edrychai'r hen frawd yn ddryslyd. "Robat.. Robat . . . 'Doedd gan Ishmael ddim . . . " Yna daeth goleuni sydyn. "Robin?"

"Ia."

"Be' amdano fo?"

"Isio gwbod pa un ai'r Batus ai'r Milisia ydi'r gora'."

Neidiodd Guto Môn ar ei draed, ac er ei fod dros ei bedwar ugain, llamodd fel gafr i fyny'r llethr, gan chwifio'i ffon a gweiddi: "Dwad yma i godi twrw, y cena' bach. Fo a Wil 'i frawd a hogyn John Hobley. Mi ro' i Filisia iddyn' nhw!

Adra' y munud 'ma, y tacla'!"

A'r peth nesaf a welai'r dorf oedd hanner dwsin o'r meddwon. yn brasgamu i lawr tua'r ffordd o flaen Gruffydd Ifans a'i ffon.

"Rhyw gwestiwn eto?" gofynnodd Owen Gruffydd pan sobrodd y gynulleidfa ddigon i roi sylw i'r llwyfan.

Ond nid oedd un, a chuddiai amryw o'r diotwyr tu ôl i bobl eraill rhag ofn i'r ysmaldod didrugaredd hwn eu cyrraedd hwythau.

"Dowch, hogia', rhag inni wastraffu amsar."

Safodd yn ddisgwylgar am funud, yna eisteddodd yn arafa siomedig, gan nodio at William Jones. Cododd yntau i fynd ymlaen â'i araith.

Pan oedd y rhai olaf o'r dorf yn gwasgaru wedi'r cyfarfod, amneidiodd William Jones ar Owen.

"I b'le mae'r ffordd 'na'n mynd?" gofynnodd.

"Heibio i'r Eglwys, wedyn i fyny at yr Hafod ac i'r mynydd."

"O. 'Rydw' i am fynd am dro bach cyn swpar. 'Ddowch chi efo mi?"

"A phlesar, Mr. Jones. Hynny ydi, os ydi Dafydd fy mrawd . . . "

"Yn gofalu am eich Taid? Ydi."

Wedi i'r Ymgeisydd ysgwyd llaw ag amryw a diolch eilwaith i Owen Gruffydd am ei ymyriad, cychwynnodd y ddau. Am y cyfarfod yr oedd y sgwrs, a chwarddent yn aml wrth feddwl am yr hynafgwr bychan yn erlid y cewri tua'r pentref. Yna aethant i sôn am Owen M. Edwards a'i lyfrau, ac adroddai William Jones hanesion am Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen ac am rai o'r darlithoedd ysbrydoledig a draddodasai'r gŵr ifanc o Lanuwchllyn ynddi—ar Ddafydd ap Gwilym, ar Geiriog, ac ar ei hoff arwr Owain Glyndŵr. Gwrandawai Owen fel un dan gyfaredd: ni chlywsai ef erioed o'r blaen siarad mor fyw a diddorol. Teimlai fel petai'i gydymaith eiddgar, huawdl, yn agor ffenestri tywyll ei feddwl ac yntau'n syllu ar gyfandiroedd newydd disglair, llawn rhamant. Ond . . . ond tybed a oedd gwir yn y stori ei fod yn . . . yn anffyddiwr?

"'Rydach chi'n darllan llawar, Mr. Jones?"

"Ydw', bob cyfla ga' i. A 'rŵan, yn Rhydychen, yn cael manteision i hynny, wrth gwrs. Pob math o betha"."

"Barddoniaeth?" Enwodd Owen y pwnc hwnnw rhag bod yn rhy anturus.

"Bydda', yn enwedig cerddi Milton a Browning. A Dante." Chwarddodd wrth chwanegu "Ap Dante' ydi fy ffug—enw i yn y Gymdeithas 'na yr on i'n sôn amdani gynna'."

"'Does gynnoch chi ddim amsar i lyfra' crefyddol, mae'n debyg?"

"Na, ychydig iawn. Ond mae rhai o'm cyfeillion gora' i yn ddiwinyddion go dda, ac mi fydda' i'n gwrando'n astud arnyn' nhw'n siarad."

2'Ydach chi . . . 'ydach chi wedi darllan rhwbath o waith Darwin?"

"Do. 'I ddau lyfr pwysica' fo."

"O."

Cerddodd y ddau'n dawel am funud neu ddau, a William Jones yn edmygu'r olygfa—caeau gleision yr Hafod, a'r gwair newydd ei grafu a'i gario oddi arnynt, yr heulwen yn troi nentydd y rhosydd uwchben yn ffrydiau o arian a gemau, a thraw yn y pellter gadernid llwydlas, breuddwydiol, yr hen fynyddoedd. "Mae Cymru'n wlad hardd, wyddoch chi," meddai.

"Ydi."

Safodd William Jones ar y llwybr ymhen ennyd, gan syllu'n hir ar yr olygfa, ac yna cydiodd ym mraich Owen.

"Mi gychwynnwn ni'n ôl 'rŵan," meddai, "rhag ofn bod teulu 'Bryn Myfyr' yn gohirio'u swpar er fy mwyn i."

"O'r gora', Mr. Jones."

"Ac mi siaradwn am—Darwin, yntê?"

Ni ddywedodd Owen ddim.

"Mae'r peth yn gysgod ar eich meddwl chi, ond ydi?"

"Ydi... ers tipyn."

"Felly yr on i'n... amau." Pam yr arhosodd yn sydyn. o flaen y gair "amau"? Ai "Felly yr on i'n deall" a ddechreuasai ei ddweud? A fu rhywun yn siarad ag ef am y peth?

Dafydd pan aeth i'w ddanfon o Dyddyn Cerrig i'r ffordd?

"Pa un o lyfra' Darwin ydach chi wedi'i ddarllan, Owen?"

"Dim un."

"O, mi wela"." Gwenodd, ond yn hynod garedig. "Pan oeddwn i'n hogyn bach, yr oedd arna' i ofn y tywyllwch yn ofnadwy. Mi fyddwn yn deffro yn y nos weithia' ac yn sgrechian mewn dychryn, gan feddwl bod y tywyllwch yn llawn bwganod ac ysbrydion a phryfaid mawr, hyll, a bod y walia'n symud yn araf tuag at fy ngwely i. Mi fydda' 'Mam yn brysio i'r llofft â channwyll yn 'i llaw ac yn siarad efo mi. Ond dal i gau fy llygaid yn dynn yr oeddwn i, gan synnu bod 'Mam mor ddewr, yn mentro i ganol y bwganod a'r ysbrydion a'r pryfaid mawr, hyll, ac yn aros mewn ystafell lle'r oedd y walia'n araf araf gau amdani. Mi agorwn fy llygaid o'r diwedd a gweld 'Mam yn sefyll wrth fy ngwely i, a'r ganhwyllbren ddofn, felen, yn 'i llaw a phatryma'r dail a'r bloda' ar bapur y wal tu ôl iddi mor llonydd ag erioed... Bûm dipyn cyn deall mai ofn oedd yn creu'r bwganod."

"Codi bwganod y mae fy meddwl inna' felly, Mr. Jones?"

"Ia. Mi yrra' i ddau lyfr Darwin i chi pan a' i'n ôl i Rydychen."

"Na, mi fedra' i gael 'u benthyg nhw gan rywun yma.

Os ydach chi'n... os ydach chi'n meddwl bod yn ddoeth imi 'u darllan nhw."

"Ydw', petai ddim ond i yrru'r bwganod i ffwrdd. Ond ar wahân i hynny, maen' nhw'n llyfra' pwysig. Pwysig iawn."

"'Ydach chi... 'ydach chi...?"

"Peidiwch ag ofni, Owen. Allan â fo!"

"Wel, ar ôl i chi ddarllan y llyfra' 'na, 'ydach chi'n... dal i gredu yn y Beibl?"

"Yn fwy nag erioed. 'Welodd a 'wêl y byd ddim llyfr tebyg iddo fo."

"Ond... hanas y Creu... a'r Dilyw... a Jona . . . a Thŵr Babel..."

"'Dydw' i ddim yn credu'r rheini'n llythrennol, mae'n wir. A hyd y galla' i weld, ychydig o fudd mae'r bobol sy'n 'u coelio. nhw felly yn 'i gael ohonyn' nhw. 'Dydyn' nhw ddim llawar gwell o feddwl yn llythrennol am yr hen Noa a'i arch a'i anifeiliaid neu am Jona druan ym mol y morfil, 'ydyn nhw? I mi, mae'r hanesion yn gryfach, yn fwy godidog, fel damhegion, fel darnau byw o'r dychymyg cyntefig. 'Wn i ddim pwy eodd awduron llyfra' cynnar y Beibil, ond yr oedd amryw ohon yn' nhw'n feirdd gwir fawr . . ."

"Ond . . ."

"Ia?"

"Mae'r Beibl yn ysbrydoledig."

"Ydi. A phopath mawr arall, Owen."

"Ond mae'r Beibil yn wahanol, yn Air Duw."

"Ydi. Yr ydw' inna'n credu hynny, yn enwedig pan fydda' i'n darllan yr Efengyla'. Ond mae rhanna' o'r Beibl sy'n fwy ysbrydoledig na'i gilydd, ond oes?"

"Oes, efalla', ond . . ."

"Ia?" Ni wyddai Owen pa ddadl a oedd i ganlyn yr "ond." Hoffai fedru dweud yn eofn ac yn bendant, fel y gwnâi Ebenezer Morris ac Ifan Ifans a Thaid ac. . . ac Elias Thomas—ond nid oedd yn llawn mor wir amdano ef—fod y Beibl yn wir o glawr i glawr ac mai rhyfyg ofnadwy oedd i neb wadu gair ohono. Ond rhagrith fyddai hynny. Ers tipyn bellach, ac yn arbennig er pan fu'n siarad â Rhiannon Morris, mynnai rhai amheuon grwydro'n llechwraidd i ganol ei feddyliau, ac ambell noson ni adawent iddo gysgu am oriau. Dim ond wrth Dafydd y son— iodd amdanynt, a cheisiodd yntau eu chwerthin ymaith, gan haeru bod pawb yn mynd drwy'r un wasgfa yn yr oed yr oedd. Owen ynddo. Ond pan welodd na thyciai'r ysgafnder ddim, awgrymodd i'w frawd fynd i Gaer Heli am dro un hwyr neu brynhawn Sadwrn a chael sgwrs â'r Parch. Ifan Hughes. Er i'r gweinidog hwnnw gychwyn fel chwarelwr cyffredin, yr oedd iddo enw fel gŵr hynod ddiwylliedig, a bu adeg pan edrychid arno gyda pheth amheuaeth gan un neu ddau o'i flaenoriaid mwyaf uniongred. "Mae Ifan Hughes yn un o'r dynion. mwya' cywir yn y sir 'ma, Now bach," meddai Dafydd, "ac yn Gristion bob modfadd ohono, heblaw 'i fod o'n feddyliwr cry'." Ond oedi'n betrus a wnaethai Owen, gan lenwi'i nosweithiau a'i Sadyrnau ag astudio anniddig, a chadw'i gyfrinach oddi wrth bawb ond Dafydd. Hwn oedd y tro cyntaf iddo siarad â neb arall am y peth, a chlywai'i galon yn curo'n gyflym o'i fewn. Petai awgrym o'r clyfar neu'r gwawdus yn nhôn ei gydymaith, fe chwiliai Owen yn wyllt am ddadleuon i'w orth- rechu, Ymgeisydd Seneddol neu beidio. Ond nid oedd: llefarai'n bwyllog a dwys a didwyll.

"Gwyddonydd oedd Darwin," aeth ymlaen, "yn chwilio'n ddyfal am wirionedd, ac fel amryw o wyddonwyr o'i flaen, yn gweld nad yn sydyn, chwe mil o flynyddoedd yn ôl, y crewyd y byd a'r bydoedd, ond bod yr oll wedi tyfu'n raddol raddol, drwy filiyna' ar filiyna' o flynyddoedd-oesoedd rif y tywod mân,' chwedl yr emyn-yn ôl deddfau natur. A dyn ac anifail, gwybedyn a llysieuyn, yr un fath, yn ôl 'i nerth a'i fedr i oresgyn rhwystra"."

"Felly 'dydi'r Beibil ddim yn wir o bell ffordd, Mr. Jones?"

"Yn wir? Ydi, yn rhyfeddol o wir. 'Datblygiad' ydi gair mawr y gwyddonydd, ac fel datblygiad y mae o'n gweld hanas y cread a hanas dyn, popeth yn ymgyrraedd at fywyd cryfach a llawnach. Ym myd ysbryd dyn y mae'r ymgyrraedd hwnnw ar 'i ora', ar 'i fan ucha', ac 'wn i ddim am well cronicl, am ragorach datguddiad, ohono fo na'r Beibil. 'Wyddoch chi?

"Na wn... Na wn."

"Na wyddoch. Na neb arall chwaith. 'Does yr un, a 'fydd yr un byth."

Culhâï'r llwybr, gan redeg drwy lwyn o goed cnau ac yna dros bont fechan haearn. Aeth William Jones yn gyntaf, a dilynodd Owen ef gan deimlo'n hapusach nag a wnaethai ers wythnosau. Sylwodd mor bêr oedd sŵn yr afonig o dan y bont, ac fel y diferai'r heulwen oddi ar lwyn o ddrain gerllaw.

"Wel, Owen?"

"Mae'r bwganod yn dechra' mynd, Mr. Jones. Mi a' i i nôl benthyg y llyfra' 'na 'fory nesaf."

"Llythyr iti, Owen. O'r Bala, yr ydw' i'n meddwl." Noson yn niwedd Gorffennaf ydoedd, a'r ddau chwarelwr newydd gyrraedd adref o'u gwaith.

"Ia, o'r Bala, 'Mam," ebe Owen wedi iddo agor y llythyr. Yna ar ôl iddo'i ddarllen ddwywaith, "O?" difater oedd ei unig sylw.

"Paid â swnio mor gyffrous, Now bach," meddai Dafydd.

"'Ydyn' nhw am dy wneud di'n Broffesor yno ne' rwbath?"

Trosglwyddodd Owen y llythyr i'w frawd.

"Yr argian fawr, go dda, 'r hen ddyn!"

"Be' mae o'n ddeud, Dafydd ?" gofynnodd Owen Gruffydd yn ddiamynedd.

"Ia, darllan o inni," ebe'r fam.

"Diawch, mi fedri fynd yno fis Medi wedi'r cwbwl, fachgan!

Mi fydd Lias Tomos wrth 'i fodd. Mae'r hen frawd wedi bod yn poeni dipyn..."

"Darllan y llythyr 'na, da chdi, Dafydd, yn lle stwnsian yn fan'na," oedd gorchymyn chwyrn Owen Gruffydd.

"O'r gora' Taid. Dyma fo:

'Ysgol Ragbaratoawl,
Bala.
25 Gorff. '95.

Anwyl Frawd,

Derbyniasom ers tipyn bellach adroddiad y ddau Arholwr ar eich gwaith yn Arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, a balch iawn oeddym o ddarllen eu canmoliaeth uchel i'ch attebion. yn y ddau bwngc. Hyderem y gwelech eich ffordd yn glir i ddechreu ar gwrs yn yr Ysgol Ragbaratoawl y flwyddyn hon, ond ofnem, gan nad oeddym wedi derbyn cais oddi wrthych fod rhwystrau ar eich llwybr. Heddyw, daeth llythyr oddi wrth gyfaill, sy'n dymuno aros yn ddi-enw, yn cynnyg Ysgoloriaeth o £50 y flwyddyn i chwi am ddwy flynedd yn yr Ysgol hon i baratoi ar gyfer yr arholiad i'r Coleg. Cynhigir yr Ysgoloriaeth i chwi ar sail eich gwaith yn Arholiad yr Ymgeiswyr a'ch addewid fel myfyriwr a phregethwr, a hyderwn yn fawr y derbyniwch hi yn llawen.

Gan edrych ymlaen at eich dyfodiad i'r Bala...'"

"He ! Ac er na ddylwn i ddim sôn am hynny," ebe Owen Gruffydd, "fi ddaru 'i helpu o efo'r arholiad hwnnw."

"'Fedra' i ddim deud mor falch ydw' i," meddai'r fam yn dawel. "Studio tan hannar nos a chodi wedyn ymhell cyn chwech! 'Ddeil neb felly, ac mae'r Doctor wedi sylwi ar yr hen beswch 'na sy gynno fo."

"Pryd?"

"Echnos pan alwodd o i'ch gweld chi, 'Nhad."

"Hy, dychryn pobol ydi gwaith hwnnw. 'Oes gin' ti laeth enwyn yn y tŷ?"

"Oes."

"A mwstard?"

"Oes."

"A siwgwr candi?"

"Oes, yr ydw' i'n meddwl."

"Estyn nhw i'r bwrdd 'ma. Mi setla' i'r peswch 'na iddo fo."

Ond ar Owen yr oedd llygaid y fam.

"'Rwyt ti'n dawal iawn, Owen," meddai.

"'Dydw' i ddim am gymryd cardod gan neb," ebe yntau.

"Y? Cardod?" Cododd Owen Gruffydd yn ei ddicter.

"Nid cardod ydi ysgoloriaeth, Now bach," meddai Dafydd.

"Nid fel rheol. Ond dyna ydi hon. Ac mi geiff y 'cyfaill di-enw' gadw'i bres."

"'Welsoch chi benci yr un fath â fo 'rioed ?" rhuodd Owen Gruffydd.

"Naddo, wir," atebodd Dafydd. "Dim ond un," chwanegodd dan ei anadl.

"Hannar cant o bunna'! A chael pregethu ar y Sulia'!

A thalu dim ond rhyw ddeuddag swllt yr wythnos am 'i lety!

A'r ysgol yn costio dim ond pumpunt y flwyddyn gyntaf a llai yr ail flwyddyn ! Be' haru'r hogyn? Tria bwnio synnwyr i'w ben o, da chdi, Emily."

"Waeth i chi heb â gweiddi, 'Nhad. 'Wnewch chi ddim ond 'styrbio'ch hun."

"O'r gora', mi gaea' i fy ngheg. 'Ddeuda' i ddim gair pellach. Gadewch iddo fo i'w grogi. Gadewch iddo fo wlychu at 'i groen yn yr hen chwaral 'na. Gadewch iddo fo rynnu yn y wal drwy'r gaea'. Gadewch iddo fo 'studio tan hannar nos a magu'r diciâu yr un fath â hogyn Harri Hughes. Gadewch iddo fo

"'Rwan, 'Nhad."

Tawelodd yr hen ŵr a dychwelodd yn rwgnachlyd i'w gadair.

"Os na sgwennith o i'r Bala heno nesaf," meddai, "mi fydda' i'n gyrru gair yn 'i le fo."

"Os na chymeri di'r ysgoloriaeth 'ma, Now bach, y nesa' ar y rhestr fydd yn 'i chael hi," oedd dadl Dafydd. "Ac efalla' fod. gan hwnnw ddigon o fodd i wneud yn iawn hebddi."

"Mi basia' i i'r Coleg heb gymorth un cyfaill di-enw, Dafydd.

Ne' mi fodlona' ar aros yn y chwaral."

"Estyn y llythyr 'na imi, Emily," meddai Owen Gruffydd.

Ac wedi iddo'i ddarllen, "Ddwy waith mae o'n defnyddio'r gair 'Ysgoloriaeth'." Rhythodd ar Owen. "Nid unwaith, ond dwywaith."

"Felly'r oeddach chi'n deud, Taid."

""Yn cynnyg Ysgoloriaeth'... 'Cynhigir yr Ysgoloriaeth." Be' fedra' fod yn blaenach?"

Aeth y siarad ymlaen ac ymlaen, ac Owen Gruffydd yn dod o hyd i destun pregeth bron ym mhob brawddeg o'r llythyr. Gadawodd Owen i'r huodledd lifo heibio iddo, gan frysio tros ei swper-chwarel a phenderfynu dianc i'r "siambar" at ei lyfrau. Sylwodd mai ychydig iawn a ddywedai'i fam.

"Isio edrach dros fy ngwaith cyn mynd at Mr. Roberts," meddai, gan godi a mynd o'r gegin.

Yn y "siambar," safodd yn anniddig wrth y ffenestr, gan ei gyfiawnhau ei hun yn ffyrnig. Cardod? Dim, diolch. A dyn a ŵyr pwy a gynigiai'r arian iddo. Ifan Ifans, ar ddim a wyddai ef...

Clywodd glic drws yr ystafell yn cau.

"O hylô, 'Mam."

"Mae arna' i isio siarad efo chdi, Owen."

"Os ydach chi am drio fy mherswadio i . . ." Arhosodd wrth weld y penderfyniad tawel yn ei hwyneb.

"O'r diwadd mae 'na newydd da wedi dwad i Dyddyn Cerrig." Yr oedd rhywbeth pell a dieithr yn ei llais.

"Be' ydach chi'n feddwl, 'Mam?"

"'Ron i wedi mynd i gredu bod rhyw Ffawd angharedig yn gwylio'r tŷ yma. Helbul ar helbul, siom ar siom gafodd y teulu oedd yma o'n blaen ni. Ninna' yr un fath. Dy dad druan, Enid, y tlodi..."

"'Chlywis i 'rioed monoch chi'n siarad fel hyn o'r blaen. 'Rydach chi bob amsar mor. . . Mor beth? "Llon"? Na, ni chofiai'i fam yn llon, ddim er pan fu farw'i dad. Yr oedd hyd yn oed ei chwerthin braidd yn lleddf ac ofnus, fel petai hiraeth yn rhedeg drwyddo. "Hapus?" "Siriol?" Nage, "dewr": ia, "dewr" oedd y gair. Dewr a diwyd a thyner, a'i holl fryd ar gysur ei phlant.

"Naddo, Owen, a 'wna' i ddim eto, gobeithio. 'Rwyt ti'n ifanc, ac yn brysur iawn—yn y chwaral drwy'r dydd, efo dy lyfra' gyda'r nos, i ffwrdd dros amball Sul. 'Chydig o amsar wyt ti'n gael i hel meddylia'. Lawar noson yn hwyr, pan fydda' i'n gwrando am dy sŵn di'n..."

"Ond yr ydw' i'n trio bod fel llygodan bob nos."

"Wyt, mi wn, chwara' teg iti. Ond anamal iawn y medra' i gysgu cyn gwbod dy fod di yn dy wely. Mi fydda' i'n gorwadd yn y llofft 'na yn gwrando am yr hen beswch 'na, a phan syrthiaf i gysgu . . . "

"Ia, 'Mam ?"

"Yn cael yr un breuddwyd o hyd o hyd."

"Amdana' i?"

"Ia. Dy weld di'n sâl yn dy wely a'th wynab a'th ddwylo di mor wyn â'r gobennydd a'th lygaid di'n ddisglair ddisglair. Ac wrth erchwyn y gwely ysbryd Jeffra Jones, hen ŵr cas oedd yn byw yn Nhyddyn Cerrig pan on i'n hogan, yn gwenu'n filain . . . "

Chwarddodd Owen. "Mam bach, 'ydach chi ddim yn rhoi coel ar betha' fel'na, 'does bosib'?"

"Nac ydw', ond 'fedar neb ddal i 'studio fel yr wyt ti: mae rhyw afiechyd yn siŵr o afael ynot ti. Cymar yr ysgoloriaeth 'na, wir, Owen bach."

"Ond . . ."

"Nid cardod ydi hi ond gwobr iti am dy lafur, cyfla am hapusrwydd i ti a'r newydd gora' ddaeth i Dyddyn Cerrig ers . . . 'wn i ddim ers pryd. Paid â thaflu'r hapusrwydd i ffwrdd, Owen, 'ngwas i. 'Rwyt ti'n haeddu'r cynnig, a hynny sy'n bwysig. Hynny sy'n bwysig, Owen. Er dy fwyn dy hun, er mwyn Dafydd, er fy mwyn i . . . "

"O'r . . . o'r gora', 'Mam. Dowch, mi awn ni i ddweud wrth Dafydd a Thaid."

Llithrodd Awst heibio'n gyflym iawn, ac yn ystod y mis trefnodd Owen i roi'r gorau i'w waith ar y Gwener cyntaf ym Medi, a ddigwyddai fod yn ben mis yn y chwarel. Gan ei fod i eistedd arholiad bychan mewn Cymraeg a Saesneg ac Arithmetic cyn cael ei dderbyn i'r Ysgol, daliai i astudio'n ddyfal, ond wedi iddo gael cip ar bapurau'r flwyddyn gynt, ni phoenai fawr am hwnnw, a threuliai lawer gyda'r nos yn dringo'r Fron neu'n crwydro hyd lannau'r afon efo Mary.

Yr oedd lle cyffrous yng nghaban Ponc Britannia ar awr—ginio'i ddiwrnod olaf yn y chwarel. Penderfynasai Elias Thomas hefyd ymddeol, ac felly, yn lle cynnal dau Gyfarfod Ymadawol, trefnwyd i ffarwelio â'r hen flaenor ac â'r llanc o bregethwr yr un pryd. Bwytaodd pawb yn frysiog ac yna tynnwyd y byrddau i lawr a'u rhoi o'r neilltu yn erbyn y muriau. Cyn hir dechreuodd dynion o bonciau eraill gyrraedd, yn eu plith Huw Rôb a'i dad a Wil Cochyn o Bonc Rowler, ac erbyn ugain munud wedi deuddeg, amser agor y cyfarfod, yr oedd y caban, er ei fod yn un gweddol fawr, yn orlawn, a thyrrau o wŷr yn sefyll tu allan wrth y drws ac wrth y ffenestri agored.

Fel rheol, Llywydd y caban a gadeiriai mewn cyfarfod o'r fath, ond gan mai Elias Thomas ei hun oedd hwnnw, gwnaed y gwaith gan wr o'r enw Benjamin Williams. Wedi emyn agoriadol, yna'r adroddiad "Arwerthiant y Caethwas" gan Thomas Hugh John Edwards—"Twm Bach" i bawb ond y Cadeirydd, ac edrychai Twm fel petai'n adnabod enw'r adroddiad yn well na'i enw'i hun—a'r unawd "Rocked in the Cradle of the Deep" gan Wil Baswr, a fedrai suddo'n ddyfnach na nodyn dyfnaf y gân, eglurodd y Llywydd fwriad y cyfarfod. Mewn gwirionedd, "eitem" arall oedd yr araith hon, cyfle i ddoniau eraill ymbaratoi, a galwyd wedyn ar Wil Baswr ac Eben ei frawd i ruo'r ddeuawd "Mae Cymru'n Barod." Yna daeth tro Meurigfab, a weithiai bonc yn is na Britannia, a gwelid ar unwaith pan droes ef ei gefn ar y gynulleidfa i dynnu'i wallt i lawr tros ei lygaid ac amharchu'i goler a'i dei mai "Ymson y Llofrudd" fyddai'r darn. Gan nad aent hwy ar gyfyl eisteddfodau'r cylch, hwn oedd y tro cyntaf i George Hobley a Robin Ifans glywed am lofruddiaeth Ol ac am ddylanwad yr "uffernawl gwpan" ar ei gŵr. Gwyrodd George ei ben, i bob golwg mewn euogrwydd a chywilydd mawr, gan chwilio'n wyllt am ei gadach poced i chwythu'i drwyn a sychu'i lygaid. Ond edrychai Robin. cyn sobred â sant yn gwrando'n ddwys ar ei hoff bregethwr, ac efallai mai "Amen" a "Diolch iddo" a phethau tebyg a ddywedai dan ei anadl. Wedi i Feurigfab honcian ymaith i'r grocbren yn sŵn cymeradwyaeth fyddarol y caban, hysbysodd y Cadeirydd iddynt gyrraedd prif waith y cyfarfod.

"Nid er mwyn hwylustod yn unig," meddai, "yr ydan ni'n cynnal dim ond un cwarfod ac yn penderfynu ffarwelio ag Owen Ellis a Lias Tomos yr un pryd. Rheswm pwysicach ydi 'u bod nhw'n gyfeillion mor fawr, fel mab a thad i'w gilydd bron, ac yr ydw' i'n siŵr fod y ddau yn falch o'r trefniant yma. 'Dydw' i ddim am areithio—mi fydd 'na rai erill yn gwneud hynny. Ond mi liciwn ddeud hyn: dim ond i Now 'ma drio bod yn deilwng o Lias Tomos, mi fydd yn ddyn ac yn brygethwr ac yn wnidog y bydd y chwaral 'ma a'r ardal a Chymru gyfan yn falch ohono."

Cymeradwyaeth swnllyd, a'r dynion yn gwenu'n slei ar ei gilydd, a gawsai Meurigfab, ond yr oedd honno a dorrodd allan yn awr yn sobr a chywir, a phawb yn nodio'n ddwys. Er ei waethaf daeth dagrau i lygaid Elias Thomas, a brathai'i fin yn ei gynnwrf.

"Yr arferiad ydi i aelod hyna'r caban gyflwyno'r anrheg, yntê? Lias Tomos ydi'r hyna', ac er bod hwn yn Gwarfod Ymadawol iddo ynta', mae o wedi cydsynio i gyflwyno'r llyfra' 'ma i Owen Ellis. Cofianna' dau ddyn mawr ydyn' nhw—Thomas Jones o Ddinbych, ac Edward Matthews o Ewenni, a gobeithio y bydd 'u darllan nhw yn ysbrydiaeth i'r prygethwr ifanc, yntê? . Lias Tomos?"

Cododd Elias Thomas oddi ar y fainc wrth y mur a chymerodd y llyfrau o ddwylo'r Cadeirydd. Cododd Owen yntau i'w derbyn.

"Owen, 'machgan i," ebe'r hen flaenor, a'i lais yn floesg, "yr ydw' i'n dy gofio di'n dwad i'r chwaral 'ma am dro efo'th dad dros wyth mlynadd yn ôl. Hyd yn oed yr amsar hwnnw, 'roedd 'na rai ohono' ni—Dafydd dy frawd, Owen Gruffydd dy daid, a finna', dy athraw di yn yr Ysgol Sul, ac eraill yn gweld addewid ynot ti ac yn breuddwydio breuddwydion am dy ddyfodol di. Ond yn lle cael chwanag o ysgol, i'r chwaral y bu raid iti ddŵad, i drio ennill tipyn. 'Roeddan ni'n siomedig, ac yn yn dechra' ama' doethineb Rhagluniaeth yn dy hanas di. Erbyn heddiw fe giliodd yr amheuaeth honno o'm meddwl i. Mae Ysgol profiad yn bwysig, yn bwysig iawn, yn enwedig i bregethwr, ac nid damwain oedd i'r Gwaredwr aros yng ngweithdy'r saer nes bod yn ddeg ar hugain cyn cychwyn ar 'i Weinidogaeth gyhoeddus. Mi gest ymdrechu, mi gest ddisgyblaeth, mi gest gyfla i adnabod dynion, mi gest garedigrwydd o leoedd. annisgwyl weithia', mi gest dyfu'n ddyn yng nghanol gerwinder bywyd. Bu galed y bygylu lawar tro, mi wn, ond efalla' ymhen blynyddoedd y byddi di'n edrach yn ôl ar yr hen chwaral 'ma fel y Coleg gora' gefaist ti erioed.

Cymer y llyfra' 'ma. 'Dydyn' nhw ond arwydd bychan of ddymuniada' gora' dy gyd—weithwyr. Duw a'th fendithio, 'machgan i, Duw a'th fendithio."

Wedi i'r gymeradwyaeth ddistewi ac i Owen ddweud gair of ddiolch, galwodd y Cadeirydd ar Huw Jones i gyflwyno Beibl Hardd i Elias Thomas.

"Gadewch inni 'i weld o, Benja Williams," gwaeddodd Robin Ifans pan ddaeth y dyn bach ymlaen.

Digwyddai bocs mawr pren fod yn ymyl yr ystôf. Gwagiwyd hwnnw o'r coed tân a oedd ynddo, rhoddwyd ef a'i wyneb i waered ar ganol y llawr, a safodd Huw Jones arno. "Mistar Cadeirydd ac annwyl gyd—weithwyr," meddai wedi iddo glirio'i wddf droeon. Yr oedd ei wyneb yn wyn a'r ddalen o bapur yn ei law yn gryndod i gyd. "Roeddan ni'n dri o hogia' gartra' ers talwm, fi a John a Dic, a 'fydda' 'Mam byth yn rhoi presant bach i un ohono' ni heb gofio mewn rhyw ffordd am y ddau arall hefyd. Wel, yr ydan ni'n dri yn y wal 'cw—Lias Tomos, Owen, a finna'. . ."

"Os wyt ti'n meddwl dy fod di'n mynd i gael presant, Huw . . . " gwaeddodd Robin Ifans.

"'Rydw' i wedi cael un, Robin," meddai'r dyn bach ar unwaith. "Y fraint fawr o gyflwyno'r Beibil 'ma i Lias Tomos."

Uchel a hir oedd y gymeradwyaeth, a chwarae teg i Robin, ymunodd yntau ynddi mor eiddgar â neb. Edrychai Huw Jones fel petai newydd gael ei benodi'n Brif Oruchwyliwr y chwarel.

"'Rydan ni'n bartnars ers tros ugian mlynadd," aeth ymlaen. "Heb air croes, am wn i; heb gwffio, beth bynnag. 'Ron i'n gwrando ar bregath rai misoedd yn ôl, a'r prygethwr—Batus wrth—gwrs yn egluro be' oedd dyn da. 'Nid y dyn cyfiawn ydi'r dyn da,' medda' fo, 'ond hwnnw y mae'n anodd i chi bechu yn 'i ŵydd o.' 'Roedd o'n mynd i galon y gwir, wchi: ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. Ac mi fydda' i'n meddwl weithia' na fedrwn i ddim pechu yng ngŵydd Lias Tomos. Bydda', wir, wchi: 'fedrwn i ddim 'tawn i isio."

Crynai llais y dyn bach, fel petai ar fin crio, ac yr oedd yn falch o'r egwyl a ddug cymeradwyaeth.

"'Rydw' i wedi trio gwneud pennill ne' ddau," meddai ymhen ennyd. "Y tro cynta' 'rioed. Dyma nhw:

'Lias Tomos o Lan Feurig . . . '"

"O'r Tai Gwyn, Huw Jones," gwaeddodd Harri Hughes: drwy'r ffenestr. Gweithiai ef yng ngwaelod y chwarel, ac ni fedrodd gyrraedd y bonc mewn pryd i ymwthio i mewn i'r caban.

"Ia, ond mae'n rhaid imi gael 'Llan Feurig' . . . "

"O, mi'i cei o â chroeso, 'r hen ddyn!"

""Lias Tomos o Lan Feurig
Sy am fod yn ŵr bonheddig . . . '"

"Mae o'n un yn barod, Huw," ebe Robin Ifans.

"Ydi, ond 'gŵr bonheddig' mewn ystyr arall..."

"Ewch ymlaen Huw Jones," cynghorodd y Cadeirydd.

"Ordor, hogia', ordor !".

"Lias Tomos o Lan Feurig
Sy am fod yn ŵr bonheddig,
Mynd o gyrraedd llwch a rhwbal
A helyntion blin y chwaral.

Cyn bo hir mi ddaw y gaea',
Tywydd mawr a rhew ac eira,
Pawb yn rhynnu yn y walia',
'Fynta' wrth 'i danllwyth gartra'.

Efo'i Feibil a'i Esboniad,
Poeni dim am blyg na slediad
Na hollt gron na ffawt na chefna',
Ond ymgolli yn 'i lyfra'.

Iechyd iddo, gorffwys tawal,
Yw dymuniad yr holl chwaral.
Bydded iddo fo a'i Sarah
Fyw yn hŷn na'r hen Fethwsla."

Yn ystod y gymeradwyaeth a'r curo-traed a ddilynodd y darn, camodd Huw Jones i lawr oddi ar ei focs a chychwyn yn ôl i'w le, ond cydiodd y Cadeirydd yn ei fraich a rhoi'r Beibl yn ei ddwylo.

"Hwdiwch, Lias Tomos," meddai'r dyn bach pan ddistawodd y cynnwrf, gan anghofio gweddill ei araith. "Diar, mi fydd 'na le rhyfadd yma hebddoch chi! 'Rargian, bydd!"

Siaradodd amryw eraill, a Dafydd yn eu plith, rhai yn ddwys, rhai yn ddigrif, ac yna cododd Elias Thomas eilwaith i draddodi araith fechan o ddiolch. Ond pan safodd o'u blaen, llanwodd ei lygaid â dagrau a bodlonodd ar ddweud "Diolch yn fawr, diolch o galon, hogia'." yn floesg a thoredig. Gwelodd Benjamin Williams y cyffro yr oedd yr hen ŵr ynddo ac ar unwaith galwodd am "Hwrê fawr" iddo. Atseiniodd y caban a'r bonc deirgwaith i sŵn y bloeddio, ac wedi i'r gymeradwyaeth hir a'i dilynodd dawelu, lediodd Wil Baswr yr emyn "Dan dy fendith wrth ymadael." Torrodd corn haerllug y chwarel ar ei draws, ond ni chymerodd neb sylw ohono. Nid oedd Elias Thomas yn medru canu o gwbl, ond clywai Owen, a safai wrth ei ochr, yr hen flaenor yn dweud y geiriau'n daer a dwys, fel petai'n gweddio:

"Dan dy fendith wrth ymadael
Y dymunem, Arglwydd, fod;
Llanw'n calon â dy gariad
A'n geneuau â dy glod.
Dy dangnefedd
Dyro inni yn barhaus."

A gweddïodd Owen yntau.

"Mae'n rhaid i chi'ch dau gymryd tamad efo fo."

"Na, wir, Sarah Tomos, mi fydd 'Mam yn ein disgwyl ni adra'," meddai Owen. "Dim ond dŵad i gario'r arfa' 'ma yr oeddan ni."

"A finna' wedi gwneud swpar-chwaral spesial heno. Mae'n rhaid i chi aros. Rhowch yr hen arfa' 'na yn y cwt a golchwch eich dwylo wrth y feis." Edrychodd yn daer arnynt a gwyddai Owen a Dafydd ei bod hi'n ofni y byddai'i gŵr yn ddigalon ar ei noson gyntaf fel "gwr bonheddig."

"O'r gora', Sarah Tomos," ebe Dafydd. "Ond mi gawn ni goblyn o dafod pan awn ni adra', cofiwch."

Wedi iddynt ddangos y ddau Gofiant a'r Beibl iddi, eisteddodd y tri chwarelwr wrth y bwrdd, a cheisient gofio popeth a ddy- wedwyd yn y cyfarfod, yn arbennig benillion Huw Jones, i'w hadrodd wrthi. Gwelsai Sarah Thomas fam Huw Jones y diwrnod hwnnw, a mawr oedd gofid yr hen wraig honno. Huw a Dic, meddai, y ddau benbwl, wedi bod ar eu traed tan oriau mân y bore efo rhyw "rwdl o farddoniath ne' rwbath."

Ar ôl iddynt fwyta a thynnu'u cadeiriau at y tân, agorodd. Elias Thomas ei Feibl newydd a throes ei ddalennau'n araf a thyner, fel petai'n cyffwrdd rhywbeth sanctaidd iawn. Yng nghegin fach y drws nesaf bloeddiai dau lais, un merch ifanc ac un dyn mewn oed, eiriau rhyw gân Saesneg.

"Never mind to-morrow,
Laugh and be merry to-day:
Never mind to-morrow,
Sing all your troubles away.
Never mind to-morrow,
To-morrow the world may go hang,
Never . . ."

Tawodd y gân yn sydyn, a dechreuodd y ddau lais ffraeo'n chwyrn am rywbeth.

"Mae'n dda eich bod chi wedi arfar efo sŵn drws nesa', Sarah Tomos," ebe Dafydd, gan wenu.

"Eich taid yn prygethu? O, yr on i wrth fy modd yn gwrando arno fo. Own, 'nen' Tad, a'i lais o fel cloch arian pan fydda' fo'n mynd i hwyl. Ac mi fydda'n werth 'i glywad o'n canu amball emyn wrth 'folchi dan y feis neu olchi llestri yn y gegin fach. Ond mae rhyw hen gomic songs fel hyn byth a hefyd yn ddigon â mwydro rhywun yn lân. Hen sothach o Loegar fel tiwn gron bob tro mae gynnyn' nhw funud efo'i gilydd. Fel taen' nhw ofn 'u hunain a'i gilydd, am wn i. . . Clywch, dyna nhw eto." A thaflodd Sarah Thomas ei phen i fyny wrth gludo rhai o'r llestri o'r bwrdd.

"'Oes gynnoch chi air o gyngor iddo fo, Lias Tomos?" gofynnodd Dafydd, gan nodio tuag at Owen.

"Cyngor, Dafydd? Nac oes, am wn i, wir, fachgan."

Yna craffodd yn serchog ar y Beibl yn ei ddwylo, a throes y dalennau'n gyflym. "Ond mi ddarllena' i ddarn o'r Hen Lyfr, cyngor yr Apostol i ddyn ifanc tebyg i Owen 'ma . . . O, dyma fo:

'Pregetha y gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, gyd â pob hir-ymaros ac athrawiaeth . . .'

"Never mind to-morrow," rhuodd y lleisiau o'r drws nesaf, ac arhosodd yr hen flaenor ennyd nes i'r nodau mwyaf croch beidio.

"Yr hen lais 'ma dipyn yn wan," meddai. "Fedra' i ddim cystadlu efo'r rheina am funud ne' ddau.

'Canys daw yr amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant. . .'

Arhosodd eilwaith nes i'r floedd o linell, "To-morrow the world may go hang," fynd heibio.

""Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.'"