Y Cychwyn/Prolog

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Y Cychwyn

gan T Rowland Hughes

Pennod 1


𝒫𝓇𝑜𝓁𝑜𝑔

TYNNODD yr hen weinidog y llythyr o'i boced a'i ddarllen eto . . .

"Ac yn awr, gan eich bod wedi ymddeol i Lan Feurig ac yn byw yn eich hen gartref, y mae'n debyg fod eich meddwl yn llithro'n ôl yn aml dros y blynyddoedd i ddyddiau'ch ieuenctid. Beth am grynhoi'ch atgofion mewn cyfres o ysgrifau? Y mae'n sicr y caent groeso mawr gan ein darllenwyr ac y . . . "

Agorodd drws y stydi a daeth ei wraig i mewn a thu ôl iddi Meurig, ei ŵyr saith oed.

"Mi awn ni 'rŵan, Owen. Rhyw negas at eich brawd ?"

"Nac oes, am wn i, wir, Mary, dim ond dweud y galwa' inna' i edrach amdano fo pnawn 'fory, yntê?"

""Ydi'n well imi roi cnapyn neu ddau ar y tân cyn mynd ?"

"Na, mi wna' i pan fydd angen."

"Cofiwch chi, 'rwan. Mae'r gwynt meiriol 'ma'n sleifio i bobman, hyd yn oed at y tân . . . Wel, mi rown ni lonydd i chi i feddwl am yr ysgrifa' 'na. Mae Mr. Jones, y Golygydd, yn dweud calon y gwir, wchi."

"Fod fy meddylia' i'n crwydro'n ôl i'r hen amsar ? Ydi . . . ydi, mae hynny'n wir. Ond . . . " Edrychodd eto ar y llythyr, gan ysgwyd ei ben yn araf. "Ond a fydden' nhw'n ddiddorol i eraill sy'n amheus iawn. Tipyn o bregethwr, nid sgwennwr, fûm i, Mary fach, a hyd y gwela' i, y sgwennu, nid yr atgofion 'u hunain, sy'n bwysig mewn ysgrif. . 'Wn i ddim, 'wn i ddim, wir.

Mi feddylia' i am y peth tra byddwch chi allan, ac efalla' y rho' i rwbath ar bapur."

"Deudwch hanes yr hen gi hwnnw oedd yn medru gwenu, Taid."

"Wel, ia, yntê, 'ngwas i? Lapia di'r crafat 'na am dy wddw'n iawn, 'rŵan, Meurig, gan fod y gwynt mor fain . . . Dyna chdi."

"Fyddwn ni ddim yn hwyr, Owen. Mi ddown yn ôl rhwng saith ac wyth."

"O'r gora', Mary, o'r gora', ond peidiwch â brysio'n ôl er fy mwyn i."

"Ta-ta 'rŵan, Taid."

"Ta-ta, 'machgen i. A phaid di â bwyta llawar o dda-da Robat bach, a nhwtha' ar boints."

Ymhen ennyd clywodd ddrws y tŷ'n cau ar eu holau, yna sŵn traed y ddau ar y llwybr hyd fin yr ardd a chyn hir rygniad y glwyd, a agorai i'r ffordd. Syllodd eto ar y llythyr ar ei lin ac yna'n hir i gochni'r tân. Nid stydi'r Parch. Owen Ellis oedd yr ystafell mwyach, ond y "siambar" lle cysgai ef, Now Ellis, Tyddyn Cerrig, efo Dafydd ei frawd ymhell bell yn ôl, drigain mlynedd yn ôl. . .