Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Byd a Bywyd

Oddi ar Wicidestun
Claddu Ithel ap Robert Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Siôn Cent

Y Cywyddau
Gwagedd y Byd

Byd a Bywyd

SIÔN CENT

PAND angall na ddyallwn
Y byd hir a'r bywyd hwn?

Anair i ddyn na rôi'i dda,
A byrred fydd ei bara.

Pam na welir o hirynt,
Mae'r gwŷr a fu rai mawr gynt?
Mae Salmon nid oedd annoeth
Abl o ddysg, mae Sibli ddoeth?
Mae tâl a gwallt Absalon,
Gorau bryd, dwg ef ger bron;
Mae Samson, galon y gwŷr
Nerthol ? Mae Cai neu Arthur ?
Mae Gwalchmai, ni ddaliai ddig,
Gwrol, mae Gei o Warwig ?
Mae Siarlas o'r maes euriawr ?
Mae ef Alecsander Mawr ?
Mae Edwart—ai plwm ydych ? —
Y gŵr a wnai gaer yn wych?
Y mae'i ddelw, pe meddylien,
Wych, yn y porth uwch ein pen,
Yntau'n fud hwnt yn ei fedd
Dan garreg dew yn gorwedd!

Mae Fyrsul ddiful o ddysg,
A fu urddol o fawrddysg —

A feddodd saith gelfyddyd,
A fu ben awen y byd, —
A'i fwriad wrth fyfyrio,
Atebai lais Tubal o,
Cerdd dafod o geudod gwŷr,
Pibau musig, pob mesur?
Mae Hywel y Pedolau,
A'r llall a'r gron Fwyall grau ?
Cwympason, ddewrion, bob ddau,
Yn brudd oll, yn briddellau;
Oes a edwyn—syw ydych —
Pridd y rhain rhag pridd o'r rhych ?
Afraid i lawen hyfryd
Ei ryfyg er benthyg byd;
Ni wn amod, awn ymaith,
Ar fyw'n hir, ofer yw ’nhaith, —
Er aros oerder, eira
Ni erys haul neu wres ha!

Awstin a ddywed ystyr
Pa beth yw hyd y byd byrr;
Ein llygaid a'n enaid ni
Y sy yman i'n siomi, —
Nid oes, o deiroes, i'r dall
Deirawr, wrth y byd arall;
Ni phery'r byd hoff orwych
Mwy no drem ym min y drych.

Rhodiwn, ceisiwn anrhydedd,
Rhodiwn bawb, rhedwn i'n bedd;

Rhodiwn dir nid hir ein tw,
Rhodiwn fôr, rhaid in farw!
Yno, ni cheisi unawr
D’eiddo ymysg dy dda mawr;

A fynno nef i'w enaid,
O’i feiau byth ef a baid;
Rhaid yw gochel tri gelyn,
Sŵn tost, sy i enaid dyn —
Y cythrel dirgel ei dôn,
A'r cnawd, a'r cwyn anudon.

Tri meddig safedig sydd,
Ar ran dyn, o'r un deunydd, —
Cardod, a ddwg cywirdeb,
Ympryd, anenbyd i neb;
A chariad gwych, a weryd,
Perffaith, ein gobaith i gyd.

Awn i studio'n wastadol
O bwys a nerth, be sy'n ôl;
Mae corn, i frawd, o'm carn, fry,
A’m geilw, pan fwyf i'm gwely;
Y mae'r farn mor gadarngref,
Y cri'n oer, fel y cryn nef;
Yno pan dduo ddaear,
Gwellt a gwŷdd, pob gwyllt a gwar,
Llu eiddo Duw, llaw dde dôn,
Llu du eilwaith lle delon;
Iesu, hyn a ddewiswn,
Awr dda'i hap ar ddeau hwn,
A’n ledio oll hyd liw dydd
O'r llaw yno i'r llawenydd!