Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Gwagedd y Byd
← Byd a Bywyd | Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron Y Cywyddau gan Siôn Cent Y Cywyddau |
I Wallt Llio → |
Gwagedd y Byd
SIÔN CENT
PRUDDLAWN ydyw'r corff priddlyd,
Pregeth, oer o beth, yw'r byd.
Hoywddyn aur heddiw'n arwain
Caeau, modrwyau a main.
Ymofyn am dyddyn da
Ei ddau ardreth, oedd ddirdra,
Gan ostwng gwan i'w eiste
Dan ei law, a dwyn ei le;
A dwyn tyddyn y dyn dall,
A dwyn erw y dyn arall.
Dwyn yr ŷd o dan yr on,
A dwyn gwair y dyn gwirion.
Cynnull anrhaith dau cannyn,
Cyrchu'r da, carcharu'r dyn.
Heddiw mewn pridd yn ddiddim
O'i dda nid oes iddo ddim.
Poen a leinw, pan el yno,
Mewn gorchfan graean a gro.
Rhy isel fydd ei wely,
A'i dâl wrth nenbren ei dŷ;
A'i rwymdost bais o'r amdo,
A'i brudd grud o bridd a gro.
A'i borthor uwch ei gorun,
O bridd du fal breuddwyd ŷn;
A'i ddewrgorff yn y dderwgist,
A'i drwyn yn rhy laswyn drist;
A’i gorsed yn ddaered ddu,
A'i rhidens wedi rhydu;
A'i bais o goed, hoed hydyn,
A'i grys heb lewys heb lun;
A'i ddir hynt i'r ddaear hon,
A'i ddeufraich ar ei ddwyfron;
A llwybrau gwag, lle bu'r gwin,
A'i gôg yn gado'i gegin.
A’i gŵn, yn y neuadd gau,
A’i emys, yn ei amau;
A'i wraig, o'r winllad adail,
Gywir iawn, yn gwra'r ail.
A'i neuadd fawrfalch galchbryd
Yn arch bach yn eiriach byd.
A da'r wlad yn ei adaw
I lawr heb ddim yn ei law.
Pan el mewn arch hybarchlan
Ar frys o'r llys tua'r llan,
Nis calyn merch anherchwedd,
Na gŵr iach bellach y bedd.
Ni rydd gordderch o ferch fain
Ei llaw dan yr un lliain.
Ni ddeil alar yn ddilis,
Ni orwedd ar ei fedd fis.
Wedi bo yno unawr,
Y dyn a'r gwallt melyn mawr,
Llyffant hyll, tywyll yw'r tŷ,
Os gwŷl, fydd ei was gwely.
Hytrach dan warr y garreg
Y breuog tew na'r brig teg.
Amlach yng ngorchudd pruddlawr
Yn ei gylch eirch na meirch mawr.
Yno ni bydd i'r enaid
Na phlas, nag urddas, na phlaid,
Na gwiw addurn, na geudduw,
Na dim, ond a wnaeth er Duw.
Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
Mae'r llysoedd aml ? Mae'r lleisiad ?
Mae'r tai cornogion ? Mae'r tir?
Mae'r swyddau mawr, os haeddir ?
Mae'r sew? Mae'r seigiau newydd ?
Mae'r cig rhost ? Mae'r côg a'u rhydd ?
Mae'r gwin ? Mae'r adar ? Mae'r gwŷdd,
A gludwyd oll drwy'r gwledydd ?
Mae'r feddgell deg? Mae'r gegin
Islaw'r allt ? Mae'r seler win ?
Mae'r siwrnai i Loegr ? Mae'r seirnial ?
Mae'r beirdd teg? Mae'r byrddau tal ?
Mae'r cŵn addfwyn cynyddfawr ?
Mae'r cadw eleirch ? Mae'r meirch mawr?
Mae'r trwsiad aml ? Mae'r trysor ?
Mae'r da mawr ar dir a môr,
A’r neuadd goed newydd gau,
A'r plasoedd, a'r palisau ?
Diddim ydyw o dyddyn
Ond saith droedfedd, diwedd dyn.
Y corff a fu'n y porffor,
Mae mewn cist ym mîn y côr.
A'r enaid ni ŵyr yna,
Pŵl yw o ddysg, ple ydd â.
Am y trosedd a wneddyw
A'r cam gredu, tra fu fyw,
Rhywyr fydd yn y dydd du,
Od wyf ŵr, edifaru.