Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/I Wallt Llio

Oddi ar Wicidestun
Gwagedd y Byd Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Dafydd Nanmor

Y Cywyddau
Marwnad Merch

I Wallt Llio

DAFYDD NANMOR

LLIO eurwallt, lliw arian,
Llewychu mae fal lluwch mân.
Mae ar ei phen, seren serch,
Lliw rhuddaur, Llio Rhydderch.
Ni bu ar wŷdd, yn bêr iach,
Afal Anna felynach.
Mewn moled main a melyn
Mae'n un lliw â'r maen yn Llŷn.
Ar iad Llio rhoed llyweth,
A noblau aur yn ei bleth.
Gwnaed o'r bleth ganpleth i'w gwau,
Tair brwynen tua'r bronnau.
Ac na fynned Gwen fanwallt
Gribau gwŷdd i gribo'i gwallt;
Dycer i Wen er deg grod
Gribau esgyrn geirw bysgod.
Mae ar ei phen,— mor hoff yw !—
Mawr fanwallt Mair o Fynyw.
Mae'r un wallt, mal am war Non,
Near fronnau'r môr-forynion.
Mihangel sy wallt felyn,
Ac un wallt ag yw 'y nyn;
On’d un lliw y fantell hon
A chowgae y marchogion ?
Mal efydd, mil a ofyn,
"Ai mellt nef?" am wallt 'y nyn.
Ai plisg y gneuen wisgi,
Ai dellt aur yw dy wallt di?

Llwyn ne' ddau i'r llan a ddoeth,
Llwyn banadl, Llio'n bennoeth!
Llen gêl a fo ei llwyn gwallt
Am ein gwarrau mewn gorallt.
Dwy did, lle'i dodid owdwl,
Dau dasel hyd ei dwysowdwl.
Ac mae'r ddwydid o sidan
Am Lio'n glog melyn glân.
Ac mae'n debyg mewn deubeth
I faen fflam felen ei phleth.
Llwyn pen lle ceid llinyn parch,
Padreuau y padrïarch.
Ar iad bun erioed y bu
Wisg i allel asgellu.
Crwybr aur, ban y'i cribai,
Pwn mawr o esgyll paun Mai,
Yn ail cyrs, ne' wiail caets,
Fal aur, ne afal oraets.
Mawr y twf, mae ar iad hon
Mil o winwydd melynion.
Un lliw ei gwallt, yn lle gwir,
A chŵyr aberth, o chribir.
Mae'r gwallt mwya ar a gaid
Am ei gwar fal mwy euraid.
Nid ad Duw gwyn, mewn tw' gwallt,
Farw Llio frialleuwallt.