Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Ceiliog Bronfraith
Gwedd
← Troell y Gwir | Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron Y Cywyddau gan Gruffudd Hiraethog Y Cywyddau |
Marwnad Gruffydd Grug → |
Ceiliog Bronfraith
GRUFFYDD HIRAETHOG
CERDDOR llawengainc hirddydd,
Canu er difyrru'r dydd,
Croyw gywydd yn nydd a nos,
Croywach na phynciau'r eos,
Yn bur iawn, heb awr anwych,
Y gwnai bêr wawd, mewn gown brych;
Abad o gaets, bowyd gwiw,—
Ond, ei gwfl nid yw gyfliw;
Pa lifrai amgylch plufron?
Pais fraith o gwmpas ’i fron,
Ac o liw'r fron, goler fraith,
Fo roed henw, o Frytaniaith.
Gyrru i Dduw gerdd a ŵyr,
Groywiaith, a'i big i'r awyr,
Athro adar, iaith rydeg,
Ysgol gân dysg loywgain, deg.
Canu'n wych acen a wnêl
Cynhwyso, pyncio'n isel;
Ba osle well mewn bas lais?
Brawd oslef baradwyslais!
Pregethwas o deyrnas dail,
Poet gwiw mewn pulput gwiail!