Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Troell y Gwir

Oddi ar Wicidestun
Marwnad Merch (Tudur Aled) Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Tudur Aled

Y Cywyddau
Ceiliog Bronfraith

Troell y Gwir

TUDUR ALED
MAE llun rhod i'm llaw yn rhôl,
A drych wyneb drwy’i chanol;
Gwyliwch y droell amgylch draw,
Gwir pedwar gair, heb beidiaw:

Heddwch, bybyrwch y byd,
Cyfoeth yw a fag hefyd;
Cyfoeth balch, cof waith y bêl,
A fo cryf, a fag rhyfel;
Rhyfel a fag rhyw afar,
Tlodi byth, atelid a bâr;
Tlodi, at drueni trwch,
A fo coedd, a fag heddwch.

Mae'r geiriau hyn ym mrig rhod,
Be caid neb i'w cydnabod;
Codiad dyn, nis ceidw tani,
A chwymp sydd o'i chwmpas hi;
O throi unwaith ar anap,
Duw! na throid unwaith ar hap!