Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Lleucu Llwyd
← Cynnwys | Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron Y Cywyddau gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen Y Cywyddau |
Sycharth, Llys Owain Glyn Dwr |
Lleucu Llwyd
LLYWELYN GOCH AMHEIRIG HEN
LLYMA haf llwm i hoywfardd,
A llyma fyd llwm i fardd!
Nid oes yng Ngwynedd heddiw,
Na lloer, na llewych na lliw,
Er pan rodded, trwydded trwch,
Dan lawr dygn, dyn loer degwch.
Y ferch wen o'r dderw brennol,
Arfaeth ddig yw'r fau o’th ôl.
Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
Cyd bych o fewn caead bedd,
F'enaid, cyfod i fyny,
Agor y ddaearddor ddu.
Gwrthod wely tywod hir,
A gwrtheb f'wyneb, feinir.
Mae yma, hoywdra hydraul,
Uwch dy fedd, hoyw annedd haul,
Wr llwm ei wyneb hebod,
Llywelyn Goch, gloch dy glod,
Yn bwhwman rhag annwyd
Ynghylch dy dy, Lleucu Llwyd.
Yn cynnal, hyd tra canwyf,
Cariad ymddifad ydd wyf,
Udfardd yn rhodio adfyd,
O Dduw gwyn! hyd hyn o hyd.
Tawedawg ddwysawg ddiserch,
Ti addawsud, y fud ferch,
Fwyn dy sud, fando sidan,
Fy aros, ddyn loywdlos lân,
Oni ddelwn, gwn y gwir,
Er dy hud o'r deheudir.
Ni chigleu, wythleu ieithlud,
Air na bai wir, feinir fud,
Iawndwf rhianedd Indeg,
Onid hyn o’th enau teg?
Trais mawr, ni’m diddawr am dy,
Torraist amod, trist ymy.
Tydi sydd—mae gywydd gau—
Ar y gwir, rywiog eiriau.
Minnau sydd, ieithrydd athrist,
Ar gelwydd tragywydd trist.
Celwyddog iawn, cul weddi,
Celwyddlais a soniais i.
Mi af o Wynedd heddiw,
Ni wn i ble, loywle liw.
Fy nyn fonheddig ddigawn,
Yn iach! petud iach nid awn.
Lloer wyneb, diareb dioer,
Pell ydwyd mewn pwll lledoer.
Ni ddorwn i, gwn gyni,
Y byd oll, oni bai di.
Ple ca, ni'm dora, dioer,
Dy weled wendw wiwloer
(Ar fynydd, sathr Ofydd serch,
Olifer yr oleuferch ?)
Llwyr y dihaeraist fy llef,
Lleucu, deg waneg wiwnef.
A'r genau hwn gwn ganmawl
A ganwyf tra fwyf o fawl.
F'enaid, hoen geirw afonydd,
Fy nghariad, dy farwnad fydd,
Liwgalch riain oleugain,
Rhy gysgadur ger mur main.
Riain fain, rhy anfynych
Y’th wela, ddyn wiwdda wych.
Cyfod i orffen cyfedd,
I edrych a fynnych fedd,
At dy fardd, ni chwardd ychwaith
Erot dalm, euraid dalaith.
Dyred, ffion ei deurudd,
I fyny o'r pridd-dy prudd.
Anaml yw ôl canoleg,
Nid rhaid twyll 'neutu'r oed teg.
A genais, lugorn Gwynedd,
O eiriau gwawd, eira'i gwedd,
Llef drioch llaw fodrwyaur,
Lleucu, moliant fu it', f'aur.
Cymhenaidd groyw loyw Leucu,
F'annwyl grair, forwyn Fair, fu.
Ei henaid, grair gwlad Feiriawn,
I Dduw Dad, addewid iawn;
A'i meingorff, eiliw mangant,
Meinir i gysegrdir sant,
Dyn bellgof o dan byllgalch,
A da byd i'r gŵr du balch;
A hiraeth, cywyddiaeth cawdd,
I minnau a gymynnawdd.
Lleddf gyfiawn ddeddf ogyfuwch,
Lleucu dlos, lliw cawod luwch.
Myfi, ddyn mwyfwy fonedd,
Echdoe a fûm uwch dy fedd,
Yn wylo deigr llatheugraff
Ar hyd fy wyneb yn rhaff.
Trychnaid llon o'r ffynhonnoedd,
O’r pen mau er poen im oedd.
Ni sych grudd, deurudd dawn,
Gwanas deigr gwynias digrawn.
Tithau, harddlun y fûn fyd,
O'r tewbwll ni'm hatebud.
Pridd a main, glain galarchwerw,
A gudd ei deurudd, a derw.
Gwae fi drymder y gweryd,
A'r pridd ar feistres y pryd,
Gwyrandir ac oer ando,
A phrudd grys a phridd a gro.
Gwae fi fod arch i'th warchae
A tho main rhof a thi mae.
Gwae fi, ferch wen o Bennal,
Breuddwyd oer briddo dy dâl.
Clo dur derw, galarchwerw gael,
A daear, deg ei dwyael.
A thromgadr ddôr a thrymgae,
A llawr maes rhof a'm lloer mae.
A chlud fur, a chlo dur du,
A chlicied,—yn iach, Leucu!