Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Sycharth, Llys Owain Glyn Dwr
← Lleucu Llwyd | Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron Y Cywyddau gan Iolo Goch Y Cywyddau |
Y Llafurwr → |
Sycharth:
Llys Owain Glyn Dwr
IOLO GOCH
ADDEWAIS hyn it ddwywaith,
Addewid teg, addaw taith.
Taled bawb, tâl hyd y bo,
Addewid a addawo.
Pererindawd ffawd ffyddlawn,
Perwyl mor annwyl, mawr iawn,
Myned, mau adduned ddain,
Lles yw, tua llys Owain.
Yno yn ddidro ydd af,
Nid drwg, ac yno trigaf,
I gymryd i'm bywyd barch
Gydag ef o gyd gyfarch.
Ef all fy naf uchaf ach,
Aur ben clêr, erbyn cleiriach.
Bid lwys, cyd boed alusen,
Diwarth hwyl, a da, wrth hen.
I'r llys ar ddyfrys ydd af,
o ddeucant oedd ddi-wacaf.
Llys barwn, lle syberwyd,
Lle daw beirdd ar lled byd.
Gwawr Bowys fawr, beues faig,
Gofyniaid gwiw ofynaig.
Llyna'i modd a'r llun y mae
Mewn eurgylch dŵr mewn argae.
Pand da'r llys, pont ar y llyn,
Ac unporth lle'r ai ganpyn?
Cyplau sydd, gwaith cwplws ynt,
Cwpledig bob cwpl ydynt.
Clochty Padrig, Ffrengig ffrwyth,
Cloystr Westmynstr, cloau ystwyth.
Cenglynrhwym bob congl unrhyw,
Cafell aur, cyfa oll yw.
Cenglynion yn y fron fry,
Dordor megis adardy.
A phob un fal llun llyn-gwlm
Sydd yn ei gilydd yn gwlm.
To Napl ar folt y nowplas,
Tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
Mae'i lofft ef, i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft, ar dalgrofft, adeilgraff,
A'r pedair llofft o hoffter
I gyd llys clyd lliaws clêr.
Oes to teilys ty, atolwg,
Heb simnai lle magai mwg ?
Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw gwardrob ar bob un.
Siopau glân glwys gynnwys gain,
Siop landeg fel Siêb Lundain.
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw.
Pob tir llawn, pob tu i'r llys,
Perllan a gwinllan gwenllys.
Parc cwning, maes pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr, mawr chwedl.
Gar y llys, ar gwr y llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall.
Dolydd glân gwyran a gwair,
Y dau mewn caeau cywair.
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i glomendy gloyw, maendwr ;
Pysgodlyn, cyryglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau,
Amlaf lle caid heb ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A’i dri bath ar adar byw
Peunod, cryhyrod hoywryw.
A’i gaith a wna bob gwaith gwiw,
Cyfreidiawl; cyfryw ydiw
Dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau, bragodau brig
Pob llyn, bara gwyn a gwin ;
A’i gôg, a'i dân, a'i gegin.
Pebyll beirdd, aed pawb lle bo,
Pe beunydd, caiff pawb yno.
A gwraig orau o'r gwragedd,
Gwyn 'y myd o'i gwin a'i medd!
Merch eglur, llin marchoglyw,
Urddol hael o reiol ryw.
A'i blant a ddeuant bob ddau,
Nythaid teg o benaethau.
Anawdd yn fy nydd yno
Weled na chlicied na chlo,
Na phorthoriaeth, nid aeth neb,
O bai eisiau, heb woseb,—
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth.
Gorau Cymro, tro traglew
Piau'r llyn, pwer y llew ;
Gŵr meingryf, gorau mangre,
A phiau'r llys, hoff yw'r lle!