Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 12
Gwedd
← Talfyriadau | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 13 → |
AEL FAIN
(Pen. 84)
Myn Crist 'r wyf yn drist mewn drain yn gorwedd
O gariad fy rhiain;
Gwelir fi yn farw gelain
Ar ôl y ferch a'r ael fain.
—DIENW.
ALTS
(C.M. 14)
ANNERCH
(Most. 131)
Can' hawddamawr mawr o'm iaith a roddwn;
Ireiddwyn gydymaith
A chan' hawddfyd mebyd maith
I'r câr gwyn cywir, ganwaith.
Gwae fi, gwn weiddi, gan na wyddoch boen
Am benyd a roesoch;
Dilawen wy 'n dilyn och
A di stôr, ond a styrioch.
Cysgu mewn deudy, nid iach i'r galon,
Fo'm gwelir i'n bruddach;
Beth a wnai, gyfell, bellach,
Ai marw ai byw 'r enaid bach?
—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH;[3]
Nodiadau
[golygu]- ↑ tegach. Ni chaledai 'r g yn y radd gymharol.
- ↑ Seiriol enw sant. Ar ei ôl ef yr enwir Ynys Seiriol, ar ymyl Môn.
- ↑ Ychydig brydyddiaeth o waith merched a geir yn y Llawysgrifau Cymraeg. Un o Ddyffryn Clwyd oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Efallai mai hi oedd y brydyddes ddienw.