Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 13

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 12 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 14

ANWYLDEB.
(Most. 131)

F'enaid, tro d'wyneb yn fynych ataf,
Tro eto, ddyn feinwych;
Tro, y fwyn, yma tra fych,
Tro, f 'enaid, im tra fynnych.

—DIENW.


ANWYLYD RHYWUN
(C.M. 14)

Dacw wen feinwen ar faenol, decaf,
A dacw fy hudol;[1]
Dacw 'nghariad gwastadol,
A dacw 'r ddyn deca ar ddôl!

—DIENW.


CAMPAU
(Most. 131)

Yn wen, yn llawen, yn lliwus, yn araf,
Yn irwen barablus,
Yn winwydden wen weddus,
Yn fain ei chorff, fwyn ei chus.[2]

—Dienw.


CARU AUR

Cerais aur, ac er rhoi sen, ba gerydd?
Bwy garai beth amgen?
Cywrain fal coron felen
Y troed y gwallt ar iâd Gwen!

—DIENW.


Nodiadau[golygu]

  1. hudol swynwr. Enw yw, nid ansoddair
  2. cus, cusan