Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 14

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 13 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 15

Y CRYFAF PETH
(N.L.W. Add. MS. 436,110)

Cryf yw cryfdwr dŵr ar doriad y môr,
Cryf ymherodr dengwlad,
Cryf yw 'r gwynt, rhyw helynt rhad,
Cryf yw cwrw, cryfa Cariad.

—DIENW


CYNGOR
(Pen. 123)

Pan fo 'r haf decaf o'r dydd i garu,
Goreu bod yn llonydd;
Na ddod dy law mewn awydd
Yn rhwym, rhag nas cei hi'n rhydd.

—D.W.G.


DISGWYL
(Most. 131)

Beunydd o newydd, a nos, i'm meddwl,
Fy maddeu 'r wyt, agos;
Minnau sydd wâr yn d' aros—
Od ei yn elyn im, dos!

—Prydyddes Ddienw o Sir Ddinbych.


DDYDD GŴYL

Gwyliwch na soniwch am Siân, na dwedyd
Nad ydyw 'n ferch groenlan,
Oedd gloewach, ddygwyl Ieuan,
Ei thrwsiad hi na thyrs[1] tân!

—DIENW.


Nodiadau[golygu]

  1. tyrs, ffaglau. O'r Saes. torch