Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 15
Gwedd
← Tudalen 14 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 16 → |
ELIN
(G.M.)
Bendith tad, rhodiad mewn rhin, cyfiawn-deg
Fendith mam ddierwin;
A'm bendith i gwedi gwin,
O fawlair fo i Elin.
—EDWARD URIEN.
GAIR MWYS
(Pen. 99)
Anhawddgar feinwar, a'r faneg yn aur,
Yn arwain pryd rhydeg;
Anhapus, ddyn weddusdeg,
Anffortun i'r topyn[1] teg!
An-fwyn, anaddwyn, an-wych, anluniaidd,
Anlanaf, lle delych;
An lawen, ddyn oleuwych,
An lan iawn wyd o lun wych!
—SION TUDUR, i ferch a'i henw Ann.
GLENDID
Od ydwyd, fal y dywedan', yn ffôl
Ac yn ffals dy amcan,
Hynod i Dduw ei hunan
Fentro dy lunio mor lân!
—DIENW.
Nodiadau
[golygu]- ↑ topyn, cudyn gwallt. Gwelir mai chwarae ar enw'r ferch y mae'r prydydd