Neidio i'r cynnwys

Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 18

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 17 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 19

HIRAETH
(Most. 131)

Pob mwynder, ofer afiaith, pob meddwl,
Pob moddus gydymaith,
Popeth, yn wir, ond hiraeth,
Yn gynnar iawn oddi genni 'r aeth!

—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH.


IDDI HI
(Most. 131)

N' ato[1] Crist awr drist fynd drosti, na chlwyf,
Na chlefyd fyth arni,
Na digwyddaw dig iddi,
Na 'i chasáu o'm achos i.

—DIENW.


LLE BO'R GALON
(P.M.)

Lle bo cariad, brad mewn bron, yn llechu
Mewn lloches dirgelion,
Fe dry llusgiad llygad llon,[2]
Llwybr y goel, lle bo'r galon.

—DIENW.


MERCH LAN
(C.M. 23)

Os gwych Gwen feinwych, gwyn fanod,[3] nodedig
Nad ydyw heb wybod;
Od yw hon o dw[4] hynod,
Da 'i llun, fo ŵyr bun ei bod!

—DIENW.


Nodiadau

[golygu]
  1. N' ato na adawed.
  2. Ymadrodd ardderchog yw llusgiad llygad llon.
  3. gwyn fanod ôd neu eira mân.
  4. o dw, o dwf