Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 19
Gwedd
← Tudalen 18 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 20 → |
PELLTER
(Most. 131)
Byd digllon i'm bron, heb wres, dy belled,
Dibwyllodd fy mynwes;
Byd rhyflin bod rhyw afles,
Byd da 'n wir be baut yn nes!
—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH.
RHWNG DAU
(P.M.)
"Amdanad mewn gwlad mae 'n gledi gwallus
Am golli dy gwmni;
Dwysach oedd na 'm dioesi,
Dwysa dim dy eisiau di."
"Cei fynwes gynnes genni, cu fwynwalch,
Cei f' einioes, os mynni;
Cei fy llaw yn dy law di,
Cei fy nerth cyfan wrthi."
—DIENW.
TRASERCH
(N.L.W. Add. 436)
Treiglo, trwm ddigio trwy ymddygiad traserch,
Nid rheswm mo 'i fagiad;
Trwm ydyw'r plwm a dur plâd[1]
Trwm awch cur, trymach cariad.
—DIENW.
UNWAITH
(C.M. 5)
Amser drwy fwynder a fu mai cynnes
Y cawn dy gusanu;
A digerydd, dy garu
Eto a gaf, wyt ti gu!
—ELIS AB ELIS.
Nodiadau
[golygu]- ↑ dur plâd, plât, o'r Saes. plate.,