Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 20

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 19 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 21

WEDI 'R CWBL
(Most. 131)

Os bwriad cariad a'm curia dan f'ais
Er dwyn f' oes, ni chwyna';
Gwnaed hiraeth im ei waetha,
A'i bod Hi yn dwyn byd da!

—DIENW.


YMADO
(Most. 131)

Na herwr[1] yn siwr dan law siri,[2]
Yn myned i'w golli,[3]
Blinach i'm tyb eleni,
Mawd ach Huw, ymado â chwi.

—DIENW.


YR OED
(Pen. 52)

Glân yw meingan mewn mangoed a manwydd
A minnau sy sgafndroed;
Y bore y bu hiroed,
A phrynhawn yr awn i'r oed.

—DIENW.


Y WLAD UCHAF
(C.M. 23)

O daliaf i byth ar adeilad tŷ,
Tynnaf i'r uchelwlad;
Meddyliaf am y ddwywlad—
Ordraf fy nhŷ ar dref fy nhad.

—OWAIN EUTUN.


Nodiadau[golygu]

  1. herwr, un wedi colli nawdd cyfraith, peth cyffredin pan oeddid yn lladrata tiroedd y Cymry annibynnol.
  2. Siri, siryf, o'r Saes. Sheriff. Dealler main gyda herwr main,
  3. i'w golli, i'w ddihenyddio.