Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 21

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 20 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 22

TEGEINGL
(Pen. 84, 243)

Rhodiais tra fymiais trwy fannau ar fyd,
Trwy hyfryd fryd frodiau,[1]
Truth gadarn, teg yw'r farn fau,
Tew gongl aur, Tegeingl orau.

—TUDUR ALED.


(Pen. 134)

Plae mae cael mor hael? mawr holi; pob llan
Pob llawenydd ynddi;
Pob da'n hon, pawb edwyn hi,
Pob dyn mewn pob daioni.

—GRUFFYDD HIRAETHOG.


CARTREF
(Pen. 115)

Plennais, da gwisgais dew gysgod o'th gylch
Wedi 'th gael yn barod;
Wele, yr Hendre Waelod,
Byddi di a m'fi heb fod!

WILLIAM PHYLIP, i'w gartref Hendre Waelod, 1593


GRESAW
(Pen 81)

Dyred pan fynnych, gresaw pan ddelych,
A gwedi delych, tra fynnych, trig.

—SYPYN CYFEILIOG.


Nodiadau[golygu]

  1. brodiau, ffurf luosog brawd, barn.