Neidio i'r cynnwys

Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 24

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 23 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 25

GYNT
(C.M. 23)

Mi wela' yma lle bu amau[1] bod
Heb na beirdd na thannau,
Mi welais yma wyliau
A llawen gwrt, a llu 'n gwau.

—OWAIN GWYNEDD,
wrth fynd heibio i Fathafarn.


TELYN
(Most. 131, 526)

Hawddamawr bob awr, bybyriaith, dylwn
I'r delyn o'r henwaith,
Wrth glywed mwyned i'm iaith
Ei brenhingerdd brynhawngwaith.

—TUDUR ALED.


CAIS LLE BU
(C.M. 14)

Nid oes 'n awr, dirfawr y darfu, maswedd
Na musig[2] yng Nghymru;
Diau oedd fod dydd a fu
Telyn gan bob pen teulu!

—LEWYS MORYS O FON, 1726.


COLWYN[3] BRITH
(C.M. 23)

Gronyn ohonyn henwyd, eirionyn,
Gronyn a gywreiniwyd,
Gronyn, gonyn ag annwyd,
Gronyn yn gynrhonyn rhwyd.

—SIÔN BRWYNOG.


Nodiadau

[golygu]
  1. lle bu amau, lle bu amheus.
  2. musig. Seinier yr u Gymraeg, fel y gwneir eto yn y gair ar derfynau Sir Gaorfyrddin a Morgannwg.
  3. colwyn, ci bach. Tebig mai Gronyn oedd ei enw.