Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 23

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 22 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 24

LLE MAE AWEN
(C.M. 23)

Llyma fedd maswedd Moesen, wawd didwyll
Lle mae Tudur gymen,
Llyma 'r ro lle mae'r awen,
A llyma 'r pwll lle mae'r pen.

WILLIAM CYNWAL, wrth fedd Tudur Aled.


YSGOLHAIG

Er Cof am Edward Llwyd.[1]

Meini nadd a mynyddoedd, a gwaliau
Ac olion dinasoedd,
A dail, dy fyfyrdod oedd,
A hanesion hen oesoedd.


CELYNLLWYN
(C.M. 23)

Tŵr celyn uwch bryn a bro, tŵr a gardd,
Tŵr i gerdded ynddo,
Y tu fewn fal tŷ yw fo,
Tyner a'r Foelas tano.

—RHYS CAIN, i'r Foelas, Pentre Foelas


C.M. 23)

Bryn glas y Foelas a folon[2] i'n tasg
Hynt esgud y beirddion,
A siambrau, tyrau tirion,
Yr hafaidd dŷ fry ar fron.

—RHYS AP RHOBERT, i'r unlle.


Nodiadau[golygu]

  1. Edward Lhuyd, pennaeth Cywreinfa Ashmole, Rhydychen, un o ysgolheigion pennaf ei oes.
  2. a folon, a folom. Tyfodd y ffurf (a glywir fyth ar lafar) drwy i'r n o'r rhagenw ni lyncu'r m. i'n tasg, fel dyletswydd. i'n tasg,