Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 33

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 32 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 34

BAI ARALL
(Most. 144)

Pobl y byd ennyd adwaenan', o fâr,
Fai arall yn fuan;
Ni wŷl neb yn ôl a wnân'
Hanner ei feiau 'i hunan.

—RHISIART ABRAM.


(Pen 66)

Gwirddyn ni ŵyr mo'i gerdded o'i flaen,
Aflonydd yw 'r dynged;
A fo difai na feied
Ai' y lleill a'u bai ar lled.

—DIENW.


BALCHTER
(N.L.W. Add. 436)

Fy ienctid trwy lid heb les, o falchedd
A fylchodd fy muches;
A'm opiniwn a'm poenes
Yn llwyr yn erbyn fy lles.

—DIENW.


BARN

Pob drwg o'r golwg a gela dynion
A dân y Gorucha';
Yn ei lys Ef, ni leshâ
Euro llaw[1] am air lleia'.

—DIENW.


Nodiadau[golygu]

  1. euro llaw, prynu ffafr, breibio.