Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 34
Gwedd
← Tudalen 33 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 35 → |
BENDITH
(C.M. 24)
I garchar daear od wyf ar fyned,
A'r fonwent y caffwyf,
Yn fy medd cyn gorweddwyf,
Fy mendith ymhlith fy mhlwyf.
—HUW LLIFON.
(C.M. 23)
Fal blodau prennau ymhob rhith, fal ôd,
Fal adar ar wenith,
Fal y daw y glaw a'r gwlith,
Mae i undyn fy mendith.
—DIENW.
BODLONDEB
(C.M. 24)
Doed ôd a chafod o uchafion byd,
Rhaid yw bod yn fodlon;
E ddaw unwaith i ddynion
Gawod o haul gwedi hon!
—DIENW.
BLINDER
(C.M. 51)
Blin feddwl, drwbwl, blin foddion y byd,
Blin yw bod yn ddigllon;
Blin ymhêl a chatelion,[1]
Blinach yw byw lle ni bôn'!
—SION PHYLIP.
Nodiadau
[golygu]- ↑ catelion, o'r Saes. chattels.