Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 35
Gwedd
← Tudalen 34 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 36 → |
BOCH A LLYGAD
(Pen. 99)
Ymgais di, Ddafydd, yn amgen â Thwm,
Od aeth yma gynnen,
O'i foch, cais dynnu fflochen
I gau tolc dy lygad hen!
—SIMWNT VYCHAN, pan oedd ddychanu rhwng Tomos Grythor y Foch
a Dafydd ap
Niclas, gwehydd un llygeidiog.[1]
BONEDD
(C.M. 24)
Doeder[2] a fynner am fonedd i ddyn,
Oni ddwg beth rhinwedd,
Fo a'r gŵr afrywiog wedd
Yn daeog yn y diwedd.
—DIENW
BRAD
(Pen. 72)
Suddas fradwr, gŵr a gai arian gwarth
Er gwerthu 'r Mab Drogan,
Tithau, mae 'r gair it weithian
Fwrw ohonot ti Fair yn tân.
—RAFF AP ROBERT.
BYD FEL Y BO
(C.M. 24)
Tra bo iraidd gwraidd 'ny gro, pêr ydywj
Prioded a'i caro;
Rhaid i'r ferch a orddercho
Gymryd y byd fal y bo.
—DIENW.