Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 36

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 35 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 37

BYD WRTH FODD
(Llsgr. R.N.J.)

Ni chadd dyn ronyn ond a rannodd—Duw,
Ni cheir dim o'i anfodd;
Odid un a'i dymunodd
Yr aeth ei fyd wrth ei fodd.

—DIENW.


BYW 'N LAN.
(Most. 144)

Englyn a thelyn a thân, ac afal,
Ac yfwyr mwyn diddan,
A gwin melys a chusan,
Dyn fain, lwys,—dyna fyw 'n lân!

—DIENW.


CADARN ANGHYFION

Y cadarn a'i farn a fo anghyfion,
Anghofia Duw 'r eiddo;
A wnêl camwedd,[1] drygwedd dro,
E dry 'i epil ar dripio,.

—SION DAFYDD AP SION.


CAWS DRWG
(Pen. 77, 264)

Caws du Llan Bendu, mal hen badell grach,
A gwrych ar ei dafell;
Caws yr ast o Dre 'r Castell,
Caseg a wnai caws gwyn well!

—TUDUR ALED.


Nodiadau[golygu]

  1. a wnel camwedd. Ni feddelid cytsain yn gyffredin gynt ar ol ffurfiau trydydd pers. unig y modd dibynnol.