Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 41
Gwedd
← Tudalen 40 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 42 → |
EDIFAR
(Most. 131)
Trugaredd deg wedd. Duw gwyn, i'm buchedd—
Mi bechais yn d' erbyn;
Wylo 'r wyf i'w llwyr ofyn,
Dwfr hallt, mae 'n edifar hyn.
—DIENW.
ELUSEN
(B.M. 15030)
Dod gyfran i'r gwan pan gwyno ei ing,
O'i angen a'i portho;
Na bydd byth gybydd o'th go
Ac an-hael i gynhilo.
—IEUAN BRYDYDD HIR IEUAF.
ERFYNIAD
(C.M. 24)
Fy Arglwydd hylwydd a haela', trwy ffydd
Mae tri pheth a geisia'
—
Dy ras im drwy oes yma,
Trugaredd a diwedd da.
—DIENW.
A FYNNO DUW A FYDD
(C.M. 23)
Dur, haearn cadarn, coedydd, a thyrau,
A thiroedd a gwledydd,
A fynno Duw o fewn dydd
Ei ddarfod, ef a dderfydd.
—DIENW.