Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 42
Gwedd
← Tudalen 41 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 43 → |
GENI A MARW
(C.M. 14)
Noeth, bychan a gwan y genir dyn byw,
Dyna beth syad eirwir;
A gwan a noeth, gwn yn wir,
A diddim y diweddir.
—RAFF AP ROBERT, yn ol Most. 131.
GOFID
(Most. 131)
Ydwyf brudd bob dydd, nid aeth o'm calon,
Coeliwch fi, fy hiraeth;
Ni chêl y grudd cystudd caeth
Y galon a ddwg alaeth.
—DIENW.
GOGAN
(Most. 131)
Annoeth iawn fy noethineb
O gwnawn i ogan i neb;
A wnêl gogan ac anair,
Am ogan, gogan a gair.
—DIENW.
GOLUD
(Most. 131)
Wrth weled mor galed gwylio cywaeth
Caeodd pawb eu dwylo;
Ni chlyw 'r llawn, gyflawn ei go',
Wich y gwan na chai ginio.
—DIENW.