Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 43

Oddi ar Wicidestun
Tudalen 42 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 44

GOREU SWYDD, CYWIRDEB
(Most. 131, 609)

O'r swyddau, diau, lle deuir i'r byd,
Goreu bod yn gywir;
Ni freinia nef yr enwir,
Ni fynn Duw gwyn ond y gwir.

—TUDUR ALED.


GRAS
(C.M. 23)

I fab diarab, diras yw'r moddau
Er meddu'r holl deyrnas;
Ofer oedd, nid ffafr addas,
Dda neu bryd[1] i ddyn heb ras.

—DIENW.


Y GROG

Yr annuwiol ffôl a ffy, poen alaeth,
Pan welo lun Iesu;
Llunied, os gwell yw hynny,
Llun diawl ymhob lle 'n ei dŷ.

—RHYS CAIN, pan feiwyd arno am beintio llun Crist ar y grog


GWAITH
(Pen. 159)

Llafuria, gweithia ym mysg gweithwyr byd,
Bid d' enaid yn deilwng;
Rhag ofn o fewn rhyw gyfnod
Dy farw ym mysg d' oferedd.

—"Hywel Bangor a'i gwnaeth, mewn tair
enaid cerdd, ac er hynny mae bai, oherwydd
nad yw'r odlau yn cyd-gordio.[2]


Nodiadau[golygu]

  1. neu bryd, harddwch.
  2. Gwelir nad odla diben y llinellau, ac na chedwir rheol dibeniad anghytbwys yr esgyll.