Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 44
Gwedd
← Tudalen 43 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 45 → |
GWEDI GWIN
(Pen. 99)
Nid da cellwair, gair a wna gwarth, Dafydd,
Ail dyfiad Deheubarth;
Nid da awen, nid diwarth
Min, yn ôl gwin, a wnêl gwarth.
—DIENW.
GWRAGEDD
(Pen. 99)
Mae gwraig heb ddim gorwegi, ddiddig,
A ddioddef ei chosbi;
Y mae gwraig—neu ymgrogi,—
A fynn hyn a fynno hi.
—IFAN TUDUR OWAIN.
GWREIDDYN
Mae'n wir y gwelir argoelyn difai
Wrth dyfiad y brigyn,
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo 'i wreiddyn.
—TUDUR ALED
GWROL TRUGAROG
(Most. 131, 253)
Gwrol, tra gwrol, trugarog wrol,
Ni bu tragwrol na bai trugarog.[1]
—TUDUR ALED.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Toddaid Hir yw 'r pennill, ond am fod y Gair Cyrch yn odli â'r gwant, fe wnâ bennill Rhupunt Hir hefyd —
"Gwrol, tragwrol,
Trugarog wrol,
Ni bu tragwrol
Na bai trugarog."