Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 45
Gwedd
← Tudalen 44 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 46 → |
GWYN EI FYD
(C.M. 23)
Gwyn ei fyd, gweryd Duw'r gwirion, a gaiff
Un a gâr ei galon,
Iechyd hardd, a chyda hon,
Dŵr i'w yfed o'r afon.
—DIENW.
GWYNFYD
Gosodwyd, nodwyd i eneidie ffyddlon
Yn berffeiddlwys gartre
Aur blas, a gras yw'r grisie,
Disgleirwych yn entrych ne.
Nid gwynfyd a wnaed i genfaint anianol,
Mae 'n wynnach brenhinfraint.
Ni ddaw yno 'n ddi henaint
I lan y sêr lai na saint.
—ELLIS WYNNE O LASYNYS.[1]
GWYR MAWR
(N.L.W. Add. 436)
Pob llanc yn ifanc a fo yn ŵr ffres,
Ni phrisia gwmnïwr,
Pob bril yn mynd yn filwr,
A phob nag, a phawb yn ŵr.
—DIENW.
IECHYD
(C.M. 24)
Duw frenin, ddibrin ddiddybryd, da'i wyrthiau,
Diwartha fy mywyd,
Arglwydd ben arglwyddi byd
Drem uchel, dyro i'm iechyd.
—HUW LLIFON.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gwelir fod Ellis Wynne yn arfer ffurfiau llafar.