Y Pennaf Peth/Duw sy'n Bopeth i Bawb
← Mil o Filltiroedd i'r Ysgol | Y Pennaf Peth gan John Hughes Morris |
Gwron Livingstonia → |
"Duw sy'n Bopeth i Bawb"
MEDD y Mahometaniaid gant namyn un o enwau ar Dduw (Allah), a disgwylir i bob Mahometan eu hadrodd pan weddia, gan eu cyfrif bob yn un ac un ar ei rês paderau (rosary) a wisgir yn gyffredin o amgylch y gwddf. Dichon na fedrai llawer o'n darllenwyr, hen nac ieuanc, adrodd cant namyn un o enwau a geir yn y Beibl ar Dduw. Gwyddom alw Duw yn fynych wrth enwau megis Tŵr, Craig, Tarian,-pob un ohonynt yn awgrymu bod Duw yn amddiffyn i'w bobl. Rhoddwyd iddo enw arall gan un o lwythau Affrica,-Duw y Waywffon (the Spear-God).
Mewn rhan o'r Sudan, y wlad dywyll honno yn Affrica, ceir llwyth lluosog a elwir y Dinka, pobl wrol, yn meddu ar lawer o hynodion, a'u prif arf i ymosod ac i amddiffyn ydyw'r waywffon. Gallant daro gyda hi hyd at drwch y blewyn. Un noswaith cyrhaeddodd cenhadwr, yn flin gan ei daith, i un o bentrefi y Dinka, rhyw ugain milltir oddi wrth lan afon Nil. Yn ebrwydd wedi iddo gyrraedd, daeth dyn yno o bentref arall bum milltir o ffordd, gan ddweud fod ei eneth fach wedi llosgi yn ddrwg; a oedd gan yr Hakim Gwer (Hakim, meddyg; Gwer, athro) ryw feddyginiaeth a wnai leddfu ei phoen? Addawodd y cenhadwr ddyfod yno yn ddioed, ac wedi cael tamaid brysiog o fwyd cychwynnodd i'r daith. Cymerodd ei feisicl ("y mul haearn" fel y geilw'r Dinka ef), gydag ef. Yn fuan yr oedd yn myned trwy ganol glaswellt uchel, troedfedd neu ddwy yn uwch na'i ben. Llwybr cul a throellog oedd ganddo i fyned ar hyd-ddo, a'r glaswellt yn fynych yn taro yn erbyn ei wyneb a'i freichiau, ac yn myned i mewn i olwynion ei feisicl gan ei rwystro i fynd ymlaen.
Pan oddeutu hanner y ffordd clywodd lew yn rhuo yn y glaswellt. Ni fedrai ei weled, ond gwyddai oddi wrth y sŵn ei fod yn agos iawn ato. Neidiodd oddi ar gefn y "mul haearn." Safodd ar y llwybr, a mur o laswellt uchel, trwchus, o bobtu iddo. Petrusai am foment beth i'w wneud. Yr oedd ar yr eneth fach angen ei help ar frys, ac eto, pe cai y llew afael arno, ni fedrai ei helpu hi na neb arall byth. Anfonodd saeth-weddi at Dduw, ac ar amrantiad daeth yr ateb mewn adnod a fflachiodd i'w feddwl. Yr adnod oedd hon: "A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth?" (Amos iii, 4). Atebodd cenhadwr y cwestiwn iddo'i hun: "Na," meddai, "ni fuasai'r llew yn rhuo fel hyn, gan ddychryn ymaith bob ewig a phob bwch, oni bai ei fod eisoes wedi dal rhywbeth i ysglyfaethu arno. Galw y mae, mae'n debyg, ar ei gydymaith i gyd-wledda ag ef; a phe clywai fy sŵn i yn myned drwy'r glaswellt, nid yw'n debyg y trafferthai i adael ei ysglyfaeth, a dyfod ar fy ôl."
Neidiodd drachefn ar gefn ei feisicl; cyrhaeddodd y pentref yn ddiogel, a thriniodd friwiau y plentyn. Yn y man hwyliodd i ddychwelyd adref, ac fel y gadawai y pentref gofynnodd rhai o'r dynion iddo a glywsai lew yn rhuo pan ar ei ffordd yno? Pan atebodd yn gadarnhaol, dywedodd un ohonynt wrtho, "Gwer! ni ddylet deithio trwy'r glaswellt hir heb waywffon i amddiffyn dy hun. Er eu syndod atebodd, "Ni byddaf byth yn teithio i unman heb fy ngwaywffon." Edrychasant arno, ac ar ei feisicl, ac meddent, "Ni welwn ni yr un waywffon; pa le y mae hi?" "Duw yw fy ngwaywffon i; mae'n fy am-ddiffyn pa le bynnag yr af." Cyffyrddodd yr ateb galon ei wrandawyr; gallent ddeall y gymhariaeth yn rhwydd. "Mae eich Duw chwi," meddent, "yn bob peth i bawb," a byth er hynny soniant am y cenhadwr fel "Gwas y Duw sy'n waywffon."