Y Pennaf Peth/Gwron Livingstonia
← Duw sy'n Bopeth i Bawb | Y Pennaf Peth gan John Hughes Morris |
Toddi'r Galon Galed → |
Gwron Livingstonia
UN o ramantau mwyaf rhyfeddol ymgyrch cenhadol y ganrif ddiweddaf ydyw hanes Robert Laws, M.D., D.D., Livingstonia. Treuliodd ddeuddeng mlynedd a deugain yn Affrica, o 1875 hyd 1927. Bu farw ym mis Awst, 1934.
Pan fu farw Dr. Livingstone yn 1873, clywyd ei sialens i efengyleiddio'r Cyfandir Tywyll yn holl eglwysi'r Ysgotland, ac un o'r rhai cyntaf i ateb yr alwad oedd Robert Laws,-efrydydd ieuanc, pedair ar hugain oed, o amgylchiadau hynod gyffredin, ond wedi ei fendithio â gwroldeb a phenderfyniad di-ildio. Nid aeth cenhadwr erioed i wlad fwy barbaraidd na'r diriogaeth yr anturiodd ef iddi. Gwelid yno holl ddrygau paganiaeth yn eu ffurf waethaf a chreulonaf. Ar derfyn pum mlynedd cyntaf ei lafur, dyma, fe ddywedid, yr hyn oedd gan y Genhadaeth i'w ddangos fel ffrwyth ei gwaith: "Pump o feddau cenhadon; ugain mil o bunnau wedi eu gwario; nifer y dychweledigion,—un!" Erbyn heddiw ceir yn y wlad honno dros drigain mil o Gristionogion, a thros wyth gant o ysgolion. Rhoddwn y dyfyniadau anghysylltiol a ganlyn o'i Gofiant ac o'r llu ysgrifau sydd wedi ymddangos amdano.
Gofynnodd y Parch. W. P. Young i un o'r brodorion yn Livingstonia, gŵr o'r enw Yuraya Choiwa, pa gyfrif a roddai am ddylanwad nodedig Dr. Laws ar y bobl. Atebodd Yuraya: "Pethau fel hyn sy'n cyfrif amdano. 'Rwy'n cofio, un noson wyllt, dywyll, ystormus, ar ganol y nos cymerwyd dyn yn wael, ac yn wael iawn, ym mhentref y Gogo. Nid oedd Dr. Laws wedi bod ond ychydig fisoedd yn y wlad yr adeg honno. Yr oedd y teulu yn drallodus dros ben, ac yn awyddus am gael y cenhadwr i weled y claf. Ond atebodd y cymdogion: "Waeth i chwi heb nag anfon; ddaw yr un dyn gwyn o'i wely cysurus ar noson fel hon i weld rhai o'n bath ni!" Dywedodd Yuraya, "Mi treiaf o." Aeth at dŷ y cenhadwr; curodd ar y drws. Yn y fan wele lais oddi mewn yn galw, "Pwy sydd yna? beth sydd yn bod?" Atebodd Yuraya, "Mae yna ddyn yn sâl iawn yn y pentref." "O'r gorau, byddaf yn barod mewn pum munud." Ymhen pum munud yr oedd y ddau yn cerdded cyn gyflymed ag y medrent drwy'r storm a'r tywyllwch, ac arhosodd y meddyg wrth wely'r claf ar hyd y nos. Achubwyd bywyd y dyn. Pethau fel yna sy'n cyfrif am ddylanwad Dr. Laws."
Dywed Mrs. A. E. Mackenzie, a fu'n genhades yn Livingstonia, pan gynigiodd hi ei hun i'r gwaith, ei galw i gyfarfod Dr. Laws er cael ymddiddan ag ef. Wedi gofyn iddi ychydig gwestiynau am ei haddysg, a hynny yn bur gwta, gofynnodd yn sydyn: "Wyddoch chi sut i fyw hefo draenog (hedgehog)?" Edrychodd ym myw fy llygad, heb gysgod o wên ar ei wyneb. Wedi imi gael fy anadl, dywedais fy mod wedi cael ychydig brofiad o fyw gyda phobl felly. Ei gwestiwn nesaf oedd, 'Wyddoch chi sut i sgwrio llawr?' Rhaid oedd imi ateb na fûm erioed yn treio, 'ond 'rwyf yn siwr,' meddwn, 'y medrwn ddysgu.' Yna dywedodd wrthyf, braidd yn chwyrn, ac eto yn garedig: 'Peidiwch â meddwl am fynd i Affrica i fyw fel y brodorion, mewn bwthyn gwael o glai, ac i fwyta eich bwyd allan o lestri enamel, ac i ymwadu â phob cysuron. Nid eich bedd chwi sydd ar Dduw ei eisiau, ond eich gwaith, a'ch gwaith gorau. Fedrwch chwi byth wneud eich gwaith gorau os byddwch byw mewn amgylchoedd salw. Yr ydych yn mynd i Affrica i godi'r trigolion, nid i ddisgyn i'w lefel hwy. A ydych yn hoff o fiwsig, ac o ddarluniau prydferth, ac o ddarllen llyfrau? Ewch a digon ohonynt gyda chwi. Peidiwch â mynd a llyfrau crefyddol yn unig. Os ydyw Alice in Wonderland gennych, ewch ag ef gyda chwi, a llyfrau eraill i wneud i chwi chwerthin pan fyddwch yn teimlo yn isel eich meddwl. Ewch a phethau i wneud i'ch ystafell edrych yn siriol a phrydferth, a llestri prydferth i'w rhoi ar eich bwrdd. Yr ydych yn sicr o deimlo weithiau fod pob awydd am fwyd wedi cilio, ond bydd bwrdd â llestri da arno yn siwr o godi blys arnoch am fwyd.' Cyn imi ei adael, aeth y Doctor i weddi, a'i air olaf imi oedd hwn: 'Cofiwch, eich gwaith, nid eich bedd, sydd ar Dduw ei eisiau. Mynnwch synnwyr cyffredin wedi ei sancteiddio."
Un bore daeth dau negro talgryf â'u gwragedd at dŷ Dr. Laws. Cwerylai y ddwy wraig beunydd. Y bore hwnnw aeth y ffrae yn ymladd, a brathodd un fysedd ei chymdoges yn greulon. Methai'r gwŷr a chael trefn arnynt, ac apeliasant am gymorth y cenhadwr. Aeth y meddyg i'r dispensary, a daeth allan gyda darnau o sticking plaster. Wedi rhwymo'r bysedd dolurus, gosododd ddarn o'r plaster ar draws genau y dioddefydd, o'r trwyn i'r ên; ac ar enau y llall, oedd yn amlwg y fwyaf tafodrydd o'r ddwy, rhoddodd ddau ddarn, a gorchmynnodd hwy i ddychwelyd gyda'r hwyr i gael eu tynnu ymaith. Ymdreiglai'r gwŷr gan chwerthin, ac nid oedd ball ar eu hedmygedd o "feddyginiaeth" effeithiol y dyn gwyn.
Ymddiddanai dau bagan am ryw droseddau a gyflawnesid y dyddiau hynny. "Rhyfedd iawn," meddai un, "gan fod yr Azungu (y dynion gwyn) mor glyfar, a chynifer o bethau ganddynt, na buasai ganddynt ryw ffisig i wneud dynion drwg yn ddynion da." "Ond y mae ganddynt," atebai'r llall. "Beth ydyw?" "Llyfr Duw," oedd yr ateb.
"Pa fodd y mae'r dyn gwyn yn gwybod yr holl bethau yma?" gofynnai un o'r brodorion i Dr. Laws, gan gyfeirio at ei fedr ef a'i gyd-genhadon i wneud gwaith saer, a thrin y tir, ac ysgrifennu, a gwneud dillad, etc. Estynnodd Dr. Laws y Beibl, ac meddai: "Yr oedd ein hynafiaid mor isel ac anwybodus a chwithau, ond rhoisant ufudd-dod i'r Llyfr hwn, ac nid yn unig fe gawsant dangnefedd yn eu calon, ond llwyddasant mewn pethau allanol hefyd."
Dygwyd pagan tlawd at Dr. Laws wedi ei archolli yn ddifrifol. Ni ellid gwneud dim i'w helpu. Tra'n gorwedd yn gwaedu i farwolaeth, llefai yn ddibaid: "Rwy'n mynd, ddyn gwyn! I ble 'rydwy'n mynd, ddyn gwyn?" "Am ddyddiau," meddai'r cenhadwr, "ni allwn gael ei eiriau o'm clustiau. O na byddai i'w gri chwerw dreiddio trwy Brydain i gyd!"
Gofynnwyd i'r cenhadwr gan gyfaill: "Wrth edrych yn ôl dros eich hanner canrif o wasanaeth, Doctor, beth ydyw'r argraff ddyfnaf a adawyd ar eich meddwl?" Atebodd yn dawel: "Rhagluniaeth Duw a'i gard, yn ein harwain a'n cyfarwyddo, ac yn cyflawni Ei fwriadau Ei Hun a'n dymuniadau uchaf ninnau mewn ffyrdd na wyddem ni. Dioddefais ryw gymaint, 'rwy'n addef; ond
Un o ddilynwyr Mahomet
Ysgol Laithyngkot
pan oedd pethau waethaf yr oedd Duw agosaf. Po fwyaf y perygl, agosaf y teimlwn Ei bresenoldeb."
Ar derfyn ei anerchiad gerbron y Gymanfa yn yr Ysgotland, dywedodd: "Mae'r anawsterau yn fawr, ond,—y mae Duw yn fwy!"