Y Pennaf Peth/Toddi'r Galon Galed
← Gwron Livingstonia | Y Pennaf Peth gan John Hughes Morris |
Yr Apostol a'r Lleidr → |
Toddi'r Galon Galed
YMHLITH aml flinderau China y blynyddoedd hyn nid y lleiaf ydyw'r cwmnïau o ysbeilwyr (brigands) sy'n tramwyo'r wlad, gan daenu braw a dinistr pa le bynnag yr ânt. Tramwyant yn gwmnïau o rai cannoedd mewn rhif—dynion arfog, creulon, didostur, na phetrusant ddinistrio eiddo, nac ychwaith boenydio a lladd y neb a syrthio i'w dwylo. Rhoddant weithiau bentrefi cyfan ar dân; saethant y trigolion, neu dygant rai ohonynt ymaith i'w dal yn garcharorion hyd oni thelir pridwerth i'w rhyddhau. Ofnir hwy yn fwy gan eu cyd-wladwyr na byddinoedd yr estroniaid. Cafwyd prawf rhyfeddol yn ddiweddar fod "Stori y Groes" yn medru cyffwrdd calonnau hyd yn oed ddynion fel y rhain.
Y Parch. T. Darlington, cenhadwr gyda'r China Inland Mission, a adroddai yr hanes yma yn ddiweddar yn un o gyfarfodydd y Feibl Gymdeithas. Un noswaith daeth cwmni o ysbeilwyr, yn rhifo dros ddau gant, i'r dref lle'r oedd Mr. Darlington a'i wraig yn byw. Y peth cyntaf a wnaethant oedd saethu nifer o blant diniwed oedd yn chwarae ar yr heolydd. Dyna eu ffordd o ddangos i'r trigolion nad oeddynt "am sefyll dim nonsens." Dechreuasant ysbeilio y tai a'r temlau, a chyhoeddasant nad oedd neb i fyned allan o'u tai. Golygai hyn na fedrai'r cenhadwr a'i wraig fynd ymlaen gyda'u gwaith; ni chaent ymweled, ac ni chai neb o'r bobl ymweled â hwy. Penderfynasant, modd bynnag, agor y capel, oedd yn gysylltiedig â'u tŷ, a gwahoddasant yr ysbeilwyr i ddod i mewn iddo. Dechreuasant trwy chwarae tôn neu ddwy ar yr harmonium ac ar y cornet. Daeth y dyhirod i mewn, y naill ar ôl y llall, hyd oni lanwyd y lle. Cymerodd y cenhadwr ei Destament yn ei law, a dechreuodd ddarllen hanes Ing yr Ardd a hanes y Croeshoeliad. Ni ddywedodd air ei hunan—dim ond darllen yn syml, ac yna ychwanegodd, "Os dowch yma nos yfory, darllenaf yr hanes i chwi eto."
Y noswaith ddilynol digwyddodd yr un peth drachefn, a phob nos trwy'r wythnos. Yr oedd y capel yn orlawn, noswaith ar ôl noswaith,—yn orlawn o ysbeilwyr gwaedlyd, llofruddiog. Erbyn diwedd yr wythnos, teimlai'r cenhadwr yn sicr fod rhyw ddylanwad rhyfedd wedi ei gynyrchu, a mentrodd wneud apêl. Dywedodd: "Os dymuna rhai ohonoch dderbyn y Crist hwn fel eich Gwaredwr, dowch ymlaen i'r fan yma, ac ewch ar eich gliniau i ofyn am faddeuant. Ar y gair cerddodd tri ar ddeg ymlaen, a'r dagrau yn rhedeg i lawr eu gruddiau. Dagrau ar ruddiau dynion na wyddent ddim am dynerwch na thosturi,-dynion a laddent eu gelynion yn y modd creulonaf, ac a dynnent eu calonnau allan o'u cyrff i'w bwyta! Cyn iddynt ymadael dywedodd y cenhadwr y byddai'n barod i gychwyn dosbarth gyda hwy drannoeth, i astudio hanes Iesu Grist, os dymunent hynny.
Trannoeth, tua hanner awr wedi pedwar yn y bore, deffrowyd y cenhadwr gan sŵn y tuallan i'w dŷ. Wedi myned allan gwelodd ei "ddosbarth" yn disgwyl amdano, a phob un ag arian yn ei law i dalu am ei Feibl! Nid yn unig bu cyfnewidiad trwyadl ym mywyd y tri ar ddeg, ond arweiniwyd amryw eraill o'r cwmni i roddi eu hunain i Grist.
Gadawsant y cwmni o ysbeilwyr ac ymunasant â'r Fyddin,—â chatrawd yn yr hon yr oedd Cristionyn gadfridog. Derbyniodd y cenhadwr lythyr oddi wrth y cadfridog yn dweud bod yr holl ddynion hyn "yn Gristionogion eiddgar," ac ychwanegai: "Y mae gennym yn awr dros bedwar cant o ddynion yn y gatrawd hon sydd wedi eu bedyddio yn enw Iesu Grist!"
Hanes syml y Groes a wnaeth y gwaith. "Pa galon mor galed na thôdd!"