Y Pennaf Peth/Y Flwyddyn Newydd yn China a Japan
← Yr Eliffant Gwyn | Y Pennaf Peth gan John Hughes Morris |
Y Ddawn Anhraethol → |
Y Flwyddyn Newydd yn China a Japan
ER mai Ionawr y cyntaf a gyfrifir yn swyddogol yn ddydd cynta'r flwyddyn yn China heddiw, dilyn corff y boblogaeth yr hen drefn o gyfrif amser, ac iddynt hwy ym mis Chwefror y dechrau eu blwyddyn. Cyfrif amser a wnant hwy oddi wrth newidiadau’r lleuad, ac oherwydd hynny ni ddisgyn eu dydd Calan ar yr un adeg bob blwyddyn. Dyna oedd yr hen drefn yn Japan, hefyd, ond erbyn hyn daeth trigolion Japan i ddilyn dull y Gorllewin yn fwy cyffredinol o lawer na'u cymdogion yn China.
Ar ddydd Calan bydd pob dyn yn Japan yn cael pen blwydd newydd; nid yw o ddim gwahaniaeth pa ddydd o'r flwyddyn y ganed ef arno, caiff ben blwydd arall y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd. Pe genid plentyn ar y dydd olaf o Ragfyr, drannoeth, y dydd cyntaf o Ionawr, dywedid ei fod yn ddwy flwydd oed, oherwydd yr oedd wedi byw mewn dwy flwyddyn wahanol, ac ar y cyntaf o Ionawr ymffrostiai y rhieni bod ganddynt blentyn dwyflwydd!
Medd y Japaniaid ar reddf naturiol at y cain a'r prydferth. Y rhodd fwyaf poblogaidd i'w chyflwyno i gyfeillion ar ddechrau blwyddyn ydyw dysglaid o flodau neu blanhigion. Bychan iawn ydyw'r planhigion, ac weithiau ceir hanner dwsin neu ragor ohonynt, yn llawn blodau, wedi eu plannu mewn dysgl fawr. Mewn ambell dŷ, bydd y llawr wedi ei orchuddio gan y rhoddion prydferth hyn, ac anodd a fydd cerdded rhyngddynt.
Rhaid i bob un yn Japan, hyd yn oed y tlotaf, gael gwisg newydd erbyn y Calan; gwneir i ffwrdd â phopeth hen, hyd y gellir, a dechreuir y flwyddyn newydd yn llwyr o newydd. Ni bydd neb yn gwisgo dillad tywyll ar ddydd Calan, ond pawb y lliwiau disgleiriaf posibl, rhag rhoi tramgwydd, meddir, i "ysbryd siriol y flwyddyn newydd." Dywed cenhades iddi gael braw mawr un Dydd Calan. Clywodd sŵn annaearol y tu allan i'r tŷ, a rhywun yn curo tabwrdd (drum) yn egniol. Gofynnodd i'r forwyn, "Beth sy'n bod?" Atebodd hithau, "O! y llew sydd wedi dyfod." "Llew!" ebe'r genhades, mewn dychryn. Edrychodd drwy'r ffenestr a gwelai ddau ddyn y dyn a gurai'r tabwrdd, a dyn arall nad oedd ond ei ddau droed yn y golwg, oherwydd, ar ei ben, a thros ei ysgwyddau, yr oedd ganddo ben a mwng llew—neu'r pethau tebycaf i hynny a fedrasai eu creawdwr eu cynyrchu; ac i'r llew yr oedd safn anferth, yr hon a agorai ag a gaeai gyda sŵn mawr. Eglurodd y forwyn mai dyfod yno yr oedd "y llew" i gynnig ei wasanaeth, am ychydig geiniogau, i lyncu yn fyw yr holl ysbrydion drwg oedd yn y tŷ, fel y gallai'r teulu ddechrau eu blwyddyn yn glir o bob drygau.
Yn China, ar nos Galan, llosgir Duw y Gegin. Darlun ydyw hwn a grogir uwchben y lle tân, yn y lle mwyaf manteisiol iddo weld popeth ac â ymlaen yn y tŷ. Credir ei fod yn sylwi ar bob gair a ddywedir, ac ar bob gweithred a gyflawnir, ar hyd y flwyddyn. Tynnir ef i lawr nos Galan a llosgir ef. Esgyn y duw yn y mwg i adrodd yn y nefoedd yr hyn a welodd ac a glywodd yng ngorff y flwyddyn.
Ar y dydd olaf o'r hen flwyddyn mewn rhai rhannau o'r wlad, cyneuir tân mawr; teflir halen i'r fflamau er mwyn gwneud iddynt "glecian," ac yna bydd rhai o'r rhai dewraf yn rhedeg drwy eu canol, a llosgir ymaith eu holl bechodau. Dechrau yr arfer, meddir, oedd hyn: Amser maith yn ôl yr oedd dyn o'r enw Dang Dong yn byw yn Foochow. Câs ydoedd gan bawb o'i gymdogion, ac er mwyn tynnu dinistr arno, anfonasant arch i'w dy ar ddydd ola'r flwyddyn. Heb ei gynhyrfu ddim, torrodd Dang Dong yr arch yn ddarnau, a gwnaeth goelcerth ohono; ac fel yr oedd y tân yn clecian, eisteddai yntau o'i flaen dan ganu:
"Do, llosgodd Dang Dong yr arch yn y tân;
Gorchfygodd bob gelyn oedd ganddo yn lân.
Credir mewn digon o sŵn yn China. Hi ydyw mamwlad y fire-works a'r crackers, ac ar ddechrau'r flwyddyn bydd eu sŵn fel sŵn tanio ar faes rhyfel. Amcan yr holl dwrw ydyw gyrru'r ysbrydion drwg i ffoi.
Yn ebrwydd wedi gŵyl y Calan, dilyn gwyl y Lanternau. Crogir ugeiniau a channoedd o lanternau, o bob ffurf a llun, ac wedi eu gwneud o bapurau amryliw, ym mhob cowrt ac o amgylch pob tŷ a theml. Edrychant yn brydferth dros ben. Amcan y rhain eto ydyw dychryn yr ysbrydion, oherwydd nid oes dim a ofna ysbrydion y tywyllwch yn fwy na goleuni. Yn y trefi mawr, mewn amser a fu, trefnid gorymdaith ar raddfa anghyffredin. Paratoid ar ei chyfer am fisoedd, a deuai'r bobl ynghyd wrth y miloedd. Darperid draig (dragon) anferth ei maint, nid llai na thrigain troedfedd o hyd; ei safn fawr yn agored, ei dau lygad fel pelenni o dân, ei hewinedd, a'i chorff, a'i chynffon, wedi eu gosod wrth ei gilydd yn y modd mwyaf celfydd. Cludid hi gan wyth neu ddeg o ddynion, y rhai a fedrent ei throi a'i llywio fel y mynnent. Ychydig lathenni o'i blaen cerddai dyn gan gario lantern fawr, gron, ddisglair, ar ben polyn. Cynrychioli yr haul a wnai'r lantern, a cheisio a wnai y ddraig ddal
ddraig ddal yr haul a'i lyncu, fel y byddai tywyllwch bythol ar y ddaear, ac y cai yr ysbrydion drwg eu ffordd eu hunain. Wedi i'r ddraig fethu yn ei hamcan, malurid hi yn ddarnau, a llosgid hi yn lludw. Erbyn heddiw ceir bod llawer o'r hen arferion hyn yn prysur ddiflannu.