Neidio i'r cynnwys

Y Pennaf Peth/Yr Eliffant Gwyn

Oddi ar Wicidestun
Y Pennaf Peth yn y Byd Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris

Y Flwyddyn Newydd yn China a Japan


Yr Eliffant Gwyn

BLYNYDDOEDD yn ôl, yng ngwlad Burma, yr oedd golchwr (washer- man) a lwyddodd yn anghyffredin yn y byd, yn gymaint felly fel y dechreuodd ei gym- dogion genfigennu wrtho. Un o'i gymdog- ion cenfigenllyd oedd y crochenydd (potter). Yr oedd ef mor genfigenllyd fel y dechreuodd gynllunio pa fodd y gallai ddinistrio y golchwr gonest. Gan mai ef a wnai y llestri ar gyfer y palas brenhinol, yr oedd y crochenydd ar delerau pur gyfeillgar â'r brenin, a chredodd y gallai wneud defnydd o'r brenin i dynnu ei gymydog i lawr.

Ar ei ymweliad nesaf â'r palas dywedodd wrth y brenin: "Eich Mawrhydi! Dymunaf yn ostyngedig iawn wneud awgrym i chwi. Bydd yn ofid calon i mi yn fynych i weled Eich Mawrhydi yn gorfod myned allan ar gefn eliffant cyffredin, fel pe byddech yn ddim ond dyn cyffredin. Buasai yn ychwan- egu'n fawr at eich urddas pe byddai i chwi fyned o hyn allan ar gefn eliffant gwyn."

Gŵr uchel-falch oedd y brenin, a da iawn

Pont ar Westadedd Sylhet

Tŷ yn Lushai

ganddo a fuasai cael unrhyw beth i osod bri arno ei hun yng ngolwg ei ddeiliaid.

"Ond pa le y mae eliffant gwyn i'w gael?" gofynnodd; "tywyll ydyw lliw yr holl eliffantiaid a welais i erioed."

Atebodd y crochenydd cyfrwys: "Mi wn i am olchwr heb ei fath. Yr wyf yn hollol sicr y medrai ef olchi un o'r eliffantiaid tywyll nes byddai'n berffaith wyn, ond i chwi orchymyn hynny iddo."

Rhoddodd y brenin orchymyn i ddwyn y golchwr ger ei fron. Meddai wrtho: "Mae arnaf eisiau eliffant gwyn, a deallaf y gelli di olchi un du yn berffaith wyn. Y crochenydd sydd wedi sôn amdanat wrthyf. Dechrau ar dy waith ar unwaith."

Deallodd y golchwr ar unwaith mai cynllun oedd hwn o eiddo'r crochenydd i'w ddinistrio, oherwydd gwyddai mor gen- figenllyd ydoedd. Ofnai, modd bynnag, ddweud wrth y brenin nad oedd bosibl golchi eliffant du yn wyn. Ond yr oedd ganddo feddwl cyflym, ac meddai:

"Eich Mawrhydi, bydd yn fraint i mi gael gwneud yr hyn a geisiwch; ond i wneud y gwaith yn llwyddiannus, rhaid imi gael llestr digon mawr i roi yr eliffant ynddo. A fydd i'ch Mawrhydi, gan hynny, roddi gorchymyn i'r crochenydd i wneud padell fawr,—padell ddigon mawr i'r eliffant fynd i mewn iddi i ganol y dŵr."

Anfonodd y brenin y gorchymyn i'r crochenydd. Gwelodd yntau ei fod wedi ei ddal, ond nid oedd wiw anufuddhau. Mynnodd lwythi o glai, a gwnaeth badell ddigon mawr i ddal eliffant. Aed â'r llestr at y golchwr: llanwodd hwnnw ef â dŵr, ond y foment y rhoddodd yr eliffant ei draed mawr a thrwm y tu mewn i'r badell, torrodd y llestr yn ddarnau mân.

"Rhaid iti wneud llestr arall," meddai'r brenin wrtho. Ceisiodd drachefn, ond digwyddodd yr un peth. Gorfodai y brenin ef i ddal ymlaen, ond methiant a fu pob cais. O'r diwedd, wedi treio drosodd a throsodd, collodd yr holl eiddo oedd ganddo, a suddodd i'r tlodi a'r gwarth a fwriadasai ar gyfer ei gymydog y golchwr.

Nodiadau

[golygu]