Y Siswrn/Darlun

Oddi ar Wicidestun
Y Bethma Y Siswrn

gan Daniel Owen

Yn y Capel

Darlun.[1]

MAE Mr.—— wedi gweled gwell dyddiau. Byddai yn anhawdd, oddiwrth yr olwg arno, ddyfalu beth ydyw ei oed; ac y mae yntau yn bur i'r clwb henlancyddol—yn gommedd dyweyd ei hunan. Ond gallwn sicrhâu, oddiar awdurdod uchel, ei fod agos os nad wedi cyrhaedd yr addewid. Y mae yn bwysig o gorffolaeth, fel y gallasai "Ffan," ei ferlen ymadawedig, dystio oddiar hir brofiad. Mae ei wyneb yn grwn a llyfndew, heb lawer o flew i'w urddo na'i anurddo. Dynodir ei gymeriad i raddau helaeth gan y mân rychau yn nghonglau ei lygaid meinion, cellweirus.

Fel pregethwr, ni ellir ei restru ymhlith y dosbarth blaenaf, nac ymhlith un dosbarth arall; oblegid y mae yn ffurfio dosbarth ynddo ei hun. Nid ydyw yn debyg i neb. Nid ydyw yn ddawnus nac yn ymadroddus; mewn gwirionedd, y mae arno brinder geiriau; er hyny y mae yn boblogaidd yn ei ffordd ei hun, ac nid oes odid i neb yn fwy adnabyddus nag ef trwy Ddê a Gogledd Cymru. Y mae ei ddull yn sefyll yn y pulpud yn neillduol. Y mae yn taflu ei ben braidd yn ol, ac fel pe byddai yn ei suddo ychydig i'w wddf. Bydd y llaw chwith bron yn wastad yn mhoced ei wasgod, a'r llaw arall yn cael ei thynu yn awr ac yn y man trwy ei wallt. Darllena yn gyffredin gyfran o rai o lyfrau Solomon, gan wneyd sylwadau buddiol a digrifol wrth fyned ymlaen. Y mae wedi ymgydnabyddu llawer a Solomon, ac wedi chwilio llawer i'w ysgrifeniadau; ac erbyn hyn y mae wedi dwyn ffrwyth yr ym chwiliad hwnw i ffurf y gall yr oes a ddel ei fwynhâu. Bydd y weddi o flaen y bregeth yn hynod o fèr, heb lawer o "hwyl " ynddi, fel y dywedir. Y mae ei wrandawyr yn bryderus am gael clywed ei destyn, gan ddysgwyl cael yr adnod ryfeddaf a mwyaf digynnyg o fewn y Bibl; ac anfynych y byddant yn cael eu siomi yn hyn. Nodweddir y bregeth gan ystorfa helaeth a manwl o hanesyddiaeth ysgrythyrol. Ni bydd llawer o efengyl ynddi; ond buom yn synu lawer gwaith sut yr oedd yn gallu rhoddi cymaint gyda'r fath destynau. Nid ydyw yn fedrus ar drin pwnc. Clywsom ef unwaith yn gwneyd cais at hyny; ond yr oeddym yn gorfod teimlo mai y pwnc oedd yn ei drin ef. Pe gofynid i ni roddi cyfrif am ei boblogrwydd, atebem ei fod i'w briodoli i'w adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, ei arabedd, a'i naturioldeb.

Mae yn cadw i fyny ei neillduolrwydd yn y Cyfarfod Misol. Os na bydd yn dygwydd bod yn llywydd, byddai yn orchwyl caled i chwi ei weled yn eistedd yn llonydd am hanner awr. Y mae yn crwydro yn ol ac ymlaen, i mewn ac allan, a gallai dyn dyeithr dybied nad ydyw yn cymeryd sylw o ddim sydd yn myned ymlaen; ond dengys ei awgrymiadau synwyrol yn wastad ei fod all there; a bydd yr awgrym a gynnygia yn cael ei ddyweyd ganddo yn fynych fel pe byddai wedi ei gael y tro diweddaf y bu allan.

Yn y tŷ, y mae yn gwmni difyr a llawen; ac y mae pawb yn gallu agosâu ato a myned yn hyf arno, ac yntau yn gallu gwneyd ei hunan yn hapus a chartrefol lle bynag y byddo, os caiff rywun i ymddyddan âg ef, a digon o siwgwr yn ei dê.

Y mae yn hynod o barchus yn ei Sîr, a rhoddir gair da iddo yn ei gartref; ac y mae yr olaf yn beth mawr iddo ef, am ei fod yn cael ei roddi y tu ol i'w gefn, gan mai anfynych y gwelir ef gartref. Pan wel Duw yn dda ei gymeryd ato ei hun, teimlir colled fawr ar ei ol, a llawer o chwithdod.

Nodiadau[golygu]

  1. Cymerwyd y darlun hwn from life, fel y dywedir, ond y mae y gwrthrych erbyn hyn, wedi myned trosodd at y mwyafrif er ys tro; eto, gan mor adnabyddus oedd efe, a chan mor gywir ydyw y darlun ohono, nid anmhriodol, efallai, ydyw ei osod i hongian ar faen Y Siswrn.—CYHOEDDWR