Y Siswrn/Yn y Capel

Oddi ar Wicidestun
Darlun Y Siswrn

gan Daniel Owen

Mr. Jones y Shop a George Rhodric

Yn y Capel

YR ydym yn gorfod credu mai ychydig yw y rhai sydd yn meddu dysgyblaeth a meistrolaeth hollol ar eu meddyliau a'u myfyrdodau; ac ychydig hefyd, tybygaf, ydyw y rhai sydd yn ymwybodol càn lleied o'r gallu gwerthfawr hwn y maent yn feddiannol arno. Nid ydyw diffyg dysgyblaeth meddwl yn dyfod yn fwy i'r golwg yn unman nag yn yr addoldy; a buom yn rhyfeddu lawer gwaith fod yr amlygiad o hono heb ddyrysu y pregethwr, a pheri iddo yntau fyned yn grwydredig ei feddwl.

Rhoddwn ein hunain am fynyd yn lle y pregethwr. Dacw fo wedi cau ei hun i fyny yn y pulpud ar fur pellaf yr addoldy. Mae efe yn awr yn darllen y bennod, fel nad ydyw, o drugaredd, yn gallu gweled yr hyn sydd yn cymeryd lle o'i flaen. Y mae oddeutu dwy ran o dair o'r gynnulleidfa arferol eisoes yn eu heisteddleoedd, ac y mae y rhan arall yn dyfod i mewn drib drab, fel y dywedir. Y mae un yn dyfod i mewn trwy y drws ar y ddê—nid mor ddystaw ag y gallai, y mae yn wir—ond gyda ei fod yn y golwg, y mae yr holl gynnulleidfa ag sydd yn gallu ei weled yn troi eu llygaid ato, ac yn cadw eu llygaid arno nes iddo gyrhaedd ei eisteddle, a rhoi ei het yn ei lle priodol gyda'r hwn orchwyl y bydd ystŵr nid ychydig, weithiau. Ac wedi iddo roddi ei ben i lawr, neu ynte roddi ei law ar ei dalcen, bydd y gynnulleidfa wedi darfod gydag ef. Gyda bod hyn drosodd, y mae dynes barchus yn dyfod i mewn, trwy y drws ar yr ochr chwith; ac er ei bod yn aelod ffyddlawn o'r gynnulleidfa, a phawb yn ei hadwaen yn dda, eto y mae yn rhaid i'r gynnulleidfa gael edrych arni hithau, a'i dilyn â'u llygaid nes y bydd wedi eistedd i lawr, fel pe byddent yn ofni ei bod er y Sabboth blaenorol wedi anghofio pa le yr oedd ei heisteddle arferol. Os bydd ambell un yn para i ddyfod i mewn ar ol dechre y bregeth, bydd y gynnulleidfa yn ymddwyn yn gyffelyb at y rhai hyny.

Yn hyn oll, y mae lle i gredu, nad ydyw y gynnulleidfa yn gyffredinol yn ymwybodol o'u hymddygiad, a llawer llai o wrthuni y peth; ond i un fydd yn y pulpud neu y sêt fawr, y mae yr olyfa yn ddigrifol ac anweddaidd. Ac mor ddiddysgyblaeth ydyw meddw dyn yn gyffredin fel y gwna y trwst lleiaf, a'r amgylchiad distadlaf, dynu ei sylw oddiar yr hyn a ddywed y pregethwr. Dim ond i blentyn bach waeddi, a gwelir yr holl gynnulleidfa bron yn troi eu llygaid i chwilio plentyn pwy ydyw, er aflonyddwch i'r pregethwr, a phoen dirfawr i fam y bychan, yr hon sydd yn gwrido ac yn chwysu dan lygaid anfoddus y gynnulleidfa. Ni wnai swn plentyn bach beri llawer o ddyryswch i'r addoliad oni byddai fod y gwrandawyr yn tynu eu sylw oddiar y pregethwr, ac yn ei osod ar y plentyn, ac o ganlyniad yn peri i'r pregethwr anghofio ei lith. Os dygwydd i'r nwy fod â gormod o force arni, ac i frawd caredig frysio i wastadhâu y goleuni, pa raid sydd ar y gynnulleidfa adael i'r pregethwr rwyfo ymlaen ei hun, a gwneyd eu hunain yn oruchwylwyr ar y dyn sydd yn ceisio cywiro y gwall, i weled a ydyw yn gwneyd yn iawn ai peidio? Bydd ambell un yn yr addoliad yn gwneyd sŵn uchel trwy ei ffroenau gyda chynnorthwy ei gadach poced; ac er nad ydyw y dyn ond yn awgrymu i'ch meddwl y gwnaethai aelod rhagorol mewn seindorf bres, eto rhaid i'r gynnulleidfa gael edrych arno!

Hwyrach, wedi ystyried, fod y pethau y cyfeiriwyd atynt yn arwydd o lawn cymaint o ddiffyg defosiwn ag ydyw o ddiffyg dysgyblaeth meddwl. Cadarnhëir hyn, yr ydym yn meddwl, ar adeg y weddi. Pe byddai i un wneyd ei hun yn sylwedydd am dro, yn lle yn addolwr, pan fydd y pregethwr yn gweddïo, gymaint o ddiffyg defosiwn a ganfyddai yn ymddangosiad llawer o'r dyrfa. Canfyddai fod y nifer lliosocaf â'u penau i lawr, neu o leiaf ar ffurf ag sydd yn dangos eu bod yn ceisio cydweddïo â'r pregethwr; ond canfyddai hefyd, ddosbarth arall ag y mae eu hymddangosiad yn dangos yn amlwg fod eu meddwl yn hollol ddyeithr i'r weddi. Bydd wyneb ambell un yn dangos cymaint o wagder a syrthni nes peri i un ammheu a ydyw yn ymwybodol o gwbl pa beth sydd yn myned ymlaen. Bydd eraill i'w gweled â'u llygaid yn cynniwair drwy y dorf i archwilio dilladau eu cyd addolwyr. Ac yn wir, y maent yn cael digon o wrthddrychau gwerth syllu arnynt yn y ffordd hon, oni bae fod y lle a'r amser yn anghyfaddas. Gallwn edmygu gwisgoedd gwerthfawr a gweddus cystal ag un dyn; ond onid oes lle i ofni fod llawer merch ieuanc, er hwyrach yn ei diniweidrwydd, ac yn ddiarwybod o anweddusrwydd y peth, yn edrych ar yr addoldŷ fel rhyw fath o exhibition, lle y mae ganddi stall i ddangos ei nwyddau, y rhai na chaiff neb eu rhagori hyd y mae yn ei gallu hi. Pa ryfedd os na fedrir dyweyd ar ol dyfod allan o'r addoldy pa beth oedd y testyn, heb son am y bregeth? Pa ryfedd fod llawer yn mynychu ein capelydd heb ddeall y gwasanaeth, ac yn tyfu i fyny heb wneyd un ymdrech at hyny? Pa ryfedd os ydyw y pregethwr yn gorfod gofyn yn feunyddiol, "Pwy a gredodd i'n hymadrodd?" Yr ydym yn addef y gall un ymddangos yn bur ddefosiynol, ac eto fod ei ysbryd ymhell oddiwrth y pethau Dwyfol, ac i un arall ymddangos yn bur aflêr a'i enaid yn nghanol y pethau. Ond eithriadau ydyw y rhai hyn; ac yr ydym yn credu fod hyfforddiant mewn astudrwydd a gweddus rwydd yn yr addoliad cyhoeddus wedi ei esgeuluso yn fawr genym. Dylid, ar bob cyfrif, beidio rhoi un achlysur i arwain y meddwl oddiwrth ysbryd y weddi a mater y bregeth. Dylai y neb sydd yn dyfod i'r moddion ar ol i'r gwasanaeth ddechre fyned i'w eisteddle mor ddystaw ag y mae yn bosibl iddo wneyd; ac yr wyf yn barod i feddwl na ddylai yr un foneddiges sydd yn gwisgo gwn sidan fod hanner mynyd ar ol yr amser priodol. Bydd y sŵn fel awel o wynt a achosir gan y dilledyn prydferth hwn yn aflonyddu yr addoliad yn fynych, ac yn peri i ambell un ddymuno am i'r rhai sydd yn ei wisgo fod, er yn anamserol,

"Oll yn ei gynau gwynion,
Ac ar eu newydd wedd."


Nodiadau[golygu]