Neidio i'r cynnwys

Y Siswrn/Y Blaenoriaid newydd yn y Glorian

Oddi ar Wicidestun
Dewis Blaenoriaid Y Siswrn

gan Daniel Owen

Y Parch Richard Owen y Diwygiwr

Y Blacnoriaid newydd yn y Glorian.

A DDEWISWYD blaenoriaid erioed ag oeddynt wrth fodd calon pawb? Na, yr ydym yn tybied fod hyny hyd yn hyn heb gymeryd lle. Naill ai y mae y blaenor newydd yn rhy hen neu yn rhy ieuanc,—yn rhy gyfoethog neu yn rhy dlawd,—yn rhy flaenllaw neu yn rhy lwfr. Pa fodd bynag, mae yn gysur i bob blaenor newydd-ddewisedig, fod y mwyafrif o'i gyd-aelodau eglwysig yn ei ystyried yn ŵr cymhwys i'r swydd, gan nad beth fyddo ei olygiadau ef am dano ei hun. Gellir dyweyd na ddewiswyd blaenoriaid erioed gyda mwy o unfrydedd na blaenoriaid capel William Thomas; ond wrth ddyweyd hyn nid ydym am i neb feddwl nad oedd yno rai yn edrych arnynt gydag anfoddlonrwydd mawr.

Ni fu erioed dri gŵr mor wahanol i'w gilydd o ran cymeriadau â Mr. Jones y shop, Peter Watcyn, a James Humphreys, er y rhaid fod ynddynt rywbeth cydnaws a thebyg, ac onidê ni ddewisasid hwynt, tybed, gan yr un corff o bobl. Yr oedd Mr. Jones yn ŵr hynaws a bywiog, ac yn meddu ar gryn lawer o adnabyddiaeth o'r byd, yn dda arno o ran ei amgylchiadau, yn haelfrydig yn ei roddion, ac yn llawn awydd i wneuthur daioni; ond eto yr oedd rhyw ledneisrwydd ynddo ag oedd yn ei gadw yn ol oddiwrth bethau cyhoeddus i raddau mawr. Dyn yr un drychfeddwl ydoedd Peter Watcyn. Fel y dywedwyd o'r blaen, yr oedd efe yn cael y gair ei fod yn deall Saesoneg yn dda, ac yn gwybod y gwybodaethau tu hwnt i'w gyfoedion. Ond pwnc mawr Peter Watcyn oedd canu; ac yr oedd cerddoriaeth wedi cymeryd cymaint o'i fryd fel nad allai edrych ar ddim bron ond trwy farrau yr erwydd, na rhoddi ei farn ar ddim ond wrth sŵn y pitchfork. Ymha le bynag y gwelem ef, pa un ai ar yr heol, neu yn ei dŷ ei hun, neu yn y capel, yr oedd y geiriau "Hen Nodiant" a "Tonic Sol-ffa " yn dyfod i'n meddwl er ein gwaethaf. Heb i ni mewn un modd amcanu gwneuthur cam âg ef, yr ydym yn meddwl y cafodd llawer pregethwr le cryf i gredu fod Peter yn cael mwy o bleser yn Llyfr Ieuan Gwyllt nag yn y bregeth, ië nag hyd yn nod yn y Bibl ar y pryd. Gwr diddysg, hywaeth a diniwed, ydoedd James Humphreys, ac mewn gwth o oedran. Gloŵr ydoedd wrth ei alwedigaeth; a bu raid iddo ddisgyn i waelod y pwll glo cyn derbyn dim addysg ond a gawsai yn yr Ysgol Sabbothol. Càn gynted ag y cafodd fyn'd ar ei "bige," ys dywed y glowyr, priododd, a bendithiwyd ef âg amryw o blant, y rhai, yn ol ei allu, a ddygodd i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oedd galluoedd ei feddwl mor fychain, yn enwedig yn ei olwg ei hun, fel mai anfynych yr anturiai ddyweyd ei farn ar unrhyw bwnc. Ni byddai byth yn cymeryd gafael mewn newyddiadur; ac anfynych yr edrychai ar unrhyw lyfr oddieithr y Bibl, Esboniad James Hughes, a Geiriadur Charles. Yr oedd ei ffydd yn y natur ddynol yn ymylu bron ar blentynrwydd, a buasai agos can hawsed i ddyhiryn ei dwyllo â thwyllo baban. Yr oedd James Humphreys yn un o'r dynion hyny sydd yn peri i un feddwl na wyddant ddim am lygredigaeth y natur ddynol, oni bae eu bod hwy eu hunain yn cwyno yn barhâus o'i herwydd. Yr oedd ei holl fyd yn gynnwysedig yn eu deulu, y gwaith glo, a'r capel; ac o angenrheidrwydd yr oedd ei wybodaeth yn gyfyngedig iawn. Ac eto pan âi James Humphreys ar ei liniau, yr oeddym yn gorfod teimlo ein hunain yn fychain a llygredig yn ei ymyl, a'i fod yn meddu yr allwedd a allai agor dôr y byd ysbrydol. O ddyn dedwydd! pa sawl gwaith y buom yn cenfigenu wrthyt? Ar nos Sadwrn, yn dy fwtri dlawd, pan ymolchit ac y glanheid dy hun oddiwrth barddu a baw y pwll glo, yr oeddit ar yr un pryd yn golchi ymaith olion yr wythnos a gofalon y byd oddiar dy feddwl, a'th ysbryd yn ymadnewyddu ac yn dyheu am y Sabboth, yr hwn a wnaethpwyd er mwyn dyn? Os gwael ac anfedrus a fyddai y pregethwr, pa wahaniaeth a wnai hyny i James Humphreys? Yr oedd ei ystymog ysbrydol â'r fath awch arni fel y byddai yr ymborth mwyaf cyffredin yn flasus ac yn ddanteithiol ganddo. Nid oedd na shop, na fferm, na bargeinion, un amser yn croesi ei feddwl, nac yn rhwystro iddo wrandaw ar bob gair a ddeuai allan o enau y pregethwr. Ammheuon! ni wyddai efe beth oedd y rhai hyny. Yr oedd ei feddwl yn rhy fychan i ganfod anghysondeb, a'i galon yn rhy lawn o gariad i roddi lle i'r posibl rwydd o hono! Tra yr oedd rhai yn rhy fydol eu meddyliau, ac eraill yn rhy ddifater, ac eraill yn rhy feirniadol, i allu mwynhâu y bregeth, byddai efe yn ei bwyta gyda blas, ac yn myned allan o'r addoldy ar ben ei ddigon. Yn yr Ysgol Sabbothol, drachefn, tra yr oedd eraill yn pendroni ynghylch hanes y seren a ymddangosodd yn y dwyrain, yr oedd efe yn cyflwyno anrhegion o flaen y Mab Bychan, fel ei aur, ei thus, a'i fyrr. Tybygem nas treuliodd efe awr erioed mewn gwagfeddyliau uchelgeisiol; a phan glywodd efe y cenadon dros y Cyfarfod Misol yn cyhoeddi ei fod wedi cael ei ddewis yn flaenor, pa ryfedd iddo ymddangos fel pe buasai wedi ei daro â mellten, ac iddo fethu a chysgu y noson hono, ac mai hon ydoedd y noswaith fwyaf anhapus yn hanes ei fywyd? Ar ei ffordd gartref o'r cyfarfod eglwysig, dywedai Gwen Rolant wrth Rhodric, " Wel, George, a ge'st ti dy blesio heno? Naddo, mi dy wranta, ne y mae yn od iawn gen'i." "Yr ydach chi yn gofyn ac yn ateb, " ebe George; " ond am unwaith, beth bynag, yr ydach chi'n ateb yn iawn. Dydw iddim am ragrithio, naddo; chês i mo mhlesio; a waeth gen i pwy gŵyr o. Mae peth' fel hyn yn ddigon a gneyd dyn nad a'i o byth yn agos atyn' nhw. I fod yn flaenor y dyddie yma, rhaid i ddyn fod yn gyfoethog neu yn ddwl; a dydi o ddim ods p'run am wn i. Mae yn dda gen' i nad ydw i yr un o'r ddau. Mae dynion galluog a thalentog, sydd wedi bod yn llafurio ar hyd eu hoes gyda'r achos, yn cael eu taflu o'r naill du rwan; ac un yn cael ei ddewis am fod gyno fo shop, a'r llall yn cael ei ddewis am ei fod o yn debyg i'w nain, a'r trydydd am i fod o yn wyneb galed."

"Aros! aros! George," ebe'r hen wreigan, "paid ti siarad yn rhy ffast. Yr wyt ti yn myn'd ymlaen yn debyg iawn i ddyn wedi cael ei siomi; ac mae gen'i ofn nad wyt ti ddim mewn ysbryd priodol."

"Y fi fy siomi;" ebe Rhodric," mi fase'n o ffiaidd gen'i."

"Wn i p'run am hyny," ebe Gwen; " yr wyt yn cofio stori'r llwynog a'r grawnwin yn well na fi. A pheth arall, pan wela i ddyn yn gneyd ei hun yn o amlwg o flaen amser dewis blaenoriaid, ac yn prynu Dyddiadur, a phethe felly, mi fydda i'n meddwl yr adeg hono fod ei lygad o tua'r sêt fawr. (Edrychodd George arni gyda syndod, ac aeth Gwen ymlaen.) Ac am fod yn gyfoethog, mi faset tithe mor gyfoethog â Mr. Jones, dase ti'n medryd, mi dy wranta di. Ac am fod yn debyg i'r nain, mi fase'n dda i lawer fod yn debycach i'w nhain; mi fase gwell graen ar eu crefydd nhw, a rhwbeth fase'n 'u cadw nhw o'r tafarnau. Mi wyddost, George, nad oes dim blew ar y nhafod i, a fedra i ddim dyodde i ti redeg y blaenoriaid newydd i lawr. 'Dwyt ti ddim yn deilwng, wel di, i glymu esgid Mr. Jones fel dyn na christion; ac am James Humphreys, os ydi o'n ddiniwed ac yn ddiddysg, fel fy hunan, mae gyno fo grefydd y bydde'n dda i ti gael marw yn ei chysgod. Ond ddaru minnau, yn wirionedd, ddim votio i Pitar; ac wn i ddim be naeth i'r eglwys ei ddewis o. Mae'r bachgen wedi mwydro'i ben hefo'r canu 'ma, fel na wn i ddim beth i feddwl o hono fo. Pan oeddwn i yn ifanc, cyfarfod gweddi fydde gyno ni am bump o'r gloch p'nawn Sul, i ofyn am fendith ar yr odfa; ond yrwan rhyw 'do, do, sol' sydd gan Pitar a'i griw o flaen yr odfa; ac mae'n anodd gen'i gredu fod y Brenin Mawr yn fwy parod i wrando ar y.'do, do, sol' ma nag ar ddyn ar ei linie. A chyn i Pitar a'i sort gymeryd y canu, un pennill fydde ni'n ganu, a hwnw lawer gwaith drosodd, pan ddoe'r hwyl; ond yrwan, dyn a'm helpio, rhaid canu yr hymn ar ei hyd, a hyny cyn chwyrned a'r gwynt, na wyr neb be mae nhw'n ganu. Chawn ni byth ddiwygiad crefyddol, goelia i, tra bydd yr hen 'do, do, sol' ma'n cael ei rygnu. Ond dydi'r bachgen ond ifanc eto, a 'rydw' i'n gobeithio y caiff o ras i ymgroesi. Pe cae ni un o'r hen ddiwygiadau anwyl eto, ac iddo gael trochfa go lew, mi wranta i y tafle fo 'i 'do, do, Sol' i'r tân, ag y bydde'n dda ganddo gael canu yr un pennill ganwaith drosodd."

"Wel,' ebe Rhodric, " mi wela, Gwen Rolant, nad ydach chithe ddim wedi'ch plesio'n hollol; ac er y mod i'n 'styried Peter yn ddyn hollol annheilwng i fod yn flaenor, fedra i ddim cydweled â chi ynghylch y Tonic Sol-Ffa. Mae Peter wedi gneyd lles mawr i'r canu. Mae yr oes wedi newid er pan oeddach chi'n ifanc, a rhaid myn'd i ganlyn yr oes. Ac am y peth a alwch yn ddiwygiad, pe dae chi byw am gan' mlynedd, chae chi byth weld pobl yn neidio ac yn gwaeddi fel er stalwm pan oedd y wlad mewn anwybodaeth. Mae pethe wedi newid yn fawr er hyny, a wiw i chi ddysgwyl am beth felly eto."

"Be wyt ti'n ddeyd, George?" ebe yr hen chwaer yn gynhyrfus, gan sefyll ar ganol y ffordd, a chodi ei ffon fel pe buasai ar fedr ei daro. "Be wyt ti'n ddeyd? na wiw i mi ddim meddwl am gael diwygiad! Wyt ti'n gwirioni, dywed? Gwir a dd'wedaist, ysywaeth, fod yr oes wedi newid. Mae pobl yrwan yn meddwl mwy am wisgoedd a chrandrwydd nag am wledd i'r enaid. A be wyt ti'n son fod yr oes o'r blaen yn anwybodus? yr oes hon sy'n anwybodus. Yn fy amser i, 'doedd eisio na Llyfr Hymns na 'Fforddwr gyno ni yn y capel, ond pawb yn 'u medryd nhw ar 'u tafod leferydd. Ond yrwan wrth adrodd y 'Fforddwr, rhaid i bawb gael llyfr o'i flaen, ne mi fydd yn stop buan, mi wranta; a phe bae pregethwr ddim ond yn rhoi allan yr hen bennill, "Dyma Geidwad i'r colledig, mi geit weld ugeiniau yn sisial yn nglustiau 'u gilydd, "W'at pêds? w'at pêds? " hefo'u hen Sasneg. Ydi, mae'r oes wedi newid; ond wyt ti'n meddwl fod Duw wedi newid? 'Iesu Grist, ddoe, heddyw, yr un ac yn dragywydd.' Ddysgest ti erioed mo'r adnod anwyl ene, dywed? Wyt ti'n meddwl mai Duw yn troi i ga'lyn y ffasiwn ydi'n Duw ni? Ni fyrhäodd braich yr Arglwydd fel nad allo achub, ni thrymhäodd ei glust fel na allo glywed; a phan ddêl, efe a argyhoedda y byd o bechod, o gyfiawnder, ac o farn. A phe caet ti, George, weled diwygiad tebyg i'r un a welodd William Thomas a fine, mi neidiet tithe lathen oddiwrth y ddaear, er mor afrosgo wyt ti, ac er balched ydi dy galon.

O na ddeuai'r hên awelon,
Megys yn y dyddiau gynt.'

lë, mi âf trosto fo eto er gwaetha dy "do, do, sol," ebe yr hen wraig zelog, gan ganu nerth ei phen; ac yn canu y gadawodd Rhodric hi. Ond nid oedd dim ysbryd canu yn George Rhodric ei hun; ond yn galon—drom, bendrist, â gwyneb sur a sarug, yr aeth efe i'w dŷ. Pa fodd bynag, heblaw canu Gwen Rolant, rhyw lanco rigymwr siriol ddireidus, a ganodd y noson hono fel hyn:—

George Rhodric, druan, fynai fyn'd i'r top;
Ow! er ei siomiant, rhoddwyd arno stop!
Ond Jones a James a geid o isel fryd,
I fyny â hwy! pleidleisiem bawb i gyd;


A Peter Watcyn, zelog gyda'r mawl,
I fyn'd yn uwch ennillai yntau'r hawl;
O Siorsyn, dysg dy wers: dôs, dos i lawr
Cân yn lle beio—felly doi di'n fawr.

Nodiadau

[golygu]