Y Siswrn/Y Parch Richard Owen y Diwygiwr

Oddi ar Wicidestun
Y Blaenoriaid newydd yn y Glorian Y Siswrn

gan Daniel Owen

Hiraethgan

Y Parch. Richard Owen,
Y Diwygiwr

Ah! pa was teilwng o'r Apostolion!
Dyma "Olyniad" i'w deimlo'n union!
Arweinia feddwl yr anufuddion
Garw a difraw i guro dwyfron!
O hynaws awel! o enau Seion
Ceir Haleliwia!—ceir "hwyl" alawon!
Hyfrydlais yr afradlon—leinw'r wlad,
A sain adfywiad yw swŷn odfeuon.

Nodiadau[golygu]