Y Siswrn/Hiraethgan

Oddi ar Wicidestun
Y Parch Richard Owen y Diwygiwr Y Siswrn

gan Daniel Owen

Llythyr fy nghefnder

Hiraethgan:

Ar ol y diweddar Barch. John Evans, Croesoswallt,
(Gynt o Garston.)

NID dagrau benthyg, nid och'neidiau pryn,
Offrymir ar dy fedd, fy nghyfaill cu;
Fy hiraeth heddyw yn ddigymhell fyn
Gysgodi'th lannerch fel yr ywen ddu,
Gauadfrig, drist; mewn oerni, ac mewn gwrês,
Yr un yw hi; claer belydr haul y dydd,
Un wedd a'r lwydlas loer, ni thraidd yn nês
I waelod tristwch dwfn ei chalon brudd.

'Rwyt wedi myn'd—neu fel y dwêd y byd
'Rwyt wedi marw; ac ni wyddwn i
Cyn hyny pa mor dýn ymgenglai 'nghyd
Hir wydnion wreiddiau'n cyfeillgarwch ni:
Ysgytiad aruthr gês! ac angeu glâs
A chwarddai'n oeraidd wawdlyd am fy mhen;
Fel chwardd y ffyrnig storm ei chrechwen gras
Ar rwygiad daear werdd pan syrth y pren.


Nid cartref, ond athrofa ydyw'r byd;
Anfonwyd dithau yma gan dy Dad
I ddysgu meddwl, siarad, a rhoi 'nghyd
Feddyliau Duw yn ngeiriau'r nefol wlad:
Y Bibl oedd dy lyfr; a'i wersi fu
Yn fwyd a diod iti nos a dydd;
Dy lechen ydoedd calon Cymru gu,
Dy bensil—iaith yr hen Frythoniaid rhydd!

Dy gyd—efrydwyr yn yr Ysgol Fawr
Yn llu edmygol o dy gylch a gaid,
Yn gwylio'th symudiadau bob yr awr,
Tra gwers ar wers a ddysgit yn ddibaid;
Eu serch oedd gynhes atat, a'u mwynhad
Digymysg oedd d'anwylo yn eu côl;
Ond Och! daeth gwŷs ar frys o dŷ dy Dad
Yn galw am danat adref yn dy ol!

Ni chanaf alar—nad i ti, fy ffrynd;
I'r aflan, pwdr, llygredig, gwneler hyn:
A'r bydol ddyn truenus orfydd fyn'd
A gadael ei bleserau yn y glýn,
Ni chanaf chwaith am wobr, pe hyny wnawn
Cynhyrfai d'esgyrn yn dy dawel fedd!
Ni feiddiwn yn dy wyneb dremio'n llawn,
Pan gwrddwn fry, heb g'wilydd ar fy ngwedd!


Fy odlau nyddir gan fy adgof prudd,
Yn 'stafell wâg fy nghalon, lanwet ti
A'th gyfeillgarwch didwyll yn dy ddydd
Ond sydd yn awr yn wâg ac oer i mi!
A'm cân gaiff fod yn gân o beraidd glôd
Yn gymysgiedig gyda hiraeth dŵys:
O glod—i'th fuchedd bur, a'th gywir nod:
O hiraeth—am dy roddi dan y gŵys.

Gwir blentyn natur oeddit ti erioed:
Ei hunan welai ynot fel mewn drych;
Arddelai ei pherthynas o dy droed
Hyd at dy rudd, a'th wallt cydynog, crych:
Hi oedd dy fam a'th fammaeth trwy dy oes,
A Rhodres falch, gymhengar, ni cha'dd ddod
A'i throed o fewn ei thợ i ddysgu moes
I'w bachgen, nac i osod arno 'i nôd.

Dy gynnysgaethu wnaeth â synwyr cryf;
A chalon dyner, eang, onest, lân;
A meddwl mawr, ymchwilgar, beiddgar, hŷf,
Ac ysbryd anturiaethus llawn o dân:
Gwir anhebgorion y ddynoliaeth lawn,
A dodrefn gloewon cyfeillgarwch pur
I'th ofal roes, a thithau'n brydferth iawn
A'u cedwaist mewn ffyddlondeb fel y dur.


Rhagluniaeth ddoeth ofalodd wneyd dy le
Yn nghanol gwerin bobl isel fryd
Hen Gynwyd lonydd—pell o sŵn y dre,
A themtasiwnau gwychder, balchder, byd.
Ddihalog ardal! Natur yno sydd
Mewn dwfn dawelwch yn mwynhâu ei hun
Fel bardd breuddwydiol newydd dd'od yn rhydd
O rwymau'r ddinas, ac o ddwndwr dyn!

Dy faboed dreuliaist yn y lannerch hon,
Mewn diniweidrwydd anwybodol mwyn;
Heb bryder blin na gofal dan dy fron
Yn lolian gyda'r aber glir a'r llwyn;
Y llwyn o hyd a dyfai'n nes i'r nef;
A'r aber glir wrth fyned yn ei blaen
Ymledai, chwyddai hyd yn afon gref,
Gan godi teyrnged drom ar ddôl a gwaen.

Ac felly tithau;—dyheuadau brwd
Dy fynwes ieuanc cryfach aent o hyd;
Ac yn eu llwybrau difent lwch a rhwd
Adawyd gan segurwyr yn y byd:
Anniwall syched, ac angerddol aidd,
Am wir wybodaeth, daniai'th fron ddi-frâd,
Pob anhawsderau losgit hyd eu gwraidd,
Eu cur wrthodit—mynit eu lleshâd.


Efengyl ddiwair—harddaf ferch y nef
A'th welodd yn mhrydferthwch teg dy foes
Yn chwilio'r gair a'i "ddyfnion bethau Ef,"
Yn ddysgybl addolgar wrth y groes;
A'th garu wnaeth â chariad dwfn di-làn
A lifrai'r nef a roes am danat ti,
A'r byd a'th adnabyddai yn mhob man,
Gan bwyntio atat fel ei ffafryn hi!

Yn ymwybodol o'th annrhaethol fraint,
Ymdrwsit mewn cyfiawnder, gobaith, ffydd
Ddihalogedig brydferth wisg y saint
Ni chyll ei chotwm yn yr olaf ddydd!
Dy uchel nôd oedd gwasanaethu Duw
Drwy ymgeleddu pechaduriaid trist:
Yr hyn bregethit hyny a wnait fyw
Holl ddigonolrwydd cariad Iesu Grist.

Ac fel dy Feistr—purdeb clir dy foes,
Nid oedd wrthyrol gan fursendod llym:
Yn hytrach tynai fel y Ddwyfol Groes
Bawb ato 'i hun ag anorchfygol rym!
A'r mwya'i fai dderbyniai fwyaf llês,
Os unwaith deuai i dy gwmni di,
A theimlai wrth fyn'd adre' i fod yn nês
At Dduw, at Grist, at farw Calfari,


Eisteddais wrth dy ochr lawer awr
Ar fainc y Coleg, ddyddiau hapus gynt,
Pan oedd hoenusrwydd ysbryd yn rhoi gwawr.
Ar ein breuddwydion—aethant gyda'r gwynt!
Pa le mae'r bechgyn oeddynt gylch y bwrdd?
Rhai yma, a rhai acw,—rhai 'n y ne':
A gawn ni eto gyda'n gilydd gwrdd,
Heb neb ar ol—heb neb yn wâg ei le?

Coll gwynfa ydoedd colli'r dyddiau pan
Gydrodiem hyd ymylon Tegid hen,
Cyn i'w ramantus gysegredig làn
Gael ei halogi'n hagr gan y trên!
Er byw yn fain, fel " hen geffylau Rice,"[1]
Ein calon oedd yn hoew ac yn llon:
Pwy feddyliasai, dywed, ar ein llais,
Mor weigion oedd ein pyrsau'r adeg hon!

Ah, gyfaill hoff! ychydig wyddem ni
Pryd hwnw, pan agorid cîl hen ddôr
Chwareudy bywyd, beth oedd gan ein Rhi
Lawr a'r ei Raglen ini mewn ystôr!
Mi wn i rywbeth am helbulon byd,
A siomiant bywyd—geudeb, gwagedd dyn;
Ond gwyddost di beth ydyw myn'd ar hyd
Oer risau angeu ar dy ben dy hun!


Na, nid dy hunan chwaith: r'oedd yno Un
Ffyddlonach wrth dy ochr na dy wraig;
Cymerodd dy ofidiau arno'i hun,
Gan osod dy gerddediad ar y graig:
Mewn bywyd, ac mewn iechyd d'arwain wnai;
A phan êst di i d'wll'wch tew y glýn
O olwg dy gyfeillion, gwyddem mai
Efe oedd dy arweinydd y pryd hyn.

Tri chwarter diwrnod gefaist yn y gwaith
Ti "roddaist heibio" 'n gynnar y prydnawn:
Ond Llyfr y Cyfrif, mewn diamwys iaith,
A ddengys wrth dy enw "ddiwrnod llawn"!
Difefl ymroddiad—ymegnïad llwyr—
Nodweddai'th fywyd yma ar y llawr;
A'r Brenin alwodd arnat cyn yr hwyr—
"Was da a ffyddlawn, tyr'd i'r swper mawr! "

Gwell genyt oedd, mi wn, y gwaith na'r wledd,
A dyna p'am yr oedaist braidd yn hir
Heb ufuddhau—nid ofni'r glýn a'r bedd
Ond awydd eilwaith gael pregethu'r gwir:
Ond llaw dy Feistr gododd gwr y llen,
Er mwyn it weled cyfoeth llawn y bwrdd;
A'r foment hono syrthiodd yr holl gèn
Oddiar dy lygaid—tithau est i ffwrdd!


Gadewaist ar dy ôl adgofion lu
Yn amgueddfa calon llawer un,
A hir fyfyrir mewn anwyldeb cu,
Nes eilwaith ceir dy weled di dy hun;
Dy goeth bregethau'n rhan o honom sydd,
Tra par'wn ni, hwythau barhant ynghyd:
Symudol, bywiol, wirioneddau ffydd,
Gerddant o gwmpas hefom yn y byd.

I mi, hyfrydol waith a melus dasg
Ar hirnos gauaf wrth fy nghanwyll gŵyr
Fydd darllen dy feddyliau yn y wasg,
I dori hiraeth hallt, hyd oriau hwyr:
A hyn a'th ddwg yn ôl o farw i fyw,
Gan ddifa'r pellder dirfawr rhyngom sydd,
Ac anesmwythder bar i angeu gwyw
Gwna iddo feddwl am yr olaf ddydd!

Wel, gyfaill cu I dy ymadawiad sydd
Yn rheswm ychwanegol i'm' ymroi
I wasanaethu crefydd yn fy nydd,
A cheisio'r amddiffynfa heb ymdroi:
Oblegid onid âf i mewn i'r nef
Dy wyneb hawddgar byth ni welaf mwy;
Can's yno mae dy gartref gydag Ef
Yr Hwn a'th guddiodd yn ei farwol glwy.


Nodiadau[golygu]

  1. Y diweddar Mr, Rice Edwards, Bala, yr hwn a arferai logi ceffylau i'r myfyrwyr