Neidio i'r cynnwys

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/David Jones, Llangan

Oddi ar Wicidestun
Peter Williams Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
William Davies, Castellnedd; Dafydd Morris, Twrgwyn; William Llwyd, o Gayo

PENOD XIX.
DAVID JONES, LLANGAN.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Jones, Llan-gan
ar Wicipedia

Sylfaenwyr ac arweinyddion cyntaf y Methodistiaid–Jones heb fod yn un o honynt–Ei gydoeswyr a'i gyfoedion–Hanes ei enedigaeth a'i ieuenctyd Yn cyfarfod a damwain–Ei addysg a'i urddiad i Lanafan-fawr–Symud i Dydweiliog –Dyfod i gyffyrddiad a Dr. Read yn Trefethin, ac yn cael ei gyfnewid trwy ras– yn cael bywioliaeth Llangan, drwy ddylanwad Iarlles Huntington, Sefyllfa foesol a chrefyddol y plwyf–Ei gydweithwyr yn Morganwg–Desgrifiad o Sul y Cymun yn Llangan–Yn pregethu mewn lleoedd annghysegredig–Yn adeiladu Capel Salem–Marwolaeth a chladdedigaeth ei wraig–Yn gosod i lawr ddrwg arferion yr ardal–Achwyn arno with yr esgob–Ei lafur yn mysg y Saeson–Ei allu i gasglu arian at gapelau–Ei lafur yn mysg y Cymru–Yn cyfarfod ag erledigaethau ac yn eu gorchfygu–Ei boblogrwydd fel pregethwr–Annas yn dyfod o Sir Fôn i geisio cyhoeddiad ganddo–Yn efengylydd yn hytrach nag yn arweinydd–Penillion Thomas Williams, Bethesda-y-Fro–Desgrifiad Williams, Pantycelyn; Robert Jones, Rhoslan: a Christmas Evans, o hono–Ei ail briodas, a'i symudiad i Manorowen–Yn dyfod o fewn cylch mwy eglwysig–Yn heneiddio ac yn llesghau—Diwedd ei oes.

ARWEINYDDION cyntaf y Methodistiaid yn Nghymru oeddynt Daniel Rowland, Howell Harris, Howell Davies, William Williams, a Peter Williams. Ffurfiant ddosbarth ar eu penau eu hunain. Gwir mai i'r tri cyntaf yn unig y perthyn yr anrhydedd of osod y sylfaen i lawr; ond darfu i'r ddau Williams ymuno â hwy mor foreu, fel mai o'r braidd y gellir edrych arnynt ar wahan i'r sylfaenwyr. Ymunodd y Bardd â hwy o fewn pum' mlynedd i'r dechreuad, a gwnaeth yr Esboniwr ei ddilyn o fewn pum' mlynedd arall. Ac yr oedd doniau y ddau mor nodedig, a'u hymroddiad i waith y diwygiad mor llwyr, fel y daethant i'r cyfryw agosrwydd i'r sylfaenwyr, ag sydd yn gwneuthur y gorchwyl diraid. o'i gwahanu, yn bur anhawdd. Ni raid petruso ystyried y pump gwŷr enwog hyn fel yn ffurfio arweinyddion cyntaf y Methodistiaid Cymreig. Llanwyd hwy oll a'r un yspryd gweithgar a hunan-aberthol, ac yr oedd pob un o honynt yn meddu ar alluoedd a doniau ag a esid arbenigrwydd arno hyd y dydd hwn.

Nid ydoedd David Jones, o Langan, o fewn y cylch cysegredig yma, ac nid oedd yn ddichonadwy iddo fod. Yn y flwyddyn. 1735, blwyddyn dechreuad Methodistiaeth Cymru, y ganed ef. Yn wir, nid yw ei lafur ef yn nglyn a'r diwygiad Cymreig yn dechreu hyd ei ddyfodiad i Langan, yn 1768, pan yr oedd efe yn 33 mlwydd oed.

Darfu i'r diwygiad ymdaenu dros yr holl wlad, ac ymwreiddio yn y tir, yn mhell cyn iddo ef ymddangos ar y maes. Aethai cenhedlaeth gyfan heibio, ac yr oedd dyddiau dau o'r tri Sylfaenydd yn prysur ddirwyn i ben, pan y dechreuodd efe ar ei yrfa weinidogaethol gyda'r Methodistiaid. Canys bu farw Howell Davies yn mhen dwy flynedd wedi dyfod David Jones i Langan; ac yn mhen tair blynedd eilwaith, yr oedd yr hynodol Howell Harris. wedi croesi yr Iorddonen. Gwelir felly fod David Jones yn un ag oedd yn ffurfio megys ail ddosbarth o bregethwyr ac arweinyddion y diwygiad―ail o ran amseriad a feddyliwn, ac yn perthyn i'r ail dô o'n gweinidogion. Cafodd y fraint o gydoesi a chydlafurio â Daniel Rowland, a'r ddau Williams am flynyddau meithion, ond nid oedd efe yn gyfoed a hwynt hwy. Pan y goddiweddwyd hwy gan henaint, yr oedd efe yn gymharol ieuanc; a bu yn llafurio yn y winllan am o gylch ugain o flynyddoedd wedi iddynt hwy oll fyned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Cyfoedion David. Jones oeddynt John Evans, o'r Bala; William Davies, Castellnedd; David Griffith, Nevern, David Morris, Twrgwyn; a William Llwyd, o Gaio; er fod cryn wahaniaeth oedran rhwng yr hynaf a'r ieuangaf o'r rhai hyn. Yr oedd y ddau gyntaf a enwyd yn hyn na David Jones; a'r lleill yn ieuangach nag efe. O ran amseriad, gellir ystyried David Jones yn ddolen gydiol rhwng Daniel Rowland, Llangeitho, a Thomas Charles, o'r Bala; canys yr oedd efe ugain mlynedd yn ieuangach na'r naill, a chynifer o flynyddoedd yn hŷn na'r llall.

Cyfleus ddigon fyddai fod genym raniad ar hanes y Cyfundeb i gyfnodau, fel y gallem weled ar darawiad safle amseryddol bywyd ein prif weinidogion, yn nghyd â phrif symudiadau y Methodistiaid. Yinestyna ein hanes, bellach, dros fwy na chant-a-haner o flynyddau, amser rhy faith i fanylu arno, heb ei ddosparthu i gyfnodau. Dichon mai anhawdd fyddai cael rhaniad boddhaol arno. Hwyrach, er hyny, fod yr hyn a wnaed gan y Cyfundeb yn y flwyddyn 1893, sef dathliad Juwbili, eisioes wedi gwneyd bras-raniad arno. Os gwneir yn y dyfodol, fel y gwnaed yn y flwyddyn hono, bydd y Juwbili ei hun yn dosparthu ein hanes i gyfnodau o haner cant o flynyddoedd bob un, gan ddechreu cyfrif gyda chorphoriad y Cyfundeb yn Nghymdeithasfa Watford, yn 1743, ac ystyried yr wyth mlynedd cyn hyny fel cyfnod byr o gychwyn a pharotoad, er mai blynyddoedd deheulaw y Goruchaf oeddynt, ac i waith mawr gael ei wneyd ynddynt. Arweinir ni i wneyd y sylwadau hyn yn y fan hon gan y ffaith fod, efallai, mwy o gamgymeriad yn nghylch amseriad gweinidogaeth Jones, o Langan, na nemawr un o'n prif weinidogion. O bosibl fod rheswm, heblaw diffyg rhaniad ar ein hanes, am hyn. Y mae ysgrifenwyr, yn ddieithriad, mor bell ag y gwyddom, pan yn traethu ar enwogion y pwlpud Cymreig, yn y cyfnod Methodistaidd, yn cysylltu enw David Jones â Daniel Rowland a Howell Harris. Fynychaf, os nad bob amser, efe yw y cyntaf a enwir ar eu holau hwy. Felly y gwna y diweddar Barch. Dr. Owen Thomas, pan yn traethu arnynt yn ei gofiant ardderchog i'r Parch. John Jones, o Dalysarn; ond dylid cadw mewn cof, y rhoddir y lle parchus yma iddo am ei enwogrwydd fel pregethwr, ac nid oddiar ystyriaeth amseryddol. Gwedi ceisio cywiro y syniad cyfeiliornus hwn, awn bellach at brif ffeithiau ei fywyd.

Y mae hanes boreuol David Jones yn anhysbys. Yn wahanol i Howell Harris Peter Williams, ni ddarfu iddo ef ysgrifenu dim o'i hanes ei hun; ac yn anffodus, oedwyd ysgrifenu cofiant iddo am 31 o flynyddau wedi iddo farw. Erbyn hyny, yr oedd llawer o hysbysrwydd yn ei gylch wedi ei golli yn anadferadwy. Yn y flwyddyn 1841 y cyhoeddwyd y cofiant hwnw iddo gan y Parch. E. Morgan, M.A., Syston, gŵr a ysgrifenodd goffadwriaeth i amryw o'r enwogion Methodistaidd. Yr oedd Mr. Morgan yn enedigol o'r Pil, lle heb fod yn nepell o Langan, ac yr oedd yn adwaen y gweinidog yn y cnawd, ac mewn perffaith gydymdeimlad ag efe, ac felly yn meddu cymhwysder at y gwaith â pha un yr ymgymerodd.

Ganwyd David Jones mewn amaethdy, o'r enw Aberceiliog, yn mhlwyf Llanllueni, yn Sir Gaerfyrddin, ar lan yr afon Teifi. Cymerodd hyn le yn 1735. Ni chofnodir enwau ei rieni, ond y mae yn amlwg eu bod yn bobl gysurus eu hamgylchiadau, gan y bwriadent ddwyn un o'u plant i fynu yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd iddynt ddau fab ac un ferch. Bwriad y tad oedd gosod y mab hynaf yn offeiriad, ac i Dafydd fod, fel ei dad, yn ffarmwr. Ond nid hyn oedd trefniad y nefoedd, ac amlygwyd hyny mewn ffordd bur ryfedd a blin. Pan yr oedd Dafydd yn blentyn ieuanc iawn, syrthiodd i bair llawn o laeth berwedig, a bu agos iddo gael ei ysgaldio i farwolaeth. Bu yn hir heb wellhau, a pharhaodd am amser maith yn wanaidd ac afiach. Yn mhen enyd, daeth y tad i weled fod ei gynllun wedi ei ddyrysu, fod Dafydd bellach wedi ei anghymwyso at waith y tyddyn, er, hwyrach y gellid gwneyd offeiriad o hono. Penderfynodd wneyd y goreu dan yr amgylchiadau, a chafodd Dafydd fyned i'r Eglwys, a'r mab hynaf i drin y tir. Arferai David Jones ddweyd mewn blynyddoedd gwedi hyn, mewn cyfeiriad at yr amgylchiad hwn: "Yr wyf yn cario nodau ac achos fy ngalwedigaeth ar fy nghefn; oblegyd dygodd greithiau y ddamwain enbyd ar ei gefn i'w fedd. Y mae dywediad o'i eiddo pan yn ieuanc, ag sydd yn lled arwyddo fod rhyw gymaint o addysg grefyddol yn y teulu; digon, beth bynag, i alluogi Dafydd i wneyd defnydd tra tharawiadol o'r Ysgrythyr lân. Un diwrnod, yn hir ar ol y ddamwain, ond cyn i'r plentyn wellhau oddi wrth ei heffeithiau, efe a ymwthiai yn llesg at ei fam. Hithau a'i gwthiodd i ffwrdd, gan ddweyd, o bosibl, yn chwareus: "Druan o honot, yr wyf wedi blino ar dy fagu di." Edrychodd yntau gyda thynerwch yn ei hwyneb, a dywedodd: "Pan y mae fy nhad a'm mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Ar hyn, cipiodd y fam ei bachgen ffraethbert i'w mynwes, a dywedodd: "Am y gair hwn, mi a'th fagaf yn llawen tra y byddot byw ar y ddaear.' Hynodid ef pan y daeth i addfedrwydd oedran gan ei ffraethineb, parodrwydd a phriodoldeb ei atebion, ac yn yr amgylchiad hwn, cawn olwg ar y ddawn hon yn ei blagur.

Derbyniodd ei addysg athrofaol yn Ngolegdy Caerfyrddin, a dywed ef ei hun na ddarfu iddo dreulio term erioed yn y prif ysgolion. Urddwyd ef i guwradiaeth Llanafan-fawr, yn Sir Frycheiniog, tua'r flwyddyn 1758; ond symudodd yn bur fuan oddi yno i Dydweilog, yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Ac nid hir fu ei arhosiad yno ychwaith; oherwydd cawn ef yn gwasanaethu plwyfau Trefethin a Chaldicot, yn Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1760. Beth oedd yn achlysuro y symudiadau parhaus hyn, nid yw yn wybyddus, ond gallwn ddweyd yn ddiogel mai nid ei grefydd oedd yr achos. Yr oedd hyd yn hyn yn ddigon difater am ei gyflwr ysprydol ei hun, a chyfrifoldeb ei swydd, i foddio personiaid oferwag yr oes hono. Dywedir ei fod y pryd hwn yn bregethwr enillgar a phoblogaidd, a dichon fod hyny yn ddigon o fai ynddo, yn ngolwg y personiaid ag yr oedd efe danynt. Modd bynag, daeth yn guwrad i Drefethin a Chaldicot, yn Swydd Fynwy. Y mae Trefethin yn ymyl tref Pontypŵl, ac yr oedd yn byw yn Mhontymoel, yn ymyl y dref hono, ar y pryd y daethai David Jones yno, feddyg enwog yn ei alwad, a thra enwog hefyd am ei rinweddau a'i dduwioldeb. Ei enw oedd Dr. William Read. Yr oedd clod y meddyg hwn wedi lledu dros Gymru oll, a chleifion yn tyru ato o'i chyrau pellaf. Ymgyfathrachai efe a'r Methodistiaid, ac yr oedd y Bardd o Bantycelyn ac yntau yn arbenig yn gyfeillion mynwesol. Pan fu y meddyg farw, yr hyn a gymerodd le yn 1769, ysgrifenodd Williams farwnad iddo, un o'r goreuon a gyfansoddwyd ganddo. Ceir hi yn mysg ei weithiau argraffedig. Gellir lled dybio oddiwrth awgrym sydd yn y farwnad, fod y bardd yn bresenol yn yr angladd, o herwydd y mae yr awdwr, ar ol datgan ei anghrediniaeth o'r hanes am farwolaeth y doctor, mewn tri o benillionprydferth, yn troi ac yn dywedyd:— Mae'n wirionedd, fe ddiangodd O fyd gwag i deyrnas nefoedd, Mae ei gorph ef heddyw'n llechu, Mewn cist o bren yn isel obry; Fe rowd arno yn ddiffafar, Bedair troedfedd lawn o ddaear; Hoeliwyd y gist, 'r wyf yn dyst, estyllod durfin, READ sy'n gorwedd gyda'r werin, Cwsg o fewn i eglwys Trefddyn.

Yr oedd Dr. Read yn fyw, ac yn nghanol ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb, pan ddaeth y cuwrad ieuanc i Drefethin. Trigent yn ymyl eu gilydd, a daethant yn hynod o gyfeillgar. Nid yw yn hollol eglur, pa un ai crefydd y meddyg a achlysurodd droedigaeth y cuwrad, neu ynte troedigaeth y cuwrad a'i dygodd ef i gydnabyddiaeth a'r meddyg. Yr hyn a ddywed Mr. Morgan, Syston, am hyn yw, mai trwy ddarlleniad llyfr o waith yr enwog Flavel yr effeithiwyd ei droedigaeth, pan yr oedd yn gwasanaethu yn y lle hwn. Dywed, yn mhellach, ddarfod i'r gwr ieuanc, wedi iddo gael ei gyfnewid i fywyd, dderbyn anngharedigrwydd a chreulondeb ar law y gŵr eglwysig ag yr oedd efe yn gwasanaethu' dano; ac nad oedd gan David Jones na châr na chyfaill yn agos ato i ddweyd ei gwyn wrtho, na chael cyfarwyddyd ganddo, ond Dr. William Read. Hwyrach mai ar ol i'r cyfnewidiad mawr gymeryd lle, trwy ddarlleniad llyfrau Flavel, y dechreuodd ei gyfeillgarwch a'r meddyg duwiol o Bontymoel; ond y mae yn llawn mor debygol, mai y meddyg a osododd weithiau Flavel o fewn ei gyrhaedd. Sut bynag y bu, daeth David Jones i gysylltiad a'r Methodistiaid yn Trefethin, a pharhaodd ei gyfeillgarwch â Dr. Read hyd ei farwolaeth; ac nid bai David Jones ydoedd na ddaeth un o'i ferched yn wraig iddo, yn mhen blynyddau lawer wedi hyn.

Am ba gyhyd o amser y darfu rheithor Trefethin gydymddwyn a'i guwrad ar ol yr anffawd o iddo gael crefydd, ni fynegir i ni. Diau fod y dygwyddiad, yn ei dyb ef, wedi ei anghymhwyso yn fawr at wasanaeth yr Eglwys. Cawn fod y cuwrad, ar ol hyn, yn peri cyffro yn yr ardal; fod tyrfaoedd yn tyru i'w wrando; fod mîn ac arddeliad ar ei weinidogaeth; ei fod yn holi ac yn dysgu y bobl ieuainc yn ngwirioneddau crefydd; ac yn eu dysgu i ganu mawl i Dduw; a'i fod ef ei hun yn hynod hoff o gerddoriaeth. Nid oedd dim i'w wneyd â gwr ieuanc mor ddireol a hyn ond ei yru i ffwrdd; ac ymaith y cafodd fyned. Y rheswm dros ei symudiad o Drefethin, yn ddiau, oedd ei arferion Methodistaidd, a hwyrach ei gyfeillgarwch gormodol â Dr. Read a'i deulu. I le yn agos i Fryste yr aeth nesaf, ond ni fu nemawr o amser yn y fan hono; symudodd yn fuan i le yn Swydd Wilts. Yr oedd erbyn hyn fel colomen Noah, yn methu braidd a chael lle i roddi ei droed i lawr, canys nid oedd llonyddwch i guwrad, o'i yspryd ef, i'w gael y pryd hwnw yn yr Eglwys Wladol yn Lloegr, nac yn Nghymru. Yr oedd tân y weinidogaeth yn llosgi o'i fewn; ond ni fynai perchenogion bywioliaethau wasanaeth ei fath. Aflonyddai y wlad, gwnai anesmwytho cydwybodau y bobl, ac yr oedd y gweithredoedd ysgeler hyn yn bechodau nas gellid eu maddeu. Ymddengys iddo, tra yn aros yn Wilts, ddyfod i gyffyrddiad â rhai o Fethodistiaid Lloegr, ac yn eu plith daeth i gydnabyddiaeth a'r enwog Iarlles Huntington, gwraig o fendigaid goffadwr iaeth. Chwiliai hon am ffyddloniaid yr Iesu, i'w noddi a'u cynorthwyo yn ngwasanaeth crefydd. Yr oedd yr Iarlles wedi bod yn foddion i ddwyn pendefiges arall at draed y Gwaredwr, sef yr Arglwyddes Charlotte Edwin, perchenog etifeddiaeth eang yn Sir Forganwg. Ac yn fuan daeth personoliaeth Llangan yn wag, pa un oedd yn rhoddiad yr Arglwyddes hono, ac ar gais yr Iarlles cyflwynodd hi i David Jones. Cymerodd hyn le, fel y dywedwyd yn flaenorol, yn y flwyddyn 1768, pan yr oedd efe yn 33 mlwydd oed.

EGLWYS LLANGAN, GER PONTFAEN, SIR FORGANWG.


Plwyf bychan ydyw Llangan, yn gorwedd rhwng Pontfaen a Phenybont—arOgwr, yn Sir Forganwg, ac y mae ynddo bentref bychan, gwasgaredig, a elwir ar enw y plwyf. Y mae yr eglwys yn adeilad hynafol, er nad ydyw yn un o'r rhai mwyaf o faintioli. Adgyweiriwyd hi yn drwyadl yn y flwyddyn 1856. Mae croes nodedig iawn ar y fynwent, un o hen olion yr oesoedd Pabaidd. Dywedir mai adeiladwaith y 12fed ganrif ydyw. Eir o bellder ffordd i'w gweled gan hynafiaethwyr, ar gyfrif ei maint, destlusrwydd ei cherfiadaeth, yn nghyd a'i bod mewn cadwraeth mor dda. Cyfrifir yn gyffredin mai ar adeg dyfodiad David Jones i Langan y mae ei gysylltiad ef a'r Methodistiaid yn dechreu. Gwelir oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisioes, nad yw hyn yn gywir. Tra sicr ydyw iddo ef ddyfod o fewn cylch dylanwad y Methodistiaid tra yn gwasanaethu yn Nhrefethin a Chaldicot. Yma y gwnaed ef yn gristion, ac yma yr ymddangosodd yr arwyddion cyntaf ei fod ef yn Fethodist. Pa reswm bynag ddichon gael ei roddi am symudiadau aml David Jones, cyn iddo ddyfod i'r lle hwn, nid oes le i amheuaeth, mai ei arferion Methodistaidd barodd ei holl symudiadau ar ol hyn. Dygodd hyn arno erledigaeth a dial. Ond os mai ei yspryd Methodistaidd, a'i weithgarwch efengylaidd, a dynodd arno ddialedd y clerigwyr cnawdol, dyna hefyd a enillodd iddo ffafr yr Iarlles Huntington, y foneddiges fwyaf Fethodistaidd ag y mae hanes am dani. Ond pe na bai genym lawn sicrwydd yn nghylch yr adeg y daeth yn Fethodist, y mae ei weithredoedd a'i eiriau yn profi iddo ddyfod yn fore i arddel yr enw, fel y gwelir yn y difyniad canlynol, a ysgrifenwyd ganddo yn y cofiant a wnaeth efe i Christopher Basset. Fel yma y dywed:—Galwyd fy ardderchog frawd (Basset) yn Fethodist; enw o bwys, yn ddiamheu, o bwys, yn ddiamheu, canys o le dysgedig iawn y tarddodd ar y dechreu, nid llai lle na Rhydychain fawr ei hun, ac fel y bydd y lle, felly y bydd y ffrwyth. Ni chedwais dymhor (term) yno erioed, eto, er hyn, fe welwyd fy nghymhwysiadau mor fawr fel y sefydlwyd y radd yma, doed fel y dêl, arnaf finau, er fy mod yn amddifad o eraill. Fy meddwl yw hyn am y gair, mai siart (charter) gogoneddus ydyw, a lithrodd yn ddiarwybod o blith y doctoriaid yno, i bob offeiriad ag sydd yn sefyll yn gydwybodol at burdeb articlau Eglwys Loegr. Enw mor fawr, gan y rhai sydd yn caru y rhoddwyr, fel yr wyf yn barod i'w ddymuno ar fy arch (coffin), ac os pydra yno, gadewch iddo, fe gymer y diafol ofal i anrhydeddu pobl Dduw â rhyw enw newydd eto, fel y mae yr enw Methodist yn awr yn barod i foddi y Pengryniaid a'r Cradogiaid hefyd." Dyma arddeliad diamwys o Fethodistiaeth yn ymadroddion David Jones ei hun, ac y mae yn cydgordio yn hollol a'r bywyd a dreuliodd efe.

MYNWENT EGLWYS LLANGAN.
[Yn dangos y Groes a adeiladwyd ynddi yn y ddeuddegfed ganrif.]


Er hyn oll, yr oedd ei ddyfodiad i Langan yn dechreu cyfnod newydd yn ei hanes, canys yno y cafodd ei hun gyntaf yn wr rhydd. Yr oedd bellach wedi dianc oddi tan orthrwm y personiaid, ac wedi cael llywodraeth eglwysig plwyf bychan mewn sir boblog iawn; ac yn awr, yn arbenig, y dechreuodd ei lafur y tuallan i'w blwyf ei hun.

Ceisiwn, yn awr, gymeryd bras-olwg ar ystad crefydd yn mhlith y Methodistiaid, yn Sir Forganwg, pan y daeth David Jones i Langan. Yr ydym yn y penodau blaenorol, yn enwedig yn nglyn â hanes Howell Harris, wedi dangos fod llawer o lafur wedi ei gymeryd i efengyleiddio Sir Forganwg yn dra bore, a bod llwyddiant mawr wedi canlyn y llafur a wnaed. Nis bwriadwn helaethu ar hyn yn bresenol, dim ond braidd ddigon i gael golwg glir ar gysylltiadau yr hanes. Yr oedd seiadau wedi eu sefydlu yn Morganwg, yn gystal a siroedd eraill y Deheudir, o fewn wyth mlynedd gyntaf y diwygiad, ac erbyn Cymdeithasfa Watford yr oedd eglwys y Groeswen wrth y gorchwyl o adeiladu. capel, y cyntaf yn y sir. Cynyddodd y seiadau yn fawr yn ystod y blynyddoedd canlynol, ond yr oedd y bobl yn hwyrfrydig i godi capelau. Adeiladwyd un arall yn mhen chwe' mlynedd ar ol y cyntaf, sef capel Aberthyn. Dyma yr unig addoldai oedd gan y Methodistiaid yn Morganwg pan ddaeth David Jones i Langan. Y mae Aberthyn o fewn pedair milltir i Langan, a'r Groeswen o fewn ugain milltir i'r lle. Yr oedd eglwysi cryfion yn y ddau le yma y pryd hwnw, ac yr oedd arnynt weinidogion ordeiniedig a sefydlog. William Edward, yr adeiladydd, ydoedd gweinidog y Groeswen; a Dafydd Williams, o Lysyfronydd, ydoedd gweinidog Aberthyn. Yr oedd y ddau, erbyn amser dyfodiad Mr. Jones i Langan, mewn addfedrwydd oedran, eill dau yn eu haner-canfed flwyddyn; ac yr oeddynt yn ddynion o fedr a dylanwad mawr. oedd hefyd amryw o gynghorwyr yn llafurio yn y sir ar y pryd hwn, y rhai penaf o honynt oeddynt William Thomas, o'r Pil, a Jenkin Thomas, yr hwn a adwaenir yn well wrth yr enw Siencyn Penhydd. Yr oedd y cyntaf yn bump-a-deugain oed, a'r olaf yn un-ar-ddeg-ar-hugain. Glaslanciau rhwng deg a phymtheg oed ydoedd Christopher Basset, a Howell Howells, Trehill, yr adeg hon, dau ag a ddaethant ar ol hyn yn offeiriaid Methodistaidd o enwogrwydd a defnyddioldeb. Yn ychwanegol at y gweinidogion a'r cynghorwyr yr ydym yn awr wedi crybwyll eu henwau, pa rai oeddynt er ys blynyddau wedi bod yn llafurio yn Morganwg, daeth clerigwr i'r sir tua'r un adeg a David Jones, sef yr enwog a'r anwyl William Davies, Castellnedd. Daeth y ddau i gydnabyddiaeth buan a'u gilydd, os nad oeddynt felly o'r blaen, a buont yn cydlafurio, ac yn cyd-deithio Cymru oll yn ngwasanaeth yr efengyl, am yspaid ugain mlynedd, sef hyd farwolaeth William Davies. Cuwrad oedd William Davies, yn Nghastellnedd, o dan Mr. Pinkey, yr hwn oedd yn meddu personoliaeth dau blwyf, Castellnedd a Llanilltyd, ac nid ymddyrchafodd i safle uwch na chuwrad. yn ei fywyd. Bendith anmhrisiadwy i grefydd ydoedd dyfodiad cyfamserol y ddau weinidog ffyddlawn hyn i Grist i Sir Forganwg. Hyd yn hyn nid oedd yr un o ser dysgleiriaf y pwlpud wedi ymddangos yn Morganwg, yn frodorion nac yn ddyfodiaid. At Howell Harris, yn benaf, yr edrychai pobl Morganwg fel eu tad, a phan ymneillduodd efe, ac y peidiodd dalu ei ymweliadau mynych yno, nis gadawodd ar ei ol neb ag y gellid am foment ei gymharu ag efe. Cymerasai yr ymraniad le ddeunaw mlynedd cyn dyfodiad yr enwogion hyn i Forganwg, ac yr oedd eu dyfodiad hwy yno fel codiad haul o'r uchelder i'r holl sir, ac i Gymru oll. Blynyddoedd maith o drallod i bobl yr Arglwydd fu y blynyddoedd hyny; cyfnod o gyndynddadleu, a thymhor o ddirywiad crefyddol. Dilynwyd hwy a dyddiau gwell, dyddiau o adfywiad ac adferiad, a chydnabyddir yn gyffredinol mai trwy offerynoliaeth David Jones, Llangan, a W. Davies, Castellnedd, yn Morganwg; y ddau Williams, a William Llwyd, o Gaio, yn Nghaerfyrddin; a Daniel Rowland a Dafydd Morris, yn nghyd â Dafydd Jones, o'r Derlwyn, yn Aberteifi, yr ail-feddianwyd y Deheudir i Fethodistiaeth.

Y mae hanes David Jones yn Llangan yn bur gyffelyb i hanes Rowland yn Llangeitho, ond ei fod ar raddfa lai. Daeth y lle yn gyrchfa pobloedd, yn ganolbwynt gweithrediadau crefyddol rhan fawr a phwysig o'r wlad. Ymddengys i David Jones ymdaflu i weithgarwch yn union y daeth i Langan, ac y mae hanes fod sefyllfa crefydd o fewn y plwyf yn resynus. Dywed hyd yn nod Mr. Morgan, Syston, fod ei ragflaenydd wedi esgeuluso ei ddyledswyddau, a dichon y gallasai ychwanegu ei fod wedi camarwain ei bobl, ar air a gweithred. gweithred. Tebygol ei fod yn gyffelyb i'r person yr oedd gofal y plwyf nesaf i Langan arno, am yr hwn y canodd Shanco Shôn fel yma:—

Y 'ffeiriad ffol uffernol,
Shwd achub hwn ei bobl,
Sy'n methu cadw dydd o saith,
Heb ddilyn gwaith y diafol."


Yr oedd yr offeiriaid, gydag ychydig eithriadau, yn parhau yn ddifraw a difater; a llawer o honynt yn blaenori mewn annuwioldeb, a rhysedd. Ni pherchid hwy. hyd yn nod gan yr oferwyr yr ymgyfath rachent â hwy. Dirmygid hwy gan bob dyn bucheddol, a hwy oedd prif destun gwawd a chân y beirdd a'r prydyddion. Temtid hyd yn nod Iolo Morganwg i ogan-ganu iddynt. Cyfansoddodd efe gån, a alwai yn "Drioedd yr offeiriaid," cân faith, o bedwar-ar-hugain o benillion. Gosodwn yma y penill cyntaf a'r olaf o honi fel enghraifft, ac fel dangoseg o'r dirmyg a deimlai yr hen fardd dichlynaidd hwnw tuag at bobl oedd yn byw yn


CAPEL SALEM, PENCOED.

[A adeiladwyd y tro cyntaf gan D. Jones, Llangan, yn y flwyddyn 1775.]



EGLWYS A MYNWENT MANOROWEN, SIR BENFRO.

[Lle y claddwyd D. Jones, Llangan.]

annghyson a'u swydd a'u gwaith. Dyma hwy:

"Tri pheth sydd gas gan brydydd,
Bost uchel gŵr annghelfydd,
Awen ddiflas, heb ddim hwyl,
A 'ffeiriad plwyf di'menydd.

Tri pheth a gâr fy nghalon,
Heddychu rhwng cym'dogion;
Cadw'r iawn heb fyn'd ar goll,
A chrogi'r holl 'ffeiriadon."


Amlwg yw nad oedd y mwyafrif mawr o bersoniaid y wlad ronyn yn well eu moes, a'u buchedd, y pryd hwn, nag yr oeddynt gan' mlynedd cyn hyny; ac yr oedd plant y diwygiad hefyd wedi myned yn ol, ac nid yn mlaen, yn ystod yr ugain mlynedd hyn. Fel y darfu i ni sylwi, daethai dadleuon i mewn i'r eglwysi Methodistaidd, ac ymraniadau o bob math; y rhai a droisant ardd yr Arglwydd yn anialwch. Nid hawdd desgrifio y dirywiad a gymerodd le yn mhlith crefyddwyr mewn amser mor fyr ag ugain mlynedd. Mae darllen hanes eglwys Fethodistaidd yr Aberthyn yn y tymhor hwn, yn dwyn i gôf hanes eglwysi Annibynol Cefnarthen a Chwmyglo, ger Merthyr, mewn adeg foreuach.

Gan hyny, rhaid fod dyfodiad gŵr o yspryd a thalentau Mr. Jones i ardal fel yma, fel bywyd o feirw. Cafodd Llangan y fraint oruchel hon, canys nid hir y bu cyn teimlo grym ei weinidogaeth. Llosgai ei enaid ynddo o gariad at y Gwaredwr, ac o dosturi tuag at ei blwyfolion, pa rai a lusgid i angau. Yn fuan, dechreuodd y bobl ddeffroi, a'r eglwys lenwi.

Aeth y gair ar led am rym ei weinidogaeth, a thyrai y bobl i'w wrando o'r plwyfi cyfagos, a daeth Llangan yn gyffelyb i Langeitho, fel cyrchfa pobloedd o bell ac agos.

Er mwyn rhoddi rhyw syniad am fawredd y gwaith a wnaed yn Llangan, rhoddwn yma, gyda chaniatad yr Awdwr, ddesgrifiad campus yr Hybarch W. Williams, Abertawe, o Sul y cymundeb yn Llangan yn amser David Jones:—[1] "Tyred gyda ni, ddarllenydd hoff, ni a eisteddwn yn nghyd ar ben y maen mawr yma ar gopa cribog mynydd Eglwysfair. Y mae yn foreu Sabboth hyfryd. A weli di ar dy law aswy rhyngot a'r deheu-ddwyrain, hen adeilad fawreddog, braidd yn ganfyddadwy, o herwydd y coed a'i hamgylchant? Dyna gastell Penllin. Edrych eto ar dy law ddeheu, ryw bedair milltir i'r gorllewin, ti a weli dref fechan ar wastadedd pur hyfryd. Dyna Benybont-ar-Ogwr. Edrych yn awr rhag dy flaen. Yn union rhyngom a'r deheu, ar waelod y gwastad oddi tanom, ti a weli y pentref bychan annyben gwasgaredig yna; a braidd rhyngom ag ef, ond yn hytrach yn fwy i'r gorllewin, eglwys fechan ddigon gwael yr olwg, heb fod iddi yr un clochdy, ond rhywbeth tebyg i simnai, a thwll yn hono, a chloch yn hwn, yr hon na chlywem hyd y fan hon, tincied ei heithaf. Dyna Llangan. Dyna y fan y bydd Mr. Jones yn pregethu ac yn cyfranu heddyw, a dyna lle bydd yn ei gyfarfod dyrfa fawr. Aros enyd; ti gei eu gweled yn ymgasglu. Ust! dacw rai o honynt yn dechreu dyfod. Edrych ar dy gyfer, ti a weli lonaid yr heol serth acw o gopa y Filldir Aur, tua Llangan, llawer ar feirch, a mwy ar draed. Pobl y Wig, Llanffa, Ty'rcroes, a Thregolwyn ydynt, yn ymdywallt tua Llangan. Edrych eto rhyngom a chastell Penllin, dacw dyrfa yn ymarllwys oddiar y croesheolydd tua dyffryn Llangan. Edrych eto ar dy ddeheulaw, y mae yr heol fain wastad yna o Dyle-y-rôd, heibio i Langrallo a Melin-y-mur, i Dreoes, yn frith o fywiolion; ffordd yna y daw pobl Penybont, Trelalas, Pil, Llangynwyd, Margam, ac Aberafon. Y mae rhai o honynt yn dyfod o Gastellnedd, ac o'r Cwm uwchlaw, ac hyd yn nod o Langyfelach, y Goppa, ac Abertawe. Ond bellach, gad i ni ddisgyn i'r gwastadedd-awn rhagom i Langan. Bydd rhyw gynghorwr' yn anerch y gynulleidfa, yn ysgubor y persondy, am naw o'r gloch. Ni bydd Mr. Jones yn yr eglwys dan haner awr wedi deg. Dacw ŵr teneu, trwynllym, llygadgraff, yn sefyll ar yr ystôl. Y mae yr olwg arno yn dy argyhoeddi ar unwaith nad yw wedi bod yn yr athrofa, ac y mae ei ddull o ymadroddi yn dangos nad yw erioed wedi astudio na gramadeg na rheithioreg. Ond y mae rhyw nerth yn ei eiriau—mae rhyw wreiddiolder yn ei ddrychfeddyliau—mae rhyw swyn yn ei lais, yn dangos ei fod ef yn rhywbeth tuhwnt i'r cyffredin. Dyna Edward Coslett, gôf wrth ei alwedigaeth, ond pregethwr wrth ei swydd, a'r pregethwr Methodistaidd goreu yn Sir Fynwy, meddai ef ei hun. Ei reswm dros ddweyd hyny ydoedd, nad oedd yr un pregethwr Methodistaidd, ar hyny o bryd, yn Sir Fynwy, ond ei hunan. Gofynodd Mr. Jones iddo, wedi ei wrandaw yn pregethu mewn rhyw fan, pa le yr oedd wedi astudio y bregeth hono. Lle na ddarfu i chwi astudio yr un erioed, Syr,' meddai yntau. Ond pa le, Ned?' ychwanegai Mr. Jones: Rhwng y tân a'r eingion,' oedd yr ateb. Barnai rhai dynion mai dyna paham yr oedd pregethau Edward Coslett mor wresog, neu mor danllyd, fel y dywedent. Ond wedi'r cwbl, nid yw efe namyn 'cynghori ticyn,' Mr. Jones sydd i bregethu yn yr eglwys. Gan hyny, i'r eglwys â ni. Dacw Mr. Jones yn esgyn y pwlpud bychan. Edrychwch arno am fynud. Nid yn fynych y ceir cyfle i weled dyn mor brydferth. Y mae yn rhy dal i'w alw yn fychan; ac y mae yn rhy fyr i'w alw yn dal; llydain ei ysgwyddau, praff ei fraich, goleu ei wallt, llawn ei fochgernau. Y mae ei aeliau bwäog, ei lygaid mawrion duon dysglaer, ei drwyn mawr cam, a'i wefusau serchog, yn dangos eu bod yn preswylio yn nghymydogaeth cyfoeth o synwyr cyffredin, a byd o natur dda. Ond wele, y mae yn dechreu darllen: 'Pan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni, &c.' Ymddengys fel pe byddai mewn brys i ddybenu. Llithra y geiriau, y gweddïau, a'r llithiau ar ol eu gilydd dros ei wefusau, fel y cenllif gwyllt. Cyn ein bod yn dysgwyl, dyma Amen y gwasanaeth gosodedig. Yn awr, am y weddi ddifyfyr, y canu, a'r bregeth. Y mae y cyntaf yn dangos cydnabyddiaeth y gweddiwr a'r hyn sydd o fewn y llen. Gellir bod yn sicr ei fod wedi bod yn y nef neithiwr, gan mor hawdd y mae yn myned yno heddyw. Y mae y canu fel swn dyfroedd lawer; 'dyfroedd yn rhuthro dros greigiau Lodor.' Nid oes arno ryw drefn ardderchog; ond y mae yr yspryd yn ardderchog, a'r hwyl yn hyfryd; am yr effaith, y mae yn annesgrifiadwy. Roddem rywbeth am gael clywed canu o'r fath unwaith eto.

"Ond dyna y canu yn dybenu, a'r bregeth yn dechreu. Y mae dystawrwydd, fel eiddo y bedd, yn teyrnasu trwy yr adeilad gorlawn. Y mae pob dyn fel pe byddai wedi anghofio fod un rhan yn perthyn i'w gyfansoddiad ond llygad, a chlust, a chalon. Y mae y pregethwr yn dechreu fel pe byddai yn penderfynu rhoddi llawn waith i'r tri. Y mae meddyliau ei galon yn ymdywallt yn ffrydlif gyson, mor gyflym ac mor ddidrafferth, nes peri i ti dybied fod cartrefle ei feddwl yn nhaflod ei enau. Y mae ei eiriau yn ddetholedig, ei lais yn soniarus; y bobl yn credu ei fod yn bregethwr heb ei ail. Y mae y pethau hyn yn fanteisiol i gynyrchu y teimlad a weli, ac a glywi, yn ymdaenu trwy y dyrfa. Ond nid hyn yw y cwbl; nid yna y mae cuddiad ei gryfder. Y mae bywyd yn mhob gair; y mae nerthoedd yn mhob brawddeg; y mae yn gwaeddi, ond y mae yr Yspryd tragywyddol wedi dweyd wrtho eisioes pa beth i waeddi. Y mae y pregethwr yn credu fod pob gair a ddywed yn wirionedd tragywyddol. Y mae yn teimlo pwys anrhaethol pob brawddeg a lithra dros ei wefus; eu pwys anrhaethol iddo ef ei hunan; eu pwys anrhaethol i bob enaid byw o'i flaen! Dyn newydd ei gipio o'r dwfr; newydd ei waredu rhag boddi; newydd ei osod yn y cwch; yn gwaeddi, 'Bad! bâd!' ar y soddedigion o'i amgylch, yw efe. Wrth ddweyd ei bregeth y mae yn dweyd ei galon. Dywed am ddagrau, a chwys a gwaed, a chroes ac angau ein Gwaredwr, a'i gariad anfeidrol yn berwi ei enaid. Sieryd am adgyfodiad y meirw a'r farn dragywyddol; a thra yn siarad teimla ei hun ar derfynau y byd anweledig, ac y mae ei wrandawyr yn teimlo yr un modd. Y mae y chwys a'r dagrau fel yn rhedeg gyrfa tros ei ruddiau glandeg, ac y mae cawod o ddagrau yn gwlychu llawr yr hen eglwys. Ond dyna y bregeth yn dybenu. Rhyfedd mor fyr; ond hynod mor felus. Dyna y pregethwr yn eistedd yn foddedig mewn chwys. Dyna y gwrandawyr, am y waith gyntaf oddiar pan ddechreuodd, yn edrych ar eu gilydd, ac yn gweled afonydd o ddagrau.

"Ond nid yw y cwbl drosodd eto. Y mae y bwrdd wedi ei ledu; y mae y dyrfa cyn ymadael yn bwriadu gwneyd cof am farwolaeth eu Hiachawdwr mawr. Aros i weled y diwedd. Darllena y gweinidog y gwasanaeth arferol, ond nid yw yn gorphwys ar hyny. Ni welir un argoel ei fod am arbed ei gorph; y mae nerthoedd yr aberth yn llenwi ei enaid. Nid yw y geiriau arferol, Corph ein Harglwydd Iesu Grist,' &c., yn ymddangos fel wedi pylu dim wrth eu hadrodd trosodd a throsodd; mwyhau y mae eu nerth, dyfnhau y mae eu hargraff ar y pregethwr ei hunan pa fynychaf eu dywed. Ymwthia drwy y dorf, ireiddia hwynt â'i ddagrau; gwlych hwynt â'i chwys; cynhyrfa hwynt drwyddynt draw â'i eiriau melusion. Yn awr, dyna ddernyn o hymn; yn awr dyna bwnc o athrawiaeth; yn awr dyna waeddolef annynwaredol am angau'r groes; yn awr y mae

'Jones fel angel yn Llangana,
Yn udganu'r udgorn mawr.'

A thyna.

'Dorf, mewn twymn serchiadau,
Yn dyrchafu uwch y llawr.'


Dyna wreichionen y bregeth wedi myned yn fflam angerddol. Rhaid i ti bellach ymdaro trosot dy hun, gyfaill. Nis gallwn ddesgrifio ychwaneg. Y mae y pwyntil wedi syrthio. Y mae y dyrfa wedi myned i'r hwyl; yr ydym ninau wedi myned i'r hwyl hefyd. Pwy ddichon beidio? Bendigedig! Bendigedig byth!

"Ond wele, nid yn Llangan yr ydym ni yn y diwedd, ond yma, yn y fan hon; haner can' mlynedd yn rhy ddiweddar i weled y lle hwnw yn ei ogoniant; rhyw eilun anmherffaith o'r peth a welsom ni ar ein hynt! O! na chawsem weled y peth ei hunan. O ddiffyg hyny, fe allai fod y brasddarlun uchod mor debyg iddo a dim a elli daro wrtho am enyd o amser."

Ni chyfyngodd efe ei hun mewn un modd i'w eglwys, ac i'w blwyf; ystyriai hyny yn drefniad dynol, ond yn hytrach ufuddhaodd i'r gorchymyn dwyfol: "Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Pregethai mewn amser ac allan o amser, ac yn mhob math o leoedd. Weithiau mewn ysgubor, neu ar y ffordd fawr, neu mewn tŷ anedd, dan gysgod pren, neu ar lechwedd mynydd; mewn gair, yn mhob lle y cai gyfleusdra i bregethu Crist a'i groes. Dichon ei fod yn Eglwyswr anghyson a direol, ond yr oedd, er hyny, yn gristion hardd a diargyhoedd, ac yr oedd yn prisio cymeradwyaeth Duw yn fwy na gwenau pendefigion y tir; at gwell oedd ganddo ddychwelyd pechaduriaid o'u ffyrdd drygionus, na chyfyngu ei hun i unrhyw sect neu blaid grefyddol.

Yn y flwyddyn 1775, sef yn mhen saith. mlynedd ar ol ei fynediad i Langan, cododd Mr. Jones, mewn undeb â'r Methodistiaid, gapel Salem, Pencoed, mewn lle cyfleus ar y brif-ffordd sydd yn arwain of Benybont-ar-Ogwr i Lantrisant. Cymerwyd llawn ddau erw o dir at y pwrpas hwn, a dyogelwyd ef mewn gweithred i'r Cyfundeb. Cyfrifid capel Salem, y pryd hwnw, yn adeilad helaeth fel addoldy. Dangosai Mr. Jones fawr serch at y lle, ac arolygai ei hun y gwaith pan yn ei adeiladu. Codwyd tŷ anedd at wasanaeth yr achos wrth y naill ben i'r capel, a gwnaed mynwent at gladdu yr aelodau wrth y pen arall. Ac y mae yn hynodol, mai yr hen weinidog ffyddlawn, Dafydd Williams, of Lysyfronydd, a gladdwyd ynddi gyntaf; ac yn fuan wedi hyny y bu farw priod Mr. Jones, a dewisiodd yntau idd ei anwyl "Sina" gael ei chladdu yn ymyl yr hen bregethwr; a mynych y dywedodd mai yn y fynwent hon y dymunai i'w weddillion ei hun orphwys; ond nis cafodd hyn o fraint, gan iddo ail briodi, a diweddu ei ddydd yn Sir Benfro.

Ffaith hynod iawn ydoedd i David Jones, offeiriad eglwys Llangan, ddewis claddu ei hoff briod mewn tir annghysegr edig yn ymyl Salem, capel y Methodistiaid yn Mhencoed, yn hytrach nag yn mynwent gyfleus Llangan, y plwyf yr oedd efe yn ei wasanaethu. Dengys y weithred hon o'i eiddo ei fod yn bur eang ei syniadau am gysegredigrwydd daear; ac yn rhyfeddol ymlyngar wrth y Methodistiaid.

Nid oedd capel Salem ond tua thair milldir o bellder oddiwrth eglwys Llangan. Arferai Mr. Jones bregethu yn ei eglwys ei hun am haner awr wedi deg ar fore Sabbath, ac yn Salem am ddau o'r gloch. yn y prydnawn. Ni chynhaliwyd cyfarfodydd eglwysig erioed yn Llangan, ond yn Salem, Pencoed, y cynhelid hwy. Yr oedd yno seiat bob wythnos, a chyfarfod parotöad unwaith yn y mis, ar ddydd Sadwrn, am un o'r gloch, o flaen Sul y cymundeb yn Llangan. Byddai Mr. Jones yn bresenol bob amser, os byddai gartref, ac yr oedd ei wraig hawddgar a duwiol yn mynychu y cyfarfodydd hyn gyda chysondeb mawr.

Capel Salem oedd y cyntaf a adeiladwyd gan Mr. Jones, ond nid hwn oedd y diweddaf a adeiladwyd ganddo. Hwyrach iddo ef fod yn offerynol i adeiladu mwy o gapelau Methodistaidd yn ei ddydd na neb o'i gydoeswyr. Yr oedd yn ymddiriedolwr ar y nifer amlaf o gapelau y Deheudir a adeiladwyd yn ei amser ef, ac yr oedd yn dra ymdrechgar i'w diddyledu ar ol eu codi. Bu yn foddion i adeiladu rhai capelau yn y Gogledd hefyd, yn enwedigol capel cyntaf Dolgellau.

Dywedir nad llawer a alwyd trwy weinidogaeth Mr. Jones o blwyfolion Llangan. Bu ei lafur yn fwy bendithiol yn mhob man nag yn ei blwyf ei hun. Cafodd y ddiareb Ysgrythyrol ei gwirio yn ei hanes ef. Methodistiaid yr ardaloedd cylchynol oedd ei wrandawyr, gan mwyaf, rhai a sychedent am y Duw byw, ac a hiraethent am gynteddau yr Arglwydd.

Er holl lafur y Diwygwyr yn y sir cyn amser David Jones, nis gallasent hwy lwyr osod i lawr ofer arferion y werin bobl yn nghymydogaeth Llangan. Yr ydym yn cael fod gwylmabsantau yn y wlad mor ddiweddar a'i amser ef. Yn mhlith manau eraill, cynhelid un bob blwyddyn yn Llanbedr-ar-fynydd, lle oddeutu pum' milltir i'r gogledd o Langan. Hwn ydoedd prif "fabsant" y wlad. Yma yr ymgynullai canoedd o ieuenctyd Morganwg i yfed, meddwi, dawnsio, ymladd, a phob annuwioldeb. A dydd yr Arglwydd ydoedd prif ddiwrnod yr wyl felldigedig hon. Penderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech i osod terfyn ar y cynulliad pechadurus. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn ei herbyn yn Llangan, ond nid oedd hyny ynddo ei hun yn ddigon. Ar un Sabbath, aeth yno ei hun, a phregethodd Grist croeshoeliedig iddynt. Llwyddodd yn ei amcan, a bu yn myned i'r un lle i gynal math o gymanfa ar ddyddiau y mabsant am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Gwthiodd Duw y gelyn o flaen y pregethwr ar y cynyg cyntaf, a mynodd yntau ei lwyr ddifetha ef.

CAREG FEDD GWRAIG GYNTAF Y PARCH.
DAVID JONES, LLANGAN

Cawn iddo unwaith wrth ddychwelyd adref, wedi bod yn pregethu, daro wrth haid o oferwyr oeddynt wedi ymgynull er mwyn y difyrwch creulawn o ymladd ceiliogod. Trodd atynt, a chyfarchodd hwy yn garedig, gan ddweyd: "Y mae genyf fi newyddion da rhyfeddol i chwi, bobl fach, os byddwch mor fwyned a gwrandaw; cewch fyned yn y blaen a'ch gwaith wedi hyny, os byddwch yn dewis." Wedi eu gorchfygu gan diriondeb, dywedasant y cai wneyd fel y carai. Ar hyn, dechreuodd ddweyd wrthynt am fater eu heneidiau, am gariad y Gwaredwr, a disgynodd nerth Duw gyda'r siarad. Tarawyd yr ofer-ddynion â syndod, ac aethant i'w cartrefleoedd heb gyflawni yr hyn a fwriadent wneyd.

Gŵr boneddigaidd o ymddygiad, addfwyn o yspryd, a rhyfeddol dirion yn ei ymwneyd â dynion oedd efe, ac eto cafodd ei ran o erlidiau. Cawn ddarfod i rywun daro y Beibl o'i law pan yn pregethu mewn man yn Ngogledd Cymru. Yr unig sylw a wnaeth ar y weithred anfoneddigaidd ydoedd: "Och! druan, ti a darewaist dy farnwr!" Pan yn pregethu yn Machynlleth, ymgasglodd torf o elynion o'i gwmpas, gan gipio y Gair sanctaidd o'i ddwylaw, a'i anmharchu. Dywedasant wrtho na wnaent iddo niwed, os gwnai addaw peidio dyfod yno i bregethu byth mwyach. "O na,' ebai yntau, "nis gallaf wneyd hyny, nid oes yr un addewid yn perthyn i chwi nac i'ch tad." Dyoddefodd erledigaeth oddi ar law boneddwyr a phersoniaid y gymydogaeth yr oedd yn byw ynddi. Anfonwyd achwyniadau at yr esgob, ei fod yn pregethu heb lyfr, ei fod yn tynu pobl o blwyfau eraill i'w wrandaw yn Llangan a lleoedd eraill, a'i fod yn euog o bob math o afreolaeth. Darfu i'r esgob gau ei glustiau i'r cwynion hyn hyd y gallai, ond gorfodwyd ef o'r diwedd i'w alw i gyfrif. Cyfarchodd ef, gan ddweyd: "Y mae yn ddrwg genyf, Mr. Jones, fod achwyniadau yn eich erbyn; cyhuddir chwi o bregethu mewn lleoedd annghysegredig." "Naddo, erioed, fy arglwydd," meddai yntau; "pan y rhoddes Mab Mair ei droed ar y ddaear, darfu iddo gysegru pob modfedd o honi; oni buasai hyny, yr wyf yn ofni na wnai unrhyw gysegriad o eiddo eich arglwyddiaeth ddaioni yn y byd." Ar ol ychydig eiriau cariadus, ymadawsant, ac aeth Mr. Jones yn mlaen fel cynt. Dr. Barrington oedd yr esgob y pryd hwn, ac yr oedd efe yn gefnogol, neu o leiaf, nid oedd yn annghefnogol i arferion afreolaidd Person Llangan. Adnewyddwyd yr achwyniadau pan wnaed y Dr. Watson yn Esgob Llandaf. Penderfynodd yr esgob newydd ei orfodi i aros yn ei blwyf ei hun. Galwodd ef o'r neilldu ar ddydd ymweliad yn Mhontfaen, a dywedodd nad oedd iddo ryddid i fyned i blwyfau eraill, hyd y byddai pob enaid yn ei blwyf ei hun wedi ei achub. Atebodd Mr. Jones yn ostyngedig, ei fod yn teimlo ei hun dan rwymedigaeth i gydsynio â chymhellion y bobl oeddynt yn byw mewn plwyfau ag yr oedd offeiriaid yn esgeuluso eu dyledswydd. "Os felly," ebe yr esgob, "rhaid i mi gymeryd mesurau i'ch atal." "Gellwch wneyd hyny, fy arglwydd," atebai Mr. Jones, "ond nis gallaf fi newid fy mhenderfyniad." Yr esgob, yn synu wrth weled y fath wroldeb digyffro, yn gysylltiedig a'r fath ostyngeiddrwydd boneddigaidd, a ofynodd, a oedd ganddo deulu. "Oes, fy arglwydd," meddai yntau," "y mae genyf wraig a thri o blant." "Wel," ebe ei arglwyddiaeth, wedi ei orchfygu gan deimlad," Mr. Jones bach, nis gallaf mewn modd yn y byd feddwl am eich niweidio, ond y mae offeiriaid plwyfau P—— a Ffyn—— yn wrthwynebol iawn i chwi, gwnewch hyn ar fy nghais, peidiwch a myned i'w plwyfau hwy.' "Gwnaf yr hyn a geisiwch genyf," ebe yntau, a chadwodd ei air.

Gorchwyl hollol anmhosibl ydyw cofnodi llafur Mr. Jones am fwy na deugain mlynedd, sef o'i ddyfodiad i Langan hyd ei farwolaeth yn Manorowen. Nid oes ddefnyddiau ar gael at orchwyl o'r fath. Ond y mae yn dra amlwg iddo ef lanw ei fywyd â gwaith, ac i'r Arglwydd mewn modd neillduol goroni ei lafur â llwyddiant. Heblaw ei ymdrechion yn Nghymru, llafuriodd yn gyson drwy ei oes yn nglyn â chyfundeb yr Iarlles Huntington yn Lloegr, ac yr oedd ei weinidogaeth mor gymeradwy gan y Saeson, ag yr oedd gan ei genedl ei hun. Cafodd

"Llundain boblog, falch, derfysglyd,
Glywed llais ei bibell ef;
Cafodd wybod fod yn Nghymru
Ddyn oedd lawn o ddoniau'r Nef."


Nid gŵr o gyrhaeddiadau cyffredin a wnai y tro yr adeg hono i bregethu i gynulleidfaoedd cyfundeb yr Iarlles; yr oedd llawer o honynt yn hufen cymdeithas, yn bobl o ddysg a chwaeth. Casglwyd hwy yn nghyd drwy hyawdledd yr anghymarol Whitefield, ac yr oeddynt wedi cynefino â doniau uchaf y pwlpud. Ymwelai Mr. Jones yn aml â phrif eglwysi y prif drefydd, ac yn amlach fyth a'r brif-ddinas. Cynullai y Saeson wrth y miloedd i'w wrando, a dilynent ef o gapel i gapel tra fyddai o fewn eu cyrhaedd. Yr oedd yn meddu ar y fath helaethrwydd dawn, y fath barodrwydd ymadrodd, a'r fath wresogrwydd yspryd, fel y llwyr orchfygid pob math o bobl gan ei weinidogaeth. Yn ddiau, efe oedd un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn ei ddydd. Byddai yn ymweled yn aml â Bryste, a phan fyddai yno, yr oedd Dr. Rylands yn wastad yn gofalu am gael odfa neu ddwy ganddo, a bron yn ddieithriad byddent yn odfaeon tra llewyrchus. Arferai y Dr. parchedig ddweyd wrtho yn chwareus ar ddiwedd y gwasanaeth: Dyma chwi eto, Jones, o Langan, wedi lladrata calon fy mhobl i, ac wedi difetha fy ngwrandawyr am fis cyfan; ni cheir ganddynt wrando ar neb arall am amser maith ar ol hyn." Pregethai am wythnosau yn olynol yn Spa Fields Chapel, Llundain, un o gapelau mwyaf y brifddinas y pryd hwnw, ac yr oedd yn rhyfeddol o boblog. Gosodid ef i bregethu yn mysg y Saeson ar yr uchel—wyliau, ac ar amgylchiadau neillduol; a phob amser llanwai ddysgwyliadau y tyrfaoedd a dyrent i'w wrando. Efe oedd y gŵr a gafodd yr anrhydedd o bregethu pregeth angladdol yr Iarlles Huntington, ac y mae yn ymddangos mai efe oedd yr unig weinidog a weinyddai ar y bendefiges urddasol hono yn ei chystudd diweddaf. Yr ydym hefyd yn cael i Gymdeithas Genhadol Llundain, yn ei hail gyfarfod blynyddol, ei osod i bregethu ar ei rhan, yn un o gapelau mwyaf y brif-ddinas. Cymerodd hyn le, Mai 13eg, 1796, dau fis cyn i'r fintai gyntaf o genhadau hedd gael eu hanfon i Ynysoedd Môr y Dê. Ceir yn yr adroddiad o'r cyfarfod hwnw gyfeiriad fel yma at bregeth Mr. Jones: "Ar ddydd Gwener, gorphenwyd ein cyfarfodydd cyhoeddus, gyda phregeth ragorol gan y Parchedig Mr. Jones, o Langan. Y mae ei ddull a'i yspryd ef yn rhy adnabyddus i wneuthur unrhyw ganmoliaeth oddiwrthym ni yn angenrheidiol." Cyhoeddwyd y bregeth hon yn y gyfrol gyntaf o'r Missionary Sermons; ac y mae yn engrhaifft dda o'i ddullwedd ef. Darfu i Mr. T. Chapman, Fleet Street, Llundain, gyhoeddi y bregeth hon ar bregeth hon ar ei phen ei hun; chyhoeddodd Mr. E. Griffiths, Abertawe, gyfieithiad Cymreig o honi yn y flwyddyn 1797.[2]

Ond os oedd y Saeson yn awyddu am ei wrando, yr oedd yntau yn llawn mor barod i dalu ymweliadau â hwy, o herwydd yr oedd yn gofalu i'r ymweliadau hyny â chyfoethogion Lloegr fod o ryw fantais i Gymru dlawd. Byddai ganddo fynychaf achos rhyw gapel neu ysgoldy yn Nghymru, ag yr oedd eisiau ei adeiladu, neu eisiau talu am dano; a daeth â llawer swm da o arian y Saeson yn ol gydag ef. Yr oedd ei olwg foneddigaidd, ei ddull deniadol, a'i ddawn parod, yn meddu y fath ddylanwad ar ei wrandawyr, fel nas gallent atal eu rhoddion oddi wrtho. Adroddai yr hen bobl lawer o hanesion difyr am dano yn nglyn â chasglu arian. Rhoddwn yma esiampl neu ddwy. Dygwyddodd fod Cymro un tro ar ymweliad â Llundain, ac aeth i'w wrando yn pregethu yn un o'r capelau Saesnig. Wrth siarad ar y casgliad ar ddiwedd y gwasanaeth, gollyngai y pregethwr holl ffrwd ei hyawdledd ar draws y bobl, er mwyn eu cynhyrfu i roddi. Teimlai y Cymro y cwlwm rhyngddo a'i arian yn datod yn gyflym, ac yn y man, nis gallodd ymatal rhag gwaeddi allan yn iaith ei fam: "Mr. Jones anwyl, ymataliwch, da chwi! peidiwch a gwasgu yn dynach eto, onide bydd raid i mi roddi y cwbl a feddaf, heb adael ffyrling i'm cario adref." Dywedir iddo dro arall, yn yr un ddinas, ddefnyddio hanes Petr yn bwrw ei fâch i'r môr, ac yn cael o hyd i bysgodyn a darn o arian yn ei enau, yn dra effeithiol. Boreu dranoeth, curai gwas boneddiges wrth ddrws y llety, lle yr oedd yn aros, gan adael basged yno gyda'r cyfeiriad: "To the Rev. Mr. Jones, Wales." Erbyn ei hagor, wele bysgodyn ynddi a llythyr yn ei enau, yn cynwys archeb am ddeg punt. Yr oedd Mr. Jones yn gweled llaw yr Arglwydd yn yr amgylchiad hwn mor amlwg ag y gwelai Petr hyny yn ei amgylchiad ef.

Ond er ei ymweliadau mynych â threfydd Lloegr, Cymru er hyny ydoedd prif faes ei lafur. Yr oedd yr yspryd Cymreig yn berwi yn ei wythienau, a chysegrodd ei fywyd i wasanaeth ei genedl. Nid oes modd gosod trefn ar y teithiau am a meithion a gymerodd ar hyd a lled Cymru, mwy nag y gellid gwneyd y cyffelyb â theithiau Williams, o Bantycelyn. Braidd nad yw yr oll o'r hanes sydd genym am Mr. Jones, o Langan, yn gynwysedig mewn byr hanesion a geir am dano yn nglyn â hanes boreuol ein heglwysi; rhywbeth a wnaed iddo, neu ganddo; neu ynte, rhyw ymadrodd tarawiadol a ddyferodd oddiar ei wefusau. Hwyrach fod yr adgofion hyn yn gystal allwedd i'w gymeriad a dim a ellid ei gael.

Yr ydym eisioes wedi dangos y modd y darfu iddo orchfygu erledigaeth yr offeiriaid drwy ei ymddygiad gostyngedig a pharchus o flaen yr esgob; ac y mae genym engrheifftiau lawer mai dyna oedd ei ffordd arferol ef o gyfarfod anhawsderau o'r fath. [3]Cawn ei fod un tro yn pregethu yn Nolgellau, ac ar ganol yr odfa, daeth rhyw un o'r dref, gan yru berfa olwyn (wheel-barrow), yn ol ac yn mlaen trwy ganol y gynulleidfa, a pheri llawer o rwystr i'r gwasanaeth. Y tro nesaf y daeth Mr. Jones yno, yr oedd y gŵr hwnw wedi cael ei draddodi, oblegyd rhyw drosedd, i'r carchar, yr hwn oedd yn ymyl y lle y safai y pregethwr arno. Mewn canlyniad, yr oedd teulu y dyn wedi eu darostwng i iselder a thlodi. Mynegwyd hyn i Mr. Jones, yr hwn oedd yn wastad yn barod i wneuthur cymwynas i'r trallodedig. Eglurodd yntau yr achos i'r gynulleidfa, dadleuodd dros y teulu tlawd yn daer, gan ddeisyf ar rai o'r cyfeillion fyned â het o amgylch, i dderbyn ewyllys da y bobl tuag at ddiwallu eu hangen. Effeithiodd yr ymddygiad caredig hwn o eiddo Mr. Jones yn fawr i ddarostwng yr erledigaeth a ffynai yn y dref hono yn erbyn y Methodistiaid.

Cofnodir yn Methodistiaeth Cymru y modd y darfu iddo ragflaenu erledigaeth yn nhref Caernarfon. Yr oedd y Diwygwyr boreuaf wedi derbyn triniaeth arw yno, ac nid oedd sicrwydd y cai yr Efengylydd. o Langan wrandawiad. Modd bynag, meiddiodd ef ac ychydig gyfeillion fyned i'r heol, ac i gyfeiriad porth y castell. Esgynodd Mr. Jones i drol oedd gerllaw, ac ymgasglodd pobl ynghyd, rhai gyda'r bwriad o derfysgu, rhai o gywreinrwydd, a rhai, feallai, gydag amcanion gwell. Diosgodd y pregethwr ei gôb uchaf oddiam dano, a gwelai y bobl fwy o foneddigeiddrwydd ynddo nag oeddynt wedi ddysgwyl gael yn neb o'r pengryniaid. Yn awr, yr oedd y gown du, y napcyn gwyn, a'r lapedau ysgwar a ddisgynent ar ei fynwes, wedi dyfod i'r golwg. Yr oedd peth fel hyn yn ynu y bobl gweled gŵr eglwysig yn ei wisg glerigawl yn cyfarch dynion ar ymyl y ffordd fawr! Rhyw gynghorwr gwladaidd, mewn dillad cyffredin, heb na phryd na thegwch ynddo, oeddynt hwy wedi ddysgwyl; ond yn lle hyny, dyma foneddwr, o wisgiad ac o ymddygiad, ger eu bronau. Yr oedd yno un o leiaf a cherig yn ei logellau, er clwyfo ac anafu, os nad Iladd y llefarwr; ond llwfrhaodd pan welodd mai offeiriad urddasol oedd yno, a gollyngodd y cerig i lawr mewn cywilydd o un i un. Yr oedd yn ysgafn wlawio ar y pryd. Dechreuodd Mr. Jones gyfarch y dyrfa mewn ymadroddion serchog, a chyda thôn hollol hyderus, fel gŵr yn teimlo ei hun yn nghanol ei gyfeillion. Yn fuan gofynodd, a wnai rhyw foneddwr roddi benthyg gwlawlen iddo i gysgodi ei ben rhag y gawod? Ymddygiad lled eofn ydoedd hwn, gan ŵr a wyddai ei fod mewn perygl o dderbyn niwaid, ac nid cymwynas, gan y rhai oedd o'i flaen. Ond gwnaeth ef yr apêl yn ei ffordd serchog ei hun. Ar darawiad, dyma un Mr. Howard, cyfreithiwr o ddylanwad mawr yn y dref, yn ymadael i gyrchu gwlawlen iddo; a phan ddaeth yn ei ol, estynodd hi i'r pregethwr parchus. Derbyniodd yntau hi o'i law gydag ystum foesgar, a chyda'r wên fwyaf nefolaidd ar ei wynebpryd, a dechreuodd ar ei bregeth trwy ddywedyd ei fod yn teimlo mor gysurus dan y wlawlen a phe buasai yn St. Paul, yn Llundain. Cafodd berffaith lonyddwch i bregethu, yr hyn ni chafwyd yno cyn hyny. Fel yma y gwnai efe orchfygu drygioni â daioni; ac y pentyrai farwor tanllyd ar ben ei elyn.

Y mae yn ddiamheu ei fod yn bregethwr rhyfeddol o enillgar a phoblogaidd. Yr oedd ei draddodiad yn ddifai; yr oedd pob goslef ar ei lais, pob symudiad ar ei law, pob ystum ar ei gorph, yn hoelio llygaid pawb arno, fel yr oedd y gwrandawyr mwyaf difater yn rhwym o sylwi, a gwrando yr hyn a draethid. Yr oedd yn ardderchog o urddasol pan y byddai y deigryn gloew yn treiglo dros ei ruddiau hardd, ac yntau yn tywallt allan gynwys ei galon fawr gynes. Ni welid dim gwrthun un amser yn ei berson na'i ymddygiad, dim i dynu oddiwrth effaith yr ymadroddion grasol a ddisgynai dros ei wefus. Yr oedd yn ymadroddwr wrth natur. Byddai pob gair yn disgyn i'w le ei hun fel wrth reddf. Ei ymadroddion oeddynt ddetholedig, a'i chwaeth yn bur. Byddai pob math o bobl yn cael eu swyno gan neillduolrwydd ei ddawn, a melusder ei weinidogaeth. Gorchfygai y coeth a'r dysgedig, fel yr anwybodus a'r anwrteithiedig; ac yr oedd pawb fel eu gilydd yn teimlo nerth ei weinidogaeth. [4] Cawn fod dynion, fel Jack Jones, y cigydd, yn deall rhagor rhwng Mr. Jones, o Langan, a phregethwyr cyffredin. Dywedir i ni fod Mr. Jones yn pregethu yn Rhuthyn ar y geiriau: "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn," o flaen tyrfa derfysglyd. Darllenodd ei destun gyda llais cryf a gwyneb siriol, fel arfer. Yr oedd rhywbeth tarawiadol yn ei ymadroddion dechreuol. "Llefarodd hwn lygaid i'r deillion," meddai, "llefarodd hwn glustiau i fyddariaid, llefarodd draed i gloffion, llefarodd iechyd i gleifion, llefarodd gythreuliaid allan o ddynion, ïe, llefarodd fywyd i feirwon; gall wneyd yr un peth eto," &c. Jack Jones, y cigydd, ydoedd blaenor yr erlidwyr yn y cyfarfod, ond cafodd ei swyno gan rym y bregeth, fel y dywedodd: "Ni lefarodd dyn erioed fel tithau ychwaith, a myn dl, mi dfynaf chwareu têg i ti lefaru, a phwy bynag wnelo dim i ti, mi dalaf i'w groen o. [5]Cawn ddarfod i hen wreigan dduwiol yn Niwbwrch, yn Môn, ddangos awyddfryd am weinidogaeth Mr. Jones, Llangan, ag sydd bron yn annghredadwy. Yr oedd efe wedi bod yn pregethu mewn cymanfa yn y lle hwnw. Pan oedd ar ddychwelyd, aeth hen wraig, Annas wrth ei henw, i ofyn addewid ganddo i ddyfod yno drachefn. "Pa bryd, Mr. Jones bach, y deuwch chwi yma eto?" "Pan y deui di, Annas, i Langan, i ymofyn am danaf," oedd yr ateb, gan dybied, hwyrach, ei fod yn gosod telerau anmhosibl iddi. Ond cydiodd yr hen wraig yn yr addewid, a phenderfynodd fyned i Langan. oedd ganddi gant a haner o filldiroedd i'w cerdded, ac er nad oedd ganddi am ei thraed ond clocs, nac yn ei llogell ond a gardotai, nag at ei chynhaliaeth ond a roddid iddi ar y ffordd, eto, cyn hir, cychwynodd ar ei thaith. Dyddorol fuasai hanes y daith hon o eiddo Annas, a chael gwybod yn mha leoedd y lletyai ar y ffordd, pa anhawsderau a'i cyfarfyddodd, pa sarugrwydd a gafodd oddiwrth rai, a pha dosturi oddiwrth eraill; ond nid oes genym am y cwbl ond dychymyg. Ond cyrhaedd Llangan a wnaeth, er mawr syndod i Mr. Jones. Ryw ddiwrnod, wrth edrych drwy ffenestr ei dŷ, fe ganfu yr hen wreigan, a'i ffon yn un llaw, a'r cwd yn y llall, yn dyfod at y tŷ. Aeth i'w chyfarfod, gan ddweyd: "Och fi! Annas; a ddeuaist ti eisioes?" Y canlyniad a fu iddi gael ei llawn wobrwyo am ei llafur, canys cafodd addewid i gael tri o Efengylwyr penaf eu hoes i Sir Fôn, sef Jones, Llangan, Rowland, Llangeitho, at Llwyd, o Henllan. Bu y gwŷr hyn yn ffyddlon i'w haddewidion, a chafodd Môn cyn hir fedi ffrwyth oddi ar y maes a hauodd Annas dlawd.

Gellir nodi yn y fan hon y ffaith mai dan weinidogaeth Mr. Jones yr argyhoeddwyd i fywyd y seraph bregethwr, Robert Roberts, o Glynog. Dengys hyn mor orchfygol oedd ei weinidogaeth ar feddyliau a chalonau gwahanol. Cymerodd hyn le mewn odfa a gynhaliwyd yn Mryn yr odyn, yn agos i Gaernarfon. Ei destun oedd y geiriau: "Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol," &c. Hysbys yw i Mr. Roberts ddyfod ar ol hyn yn un o addurniadau penaf y pwlpud Cymreig; yn un ag oedd yn anhawdd cael neb a ymgymerai i gydbregethu ag ef mewn Cymdeithasfaoedd. Yn bur fuan wedi i Robert Roberts ddechreu pregethu, yr ydym yn cael ddarfod iddo gael ei enwi i gyd-bregethu â Mr. Jones mewn Cymdeithasfa a gynhaliwyd yn rhywle yn y Deheudir. Pregethodd Robert Roberts gyda grym anarferol, nes gorchfygu y gynulleidfa. Ar ei ol cyfododd Mr. Jones, a dygwyddodd fel y dygwydd yn fynych ar ol effeithiau grymus gyda'r bregeth gyntaf fod yr ail bregeth braidd yn drymaidd a dieffaith. Boreu dranoeth, cynhelid cyfarfod neillduol—cyfarfod y pregethwyr wrthynt eu hunain, y mae'n debyg. Mater y cyfarfod hwn oedd "Hunan.' Tra yr oedd amryw yn traethu ar y drwg, a'r perygl o fod egwyddor hunanol yn ein llywodraethu gyda gwaith yr Arglwydd, sylwid fod Mr. Jones yn aflonydd, fel dan ryw gynhyrfiadau mewnol, yn codi ac yn eistedd, ac weithiau yn cerdded yn ol ac yn mlaen hyd lawr y capel. O'r diwedd, gofynodd y llywydd: "Yn awr, Mr. Jones, dywedwch chwithau dipyn ar yr hunan yma." Atebai yntau yn gyffrous: "Na 'wedaf fi ddim 'nawr; ond ewch chwi 'mlân, frodyr anwyl! Ewch yn 'mlân, daliwch ati, ymosodwch arno, peidiwch a'i arbed, waith fe fu agos iddo'm lladd i neithiwr, wrth weled Robin bach o'r North' wedi myn'd gymaint tu hwnt i fi." Cofnodir yn Methodistiaeth Cymru hanes pur gyffelyb i'r un uchod am Mr. Jones, pan yn cydbregethu â Hugh Pritchard, clochydd Llanhir-yn-Rhôs, o Sir Faesyfed. Yr oedd y gŵr hwnw yn glochydd yn yr Eglwys Sefydledig, ac yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid. Dygwyddodd fod Hugh Pritchard y tro yma hefyd yn pregethu o flaen Mr. Jones mewn Cymdeithasfa yn y Deheudir, ac i'r cyntaf gael mwy o hwyl i bregethu na'r olaf. Craffodd Mr. Jones ar hyn, ac mewn llythyr at gyfaill cyfeiriai at y tro yn y dull ffraeth ag oedd mor briodol iddo: "A wyddoch chwi pwy ddarfu 'nhwy gyplysu yn y gymanfa a'r hen offeiriad penllwyd?—clochydd Llanhir, os gwelwch yn dda. Ac os dywedir y cyfan, y mae yn rhaid addef i'r clochydd guro y 'ffeirad o ddigon!"

Nid ydym yn cael i Mr. Jones lanw lle mor fawr yn nghynadleddau y Cyfundeb ag a allasem ddysgwyl. Gwnaeth wasanaeth i'r Cyfundeb nas gellir byth ei fynegu; ond yn y pwlpud y cyflawnodd efe y gwasanaeth hwnw, yn hytrach nag yn nghynadleddau y Cymdeithasfaoedd, a'r Cyfarfodydd Misol. Bu yn gadeirydd y Gymanfa lawer gwaith, yn enwedig gwedi marwolaeth Daniel Rowland; ond prin y gellir dweyd ei fod wedi profi ei hun yn arweinydd medrus mewn amseroedd o derfysg ac anghydfod. Mab tangnefedd oedd efe, ac yr oedd yn rhy dyner ei deimlad i fod yn arweinydd dyogel mewn amseroedd cyffrous ac enbyd. Eto, meddai ar lawer o gymhwysderau arweinydd. Yr oedd yn ŵr amyneddgar a phwyllog, o farn addfed, yn gyflawn o synwyr cyffredin, ac yn garedig tuag at bawb; ond yr oedd hytrach yn ddiffygiol mewn gwroldeb. Pe buasai yn fwy uchelgeisiol nag ydoedd, ac o feddwl mwy penderfynol, gallasai yn hawdd ddyfod yn brif arweinydd y Cyfundeb ar ol marwolaeth Daniel Rowland, a W. Williams, Pantycelyn; o herwydd prin y mae lle i amheuaeth mai efe ar y pryd oedd y mwyaf ei barch a'i boblogrwydd. Ond yr oedd yn rhy lwfr ei yspryd, ac yn rhy dyner ei deimlad i arwain. Nid ymddengys iddo gymeryd rhan gyhoeddus yn y ddadl yn nglyn â golygiadau athrawiaethol Peter Williams; a dangosodd gryn wendid yn adeg diarddeliad Nathaniel Rowland, a hefyd yn y ddadl ar ordeiniad gweinidogion yn niwedd ei oes. Yn sicr, nid gŵr o ryfel oedd efe, ond mab tangnefedd yn hytrach.

Pregethwr yn ddiau ydoedd Mr. Jones, o Langan, a braidd na ddywedem mai pregethwr yn unig ydoedd, gan mor fawr oedd ei ddoniau gweinidogaethol. Yr oedd ei allu i bregethu Crist yn cysgodi pob dawn arall a feddai, ac yn cuddio pob gwendid a diffyg a berthynai iddo. Os mai prin y cymerodd efe y rhan ddyladwy yn nadleuon y Methodistiaid yn ei ddydd, gwnaeth anrhaethol fwy o wasanaeth i grefydd ein gwlad, yn y rhan flaenllaw a gymerodd yn y diwygiadau mawrion a ymwelasant â Chymru. Cawn i gynifer a phump o ddiwygiadau grymus gymeryd lle yn ystod ei fywyd cyhoeddus ef. Torodd y cyntaf allan yn 1773, tua phum' mlynedd wedi i Mr. Jones ymsefydlu yn Llangan, a'r olaf o honynt yn 1805, bum' mlynedd cyn ei farw. Pwy all fesur y gwasanaeth a gyflawnodd efe yn nglyn a'r diwygiadau hyn? Gwell oedd gan yr Efengylydd o Langan bregethu Crist i bobl wresog yn yr yspryd ar adeg o ddiwygiad, na chyndyn ddadleu yn ngylch athrawiaethau crefydd. Hyfryd y desgrifiad a rydd Thomas Williams, Bethesda-y-Fro, o hono, onide?:

"Iachawdwriaeth i bechadur,
Trwy rinweddau angau'r groes,
Oedd o hyd ei destun hyfryd,
Cy'd y parodd hyd ei oes;
Fe ymdrechodd, fe ymdreuliodd,
Fe lafuriodd tra fu byw,
Nes cyflawni'r weinidogaeth
A ro'w'd iddo gan ei Dduw.

Un o'r manau, byth mi gofia',
Gwelais i ef gynta' gyd,
Yn cyhoeddi gair y cymod
I golledig anwir fyd;
Iesu'n marw, Iesu'n eiriol,
Diwedd byd a boreu'r farn,
Oedd ei araeth o flaen canoedd
Wrth hen gapel Talygarn.

Dyddiau hyfryd oedd y rhei'ny,
Pan oedd Rowland uchel ddysg,
Peter ffyddlon, William Williams,
Llwyd a Morris yn eu mysg;
Jones fel angel yn Llangana
Yn udganu'r udgorn mawr,
Nes bai'r dorf mewn twymn serchiadau
Yn dyrchafu uwch y llawr.

Minau yno'n un o'r werin
(Er mai'r annheilynga'i gyd),
Tan y bwrdd yn bwyta'r briwsion,
(O mor hyfryd oedd fy myd!)
Torf yn bwyta'r bwydydd brasa',
Gwin a manna, nefol faeth,
Wrth y fron ro'wn inau'n chwerthin,
Tra'n ymborthi ar y llaeth.

Beth sy' fater, nid oes ronyn,
Ond i ni gael blasus fwyd,
Beth fo gwisg y gŵr a'i rhano,
Brethyn glas, neu brethyn llwyd;
Neu ynte frethyn du, a'i guddio
Drosto gyda llian gwyn;
Byddwn gallach o hyn allan,
 :Nag ymryson yn nghylch hyn.

Ni gymunwn yn yr eglwys,
Lle sancteiddia' sydd yn bod,
Neu mewn teiau na thywalltwyd
Olew sanctaidd yno erioed;
Ac na ddigied meibion Levi,
Plant yr offeiriadaeth wèn,
I ni dderbyn gan rai na fu
Llaw un esgob ar eu pen."


Gresyn na chawsem farwnad i Mr. Jones, o Langan, gan y prif Farwnadwr. Ond yr oedd hyny yn anmhosibl, gan i Williams ei ragflaenu i'r byd tragywyddol o gylch ugain mlynedd. Er hyny, y mae gan y Bardd o Bantycelyn gyfeiriad neu ddau ato yn y marwnadau a ysgrifenodd efe i bobl eraill, sydd yn werth eu coffhau. Yn ei farwnad i Mrs. Grace Price, o'r Watford, dywed:

"Yn Llangan, o dan y pwlpud,
'R oedd ei hyspryd, 'r oedd ei thre',
Tra f'ai Dafydd yno'n chwareu
'N beraidd ar delynau'r ne';
Iesu'r Text, a Iesu'r Bregeth,
Iesu'r Ddeddf, a Iesu'r Ffydd,
Meddai Jones, a hithau'n ateb—
Felly mae, a Felly bydd!"


Yn gyffelyb y mae yn ei farwnad i Daniel Rowland, yn cyfarch ei fab, Nathaniel, fel yma:—

"Bydd yn dad i'r Assosiasiwn,
Ac os teimli'th fod yn wan,
Ti gai help gwir efengylwr,
Dafydd onest o Langan;
Dodd y cerig a'i ireidd-dra,
A thrwy rym ei 'fengyl fwyn,
Wna i'r derw mwyaf caled
Blygu'n ystwyth fel y brwyn."


Y mae pob cyfeiriad ato, a wneir gan ysgrifenwyr yr amseroedd hyny, yn gwbl gydfynedol. Wrth son am dano, dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nhrych yr Amseroedd, eiriau fel yma: "Byddai yn hyfryd chwareu tanau telyn auraidd yr efengyl, nes y byddai llawer credadyn llwfr yn barod i lamu o lawenydd." Ac y mae tystiolaeth y galluog Christmas Evans fel hyn: "Bu gwrando Dafydd Morris, Jones, o Langan, Davies, o Gastellnedd, a Peter Williams, o ddefnydd mawr i mi tuag at fy nwyn i ddeall gras Duw trwy gyfryngdod, heb ddim haeddiant dynol." Ceir crybwylliad parchus iawn o hono yn Nghofiant John Jones, Talysarn, gan y diweddar Dr. Owen Thomas. Dywed: "Fel pregethwr, y mae yn ddiamheuol ei fod yn un hynod iawn. Cyfrifid ef y mwyaf toddedig o'r holl hen dadau. Nid oedd neb yn gyffelyb iddo yn hyny, ond Mr. Evan Richardson, o Gaernarfon. Efengylwr yn arbenig ydoedd. Nid oedd dim o'r gwynt nerthol yn rhuthro' yn ei weinidogaeth ef; ond y deheuwynt' tyner 'yn chwythu ar yr ardd,' ac yn peri iddi 'wasgar ei pheraroglau.' Yr ydym yn cofio clywed ein hanwyl hen fam yn dywedyd am dano, ei fod yr un fath yn gwbl a'r adnod hono: Fy athrawiaeth a ddefnyna fel gwlaw; fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.' ydym yn cofio clywed y diweddar Mr. Michael Roberts, o Bwllheli, yn dywedyd wrthym am y tro cyntaf iddo ef, pan yn fachgen pedair-ar-ddeg oed, fyned i Gymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1794, fod Mr. Jones yn pregethu yno gyda'r fath hwyl ac effeithiau, nes oedd yr holl gynulleidfa yn foddfa o ddagrau; a lliaws, yn methu ymatal, wedi tori i orfoledd mawr.

'Yr oeddwn yn edrych arno,' meddai, 'fel pe buasai yn angel Duw. Yr oedd yn ymadael ar ol odfa y boreu, ac yr oeddwn i wedi myned at dŷ Mr. Charles i'w weled yn myned ymaith; ac yr wyf yn cofio yn dda fod Mr. Charles yn dyfod allan o'r tŷ gydag ef; a phan yn ysgwyd llaw wrth ffarwelio, a'r dagrau yn treiglo dros ei ruddiau, yn dywedyd wrtho: Brysiwch yma eto, da chwi, Mr. Jones bach, gael i ni gael ein bedyddio a'ch gweinidogaeth.'"

Treuliodd Mr. Jones yr un-mlynedd-ar-bymtheg diweddaf o'i fywyd yn Manorowen, lle o fewn dwy filltir i Abergwaun, yn Sir Benfro. Achlysurwyd y symudiad hwn gan briodas a gymerodd le rhyngddo ef a Mrs. Parry, gweddw gyfrifol a pharchus a drigianai yno. Yr oedd y foneddiges hon yn chwaer i Mr. Gwynne, o Kilkifeth, gŵr cyfoethog, yn hânu o deulu cyfrifol yn yr ardal, yr hwn oedd yn berchenog amryw o ffermydd, ac yn trin y tir lle yr oedd yn byw arno. Ystyrid fod ei chwaer, Mrs. Parry, hefyd, mewn amgylchiadau tra chysurus. Teulu caredig a chymwynasgar i'r Methodistiaid a fu teulu Kilkifeth drwy y blynyddoedd, at buont yn dal côr yn nghapel Abergwaun am flynyddau lawer. Wedi marwolaeth ei gwr, yr oedd Mrs. Parry yn cyfaneddu yn mhalasdy Manorowen, ac yn amser ei hunigrwydd, yr oedd Miss Gwynne, merch

ei brawd, yn byw gyda hi. Y foneddiges ieuanc hon a ddaeth mewn amser ar ol hyn yn wraig i'r Parch. Thomas Richards, Abergwaun. Mae pob lle i gredu i briodas Mr. Jones â Mrs. Parry, o Manorowen, fod yn fanteisiol iawn iddo yn niwedd ei ddydd, ac yn ychwanegiad mawr at ei gysuron. [6]Adrodda Mr. Morgan, Syston, hanesyn difyr iawn am dano a ddygwyddodd yn fuan wedi ei ail briodas. Pan yr oedd ar gychwyn ar daith bregethwrol, cafodd Mr. Jones fod ceffyl golygus iawn yn ei aros. Aeth ar gefn yr anifail, ac wedi marchogaeth am beth amser, trodd i edrych o'i gwmpas, a gwelodd fod gwas mewn dillad smart iawn yn marchogaeth y tu ol iddo, yn ol arfer boneddigion. Dychwelodd yn union, gan orchymyn i'r gwas i aros. Pan gyrhaeddodd y tŷ, disgynodd, a gofynodd i Mrs. Jones: "Mary, paham y darfu i chwi ddanfon y bachgen acw i fy nganlyn i?" Yr ateb a gafodd oedd: "Am ei fod yn edrych yn respectable, Mr. Jones." "O!" ebe yntau, " y mae yn well i chwi adael hyny i mi. Yr wyf wedi teithio miloedd o filltiroedd ar wasanaeth fy Nhad Nefol, heb fod neb yn fy nghanlyn." " Yna, gofynodd iddi gyda gwên serchog: "Beth a ddywed fy nghyfeillion am beth fel hyn? Hwy gredant yn sicr ddigon fod yr hen Jones, o Langan, wedi myned yn falch. Na, gwell peidio bod yn rhodresgar. Mi ddanfonaf y bachgen yn ol i weithio ar y ffarm." Ac felly y bu. Parhaodd i ddal bywioliaeth Llangan hyd ddiwedd ei oes, er ei fod yn cartrefu yn Manorowen. Arferai dreulio tua thri mis yn yr haf yn Llangan, a phresenoli ei hun yn yr eglwys ar Sul y cymundeb, bob mis o'r flwyddyn, nes y daeth henaint a llesgedd i wasgu yn rhy drwm arno. Ac yr oedd Llangan yn agos at ei galon hyd y diwedd. Ysgrifena ar y 19eg o Ebrill, 1808, o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth: "O'r diwedd, yr wyf wedi cyrhaedd y sir hon, yn yr hon y mae fy mhrif hyfrydwch. O Langan! Bendigedig yr Arglwydd! Cafodd fy enaid yn aml wledda o'th fewn di! Mae fy nghyfeillion yn parhau yn eu caredigrwydd arferol tuag ataf, ac yr wyf yn berffaith ddedwydd yn eu cymdeithas hwy. Bellach, yr wyf yma er ys pump wythnos, ar ol gauaf cystuddiol iawn, yn Manorowen."

Bendith fawr i Benfro fu symudiad Mr. Jones yno. Yr oedd Nathaniel Rowland erbyn hyn wedi cymeryd gofal yr eglwysi a blanwyd gan Howell Davies; ac yr oedd yn eu llywodraethu â gwialen haiarn. Ni wnai efe bregethu yn nghapel Abergwaun; yn y llan y pregethai yn wastad; a gweinyddai y sacramentau mewn tŷ anedd. Gorphwysai gwneyd felly yn fwy esmwyth ar ei gydwybod ef na gweinyddu y cymun sanctaidd yn y capel. Pan y ceisiwyd ganddo bregethu yn y capel, yn hytrach nag yn y llan, dywedodd yn bendant na wnai hyny byth, a chadwodd ei air. Ond yn mhen amser, dygodd Mr. Jones gyfnewidiad o amgylch. Cafodd ganiatad mewn Cymdeithasfa yn Llangeitho, yn y flwyddyn 1802, i weini yr ordinhadau yn nghapel Abergwaun, fel y gwnelid mewn capelau eraill yn flaenorol. Bu yn offerynol i estyn yr un fraint i eglwys Caerfyrddin, dan amgylchiadau pur neillduol a chyffrous. Darfu i Mr. David Charles, mewn Cymdeithasfa yn nhref Caerfyrddin, anturio gofyn am y fraint o gael gweinyddiad o Swper yr Arglwydd yn yr eglwys hono.

"Mae yr eglwys yn y lle hwn," ebe fe, "wedi gosod arnaf i ofyn drostynt, a gânt hwy y fraint o wneyd coffa am farwolaeth eu Prynwr?" I hyn yr atebodd Nathaniel Rowland yn dra awdurdodol: "Na chewch!—mae capel Llanlluan yn ddigon agos." Yr oedd tua deng milldir o ffordd i hwnw. Ond ni chymerodd David Charles yr ateb byr a thrahaus hwn fel un terfynol. "Unwaith eto," ebe fe, "yr wyf yn gofyn a gawn ni y fraint hon?" Yr ydym yn cael pregethu Crist, yn cael ei broffesu, yn cael credu ynddo—a gawn ni gofio iddo farw drosom?" "Na chewch, yn y lle hwn," atebai Nathaniel Rowland, yr ail waith. "Nid i chwi yr archwyd i mi ofyn," ebe David Charles, "ond i'r Gymanfa." Ar hyn, methodd Jones, o Langan, ag ymatal, a gwaeddodd allan: "Cewch!" Yna, cyfarchodd Mr. Charles mewn ymadroddion cyfeillgar ac agos: "Pa bryd wyt ti am gael hyny, Deio bach? Mi ddof fi i'ch helpio chwi i gofio am dano." Ac felly y bu.

Nid oes lle i amheu fod Mr. Jones yn rhyfeddol o ymlyngar wrth y Methodistiaid hyd derfyn ei ddydd. Parhaodd yn offeiriad yn yr Eglwys hyd y diwedd, mae yn wir, ond yr oedd yn fwy o Fethodist nag ydoedd o Eglwyswr, a'i farnu yn deg wrth y bywyd a dreuliodd. Pan symudodd i Manorowen, daeth o fewn cylch dylanwad clerigwyr, ag oeddynt yn llawer mwy ymlyngar wrth yr Eglwys nag ydoedd efe ei

hun. Yr oedd David Griffiths, Nevern, a Nathaniel Rowland, yn llawer mwy cul nag efe. Tra yr oeddynt hwy yn ceisio gosod y Methodistiaid dan lawer o anghyfleusderau, yr oedd yntau wedi gweithredu yn wahanol dros ystod ei fywyd maith. Ond pobl o benderfyniad anhyblyg, ac o ewyllys gref, oedd offeiriaid Methodistaidd Sir Benfro, ac y mae yn ddigon posibl iddynt ddylanwadu yn niweidiol ar feddwl Mr. Jones. Nid ydym yn golygu yn y fan hon, i ddwyn i sylw y rhan a gymerodd efe yn nglyn ag ordeiniad gweinidogion; cawn gyfeirio at hyny eto.

Nis gellir dweyd fod Mr. Jones wedi cyfoethogi llawer ar lenyddiaeth ei wlad. Nid ystyriai efe ei hun yn llenor, ond yn yr ystyr ag y mae pob gweinidog ag sydd yn cyfansoddi ei bregethau ei hun felly. [7]Cyhoeddwyd ganddo, yn y flwyddyn 1784, gofiant i Mr. Christopher Basset, dan y teit: "Llythyr oddiwrth Dafydd ab Ioan, y Pererin, at Ioan ab Gwilym, y Prydydd, yn rhoddi byr hanes o fywyd a marwolaeth y Parchedig Mr. Christopher Basset, Athraw yn y Celfyddydau, o Aberddawen, Sir Forganwg. Argraffwyd yn Nhrefecca." Nid oes le i amheuaeth mai Jones, o Langan, oedd Dafydd ab Joan, y Pererin, ac mai Mr. John Williams, St. Athan, awdwr yr emyn adnabyddus:

'Pwy welaf o Edom yn dod," &c.

,

ydoedd Ioan ab Gwilym, y Prydydd. Cyhoeddwyd ei bregeth angladdol i'r Iarlles Huntington yn y flwyddyn 1791, a'r bregeth a draddododd yn Spa Fields Chapel ar ran y Gymdeithas Genhadol yn 1797. Y mae amryw dalfyriadau o'i bregethau wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolion mewn amseroedd diweddarach.

Yr ydym, bellach, yn dyfod at derfyn bywyd y gweinidog ffyddlawn hwn. Gallai arfer geiriau yr apostol: "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy nghyrfa, mi a gedwais y ffydd." Yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, yr oedd ei iechyd wedi dirywio yn fawr, y babell bridd yn ymollwng, ond ai o gylch i bregethu cyhyd ag y medrai. Ymwelodd â Llundain o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth. Yn ystod ei afiechyd olaf, carai dreulio ychydig wythnosau yn ardaloedd Llangan, ei hen gartref. Y mae yn ysgrifenu oddi yno dri mis cyn ei farw: "Yr wyf yn gobeithio aros yma hyd y Sulgwyn; ac os oes rhywbeth ag y gallaf wneyd erddoch, mi a'i gwnaf, hyd eithaf fy ngallu. Y mae genyf lawer o bethau ag y carwn eu dweyd wrthych, pe bai genyf amser i ysgrifenu, ond yr wyf o hyd yn brysio o fan i fan. Yr wyf yn awyddus am eich gweled, ond, fy anwyl gyfaill, chwi ryfeddech fel yr wyf wedi cael fy nhori i lawr. Bu y gauaf diweddaf yn brofedigaethus iawn i mi. Cefais fy mlino gan y gout, nes fy nwyn i ymyl y bedd. Cefais ymosodiadau enbyd o'r anhwylder yn fy ngylla, ond dyma fi yn golofn o drugaredd yr Hollalluog, ac yn cael codi fy mhen i fynu eto! Y fath ddyledwr wyf i ras y nefoedd. Yr wyf yn awr yn ceisio gwasgu fy nghrefydd i un pwynt yn unig—Crist yn oll. Felly, yr wyf yn myned yn mlaen i orphen fy nhaith ar y ddaear, yr hon sydd yn fyr ac yn ddrwg. Crediniaeth yn yr Iesu ydyw mêr ffydd. Nis gallwn byth ymddiried gormod ynddo ef. Gall achub hyd yr eithaf. Anwyl Iesu! gwna ni yn eiddo i ti byth!" Pregethodd Jones yn Llangan y Sulgwyn hwnw, a gweinyddodd y cymun am y tro diweddaf.

O Langan y cychwynodd efe ar ei daith ddiweddaf. Ymadawodd a'r lle, fel y bwriadai, ddydd Mawrth ar ol y Sulgwyn, ac aeth ar hyd linell union tua Llangeitho, lle yr oedd Cymdeithasfa i gael ei chynal, taith o tua deg-a-thriugain o filltiroedd, gan bregethu ar y ffordd, fel yr arferai wneyd. Cyrhaeddodd Langeitho yn nechreu mis Awst. Pregethodd yn y Gymdeithasfa yn ogoneddus o flaen y miloedd oddiar y geiriau: Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a'm gwaed i sydd ddiod yn wir." Pan oedd y cynulliad drosodd, cychwynodd Mr. Jones, a'i was oedd yn gofalu am dano, tua Manorowen, ond torodd y siwrnai ar y ffordd, a phregethodd eilwaith yn y Capel Newydd, Sir Benfro, ar y geiriau: "Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wyned a'r eira, pe cochent fel porphor, byddant fel gwlan." Hon oedd ei bregeth olaf. Cyrhaeddodd ei gartref, yn lluddedig, dydd Gwener, y 10fed o Awst. Teimlai fod ei ymadawiad bellach gerllaw. Ymwelwyd ag ef dydd Sadwrn gan y Parch. Thomas Harris, o Wotton-under-Edge, gynt o Benfro. Yn ystod yr ymddiddan ag ef, tynodd allan ei logell-lyfr, a darllenodd Esay xlv. 24: "Diau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth." Yr oedd wedi ysgrifenu yr adnod felus hon ar ei lyfr y dydd Iau blaenorol. "Hon sydd genyf, anwyl Harris," ebe fe, "ac y mae yn ddigon i fy nerthu i wynebu y byd arall wrth fy modd." Yn y prydnawn, dywedwyd wrtho fod y cyfeillion wedi ei gyhoeddi i bregethu yn Woodstock y dydd canlynol. "Y maent yn ëofn iawn arnaf," meddai yntau, "ond nid yn fwy felly na'r groesaw; os byddaf yma, amcanaf fyned tuag yno." Nos Sadwrn, dywedai wrth un o'r morwynion: "Lettice fach, mae yma loned y tŷ o weision lifrau y nef wedi dyfod i gyrchu fy enaid tuag adref. Os tarewi wrth rai o'u hesgyll, paid a chymeryd ofn, da merch i.' Cyn toriad y wawr, boreu Sabbath, y 12fed o Awst, 1810, yn bymtheg-a-thriugain mlwydd oed, hunodd yn yr Iesu, a chladdwyd ef yn mynwent Manorowen. Ac ysywaeth, canlynwyd ef yn mywioliaeth Llangan gan ŵr o yspryd hollol wahanol, heb ddim cydymdeimlad â Methodistiaeth; a rhoddodd hyn ben ar unwaith ar y cyrchu i'r eglwys. Meddai Thomas Williams eto:

"'Nawr mae eglwys fach Llangana
Wedi newid oll yn lân,
Porfa las yn awr sy'n tyfu
Ar y ffordd oedd goch o'r blaen;
Muriau'r llan oedd oll yn echo,
Yn ateb bloedd y werin fawr,
'D oes na llef, na llais, nac adsain,
Idd ei glywed yno'n awr."






HANES Y DARLUNIAU.

Mae hanes darlun David Jones, o Langan, yn ddigon syml. Copi o'r darlun cyntaf a ymddangosodd o hono ef yw yr un sydd yn addurno y gwaith hwn. Y mae y darlun ei hun yn mynegu ei hanes. Paentiwyd ef gan Mr. R. Bowyer, Miniature Painter i'r Brenhin Sior y III. oedd Mr. Bowyer yn gristion hardd, yn gystal ag yn gelfyddgar yn ei alwedigaeth, ac yr oedd ar delerau cyfeillgar iawn â Mr. Jones. Darlun wedi ei fwriadu i'w fframio ydoedd hwn, ond nid oedd nemawr yn fwy o faintioli na'r copi a geir yn nhechreu y benod hon. Gwelir fod arfbais (Coat of Arms) Mr. Jones, wedi ei gosod o dan y darlun, sef oen yn cario croes, ac yn sathru'r sarph dan ei draed, a'r gair GORPHENWYD oddi tanodd. Uwch ben, y mae darlun o golomen Noah, a'r ddeilen olewydden yn ei chilfyn. Cyhoeddwyd y darlun hwn yn y flwyddyn 1790, pan yr oedd efe yn 55 mlwydd oed.

Yn mhen wyth mlynedd wedi cyhoeddiad y darlun uchod, ymddangosodd un o Mr. Jones yn y Gospel Magazine. Y mae yn sicr mai yr un darlun yn hollol ydyw hwn a'r un blaenorol. Yr unig wahaniaeth rhyngddynt ydyw, fod y Coat of Arms wedi ei gadael allan yn y Gospel Magazine. Ymddangosodd darlun eto o hono yn yr Evangelical Magazine, am Chwefror, 1807, tua phedair blynedd cyn marwolaeth Mr. Jones. Nid yr un darlun ydyw hwn. Gwnaed y ddau gyntaf oddi ar ddarlun Mr. Bowyer, a cherfiwyd ef ar ddur gan Mr. Fittler; ond cerfiwyd yr olaf hwn gan Meistri Ridley & Blood. Gadawyd allan y Coat of Arms yn y darlun hwn hefyd. Mae tebygolrwydd mawr rhwng y darluniau hyn, ac y mae yn amlwg mai darlun Mr. Bowyer ydoedd cynllun pob un o honynt. Y mae pob lle i gredu fod darluniau Mr. Jones, o Langan, yn bortead cywir o hono ef. Nid yw y darluniau eraill yn y benod hon yn galw am unrhyw eglurhad.

Nodiadau

[golygu]
  1. Traethodydd, 1850.
  2. Llyfryddiaeth y Cymry, 703.
  3. Methodistiaeth Cymru, cyf. i. 5—11.
  4. Methodistiaeth Cymru, cyf. iii., tudal. 167.
  5. Methodistiaeth Cymru, cyf ii., tudal. 508.
  6. Ministerial Records, iii. 154.
  7. Llyfryddiaeth y Cymry, tudal. 618.