Neidio i'r cynnwys

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/William Davies, Castellnedd; Dafydd Morris, Twrgwyn; William Llwyd, o Gayo

Oddi ar Wicidestun
David Jones, Llangan Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
Attodiad–Y Tadau Methodistaidd a'u Cyhuddwyr

PENOD XX
WILLIAM DAVIES, CASTELLNEDD; DAFYDD MORRIS, TWRGWYN; A WILLIAM LLWYD, O GAYO.

William Davies yn hanu o Sir Gaerfyrddin—Ei ddyfodiad i Gastellnedd—Ei boblogrwyddYn colli ei guwradiaeth—Adnewyddu capel y Gyfylchi iddo—Barn Howell Harris am dano —Odfa ryfedd yn Llangeitho—Y tair chwaer—Ei farwolaeth—Boreu oes Dafydd MorrisDechreu pregethu yn ieuanc—Meddwl uchel Rowland am dano—Swyn ei lais—Yn symud i Dwrgwyn—Yn teithio Cymru—Pregeth y golled fawr—Ceryddu blaenor sarug—Amddiffyn Llewelyn John—Dafydd Morris fel emynydd—Marwolaeth ei wraig—Ei farwolaeth yntau —Haniad William Llwyd, o Gayo—Ei argyhoeddiad—Ei ymuniad a'r Methodistiaid—Yn dechreu pregethu—Hynodrwydd William Llwyd—Nodwedd ei weinidogaeth—Ei farwolaeth.

NIS gallwn lai na datgan ein gofid of herwydd fod amryw o brif bregethwyr y cyfnod Methodistaidd. cyntaf, dynion o ddoniau dysglaer, a phoblogrwydd mawr, nad oes ond y nesaf peth i ddim o'u hanes yn wybyddus. Llafuriasant yn galed, dyoddefasant erlidiau, a diau fod eu gweithredoedd wedi eu cofnodi yn ofalus ar lyfrau y nefoedd, ond ychydig o'r pethau a ddygwyddodd iddynt. sydd wedi eu croniclo ar lyfrau y ddaear. Yn mysg y rhai hyn, ac yn mhlith y penaf o honynt, rhaid gosod William Davies, Castellnedd. Yn ol y farwnad a gyfansoddwyd iddo gan Williams, Pantycelyn, cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1727; felly, nid oedd ond rhyw ddeng mlwydd yn ieuangach na'r Emynydd enwog, tair-ar-ddeg yn ieuangach na Howell Harris, a phedair-ar-ddeg yn ieuangach na Daniel Rowland. Gan hyny, perthynai i'r rheng flaenaf o'r ail do o bregethwyr. Ymddengys mai brodor o Sir Gaerfyrddin ydoedd. Yr oedd ei rieni yn amaethwyr parchus, ac yn byw mewn tŷ o'r enw Stangrach, lle sydd o fewn haner milltir i gapel y Methodistiaid yn Llanfynydd. Cynhaliai y Methodistiaid gyfarfodydd crefyddol yn y Stangrach, felly nid annhebyg fod rhieni William Davies yn perthyn i'r Cyfundeb. Gallwn gasglu eu bod mewn amgylchiadau cysurus, gan iddynt ddwyn. eu mab i fynu yn offeiriad. Buasai yn dda genym wybod rhywbeth am helyntion boreu oes William Davies, ac yn enwedig pa bryd y deffrowyd ef i ystyriaeth o'i gyflwr, a than ba ddylanwadau y cafodd ei ddychwelyd; ond y mae yr oll o'r pethau hyn wedi eu cuddio yn anobeithiol oddiwrthym, ac nid ydym yn gydnabyddus â dim o hanes ei fywyd, nes yr ydym yn ei gael yn gristion gloyw, yn bregethwr aiddgar a phoblogaidd, ac yn Fethodist zêlog, yn Castellnedd, yn gwasanaethu fel cuwrad i Mr. Pinkney, tua'r flwyddyn 1757. Ein hawdurdod dros hyn eto ydyw Williams, yr hwn, uwchben y farwnad, a gofnoda am dano iddo farw "yn y flwyddyn 1787, yn y driugeinfed flwyddyn o'i oedran, wedi treulio dros ddeg-ar-hugain o flynyddoedd i bregethu efengyl Crist yn mysg y Methodistiaid." Ar yr un pryd, gweddus nodi fod cryn amheuaeth am gywirdeb hyn. Yr ydym wedi chwilio llyfrau cofrestru eglwysydd Castellnedd a Llanilltyd yn fanwl; a'r nodiad cyntaf a geir ynddynt wedi ei arwyddo gan William Davies yw Rhagfyr 24, 1762; ac y mae yn hollol annhebyg iddo wasanaethu yno am bum' mlynedd cyn gweinyddu mewn bedydd na phriodas, yn arbenig gan nad oedd Mr. Pinkney yn byw yn un o'i blwyfydd. Ond gallasai William Davies fod wedi gwasanaethu fel cuwrad mewn rhyw le, neu leoedd, cyn dyfod i Gastellnedd. Modd bynag, y mae yn amlwg ddarfod iddo ddyfod i Forganwg tua chwech mlynedd o flaen Jones, Llangan.

STANGRACH, GER LLANFYNYDD, SIR GAERFYRDDIN.
[Preswylfod rhieni William Davies, Castellnedd.]


Yr oedd Mr. Pinkney yn meddu personoliaeth Castellnedd a Llanilltyd; ymddengys hefyd nad oedd yn byw yn y naill na'r llall o'i blwyfydd, ac felly fod y llafur a'r gofal yn disgyn yn gyfangwbl ar y cuwrad. Pan y daeth William Davies i Gastellnedd, yr oedd crefydd mewn cyflwr tra isel. Ni feddai yr Eglwys Wladol gynulleidfa yno o gwbl; darllenid y gwasanaeth ar y Sul i furiau moelion, tra yr ymroddai y werin i oferedd. Llwydaidd anarferol hefyd oedd y seiadau Methodistaidd o gwmpas; nid ydym yn sicr nad oedd rhai o honynt wedi darfod yn hollol. Yr oedd yr ymraniad rhwng Harris a Rowland wedi dygwydd er ys dros ddeng mlynedd; mewn canlyniad, yr oedd gwedd wywedig ar yr achos crefyddol dros y wlad; ac yr oedd yr adfywiad a gymerodd le gyda dyfodiad cyntaf emynau Williams, Pantycelyn, heb dori allan. Eithr yr oedd yspryd gwaith yn y cuwrad ieuanc, a chariad Crist yn berwi yn ei enaid. Gan na ddeuai y bobl i'r eglwys, penderfynodd yr ai efe i'w tai. Yno cynghorai hwy yn ddifrifol, ac weithiau pregethai iddynt, a rhyw ychydig gymydogion a fyddai wedi ymgynull gyda hwynt, o ben cadair ddiaddurn. Mentrodd hefyd fyned allan i'r awyr agored, ac i ganol y chwareu, gan bregethu Crist wedi ei groeshoelio i'r cymeriadau gwaethaf. Yn bur fuan, dyma gynhwrf yn mysg yr esgyrn sychion. Deallodd y bobl fod bywyd a nerth yn y gŵr a weinyddai yn y llan, a dechreuasant dyru tuag yno, fel na ddaliai yr adeiladau y gynulleidfa. Daeth Castellnedd a Llanilltyd yn fath o Langeitho ar raddfa fechan; cyrchai torfeydd yno o bob cyfeiriad; gwelid gwŷr Llansamlet yn eu dillad gwladaidd, a'u benywod yn eu bedgynau a'u shawls cochion, yn britho y ffyrdd tuag yno ar foreu y Sul. Deuent yno yn llu o Gwm Tawe, ac o'r Creunant, a blaen Cwmnedd, os nad o Hirwaun Wrgant, ac Aberdar. Am blwyfi Castellnedd a Llanilltyd, dywedir fod haner y trigolion, o leiaf, yn wrandawyr rheolaidd. Achubwyd canoedd yn ddiau i fywyd tragywyddol. Dywedir mai tan ei weinidogaeth ef y cafodd yr hynod Jenkin Thomas, neu Siencyn Penhydd, olwg ar drefn gras fel yn ddigonol i'r penaf o bechaduriaid, ar ol iddo fod am dymhor ar lewygu gwedi pregeth daranllyd Iefan Tyclai.

Yn ol tystiolaeth unfrydol yr hen bobl, pregethwr melus oedd Davies, Castellnedd. Nid ar fynydd Ebal yr hoffai sefyll, ac nid cyhoeddi melldithion a wnelai; gwell ganddo, yn hytrach, oedd sefyll ar gopa Gerizim, gan roddi datganiad hyfryd i fendithion yr efengyl. Nid clwyfo oedd ei hoff orchwyl, ond iachau; cymhwyso y balm o Gilead at archollion dyfnion pechaduriaid. Dwg Howell Harris, tua diwedd ei oes, dystiolaeth amryw weithiau i felusder ei ddoniau, a'i allu i egluro gwirioneddau cysurlawn yr efengyl. Awgrymir yr un peth gan Williams, Pantycelyn, yn y farwnad. Mewn un penill darlunia yr Arglwydd Iesu yn ei groesawu ar ei fynediad i'r nefoedd yn y modd a ganlyn:—

"Cariad oedd dy fwyd a'th ddiod,
Serchog oedd dy eiriau i gyd,
Dy addfwynder sugnodd yspryd
Rhai o oerion blant y byd;
Treuliaist d' amser mewn ffyddlondeb,
Trwy dy yrfa is y nen,
Mae dy goron geny'n nghadw,
Heddyw gwisg hi ar dy ben."


Tra yr oedd y bobl yn tyru i wrando Mr. Davies, ac yn derbyn maeth i'w heneidiau trwy ei weinidogaeth efengylaidd, yr oedd dosparth arall yn llawn bustl chwerwder, ac yn awyddus am ei yru allan o'r plwyf. Y dosparth hwn a wnelid i fynu yn benaf o grach-foneddigion y dref, a'i hamgylchoedd; a diau fod clerigwyr annuwiol a diddawn y plwyfydd o gwmpas yn cynhyrfu eu goreu. Nis gallent gael dim i achwyn arno parthed buchedd ac ymarweddiad; ond yr oedd sancteiddrwydd ei fywyd, ei zêl angerddol dros ogoniant Duw, ac efengylaidd-dra ei bregethau yn annyoddefol iddynt. Ac uwchlaw y cwbl, yr oedd yn Fethodist. Felly, anfonasant gofeb at Mr. Pinkney, yr hon a gynwysai grynodeb llawn o bechodau y cuwrad, yn erfyn arno ei yru i ffwrdd. A oedd Mr. Pinkney yn meddu llawer o gydymdeimlad a'r diwygiad, nis gwyddom; ond yr oedd yn credu yn Mr. Davies, ac yn gweled ei deilyngdod; a thra y bu y Rheithor fyw, ni chafodd neb aflonyddu arno. Eithr bu Mr. Pinkney farw yn y flwyddyn 1768, ac yn mhen dwy flynedd gwedi hyn cafodd y cuwrad ei droi ymaith. Ceir y nodiad olaf o'i eiddo ar lyfrau yr eglwys Ebrill 5, 1770. Dygwyddai bywioliaeth Llangiwc, plwyf tuag wyth milltir o bellder o Gastellnedd, fod yn wag ar y pryd, a gwnaed cais taer am i William Davies ei chael. Ond yr oedd gwŷr mawr y plwyf yn estroniaid i'r efengyl, a safasant yn benderfynol yn erbyn. Nid oedd dyrchafiad yn yr Eglwys

Wladol yr adeg hono, oddigerth o ddamwain, i neb a bregethai wirionedd Duw yn ffyddlon; yn arbenig os byddai yn tueddu at y Methodistiaid. Gan na oddefid iddo weinidogaethu yn y llan, penderfynodd Mr. Davies wneyd a allai y tu allan i'w chymundeb; casglodd y rhai a lynent wrtho yn seiat ar wahan; aeth allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau; teithiodd Gymru, Ddê a Gogledd, lawer gwaith, a diau iddo fod yn foddion i droi llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd. Ymddengys mai yn nhŷ un Edward Morgan, Penbwchlyd, gerllaw i'r fan y bu Daniel Rowland yn pregethu dan y sycamorwydden, y cadwai Mr. Davies y cyfarfod eglwysig yn Nghastellnedd. Ond o herwydd llwyddiant ei weinidogaeth aeth y lle yn rhy gyfyng, a gwnaed math o le cyfarfod o ddau dy anedd, yn y pen dwyreiniol i'r dref. Am beth amser gwedi ei ymadawiad o'r Eglwys, nid didrafferth iddo oedd cael moddion cynhaliaeth; bu am ryw hyd yn cadw ysgol ddyddiol; a chyfranai rhai o'r Methodistiaid mwyaf cefnog o'u heiddo iddo. Dywedir i amaethwr cyfrifol o blwyf Llangiwc, ar ol cael ei siomi yn ngwrthodiad y fywioliaeth iddo, barhau i'w gynorthwyo mewn arian hyd ddydd ei farwolaeth. Tua'r flwyddyn 1776, adeiladwyd, neu yn hytrach, efallai, adgyweiriwyd, hen gapel y Gyfylchi iddo. Medd y capel hwn gryn hynodrwydd. Saif ar fynydd tra uchel rhwng dau gwm dwfn, yn mhlwyf Mihangel, ryw gymaint i'r dwyrain o Gastellnedd. O ran ei ffurf, y mae yn Eglwysig; a chan yr arferai yr offeiriaid Methodistaidd weinyddu Swper yr Arglwydd ynddo, nid annhebyg ei fod wedi ei gysegru. Ymddengys mai hen gapel Eglwysig wedi myned yn adfeilion ydoedd, ac i'r Methodistiaid gymeryd meddiant o hono, fel y gwnaethant a chapel Llanlluan.[1] Rhenid yr adeilad megys yn ddau gysegr; y sancteiddiolaf a'r cyffredin. I'r sancteiddiolaf yr ai yr offeiriaid yn unig; ond yn y llall yr arferai holl bregethwyr y Cyfundeb weinyddu. Fel rheol, byddai rhyw gynghorwr yn traddodi ei genadwri yn y lle cyffredin am naw o'r gloch y boreu; ac wedi iddo ef ddarfod, ymddangosai yr offeiriad yn ei le yntau, a'r holl gynulleidfa a droent eu hwynebau ato. Fel hyn y bu am flynyddoedd lawer, heb fod yr un pregethwr di-urddau yn anturio croesi y wahanlen; ond o'r diwedd diflanodd y swyn, a chymerodd y pregethwyr

1. GOLYGFA TUFEWNOL AR ADFEILION HEN GAPEL Y GYFYLCHI, 1776.
2. GOLYGFA ALLANOL AR YR ADFEILION.
3. PWLPUD YR HEN GAPEL
4. EGLWYS CASTELLNEDD.
5. EGLWYS LLANILLTYD, GER CASTELLNEDD.
DARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFADWRIAETH
WILLIAM DAVIES, CASTELLNEDD.


wyr druain galondid i fyned i mewn i'r lle sanctaidd. Er na chawsai yr hen adeilad ei gysegru yn ffurfiol gan esgob, cysegrwyd ef yn effeithiol ddegau o weithiau trwy ymweliadau y Pen Esgob, sef yr Arglwydd Iesu. Cafwyd odfaeon yn y Gyfylchi i'w cofio byth. Heblaw William Davies, bu nifer mawr o'r offeiriaid Methodistaidd yn gweinyddu ynddo, megys Jones, Llangan; Howells, Trehill; Howells, Llwynhelyg, yr hwn sydd yn fwy adnabyddus fel "Howells, Longacre; a Phillips, Llangrallo. Yn mysg y cynghorwyr a fu yn y capel yn llefaru, un o'r rhai hynotaf yn ddiau oedd Siencyn Penhydd, at yr hwn y cawn gyfeirio eto. Nid yn y sancteiddiolaf y llefarai efe; er hyny, yr oedd dan y gronglwyd; a sicr yw iddo gael aml i odfa ryfedd. Yr oedd yr hen grefyddwyr a ymgynullent i'r Gyfylchi yn nodedig am wresawgrwydd eu hyspryd, a thanbeidrwydd eu teimladau; os ceid ychydig lewyrch mewn cyfarfod, byddent yn tori allan mewn clodforedd; ganoedd o weithiau buont yn dawnsio mewn hwyl sanctaidd ar lawr yr hen gapel, ac yn peri i'w furiau adsain gan swn eu moliant. Y mae coffadwriaeth yr odfaeon bendigedig hyny yn aros yn gynes yn mysg y trigolion o gwmpas hyd y dydd hwn. Yma y bu y Methodistiaid yn addoli hyd y flwyddyn 1827, pan yr adeiladwyd capel Pontrhydyfen. Mewn cysylltiad a'r Gyfylchi hefyd yr oedd Richard James, pan y dechreuodd bregethu, ac yma y gorphenodd ei daith.

[2]Er prawf pa mor uchel y syniai y Methodistiaid am William Davies, parthed doniau gweinidogaethol, a medr i gyfranu Gair y Bywyd i'r dychweledigion, gallwn gyfeirio at yr hyn a gymerodd le yn Nghymdeithasfa Abergwaun, Chwefror 14, 1770. Yno cynygid ei osod yn arolygwr ar holl seiadau Sir Benfro, fel olynydd i'r Parch. Howell Davies, yr hwn oedd newydd ei gymeryd i ogoniant. Pan gofiom mor seraphaidd oedd doniau Howell Davies, ac mor uchel y safai yn ngolwg ei frodyr, rhaid y chwilid am ddyn o alluoedd nodedig i gymeryd ei le. A thaerni Howell Harris, yn crefu arnynt ymbwyllo, yn unig a rwystrodd y brodyr i wneyd y penodiad. Nid oedd gan Harris ddim ychwaith i'w roddi yn erbyn William Davies; yn unig hoffai gael rhagor o brawf arno, er deall a oedd yr Yspryd Glan wedi ei gymhwyso i fod yn dad.

Yn ystod amser enciliad Harris y daethai William Davies i amlygrwydd; dyna y rheswm paham y gwyddai y Diwygiwr o Drefecca can lleied yn ei gylch, ac y dadleuai dros ymbwyllo cyn gwneyd penodiad mor bwysig. Eithr wrth roddi hanes Cymdeithasfa Llangeitho, a gynhaliwyd yn Awst, yr un flwyddyn, cawn Howell Harris ei hun yn dwyn tystiolaeth i ragoriaeth yr Efengylydd o Gastellnedd. Pregethai Davies y diwrnod cyntaf, ar ol rhyw frawd o gymydogaeth Wrexham. Ymddengys y cawsai hwnw odfa dda, a bod cryn ddylanwad yn cydfyned a'i eiriau pan y darluniai yr Iesu yn talu holl ofynion y ddeddf, ac yn prynu ei ryddid i bechadur. Dyoddefiadau Crist oedd mater William Davies yn ogystal; cymerasai yn destun y geiriau: "Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr annghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw." Meddai Harris: "Ymddangosai dawn y pregethwr hwn yn fwy, ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Ysgrythyr yn helaethach na'r cyntaf, ac yr oedd mwy o arddeliad yn cydfyned a'i weinidogaeth." Mewn gwirionedd, yr oedd yr Efengylydd o Gastellnedd wedi llwyr feistroli y dorf anferth oedd ger ei fron; pan y bloeddiai, nes yr oedd y bryniau o'r ddau tu i ddyffryn prydferth Aeron yn diaspedain, fod Crist wedi cymeryd ein lle, ddarfod i'n holl bechodau fyned yn eiddo iddo, a bod ei gyfiawnder yntau wedi dyfod yn eiddo i ni, torai y gynulleidfa allan mewn bloeddiadau gorfoleddus. Y fath oedd y dylanwad, fel yr oedd Howell Harris agos wedi ei syfrdanu. "Arosais mewn dystawrwydd," meddai, "wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel; gwelwn mai dyma lle y mae Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth, a gogoniant rhyfedd.' Dyma y Gymdeithasfa ddiweddaf i Howell Harris ar y ddaear. Yn fuan gwedi hyn yr ydym yn darllen am William Davies yn pregethu yn Nhrefecca, a chafodd Harris flas anarferol ar yr odfa. Yn ei ddydd-lyfr, canmola y pregethwr yn ddirfawr, gan gyfeirio gydag edmygedd at ei ddirnadaeth o wirioneddau yr efengyl, dysgleirder ei ddoniau, naws hyfryd ei yspryd, a'r difrifwch ai nodweddai wrth gymhell pechaduriaid at Fab Duw.

Nid oes hanes manwl i'w gael am William Davies, fel y darfu i ni nodi, felly rhaid i ni foddloni ar groniclo ychydig of hanesion sydd i'w cael am dano. Cyhoeddasid ef unwaith i bregethu yn eglwys Cenarth. Pan y clywodd y Cadben Lewis, a breswyliai yn y Gellidywyll, hyny, anfonodd ei was yno gyda dryll, gan orchymyn iddo saethu y pregethwr. Hysbyswyd y bwriad i Mr. Davies. "Gadewch i mi fyned i'r pwlpud," meddai, "ac yna byddaf yn foddlon iddo fy saethu." I'r pwlpud yr aeth, a phregethodd gyda'r fath felusder a dylanwad, nes yr oedd yr holl gynulleidfa, ac yn eu mysg gwas y Cadben, yn foddfa o ddagrau. Nid oedd gan y gwas, wrth ddychwelyd at ei feistr, ond yr un esgusawd ag a roddid gan swyddogion y Sanhedrim gynt, a anfonasid i ddal yr Iesu "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Yn mhen ychydig flynyddoedd gwedi hyny bu y boneddwr hwnw farw dan arwyddion amlwg o farn Duw. Mor druenus ydoedd, ac mor ofnadwy oedd cnofeydd ei gydwybod, fel y methai y rhai caletaf mewn annuwioldeb aros yn yr un ystafell ag ef. Eithr nid bob amser y llwyddai y pregethwr melus o Gastellnedd i orchfygu y rhwystrau a deflid ar ei ffordd. Unwaith, pan ar daith yn y Gogledd, pregethai yn y Bettws, ger Abergele, a chyfodasid pwlpud iddo wrth das uchel o frigau coed, eiddo hen ŵr a hen wraig oeddynt yn dra gelyniaethol i grefydd. Tra yr ydoedd yn llefaru daeth perchenogion y dâs, gyda rhyw greaduriaid anystyriol yn eu cynorthwyo, ac er mwyn dial eu llid ar y crefyddwyr, ceisient wthio y dâs frigau gyda phygffyrch o'r tu cefn iddi, fel ag i'w dymchwelyd ar ben y pregethwr. Clywai yntau y brigau yn rhugldrystio, deallodd beth a fwriedid, a dyrysodd hyn ef i'r fath raddau fel y methodd fyned yn ei flaen yn mhellach.

Adroddir hanesyn tra dyddorol am dano yn Methodistiaeth Cymru, yr hwn a ddengys natur yr hunan-ymwadiad oedd yn ofynol yr adeg hono, hyd yn nod ar ran y pregethwyr penaf. Trefnasid iddo fyned i lefaru. i ardal fynyddig, mewn rhyw fan yn y Deheudir, lle yr oedd yr achos yn bur isel, a'r bobl yn dlodion. Wrth fyned tuag yno, a chael y ffordd yn mhell, ac yn dra anhygyrch, ymresymai ynddo ei hun fel yma: "Paham y gwnaed a fi fel hyn? Paham y trefnwyd fi i fyned i le mor anghysbell, ar hyd ffordd mor erwin?" Erbyn cyrhaedd yno, drachefn, yr oedd yr olwg ar y fangre, y tai, a'r bobl, yn ychwanegu at ei anfoddogrwydd. Nid oedd yn y golwg ond ychydig o dai tlodion, yn nghanol mynydd-dir gwyllt ac anial. Ac adeilad gwael, mewn llawn gydweddiad â'r tlodi o gwmpas, oedd y capel yn mha un yr oedd i bregethu. Ar ei ddyfodiad i'r fan, arweiniwyd ef i fwthyn gwael ei wedd, lle y preswyliai tair o chwiorydd, hen ferched heb briodi. Cymerwyd ei geffyl i'r ystabl gan un; y llall a arweiniai y pregethwr i'r bwthyn, a'r drydedd a agorai ddrws y capel, gan wneyd y parotoadau angenrheidiol ar gyfer yr odfa. Erbyn hyn yr oedd mynwes y pregethwr wedi cythruddo yn fwy fyth. Dan ruthr y brofedigaeth, meddyliai ei bod yn ormod darostyngiad ar ŵr o'i safle ef i'w anfon i'r fath le. Yn y teimlad hwn yr ydoedd pan ddaeth yr amser i ddechreu yr odfa. Daeth rhyw nifer yn nghyd; eithr nid oedd y pregethwr yn gwerthfawrogi y cyfleusdra i'w cyfarch. Ond wrth fyned rhagddo gyda'r gwasanaeth, teimlai yr awyrgylch yn nodedig o ysgafn; caffai flas rhyfeddol wrth ddarllen y benod; yr oedd rhyw naws nefolaidd yn y canu; ac yn y weddi teimlai fod ei enaid yn cael dyfodfa at Dduw. Wrth bregethu yr ydoedd mewn hwyl; yr oedd siarad iddo mor hawdd ag anadlu. Cafodd odfa fendigedig; ac ar y terfyn meddyliai nid am dlodi yr hen ferched, ond am eu llwyr ymroddiad i grefydd. Gwedi iddo ddychwelyd gosododd un o'r chwiorydd ger ei fron fwrdd bychan, prin cyfuwch a'i ben glin. Ar y bwrdd gosododd lian bras, ond can wyned a'r cambric; yna cyfododd ychydig bytatws o'r lludw mawn ar yr aelwyd, y rhai a roddasid yno i'w rhostio, a chwedi eu sychu yn lân, a thynu ymaith y croen, gosododd hwynt ar y bwrdd, gan geisio gan y boneddwr ofyn bendith yr Arglwydd ar yr ymborth. Nid yw yn ymddangos fod yno ddim ychwaneg, oddigerth ychydig fara ac ymenyn. Synai Mr. Davies yn fawr iawn arno; gwelai yno ddirfawr dlodi a charedigrwydd wedi cydgyfarfod. Teimlai erbyn hyn mai braint oedd cael dyfod yno, a gofynai i'r un a wasanaethai wrth y bwrdd pa nifer o aelodau a berthynai i'r seiat yno.

Nid oes o honom ond nyni ill tair," meddai hithau.

"Pa fodd, gan hyny," meddai Mr. Davies, "yr ydych yn gallu dwyn yr achos yn ei flaen?"

Ebe hithau: "Y mae i bob un o honom ei gorchwyl. Un chwaer a ofala am y tŷ cwrdd, y llall am yr ystafell a cheffyl y pregethwr, a minau sydd yn cael y fraint o weini wrth y bwrdd. Yr ydym ein tair yn cyfarfod yn y tŷ cwrdd unwaith yn yr wythnos, i gadw seiat, gan adael y drws yn agored i bwy bynag a ewyllysio ddyfod atom, ac ymuno â ni." Wrth ymadael, cynygid iddo chwe' cheiniog yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth; mynai yntau wrthod; eithr ni chymerent eu nacau. Dywedent fod y darn arian wedi ei gysegru at wasanaeth yr Arglwydd, ac na feiddient ei ddefnyddio at ddim arall. Yna gofynent iddo, pa bryd y caffai y fraint o ddyfod yno drachefn. Erbyn hyn yr oedd ei galon wedi ei gorlenwi. Wrth deithio yn ei flaen galwai ei hun, "Y cythraul balch," am iddo edrych yn isel ar waith Duw, oblegyd y wedd dlawd oedd arno. Yn mhen ychydig flynyddoedd cafodd y fraint of fyned i'r lle drachefn; ac erbyn hyn yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i naw ugain o rifedi.

Fel y nodwyd, teithiodd y Parch. William Davies Gymru oll, ar ei hyd a'i lled, lawer gwaith. Yn ei farwnad iddo y mae Williams, Pantycelyn, yn crybwyll enwau amryw o'i gydnabod, o bob parth o'r Dywysogaeth, oeddynt wedi myned i'r nefoedd o'i flaen, ac yn ei groesawu i mewn. Tua'r flwyddyn 1780, cynhaliwyd Cymdeithasfa yn Nghastellnedd, a daethai yno. y Parchn. Daniel Rowland, ei fab Nathaniel, Peter Williams, Williams, Pantycelyn, ac amryw eraill heb fod lawn mor enwog. Yr oedd y Gymdeithasfa dan arddeliad mawr; y nefoedd a ddyferai y gwlith grasol i lawr yn helaeth, a bu cofio hir am dani. Lletyai y pregethwyr yn nhai Mr. Leyshon, o'r Hill, ger Llanilltyd, gwr nodedig am ei dduwioldeb, a Mr. Thomas Smith, tad Mr. Smith, Aberafan. Tua saith mlynedd gwedi y Gymdeithasfa hon y bu William Davies byw. Yn y flwyddyn 1787 efe a hunodd yn yr Iesu, yn y driugeinfed flwydd o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent Castellnedd. Pregethodd Mr. Jones, Llangan, yn ei angladd; ac wrth weinyddu ar lan y bedd yr oedd ei deimladau wedi ei orchfygu yn hollol. "O Davies anwyl!" meddai, "O Davies, gwas yr Arglwydd! Ti fuost farw. Do; disgynaist i'r bedd a'th goron ar dy ben." Nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn o ddifynu ychydig o benillion o'r farwnad nodedig a gyfansoddwyd iddo gan Beraidd. Ganiedydd Cymru:

Pam y tynodd angau diried
Ddavies fwyn oddiwrth ei waith?
Pwy sy' i gario 'mlaen ei ystod
Addfed ar y meusydd maith?
Pwy heb flino, megys yntau,
Ac heb orphwys, gasgla 'nghyd,
Yn ddiachwyn, yn ddiduchan,
Feichiau mawrion, trymion yd?

Yn ei rym ac yn ei hoewder,
Galwyd ffrynd y nef i'r lan,
Tru'gain mlynedd ar y ddaear
Drefnodd arfaeth idd ei ran;
Yna rhaid oedd iddo newid
Ei berth'nasau, ei ffryns, a'i le,
A rboi ei gorph i'r ddae'r i gadw
Nes glanhau 'i fudreddi e'.

Castellnedd, mewn mynwent eang,
'R oedd raid iddo lechu lawr,
Lle mae deng mil, neu fyrddiynau,
Yn ei gwmni ef yn awr;
Ond fe gwyd wrth lais yr angel,
Bloedd yr udgorn gryna'r byd,
A'i holl lwch, b'le bynag taenir,
Gesglir yno'n gryno 'nghyd.


*****
Deugain agos o bregethwyr
Oedd e'n 'nabod yn y nef,
Ac fu'n seinio'r jubil hyfryd
Yn ei ddyddiau byrion ef,
Oll a'u t'lynau aur yn canu
Yr un mesur, a'r un gân,
Ag a ganodd y cor nefol
A'r bugeiliaid gwych o'r blaen.

Na alerwch mwy am Davies,
Ond dihatrwch at eich gwaith;
Y mae'r meusydd mawr yn wynion,
Mae llafurwaith Duw yn faith;
Pob un bellach at ei arfau,
Aml yw talentau'r nef;
Sawl sy'n ffyddlon gaiff ei dalu
Ar ei ganfed ganddo ef.

Doed i waered i'r Deheudir
Ddoniau Gwynedd fel yn lli,
Aed torfeydd o dir y Dehau
Trwy Feirionydd fynu fry;
Fel bo cymysg ddoniau nefol
Yn rhoi'r gwleddoedd yn fwy llawn,
'Falau a photelau llawnion,
O lâs foreu hyd bryduhawn."


Yr ail bregethwr, ag y mae ei enw uwchben ein hysgrif, yw Dafydd Morris, un o'r pregethwyr mwyaf nerthol a welodd Cymru. Gelwir ef yn gyffredin yn "Dafydd Morris, Twrgwyn;" ond fel Dafydd Morris, Lledrod," y caffai ei adwaen gan yr hen bobl, am mai yn Lledrod y cafodd ei eni, ei ddwyn i fynu, y dechreuodd bregethu, ac y gwnaeth iddo ei hun enw fel pregethwr. Ardal amaethyddol ydyw Lledrod, yn tueddu at fod yn fynyddig, yn rhan uchaf Sir Aberteifi, a thuag wyth milltir o Langeitho. Ymddengys i Dafydd Morris gael ei eni rywbryd tua'r Tua naw mlynedd cyn flwyddyn 1744. hyny y dechreuasai Daniel Rowland ei weinidogaeth danllyd yn Llangeitho. Nid annhebyg ddarfod i Dafydd Morris, ac efe yn llanc ieuanc, fyned i Langeitho gyda llanciau eraill yr ardal i wrando y "Ffeirad crac," ac mai rhyw saeth oddiar fwa Rowland ddarfu ei glwyfo. Modd bynag, cafodd grefydd yn gynar, a dechreuodd bregethu pan yn un-mlwydd-ar-hugain oed. Ychydig o fanteision addysg a gawsai yn moreu ei oes; tebygol mai tlodion oedd ei rieni; ond ymroddodd i lafurio am wybodaeth a dysg, a llwyddodd i gyrhaedd mesur helaeth o honi. Daeth yn alluog i ysgrifenu yn dda; yr oedd yn dra chydnabyddus â gweithiau y prif dduwinyddion, a medrai wneyd y defnydd angenrheidiol o awduron Saesnig. Fel y rhan fwyaf o bregethwyr y Methodistiaid yn y cyfnod hwnw, bu yn efrydydd caled a chyson ar hyd ei oes; o herwydd nodwedd deithiol y weinidogaeth, gorfodid ef, yr un fath a'r pregethwyr eraill, i dreulio llawer o'i amser ar gefn ei geffyl; ond gofalai na fyddai y cyfryw amser yn cael ei wastraffu; byddai wrthi yn gyson, naill ai yn darllen. llyfr, neu ynte yn cyfansoddi pregeth.

Daeth Dafydd Morris yn boblogaidd ar gychwyniad ei weinidogaeth, ac ymddengys fod gan Daniel Rowland feddwl uchel am dano, ac am ei ddoniau. Gwahoddai ef i Langeitho, ar Sul pen mis, fel ei gelwid, i bregethu i'r miloedd a fyddent yno wedi ymgynull o bob parth o Gymru. Yn nyddiau ei ieuenctyd yr oedd yn nodedig o ran prydferthwch ymddangosiad; yr oedd yn llyfndeg ei wedd, ei wallt oedd yn wineu-felyn, ac yn disgyn yn deneu ar ei dalcen; ei lygaid oeddynt yn fawrion a bywiog, a'i lais yn gryf a soniarus. Pan yn gymharol ieuanc daliwyd ef gan dewychder dirfawr, yr hwn a gynyddodd fel yr elai yn mlaen mewn dyddiau; yn ei amser olaf ni feiddiai farchogaeth, eithr teithiai mewn cerbyd. Gwelsom yn amryw o dai capelau Sir Aberteifi gadair lydan hen ffasiwn, a digon o le i ddau i eistedd ynddi yn gysurus; gelwid hi yn "gadair Dafydd Morris," a dywedid mai er ei fwyn ef y cawsai ei gwneuthur. Oblegyd y tewychder hwn y darfu i Dafydd Ddu o'r Eryri, ac efe yn fachgenyn ieuanc llawn direidi a dígrifwch, gyfansoddi iddo y penill a ganlyn:

"Am Dafydd Morris, 'r wyf fi'n syn, Nid oes, mae hyn yn rhyfedd, Berffeithiach cristion mewn un plwy', Yn cario mwy o lygredd. Ar fyr eheda'i enaid ef, Yn iach i'r nef fendigaid; A'r gorph a fydd, yn ngwaelod bedd, Ddanteithiol wledd i bryfaid."

Fel pregethwr, meddai ddirnadaeth ddofn o brif wirioneddau trefn yr iachawdwriaeth; yr oedd pob pregeth o'i eiddo yn dangos craffder sylw, a meddylgarwch. Ond ei brif nodwedd oedd angerddolrwydd teimlad. Byddai y gwirioneddau a lefarai yn tanio ei enaid ei hun, ac yn cyneu y cyffelyb dân yn ysprydoedd y rhai a'i gwrandawent. Meddai Christmas Evans am dano: "Yr oedd Dafydd Morris yn bwysig, a thra deffrous, yn ei anerchiadau at gydwybodau, a serchiadau ei wrandawyr. Nid hawdd darlunio yr effeithiau oedd yn canlyn ei ddawn yn y dyddiau cyffrous hyny." Desgrifiai rhai o'r hen bobl ei ymweliad a'r gwahanol ardaloedd. fel ymdoriad ystorm o fellt a tharanau. Wrth ei wrando, safai dynion anystyriol yn syn, wedi eu dal gan ddychrynfeydd, fel pe buasai y Barnwr yn ymddangos; ac elai y rhuthr heibio gyda chawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn. Fel cyfrwng i gludo angerdd ei deimlad, rhoddasid iddo lais cryf a soniarus, yr hwn oedd ar unwaith yn dreiddgar a llawn o fiwsig. Meddai ei fab, Eben Morris, lais perseiniol ac o gwmpas dirfawr. Gofynai Hiraethog unwaith i Dr. Owen Thomas: "A ydych chwi yn cofio Ebenezer Morris?" Atebai yntau nad oedd. "Wel," meddai Hiraethog, "ni chlywsoch chwi ddim llais, ynte." Ond mynai yr hen bobl, oeddynt yn gydnabyddus a'r ddau, fod llais Dafydd Morris yn rhagori o ddigon ar eiddo ei fab.

Yn y flwyddyn 1774, symudodd o Ledrod i Dwrgwyn i drigianu. Gwnaeth hyny ar gais eglwysi dyffryn Troedyraur, y rhai a alwent arno i roddi heibio bob llafur bydol, ac ymroddi yn gyfangwbl i'r weinidogaeth, gan gadw cyfarfodydd eglwysig, a phregethu yn yr wythnos fel y byddai cyfleustra yn rhoi, ac addawent ei gydnabod am ei lafur. Yn nhafodiaeth yr oes hon, galwad i fod yn fugail a gafodd, ac ufuddhaodd yntau iddi. Isel oedd agwedd crefydd yn rhanau isaf Sir Aberteifi yr adeg yma, ar ol bod yn lled flodeuog unwaith; yr oedd yr ymraniad â Harris wedi taflu ei ddylanwad gwenwynig dros y seiadau, ac ymddangosai yr achos yn ei holl ranau yn dra gwywedig. Eithr yn fuan gwedi ei symudiad ef, newidiodd gwedd pethau er gwell; teimlwyd effeithiau grymus yn cydfyned a'r weinidogaeth, a chwanegwyd llawer iawn at y gwahanol eglwysi. Darostyngwyd y rhagfarn oedd yn meddyliau llawer o'r trigolion at y Methodistiaid, a lliosogodd y gwrandawyr i'r fath raddau, fel yn mhen pedair blynedd, sef yn 1778, yr oedd yr addoldy yn Twrgwyn wedi myned yn rhy fychan, a bu raid cael adeilad helaethach. Yn mhen tua chwech mlynedd gwedi agoriad y capel newydd, torodd adfywiad grymus allan. Dechreuodd foreu Sabbath, pan oedd Dafydd Morris yn pregethu, ac ymledodd dros y wlad, gan ddwyn canoedd i broffesu crefydd. Ac er i rai wrthgilio, parhaodd y nifer fwyaf yn ffyddlawn, gan roddi profion annghamsyniol eu bod wedi cael eu dychwelyd at Dduw. Dywedir ddarfod i'r diwygiad hwn barhau am amser maith.

Nis gallwn roddi hanes bywyd Dafydd Morris yn gyflawn; nid oes ar gael ddefnyddiau at hyny; rhaid ymfoddloni ar hanesion sydd wedi aros mewn gwahanol ardaloedd; ond prawf y rhai hyny ei fod yn bregethwr anghyffredin. Er dangos tuedd athronaidd ei feddwl adrodda Dr. Owen Thomas, yr hanesyn a ganlyn: Rhyw Sabbath yn y flwyddyn 1834, elai Dr. Thomas o Lanllyfni, gwedi odfa'r boreu, i Dalsarn, at ddau yn y prydnhawn. Yn cydgerdded âg ef yr oedd un o hen frodyr Llanllyfni. Er byrhau y ffordd croesent gae; ac yn y man, meddai hen ŵr, "A welwch chwi y gareg hon? Wyddoch chwi beth? Mi glywais i Dafydd Morris yn pregethu yn y fan yma, ac ar y gareg yna yr oedd yn sefyll." Cyffrowyd Dr. Thomas: "Aie," meddai, "a ydych yn cofio y testun?" "O, ydwyf, yn eithaf da; y geiriau yna yn y Salm: O drugaredd yr Arglwydd y mae'r ddaear yn gyflawn.'" "A ydych yn cofio rhywbeth o'r bregeth?" "Ydwyf, yr wyf yn cofio fod ganddo drugaredd mewn creadigaeth, trugaredd mewn rhagluniaeth, a thrugaredd mewn iachawdwriaeth. Ac wrth sôn am drugaredd mewn creadigaeth, yr wyf yn cofio ei fod yn tybio rhyw rai yn codi gwrthddadleuon yn erbyn hyny, am fod cymaint o'r ddaear yma yn anialwch diffaeth, cymaint o honi yn foroedd diffrwyth, a chymaint o honi yn fynyddoedd gwylltion." "Wel, sut yr oedd o yn ateb y gwrthddadleuon?" "Nid wyf yn cofio," meddai yr hen flaenor, "sut yr oedd o yn ateb gwrthddadl yr anialwch a'r môr, ond yr wyf yn cofio yn dda sut yr atebai wrthddadl y mynyddoedd: 'Cistiau Duw ydyw y mynyddoedd yma, bobl,' meddai, yn llawn o'i drysorau; ac fel y bydd o yn gweled ar ei blant eu heisiau, fe deifl ef yr allwedd i ryw un i'w hagor hwy.'" Byddai yn anhawdd cael prawf cryfach o feddylgarwch, yn enwedig pan feddylir fod gwyddoniaeth y pryd hwnw yn ei mabandod, ac mai prin yr oedd gwerth cynwys y mynyddoedd wedi cael ei ddatguddio.

Nid yn anfynych byddai rhyw nerth digyffelyb yn cydfyned â'i weinidogaeth, fel nas gallai y caletaf sefyll o'i blaen. Sonir yn Sir Fôn, hyd y dydd hwn, am bregeth ryfedd a draddodwyd ganddo yn Pont Rippont, o fewn rhyw bedair milltir i Gaergybi, yr hon a elwir, "Pregeth y golled fawr." Y testun ydoedd: "Pa leshad i ddyn os ynill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?" Wrth feddwl am enaid wedi ei golli, yr oedd yspryd Dafydd Morris wedi ei gyffroi i'w ddyfnderoedd, a bloeddiai ar y gynulleidfa oedd ger ei fron: "Ow! Ow! Plant y golled fawr." Yna darluniai fawredd y golled, ac fel byrdwn ar derfyn pob sylw deuai y floedd galon-rwygol, "Y golled fawr!" Gan mor uchel a threiddgar oedd ei lais, a'r fath effeithiolrwydd oedd yn cydfyned â'r traddodiad, rhedai y bobl yno o bob cyfeiriad; a gyda eu bod yn cyrhaedd y lle, yr oedd difrifwch annaearol y pregethwr, a nerth y floedd am y golled fawr," yn eu sobri ar unwaith, ac yn eu cyffroi i fin gwallgofrwydd. Bernir i bawb a wrandawent y noson hono gael eu hachub. Ceir yn Nghofiant John Jones, Talsarn, gan Dr. Owen Thomas, hanesyn tra dyddorol, yn dal cysylltiad â'r odfa hon. Un nos Sabbath, pregethai y diweddar Barch. David Roberts, Bangor, yn Llanerchy. medd; gwedi y bregeth cynhelid seiat, ac aeth y gweinidog o gwmpas i holi rhai o'r aelodau am eu profiadau. Aeth at un hen chwaer, gan feddwl y caffai rywbeth ganddi, a gofynodd, er ys pa faint o amser yr oedd gyda chrefydd. Nid oedd yr hen chwaer yn gallu dweyd. Ond," meddai, "yr oeddwn yn hogen go fechan, yn agos i Bont Rippont; a rhyw ddiwrnod, wrth fyned i rywle, mi gollais fy marclod (ffedog). Yr oeddwn wedi myned i chwilio am dano, ac yn teimlo yn fawr, bron a chrio, os nad oeddwn yn crio, am fy mod i wedi ei golli. Pan yr oeddwn i felly yn chwilio am dano, mi a glywn ryw lais uchel, cryf, yn swnio yn fy nghlustiau: 'Y golled fawr! Y golled fawr!' Mi a feddyliais mai sôn am fy marclod yr ydoedd o. Ond mi a ddilynais y swn, nes yr oeddwn yn y lle. Erbyn dyfod yno, yr oedd yno lawer o bobl wedi ymgasglu, a dyn yn pregethu ar yr adnod: Pa leshad i ddyn, os ynill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun ?' Ac mi ddois i toc i ddeall fy mod mewn perygl i golli peth anhraethol fwy gwerthfawr na fy marclod. Dyna yr amser y dechreuais i gyda chrefydd. A Dafydd Morris oedd y pregethwr hwnw." Diau fod y bregeth hono, a wnaeth y fath argraff ar feddwl genethig ieuanc, yn gystal ag ar bobl wedi tyfu i fynu, gan beri iddi hi a hwythau anghofio pob colled, yn mhresenoldeb "y golled fawr," yn rymus, tuhwnt i bob peth.

Coffeir am bregeth ryfedd arall, nid yn annhebyg o ran dylanwad i'r un yn Pont Rippont, a draddodwyd ganddo yn Llanarmon, Dyffrynceiriog. Pregethai dan goeden frigog, yn muarth Sarphle, ar y gair: "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth, canys ni elli mwy fod yn oruchwyliwr?" Tan y bregeth hon dywedir fod pawb yn gwaeddi neu yn wylo, yn molianu neu yn gweddio. Llefai y pregethwr, ag awdurdod o dragywyddoldeb yn ei lef, "Dyro "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth;" ac yn mhresenoldeb y cyfrif ofnadwy, crynai y caletaf, a churai ei liniau yn nghyd; toddai calonau creiglyd fel y tawdd cwyr o flaen tân. Golygfa ydoedd na welsid ei chyffelyb yn wlad hono; ac nid oedd gan baganiaid fro un cyfrif i'w roi am y fath beth, ond fod rhyw gyffroad o wallgofrwydd wedi wallgofrwydd wedi syrthio yn ddisymwth ar y gwrandawyr. Yr ydym yn barod wedi nodi ei fod yn deithiwr mawr. Am flynyddoedd cymerai Am flynyddoedd cymerai bedair o deithiau bob blwyddyn i Siroedd Môn ac Arfon, ac eraill o siroedd y Gogledd. Yr oedd mor adnabyddus yn y Gogledd ag oedd yn y Dê; a mawr fyddai y dysgwyliad am dano, a'r syched am ei glywed. Anaml y cynhelid Cymdeithasfa heb ei fod yn pregethu ynddi. Ar ei deithiau cyfarfyddai, o angenrheidrwydd, â llawer math o helynt, a chaffai mewn gwahanol leoedd bob math o dderbyniad. Pan ar daith yn Sir Ddinbych unwaith, ac yn myned o'r Bont Uchel i Adwy'r Clawdd, cafodd nad oedd ei gyhoeddiad, o herwydd rhyw anffawd neu gilydd, wedi cyrhaedd yr Adwy. Gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn y wlad, nid oedd yno neb a'i hadwaenai. Modd bynag, daeth o hyd i nifer o wragedd yn proffesu crefydd, i ba rai yr hysbysodd mai pregethwr o'r Deheudir ydoedd, a gofynai, ai nid oedd modd anfon gair ar led trwy y gymydog aeth a chasglu Ar hyn aeth, a chasglu pobl i wrando? cyrhaeddodd y blaenor, a gofynai, gyda chryn sarugrwydd, "Pwy ydych? ydych yn werth anfon am wrandawyr i a chasglu pobl i wrando? Ar hyn cyrhaeddodd y blaenor, a gofynai, gyda chryn sarugrwydd, "Pwy ydych? ydych yn werth anfon am wrandawyr i chwi?" Ymddangosai y gŵr yn afrywiog ei dymher, a bustlaidd ei yspryd. Eithr rywfodd cafwyd cynulleidfa; dechreuodd Dafydd Morris bregethu, ac ar unwaith deallwyd mai nid dyn cyffredin ydoedd. Yn fuan dyma ryw nerth anorchfygol yn cael ei deimlo; cynhyrfid y bobl fel y cyffroir coedwig gan gorwynt; dyma deimladau dyfnion y galon yn ymdywallt allan, yn ocheneidiau uchel, ac yn afonydd o ddagrau, y rhai a redent i lawr yn llifogydd dros bob wyneb. Yr oedd yr hen flaenor sarug wedi cael ei orchfygu, fel pawb arall. Ar derfyn yr odfa aeth at y pregethwr, gan ymesgusodi, a dywedyd: "Dafydd Morris bach, gobeithio y gwnewch faddeu fy ymddygiad atoch cyn dechreu y cyfarfod." Meddai yntau yn ol: Y dyn, mi a welaf mai ci ydwyt; cyn i'r odfa ddechreu yr oeddit yn dangos dy ddanedd; yn awr yr wyt yn ysgwyd dy gynffon Profodd Dafydd Morris fod ganddo fedr arbenig i ddeall cymeriad, oblegyd yn fuan wedi hyn trodd y blaenor ei gefn ar yr achos, a gorphenodd ei yrfa mewn anfuchedd gyhoeddus, ac yn wrthwynebwr i'r efengyl.

Dyoddefodd lawer o erlidiau, ac nid yn' anfynych y gwaredodd yr Arglwydd ef yn rhyfedd. Un tro pregethai yn y Berthengron, a daethai cynulleidfa fawr yn nghyd i wrando. Ar ddechreu yr odfa gwelid haid o ddynion cryfion, a dibris, yn dynesu at y fan, wedi ymbarotoi i aflonyddu yr addoliad, ac o bosibl i niweidio y neb a feiddiai ddweyd gair yn eu herbyn. Ond pan yr oeddynt yn nesu at y tŷ, syrthiodd. eu blaenor, a thorodd ei goes, a hyny ar dir gwastad a thêg. Cafodd y fyntai ddigon o orchwyl i ymgeleddu y clwyfedig, a chafodd Dafydd Morris bob llonyddwch i gyhoeddi yr efengyl. Dro arall, yr oedd ar daith yn Arfon, ac aeth i'r Gwastadnant, lle yr arferid cynal pregethu. Yn anffodus, yr oedd gŵr y tŷ oddicartref, ac yr oedd y wraig yn wrthwynebol i'r efengyl. Pan y daeth y pregethwr at y drws, gan ofyn a oeddynt yn dysgwyl gŵr dyeithr yno, atebodd yn sarug: "Nac ydym; nid oes yma ond swp o boblach dlodion, ar eu heithaf yn ceisio magu eu plant." Dywedodd hyn mewn tymher mor chwerw fel y barnodd Dafydd Morris mai doethineb ynddo fyddai troi ymaith; a hyn a wnaeth heb iddo ef na'i anifail gael lluniaeth na llety; ac allan ar y mynydd, rhwng Llanberis a Llanrug, y buont, meddir, trwy ystod y nos. Tybir mai efe oedd y pregethwr yr adroddir hanes tra chyffrous am dano yn Llangynog, Sir Drefaldwyn. Safai i draddodi y Gair wrth ddrws tŷ tafarn; a gyferbyn ag ef, yr ochr arall i'r ffordd, yr oedd tair coeden yn tyfu gyda glan yr afon. Yn fuan wedi dechreu y bregeth daeth dyn meddw heibio, yr hwn a waeddai allan, ar derfyn pob sylw o eiddo y pregethwr: "Celwydd a ddywedi." Goddefodd Dafydd Morris am enyd, ond wrth fod y dyn yn parhau i grochlefain a bytheirio, cyffrowyd ei yspryd, a dywedodd wrth y gynulleidfa: "Gwrandewch! bydd y tair coeden yna yn dwyn tystiolaeth yn erbyn y dyn hwn yn y farn, oni oddiwedda dialedd ef cyn hyny." Sylwodd y bobl ar y dywediad; ac yn fuan dygwyd ef yn fyw i'w cof drachefn, gan i'r dyn yn ei feddwdod, ryw noson dywell, syrthio dros y mur i'r afon, a boddi. Ac yr oedd hyn o fewn ychydig latheni i'r man y safai y pregethwr arno. Meddai y Beibl: "Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffol; paham y byddit farw cyn dy amser ?"

Cawn hanes am dano yn pregethu yn Amlwch, Sir Fôn, cyn adeiladu y capel cyntaf yno. Pregethai yn yr awyr agored, am fod y gynulleidfa, yn ddiau, yn rhy fawr i unrhyw dy. Safai wrth dalcen tŷ yr hen bregethwr, William Roberts, y crydd. Yr oedd llyn o ddwfr, meddir, yn gyfagos i dŷ William Roberts; llyn lled fawr, a lled fudr ei ddwfr yn gyffredin. Yr oedd yn byw yn y gymydogaeth ar y pryd amaethwr, yr hwn oedd yn dra dig llawn at y Methodistiaid. Penderfynodd y gŵr hwn, wedi deall fod cyfarfod crefyddol i gael ei gynal yn y dref, fyned yno i wneuthur gwawd o hono, ac i'w aflonyddu. Daeth i'r dref ar ei geffyl, gan fwriadu marchogaeth trwy y gynulleidfa, a thrwy hyny ei dyrysu a'i chwalu. Tybiai y caffai ddifyrwch wrth weled penbleth y bobl druain oedd wedi ymgynull i wrando. Eithr pan ddaeth yn gyfagos, mynai y ceffyl, er gwaethaf ei berchenog, droi i'r llyn; ac wedi cyrhaedd yno, taflodd ei farchog oddiar ei gefn i'r dwfr, gan orwedd ar ryw ran o hono fel nas gallai symud. Ofnai yr edrychwyr iddo foddi yn y llyn, a gwaeddent ar i rywun ei achub ef. "O, na," ebai rhyw hen wraig, mwy ei nwyd, debygyd, na'i gras, "gadewch iddo; gan i'r Llywydd mawr weled yn dda fyned ag ef yna, yna y dylai fod." Tybiai rhai fod llygaid yr hen wraig ar Diar. xxviii. 17: "Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffŷ i'r pwll; nac atalied neb ef." Modd bynag, rhuthrodd rhywrai i'r llyn, a llusgasant y dyn druan allan o'i wely peryglus, heb fod fawr gwaeth, ond fod ei ddiwyg yn llawer butrach. Felly, siomwyd yr erlidiwr. Nid difyrwch, ond poen, a fu y tro iddo; ac yn lle medru dyrysu y moddion, cafodd y gynulleidfa bob hamdden i wrando heb i neb feiddio gwrthddywedyd.

Ymddengys mai Dafydd Morris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn nhref Beaumaris. Ar yr heol y safai, ond ychydig o lonyddwch a gafodd; ymosodwyd arno gyda cherig a thom; a chodwyd y fath dwrf a therfysg, fel nas gallai fyned yn mlaen. Yr oedd llais Dafydd Morris yn gryf a chlochaidd, a'i galon ynddo yn wrol; ond ymddengys fod yno yn perthyn i'r Methodistiaid ddyn, William Lewis wrth ei enw, a feddai lais cryfach fyth. Safodd hwn i fynu yn ddiofn, wedi i'r terfysgwyr orchfygu y pregethwr o'r Dê, ac ymliwiodd a'r bobl am eu hymddygiad at ŵr dyeithr, a ddaethai o bell i geisio gwneyd daioni iddynt. Gostegodd hyn i raddau ar y terfysg, a chafwyd peth llonyddwch i orphen y cyfarfod. Pe buasai Dafydd Morris wedi ysgrifenu ei hanes yn fanwl, fel y gwnaeth Howell Harris, gan gadw cofnod manwl o bob peth a ddygwyddodd iddo, yr erlidiau a ddyoddefodd, a'r gwaredigaethau a estynwyd iddo, buasai yn ffurfio penod debycach i ramant nag i ddarn o hanesiaeth.

Ceir yn Methodistiaeth Cymru gynllun o'i gyhoeddiad yn Sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1771, yr hwn sydd yn meddu cryn ddyddordeb :-

Tachwedd 23, 1771, am 12, Waunfawr; nos, Llwyncelyn.
Dydd Mawrth, Llanllyfni, 2; a chadw yn breifat (seiat).
Dydd Mercher, am 10, Tynewydd; y nos, Brynygadfa.
Dydd Iau, am 12, Nefyn; nos, Tydweiliog.
Dydd Gwener, am 10, Tymawr; prydnhawn, am 3, Lon-fudr.
Dydd Sadwrn, am 12, Saethonbach.
Boreu Sul, Pwllheli; Cricieth, am 2.
Dydd Llun, am 10, Brynengan: a chadw yn breifat yn y Garn, am 5.

Nid annhebyg mai cynifer a hyn o leoedd pregethu oedd gan y Methodistiaid yn Sir Gaernarfon ar y pryd; ac os felly, pur araf y cynyddodd yr achos ynddi.

Ceir yn yr un llyfr fraslun o daith a wnaeth yn Sir Aberteifi, tua'r flwyddyn 1789, sef ryw ddwy flynedd cyn ei farw; ac yn y braslun hwn rhoddir y testunau oddiar ba rai y pregethodd yn ogystal:—

GORPHENAF 18, 1789.

Capel Twrgwyn. . . . . . Esaiah lv. 3.
Glynyrhedyn . . . . . Luc i. 74.
Aberteifi . . . . . Can. vii. 1.
Llandudoch . . . . . Luc
Llechryd . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22.
Tremain . . . . . Luc i. 47.
Morfa Uchaf . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22, mewn angladd.

TRO I SASIWN

Yn y Sasiwn yn gyntaf . . . . . Can. vii. 1.
Llanddewi-brefi . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22.
Tregaron. . . . . . Actau xvi. 30, 31.
Swyddffynon . . . . . Heb. vi. 7, 8.
Lledrod . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22.
Llangwyryfon . . . . . Luc i. 74.
Llanbadarn Fawr . . . . . Heb. iv. 3.
Aberystwyth . . . . . Actau xvi. 30, 31.
Rhyd-y-felin-fach . . . . . Zech. xii. 10.
Llanrhystyd . . . . . Phil. iii. 20, 21.
Llannon . . . . . Heb. ii. 3.
Penant . . . . . Actau xvi. 30, 31.
Llanarth . . . . . Heb. ii. 3.
Geuffos . . . . . Zcch. xii. 10.

Un ffaith ddyddorol a geir yn y braslun hwn ydyw, fod Dafydd Morris yn pregethu yn Nghymdeithasfa ei sir ei hun. Yr oedd hyn flwyddyn cyn i Daniel Rowland farw, ac y mae yn sicr fod a fynai efe â'r trefniant. Dywedir fod ganddo gynifer a saith o wahanol bregethau ar Actau xvi. 30, 31. Parhai Dafydd Morris i gyfansoddi pregethau newyddion trwy ystod ei oes, ac ymddengys fod hyn yn orchwyl hawdd iddo. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru iddo weled saith o bregethau o'i eiddo, wedi eu cyfansoddi mewn chwech wythnos o amser, yn y flwyddyn 1789, sef dwy flynedd cyn ei farw. Nid oes dim yn awgrymu fod hyn yn beth anarferol iddo. Dywedai Mr. John Jones, Castellnewydd, ddarfod iddo ef ei wrando saith-ar-hugain o weithiau mewn un flwyddyn, a bod ganddo bregeth newydd bob tro. Yn y brasluniau o'i bregethau sydd ar gael, ymddengys nad oes dim anarferol o ran cynllun na chyfansoddiant; eu prif nodwedd yw Ysgrythyroldeb; ond diau ei fod yn cael llawer o'i syniadau dysgleiriaf ar y pryd, pan y byddai ei yspryd yn poethi wrth ymdrin â'r gwirionedd.

Yr ydym wedi dangos yn barod fod Dafydd Morris yn meddu craffder arbenig i adnabod cymeriad. Ceir hanes am dano yn Llansamlet a brawf yr un peth, ac a ddengys fod ganddo awdurdod nodedig i lywodraethu, a gweinyddu dysgyblaeth, pan fyddai galw. Yr oedd yn Llansamlet wr o'r enw Llewelyn John, cristion gloyw, a chymeriad pur. Yn ychwanegol, meddai ddawn gweddi helaeth, ac arferai fyned o gwmpas gyda phregethwyr i ddechreu y cyfarfodydd iddynt. Bu unwaith yn y Gogledd gyda Jones, Llangan. Yn mhen amser maith aeth Llewelyn John yn hen ac yn dlawd. Penderfynodd y seiat gyfranu ryw gymaint yn wythnosol at ei gynaliaeth; ond bu hyn yn foddion i beri cenfigen a therfysg. Yr arweinydd yn yr helynt oedd "Beni y crydd." Wedi cryn gyffro, penderfynwyd anfon cenhadau yno, er ceisio adfer trefn. Yn y cyfamser, daeth Dafydd Morris heibio; ac ar ol yr odfa, mewn cyfarfod eglwysig, gosododd y brodyr y mater ger ei fron. Ar ddechreu y drafodaeth rhoddes "Beni" amnaid i Dafydd Morris ddarllen y drydedd benod o 2 Thes., lle y ceir y geiriau: "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta ychwaith." "Na wnaf fi," ebai yntau, "darllen hi dy hunan, os myni." Gwnaeth Beni hyny; ac yn ganlynol, wrth drafod y mater, coffaodd hi drachefn, fel un benderfynol ar y pwnc. Bellach, yr oedd yspryd Dafydd Morris wedi cyffroi ynddo, ac nis gallai ymatal, a dyma ef yn arllwys ei dynghed ar Beni, druan. "Clyw, y cythraul," ebai, "a wyt ti yn cymhwyso yr adnod yna at yr hen ŵr duwiol? Rhwygwr wyt ti, a rhwygwyr yw y rhai sydd yn dy gynghrair, ac allan a thi a hwythau." Yr oedd y Parch. Hopkin Bevan yn y cyfarfod ar y pryd, ac arferai ddweyd na fu mewn lle mor ofnadwy erioed; ei fod yn teimlo fel pe byddai llawr y capel yn crynu gan yr awdurdod oedd yn y geiriau. Gwedi hyn ymrestrodd y terfysgwr yn filwr, ac adferwyd tangnefedd i'r eglwys.

Yr oedd Dafydd Morris, heblaw bod yn bregethwr gwych, yn emynydd o fri, a cheir amryw o'i emynau yn y llyfr a arferir yn bresenol gan y Methodistiaid. Cyhoeddodd lyfr bychan o'i gyfansoddiadau cyn iddo adael Lledrod, a dywed y wyneb-ddalen iddo gael ei argraffu yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1773. Felly, nid oedd yr awdwr ar y pryd ond naw-mlwydd-ar-hugain oed. Enw y llyfr yw, Can y Pererinion Cystuddiedig. Yn y rhagymadrodd ceir a ganlyn: "Gwybydded pwy bynag y dygwyddo hyn o emynau ddyfod i'w ddwylaw, na fwriedais i erioed wrth eu canu eu rhoddi mewn print; ac mai afreidiol oedd i mi osod fy enw yn gyhoeddus trwy eu hargraffu. Ond wrth gofio am y gwŷr goludog oedd yn bwrw i'r drysorfa o'r hyn oedd yn ngweddill ganddynt, mi glywais beth cymhelliad


CAPEL TWRGWYN, SIR ABERTEIFI.
[Mae y geiriau hyn yn argraffedig ar ffrynt y capel:—" Y Ty hwn a adeiladwyd i'r Parch. Dan. Rowlands, O.C. 1750, a ail adeiladwyd O.C. 1816, a adnewyddwyd O.C. 1846,"]



PENTREF PENFFOS, GER TWRGWYN.
[Preswyliai yr enwog bregethwr yn y prif dy ar y darlun,]


DARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFADWRIAETH
DAVID MORRIS, TWRGWYN (LLEDROD).

ynof i daflu fy nwy hatling i mewn yn eu mysg. Heblaw hyny, wrth roddi ambell air maes o honynt weithiau mewn cynulleidfaoedd cristionogol, a gweled ambell blentyn newynog yn adfywio trwy yr ymborth gwael hwn, a'r Arglwydd yn dysgleirio arnynt trwy y moddion, mi a feddyliais ei bod yn bechod i gadw bara haidd oddiwrth eneidiau newynllyd; hyn a'm cwbl gymhellodd idd eu gosod o'th flaen yn y drych y gweli hwynt. Os bendith a gei oddiwrthynt trwy eu darllen, neu eu canu, rho'r clod i Dduw, a gweddïa drosof finau, yr hwn wyf dy gydymaith mewn cystudd,—DAFYDD MORRIS.' gryma y geiriau sydd mewn llythyrenau. Italaidd fod yr awdwr ar y pryd yn wael ei iechyd. Yn sicr, nid oedd raid iddo ymesgusodi o herwydd cyhoeddi y llyfr, na galw ei Emynau yn "ymborth gwael" nac yn "fara haidd;" y mae yspryd y peth byw yn amryw o honynt, a byddant yn debyg o gael eu canu tra y parhao y Cymry i offrymu mawl i Dduw yn eu hiaith eu hunain. Yn mysg eraill, perthyn yr emynau canlynol i Dafydd Morris:

"Mae brodyr imi aeth ymlaen."
"Os rhaid yfed dyfroedd Mara."
"Arglwydd grasol, dyro gymhorth."
"A ddaw gwawr ar ol y plygain?"


Os nad oedd ei awen mor hedegog ag eiddo Williams, gwelir fod ei emynau yn nodedig am eu Hysgrythyroldeb a'u dwysder.

Yr oedd Dafydd Morris hefyd yn ddyn nodedig o garuaidd, a thyner ei deimlad; ac arferai letygarwch ar raddfa eang, fel y ceid aml gyfleustra y dyddiau hyny. A braidd nad oedd ei wraig, Mary, un o'r benywod serchocaf ar y ddaear, yn rhagori arno yn y rhinwedd hwn. Ni byddai wythnos yn pasio na byddai ryw "lefarwr " yn ymweled a Twrgwyn; ac ambell wythnos byddai pedwar neu bump; oblegyd cyfnod y teithio oedd hwnw, ac yn nhŷ Dafydd Morris y lletyent gan amlaf, a byddai Mrs. Morris wrth ei bodd yn gweini arnynt. Parchai hwynt oll, y sychlyd ei ddawn fel y talentog; yr anwybodus fel y galluog; anrhydeddai y gwaelaf fel cenad Duw. Bu farw yn y flwyddyn 1788, yn gymharol ieuanc, ac ysgrifenwyd marwnad iddi gan Williams, Pantycelyn. Braidd nad yw y farwnad yn awgrymu na pherchenogai dalent ddysglaer, ond mai mewn duwiol frydedd a charedigrwydd y rhagorai. Wele ychydig o'r penillion:

"O galared y gyn'lleidfa
Fawr, liosog, faith, am hyn,
Sydd yn bwyta bara'r bywyd
O fewn capel y Twrgwyn;
Collwyd mam, a chwaer, a mamaeth,
Collwyd gwraig garuaidd wiw;
Ac nid oes all lanw'r golled,
Ond yr Hollalluog Dduw.

Os rhagluniaeth drefna imi—
F'allai fyth fydd hyny'n bod—
Wrth gyhoeddi'r 'fengyl oleu,
I dŷ Dafydd Morris ddod;
A gwel'd Mary'n eisiau yno,
Gwn y tyn afonydd hallt
O fy llygaid, fel o greigydd,
Er mor wyned yw fy ngwallt.

Mwy yw Dafydd yn mhob ystyr,
Uwch na Mary raddau heb ri',
Mwy talentau, mwy arddeliad,
Godidocach swydd na hi;
Ond am garu, ymgeleddu,
Gwneyd y rheidus oer yn glyd,
Yr oedd Mary'n abl ateb,
Neb rhyw wraig o fewn y byd.

Doed pregethwyr fan y deuant,
Gogledd, de, neu ddwyrain bell,
I'r Twrgwyn, gyhoeddi allan
Bur newyddion Juwbil well;
O ba ddwg, o ba dalentau,
O ba raddau, o ba ddawn,
Hwy gaen' ffeindio Mary Morris,
O garueiddiwch pur yn llawn."


Bu i Dafydd Morris a Mary dri o blant, sef Theophilus, Eleazer, ac Ebenezer. Cymerodd angau y ddau flaenaf ymaith yn nyddiau eu hieuenctyd, a chyn cael cyfleustra i wneyd dim yn haeddu ei goffa; ond am yr olaf, Ebenezer, daeth yn un o ser dysgleiriaf y pwlpud, ac y mae enw "Eben Morris" yn anwyl gan y genedl hyd y dydd hwn. Daw efe dan ein sylw eto. Oes fer a gafodd Dafydd Morris; canwyll yn llosgi yn ddysglaer ydoedd, a llosgodd i'r soced yn bur fuan. Ar yr ail-ar-bymtheg o fis Medi, 1791, galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr, ac efe ond saith-a-deugain mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu am ryw chwech-mlynedd-ar-hugain. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Troedyraur, yn nghanol dagrau lawer. Ond i ni gadw mewn côf ei fod yn cydfyw, yn mron trwy ystod ei oes, â'r Tadau Methodistaidd cyntaf; mai tua blwyddyn o'i flaen y bu farw Daniel Rowland; mai tuag wyth mis o'i flaen y croesodd Williams, Pantycelyn, yr lorddonen; ddarfod i Peter Williams, ei oroesi; ac iddo fod yn gydlafurwr â Howell Davies a Howell Harris; ac eto i gyd iddo, yn mysg yr enwogion hyn, enill iddo ei hun safle fel pregethwr o'r radd flaenaf, fel y daeth ei enw yn air teuluaidd yn Nghymru, o Fôn i Fynwy, rhaid fod Dafydd Morris yn bregethwr anghyffredin. A chan iddo droi llawer i gyfiawnder, rhaid ei fod heddyw, yn ol geiriau yr Ysgrythyr, yn seren o'r mwyaf dysglaer yn ffurfafen y nefoedd. Cyfansoddwyd marwnad iddo gan y Parch. Thomas Jones, o'r Maes, yn Sir Gaerfyrddin, wedi hyny o Peckham, Surrey, o ba un y difynwn ychydig benillion:

"Seren ddysglaer yn goleuo
Yn neheulaw Iesu gwiw,
Gariodd athrawiaethau grymus,
Pur wirionedd geiriau Duw;
Chwiliai ddyfnion droion calon,
Troion gwrthgiliadau cas,
Yn ngoleuni ei athrawiaeth
Fe'i datguddiai hwynt i maes.

Nid ymryson gwag a dadleu
Ydoedd ei bregethau ef,
Ond canolbwynt ei athrawiaeth,
Oedd gogoniant Brenin nef;
Dyn yn ddyn, a Christ yn bobpeth,
Fyddai e'n gyhoeddi maes,
Mewn rhyw ddysglaer oleu, hyfryd,
A rhyw ddwyfol nefol flas.

Y mae rhai o'i ddwys gynghorion
Ar fy meddwl hyd yn awr;
'Rwy'n hyderu caf eu cofio
Tra b'wyf ar y ddaear lawr;
Wrth drafaelu dyffryn Baca,
Sych ac anial, llawn o wres,
Mewn tywyllwch anghysurus,
Gwnaethant i fy enaid les."


Y trydydd enw sydd uwchben y benod yw eiddo William Llwyd, o Gayo. Fel amrai o bregethwyr cyntaf y Methodistiaid, yr oedd Mr. Llwyd yn hânu o deulu parchus, yn meddu eiddo rhydd-ddaliadol, a pherthynai yn agos i Lwydiaid y Briwnant, yr hwn deulu breswylia yn y Briwnant, ar y naill du rhwng Cayo a Phumsaint, hyd y dydd hwn, ac a ystyrir yn mysg bonedd Sir Gaerfyrddin. Enw ei dad oedd Dafydd Llwyd, a phreswyliai yn Blaenclawdd, ger Cayo.[3] Cafodd William ei eni yn y flwyddyn 1741, sef tua chwe' blynedd wedi cychwyniad y diwygiad Methodistaidd, a rhyw ddwy flynedd cyn Cymdeithasfa gyntaf Watford. Pan yr oedd efe yn blentyn bychan, yn chwareu o gwmpas gliniau ei fam, yr oedd Rowland a Harris yn tanio Cymru, a than fendith Duw yn cynyrchu chwildroad hollol yn nghyflwr moesol y trigolion. Ymddengys i rai o'r gwreichion gydio yn William pan yn ei fabandod, oblegyd dywed ei fod dan fesur o argyhoeddiad, ac mewn pryder oblegyd ei gyflwr, er pan o gwmpas saith mlwydd oed. Diau mai rhyw ddylanwad, mwy neu lai uniongyrchol, oddiwrth weinidogaeth y Diwygwyr cyntaf a fu y moddion i gynyrchu hyn. Am helynt dyddiau ei ieuenctyd ychydig a wyddom; eithr cafodd addysg well na'r cyffredin, a bu am beth amser yn ysgol y Parch. Owen Davies, gweinidog perthynol i'r Ymneillduwyr. Pan oedd tua deunaw mlwydd oed cafodd gyfleustra i wrando Peter Williams, a than y weinidogaeth dyfnhawyd ei argyhoeddiadau yn ddirfawr, fel y darfu i fater enaid lyncu pob peth iddo ei hun yn ei deimlad. "O'r blaen," meddai Mr. Charles, "nid oedd ei argyhoeddiadau, mewn ystyr, ond meirwon a dieffaith, yn ei ddangos ac yn ei farnu yn euog; eithr heb fawr o ymgais i ffoi rhag y llid a fydd, ac heb y waedd yn ei yspryd: Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf cadwedig? Ond effeithiodd gweinidogaeth y gweinidog llafurus hwnw, y Parch. P. Williams, yn fywiog ac yn danllyd arno, nes yr oedd dyfnder ei bechadurusrwydd, a'i drueni yn ganlynol, heb un llen yn ei olwg, a chadw enaid y peth mwyaf ei bwys a'i ganlyniad o ddim yn y byd." Ymddengys ddarfod i'r llanc, William Llwyd, fod mewn gwasgfa meddwl am gryn yspaid; dan Sinai yn swn y taranau y preswyliai; am agos i flwyddyn llanwai dychrynfeydd y ddeddf ei enaid, heb gael tawelwch yn un man. Y gwr a ddefnyddiwyd i agor drws gobaith o'i flaen oedd Evan Jones, cynghorwr o Ledrod, yn Sir Aberteifi. Ychydig neu ddim o hanes yr Evan Jones yma sydd ar gael; yn unig ceir ei enw yn mysg cynghorwyr Rowland; ai byr ei ddawn ydoedd, ynte a feddai dalent naturiol gref, ni wyddom; ond efe a fendithiwyd i dywallt balm yr efengyl i glwyfau dyfnion William Llwyd, ac eiddo Grist a fu y gŵr ieuanc o hyny allan.

Brysiodd i ymuno âg eglwys Crist, ac yn ol Mr. Charles, gyda chynulleidfa yr Ymneillduwyr yn y gymydogaeth, sef, yn ddiau, cynulleidfa Crugybar, y bwriodd ei goelbren. Awgryma Mr. Charles, yn mhellach, mai y rheswm paham y gwnaeth felly oedd, am nad oedd seiat Fethodistaidd o fewn cyrhaedd iddo; a dywed mai yn y flwyddyn 1760 y ffurfiwyd cymdeithas neillduol gan y Methodistiaid yn Nghayo. Prin y geil hyn fod yn gywir, oblegyd dengys cofnodau Trefecca fod yno seiat gref, yn rhifo 44 o aelodau, yr hon oedd dan arolygiaeth James Williams, mor foreu a 1743. Tybia Mr. Hughes, awdwr Methodistiaeth Cymru, i'r seiat yn Nghayo ddiflanu o fod, neu ynte wanhau yn ddirfawr, yn ystod enciliad Harris, a'r terfysg a ddilynodd. "Y pryd hwnw," meddai, "y llaesodd dwylaw llawer o'r cynghorwyr cyntefig, y dyrysodd ysgogiad y peiriant crefyddol a osodid i fynu gan y Diwygwyr, ac y chwalwyd lliaws o'r mân eglwysi a gasglesid at eu gilydd y blynyddoedd blaenorol." Digon tebyg mai felly y dygwyddodd yn Nghayo, a darfod i'r achos gael math o ail gychwyniad tua'r flwyddyn 1760.

Nid hir y bu William Llwyd gydag Annibynwyr Crugybar; trwy offerynoliaeth y Methodistiaid y cawsai ei ddwyn i adnabyddiaeth o'r Gwaredwr, a chyda hwy yr oedd am gyfaneddu. Felly, pan yr ail gychwynwyd yn Nghayo, er mai tua. deunaw oedd rhif yr aelodau yno, ymunodd a'r gymdeithas ar unwaith. Ar yr un pryd, ni fu unrhyw deimlad anngharedig rhyngddo a'r eglwys Annibynol; parhaodd mewn cyfeillgarwch â hi, ac a'i gweinidog, tra fu byw. Er yn ddyn newydd, yr oedd arno angen am fagwraeth ysprydol, ac ymddengys mai tan weinidogaeth Daniel Rowland yn benaf y caffai hyny. Cyrchai yn fisol i Langeitho tros ei holl ddyddiau, oni fyddai amgylchiadau yn ei luddias; ac fel y lliaws a ymgasglai yno, cyfranogai yn helaeth o'r danteithion ysprydol a arlwyid mor ddibrin. Pan oedd tua dwy-ar-hugain oed, penderfynodd ymroddi i waith yr efengyl, a daeth yn bur fuan yn nodedig o boblogaidd. Ei brif nodwedd fel pregethwr oedd tân, yn nghyd â llais soniarus a nerthol. Yr oedd ei hun o deimladau cyffrous, ac yn nodedig o danbaid; a thuedd ei weinidogaeth oedd cyffroi eraill. Nid oedd dim a safai o'i flaen pan gaffai y gwynt o'i du. Lledai ei hwyliau i'r awelon; a byddai ei lestr yn morio yn ogoneddus. Nid oedd yn amcanu goleuo y deall yn gymaint; at y galon yr anelai yn benaf. Nid oedd i'w gymharu â Rowland a Harris o ran dirnadaeth o ddyfnion bethau Duw; ac yr oedd yn mhell o fod i fynu â hwy mewn mater a meddwl; ond meddai yntau ddawn arbenig, hollol annhebyg i eiddo pawb arall, a bendithiwyd ef i ddychwelyd canoedd at Grist. Meddai Mr. Charles: "Yr oedd ucheledd a phob rhagoriaethau yn noniau Mr. Daniel Rowland, dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, er syndod a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr. Yr oedd Mr. Llwyd yn fwy arwynebol, ond yn efengylaidd, yn wlithog, yn hyfryd, ac yn doddedig iawn; a pheth sydd fwy, ac yn coroni y cwbl, yr oedd Duw yn ei arddel ac yn mawr lwyddo ei lafur."

Priododd ferch i un Mr. John Jones, o'r Black Lion, Llansawel, ac aethant i gyfaneddu i Henllan, fferm yn ymyl Cayo oedd yn eiddo iddynt. Yr oedd Mrs. Llwyd yn ddynes o dduwioldeb amlwg, ac o yspryd tanbaid; yn ei ffordd ei hun, yr oedd lawn mor hynod a'i phriod. Teithiai Mr. Llwyd lawer: ymwelai yn fynych â phob ran o Gymru; a chan fynychaf byddai Mrs. Llwyd yn ei ganlyn fel cyfaill," a dywedir y byddai yn arfer dechreu yr odfaeon iddo. Yn ngwres ei deimlad, byddai Mr. Llwyd ei hun yn tori allan yn aml i folianu yr Iesu ar ganol ei bregeth; a chyfranogai ei wraig yn yr hwyl nefol, a byddai yn fynych yn neidio ac yn molianu ar lawr y capel. Clywsom am dano unwaith wedi myned allan i dŷ'r capel, gan adael y dorf ar ol yn gorfoleddu yn hyfryd, ac yn mysg y llu, ei briod. Yn mhen ychydig dilynwyd ef gan un o'r blaenoriaid, yr hwn a ddywedai wrtho:—"Y mae Mrs. Llwyd yn molianu yn ogoneddus yn y tŷ cwrdd." Meddai yntau yn ol: "Gadewch iddi; un gyfrwys iawn yw hi; nid yw byth yn gwthio ei llestr i'r môr, nac yn codi hwyl, ond pan fyddo yr awel o'i thu; ond am danaf fi, rhaid i mi forio yn aml yn erbyn y gwynt a'r tonau." Yn mhen amser gwedi hyn, os nad ydym yn camgymeryd, dangosodd y Gymdeithasfa ryw gymaint o anfoddlonrwydd i bregethwyr gymeryd eu gwragedd o gwmpas ar eu teithiau, oblegyd y teimlid anhawsder yn fynych i gael llety priodol iddynt.

Diau fod "Llwyd, o Gayo," yn meddu cymhwysder arbenig ar gyfer yr oes yr oedd yn byw ynddi. Daeth yn fuan yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd. Dywed Mr. Charles am dano yn mhellach: "Yr oedd yn mhob ystyr yn enillgar, ei berson yn hardd, ei ystymiau yn addas, ei lais yn beraidd, a'i areithyddiaeth yn barod, yn fywiog, yn hysain, ac yn weddus." Ac meddai Christmas Evans:—

{{nop}

"William Llwyd a'i ddalen wyrdd."

Rhaid ei fod yn areithiwr wrth natur; a phan y cysylltir hyn â chyffro ei yspryd, nid rhyfedd iddo enill enwogrwydd dirfawr fel pregethwr, a bod y wlad yn tyru i'w wrando. Er y pregethai weithiau yn argyhoeddiadol, prif destun ei weinidogaeth oedd Crist a'i iachawdwriaeth, golud gras, eangder yr addewidion, a pharodrwydd trugaredd ddwyfol i ymgeleddu y pechadur gwaelaf a thruenusaf.

Tangnefeddwr, carwr heddwch,
Meddyg mwyn at glwyfau'r gwan;
Ond dwrn o blwi ar ben rhagrithiwr,
I'w guro i lawr, i'w gael i'r lan."


Yn ei amser bendithiwyd Cymru a nifer o ddiwygiadau grymus. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod, yn hanes Howell Harris, at yr un a gymerodd le tua'r flwyddyn 1763, pan ddaeth hymnau Williams, Pantycelyn, allan gyntaf, ac y llanwyd y wlad a'r hyn a eilw Harris yn yspryd canu. Ymddengys iddo weled chwech o rai ychwanegol. Cymerodd un le yn 1773, yr ail yn 1780, y trydydd yn 1789, y pedwerydd yn mhen blwyddyn gwedi, sef yn 1790, y pumed yn 1894, a'r chwechfed yn 1805. Mewn cysylltiad â'r diwygiadau hyn yr oedd Mr. Llwyd yn dra gweithgar. Porthai yr ieuenctyd â didwyll laeth y Gair; fel bugail ffyddlawn gwyliai drostynt, a chadwai ddysgyblaeth fanwl arnynt. Meddai Mr. Charles: "Ei bwyll, ei arafwch, a'i ddoethineb, yn nghyd â'i ffyddlondeb yn ymdrin â chyflyrau dynion, oedd yn nodedig o werthfawr." Nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef yn ei sir ei hun; a phrawf o'r lle uchel a feddai yn syniad ei frodyr yw y ffaith mai efe a gafodd yr anrhydedd o bregethu pregeth angladdol y Prif-fardd o Bantycelyn.

Bu yn y weinidogaeth am tua phum'mlynedd-a-deugain. Yn ystod y cyfnod maith hwn pregethodd lawer yn yr ardaloedd o gwmpas ei gartref, heblaw, fel y darfu i ni sylwi, deithio holl Gymru lawer gwaith ar ei hyd a'i lled. Parhaodd yn boblogaidd hyd derfyn ei oes, ac ni fu ystaen ar ei gymeriad. Yn ei ddyddiau diweddaf, ystyrid ef, a hyny yn hollol deilwng, yn un o dadau y Cyfundeb. Sul olaf y bu byw, pregethodd yn Llanddeusant a Llansadwrn. Daeth adref yn glaf, a chwedi pum' niwrnod o gystudd gorphenodd ei yrfa, Ebrill 17, 1808, yn 67 mlwydd oed. Caniataodd yr Arglwydd iddo ei ddymuniad, sef cael marw heb fod yn hir yn sâl. Drwy ystod ei gystudd byr yr oedd ei feddwl yn hollol dawel, gan bwyso yn gyfangwbl ar haeddiant a ffyddlondeb Iesu Grist. Pan y gofynodd un o'r brodyr iddo, beth oedd yn feddwl am yr athrawiaeth y bu yn ei phregethu am gynifer o flynyddoedd. Atebai: "Yr wyf yn mentro fy mywyd arni i dragywyddoldeb."

"Yn foreu, foreu, aeth i'r winllan,
Yn lân fe weithiodd hyd brydnhawn."


Dygwyd yr hyn oedd farwol o hono, o Henllan, lle y treuliasai y rhan fwyaf o'i oes, i fynwent Cayo, ac yno rhoddwyd ef i orwedd hyd ganiad yr udgorn.

Y mae yr un sylw ag a wnaethom am Dafydd Morris yn wir hefyd am William Llwyd, sef iddo enill poblogrwydd cyffredinol yn nyddiau Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Jones, Llangan, ac y mae hyn yn brawf o dalentau llawer rhagorach na'r cyffredin, a medr arbenig i draddodi yr efengyl.

Gyda golwg ar y tri phregethwr hyn, William Davies, Castellnedd, Dafydd Morris, a William Llwyd, y mae pob lle i gasglu na chymerwyd darluniau o honynt; o leiaf, er dyfal chwilio, yr ydym ni wedi methu darganfod yr un; ond gan y meddent y fath enwogrwydd, ac felly fod pob peth cysylltiedig a hwy o'r fath ddyddordeb, yr ydym wedi gosod i mewn amryw ddarluniau o leoedd y dalient gysylltiad â hwynt.

Nodiadau

[golygu]
  1. Methodistiaeth Cymru.
  2. Y Tadau Methodistaidd, tudal. 426.
  3. Trysorfa Ysprydol.