Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Griffith Jones, Llanddowror

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr

PENOD II


GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR

Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei ordeiniad Ei glod fel pregethwr yn ymledu —Yn dechreu pregethu y tu allan i'w blwyf—Yr ysgolion elusengar—clerigwyr yn wrthwynebol—Ymdaeniad yr ysgolion trwy yr oll o Gymru—Argraffu Beiblau—Cyfansoddi llyfrau—Ei gysylltiad a'r Methodistiaid—Ei angau.

Ni chafodd Cymru er pan y mae yn wlad ragorach cymwynasydd na'r Hybarch Griffith Jones. Ni sangwyd ei daear gan wladgarwr mwy pur na mwy anhunangar, ac ni anadlodd neb ei hawyr ag y mae ei enw yn fwy clodforus, a'i goffadwriaeth yn fwy bendigedig hyd y dydd hwn. Priodol iawn y gelwir ef yn Seren Foreu y Diwygiad. Yr oedd ar y maes yn mhell o flaen Rowland a Harris; ymdaflasai gyda holi yni a bywiogrwydd ei natur i'r gorchwyl mawr o oleuo ac efengyleiddio ei gyd-genedl; gyda y gorchwyl hwn ni phallodd, er y lliaws gwrthwynebiadau a'i cyfarfu, nes cau o hono ei lygaid yn yr angau; ac wrth farw gwasgai cyflwr ei wlad yn drwm ar ei feddwl, a gwnaeth ddarpariaethau yn ei ewyllys er cario yn mlaen y gwaith da oedd ef wedi gychwyn. Bydd y genedl Gymreig dan ddyled i Griffith Jones tra y byddo haul.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1684, fel y dengys yr argraff ar y gareg fedd a osodwyd i fynu iddo gan Madam Bevan, yn mhlwyf Cilrhedyn, yn nghydiad Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Yr oedd ei rieni yn grefyddol ill dau, ac yn aelodau gyda'r Ymneillduwyr. Tybia Dr. Rees mai i Henllan y perthynent, i'r hwn le y deuai John Thomas, Llwynygrawys; David Lewis, Cynwyl, a gweinidogion poblogaidd eraill, yn aml i bregethu, ac mai yno y derbyniodd ei argraffiadau crefyddol cyntaf, ynghyd a'i chwaeth at yr athrawiaethau Calfinaidd. Eiddil oedd ei gyfansoddiad; pan yn blentyn blinid ef yn fawr gan ddiffyg anadl, fel na allai gerdded ar draws yr ystafell heb boen ac anhawsder; ond cryfhaodd i raddau wrth dyfu i fynu, ac mewn rhan medrodd ysgwyd yr afiechyd i ffwrdd. Bu ei dad farw pan nad oedd ond ieuanc, felly disgynodd holl ofal ei ddygiad i fynu ar ei fam. Dywed Mr. Charles ei fod o duedd grefyddol o'i febyd. Dangosodd hefyd fywiogrwydd cynheddfau, ynghyd ag awyddfryd i ddysgu, yn foreu. Gan y teimlai awydd i ymgyflwyno i weinidogaeth yr efengyl, trefnodd ei fam iddo gaei pob manteision addysg dichonadwy; ac wedi iddo fyned tu hwnt i ysgolion yr ardal, cafodd ei anfon i Gaerfyrddin, naill ai i'r Athrofa Ymneillduol a gedwid yno, neu ynte i Ysgol Ramadegol. Croniclir iddo gael ei ordeinio yn ddiacon yn yr Eglwys Sefydledig, Medi, 1708, gan yr Esgob Bull, a darfod iddo dderbyn ei lawn urddau trwy yr un gŵr, Medi, 1709. Pa beth a barodd iddo fwrw ei goelbren yn yr Eglwys, ac yntau wedi cael ei ddwyn i fynu yn mhlith yr Ymneillduwyr, nis gwyddom; ond sicr yw mai nid unrhyw fanteision bydol ddarfu ddylanwadu ar ei feddwl, oblegyd profa ei holl hanes ei fod yn Eglwyswr cryf a chydwybodol. Tebygol mai cuwradiaeth eglwys Cilrhedyn, ei blwyf genedigol, a gafodd ar y cyntaf.

Yn bur fuan dechreuodd bregethu gyda nerth a difrifwch mawr. Dywed Mr. Charles nad oedd dirnadaeth Griffith Jones o athrawiaethau yr efengyl a threfn yr iachawdwriaeth ond aneglur ar y cychwyn; fod ei foreu yn dywyll, ac mai yn raddol y pelydrodd y goleuni dwyfol ar ei feddwl yn ei ddysgleirdeb a'i ogoniant. Casglai Mr. Charles hyn oddiwrth ei lythyrau at Madam Bevan. Ar yr un pryd amlygai ynddynt lawer o ddwys ystyriaeth a difrifwch sobr. Ymroddodd i astudio duwinyddiaeth, a chan ei fod yn ŵr o gynheddfau cryfion, a'i ddeall yn gyflym, a'i gof yn afaelgar, daeth yn fuan yn dra hyddysg yn ysgrifeniadau y duwinyddion mwyaf enwog, Saesneg a thramor. "Trwy gynorthwyon dwyfol," meddai Mr. Charles, "a bendith Duw ar ei ddiwydrwydd, cynhyddodd yn brysur mewn gras a gwybodaeth o Dduw, a'r Iachawdwr Iesu Grist."

Yn mhen yspaid cafodd guwradiaeth plwyf Lacharn, ac yma ymddengys iddo gynyddu yn ddirfawr mewn hyawdledd a doniau gweinidogaethol, a darfod i'w bregethau hyawdl ac efengylaidd beri cyffro dirfawr yn y plwyf, ynghyd a'r plwyfydd cylchynol. Priododd a Miss Philhps, merch Syr Erasmus Philhps, Picton Castle. Yr oedd yn ddynes nodedig am ei duwioldeb; nid annhebyg mai trwy ei weinidogaeth ef y cawsai ei hargyhoeddi; ond yr oedd yn wanllyd o iechyd, ac ymddengys na fu iddynt blant. Yn mhen rhyw ddwy flynedd gwedi derbyn ei lawn urddau, cyflwynwyd iddo berigloriaeth Llandilo, Abercowyn; ac yn y flwyddyn 171 6, cafodd ficeriaeth Llanddowror, gan ei frawd-y-nghyfraith, Syr John Phillips, noddwr y fywoliaeth. Yr oedd Syr John Phillips yn ŵr tra boneddigaidd, a dywed Mr. Charles ei fod yn casglu oddiwrth ei lythyrau mai crefydd a duwioldeb oedd wrth wraidd y boneddigeiddrwydd. Cadarnheir y dystiolaeth hon gan liaws o ffeithiau. Pan yn Llundain ymgyfathrachai Sir John a Whitefield ac a'r ddau Wesley. Ceir cyfeiriadau mynych ato yn eu dydd-lyfrau fel boneddwr yn rhagori mewn crefydd; ac fel hwythau, ar un tymor o'i oes, bu yn mynychu y Gymdeithas Forafaidd yn Fetter Lane. Heblaw gwasanaethu yn Llandilo a Llanddowror, ymwelai Grifíìth Jones yn bur aml ag eglwys Llanllwch; a than ei weinidogaeth yma yr argyhoeddwyd Miss Bridget Vaughan, merch y Derllysg, yr hon y mae ei henw yn glodfawr trwy holl Gymru fel Madam Bevan. Bu y foneddiges hon yn gyfeilles iddo tra y bu byw; cefnogai ef yn mhob modd gyda ei lafur; ac yr oedd ei phwrs yn wastad yn agored pan fyddai galw. Ymledodd clod Griffith Jones fel pregethwr tros y wlad, cyrchai y bobl yn dyrfaoedd i'w wrando. Clywyd son am ei hyawdledd a'r nerth oedd yn cyd-fyned a'i weinidogaeth hyd yn nod yn Ysgotland, a chafodd ei alw i bregethu o flaen y frenhines Anne. Ein hawdurdod ar hyn yw Williams, Pantycelyn, yr hwn, heblaw bod yn emynydd digymhar, oedd yn hanesydd gwych. Fel hyn y dywed efe yn y farwnad ragorol a gyfansoddodd iddo: —

" Fe gadd Scotland oer ei wrando,
Draw yn eitha 'r Gogledd dir,
Yn dadseinio maes yn uchel
Bynciau 'r iachawdwriaeth bur:
Cadd myrddinau deimlo geiriau
Hedd, o'i enau 'n llawer man;
Clywodd hithau rym ei ddoniau
Frenhinol ardderchocaf Anne."

Daeth dan sylw y Gymdeithas er lledaenu yr Efengyl mewn Parthau Pellenig fel un cymwys i'w anfon allan yn genhadwr i'r India; y mae llythyrau yn awr ar gael sydd yn dangos i daerineb dirfawr gael ei arfer arno; ac yn y diwedd cydsyniodd yntau. Ni wyddis pa beth a'i rhwystrodd i roddi ei fwriad mewn grym. Efallai mai cariad at ei gydwladwyr, a thosturi at iselder eu cyflwr, a'i gorchfygodd. Ond yr oedd llaw Rhagluniaeth yn y peth; yr oedd ganddi hi waith mawr i Griffith Jones yn ngwlad ei enedigaeth.

Rhydd Mr. Charles y desgrifiad canlynol o hono fel pregethwr: "Yr oedd ei destynau a'i ddull o ymadroddi yn neillduol o addas i gyflyrau ei wrandawyr; yn aml yn finiog, yn danllyd, ac yn ddeffrous; bob amser yn athrawiaethol, yn ddefnyddiol, ac yn fucheddol; yn cadw yn mhell oddiwrth benrhyddid Antinomaidd, a deddfoldeb digysur ac anffrwythlawn. Yr olwg arno yn esgyn i'r areithfa oedd neillduol sobr a phwysig. Darllenai y gweddïau gyda llawer o ddifrifoldeb, a'r llithiau yn arafaidd ac yn ddeallus. Yn ei bregethau dechreuai yn bwyllog, a dosranai y defnydd mewn llaw yn olau ac yn rheolaidd, mewn dull cyfeillgar, nid annhebyg i ymddiddan. Ond fel yr elai i mewn i'w fater, byddai ei yspryd yn tanio ac yn gwresogi, a'i ymadroddion yn fywiog ac yn awdurdodol, nes meistroli'r gwrandawyr yn gwbl. Yr oedd ei agwedd gorphorol yn barchus, ei lais yn eglur ac yn beraidd, ei resymiadau yn gedyrn, ei ddarluniadau yn ardderchog, a'i gynghorion a'i rybuddion yn llym, ac yn afaelgar yn y gydwybod. Yr oedd ei holl enaid yn y gwaith, ac yn profi yn fywiog bob teimlad addas i'r gwirionedd a draddodai.

I ddweyd y cwbl am dano mewn un gair, yr oedd wedi ei wisgo a nerth o'r uchelder, ac am hyny yr oedd yn gweini yn mhethau sanctaidd Duw, gyda harddwch a gweddeidd-dra addas, yn awdurdodol ac yn fuddiol." Y mae y darluniad hwn o hono gan Mr. Charles yn nodedig o fyw. Braidd nad yw ein dychymyg yn porteadu gŵr Duw yn esgyn yn araf ar hyd grisiau y pwlpud, gydag osgo difrifddwys, a sobrwydd tragywyddoldeb yn eistedd ar ei wedd. Wedi darllen y llithiau a'r gweddïau yn hyglyw dyna ef yn cymeryd ei destun ac yn rhanu ei fater; ymadrodda yn araf ar y dechreu, yn ol rheolau manylaf areithyddiaeth; ond yn fuan gwresoga ei galon tan ddylanwad ei fater; rhydd y gwirionedd ei holl yspryd yn fflam; y mae yn awr fel angel yn ehedeg yn nghanol y nef a'r efengyl dragywyddol ganddo; arllwysa ar y dyrfa fawr sydd wedi dyfod i'w wrando raiadrau o hyawdledd cysegredig; ac yswatia hithau yn ei bresenoldeb wedi ei llwyr orchfygu. Nid rhyfedd i'w glod fyned ar led; y tebygolrwydd yw na chlywyd y fath bregethu o fewn eglwysi Cymru er ys canrifoedd, os erioed. Daw galwadau amdano o'r plwyfi cymydogaethol; cred yntau, fel y gwnaeth Paul am yr alwad o Macedonia, eu bod yn wys oddi uchod, ac ufuddha hyd eithaf ei allu. Yn aml byddai yr eglwysi yn rhy fychain i ddal y dorf; pregethai yntau yn y fynwent, gyda chofadail un o'r meirw yn bwlpud tan ei draed, a'r nefoedd yn dô uwch ei ben. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu marwnad Williams eto: —

"Allan 'i aetli yn llawn o ddoniau,
I bregethu 'r 'fengyl wir,
Ac i daenu iachawdwriaeth
Olau, helaeth 'r hyd y tir;
Myrdd yn cludo idd ei wrando,
Llenwi'r llanau mawr, yn llawn,
Gwneyd eglwysydd o'r mynwentydd
Cyn ei glywed ef yn iawn."

Heblaw bychander yr eglwysi yr oedd rheswm arall paham y pregethai yn aml yn y mynwentydd, sef eiddigedd a dig lliaws o'r clerigwyr. Cynhyrfent drwyddynt oblegyd ei fod yn meiddio dyfod i'w plwyfi heb eu caniatâd; yr oeddynt ar dori ar eu traws gan genfigen ato oblegyd ei dalent a'i boblogrwydd; felly cloent yr eglwysi rhagddo, a chymerent yr agoriadau adref gyda hwynt yn eu llogellau. Ond nis gallent trwy hyn gau genau Griffith Jones. Yr oedd ef yn dyheu am bregethu, a'r bobl yn dyheu am wrando; felly, fel y dywed Williams, gwnai eglwys o'r fynwent.

Yn raddol ymestynodd ei deithiau i'r siroedd cyfagos, ac yn wir, i'r oll o'r Deheudir. Ar daith bregethwrol yr oedd pan yr argyhoeddwyd Daniel Rowland trwy ei weinidogaeth, yn eglwys Llanddewi-brefi; a phe na wnaethai ddim yn ystod ei oes ond bod yn offeryn troedigaeth Rowland, buasai wedi gwneyd gwasanaeth ardderchog i grefydd. Gan mai ar wythnosau y Pasg a'r Sulgwyn yr arferai Cymry yr oes hono gynal yn benaf eu cyfarfodydd gloddestgar, a'u campau annuwiol, trefnai ef ei deithiau ar yr adegau hyny, er mwyn pregethu y cyfryw lygredigaethau i lawr, a dywedir na fyddai nemawr bregeth yn myned heibio heb fod rhywrai yn cael eu hachub. Byddai ei gynulleidfa yn aml yn cael eu gwneyd i fynu o oferwyr a dihyrod penaf y wlad, wedi ymgasglu oblegyd cywreinrwydd; ond ni phetrusai ddynoethi eu drwg arferion. Darlunia Mr. Charles eu hagwedd pan yn gwrando. Ar y cyntaf ymddangosent yn wyllt ac anifeilaidd; ond yn raddol, fel y pregethai Mr. Jones, gwelid hwy yn sobri ac yn difrifoli; dechreuai y dagrau lifo yn nentydd dros eu gruddiau; yn y man y maent yn wylo yn uchel, ac yn gwaeddu, "Pa beth a wnawn i fod yn gadwedig." Ai yntau yn ei flaen i egluro trefn yr iachawdwriaeth iddynt, a phregethai weithiau dros dair awr o amser.

Ond er enwoced oedd Griffith Jones fel efengylwr, braidd nad yw ei glod yn fwy fel addysgydd, a thrwy yr Ysgolion Elusengar Cylchynol a sefydlwyd ganddo gwawriodd cyfnod newydd ar Gymru. Dywedir, ac ail-ddywedir ddarfod iddo gael y syniad am danynt oddiwrth ysgolion Thomas Gouge. Ond nid oedd unrhyw debygolrwydd rhyngddynt. Ysgolion Saesneg oedd eiddo Thomas Gouge; ysgolion Cymraeg oedd eiddo Griffith Jones, a ddysgu Cymraeg yn unig a wneyd ynddynt. Yr hyn, yn ol a wyddom, a ddygai fwyaf o debygolrwydd i ysgolion Griffith Jones, oedd elusen John Jones, Deon Bangor,[1] ond ei bod ar raddfa lai. Yn ei ewyllys, dyddiedig Mawrth 10, 1719, gadawodd y Deon y swm o haner can' punt i beriglor Llandegfan, Môn, ac i'w olynwyr hyd byth, at wasanaeth y tlodion; fel ag y byddai i'r llôg oddiwrth yr arian gael ei ddefnyddio "i ddysgu deg o blant tlodion y plwyf i ddarllen y Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn Gymraeg, mewn modd eglur; ac hefyd i'w haddysgu yn egwyddorion y grefydd Gristionogol yn ol Catecism Eglwys Loegr. "Gadawodd y Deon Jones y cyffelyb swm at yr un amcan i blwyfi Llanfair-yn-Neubwll, Llanffinau, Llanfihangel-yn-Nhywyn, Llanfihangel Ysgeifiog, Rhoscolyn, a Phentraeth, oll yn Môn. Cawn yr un gŵr yn yr unrhyw ewyllys yn gadael y swm o gan' punt i reithor Llanllechid, Arfon, fel ag y byddai i'r llôg gael ei ddefnyddio hyd byth i addysgu deuddeg o blant tlodion y plwyf "i ddarllen Cymraeg yn berffaith, ac i'w hyfforddi yn Ngatecism Eglwys Loegr yn Gymraeg, fel y gallent nid yn unig ei adrodd, ond hefyd trwy eglurhad deallus a duwiol ei ddeall; ac hefyd fel y byddont yn alluog i ddarllen y Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn eglur; ac os gellir, eu hyfforddi ryw gymaint mewn ysgrifenu a rhifo." Gadawodd yr un swm o gan punt i'r unrhyw bwrpas i blwyfi Cyffyn, Aber, a Bangor, oll yn Sir Gaernarfon. I blwyfì Llanddecwyn, a Llanfihangel-y-Traethau, yn Sir Feirionydd, gadawodd y Deon cymwynasgar y swm o haner can' punt yr un at yr amcan a nodwyd. Dyma yr unig ymgais gwybyddus i ni, yn flaenorol i ddyddiau Griffith Jones, i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Ond nid yw yn ymddangos mai canlyn y Deon a wnaeth Griffìth Jones; yn wir, nid oes genym un prawf y gwyddai am ei ymgais; yn hytrach, cynllun a ddaeth yn raddol i'w feddwl ef ei hun oedd yr Ysgolion Cylchynol, er cyfarfod yr anwybodaeth dirfawr a ffynai yn y wlad ar y pryd.

Yr hanes a rydd Mr. Charles am ddechreuad yr ysgolion hyn yw a ganlyn: — "Byddai Mr.Griffith Jones, y Sadwrn o flaen gweinyddiad yr ordinhad o swper yr Arglwydd, yn cadw math o gyfarfod paratoad. Darllenai y gwasanaeth a'r Llithiau priodol; yna gofynai a oedd rhywun yn y gynulleidfa wedi dal sylw neillduol ar ryw adnod. Os enwid adnod neu adnodau, eglurai yntau hwy mewn modd deallus, cyfaddas i amgyffredion y bobl." Ond caffai fod y rhai ag yr oedd mwyaf o eisiau y cyfryw addysg arnynt yn sefyll yn ol, yn enwedig dynion wedi tyfu i fynu, ac wedi heneiddio mewn anwybodaeth. Er meddyginiaethu hyn, cyhoeddai fod bara yn cael ei gyfranu i'r tlodion ar y Sadyrnau misol yma, wedi ei brynu a'r arian a offrymid yn y cymun. Pan ddeuent yn mlaen i dderbyn y bara, gosodai hwy yn rhes, a gofynai ychydig o gwestiynau hawdd iddynt, ond mewn dull caredig, rhag eu dyrysu na'u cywilyddio. Ond er ei holl diriondeb, yr oedd llawer o gallineb y sarff yn Griffith Jones, ac fel na adewid ei ofyniadau heb atebiad gofalai am hyfforddi rhywrai yn dda yn flaenorol, fel y byddent yn foddion i dynu y lleill yn mlaen. Trwy hyn daeth yn gydnabyddus a'r anwybodaeth dirfawr am bethau yr efengyl, hyd yn nod am ei hegwyddorion elfenol, oedd yn y wlad, a deallodd nad oedd yn bosibl dyrchafu y genedl heb gael rhyw drefniant i ddysgu y bobl i ddarllen Gair Duw. Sefydlodd ysgol ddyddiol yn ei bentref ei hun i ddysgu plant a phobl mewn oed i ddarllen Cymraeg; a chynhelid yr ysgol mewn rhan ag arian y cymun, ond sicr yw y deuai rhan fawr o'r arian o'i logell ef ei hun. Llwyddodd yr ysgol, nid yn unig y tu hwnt i'w ddisgwyliad, ond yn mhell y tu hwnt i'w obeithion. Heblaw plant, deuai dynion mewn oed, a hen bobl iddi, y rhai a wylent yn uchel, mewn rhan o alar oblegyd eu hanwybodaeth, ac mewn rhan o lawenydd oblegyd mawredd y fraint oedd yn cael ei hestyn iddynt. Gwelid hyd yn nod y deillion yn cyniwair yno, er mwyn clywed Gair Duw yn cael ei ddarllen, ac er mwyn ei ddysgu ar eu cof. Arweiniodd hyn i sefydliad ysgolion eraill mewn gwahanol ranau o'r wlad. Agorwyd yr ysgol gyntaf yn mhentref Llanddowror, tua'r flwyddyn 1730, ryw chwech mlynedd cyn cychwyniad Methodistiaeth; ac yn y flwyddyn 1737, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Welsh Piety, yn rhoddi crynodeb o'r amgylchiadau ddarfu arwain i blaniad yr ysgolion, rhesymau drostynt, ac atebion i wrth-ddadleuon yn eu herbyn. Yn mhen pymtheg mlynedd, cawn fod rhif yr ysgolion wedi cynyddu i 116, a bod ynddynt 5685 o ysgolheigion yn derbyn addysg. Nid oedd moddion bydol Griffith Jones, na'r cynorthwy a dderbyniai oddiwrth ei ffrynd, Madam Bevan, yn ddigonol i gynal y nifer mawr yma o ysgolion; ond cafodd gymorth effeithiol oddiwrth wyr parchus, yn benaf o Loegr, fel na bu prinder arian at y gwaith.

Cynllun Griffith Jones oedd cyflogi nifer o ysgolfeistriaid effeithiol, a'u gwasgar trwy wahanol ranau y wlad, fel y byddai y galw am danynt. Dymunol ganddo oedd fod yr alwad yn dyfod oddiwrth offeiriad y plwyf; ond oni ysgogai ef, anfonid yr ysgolfeistr ar ddymuniad yr ardalwyr. Fel rheol, yr oedd yr ysgol i barhau mewn ardal neu blwyf am chwarter blwyddyn; ystyrid y gallai plentyn neu ddyn o alluoedd cyffredin ddysgu darllen y Beibl yn weddol dda yn hyny o amser, a symudid yr ysgol i gymydogaeth arall ar gylch; ond weithiau, dan amgylchiadau neillduol, cedwid hi yn yr un lle am haner blwyddyn neu flwyddyn, Yn yr ysgolion hyn dysgid yr ysgolheigion i ddarllen y Beibl yn yr iaith Gymraeg; hyfforddid hwy yn egwyddorion Cristionogaeth yn ol Catecism Eglwys Loegr, dysgid hwy i ganu Salmau, a defnyddid pob moddion i'w diwyllio a'u crefyddoli. Nid plant yn unig a addysgid, fel yr awgrymwyd, ond dynion mewn oed a hen bobl, ac ar gyfartaledd yr oedd dwy ran o dair o'r ysgolheigion yn rhai wedi tyfu i oedran. Fel ag i roddi mantais i bawb, cynhelid yr ysgolion y nos yn gystal a'r dydd; ac os byddai rhywrai yn methu, oblegyd amgylchiadau, dyfod i'r ysgol na'r nos na'r dydd, disgwylid i'r athrawon ymweled a hwy yn eu cartrefi, a rhoddi gwersi iddynt yno. Mewn gwirionedd, ni fu erioed drefniant ystwythach a mwy hylaw nag ysgolion Griffìth Jones; cyfaddasid hwy at bob math o oedran ac at bob math o amgylchiadau; a rhaid fod pwy bynag na fedrai ddarllen yr Ysgrythyr lân yn gwbl ddiesgus. Yn mhen blynyddoedd, yr oedd yr ysgolfeistri i ddychwelyd i'r lleoedd y buasent ynddynt gyntaf, er addysgu yr ieuenctyd oeddynt wedi cyfodi yn ystod eu habsenoldeb. A ganlyn sydd grynodeb o reolau yr ysgolion, fel eu ceir yn y Welsh Piety.

1. Rhaid i'r ysgol feistriaid fod yn sobr, yn caru duwioldeb, yn aelodau o Eglwys Loegr, ac yn ffyddlawn i'r brenin ac i'r llywodraeth.

2. Rhaid iddynt, heblaw dysgu yr ysgolheigion i sbelian, ac i ddarllen y cyfryw lyfrau ag a bwyntir iddynt, eu hyfforddi hefyd ddwy waith yn y dydd yn Nghatecism Eglwys Loegr; a'u dysgu i ateb yr offeiriad yn barchus, yn fedrus, ac yn ddefosiynol yn ngwasanaeth yr Eglwys.

3. Rhaid i'r Meistri a'r ysgolheigion roddi eu presenoldeb yn foreu yn yr ysgol, a dyfod gyda chysondeb bob Sabbath i'r addoliad cyhoeddus; ac yna ar y Llun canlynol, fod yr ysgolheigion i gael eu holi yn fanwl ynghylch y penodau a ddarllenwyd, y testun, a phenau y bregeth a glywsant yn yr Eglwys y dydd blaenorol.

4. Rhaid i'r meistriaid roddi i mewn, yn mhen y chwarter, gyfrif manwl o'r ysgolheigion, eu henwau, a'u hoedran, a'r amser y bu pob un o honynt yn yr ysgol.

Er sicrwydd.fod y rheolau hyn yn cael eu cario allan, a bod y meistriaid yn cyflawni eu dyledswydd yn ffyddlawn, gosodid yr ysgol yn mhob cymydogaeth, hyd ag oedd bosibl, dan reolaeth yr offeiriad, yr hwn oedd i anfon i mewn adroddiad am ymddygiad yr ysgolfeistr, a'r llwyddiant oedd wedi bod ar ei ymdrechion yn ystod y tymor. Cawn yn y Welsh Piety nifer dirfawr o'r cyfryw adroddiadau, a dygant oll dystiolaeth uchel i ddiwydrwydd a duwioldeb y meistriaid, ynghyd a'r cyfnewidiad dirfawr a gawsai ei effeithio drwyddynt yn moesau yr ieuenctyd, a'u dull o ymddwyn yn nhŷ Dduw. Cafodd Griffith Jones gryn anhawsder i gael ysgolfeistri priodol, y rhai a gyfunent grefyddolrwydd yspryd, a bywyd diargyhoedd, gyda medr i addysgu. Dywed Dr. Rees ddarfod iddo gael ei orfodi i gymeryd y nifer fwyaf o honynt o fysg yr Ymneillduwyr, gan nad oedd nemawr yn yr Eglwys Wladol yn meddu y cymhwysderau priodol. I hyn nid oes rhith o sail. Noda rheolau yr ysgolion yn bendant y rhaid i bob ysgolfeistr fod yn aelod o Eglwys Loegr; a dywed Griffith Jones ei hun yn y Welsh Piety am 1745, sef yn mhen pymtheg mlynedd gwedi cychwyniad yr ysgolion, ddarfod i'r rheol ynglyn a hyn gael ei chadw yn ddigoll. Cyn y cai unrhyw Ymneillduwr ei gyflogi i fod yn ysgolfeistr dan Griffith Jones, rhaid iddo yn gyntaf lwyr-ymwrthod a'i Anghydffurfiaeth, a dyfod yn gymunwr yn yr Eglwys. Gorchfygodd Griffith Jones yr anhawsder gyda golwg ar athrawon drwy sefydlu math o Goleg Normalaidd yn Llanddowror, dan ei arolygiaeth ei hun, yn yr hwn y parotoid athrawon; ac hefyd yr addysgid personau ar gyfer y weinidogaeth.

Ni chafodd y gwaith da hwn fyned yn ei flaen heb wrthwynebiadau. Nid oedd yr esgobion yn cydymdeimlo o gwbl a'r ysgolion, er na feiddient eu gwarafun yn hollol. Efallai mai y prif reswm am eu gwrthwynebiad oedd fod yr ysgolion yn Gymraeg. Saeson oedd yr esgobion; ni feddent unrhyw gydymdeimlad a dim Cymreig; nid oeddynt yn deall Cymraeg eu hunain; credent mai goreu po gyntaf yr ysgubid yr iaith oddiar wyneb y ddaear, ac felly nid rhyfedd eu bod yn casau yr ysgolion a amcanent [2] ddysgu y werin bobl i' w darllen. Y mae amddiffyniad Griffìth Jones yn ngwyneb y teimlad hwn yn hyawdl ac anatebadwy. Dywed y byddai sefydlu ysgolion elusengar Saesneg i bobl nad oeddynt yn deall dim ond Cymraeg, mor ynfyd a phregethu pregeth Saesnig i gynulleidfa o Gymry nad oeddynt yn gynefin ag unrhyw iaith ond iaith eu mam. "A fyddwn ni," meddai, " yn fwy awyddus am ledaeniad yr iaith Saesneg nag am iachawdwriaeth ein pobl? " Dadleua ei fod yn amhosibl i liaws o'r tlodion, yn arbenig rhai mewn oedran, a hen bobl, ddysgu Saesneg; ond nad iawn o herwydd hyny eu gadael i syrthio i ddinystr tragywyddol. Dywed y byddai sefydlu ysgolion Saesneg iddynt yr un peth a chychwyn ysgol elusengar yn y Ffrancaeg i dlodion Lloegr. "Ffolineb," meddai, "yn ol rheswm a natur pethau yw ceisio addysgu pobl yn egwyddorion crefydd, trwy gyfrwng unrhyw iaith ond yr un a ddeallir ganddynt." Yr oedd Griffith Jones yn wir athronydd; deallai yn drwyadl mai trwy gyfrwng y gwybyddus yn unig y gellir dod o hyd i'r anwybyddus; ac yr oedd yn pleidio yr egwyddorion y dadleuir drostynt gan Gymdeithas yr iaith Gymraeg, gant a haner o flynyddoedd cyn i'r Gymdeithas gael bodolaeth. Nid ydym yn deall ei fod yn cael ei gyffroi o gwbl gan zêl at iaith, ychwaith; ond deallai 'mai trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig y gellid cael gafael ar y bobl; nad oedd un moddion arall trwy ba rai y gellid eu hyfforddi yn y pethau a berthynent i'w' heddwch.

Er mor gymhedrol ddyn oedd Griffith Jones, ac er mor ofalus oedd yn newisiad ei eiriau, cyffroid ei yspryd weithiau gan wrthwynebiadau yr esgobion, ac uchelwyr y wlad, ac ysgrifenai bethau cryfion a difrifol.[3] " Pe bai Iesu Grist ar y ddaear yn awr," meddai, " a phe y gofynai y cwestiwn ' oni ddarllenasoch? ' byddai raid i filoedd o'n pobl dlodion ateb, ' Naddo, Arglwydd; ni ddysgwyd ni i ddarllen; ni fedrai ein rhieni fforddio y draul i'n hanfon i'r ysgol; ac ni wnai ein Harweinwyr ysprydol gynorthwyo; a phan y gwnaed ymdrech i'n haddysgu yn rhad, ni wnai rhai o'n gwell, a feddai awdurdod yn y plwyf, oddef y cyfryw beth.'" Y mae hynyna yn ddigon hallt, ond nid ydym yn gwybod i ni ddarllen erioed ddim mwy llosgadwy nag a ganlyn: "Os bydd i rywun, nid yn unig esgeuluso, ond hefyd geisio rhwystro yr amcan caredig hwn (sef, dysgu y bobl i ddarllen y Beibl Cymraeg), byddai yn dda iddo ystyried ai llawenydd anrhaethol ynte poen annyoddefol iddo, yn nydd mawr y cyfrif, fydd bod y trueiniaid colledig anwybodus yn pwyntio ato, gan ddywedyd: 'Dacw y dyn, y dyn creulawn annhrugarog, gelyn Duw a bradychwr ein heneidiau ninau, yr hwn a rwystrodd ein hiachawdwriaeth, ac a'n cauodd allan o deyrnas nefoedd. Gan hyny y mae yn euog o'n gwaed; efe yw achos ein damnedigaeth, gan iddo wrthwynebu y moddion a gynygid i'n dwyn i wybodaeth o Grist yr iachawdwr.'" Teimla ei fod yn ysgrifenu yn llym, ac yn tynu darlun ofnadwy a brawychus; felly amddiffyna ei hun trwy ddweyd: " Efallai y tybia rhai fy mod yn gwarthruddo yr ynadon, y gweinidogion, a'r esgobion. Pell oddiwrthyf fi fyddo gwarthruddo neb ond y sawl y mae y gwarthrudd yn perthyn iddo." Cystal a dweyd: Peidied neb a gwisgo y cap os nad yw yn ei ffitio. Yna ychwanega: "Chwi a wyddoch i mi gael fy ngeni yn Gymro, ac nad wyf eto wedi dad-ddysgu gonestrwydd a gerwindeb (unpoliteness) iaith fy mam, nac ychwaith wedi meddíanu llyfndra olewaidd yr iaith Saesneg, yr hon yn awr sydd wedi ei reffeinio fel y mae yn aml yn ymylu ar weniaeth."

Ond er pob peth yr oedd gwrthnaws yr esgobion, ac eiddigedd y clerigwyr dioglyd a meddw, at Griffith Jones a'i ysgolion yn parhau; ac yn y flwyddyn 1752 cyhoeddwyd traethodyn bustlaidd, ond heb enw wrtho, i'w waradwyddo, ac i geisio enyn rhagfarn yn ei erbyn. Teitl y traethawd yw: Peth hanes yr Ysgolion Elusengar Cymreig, a , chyfodiad a chynydd Methodistiaeth yn Nghymru trwy eu hofferynoliaeth, dan drefniant a chyfarwyddid unigol Griffith Jones, offeiriad, Person Llanddowror, yn Sir Gaerfyrddin, mewn hanes byr fywyd y Clerigwr hwnw fel Clerigwr, Dywed Gwilym Lleyn mai awdwr y llyfryn hwn oedd y Parch. John Evans, person eglwys Gymmun, ger Llanddowror, dyn drwg ei foes, a gelyn anghymodlawn i Griffith Jones a'r diwygiad. Ond yr oedd John Evans yn hyn o orchwyl dan dal gan Esgob Tyddewi, yr hwn na phetrusai ddefnyddio yn ddirgelaidd yr offerynau gwaelaf i ddrygu dyn na feiddiai ei erlid yn gyhoeddus. Nis gellir dychymygu am ddim butrach na'r traethodyn hwn; y mae ei iaith yn isel, ac mewn manau yn rhy anweddaidd i'w gosod mewn argraff; daw gelyniaeth a malais i'r golwg yn mhob brawddeg a llinell. Wele rai o'r cyhuddiadau: —

1. Mai Catecism Matthew Henry a arferai Griffith Jones wrth gateceisio rhwng y llithiau, pan y tybid yn gyffredin ei fod yn defnyddio Catecism Eglwys Loegr; ac iddo wasgar 24,000 o'r cyfryw Gatecism, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, rhwng ei ysgolheigion.

2. Y maentymiai fod wyn gwerthfawr i Grist yn mhlith y gwahanol sectau.

3. Mai Ymneullduwyr oedd ei rieni, ac na fu yntau eu hun erioed yn gymodlawn ag Eglwys Loegr, gyda ei chanonau, ei homiliau, ei chlerigwyr, a'i rubric.

4. Iddo dreulio peth amser, tra yn beriglor yn Llanddowror, i astudio Hebraeg dan Mr. Perrot, Athraw y Coleg Presbyteraidd yn Nghaerfyrddin.

5. Fod naw o bob deg o'r rhai a gymunent yn ei eglwys yn Ymneillduwyr, y rhai na chroesent drothwy unrhyw eglwys, ond yr eiddo ef.

6. Ei fod yn cydymdeimlo a Methodistiaeth; mai efe a wnaeth Howell Harris yn Fethodist, a'i fod yntau ei hun yn gohebu a'r Methodistiaid.

7. Ei fod yn ei Eglurhad ar Gatecism yr Eglwys yn esbonio ymaith yr athrawiaeth werthfawr am ail-enedigaeth mewn bedydd, ac yn honi na all bedydd, nac unrhyw beth arall, heb ffydd yn Nghrist, wneyd neb yn Gristion.

8. Ddarfod iddo ef a'i ffrynd (Madam Bevan, yn ddiau), fyned i drafferth a thraul fawr i ddiddymu gŵyl-mabsantau, a chwareuyddiaethau, er mawr niwed i haelfrydedd a chariad Cristionogol a chymydogaeth dda, i'r hyn y gwasanaethai y chwareuon yn fawr, ac heb fod unrhyw niwed o bwys yn eu canlyn.

g. Mai yn dyrnor llestri coed y cafodd ei ddwyn i fynu, a'i fod yntau yn arfer y gwaith hwnw wrth ei bleser pan yn beriglor yn Llanddowror.

10. Y derbyniai dâl am bregethu ar hyd a lled y wlad, y disgwyhai gael haner coron yn nghil ei ddwrn ar derfyn pob pregeth, tra na thalai efe y neb a wasanaethai yn ei le yn Llanddowror.

11. Ei fod yn cyfnewid y Litani, ac yn gadael allan ddarnau cyfain o'r gwasanaeth, er mwyn cael amser i weddïo a phregethu ei hun.

Ceir yn y traethodyn liaws ychwanegol o'r cyffelyb gyhuddiadau. Desgrifir Griffith Jones yn yr iaith fwyaf garw ac aflan fel rhagrithiwr ffiaidd, gormeswr creulawn, a chelwyddwr diail; a dynodir ei ganlynwyr fel lladron, creaduriaid diog, puteinwyr, a phenboethiaid anwybodus. Yn synwyrol iawn, ni wnaeth Mr. Jones unrhyw sylw o'r llyfryn; aeth yn ei flaen gyda ei waith heb gymeryd arno glywed cabledd a difriaeth ei wrthwynebwyr. Nid ydym yn gwybod i neb sylwi arno, hyd nes y darfu i Ieuan Brydydd Hir gyfeirio ato yn y flwyddyn 1776, yn nghyflwyniad ei lyfr cyntaf o bregethau " I Syr Watkin Williams Wynn, o Wynnstay, Barwn." Dywed efe fod "rhai o weinidogion cydwybodol yr efengyl wedi dyoddef yn greulawn yn y blynyddoedd diweddaf dan yr esgobion arglwyddaidd a gormesol Od amheuir hyn, cyfeiriaf at ysgrifeniadau y diweddar dduwiol a gwir barchedig Mr. Griffith Jones, o Llanddowror, yr hwn a ddioddefodd holl fustleiddiwch offeiriad llwgr-wobrwyedig, a gyflogasid gan yr esgobion i'w drybaeddu, er ei fod ef, trwy neillduol ras Duw, heb na brycheuyn na chrychni arno, ond yr hyn a welai malais a gwallgofrwydd yn dda ei fwrw."

Er pob gwrthwynebiad lluosogi a wnaeth yr ysgolion, a chynyddu a wnaeth rhif yr ysgolheigion. Nid oedd ball ar ymdrechion Griffith Jones o'u plaid; dadleuai drostynt yn y Welsh Piety y naill flwyddyn ar ol y llall, gan brofi y da a effeithid trwyddynt, a chyhoeddi tystiolaethau ffafriol iddynt o bob rhan o'r wlad. O'r ochr arall, yr oedd gwanc anniwall yn y werin am ddysgu darllen. Deuai y dall, y cloff, yr anafus, a'r hen, i'r ysgol, ac wylent ddagrau o lawenydd oblegyd eu braint. Ymledodd yr ysgolion dros yr oll o'r Dywysogaeth; plenid hwy yn fynych yn y mynydd-dir anghysbell, ac yn y cymoedd mwyaf unig, fel ag i roddi i bawb gyfleustra i ddysgu darllen yr Ysgrythyr lân. Wele daflen yn dangos eu hansawdd, a gyhoeddwyd gan Mr. Jones yn 1760, sef blwyddyn cyn ei farw.

Siroedd

Brycheiniog

Aberteifi

Caerfyrddin

Morganwg

Mynwy

Penfro

Môn

Caernarfon

Meirionnydd

Dinbych

Trefaldwyn

Oll ynghyd

Ysgolion

4

20

54

25

2

23

25

27

15

8

12

215

Ysgolheigion

196

1153

2410

872

61

837

1023

981

508

307

339

8687

Oddiwrth y daflen uchod, gwelir mai dwy yn unig o holl siroedd Cyniru oedd heb ysgolion, sef Maesyfed a Fflint. Anhawdd dweyd paham yr oeddynt hwy yn eithriadau. Priodola rhai hyny i elyniaeth ffyrnig yr offeiriaid yn erbyn y Diwygiad; ond nid oes genym un prawf eu bod yn fwy gelynol iddo yn y ddwy sir hon nag yn y rhanau eraill o Gymru. Efallai fod gwybodaeth o'r iaith Saesneg yn fwy cyffredinol ynddynt; yr oedd Maesyfed yr adeg hon yn ym-Saesnegeiddio yn gyflym; ac felly nad doddynt yn sefyll mewn cymaint o angen am yr ysgolion Cymraeg.[4] Yn ystod deng—mlynedd-ar- hugain parhad yr Ysgolion Cylchynol, dywedir i dros gant a haner o filoedd gael eu dysgu i ddarllen Gair Duw, oedran y rhai a amrywiai o chwe' blwydd hyd dros Ddeg-a-thriugain. Nid oes ond y "dydd hwnw " a ddengys faint y daioni a gadd ei effeithio trwy y moddion hyn.

Wedi creu darllenwyr, teimlodd Griffith Jones fod angenrhaid wedi ei osod arno i'w cyflenwi a llyfrau, ac y mae ei ymdrechion yn y mater hwn yn gyfartal i'w eiddo fel pregethwr ac addysgydd. Yn neillduol yr oedd y wlad yn llwm iawn o Feiblau. Er cyfarfod yr angen yma, gwnaeth appel at ewyllyswyr da achos y Gwaredwr yn Nghymru a Lloegr; a chwedi derbyn cymorth helaeth, llwyddodd i gael gan Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol i ddwyn allan argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg. Dygwyd yr argraffiad hwn allan y flwyddyn 1746; cynwysai bymtheg mil o gopíau, a golygid ef gan Rhisiart Morris, brawd Llewellyn Ddu o Fôn, yr hwn oedd yn Swyddfa'r Llynges, yn Llundain, ac yn ŵr tra dysgedig. Yn ychwanegol at y Beibl, ceid ynddo y Llyfr Gweddi Cyffredin, yr Apocrypha, ynghyd a'r Salmau Can, a Mynegair. Addurnid yr argraffiad hefyd a dwy barthlen (map), "Rhodd W. Jones, Ysw., F.R.S., i'r Cymry." Yr oedd y W. Jones hwn yn dad i'r ieithydd Dwyreiniol enwog, Syr William Jones. Gwerthid y Beiblau am bris isel, fel y gallai y cyffredin eu meddianu; os byddai neb yn rhy dlawd i'w prynu, rhoddid hwy yn rhad; nid rhyfedd felly i'r pymtheg mil copïau gael eu gwasgar mewn byr amser. Yn y flwyddyn 1752, cawn Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol, ar anogaeth Griffith Jones, yn cyhoeddi argraffiad arall o'r Beibl Cymraeg, tan olygiaeth yr un Rhisiart Morris. Yr oedd hwn eto yn bymtheg mil o gopïau, ac yn debyg i'r cyntaf, ond fod yr Apocrypha wedi adael allan o hono. Heblaw lledaenu y Beibl, er mwyn goleuo ei gydwladwyr, cyfansoddodd nifer ddirfawr o lyfrau, a chyfieithodd eraill, oll o nodwedd athrawiaethol neu ddefosiynol. Dengys y daflen a ganlyn pa mor fawr a fu ei lafur yn y cyfeiriad hwn.[5]

Cyfieithiadau ac Ad-argraffiadau

  • 1712— Hynodeb Eglwysyddol.
  • 1722— Holl ddyledswydd dyn, &c.
  • 1743 — Crynodeb o'r Salmau Cân, &c. 164 tudal.
  • 1749 — Pigion Prydyddiaeth Pen Fardd y Cymru, 212. (Y "Pen Fardd" hwn oedd Ficer Prichard, Llanymddyfri).
  • 1758— Lloffion Prydyddiaeth, sef 46 o Ganiadau o waith Mr. Kees Prichard, 92 tudal.

Adroddiadau Saesneg yr Ysgolion Cylchynol, sef "Welsh Piety."

  • 1737— O 1734 hyd 1737.
  • 1740—1754. Pymtheg Adroddiad, oll yn 824 tudal.
  • 1755 —1760. Saith neu wyth Adroddiad.

Llyfrau Saesneg eraill —

  • 1741 — An Address to the Charitable and Welldisposed, 20 tudal
  • 1745 — A Letter to a Clergyman, 90 tudal.
  • 1747 (?) — Twenty Arguments for Infant Baptism.
  • 1750— lustruction to a Young Chiistian. Eglurhad ar Gatecism yr Eglwys mewn ffordd o Holiad ac Ateb. (Y mae yn ddwyieithog, pris 4c.)
  • 17 (?) — The Christian Covenant, or the Baptismal Vow, as stated in our Church Catechism, Scripturally esplained by Questions and Answers. (2nd Edition, 1762; 3rd, 1770).
  • 17 (?)_The Christian Faith, or the Apostles' Creed, spiritually explained by Questions and Answers. (2nd Edition, 1702).
  • 17 (?) — Platform of Christianity, being an Explanation of the 39 Articles of the Church of England (ar awdurdod Mr. Charles).

Llyfrau Defosiynol —

  • 1730— Dwy Ffurf o Weddi, 48 tudal. (Ail Argraffiad, 1762).
  • 1738 — Galwad at Orseddfainc y Gras, 148 tudal.
  • 1750— Eto Ail Argraffiad, 148 tudal.
  • 1740— Hyfforddwr at Orseddfainc y Gras, yr ail ran o'r Alwad at Orseddfainc y Gras, 140 tudal.
  • 17 (?) — Anogaeth i Folianu Duw. (Dyri Mr. Charlcs hwn fel un o'i lyfrau).

Hyfforddiadau, neu Gatecismau —

  • 1737 — Cyngor rhad i'r Anllythyrenog, neu lyfr bach mewn ffordd o Holiad ac Ateb.
  • 1741 — Hyfforddiad i Wybodaeth iachusol o Egwyddorion a Dyledswyddau Crefydd, sef Holiadau ac Atebion Ysgrythyrol ynghylch yr Athrawiaeth a gynwysir yn Nghatecismau yr Eglwys. Angenrheidiol i'w dysgu gan Hen ac ieuainc. Y mae hwn yn bum' rhan, ac yn cynwys 642 tudal.
  • 1748 — Drych Difynyddiaeth, neu Hyfforddiad i

Wybodaeth iachusol. (Yn ol pob tebyg ail—argraffiad yw hwn o'r llyfr blaenorol tan enw arall).

  • 1749—Llythyr ynghylch y Ddyledswydd o Gateceisio plant a phobl anwybodus, 48 tudal.
  • 1749—Hyfforddiad Gymwys i Wybodaeth iachusol, 330 tudal. (Talfyriad o Hyfforddiad 1741).
  • 1752— Esboniad byr ar Gatecism yr Eglwys. Yn bum' rhan, 170 tudal. (Talfyriad o'r llyfr diweddaf). Cafodd ei argraffu hefyd yn 1762, 1766, a 1778, ac yn rhanau wrthynt eu hunain o hyny hyd yn awr, gan y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol.

Yr oedd cychwyniad Griffith Jones fel Awdwr yn fychan. Dechreuodd fel cyfieithydd aeth yn mlaen i fod yn Dalfyrydd,[6] a thybir iddo gyfnewid rhyw gymaint ar "Holl Ddyledswydd Dyn," er ei wneyd yn fwy efengylaidd a Chalfinaidd. o'i holl lyfrau, ei Gatecismau sydd fwyaf hysbys, ac wedi bod o fwyaf o ddefnydd. Yr oedd yn agos i driugain mlwydd oed pan y cyhoeddodd yr "Hyfforddiad," yr hwn, fel y gwelir, sydd waith mawr o 612 tudalen. Catecism Eglwys Loegr yw ei sail, ond eglura ynddo yn bur fanwl a goleu athrawiaethau pwysicaf Cristionogaeth. Trinia y materion yn helaeth; rhydd yr Ysgrythyrau sydd yn profi yr atebion yn llawn; rhana yr ateb weithiau i ddeg neu ddeuddeg o benau, a rhai o honynt yn llanw tua dalen gyfan. Cafodd ledaeniad eang. Dywedir fod cynifer a deuddeng mil o'r rhan gyntaf wedi eu hargraffu. Mewn hysbysiad sydd yn ei ragflaenu, dywed na ddisgwyliai i neb ddysgu ar ei gof gatecism mor faith, ond iddo gael ei ddarpar i'w ddarllen yn ystyriol a mynych; un i ddarllen dau neu dri o'r cwestiynau a'r atebion ar nos Sabbath, neu o'r wythnos, i bawb o'r tylwyth, ac iddynt hwythau ateb yn eu geiriau eu hunain yn ganlynol. Ond y fath oedd yr awch am wybodaeth a lanwai feddwl ieuenctyd y wlad, fel yr hysbysa yn mhen ychydig, fod rhai pobl ieuainc obeithiol wedi ei drysori oll yn eu cof. Pa fodd bynag, gwelodd yn angenrheidiol ei fyrhau, er ei gymhwyso ar gyfer y lliaws; felly yn 1749, cyhoeddodd dalfyriad o hono, tua haner maint y llyfr blaenorol. Ond yn mhen tair blynedd, y mae yn talfyru y talfyriad, gan ei alw yn Esboniad byr ar Gatecism yr Eglwys. Y Catecism byraf hwn sydd fwyaf hysbys. Griffìth Jones a gymerwyd yn gynllun gan Mr. Charles wrth gyfansoddi ei "Hyfforddwr," er iddo mewn eglurder, trefn, a chymwysedd, dra rhagori ar ei ragflaenydd. Yn ei ragym adrodd i'r Crynodeb, y ffurf gyntaf ar yr Hyfforddwr, dywed Mr. Charles: " Cymerais yn hyf amryw Gwestiynau ac Atebion allan o Esponiad rhagorol Mr. G. Jones." Tra yn coleddu y syniadau uchaf am Griffith Jones fel duwinydd, prin yr ystyriai Mr. Charles ef yn gynllun o ysgrifenydd, am nad oedd yn ddigon syml a chryno. Fel hyn y dywed am dano[7] "Fel ysgrifenydd yr oedd ei ddoniau yn helaeth, ond yn hytrach yn gwmpasog, gorlanwog, ac amleiriog; a'i frawddegau yn faith a dyryslyd. Dengys bob amser wybodaeth helaeth am yr hyn y traetha am dano, ac amlyga ei feddwl mewn ymadroddion addas, ac iaith gan mwyaf yn bur ac ardderchawg. Mae rhai o'i draethodau diweddaf yn rhagori llawer ar ei gyhoeddiadau mwyaf boreuol, o ran destlusrwydd cyfansoddiad, dichlynrwydd ymadrodd, a phurdeb iaith. Ysgrifena bob amser yn Ysgrythyrol, yn ddifrifol, ac yn bwysig, fel un am wneuthur llesad i eneidiau dynion. Yn y cwbl, ymddengys yn dduwinydd da, o wybodaeth a doniau helaeth, a chariad gwresog at achos yr efengyl." Y gwir yw fod Mr. Charles ei hun yn rhagori yn fawr arno mewn ysgrifenu yn gryno ac yn oleu, yn gystal ag mewn tlysni arddull. Ond gwnaeth Griffìth Jones, trwy ei ysgrifeniadau, wasanaeth anrhaethol i genedl y Cymry, nid oes ond goleuni y farn a ddengys ei faint; trwyddynt gwawriodd cyfnod newydd ar y wlad, yr hon yn flaenorol oedd yn dra amddifad o lenyddiaeth grefyddol boblogaidd. Gwasgarwyd ei Gatecismau yn arbenig o'r naill gwr o'r Dywysogaeth i'r llall; ac anaml y ceid bwthyn yn nghesail y mynyddoedd hebddynt. Yn nygiad allan ei lyfrau, cafodd gymorth sylweddol gan Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol; yr hyn a'i galluogai i'w gwerthu am bris isel, ac i'w rhoddi yn rhad i'r rhai oeddynt yn rhy dlawd i'w prynu.

Bu Griffith Jones fyw am chwarter canrif wedi cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd, ond ni ddarfu iddo fwrw ei goelbren yn gyhoeddus gyda y Diwygwyr. Nis gellir gwybod i sicrwydd pa beth a'i hataliodd. Priodola Williams, Pantycelyn, hyn i dywyllwch ei foreuddydd, a gwendid ei ffydd: —

"Ond am fod ei foreu 'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fynd i'r meusydd,
Ac i'r lleoedd nad oedd llan."

Efallai fod yr hyn a ddywed Williams yn wir am ei foreu, ond nid oes arwyddion o ddiffyg gwroldeb na phall ar ffydd i'w canfod yn mywyd yr Efengylydd o Landdowror, gwedi i'w ddydd fyned yn nes yn mlaen. Tebygol fod rhai pethau ynglyn a'r Diwygiad na fedrai eu cymeradwyo yn hollol. Dywed Howell Harris mewn llythyr o'i eiddo, a gafodd ei ysgrifenu yn ol pob tebyg yn y flwyddyn 1743, ddarfod i'r Parch. Griffith Jones, yn y Welsh Piety, weini cerydd caredig i'r Methodistiaid, ond na wnaethai hyny yn ddiachos, gan fod cryn lawer o anrhefn yn eu mysg. Y mae lle i dybio hefyd nad oedd yn cymeradwyo yn gyfangwbl y cyffro a'r gwaeddu oedd yn cydfyned a gweinidogaeth nerthol Daniel Rowland, a bod rhywrai wedi cludo iddo anwireddau am ymddygiadau y y gŵr da hwnw, ac am ei syniadau tuag ato.[8] Mewn llythyr at Rowland, dywed Howell Harris ddarfod iddo ei amddiffyn wrth Grtffith Jones, a'i hysbysu nad oedd wedi ei glywed yn dweyd gair yn isel am G. Jones erioed; ond fel arall yn hollol, ei fod bob amser yn siarad yn barchus am dano, ac am ei waith. Yn mhellach, ei fod yn gwneyd defnydd mawr o'i Gatecism, ac yn anog y bobl i'w brynu.

Tebygol hefyd y barnai Griíììth Jones y gallai wneyd mwy o ddaioni ynglyn ag achos y Gwaredwr trwy beidio ymuno yn gyhoeddus a'r Methodistiaid, gan y byddai hyny yn debyg o greu rhagfarn yn erbyn ei ysgolion ac yn erbyn ei lyfrau. Nid ydym yn sicr nad oedd yn barnu yn gywir. Pa fodd bynag, amlwg yw ei fod mewn cydymdeimlad dwfn a'r Diwygiad, ac yn dymuno Duw yn rhwydd iddo. Disgybl iddo ef, a godasid i fynu wrth ei draed yn yr ysgol yn Llanddowror, oedd Howell Davies; teimlai ddyddordeb dwfn ynddo, a gwnaeth appêl cyhoeddus at y gynulleidfa am weddïo drosto Sabbath ei ordeiniad. Y mae yn bur sicr na ddarfu i Howell Davies droi allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau yn Sir Benfro, ac uno yn gyhoeddus a Rowland a Harris, heb ymgynghori a'i hen athraw. A chawn gyfeiriadau mynych at Griffith Jones yn llythyrau Howell Harris.[9] Wele ychydig ddifyniadau: " Cefais y ffafr o ymddiddan am rai oriau a'r anwyl a'r gwerthfawr Mr. Griffith Jones. Y mae yn cynyddu yn rhyfedd. Pa fwyaf wyf yn gyfeillachu ag ef, mwyaf oll yr wyf yn gweled ei werth.[10] Cafodd Mr. Davies a minau tua phum' neu chwech awr o siarad a'r Parch. G. Jones bythefnos i ddoe. Y mae yn llawn zêl, ac yn dyfod agosach agosach wrth glywed llefau yr wyn. Y mae ganddo yn awr yn y wasg esboniad ar yr erthyglau.[11] Pythefnos i foru yr wyf yn gobeithio clywed yr hen filwr ymdrechgar, Mr. Griffith Jones, yr hwn sydd wedi cael ei arddel i chwalu cadarn-leoedd Satan am dros ddeng- mlynedd-ar-hugain, ag sydd o hyd yn dal yn mlaen, ac yn cael ei arddel yn rhyfedd yn ei weinidogaeth." Cawn ef yn adrodd ddarfod iddo tua diwedd y flywddyn 1742 ymweled a Llanddowror, ac aros yno dros Sul y cymundeb, a dywed: "Pan yn derbyn y sacrament yno, yr wyf yn credu na chefais erioed y fath ddatguddiad o fy anwyl Arglwydd, yr hwn er cymaint wyf yn demtio arno, sydd yn parhau i fod yn fwy fwy gwell i mi o ddydd i ddydd." Hawdd gweled natur teimlad Howell Harris at Griffith Jones, ac y mae yn debygol fod teimlad ei holl gydlafurwyr yn gyffelyb. Nid yw yn ymddangos ychwaith ddarfod i Griffith Jones gyfyngu ei weinidogaeth yn gyfangwbl i'r "lleoedd nad oedd llan." Pregethai yn nghapelau yr Arglwyddes Huntington yn Bath a Llundain.[12] Pan ddaeth yr "etholedig arglwyddes " ar daith trwy Gymru yn y flwyddyn 1748, cyfarfu a hi yn Bristol Howell Harris, Daniel Rowland, Howell Davies, a Grifíìth Jones, y rhai a fu yn osgordd iddi trwy holl amser ei harosiad yn y Dywysogaeth. Trafaelent yn araf; ac am fwy na phymtheg niwrnod pregethai dau o'r gweinidogion bob dydd yn y pentref neu y dref drwy yr hon y byddent yn pasio. Pan feddylier pa mor ddysglaer oedd doniau gweinidogaethol Mr. Jones, a pha mor fawr oedd ei barchedigaeth, gallwn fod yn sicr na oddefid iddo fod yn fud ar y cyfryw achlysuron. Yn Sir Aberteifi, ymwelwyd a'r cwmni gan Philip Pugh, Llwynpiod. Wedi taith faith, cyrhaeddasant Trefecca, lle y daeth yn ychwanegol Williams, Pantycelyn; Thomas Jones, Cwm Iau; Thomas Lewis, Aberhonddu; a Lewis Rees ac eraill. Tra yno pregethai y gweinidogion dair neu bedair gwaith y dydd yn yr awyr agored i'r torfeydd lliosog oedd wedi ymgasglu i wrando yr efengyl. Unwaith cafodd Griffith Jones odfa nerthol iawn ar y maes, pan yn pregethu oddiar y geiriau hyny yn Esaiah, "Beth a waeddaf?" Yr oedd y fath ddylanwadau nerthol yn cydfyned a'i genadwri fely dwys- bigwyd llawer, ac y dolefent allan yn y modd mwyaf torcalonus. Wedi i'r cyfarfod derfynu, holai yr Arglwyddes rai o'r cyfryw am yr achos o'u llefau. Atebent hwythau eu bod wedi cael eu hargyhoeddu o'u sefyllfa druenus a'u cyflwr euog gerbron Duw, fel yr ofnent na wnai byth gymeryd trugaredd arnynt. Profa yr hanes hwn y pregethai Griffith Jones mewn lleoedd anghysegredig, ac y cydweithredai weithiau a'r Diwygwyr, er nad oedd wedi ymuno a hwy. Y mae yn eglur fod gwaith Griffith Jones yn cyflenwi y wlad a Beiblau, ac a Chatecismau, a llyfrau crefyddol eraill; a'i waith trwy yr ysgolion yn dysgu y bobl i ddarllen, yr hyn a gerid yn mlaen am chwarter canrif ochr yn ochr ag ymdrechion y Tadau Methodistaidd, yn gefnogaeth o'r fath fwyaf sylweddol i'r Diwygiad. Oni bai am ei lafur ef, y mae yn amheus a fuasai llafur Harris, a hyawdledd Rowland a Howell Davies, wedi gadael effeithiau mor barhaol ar y wlad. Pe aem i olrhain dylanwad y gwahanol offerynau a ddefnyddiodd yr Arglwydd i efengyleiddio Cymru yr adeg hon, braidd na theimlem mai dylanwad yr Efengylwr a'r Addysgydd o Landdowror oedd y dwysaf a'r eangaf. Yr oedd y werin, wedi cael craff ar ddarllen, yn awyddus am ddefnyddio y gallu newydd osddynt wedi feddianu. Hirnos gauaf, yn lle adrodd chwedlau ofergoelus am fwganod a drychiolaethau, ceid y meibion a'r merched yn y ffermdai a'r bwthynod yn darllen Gair Duw goreu y medrent yn uchel; a'r hen bobl yn gwrando yn astud, a'r dagrau yn llanw eu llygaid wrth glywed newyddion mor ogoneddus. Cyfarfyddid i gyd-adrodd ei Gatecism, a llenwid y cymoedd mynyddig a'r pentrefydd gwledig gan swn y rhai oeddynt yn ymgais i'w drysori yn eu cof. O flaen dylanwad dystaw yr addysg Ysgrythyrol, diflanodd y bwganod allan o'r tir, a lle ni chafwyd iddynt mwyach. Yn hollol gywir olrheinia Mr. Johnes darddiad Methodistiaeth yn ol i Griffith Jones, er o bosibl na fwriadai ef ddim o'r fath. Gwna yr un gŵr y sylw canlynol:[13] Fod ychydig o weinidogion duwiol ac ymroddgar yn wendid yn hytrach na chryfder i sefydliad crefyddol, pan y mae y mwyafrif o'r gweinidogion yn ddiofal am eu dyledswyddau cysegredig; am fod zêl yr ychydig yn gwneyd y tywyllwch yn fwy gweledig, ac yn gwneyd y bobl yn fwy annyoddefol o gamwri."

Bu farw Griffith Jones ar yr 8fed o Ebrill, 1761, yn y 78 flwyddyn o'i oed, yn nhŷ Madam Bevan. Yr oedd ei wraig wedi marw beth amser o'i flaen. Bu farw yn ogoneddus, heb ymddiried dim yn ei ymdrechion, ond yn llawn ffydd yn ei Waredwr.[14] Wrth gyfaill a alwasai i'w weled cyffesai ei waeledd a'i ddiffrwythder. Atebodd y cyfaill na ddylasai ddywedyd felly, gan ddarfod iddo fod mor llafurus trwy ei oes, a bod yr Arglwydd wedi gwneyd defnydd mor fawr o hono. Yr oedd y claf yn grwm yn ei wely, ac yn pwyso ei ddwy benelin ar ei benliniau; ond ar hyn ymsythodd, a chan edrych yn myw llygaid y cyfaill, gofynodd, "Beth! a'i cymeryd plaid y gelyn yr ydych?" Wrth gyfaill arall a alwasai i ofyn ei helynt, dywedai, "Rhaid i mi ddwyn tystiolaeth i ddaioni Duw. Yr ydwyf, ie, yn awr, yn rhydd oddiwrth y diffyg anadl yr oeddwn yn ddarostyngedig iddo yn fy ieuenctyd. Nid wyf yn ddall, fel y bum dros dair wythnos yn fy mabandod gan y frech wen; ac nid wyf yn gardottyn dall yn hel fy nhamaid o ddrws i ddrws. Mor rhyfedd yw daioni Duw, gan nad wyf yn teimlo dim poen, ac am fy mod yn debyg o fyned i'r bedd mewn esmwythder. Mor rhyfedd yw trugaredd Duw, fy mod yn gallu canfod yn eglur yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd Crist drosof fi, ac nad oes genyf yr amheuaeth leiaf am fy ffawd yn fy Achubwr Hollalluog." Yna aeth yn mlaen i folianu, "Bendigedig fyddo Duw! Y mae ei ddiddanwch yn llenwi fy enaid!" Dywed Mr. Charles fod ei gladdedigaeth yn dra galarus, a bod lluoedd o bobl dlodion, trwy eu gwynebau gwlybion a'u dagrau heilltion, yn tystiolaethu eu cariad a'u tristwch, o herwydd colli gŵr mor rhagorol

Er gwneyd pob ymchwiliad, methwyd a dod o hyd i ddarlun Griffith Jones. Hysbysir ni gan bobl ag y disgwylid eu bod yn gwybod nad oes yr un ar gael, . ac nad oes lle i feddwl ddarfod i ddarlun o hono gael ei gymeryd erioed. Nid oes darlun ar gael ychwaith o Madam Bevan. Gan i ni fethu darganfod unrhyw ddarlun o hono, a bod y persondy yn ymyl yr eglwys lle y trigai yn gyd-wastad a'r ddaear, nid oes genym ond rhoddi i'n darllenwyr ddarluniau o bentref Llanddowror, yr eglwys, a'r maen coffadwriaethol sydd uwchben ei fedd.

Yn ei ewyllys gadawodd yr oll a feddai, sef tua saith mil o bunoedd, i Madam Bevan, mewn ymddiriedaeth, i'w defnyddio at wasanaeth yr Ysgolion Cylchynol.[15] Bu hi fyw am ddeunaw mlynedd yn mhellach, sef hyd 1778, a thrwy ystod ei hoes gofalodd am ysgolion Griffith Jones. Cyn ei marw gadawodd dair mil o bunoedd ychwanegol yn ei hewyllys at yr un amcan, fal yr oedd yr holl swm yn ddeng mil Ond ceisiodd y Gymunweinyddes, yr Arglwyddes Stepney, feddianu yr arian fel

—————————————

METHODISTIAID LLOEGR

(a fuont yn llafurio yn Nghymru)

1 Parch John Wesley MA
2 Parch Charles Wesley MA
3 Iarlles Huntingdon
4 Parch George Whitefield
5 Parch John Fletcher Prif Athraw Athrofa Trefecca
6 Parch Joseph Benson Ail Athraw Athrofa Trefecca

—————————————

—————————————

Llanddowror

—————————————

eiddo personol; ac mewn canlyniad cauwyd yr ysgolion, a thaflwyd yr holl achos i'r Canghell-lys. Yno yr arhosodd yr arian hyd y flwyddyn 1808, pan yr oeddynt wedi cynyddu i ddeng-mil-ar-hugain. Gwnaed trefniant y pryd hwnw i ail agor yr ysgolion, ond ar gynllun hollol wahanol i eiddo Griffith Jones a Madam Bevan; daeth yr oll yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr, a chauid pawb allan o honynt ond y rhai oeddynt yn mynychu y llan. Felly ychydig a fu eu defnydd i genedl y Cymry. Gadawn Griffith Jones a'i hanes godidog trwy ddifynu rhanau o'i farwnad ardderchog gan Williams, Pantycelyn: —

"Dacw'r Beiblau têg a hyfryd,
Ddeg-ar-hugain filoedd llawn,
Wedi 'u trefnu i ddod allan,
Trwy ei ddwylaw'n rhyfedd iawn;
Dau argraffiad, glân ddiwygiad,
Llawn ac uchel bris i'r gwan;
Mewn cabanau fe geir Beiblau
'Nawr gan dlodion yn mhob man.

Hi, Ragluniaeth ddyrys, helaeth,
Wna bob peth yn gydsain llawn,
D'wed nad gwiw argraffu Beiblau
Heb eu darllen hwy yn iawn;
Daeth yn union ag ysgolion,
O Werddon fôr i Hafren draw;
Rhwng y defaid mae'r bugeiliaid
'Nawr a'r 'Sgrythyr yn eu llaw.

Tair o filoedd o ysgolion
Gawd yn Nghymru faith a mwy,
Chwech ugain mil o ysgolheigion
Fu, a rhagor, ynddynt hwy;
Y goleuni ga'dd ei enyn
O Rheidol wyllt i Hafren hir,
Tros Blumlumon faith yn union
T'wynodd ar y Gogledd dir.

Braidd ca'dd plwyf nac ardal ddianc
Heb gael iddo gynyg rhad,
O fanteision ddysgai'n union
Iddynt ddarllen iaith eu gwlad.

Dyma'r gwr a dorodd allan
Ronyn bach cyn tori'r wawr;
Had fe hauodd, fe eginodd,
Fe ddaeth yn gynhauaf mawr;
Daeth o'i ol fedelwyr lawer,
Braf, mor ffrwythlawn y mae'r ŷd!
'Nawr mae'r wyntyll gref a'r gogr
Yn ei nithio'r hyd y byd.

Griffìth Jones gynt oedd ei enw,
Enw newydd sy' arno'n awr,
Mewn llyth'renau na ddeallir
Ei 'sgrifenu ar y llawr;
Cân, bydd lawen, aros yna,
Os yw Duw, o entrych ne',
Yn gwel'd eisiau prints, a dysgu,
Fe fyn rywun yn dy le."

Gwir y prophwydodd Williams. Fe gyfododd Duw olynydd teilwng i Griffith Jones yn y Parch. Thomas Charles, o'r Bala, o fendigedig goffadwriaeth.

Nodiadau[golygu]

  1. The Charity Commissioners' Report Relating to Wales vol i
  2. History of Protestant Nonconformity in Wales p. 318 2ed
  3. Welsh Piety, 1742
  4. Sir Thomas Phillips' Wales P 284
  5. Y Parch. Owen Jones, B.A. yn y Lladmerydd, 1887
  6. Y Parch Owen Jones BA Liverpool yn Lladmerydd 1887
  7. Trysorfa Ysbrydol Llyfr II
  8. Weekley History
  9. Weekly History 1743
  10. Weekly History 1743
  11. Weekly History 1743
  12. Life and Times of Selina, Countess of Huntingdon tudalen 85
  13. Causes of Disent in Wales
  14. Y Drysorfa 1813
  15. Enwogion y Ffydd