Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr

Oddi ar Wicidestun
Griffith Jones, Llanddowror Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho

PENOD III

Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR

Nad deilliad o Fethodistiaeth Lloegr yw Methodistiaeth Cymru—Cychwyniad y symudiad yn Rhydychain—"y Clwb Sanctaidd"—John a Charles Wesley—John Cambold, y Cymro—Manylwch rheolau a hunanymwadiad aelodau y "Clwb Sanctaidd"—Y symudiad yn un Sacramentaraidd ac Ucheleglwysyddol—Dylanwad y Morafiaid ar John Wesley,—Wesley yn ymwrthod a Chalfiniaeth—Yr yymraniad rhwng Wesley a Whitefield—Y ddau yn cael eu cymodi trwy offerynoliaeth Howell Harris.

NID oedd un cysylltiad allanol a gweledig rhwng cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd yn Nghymru a'r Diwygiad yn Lloegr. Nid gwreichion o'r tân oedd wedi dechreu cyneu yn Rhydychain a gafodd eu cario gyda'r awel i Langeitho a Threfecca, gan enyn calonau Daniel Rowland a Howell Harris, fel y darfu i rai haeru mewn anwybodaeth. Daeth tân Duw i lawr i Gymru yn uniongyrchol o'r nefoedd; ac yr oedd Rowland a Harris wedi bod yn llafurio am agos i ddwy flynedd, ac wedi cynyrchu effeithiau rhyfeddol trwy eu gweinidogaeth, cyn iddynt glywed gair am yr hyn oedd yn cymeryd lle yr ochr hwnt i'r Hafren. Ond yr ydym yn galw sylw at y Diwygwyr Saesneg, oblegyd yr undeb agos a fu rhyngddynt am gryn dymor a ni fel corff o bobl. Oddiwrthynt hwy y derbyniodd y Cyfundeb ei enw. Bu amryw o honynt droiau ar daith trwy y Dywysogaeth , yn pregethu yr efengyl, a bu gweinidogaeth y ddau Wesley, ac yn arbenig eiddo Whitefield, yn nodedig o fendithiol. Am dymhor, edrychid ar ganlynwyr Whitefield a Cennick yn Lloegr, a chanlynwyr Rowland a Harris yn Nghymru, fel yn ffurfio un cyfundeb. Whitefield a lywyddai yn y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, a gwnaeth lawn cymaint a Rowland a Harris i roddi ffurf i'r Diwygiad. Cawn ef mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd dilynol, a phan yn bresenol efe fyddai yn ddieithriad yn y gadair. Edrychid arno fel un o'r arweinwyr. Byddai Harris a Rowland, ac eraill o bregethwyr Cymru, drachefn yn myned i Loegr, ac i'r Tabernacl yn Llundain, gan aros yno weithiau am wythnosau i weinidogaethu; a byddent, hyd y medrent, yn presenoli eu hunain yn y Cymdeithasfaoedd a gynhelid yno, ac yn cymeryd rhan ynddynt. Tebygol mai anhawsder yr iaith, ac anghyfleustra teithio, a barodd i'r Diwygwyr Cymreig ymddieithrio yn raddol oddiwrth eu brodyr yr ochr arall i Glawdd Offa.

Gellir olrhain dechreuad Methodistiaeth Lloegr i waith nifer o ddynion ieuainc yn Rhydychain yn ymuno a'u gilydd i ddarllen y Testament Groeg. Cymerodd hyn le yn Nhachwedd y flwyddyn 1729. Nid hawdd dweyd pa nifer a gyfenwid yn Fethodistiaid, ac a ystyrid yn aelodau o'r " Clwb Sanctaidd," fel yr oedd yn cael ei alw, gan yr amrywiai y rhif ar wahanol amserau. Ond yr oedd yn eu mysg y rhai canlynol: John Wesley, Charles Wesley, ei frawd, Robert Kirkham, William Morgan, George Whitefield, John Clayton, J. Broughton, Benjamin Ingham, James Hervey, John Gambold, Charles Kinchin, William Smith, ac eraill. Nid arhosodd y rhai hyn oll ynghyd; bu dadleuon poethion a chwerwder yspryd nid bychan yn eu mysg; a chawn rai yn cymeryd y cyfeiriad hwn, ac eraill y cyfeiriad arall; ond yr oeddynt oll yn mron yn ddynion difrifol, ac yn llawn awyddfryd am wasanaethu y Gwaredwr. Glynodd rhai wrth yr Eglwys Sefydledig, a chymerasant fywioliaethau o'i mewn; ymunodd eraill a'r Eglwys Forafaidd, lle y cyrhaeddasant safle uchel; cawn eraill drachefn yn ffurfio cyfundebau crefyddol newyddion, ac yn dyfod yn ben arnynt. Ond, fel y sylwa Tyerman, byddai yn anhawdd i'r byd ddangos cwmni o ddynion, ag y darfu eu bywyd a'u gweinidogaeth, dan fendith y nefoedd, fod o gymaint lles i ddynolryw, ag eiddo y rhai a elwid yn Fethodistiaid Rhydychain. Fel yr afonydd

a lifai allan o Eden, er tarddu o'r un fangre,
Y Clwb Sanctaidd

cymerasant wahanol gyfeiriadau, ond gwnaethant yr ardaloedd trwy ba rai y ífrydient yn ffrwyth- lawn ac yn iach, a hyfrydwch nid bychan i'r hanesydd crefyddol ei yspryd ydyw olrhain eu dylanwad.

Bywyd ac enaid y "Clwb Sanctaidd" yn ddiau oedd John Wesley. Yn aml fe briodolir cychwyniad y mudiad hwn iddo ef; ond nid yw hyny yn gywir. Perthyna yr anrhydedd i Charles Wesley a William Morgan, a chymerodd hyn le pan yr oedd John Wesley wedi gadael Rhydychain er mwyn gwasanaethu ei dad fel cuwrad. Pan ddychwelodd yn ol yn mhen amser, a chael fod y mudiad yn gydnaws a'i feddwl, taflodd holl frwdfrydedd ei natur iddo; ac yn y man disgynodd arweiniad y blaid newydd yn hollol naturiol i ddwylaw John Wesley. Cawsai ei ddwyn i fynu tan ddisgyblaeth lem; er fod ei dad yn ficer Epworth, ac yn ddyn tra rhagorol, yr oedd ei fam yn hynotach am ei synwyr cryf a'i duwioldeb personol; ac nid ymryddhaodd John oddiwrth ddylanwad ei fam tra y bu byw. Yr oedd yntau yn ddyn o yni a bywiogrwydd diderfyn; perchenogai ewyllys gref, anhyblyg; meddai lygad barcud i adnabod ei gyfleusterau, a chyflymder dirfawr i fanteisio arnynt. Mae yn amheus a anwyd i'r byd ragorach trefniedydd; gwnaethai gadfridog digyffelyb pe y cymerasai gyfeiriad milwraidd; gwnaethai ail Napoleon neu ail Wellington. Nid oedd yn athronydd dwfn, ac nid oedd ei ddirnadaeth o wirioneddau mawrion y Beibl yn eu cysondeb a'u gilydd mewn un modd yn eang. Bu am ran fawr o'i oes yn sigledig yn ei olygiadau duwinyddol, weithiau yn Uchel-eglwysyddol, bryd arall yn tueddu at y Morafiaid, ac yn cael ei ddylanwadu yn fawr ganddynt; ond am y rhan olaf o'i fywyd, yr oedd yn fath o Arminiad efengylaidd. Llafuriodd yn galed; teithiodd a phregethodd am oes faith yn ddidor; a chyn iddo farw, cafodd weled y Cyfundeb Wesleyaidd, a sylfaenwyd ganddo, wedi gwasgar ei gangau tros yr holl fyd adnabyddus. Charles Wesley, ei frawd, oedd emynydd y Cyfundeb Wesleyaidd, er i John gyfansoddi rhai emynau tra rhagorol, y rhai a genir ac a ystyrir yn safonol hyd heddyw, Dyn siriol a charedig oedd Charles Wesley, llai galluog na John; ac fel math o is-filwriad i'w frawd mwy penderfynol, yn ei gynorthwyo gyda ei drefniadau, ac yn cario allan ei gynlluniau, y treuliodd ei oes. Pregethwr y Diwygiad Saesneg oedd George Whitefield, Ni ymunodd ef a'r " Clwb Sanctaiddd " hyd ar ol rhai blynyddoedd gwedi ei sefydliad. Oblegyd tlodi amgylchiadau, math o Wasanaeth efrydydd (servitor) oedd yn y Brifysgol; cynhallai ei hun yno yn benaf a'r arian a dderbyniai am weini ar blant boneddigion a dynion arianog. Felly edrychai i fynu at y ddau Wesley, y rhai oeddynt feibion clerigwr. Er ei fod o dueddfryd grefyddol, ac wedi dechreu gweddio a chanu Salmau wrtho ei hun yn ddyddiol, ofnai anturio at y Methodistiaid; ond trwy ryw ddigwyddiad rhagluniaethol, daeth i gydnabyddiaeth a Charles Wesley, ac ar unwaith bwriodd ei goelbren yn eu mysg. Dyn yn berwi trosodd o natur dda oedd Whitefield; nis gallai oddef ymrafaelion a dadleuon, er iddo gael ei orfodi i gymeryd rhan mewn llawer o'r cyfryw; yr oedd yn llawer mwy heddychol a hynaws na John Wesley, ac yn gant mwy caredig a rhyddfrydig. O'r holl Ddiwygwyr Saesneg, nid oedd neb i' w gymharu ag efe am ddysgleirdeb doniau gweinidogaethol; dylanwadai yn gyffelyb ar y dysgedig a'r annysgedig; toddai y glowyr o gwmpas Bryste, a'r mob ar y Moorfields yn Llundain, ac ar yr un pryd swynai a gorchfygai a'i hyawdledd llifeiriol Hume yr anffyddiwr, nad oedd yn credu gair o'r athrawiaeth a bregethid ganddo. A phregethwr ydoedd. I bregethu yr efengyl y credai ef ei hun ei fod wedi cael ei alw. Nid oedd yn amddifad o allu trefniadol, er nad oedd i'w gystadlu yn hyn o beth a'i gyfaill John Wesley, a chawn ef fwy nag unwaith yn gadeirydd y Gymdeithasfa yn Nghymru. Ond diystyrai drefniadaeth, tybiai fod eraill yn gymhwysach nag ef at y cyfryw waith, a dywedai yn bendant mai i argyhoeddi yr annuwiol yr oedd ef wedi ei gymhwyso. Felly manteisiodd Wesleyaeth yn Lloegr yn ddirfawr ar ei lafur. Pe buasai wedi amcanu ffurfio cyfundeb, ac ymroddi i hyny, buasai ei ganlynwyr yn lluosog yn Lloegr ac America. Teithiodd yntau lawer; teimlai hoffder mawr at Gymru, a Chymraes, o ymyl y Fenni, oedd ei wraig. Bu saith o weithiau trosodd yn yr America, ac yno y cafodd fedd; a bu yn offeryn i argyhoeddi canoedd o bechaduriaid. Adnabyddir ei ddilynwyr yn Lloegr fel Cyfundeb iarlles Huntington.

Cymro oedd John Gambold, yr unig un o holl aelodau y "Clwb Sanctaidd" y mae sicrwydd ei fod yn Gymro. Nid annhebyg hefyd mai Cymro oedd William Morgan, er mai ger Dublin y ganwyd ef. Y mae ei enw yn Gymreig, a gwyddis i amryw deuluoedd o Gymru ymfudo i'r Iwerddon tuag amser y chwildroad. Ganwyd John Gambold yn Puncheston, swydd Benfro, Ebrill 10, 1711, ac yr oedd ei dad yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. Cyfyng oedd ei amgylchiadau, oblegyd gwasanaeth—efrydydd (servitor) oedd yn Rhydychain. Yr oedd o duedd fywiog a siriol; fel y rhan fwyaf o'r Cymry, ymhoffai mewn barddoniaeth, a dywedir y treuliai lawer o'i amser i efrydu gweithiau y prif feirdd Saesneg, ynghyd ac eiddo y prif chwareu—ganwyr (dramatists). Yn mhen dwy flynedd wedi iddo fyned i Rydychain, bu ei dad farw, a darfu i'r amgylchiad, ynghyd a chynghorion a rhybuddion ei dad ar ei wely angau ei ddifrifoli, a pheri iddo wneyd iachawdwriaeth ei enaid yn brif bwnc ei fywyd. Ond bu am amser dan argyhoeddiadau dwysion, ac heb gael golwg ar drefn yr efengyl. Dywed iddo fod am ddwy flynedd mewn pruddglwyfni dwfn, a darfod i'r Arglwydd, er plygu ei yspryd balch, wneyd y byd yn chwerw iddo. " Nid oedd genyf neb," meddai, "i ba un y gallwn agor fy mynwes, na neb yn gofalu am fy enaid. Yr oeddynt hwy yn esmwyth arnynt, ac nis gallent ddirnad am beth yr oeddwn i yn gofidio. "Yn rhagluniaethol, pa fodd bynag, daeth i gyffyrddiad a'r ddau Wesley, ac ymunodd a'r Methodistiaid dirmygedig. Ordeiniwyd ef gan Esgob Rhydychain, Medi 1733, ac mor fuan ag y daeth yn alluog i ddal bywioliaeth, cafodd ficeriaeth Stanton-Harcourt. Yn y pentref gwledig hwn, heb fod nepell o Rydychain, y treuliodd saith mlynedd o'i oes mewn neillduaeth, yn myfyrio ar gwestiynau athronyddol a duwinyddol dwfn, ac yn pregethu yn mhell uwchlaw amgyffredion ei wrandawyr syml. Ond fel John Wesley ei hun, daeth dan ddylanwad y Morafiaid, a chyfnewidiodd o ran ei farn gyda golwg ar rai o wirioneddau yr efengyl; taflodd ei athroniaeth i'r gwynt, a daeth yn gredadyn syml yn y Gwaredwr. Yn y flwyddyn 1742, gadawodd gymundeb Eglwys Loegr, ac ymunodd a'r Morafiaid, a chyda hwy y treuliodd weddill ei oes, ysbaid o naw-mlynedd-ar-hugain. Yn bur fuan gwnaed ef yn esgob ganddynt. Tua dwy flynedd cyn ei farw, oblegyd ei afiechyd, daeth i wasanaethu eglwys y Morafiaid yn Hwlffordd, yn y gobaith y byddai i awyr ei wlad enedigol brofi yn llesiol iddo. Ond suddo yn raddol a wnaeth. Hunodd Medi, 1771, a chladdwyd ef yn mynwent yr eglwys Forafaidd yn Hwlffordd.

Yr oedd John Gambold yn ddyn o ddiwylliant helaeth, ac yn llenor gwych. Cyfansoddodd amrai lyfrau, yn benaf er amddiffyn y cyfundeb i ba un y perthynai; a chyhoeddodd ddwy o'i bregethau. Ond rhagorai fel emynydd. Efe a olygai lyfr hymnau y Morafiaid yn Lloegr, a chredir fod nifer mawr o'r emynau a gynwysa wedi eu cyfansoddi ganddo. Yr oedd yn nodedig am ei dduwiolfrydedd, ac am hynawsedd ei yspryd. Tra y methai John Wesley gyd-ddwyn a gormes a haerllugrwydd Zinzendorf, penaeth y Morafiaid, bu Gambold yn llafurio yn y cyfundeb hwnw am y rhan olaf o'i oes mewn pob brawdgarwch. Ac yr un pryd nid oedd yn amddifad o asgwrn cefn; gallai aberthu pob peth er mwyn egwyddor. Pan y gadawodd yr Eglwys Sefydledig, i bob ymddangosiad wynebai ar dlodi; oblegyd nid oedd ond triugain a deuddeg o Forafiaid y pryd hwnw yn holl Lundain. Teimlodd yn ddwys oblegyd y cyfeiriad a gymerodd y ddau Wesley, a darfyddodd ei gyfeillgarwch a hwy yn hollol; yn wir, dywedodd wrth John fod arno gywilydd bod yn ei gymdeithas. Er hyn oll, parchai John Wesley ef yn ddirfawr, ac ychydig amser cyn ei farw, dywedai mai efe oedd un o'r dynion callaf a mwyaf pwyllog yn Lloegr. Gall Cymru ymfalchïo yn yr Esgob Gambold.

Rhaid i'n sylwadau ar y gweddill o aelodau y "Clwb Sanctaidd" fod yn fyr. Disgynai Benjamin Ingham oddiwrth un o weinidogion Eglwys Loegr a drowyd allan yn 1662 am wrthod cydffurfìo. Pan yn ddwy-ar- hugain oed, bwriodd ei goelbren gyda'r Methodistiaid yn Rhydychain. Ymunodd yntau a'r eglwys Forafaidd, ac ni adawodd ei chymundeb pan y trodd y ddau Wesley eu cefnau. Llafuriodd yn benaf yn swydd Gaerefrog (Yorkshire). Pregethai gyda nerth; dylifai y bobl wrth y miloedd i'w wrando, achubwyd llawer trwy ei weinidogaeth, a sefydlodd eglwysi Morafaidd trwy y wlad. Cyn diwedd ei oes, cefnodd ar y Morafiaid, a sefydlodd gyfundeb o'i eiddo ei hun. o herwydd ymrysonau tumewnol, yr oedd wedi dyfod i'r dim agos cyn i Ingham farw; ac yn y diwedd ymunodd yr ychydig eglwysi a'i cyfansoddent a'r Annibynwyr Ysgotaidd. Arosodd James Hervey, un arall o enwogion y "Clwb Sanctaidd," yn yr Eglwys sefydledig. Yr oedd yn ddyn o diwylliant uchel, ac yn llenor coeth, a thrwy ei ysgrifeniadau gwnaeth lawer er dyfnhau gafael crefydd efengylaidd ar y dosparthiadau uchaf. Am John Clayton, arosodd yntau hefyd yn Eglwys Loegr, ac yn Ucheleglwyswr defodol y parhaodd hyd ddiwedd ei oes.

Yr ydym wedi nodi ddarfod i Fethodistiaeth Rhydychain gychwyn yn nghynulliad nifer o ddynion ieuainc yn darllen y Testament Groeg. Ond yn bur fuan daeth yn gyfeillach grefyddol. Dechreuasant gyd-weddïo, a chyd-gynllunio pa fodd i lesoli eu cyd-ddynion. Penderfynasant ymrthod a danteithion bywyd, gan fwyta yn unig yr hyn oedd yn angenrheidiol i gynal natur. Ymwrthodent a thê, a chwrw, ac i raddau mawr a chigfwyd, fel y byddai ganddynt beth i'w gyfranu mewn elusen i'r tlodion. Nid gorchwyl hawdd oedd hyn i rai, oblegyd cawn un o honynt ychydig yn flaenorol, mewn llythyr at John Wesley, yn darlunio gydag asbri rhyfeddol fel yr oedd wedi mwynhau dysglaid o gig llô a bacwn, gyda baril o seidir newydd ei thapio. Tynasant allan reolau manwl pa fodd i ymddwyn yn ddyddiol ac yn wythnosol Yn ol y rhai hyn yr oeddynt i dreulio dwy awr bob dydd mewn gweddi, i weddïo wrth fyned i'r eglwys a dyfod o honi, ac i weddïo ar wahan am awr dri diwrnod o'r wythnos ar yr un adeg, fel y byddai cyd-gymundeb rhyngddynt. Yr oeddynt yn mhellach i godi yn foreu, i dreulio awr bob dydd mewn siarad a dynion yn uniongyrchol am bethau crefydd, i wneyd eu goreu i rwystro drwg, ac hyd ag oedd ynddynt i berswadio pawb i bresenoli eu hunain yn yr addoliad cyhoeddus. Amlwg fod y dynion ieuainc a'u heneidiau yn llosgi o'u mewn gan awydd gwneyd daioni. Yr oeddynt wedi eu llenwi a difrifwch ofnadwy. Rhybuddient eu cyd-efrydwyr annuwiol a llygredig eu moesau am fater eu henaid; ymwelent a theuluoedd isel y ddinas, gan daranu yn erbyn anwiredd; cyfranent yr oll a feddent mewn elusenau, ac ymwelent a'r tlottai a'r carchardai, gan gynghori pawb i ymdrechu am fywyd tragywyddol. Dywed John Gambold yr arferent gyfarfod bob hwyr, yn gyffredin yn ystafell John Wesley, er adolygu gweithrediadau pob un yn ystod y dydd, a gwneyd trefniadau ar gyfer y dydd dilynol. Cynwysai y trefniant ymddiddan difrifol ag efrydwyr y Brifysgol, ymweliadau a'r carcharau, addysgiant teuluoedd tlodion, ymweled a'r tlotty, a gofal am yr ysgol a osodasid i fynu ganddynt. Gyda golwg ar yr ysgol, cawsai ei sefydlu gan John Wesley; efe a dalai y feistres, a chan mwyaf a ddilladai y plant. Fel engrhaifft o'u helusengarwch gellir nodi y ffaith ganlynol Un diwrnod oer yn y gauaf, galwodd crotes dlawd ar John Wesley. Yr oedd ei gŵn yn deneu, a hithau yn mron sythu gan anwyd, Gofynodd iddi, "Ai nid oes genych gynhesach gŵn na'r un sydd am danoch? " Atebai yr eneth, "Syr, dyma yr oll sydd genyf." Rhoddodd Wesley ei law yn ei logell er ei chynorth wyo, ond yr oedd agos a bod yn wag. Ond yr oedd muriau ei ystafell yn orchuddiedig gan ddarluniau, a throdd y rhai hyn yn gyhuddwyr iddo. Gwaeddodd yn uchel, "O Gyfiawnder! O Drugaredd! Ai nid yw y rhai yma yn werth gwaed yr eneth dlawd hon? "Gwerthodd hwy oll, a dilladodd y ferch. Nid yn fynych y cair engrhaifît o'r fath gydwybodolrwydd. Yn ychwanegol, cyfranogent o'r cymun bendigaid yn wythnosol, ac aent yn orymdaith i Eglwys Crist i'r pwrpas. Pan gofiom pa mor llygredig oedd Rhydychain yr adeg hon, y modd yr oedd drwg yn cael ei ystyried yn ffasiynol, ac anffyddiaeth ronc yn cael ei phroffesu gan lawer yn gyhoeddus, hawdd deall ddarfod i Wesley a'i gwmni ar unwaith ddyfod yn wrthrychau sylw. Cyfeirid atynt yn gyhoeddus. Gwaradwyddid hwy yn mhob modd. Dihysbyddwyd ystorfeydd yr iaith Saesneg er cael enwau digon dirmygus i'w gwarthruddo. Gelwid hwy y "Clwb Sanctaidd," y " Clwb Duwiol," ac yn ddiweddaf yn "Fethodistiaid," gyda chyfeiriad at ddosparth o feddygon, nodedig o drefnus eu harferion, a fuasai yn bodoli gynt. Glynodd yr enw diweddaf wrthynt. Ond nid oedd y frawdoliaeth fechan yn gofalu am ddirmyg y Brifysgol; aethant yn mlaen yn ol argyhoeddiadau eu cydwybod; mabwysiadasant yr enw a roddasid arnynt mewn cellwair, ac yn raddol daeth yn enw o anrhydedd.

Ar yr un pryd rhaid addef fod y Methodistiaid yr adeg hon yn mron yn hollol anwybodus am rai o athrawiaethau mwyaf hanfodol crefydd efengylaidd. Ni wyddent ddim am gyfiawnhad trwy ffydd, a gwaith yr Ysbryd Glân. Y gwir yw fod y symudiad ar y cyntaf yn un hollol ddefodol a sacramentaraidd, lawn cymaint felly a'r symuidiad Tractaraidd a gychwynwyd yn yr un lle gan Pusey a Newman ryw haner can' mlynedd yn ol. Ni fu Pharisead erioed yn fwy manwl a gofalus am ei phylacterau a defodau ei grefydd, nag yr oedd Methodistiaid Rhydychain am y gwisgoedd offeiriadol, a ffurfiau a defodau Eglwys Loegr. Dalient yr athrawiaeth am bresenoldeb gwirioneddol Crist yn y sacrament, ac edrychent ar y cymun bendigaid fel aberth. Cadwent yn ofalus holl ddyddiau y saint. Sancteiddient y Sadwrn a'r Sul; y cyntaf fel y Sabboth, a'r olaf fel Dydd yr Arglwydd. Ymprydient yn fynych; trwy holl amser y Garawys ni phrofent gig oddigerth ar y Sadwrn a'r Sul; a chadwent bob dydd Mercher a dydd Gwener fel dydd o ympryd, gan ymgadw rhag archwaethu unrhyw fwyd hyd ar ol tri yn y prydnhawn. Credent mewn penydiau, ac hefyd yn y gyffesgell. Llithrasant i'r cyfeilorniad Pabyddol, y Dylid cymysgu dwfr gyda'r gwin sacramentaidd, am i ddwfr yn gystal a gwaed ddyfod allan o gorff ein Harglwydd pan drywanwyd ef a'r bicell gan y milwr; a chawn John Clayton yn ysgrifenu at Wesley mewn gradd o betrusder, gyda golwg ar y priodoldeb o gymuno pan na chymysgid dwfr gyda'r gwin. Yr oeddynt yn llawn o athrawiaeth yr olyniaeth apostolaidd. Y fath oedd gwrthnaws John Wesley at bob peth y tu allan i gylch Eglwys Loegr, a'i ddirmyg o Ymneillduaeth, fel y gwarafunodd i John Martin Bolzius, un o ddynion duwiolaf ei oes, gyfranogi o'r sacrament am nad oedd wedi cael ei fedyddio gan glerigwr perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Nid rhyfedd ei fod yn cywilyddio oblegyd ei gulni mewn blynyddoedd diweddarach. Pan yn Savannah edrychid arno fel Pabydd; a dywed ei fywgraffydd ei fod yn Buseyad gan' mlynedd cyn i Pusey gael ei eni. Bwriadodd yn ddifrifol sefydlu cymdeithas uchel-eglwysig a sacramentaraidd, yn mha un y cedwid yn fanwl yr holl ddefodau haner Pabyddol y ceir unrhyw sail iddynt yn y rubric, ac y gofelid am sancteiddio dyddiau y saint, a'r gwyliau, ynghyd a phob peth a berthyn i ddefodaeth eithafol Ond yr oedd gan yr Arglwydd fwriadau gwahanol gyda golwg ar y Methodistiaid. Gan eu bod yn hollol ddifrifol, ac yn gweithredu yn gydwybodol yn ol y goleuni oedd ganddynt, arweiniodd Duw hwy oddi amgylch i beri iddynt ddeall, ac yn y diwedd dygwyd hwy i oleuni chr yr efengyl Cymerodd hyn le mewn cysylltiad a John Wesley ei hun trwy offerynoliaeth un Peter Bohler, gweinidog perthynol i'r Morafiaid, tua dechreu y flwyddyn 1738. Barnai ef ei hunan ei fod yn flaenorol i hyny yn ddyn annuwiol. Eglurodd Peter Bohler iddo natur ffydd yn Nghrist, ynghyd a'r effeithiau a'i dilynant. "Rhaid i chwi daflu eich athroniaeth dros y bwrdd," meddai y Morafiad wrtho; gwrandawodd yntau, a thros y bwrdd y cafodd fyned. O hyny allan yr oedd yn gredadyn, yn pwyso ar iawn y Gwaredwr am gymeradwyaeth, gan waeddu fel Paul: "Ac a'm cair ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith." Heb fod yn hir dygwyd y rhan fwyaf o'i gyfeillion gynt i ryddid yr efengyl fel yntau. Yn wir y mae yn amheus a fu Whitefield yn ddefodwr eithafol o gwbl.

Gellir edrych ar Fethodistiaeth Rhydychain fel yn parhau o 1729 hyd 1735. Yn y flwyddyn a nodwyd ddiweddaf ymwahanodd y frawdoliaeth, ac ni ail-unwyd hi yn hollol byth. Croesodd John Wesley i drefedigaeth Georgia yn yr 'America, yn y bwriad o efengyleiddio yr Indiaid, lle yr arosodd tua dwy flynedd, ac aeth ei frawd, Charles, a Benjamin Ingham allan gydag ef. Gadawsai Whitefield Rydychain yn flaenorol oblegyd fod ei iechyd wedi tori i lawr. Yr oedd John Clayton wedi ymsefydlu yn Manchester, a John Gambold yn Stanton-Harcourt. Nid oedd yr ychydig a weddillasid ond gweiniaid a dinerth. Felly dychwelodd y Brifysgol at ei hen lygredigaethau heb fod neb i aflonyddu ar ei heddwch, a phan aeth Howell Harris yno, Tachwedd, 1735, ni chlywodd sôn am y "Clwb Sanctaidd," ac ni welodd dim ond drygioni wedi cael y fath raff nes yr oedd ei yspryd yn merwino o'i fewn. Pan ddychwelai John Wesley o Georgia, yr oedd Whitefield ar yr un adeg yn myned allan i'r un drefedigaeth. Yn y flwyddyn 1740, cyhoeddodd John Wesley bregeth dan y teitl "Rhad ras," seiliedig ar Rhuf. viii. 32, yn yr hon yr ymosodai ar yr athrawiaeth Galfinaidd am etholedigaeth gras. Ynglyn a'r bregeth yr oedd emyn o gyfansoddiad ei frawd, Charles, yn dysgu prynedigaeth gyffredinol. Clywodd Whitefield am y bregeth cyn ei chyhoeddi, ac ysgrifenodd yn ddioed at ei hen gyfaill i wrthdystio, gan grefu arno am beidio ei hargraffu, onide yr arweiniai i ymraniad. "Y fath lawenydd gan elynion ein Harglwydd," meddai, "fyddai ein gweled wedi ymranu." Trachefn dywed, "Anwyl ac anrhydeddus Syr, os oes genych unrhyw ofal am heddwch yr eglwys, cadwch yn ol eich pregeth ar ragarfaethiad. Y mae fy nghalon yn toddi fel cwyr o fewn fy nghorff. Golchwn eich traed yn ewyllysgar. O gweddïwch na byddo unrhyw ymddyeithriad mewn serch rhyngoch chwi, anrhydeddus Syr, a mi, eich mab a'ch gwas annheilwng yn Nghrist."Mewn llythyr arall, awgryma i Wesley ar iddynt barhau i gynyg iachawdwriaeth trwy waed yr Arglwydd Iesu i bawb, a pheidio sôn yn gyhoeddus am y materion ynghylch pa rai yr anghytunent. Yr oedd enaid Whitefield yn gythryblus o'i fewn yn y rhagolwg ar ymraniad. Tua dechreu Mehefin yr un flwyddyn, ysgrifena at James Hutton, "Er mwyn Crist, dymunwch ar y brawd anwyl Wesley i beidio ymddadleu a mi. Yr wyf yn meddwl y byddai yn well genyf farw na gweled ymwahaniad yn ein plith; ac eto pa fodd y gallwn rodio ynghyd os byddwn yn gwrthwynebu ein gilydd? "Teimlai Howell Harris yn Nghymru yr un mor angerddol, ac ysgrifenodd yntau lythyr cryf at Wesley. Meddai, "Hysbysir fi i chwi droi dyn allan o'r seiat, gan rhybuddio pawb i wylio rhagddo, am ei fod yn credu mewn etholedigaeth. Fy anwyl frawd, peidiwch ymddwyn yn ol yr yspryd ystiff angharedig, a gondemniwch mewn eraill. Os ydych yn ei droi ef allan oddiwrth y Methodistiaid am y fath achos, rhaid i chwi hefyd droi allan y brawd Whitefield, y brawd Seward, a minau. Gobeithiaf y caf ddal hyd fy anadliad olaf a'r diferyn diweddaf o'm gwaed, mai o herwydd gras arbenig, wahaniaethol, ac anorchfygol, y cedwir y rhai a gedwir. O na wnaech adael y mater yn llonydd hyd nes y byddo Duw yn goleuo eich meddwl. Pa fwyaf wyf yn ysgrifenu mwyaf oll yr wyf yn eich caru." Gwelir fod Harris, fel Whitefield, yn ysgrifenu yn gyffrous, ond fod anwyldeb personol cryf at Wesley yn treiddio trwy bob brawddeg, ac mai gorfodaeth, oblegyd cydwybod i'r hyn a ystyrient yn wirionedd Duw, a barai iddynt lefaru fel y gwnaent. Ond ofer fu eu hymgais. Yr oedd Wesley wedi gwneyd ei feddwl i fynu, ac nid oedd dylanwad gelyn na chyfaill yn ddigon i blygu ei ewyllys. Cyhoeddodd ei bregeth, a dywedai yn ei gyfarchiad at y darllenydd mai dim ond yr argyhoeddiad cryfaf, nid yn unig fod yr hyn y dadleuai drosto yn wirionedd, ond hefyd fod angenrheidrwydd wedi ei osod arno ef i bregethu y gwirionedd hwnw, a'i cymhellai i wrthwynebu yn gyhoeddus syniadau y rhai y teimlai y fath barch iddynt oblegyd eu gwaith. Nid oes neb a amheua fod John Wesley yn gydwybodol yn ei ymddygiad. Ai nid doethineb ynddo fuasai gwrando ar lais ei frodyr, a pheidio son yn gyhoeddus am y pynciau y wahaniaethai ef a hwythau gyda golwg arnynt, sydd gwestiwn arall. Dadleua yn ei bregeth "fod etholedigaeth gras o angenrheidrwydd yn golygu ddarfod y Dduw ordeinio y nifer mwyaf o ddynolryw i golledigaeth, ac mai cellwair yw cynyg yr efengyl iddynt. Y rhai hyn y mae Duw yn gasau; a chan hyny arfaethodd cyn iddynt gael eu geni eu bod i gael eu taflu i'r llyn o dân. Arfaethodd hyny am mai hyny oedd ei ewyllys ben-arglwyddiaethol. Felly, y maent yn cael eu geni i'r pwrpas hwn, sef, fel y caent eu dinystrio enaid a chorph yn uffern." Gwelir fod Wesley yn camlliwio syniadau ei wrthwynebwyr yn enbyd; daliai hwy yn gyfrifol am gasgliadau oedd ef ei hunan yn dynu, ac a pha rai y buasent yn ymwrthod yn y modd mwyaf pendant. Yr oedd ei dduwinyddiaeth yn dra unochrog, ac fel y dywed Howell Harris wrtho yn un o'i lythyrau, yn ffrwyth addysg deuluaidd yn hytrach nag yn gynyrch astudiaeth ddyfal o Air Duw.

Ond yr oedd y coelbren wedi syrthio. Dyma y Methodistiaid wedi ymranu yn ddwy blaid. Glynodd Methodistiaid Cymru fel un corph wrth yr athrawiaethau Calfinaidd; ni pharodd yr ymraniad unrhyw rwyg, ac ni achosodd fawr dadleu, yn yr eglwysi; ac yn wir nid yw yn ymddangos i Wesley wneyd unrhyw ymgais i ledaenu ei olygiadau neillduol yn y Dywysogaeth. Digon tebyg mai y parch mawr a deimlai at ei frodyr yn Nghymru, yn arbenig Howell Harris, oedd y prif reswm am hyn. Fel y gallesid disgwyl, aeth Charles Wesley gyda ei frawd, ond glynodd Cennick wrth Whitefield. Aeth John Wesley i lawr i Kingswood, ger Bryste, ddechreu y flwyddyn 1741, a throdd John Cennick, a thros haner cant o aelodau eraill, allan o'r gymdeithas. Yn nghanol y terfysg hwn y glaniodd Whitefield o'r America. Ar unwaith cyhoeddodd atebiad i bregeth Wesley ar rad ras. Yn fuan cawn ef yn dwyn allan newyddiadur o'r enw Weekly History, y newyddiadur Methodistaidd cyntaf erioed, gydag un o'r enw John Lewis, Cymro o Lanfairmuallt, yn olygydd iddo, er gwrthweithio golygiadau y ddau Wesley. Fel y gallesid disgwyl, aeth y rhwyg yn fwy. Rhwystrwyd Whitefield i bregethu yn y capelau y bu efe ei hun yn foddion i'w hadeiladu. Ond yr oedd yni ei yspryd, a dysgleirdeb ei ddoniau yn gyfryw, fel nas gellid ei atal rhag cael cynulleidfaoedd i'w wrando; yn bur fuan codwyd capelau iddo mewn amrywiol barthau o'r wlad, ac adeiladwyd y Tabernacl ar y Moorfields yn Llundain, lle y tyrai y miloedd, ac y cafodd llawer afael ar fywyd tragywyddol. Ar yr un pryd cariai John Wesley yn mlaen ei gynlluniau yntau. Sefydlodd y cymdeithasau neillduol; rhoddodd ganiatad i leygwyr gynghori, a threfnodd iddynt i ymweled yn rheolaidd a'r aelodau yn eu cartrefleoedd; ac argraffodd docynau, y rhai a arwyddid ganddo ef ei hun, yn dangos hawl yr aelodau i agoshau at fwrdd y cymundeb. Cawn Charles Wesley hefyd am y tro cyntaf yn gweinyddu y cymun bendigaid mewn adeilad heb ei gysegru. Gellir dweyd mai yn y flwyddyn 1741 y dechreuodd Wesleyaeth yn ystyr briodol y gair.

Gwnaed amryw ymdrechion i gymodi ac i ail-uno Whitefield a Wesley. Howell Harris yn benaf oedd wrth wraidd yr ymgais; yr oedd ef ar delerau cyfeillgar a'r ddau, ac yn eu caru yn ddwfn; canmola Wesley droiau angerddoldeb a serch ei galon fawr Gymreig. Ni fu yr ymgais yn llwyddiant mor bell ag i gynyrchu undeb gweledig, ac undeb gweithrediadau; yr oedd y ddau yn rhy bell eu golygiadau oddiwrth eu gilydd i allu gweled lygad yn llygad, ac yr oedd pob un o'r ddau yn rhy gydwybodol i aberthu yr hyn a ystyriai yn wirionedd er mwyn cyfeillgarwch; ond llwyddwyd i'w cymodi. Cyfarfyddasant a'u gilydd; credodd pob un fod y llall yn awyddus am achub eneidiau a helaethu teyrnas y Cyfryngwr; cytunasant i wahaniaethu, a chyfeillion a fuont hyd eu bedd. Dywedai Whitefield am Wesley ar ol hyn: "Yr wyf yn tybio ei fod yn gyfeiliornus mewn rhai pethau, ond credaf y bydd yn llewyrchu yn ddysglaer mewn gogoniant." Meddai drachefn mewn llythyr at Wesley ei hun: "Bydded i'r hen bethau basio heibio; gwneler pob peth yn newydd. Gallaf ddweyd ' Amen ' wrth y rhan ddiweddaf o hono. Byw byth fyd do y Brenin, a threnged dadleuaeth. Y mae wedi trengu gyda mi er ys amser." Natur serchog, gariadlawn, oedd eiddo Whitefield; ni allai oddef digasedd at hen gyfeillion; ac y mae yn dra sicr y teimlai John Wesley yn gyffelyb ato yntau. Nid yw yn perthyn i ni olrhain cynydd a gweithrediadau y ddwy gangen Fethodistaidd yn mhellach. A Whitefield a'i ganlynwyr yn unig, y rhai a elwid ar ol hyny yn Gyfundeb yr Iarlles Huntington, y bu cyfathrach a Methodistiaid Cymru, er i'r ddau Wesley fod yma droiau yn pregethu. Daw y pethau hyny dan ein sylw eto.

Nodiadau[golygu]