Neidio i'r cynnwys

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Daniel Rowland, Llangeitho

Oddi ar Wicidestun
Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
Howell Harris

PENOD IV

DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Daniel Rowland
ar Wicipedia

Ei faboed a'i ddygiad i fynu—Ei ordeiniad—Ei droedigaeth yn eglwys Llanddewi- brefi—Yn tynu lliaws i Langeitho trwy ei bregethu tanllyd—Pregethu y ddeddf—Yn dyfod yn fwy efengylaidd—Myned allan o'i blwyf—Cyfarfod am y tro cyntaf a Howell Harris—Erlid Daniel Rowland—Sefydlu seiadau—Ei droi allan o'r eglwys— Llangeitho yn dyfod yn Jerusalem Cymru—Desgrifiadau Charles o'r Bala; Jones, Llangan; Griffiths, Nevern; Christmas Evans; John Williams, Dolyddelen; a Dr. Owen Thomas, o weinidogaeth Rowland.


AR ben bryn goruwch dyffryn prydferth Aeron, tua milldir a haner islaw Llangeitho, ar y tu gorllewinol i'r afon, y saif amaethdy cyffredin ei olwg o'r enw Pantybeudy. Yma y ganwyd Daniel Rowland, yn y flwyddyn 1713. Ei rieni oeddynt Daniel a Jennet Rowland. Offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig oedd y tad, yn dal bywoliaethau Llancwnlle a Llangeitho, ac heb ddim neillduol ynddo i'w wahaniaethu oddiwrth glerigwyr eraill y wlad. Ail fab iddynt oedd Daniel, ond tra rhagorai ar John, y bachgen henaf, mewn talent, er i John hefyd gael ei ddwyn i fynu yn offeiriad. Ychydig o hanes maboed Daniel Rowland sydd ar gael, ond dywed traddodiad ei fod yn fachgenyn bywiog, llawn asbri a hoenusrwydd, gyda llonaid ei groen o chwareu, ac yn rhagori mewn pob math ar gamp. Yr oedd yn dywysog yn mysg ei gyfoedion ieuainc. Pa beth bynag a wnelid, ai pysgota brithyllod yn afon Aeron, chwareu hêl cadnaw ar hyd llechweddau y dyffryn coediog a thlws, neu ynte ymryson gyda y bêl droed, byddai ef yn debyg o fod ar y blaen. Rhagorai yn yr ysgol lawn cymaint ag fel chwareuwr; yfai ddysg fel yr ŷf y behemoth ddwfr. Er nad oedd yn meddu unrhyw dueddfryd grefyddol, dygid ef i fynu ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn ol arferiad y dyddiau hyny, a chafodd ei anfon i Ysgol Ramadegol Henffordd i berffeithio ei addysg. Pan yn ddeunaw oed, cafodd ei alw adref ar farwolaeth ei dad, ac nid yw yn ymddangos iddo ddychwelyd. Ond yr oedd yn ysgolhaig pur dda, ac oblegyd hyny cawn yr esgob yn ei ordeinio yn y flwyddyn 1733, pan nad oedd ond ugain oed, ac felly heb gyrhaedd yr oedran gofynol yn ol y gyfraith. Am ryw reswm anwybyddus yn awr, ordeiniwyd ef yn Llundain, ond ar sail llythyrau cymeradwyol esgob Tyddewi, a cherddodd yntau yr holl ffordd i fynu i'r Brif-ddinas. Profa hyn dlodi ei amgylchiadau, ac yn ogystal, wroldeb ei feddwl. Ymddengys y cawsai John, ei frawd hynaf, fywioliaethau Llangeitho a Llancwnlle ar farwolaeth eu tad; yn bur fuan rhoddwyd iddo yn ychwanegol ficeriaeth Llanddewi-brefi; ac yn guwrad i'w frawd di-nôd y penodwyd Daniel Rowland. Ni chyfododd yn uwch na chuwrad yn yr Eglwys Sefydledig, ac ni chafodd trwy ystod yr holl amser y bu yn gwasanaethu fwy na deg punt y flwyddyn fel cydnabyddiaeth am ei lafur.

Dyddiau y tywyllwch oedd y rhai hyn ar Gymru. Arferai yr offeiriaid garlamu yn ddifeddwl dros y llithiau a'r gweddïau yn yr eglwys, heb y gradd lleiaf o ddifrifwch yn eu hyspryd, ac ar derfyn y gwasanaeth aent allan i ymuno ag oferwyr y plwyf, naill ai mewn yfed cwrw a meddwi yn y dafarn gerllaw, neu ynte, mewn chwareuon ac ymrysonau ar y maes. Nid oes sail o gwbl dros gredu fod Daniel Rowland fymryn gwell; yn hytrach, oddiwrth yni ei natur, gallwn gasglu ei fod y blaenaf gyda y campau ofer, a'r annuwioldeb a'r rhysedd a ffynai. Ond nid hir y cafodd ei adael yn y cyflwr hwn. Etholasid ef gan Dduw i fod yn un o'r prif offerynau yn efengyleiddiad a dyrchafiad ysprydol Cymru,

Gyda golwg ar yr amgylchiadau a arweiniasant i'w droedigaeth ceir dau draddodiad gwahanol, ond nid anhawdd eu cysoni. Yn ol un, yr oedd yn eiddigus o'r cynulleidfaoedd mawrion a ymgynullent i wrando y Parch. Phyhp Pugh, gweinidog Presbyteraidd Llwynpiod, tra y pregethai ef yn Llangeitho i furiau moelion. Wedi ymholi, cafodd fod gweinidogaeth y gwr hwnw yn tueddu i ddefroi cydwybodau dynion, trwy ddynoethi eu pechodau, a'u trueni, a'u perygl. Penderfynodd yntau gymeryd yr un cynllun. Dechreuodd daranu yn ofnadwy yn erbyn drygioni, a darlunio trueni yr annuwiol yn y byd a ddaw yn y modd mwyaf brawychus a byw. Dewisai, gan hyny, destunau priodol i'r amcan, megys, "Y drygionus a ymchwelant i uffern," "Y rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol," "Daeth dydd mawr ei ddigter ef." Llwyddodd y cynllun yn mhell y tu hwnt i'w ddisgwyliad. Aeth yr eglwys yn rhy fach i ddal y gynulleidfa. Tyrai dynion o bob parth o'r wlad i wrando arno, dychrynid hwy yn ofnadwy gan weinidogaeth frawychus yr offeiriad ieuanc hyawdl, a dywedir fod dros gant o ddynion wedi eu dwyn tan argyhoeddiad dwys, cyn i'r pregethwr ei hun deimlo dylanwad y gwirionedd. Ond yn raddol darfu i'r gwirioneddau a draethai gyda'r fath nerth, ddwysbigo ei gydwybod yntau.

Yn ol traddodiad arall, yr hwn a adroddir gan y Parch. John Owen, Thrussington, daeth yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror, i bregethu i Eglwys Llanddewi-brefi, fel yr arferai weithiau, a phenderfynodd Daniel Rowland fyned i'w wrando. Gan mor lliosog oedd y gwrandawyr, nid oedd lle iddynt oll eistedd; a bu raid i Rowland, fel canoedd eraill, sefyll ar ei draed trwy ystod y gwasanaeth. Safai gyferbyn a'r pregethwr, ac yr oedd ei ymddangosiad a'i osgo yn falchaidd a choeg; eisteddai gwatwareg ar ei wedd; a hawdd gweled ei fod yn teimlo yn ddirmygus at yr hwn oedd yn y pwlpud, ac at y bobl oedd wedi ymgynull i'w glywed. Tynodd ei agwedd sylw Griffith Jones, methodd beidio cyfeirio ato yn gyhoeddus; a thorodd allan mewn gweddi ddifrifol ar ei ran. Aeth y saeth i galon Daniel Rowland; syrthiodd ei wynebpryd, llesmeiriodd ei galon, crynodd ei liniau ynghyd, a darostyngwyd y creadur uchelolwg yn bechadur digymorth ger bron Duw. Aeth adref gyda ei gymdeithion mewn dystawrwydd, a'i wyneb tua'r llawr, a golwg ddifrifol arno.

Nid yw y ddau draddodiad mewn un

—————————————

PANTYBEUDY: LLE GENEDIGAETH DANIEL ROWLAND.

—————————————

modd yn anghyson. Efallai i'w argyhoeddiad gael ei gychwyn gan y gwirioneddau a draethid ganddo ef ei hun, er mai tan weinidogaeth Griffith Jones y llwyr orchfygwyd ef. Nid yw yn anmhosibl fod ei gydwybod yn anesmwyth ynddo, pan yn sefyll yn dalgryf a balch o flaen gwyneb y pregethwr yn Eglwys Llanddewi-brefi; efallai fod yr anesmwythid hwnw, a'i ymdrech yntau i gael concwest arno, yn peri iddo ymroddi i fwy o goegni a herfeiddiad nag a wnelsai oni bai hyny; dyma ymdrech olaf natur lygredig i wrthsefyll nerth y gwirionedd, a hawdd deall ei bod yn frwydr galed ac ystyfnig. Pa fodd bynag, dychwelodd yn ei ol yn ddyn newydd. O herwydd yr olwg a gawsai ar ei gyflwr, ac ar ei waith yntau ei hun yn pregethu heb unrhyw amcan teilwng, teimlai yn athrist ar y ffordd, ac yn llawn digalondid, gan benderfynu na esgynai risiau y pwlpud mwy. Soniai y bobl oedd o'i gwmpas am y bregeth ryfedd a glywsent, gan dystio na wrandawsent ei chyffelyb erioed o'r blaen; disgynai eu hymadroddion fel plwm ar ei galon yntau, nes y llewygai ei yspryd ynddo, ac y cryfheid ei benderfyniad i beidio pregethu mwyach. Eithr yr oedd un amaethwr yn eu mysg, yr hwn a farchogai wrth ochr yr offeiriad athrist, ac wrth glywed y bobl yn mawrygu pregeth Griffìth Jones, tarawodd ei law ar ysgwydd Rowland, gan ddweyd: " Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar y bregeth heddyw, ni chefais i ddim budd ynddi; y mae genyf fi achos diolch i Dduw am offeiriad bach Llangeitho." Cafodd geiriau y ffermwr effaith rymus ar feddwl llwfr yr offeiriad ieuanc. Penderfynodd na wnai roddi i fynu y weinidogaeth, gan ddweyd ynddo ei hun: "Pwy a wyr na wna yr Arglwydd ryw ddefnydd o honof finau, greadur gwael." Mor dda yw gair yn ei amser!

Mewn canlyniad i'r tro mawr a gymerodd le arno yn Eglwys Llanddewi-brefi, daeth gweinidogaeth Rowland yn fwy angerddol. Ý ddeddf a bregethid ganddo; y ddeddf yn ei hysprydolrwydd, yn manylrwydd ei gofynion, ac yn ofnadwyaeth ei melldithion. Yr oedd ei hun wedi bod yn y tywyllwch dychrynllyd lle y mae Duw; toddasai ei galon fel cwyr yn y presenoldeb dwyfol; ac yn awr, safa yntau ar gopa mynydd Sinai, gan gyhoeddi dinystr ar euog fyd. Meddai y Parch. John Hughes[1] " Yr oedd mellt a tharanau arswydus yn ei weinidogaeth. Teimlai ei wrandawyr fel pe y crynai y ddaear dan draed, gan rym y bygythion a gyhoeddai. Saethodd fellt, a gorchfygodd ei wrandawyr. Dilynid ei weinidogaeth, bellach, gan effeithiau rhyfeddol. Daethai ar y trigolion diofal fel braw disymwth; deffroid hwy megys gan ruad taranau trymion. Meddianid y canoedd a'r miloedd a ddeuent weithiau i'w wrando a braw aruthrol, a syrthiai llawer o honynt i lawr fel meirwon. Gellid canfod arswyd a dychryn wedi ei bortreadu ar wynebau y dyrfa fawr; llethid eu cydwybodau gan saethau llymion; a llifai eu dagrau yn afonydd dros eu gruddiau, fel cawodydd o wlaw ar ol taranau mawrion." Tra y pregethai fel hyn, gan fygwth yr annuwiol, dywedir nad oedd gerwinder yn ei lais, na llymder yn ei wedd; ond i'r gwrthwyneb, y tynerwch mwyaf toddedig, fel pe y buasai ei ymysgaroedd yn toddi o'i fewn, oblegyd cyflwr difrifol y gynulleidfa.

"Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef;
Dewch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân;
Ffowch oddiyma mewn mynydyn
Ynte ewch yn ulw mân."

Ar yr un pryd, er mor rymus y pregethai Daniel Rowland, ac er mor angerddol y dylanwadau oeddynt yn cydfyned a'i weinidogaeth, nid yw yn ymddangos fod ei olygiadau am athrawiaethau hanfodol yr efengyl mewn un modd yn glir. Yr oedd wedi llyncu rhai o syniadau cyfeiliornus William Law. Prin hefyd y deallai fod iachawdwriaeth yn gyfangwbl o ras; yn hytrach, pregethai fel pe byddai mewn rhan trwy ras, ac mewn rhan trwy weithredoedd. Oblegyd hyn, achwynai rhai perthynol i gynulleidfa Llwynpiod wrth Mr. Pugh, eu gweinidog, gan geisio ganddo fyned at Rowland i ymliw ag ef oblegyd ei gyfeiliornadau, a cheisio ei osod ar yr iawn. Ond yr oedd yr hen weinidog hybarch yn adnabod y natur ddynol yn well. " Gadewch ef yn llonydd," meddai, " offeryn yw ag y mae yr Arglwydd yn ei gyfodi i wneyd rhyw waith mawr yn y byd. Fe ddiwygia mewn amser. Plentyn ydyw eto; fe ddysg ei Dad nefol ef yn well."Ateb teilwng o apostol. Meddai Dr, Lewis Edwards, "Nid wyf yn gwybod am ddim yn holl hanes Rowland ei hun, sydd yn dangos mwy o fawredd moesol na'r dywediad hwn o eiddo gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llwynpiod." Yr ydym am olrhain arweiniad rhagluniaeth ddwyfol yn mywyd Daniel Rowland. Ni symudodd gam, ond fel yr oedd bys Duw yn cyfeirio. Arweiniwyd ef i bregethu y tu allan i derfynau ei blwyf yn y modd canlynol. Yr oedd gwraig o gymydogaeth Ystrad-ffìn, yn Sir Gaerfyrddin, a chanddi chwaer yn preswylio yn Llangeitho. Pan ar ymweliad a'r chwaer hon, clywodd y wraig bethau ryfedd am bregethu Daniel Rowland, ac am y dylanwadau rhyfeddol oedd yn cydfyned a'i weinidogaeth, nes y gelwid ef gan y difeddwl yn y gymydogaeth yn 'ffeirad crac. Penderfynodd fyned i'w wrando. Ond aeth ymaith boreu dydd Llun heb ddweyd gair wrth ei chwaer am y pregethwr na'r bregeth. Y Sabbath canlynol, pa fodd bynag, wele hi yn nhŷ ei chwaer drachefn. Dychrynodd hono, gan dybio fod rhyw ddamwain alaethus wedi digwydd, a gofynodd yn frawychus, "Beth sydd yn bod? A oes rhywbeth wedi digwydd i'r gŵr neu i'r plant? " "Nag oes," meddai y wraig, "y mae pob peth yn y teulu o'r goreu." "Paham y daethoch yma heddyw eto, ynte? " "Nis gwn yn iawn," oedd yr atebiad; "rhywbeth a ddywedodd eich 'ffeirad crac chwi sydd wedi gafaelu yn fy meddwl, fel yr wyf wedi methu cael llonydd na dydd na nos." I wrando Rowland yr aeth, a pharhaodd i fyned yno bob Sabbath, er fod ganddi dros ugain milldir o ffordd arw, tros fynyddoedd anhygyrch, i'w teithio. Un tro mentrodd fyned ato, a dweyd, "Syr, os gwirionedd yw yr hyn ydych chwi yn bregethu, y mae llawer o ddynion yn fy nghymydogaeth i mewn cyflwr truenus iawn; er mwyn yr eneidiau gwerthfawr sydd yn cyflymu i golledigaeth mewn anwybodaeth, deuwch trosodd i bregethu iddynt."Tarawyd Rowland, a chwedi myfyrio am ychydig, atebai yn ei ddull sydyn ei hun, "Dôf, os câf ganiatâd yr offeiriad." Y caniatâd gofynol a gafwyd, aeth Rowland i gapel Ystradffin i bregethu, yr hyn a wnaed ganddo gyda chysondeb am rai blynyddoedd, a dychwelwyd llawer trwy ei weinidogaeth. Gyda chyfeiriad at hyn y canai Williams:[2]

"Daeth y sŵn dros fryniau Dewi,
Megys fflam yn llosgi llin,
Nes dadseinio creigydd Towi,
A hen gapel Ystrad-ffin."

Y mae amheuaeth a oedd Eglwys Loegr yn defnyddio capel Ystrad-ffìn yr adeg hon. Buasai yn nghau, heb fod unrhyw wasanaeth crefyddol yn cael ei gynal ynddo, am gryn amser; nid annhebyg ei fod felly ar hyn o bryd. Digwyddodd amgylchiad teilwng o'i gofnodi ynglyn a phregeth gyntaf Daniel Rowland yn Nghwm Towi. Yr oedd yn y gymydogaeth foneddwr, annuwiol ei foes, yr hwn a arferai dreulio y Sabbath mewn hela gyda ei gŵn. Clywsai yntau fod Rowland i ddyfod i'r capel i bregethu y Sul hwnw, a'i fod allan o'i bwyll, ac yn dweyd pethau rhyfedd. Aeth ef a'i gymdeithion i wrando, er mwyn difyrwch cnawdol, os nad er mwyn codi terfysg. Safai yn dalgryf ar fainc gyferbyn a'r pregethwr; yr oedd dirmyg yn ei wedd, a gwatwareg yn argraffedig ar ei wynebpryd. Amcanai ddyrysu gweinidog Duw. Deallai Rowland ei fwriad yn dda, ond yr unig effaith a gafodd arno oedd peri iddo fod yn fwy hyf dros ei Feistr. Ei destun ydoedd, " Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw! " Dechreuodd daranu yn ofnadwy, fflamiai ei lygaid gan eiddigedd sanctaidd dros Dduw, a disgynai ei ymadrodd llon gyda y fath nerth a dylanwad nes yr oedd y gynulleidfa yn welw gan ddychryn. Yn fuan dyma ddychrynfeydd y farn yn ymaflyd yn y boneddwr annuwiol; gwelwa ei wedd a diflana ei uchel-drem; y mae ei liniau yn curo ynghyd fel eiddo Belsassar, pan y gwelodd y darn Haw yn ysgrifenu ar galchiad y pared, ac ymollyngodd yn sypyn diymadferth ar y llawr. felly yr arhosodd hyd ddiwedd y bregeth, gan grynu ac wylo. Wedi i'r gwasanaeth derfynu, aeth at Rowland gan gyfaddef ei fai, a'i ddrwg-fwriad wrth ddyfod i wrando arno; gofynai ei faddeuant yn edifeiriol, a dyraunai arno fyned adref gydag ef i giniaw ac aros tros y nos. Achubwyd y dyn, elai i Langeitho unwaith y mis ar ol hyn tra y bu byw, a dygai ei ymarweddiad da a'i ddefosiwn dystioleth ddiamheuol i wirionedd ei grefydd.

Dyna fel yr arweiniwyd Daniel Rowland i weinidogaethu allan o'i blwyf; dyddorol sylwi eto pa fodd ei cymellwyd i bregethu mewn lleoedd anghysegredig. Dylid cofio mai adeilad eglwysig oedd Capel Ystrad-ffin, a'i fod wedi cael ei gysegru yn rheolaidd gan esgob, yn yr amser gynt, i weini mewn pethau sanctaidd ynddo. Ymddengys fod nifer o ieuenctyd annuwiol yn nghymydogaeth Llangeitho wedi ymgaledu mewn drygioni i'r fath raddau fel na allai hyd yn nod enwogrwydd Rowland eu tynu i wrando yr efengyl; treulient eu Suliau ar ben bryn gyferbyn a'r pentref, lle yr ymroddent i bob math o chwareuon annuwiol, er mawr ofid i'w enaid sanctaidd Gwnaeth ei oreu i osod terfyn ar y cyfryw chwareuon, ond bu pob ymdrech o'i eiddo yn aflwyddianus. O'r diwedd penderfynodd yr ai yno i bregethu. Yno yr aeth ryw Sabbath, a'i yspryd gwrol yn llawn o hyfdra sanctaidd; methodd y cwmni drygionus ddal mîn a nerth yr athrawiaeth, ac ymwahanasant am y cyntaf. Fel hyn y chwalwyd y nyth annuwiol hono. Wedi dechreu rhybuddio dynion drwg y tu allan i furiau yr eglwys, gan ymosod arnynt megys ar eu tiriogaethau eu hunain; a chwedi canfod y fath lwyddiant a'r fath fendith yn cydfyned a'i ymdrechion, naturiol iddo oedd myned rhagddo, a phregethu pa le bynag y caffai ddrws agored, heb ofalu a oedd y ddaear wedi cael ei chysegru gan esgob ai peidio. Felly y gwnaeth, ac yn bur fuan ymwelodd a rhanau helaeth o Gymru, gan gyhoeddi yr efengyl gyda llwyddiant mawr.

Dywedir iddo gael ei arwain hefyd, yn annibynol ar yr hyn a wnaeth Howell Harris, ac yn wir heb wybod am dano, i sefydlu seiadau profiad. Fel hyn y bu. Gofynodd i un o'r aelodau perthynol i Lancwnlle am alw gyda'r rhai oedd raewn cymundeb yno, a'u gwahodd i'w gyfarfod ef ar noswaith benodol mewn tŷ o'r enw Gelli-Dywyll, gerllaw Bwlchdiwyrgara, yr hwn le sydd mewn cwm cul ac unig yn arwain allan o ddyffryn Aeron. Daeth y rhai a wahoddasid ynghyd erbyn yr amser, ond methent ddeall beth a allasai ei amcan fod wrth eu cynull. Ofnent ei fod yn myned i'w ceryddu ara ryw feiau a ganfyddai ynddynt. Eithr gwasgarwyd eu hofnau yn fuan, canys gwelsant raai ei ddyben oedd eu lioh am natur ac aracan Swper yr Arglwydd,. a'u dysgu yn fanylach gyda golwg ar y sacrament sanctaidd. Treuliasant y rhan fwyaf o'r nos gyda'r gwaith hyfryd hwn, yn cael eu hadeiladu a'u cadarnhau yn y gwirionedd. Am gryn amser cedwid y cyfarfodydd hyn yn nhy teiliwr a breswyhai yn y cwm crybwylledig, o herwydd ei neillduedd, eithr yn mhen amser symudwyd hwy i un o ysguboriau Daniei Rowland. Caent eu cadw ar y cyntaf yn achlysurol, fel y byddai cyfleustra yn caniatau; weithiau ar y Sabbath, a phryd arall ar ddydd gwaith, yn y dydd neu yn yr hwyr; ac weithiau ar ol pregeth, pan fyddai pregethwr yn dyfod ar daith. Yn raddol, fodd bynag, daethant i gael eu cynal yn wythnosol, a gelwid y frawdoliaeth fyddai yno yn " gymdeithas grefyddol," yn society, neu yn band;" ond nid un amser yn eglwys, rhag traragwyddo yr Eglwyswyr. Gwelir fod anghenion ysprydol y rhai a gawsant eu hargyhoaddi wedi arwain Daniel Rowland

—————————————

GOLYGFA TUFEWNOL AR EGLWYS LLANGEITHO

(Allan o Meyrick's History of Cardiganshire)

—————————————

a Howell Harris, ar wahan i'w gilydd, i sefydlu cymdeithasau neillduol er adeiladu y praidd a'u cadw rhag myned ar gyfeiliorn; ac erbyn hyn y mae y cymdeithasau yma yn elfen o'r pwysicaf yn mywyd ysprydol y genedl.

Amrywia haneswyr yn eu barn gyda golwg ar pa un ai Daniel Rowland ynte Howell Harris oedd y blaenaf o ran amser ynglyn a'r Diwygiad. Dywed y Parch. John Hughes, Liverpool, [3] ei fod yn ymddangos yn lled sicr ddarfod i Harris gael y blaenafìaeth o ychydig amser; ond ni rydd Mr. Hughes un rheswm dros ei dybiaeth, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifena yn nes yn mlaen yn ei lyfr, y mae yn amlwg ei fod mewn cryn betrusder gyda golwg ar ei chywirdeb. Maentymia y Parch. Hugh J. Hughes, Cefncoedcymmer, mai Harris yn ddiamheuol bia y blaen mewn amseriad, yn gystal ag mewn cymeriad beiddgar a diofn; ond nid yw yntau ychwaith yn dwyn yn mlaen unrhyw brawf. Geiriau Howell Harris ei hun ydynt: "Am y gweinidog arall, y dyn mawr hwnw dros Dduw, Mr. Daniel Rowland, deffrowyd ef tua'r un amser a minau, mewn rhan arall o Gymru, sef yn Sir Aberteifì; ond gan mai ychydig o ohebiaeth oedd rhwng y sir hono a Brycheiniog, aeth ef yn mlaen gan gynyddu yn raddol mewn doniau heb wybod dim am danaf fì, na minau am dano yntau, nes i ni gyfarfod yn Eglwys Defynog, yn y flwyddyn 1737.[4] Tuedda Williams, Pantycelyn, yn amlwg i roddi y blaen mewn amser i Daniel Rowland, a Dylid cofio fod Williams yn gyfaill mynwesol i'r ddau, ac agos yn gyfoed a hwynt; a'i fod yn mhellach nid yn unig yn fardd ardderchog, ac yn emynydd digyffelyb, ond hefyd yn hanesydd gwych. Nid ydym yn rhoddi cymaint pwys ar ei eiriau yn y farwnad i Rowland:—

"Pan oedd tywyll nos trwy Frydain,
Heb un argoel codi gwawr,
A thrwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd
Wedi goruwch guddio'r llawr;
Daniel chwythodd yn yr udgorn."

Y mae yn amlwg nad yw yr ymadroddion hyn i'w gwasgu i'w hystyr eithaf, a defnyddia eiriau llawn mor gryfion gyda golwg ar Howell Harris:—

"Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca fach i maes."

Amlwg yw nad ydyw y difyniadau uchod yn penderfynu dim ar y mater; gellir gosod y naill farwnad ar gyfer y llall. Eithr y mae un llinell yn marwnad Rowland a ymddengys yn troi y glorian yn drwm o'i blaid:-

"Rowland startodd allan gyntaf,
A'i le gadwodd ef yn lân;
Ac nis cafodd, er gwisgied,
Ungwr gynyg cam o'i flaen."

I "Ond y mae perygl i ni fod yn rhy frysiog," meddai y Parch. Lewis Edwards, D.D., oblegyd nid yw yn sicr fod yma gyfeiriad at Howell Harris.[5] Er hyny, pe buasai Harris wedi 'startio' allan yn gyntaf, nid yw yn debyg y buasai Williams yn anghofio y ffaith wrth gyfansoddi ei farwnad, ac y mae yn ddiau y buasai hyny yn ei rwystro i ddefnyddio geiriau mor gryfion am Rowland."

Ymddengys yr holl amgylchiadau fel yn ffafrio y golygiad fod Rowland wedi tori allan i rybuddio pechaduriaid lawn mor fuan a Harris, os nad o'i flaen. Argyhoeddwyd Howell Harris yn y flwyddyn 1735. Hydref y flwyddyn hono aeth i Rydychain. Ond yr oedd yn flaenorol wedi dechreu cynghori ei gydwladwyr. Dychwelodd adref o gwmpas y Nadolig, ac nid aeth yn ei ol. Ail ymafla yn ei waith yn gynar yn y flwyddyn 1736. Y flwyddyn ganlynol, sef yn 1737, yr ydym yn cael Daniel Rowland yn pregethu yn Eglwys Defynog, ddeugain milldir o'i gartref fel yr hêd brân; a chawn ef yr un flwyddyn ar daith yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw yn debyg y buasai yn myned i bregethu i siroedd eraill, heb ei fod wedi treulio cryn lawer o amser yn y cymydogaethau o gwmpas ei gartref, a chael arwyddion amlwg fod bendith ar ei ymdrechion. Meddai Joshua Thomas, ei gydoeswr, gyda golwg arno:—[6] "Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ei glywed o gylch 1737 yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno liaws yn gwrando; ac mi glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref. Yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn: "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr ond Griffith Jones. Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni yn mhlith pobl yr Eglwys." Dylid cofio mai gwr ieuanc, newydd gychwyn ar ei waith oedd Daniel Rowland y pryd hwn; a bod ei ddoniau pregethwrol heb ymddadblygu eto i'w gogoniant uchaf; felly y mae y ganmoliaeth a roddir iddo, fel agos yn gyfartal a Griffith Jones, yn dra nodedig.

Efallai nas gellir profi fel ag i'w osod y tu hwnt i amheuaeth mai Rowland a bia y blaen, ac nid yw hyny o gymaint pwys. Eithr yr oedd ei gyd-gyfarfyddiad ef a Howell Harris yn Defynog, yn 1737, yn amgylchiad o'r pwys mwyaf. Eu hanes hwy iU dau yw hanes Methodistiaeth Cymru am y pymtheg mlynedd nesaf. Meddai Harris, yn y llythyr a ddifynwyd yn barod, " Pan y clywais y bregeth, ac y gwelais y doniau a rodded iddo, ynghyd a'r nerth a'r awdurdod rhyfeddol gyda pha un y llefarai, a'r effeithiau ar y bobl, yr oeddwn yn wir ddiolchgar, a llosgai fy nghalon o gariad at Dduw ac ato ef. Dyma ddechreu fy nghydnabyddiaeth ag ef, ac i dragywyddoldeb ni bydd diwedd arno." Aeth Harris gyda Rowland i Langeitho, "a phan y clywais ragor am ei athrawiaeth a'i gymeriad " meddai, " mi a gynyddais yn fwy mewn cariad tuag ato." Ni fedrai Daniel Rowland fyned oddicartref ar deithiau gweinidogaethol i'r un graddau a rhai o'i gyfeillion, oblegyd yr eglwysi oeddynt dan ei ofal, ond ymddengys iddo yntau deithio y rhan fwyaf o'r Dywysogaeth, a hyny lawer gwaith, fel y tystia Williams, Pantycelyn:—

"Nid oes un o siroedd Cymru,
Braidd un plwyf sy'n berchen crêd,
Na bu Rowland yn eu teithio
Ar eu hyd ac ar eu lled;
Dros fynyddau, drwy afonydd,
Ac aberoedd teithio' sydd,
O Dyddewi i Lanandras,
O Gaergybi i Gaerdydd."

Fel y darfu i ni sylwi, pregethu y ddeddf a wnelai ar y dechreu; [7] "ond nid y ddeddf fel crynodeb o drefniadau," meddai Dr. Lewis Edwards, "eithr y ddeddf fel y mae yn ddatguddiad o sancteiddrwydd Duw. Yr oedd Rowland wedi gweled Duw, ac yn teimlo ei fod wedi derbyn cenadwri oddiwrtho, ac am hyny yn llefaru fel un ag awdurdod ganddo. Deallodd y bobl yn fuan fod yno ffynhonell o fywyd anorchfygol wedi tarddu allan o Langeitho. Yn raddol, trwy ei lafur ef ac eraill, ymdaenodd y sŵn trwy Gymru; ac ar y rhai oedd yn credu y dystiolaeth yr oedd yn effeithio yn lled gyffelyb i'r hanes yn ein dyddiau ni am ddarganfyddiad cloddfa o aur yn Awstralia." Pa hyd y parhaodd ei weinidog aeth yn daranllyd ac ofnadwy, ni wyddis; ond yr oedd wedi teithio cryn lawer o'r Dywysogaeth cyn i'w thôn gyfnewid. Meddai Williams yn ei farwnad:—

"Pump o siroedd penaf Cymru,
Glywsant y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachâd,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed."

Tybir mai am ryw dair blynedd y bu fel Mab y Daran yn genad dychryn; yn y flwyddyni73g,cyhoeddodduno'ibregethau, dan yr enw " Llaeth Ysprydol," oddiar I Petr, ii. 2; ac er ei fod yn y bregeth yma yn tueddu at fod yn ddeffrous a thanbaid, eto y mae yn dra efengylaidd a chysurlawn o ran tôn, a'i gymhwysiadau yn ddyddanus, yr hyn a brawf fod ei yspryd wedi tyneru i raddau mawr. Dywedir mai yr hên Mr. Pugh, gweinidog Annibynol Llwynpiod, a f u y prif foddion i effeithio y cyfnewidiad ynddo. "Mr. Rowland bach," meddai, "pregethwch yr efengyl i'r bobl; cymhwyswch y Balm o Gilead at eu clwyfau ysprydol; a dangoswch iddynt yr angenrheidrwydd am ffydd yn yr iachawdwr croeshoeliedig." Atebai yntau, "Yr wyf yn ofni nad yw y ffydd hono, yn llawn nerth ei gweithrediad, genyf fi fy hunan." Meddai Mr. Pugh yn ol, " Pregethwch hi hyd oni theimlwch ei bod genych; os ewch yn y blaen i bregethu y ddeddf yn y modd yma, byddwch yn fuan wedi lladd haner pobl y wlad! Yr ydych yn taranu melldithion y gyfraith, ac yn pregethu mor ofnadwy fel nas gall neb sefyll o'ch blaen." Nis gellir meddwl am olygfa fwy dyddorol; gweinidog Ymneillduol, heb nac eiddigedd na rhagfarn, yn cynghori gŵr ieuanc o offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig; un oedd wedi ei ddisodli o ran poblogrwydd yn y wlad, ac wedi lladratta ei gynulleidfa i raddau mawr oddiarno. Yr oedd Rowland o'r tu arall yn ddigon gostyngedig a syml ei galon i dderbyn y cyngor caruaidd yn yr yspryd yr oedd yn cael ei roi, ac i weithredu yn ei ol. O hyn allan, daeth yn Fab Dyddanwch. Meddai Williams, Pantycelyn, eto:—

"'Nol pregethu 'r ddeddf dymhestlog,
Rai blynyddau yn y blaen,
A rhoi llawer yn friwedig,
'Nawr, cyfnewid wnaeth ei gân;
Fe gyhoeddodd iachawdwriaeth
Gyflawn, hollol, berffaith, llawn,
Trwy farwolaeth y Messiah
Ar Galfaria un prydnawn."

Gyda'r cyfnewidiad hwn yn nhôn ei weinidogaeth, cyfnewidiodd y dylanwadau ar y

gwrandawyr. Yn flaenorol, llewygent gan ofn, dychrynid hwy gan arswyd y Barnwr nes y toddai eu heneidiau ynddynt fel cwyr; nid oedd yr effeithiau gwedi hyn yn llai rhyfeddol, nac yn llai nerthol, ond bellach torent allan mewn gorfoledd a chân. Dyma ddechreuad y molianu am ba un y daith Llangeitho yn enwog. Ymddengys fod Rowland ei hun ar y dechreu yn anfoddlawn i'r molianu a'r neidio; ofnai nad oedd yn hollol bur, y gallai roddi achlysur i'r cnawd, a pheri i'r gelyn gablu. Ò herwydd hyn ceisiai gan y bobl ymatal, a chadw ei teimladau danodd. Ond buasai lawn mor hawdd cadw y dwfr rhag berwi tra y llosgai y tân o dano gyda gwres. Wedi i'r gynulleidfa gael ei gwasgu i ymylon anobaith, a chanfod uffern yn agor ei safn i'w llyncu; pan y canfyddent yr Arglwydd Iesu yn ei ogoniant fel Gwaredwr holl-ddigonol ar eu cyfer, ac yn ewyllysio i'w hachub, torai y teimlad dros bob restraint, a mynent foli am y waredigaeth. Dywedir mai o'r braidd y daeth Rowland yn gymodlawn a'r peth hyd ddiwedd ei oes. Ond amddiffynai y rhai oeddynt yn molianu rhag gwawd y Saeson clauar. "Yr ydych chwi yn galw arnoni ni," meddai, ' Neidwyr, Neidwyr,' gallwn ninau alw arnoch chwithau, ' Cysgaduriaid, Cysgaduriaid. Efallai nad oedd y cyffro a'r llefain a'r bloeddiadau o fawl yn hollol rydd oddiwrth gnawd yn mhawb; fod y teimladau weithiau pan y rhedent dros y llestri heb fod yn gyfangwbl yn gynyrch Yspryd Duw; ac nid annhebyg fod rhai dynion annuwiol yn cael eu cario i ffwrdd, mewn ffordd nas gwyddent, gan y dylanwad, ac yn ymuno yn y gân. Ond wedi 'r cwbl, rhaid ystyried fod y goleuni wedi tywynu ar y bobl yn nodedig o sydyn, fod y rhyddhâd adeimlent yn rhyddhâd oddiwrth ddigofaint yr Anfeidrol oedd yn pwyso fel mynydd ar eu cydwybodau; ac mewn canoedd yr oedd y gorfoledd, er yn eithafol, ac yn cymeryd ffurfiau anarferol, mor bur ac ysprydol ag y geill unrhyw deimlad duwiolfrydig fod ar y ddaear hon. Profodd llawer o'r rhai a fu yn gorfoleddu yn Llangeitho, trwy eu bywydau duwiol, eu dyoddefiadau oblegyd eu crefydd, a'u hymroddiad i wasanaethu yr Arglwydd Iesu er gwaethaf pob gwrthwynebiad, eu bod wedi cael eu hail-eni i fywyd tragywyddol.

Yr oedd yr effeithiau a ddilynent ei weinidogaeth bellach yn nodedig iawn. Meddai Howell Harris, mewn llythyr a ysgrifenodd at Whitefield, Mawrth 1af, 1743: '[8] " Yr oeddwn y Sul diweddaf yn ngwasanaeth y cymundeb gyda y brawd Rowland, He y gwelais, y clywais, ac y teimlais y fath bethau na allaf roddi i chwi un syniad am danynt ar bapyr. Y mae y gallu sydd yn parhau gydag ef yn rhywbeth anghyffredin. Y fath waeddu allan, y fath ocheneidiau calonrwygol, a'r wylo dystaw, a'r galaru sanctaidd, a'r fath floeddiadau o lawenydd a gorfoledd ni chlywais erioed. Gwnai eu hamenau, a'u gogoniant, osod eich enaid yn fflam pe baech yno. Pan y pregetha, peth arferol yw fod ugeiniau yn cwympo i lawr tan ddylanwad y Gair, wedi eu gwanu a'u clwyfo; neu wedi cael eu gorchfygu gan gariad Duw a phrydferthwch a gogoniant yr Iesu. Llethir natur, fel pe bai, gan y mwynhâd o Dduw a deimlir ganddynt, fel na allant ddal ychwaneg. Braidd nad yw yr yspryd yn dryllio y tŷ o glai i gael hedfan i'w gartref. Cynwysa ei gynulleidfa, mi dybiaf, yn mhell dros ddwy fil, o ba rai y mae y rhan fwyaf wedi cael eu dwyn i ryddid gogoneddus, a rhodiant yn gadarn mewn goleuni clir." Trachefn a thrachefn, bron yn yr holl o'i lythyrau, cawn Howell Harris yn cyfeirio at y dylanwadau gogoneddus oedd yn cydfyned a gweinidogaeth Rowland yn y cyfnod hwn. Dywed drosodd a throsodd fod yr effeithiau yn annesgrifiadwy. Ddiwedd y flwyddyn 1742, ysgrifena o Langeitho, at ei frawd,[9] Heddyw clywais yr anwyl frawd Rowland, a'r fath olygfa ni welodd fy llygaid erioed. Nis gallaf anfon i chwi un syniad am dani. Yr oedd y fath oleuni a nerth yn y gynulleidfa fel nas gellir ei fynegu. Elai y bobl wrth y canoedd o'r naill eglwys blwyfol i'r llall, dair milldir o bellder (o Langeitho i Lancwnlle, yn ol pob tebyg) dan ganu a llawenychu yn Nuw; a chwedi cyfranogi o'r Swper Sanctaidd, dychwelasant gynifer o filldiroedd trachefn i'm gwrando i y nôs; a galluogwyd fi i lefaru, gyda nerth nad wyf yn arfer gael, ar y ffordd fawr, hyd wyth o'r gloch, i tua dwy fil. Y mae rhai o'r proffeswyr cnawdol, oeddynt wedi adeiladu ar y tywod, yn dyfod yn feunyddiol dan

argyhoeddiad. Y mae yr wyn (y dychweledigion) yn tyfu, a llawer yn rhodio

—————————————

Darluniau cyntefig y Parch Daniel Rowland
Darluniau cyntefig y Parch Daniel Rowland

Darluniau cyntefig y Parch Daniel Rowland

Llangeitho

—————————————

mewn rhyddid gogoneddus. Y mae tân cariad Duw yn cael lle mewn llawer calon, ac y mae Duw yn wir fel fflam yn eu canol. Cynhaliant seiadau bob nos, a'r fath yw y dylanwad a deimlir ganddynt mewn gweddi yn fynych, fel y tarewir hwy a dystawrwydd ofnadwy; bryd arall, boddir llais y gweddïwr gan gri calonau drylliedig." Dyma dôn holl lythyrau Harris y pryd hwn. Nis geill ymatal rhag datgan ei syndod aruthrol o herwydd y nerthoedd oedd yn cydfyned a phregethu ei gyfaill. Pan wedi gwrando Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn Sir Benfro, y clod uchaf a fedr roddi iddynt yw dweyd eu bod wedi cyfranogi yn helaeth o dAn Llangeitho. Ac nid yn ei gartref yn unig y byddai y cyfryw ddylanwadau yn cydfyned a phregethu Daniel Rowland, ond pa le bynag yr elai. Meddai ef ei hun, mewn llythyr at Howell Harris, yr hwn oedd yn Llundain, dyddiedig Hydref 20, 1742: [10] " Yr wythnos ddiweddaf bum ar daith yn Siroedd Caerfyrddin a Morganwg, ac odfaeon ardderchog oeddynt; cynulleidfaoedd cyfain yn cael eu dwyn i deimlo, a llawer yn bloeddio allan fel yr oedd fy llais yn cael ei foddi. Croesawyd fi i'w tai gan rai personau o safle, a hyny gyda pharch anarferol. O! beth wyf fi, fel y gwelai fy llygaid, ac y clywai fy nghlustiau y fath bethau! "Mewn llythyr arall, at un o'i wrandawyr oedd yn Llundain, dywed Rowland:—[11] "Y mae crefydd yn blodeuo yn y rhanau hyn o'r wlad. Dylifa miloedd i glywed y Gair. Y mae rhan fawr o honynt yn y fath ingoedd nes bod yn ddigon i wanu y galon galetaf. Gwnaeth rhai ef yn bwnc i'w ceryddu; ond y mae y rhai hyny eu hunain yn awr wedi eu gorchfygu gan allu Duw, ac yn gwaeddu allan:— 'Pa beth a wnant fel y byddont gadwedig.' Chwi a ryfeddech at yr hyn ydym ni yn weled ac yn glywed yn feunyddiol. Am danaf fy hun, gallaf dystio na welais, ac na chefais erioed y fath nerth ag wyf yn awr yn gael bol) dydd." Canlyniad y weinidogaeth nerthol yma, a'r effeithiau rhyfeddol oedd yn cydfyned a hi, oedd tynu tyrfaoedd i Langeitho o bob cwr o'r wlad. Daeth y pentref bychan gwledig, diaddurn, yn Jerusalem Cymru.

Efallai na theithiai Daniel Rowland gymaint ag a wnelai Harris, a Williams, Pantycelyn; pregethwyr teithiol oeddynt hwy; ond gwasanaethai ef yn rheolaidd yn y tair eglwys i ba rai y cawsai ei benodi yn guwrad, sef Llangeitho, Llancwnlle, a Llanddewi-brefi. Yr un pryd, y mae sicrwydd ei fod yn trafaelu llawer, a hyny trwy bob rhan o'r Dywysogaeth. Pregethai yn fisol yn Ystrad-ffin, Twrgwyn, Waunifor, Abergorlech, a Llanlluan. Yn anffodus, ychydig o hanes ei deithiau sydd genym, oblegyd fod ei bapyrau wedi cael eu cyfrgolli. Gwedi marwolaeth Rowland casglwyd yr oll a ellid gael o'i lythyrau a'i hanes, gan ei fab, Nathaniel Rowland, ac anfonwyd hwy i'r Iarlles Huntington, yr hon a fwriadai gael bywgraffiad iddo wedi ei ysgrifenu gan ryw berson cymhwys. Cyn i hyny gael ei wneyd bu farw yr Iarlles, ac aeth y wybodaeth werthfawr a anfonasid iddi i golli.[12] Adrodda y Parch. John Evans, y Bala, mewn hen ysgrif o'i eiddo, am Rowland yn ymweled a Llanuwchllyn, yn y flwyddyn 1740. Gofynodd am ganiatad yr offeiriad a'r wardeniaid i bregethu yn yr eglwys, a chafodd hyny, Ymddengys nad oedd yr offeiriad, mwy na Galio gynt, yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Nid gwaeth ganddo, dybygid, pwy a bregethai, na pha beth a bregethid. Aeth yn ymddiddan rhyngddo a Rowland ynghylch ail-enedigaeth, ond cyfaddefai yr hen offeiriad na wyddai efe ddim o gwbl am y pwnc hwnw. "Beth," ebai y Diwygiwr, "a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?" Digwyddodd Rowland Lloyd, periglor Llangower, ger y Bala, fod yn y pentref ar y pryd, a phan glywodd fod un o'r Methodistiaid wedi cael caniatad i bregethu yn eglwys y plwyf, cyffrodd trwyddo. Ymaith ag ef ar ffrwst, ac i'r eglwys. Yr oedd y gwasanaeth wedi dechreu, ac ar unwaith dechreuodd yntau godi terfysg. Darllenai Mr. Rowland ar y pryd benod y melldithion yn Deuteronomium, sef yr xxviii. "Beth," ebai Lloyd, "a ydyw Stephen, Glanyllyn (boneddwr a drigai gerllaw), yn felldigedig? " "Ydyw," oedd atebiad Rowland, "os yw y gŵr yn ddyn annuwiol." Aeth y terfysg yn fwy gwedi'r atebiad hwn; dechreuodd rhyw hen ddynes ganu y gloch yn drystfawr; a rhwng brygawthan offeiriad Llangower, a thinc y gloch, rhwystrwyd yr odfa, ac er gofid i'r gynulleidfa bu raid i Daniel Rowland ymadael heb bregethu. Aeth Rowland i Lanuwchllyn ar ol hyn, a phregethai y tro hwnw oddiar gareg farch y Felin-dre, ffermdy yn nghydiad plwyfi Llanuwchllyn a Llangower. Ni wyddis dyddiad yr odfa. Ei destun ydoedd:— " Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau " (Can. ii. 8). Nid oes hanes am effeithiau y bregeth, ond fod y bobl mor anwybodus fel yr edrychent i'r bryniau o gwmpas, gan ddisgwyl gweled rhywun hynod yn gwneyd ei ymddangosiad.

Cawn ef yn ymweled a'r Gogledd hefyd yn 1742.[13] Mewn llythyr a anfonodd at Howell Harris y flwyddyn hono, dywed iddo fod yn ddiweddar ar daith yn Sir Drefaldwyn; ddarfod iddo, naill ai wrth fyned neu ddychwelyd, bregethu gyda nerth anarferol mewn amryw eglwysi a thai anedd yn Mrycheiniog, a bod rhyw Mr. Phillips, o Lanfairmuallt, wedi ei roddi yn Nghwrt yr Esgob am lefaru mewn ty tafarn yno. Ychwanega fod y brawd W. Williams — Williams, Pantycelyn, yn ddiau—wedi cael ei roddi yn yr un llys am nad oedd yn byw yn y plwyf yn mha un y gweinidogaethai. Ceisia gan Harris, yr hwn oedd yn y Brif-ddinas ar y pryd, am ymgynghori a'r brodyr yn Llundain pa fodd y dylid ymddwyn dan yr amgylchiadau. Y mae yn fwy na thebyg ddarfod i Daniel Rowland, y flwyddyn ganlynol, sef 1743, deithio trwy Sir Gaernarfon, mor bell a Sir Fôn, er na cheir hanes y daith yn ei gofiant, nac yn Methodistiaeth Cymru. Mewn llythyr o eiddo un Evan Williams, cynghorwr yn Nghymru, yr hwn a gafodd ei ysgrifenu yn y flwyddyn 1742, dy wedir:—[14]"Y mae Mr. M. H——s wedi bod yr wyth nos ddiweddaf yn Sir Fôn, a rhyfedd fel y mae y gwaith yn myned yn mlaen yno. Bwriada y brawd Rowland fyned yno yn mhen mis." Ddarfod iddo gario allan ei fwriad sydd sicr, oblegyd dywed un T——s B——n, yr hwn yntau oedd hefyd yn gynghorwr yn ol pob tebyg, mewn olysgrifilythyr a ysgrifenwyd ganddo yn 1742: " Bu y brawd Richards a'r brawd R——s yn Sir Fôn. Yn awr y mae y brawd Richards yn myned o gwmpas Deheudir Cymru." Diau mai Daniel Rowland oedd y brawd " R——s "; ysgrifenid ei enw weithiau yn Rowland, a phryd arall yn Rowlands; ac felly y gwnai ef ei hun. Y mae y gweddill o lythyr Evan Williams mor ddyddorol fel yr ydym yn rhwym o'i gofnodi:— "Bendithiwyd y brawd Beaumont yn fawr yn ein tref, yn neillduol er dystewi yr erlidwyr. Ond digwyddodd fod Cwrt yr Esgob yn fuan, a phregethodd y Canghellydd yn erbyn y Methodistiaid ac yn erbyn Mr. Whitefìeld, fel y trowyd meddwl llawer o'r bobl drachefn. Gelwir llawer i'r cwrt er rhoddi cyfrif paham y cadwant seiadau yn eu tai. Tybiodd rhai mai gwell oedd talu (y dirwyon a osodid arnynt), gan eu bod yn weiniaid, er mwyn cael myned yn rhydd. Gwedi eu holi, dywedwyd wrthynt eu bod yn bobl oedd yn bwriadu yn dda, ond y dylent geisio cadw Rowland a Harris o fewn eu terfynau. Dywedodd y Canghellydd y gwnai selio gwarant i ddal Rowland y tro nesaf." Eglura llythyr yr hen gynghorwr fel yr erlidid y Methodistiaid yr adeg hon gan swyddogion yr Eglwys Wladol. Am awdwr y llythyr, sef Evan Williams, brodor o Ystradgynlais ydoedd; cawsai ei argyhoeddi wrth ddarllen gwaith Bunyan, "Tyred, a chroeso, at Iesu Grist; ". ac yn bur fuan dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid. Am beth amser bu yn un o ysgolfeistri Griffìth Jones, gan yr hwn y danfonwyd ef i Sir Gaernarfon i gadw ysgol. Yr oedd hyn yn 1742. Erlidiwyd ef yn enbyd yno, bu mewn perygl am ei einioes, a ffodd yn ei ol at Griffith Jones. Y dref y sonia am dani yn ei lythyr, yn ol pob tebyg, oedd Caerfyrddin. Diweddodd ei oes gyda'r Annibynwyr.

Cawn gyfeiriad at ymweliad o eiddo Daniel Rowland a Lleyn, yn Sir Gaernarfon, a gymerodd le cyn y flwyddyn 1745, mewn hên interliwd. Ai y daith yn 1743 ydoedd, ynte taith a gymerodd y flwyddyn ddilynol, nis gwyddom. A ganlyn yw gwyneb-ddalen yr interliwd:—

INTERLUDE MORGAN Y GOGRWR
Ar Y CARADOGS, NEU FFREWYLL Y
METHODISTIAID , yn dair Act Gan
WLLIAM ROBERTS, o Lanor yn
Llyn, Mwythig; argraffwyd
gan R Lathrop tros yr
AWDWR, 1745."

Yr oedd hon yn un o'r interliwdiau mwyaf poblogaidd yn erbyn y Methodistiaid; chwareuid hi mewn ffeiriau a lleoedd poblog, er mawr ddifyrwch i'r werin isel eu chwaeth, a chyda chymeradwyaeth boneddigion ac offeiriaid yr ardaloedd. Heblaw fod y syniadau a roddir yn ngenau y gwahanol gymeriadau Methodistaidd yn yr interliwd yn gelwyddog, y mae yr iaith yn warthus ac aflan mewn llawer man, yn gymaint felly fel na feiddiem ddifynu aml i linell. Darlunir "Chwitfíild," fel ei gelwir, yn dweyd fel y canlyn wrth Howell Harris:—

"Pa beth a dâl trâd i ddyn truan,
A rhoi 'r mawr anhunedd arno fo 'i hunan,
I yru dynion anonest i'r ne',
Dan rorio, oni cheiff ynte 'r arian?
Mi rois i sos go dda i'r Saeson,
Mae yno bob bedlem yn abl boddlon;
Ped ferdid tithe'n medru gyru 'r Cymry o'u co',
Nyni a 'sguben holl eiddo 'r Esgobion.
Ac a gaem ferdid y Brenin ar fyrder
A'r Parlament i wneyd ffwrn saith mwy ei phoeth'der,
Na ffwrnas Nebucodonosor sur,
I losgi gwyr Eglwys Loeger."

Hysbysir ni ar waelod y ddâlen fod y penill olaf hwn yn cynwys " geiriau a ddywedwyd gan Mr. Dan Rowlands, yn Lleyn, a chan Tho Jones, o Bortdinllaen."' Y mae'r interliwd trwyddi, a chynwysa dros driugain tudâlen, yn llawn o'r cyffelyb gam-ddarluniadau o amcanion y Methodistiaid, ac o'r athrawiaethau a bregethid ganddynt. Ond ein hunig amcan ni yn awr, wrth ei difynu, oedd profi ddarfod i Daniel Rowland ymweled a Lleyn, cyn y flwyddyn 1745.

Cawn hanes hefyd am dano yn teithio trwy ranau o Sir Gaernarfon a Sir Fôn, yn 1747, ac yn ffodus y mae cryn dipyn o hanes y daith ar gael. Yn Mhenmorfa, ger Porthmadog, bygythiwyd ef yn dost, gan ei sicrhau, os pregethu a wnai, y gwneid ei esgyrn yn ddigon mân i'w gosod mewn cwd. Diystyru eu bygythion a wnaeth. Aeth yn ei flaen i Leyn, lle y cyfarfyddodd a rhai cyfeillion serchog. Yn Llanmellteyrn, gwnaed cais am gael yr eglwys iddo, am ei fod yn offeiriad urddedig, ond nacawyd hi. Pregethodd yntau oddiar y gareg farch wrth borth y fynwent. Ei destun oedd, Jer. xxx. 21:—[15]]] "Canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesau ataf fi? medd yr Arglwydd." Yn ei bregeth profai nad oedd neb ond Crist wedi llwyr roddi ei galon i'r perffeithrwydd ag y mae deddf Duw yn gofyn. Yna darluniai gyfiawnder yn dangos yn mlaen llaw i Iesu Grist y dyoddefiadau y byddai raid iddo fyned trwyddynt, os elai yn ei flaen i dâlu dyled pechaduriaid. " Gwybydd," meddai cyfiawnder, " er dyfod at yr eiddot dy hun, na chai ond tŷ yr anifail i letya, a phreseb yn gryd, a chadachau yn wisgoedd." Ond yn lle cilio yn ol, atebai y Gwaredwr, "Boddlawn i'r driniaeth hono er mwyn fy nyweddi." " Os wynebu i fyd sydd dan y felldith, cai fod heb le i roi dy ben i lawr; ie, byddi yn nôd i eithaf llid a malais creaduriaid sydd yn cael eu cynal genyt bob moment." " O íy nghyfraith lân, yr wyf yn foddlawn i hyny! " " Cai hefyd chwysu dafnau gwaed ar noswaith oer, a phoeri yn dy wyneb, a'th goroni a drain; a'th ddysgyblion, wedi bod cyhyd o amser yn gweled dy wyrthiau, ac yn gwrando dy nefol athrawiaethau, yn dy adael yn yr ing mwyaf; ie, un o honynt yn dy werthu, ac un arall yn dy wadu, gan dyngu a rhegu yn haerllug na adwaenai mo honot." "Er caleted hyn oll," meddai Iesu Grist, "ni throaf yn ol; cuddiwyd edifeirwch o'm golwg." Yn ganlynol, dyma gyfiawnder a'r gyfraith yn cyd-dystio:— "O dydi, Wrthrych clodforedd holl angyhon y nef, a gwir hyfrydwch y Jehofah Dad, os anturi i'r fachnïaeth ddigyffelyb yma, bydd holl allu uffern yn ymosod arnat, a digofaint dy Dad nefol yn ddigymysg ar dy enaid a'th gorff sanctaidd ar y groes; ie, os rhaid dweyd y cyfan, bydd raid i ti oddef tywallt allan y diferyn olaf o waed dy galon! " Yn awr, pwy heb syndod a all feddwl am y Meichiau bendigedig, yn ymrwymo yn ngwyneb yr holl ystormydd i gymeryd y gorchwl caled arno ei hun, ac yn ngwyneb y cwbl yn gwaeddu " Boddlawn!" Ni allodd fyned yn y blaen ymhellach mewn ffordd o bregethu, canys torodd allan yn un floedd orfoleddus o wylo a diolch, megys y blwch enaint gynt yn llenwi y lle a'i berarogl. Ni anghofiwyd y tro hwn gan lawer ddyddiau eu hoes.

Ymwelodd lawer gwaith a'r Gogledd wedi hyn. Dywedir y rhoddai dro trwy y rhan fwyaf o Gymru unwaith yn y flwyddyn am ysbaid lled faith o'i oes. Bu yn gwasanaethu yn aml yn Llundain; a phregethai nid yn anfynych yn nghapelau yr Iarlles Huntington yn Bristol, Bath, a manau eraill.

Fel y rhan fwyaf o'r Diwygwyr, cafodd yntau ei erlid a'i faeddu yn fynych. Nid anaml byddai offeiriad y plwyf, neu foneddwr a breswyliai yn yr ardâl, yn cyflogi nifer o ddihirwyr i ymosod arno, pan y byddai yn ceisio llefaru. Mewn llythyr at Whitefield, dyddiedig Chwefror 14, 1743, dywed Howell Harris,[16] "Yr wyf wedi gweled y brawd Wm. Williams, ar ei ddychweliad oddiwrth y brawd Rowland, ac fe'm hysbyswyd ganddo ddarfod i'r gelyn gael ei ollwng yn rhydd arnynt ill dau, pan yn pregethu ar lan y môr mewn rhan o Sir Aberteifi. Daeth cwmni o ddhirwyr, wedi eu harfogi a phastynau ac a drylliau, gan ymosod arnynt a'u curo yn ddidrugaredd. Trwy ofal y Pen Bugail, dihangasant heb dderbyn niwed mawr, ond cafodd y brawd Rowland un clwyf ar ei ben. Cawsent eu cyflogi i hyn gan foneddwr o'r gymydogaeth. ond nid rhyfedd fod y gelyn yn myned yn gynddeiriog wrth weled y fath ymosodiad yn cael ei wneyd ar ei deyrnas."[17] Nid anfynych y bu mewn perygl am ei fywyd. Dyrysid yr addoliad weithiau, a byddai raid iddo ef a'i wrandawyr ffoi rhag ffyrnigrwydd eu herlidwyr, dan gawodydd o laid a cherig, nes dianc allan o'u cyrhaedd i ryw gilfach ddirgel; ac yno mewn tawelwch mwynhaent y fath gysur a thangnefedd ag a dalai yn dda am y dirmyg a'r gorthrymderau. Ymosodwyd yn enbyd arno unwaith yn Aberystwyth, gan ryw greadur haner meddw, yr hwn a dyngai y byddai iddo ei saethu. Anelodd y dryll ato, a thynodd y gliced, ond ni thaniai. Wedi methu yn hyn, curodd ef yn greulawn a'r pen arall i'r dryll.[18] Darllenwn am ymgais dieflig mewn man penodol i'w ddinystrio ef a'r bobl a wrandawent arno.

Deallid ei fod i bregethu yn yr awyr agored, a pheth wnaeth rhyw greadur mileinig ond cuddio swm mawr o bylor o dan y fan yr oedd ef a'r bobl i sefyll, gan wneyd llinyn main o bylor oddiyno hyd ryw bellder, yr hwn linyn a derfynai mewn ychydig wellt. Y bwriad oedd gosod tân yn y gwellt, a chwythu y pregethwr a'i gynulleidfa i fynu i'r awyr. Ond yn rhagluniaethol, daeth rhywun yno cyn i'r odfa ddechreu, a darganfyddodd y brâd. Yn mhob man braidd, byddai mewn perygl o gael ei faeddu, ond ni phali ai. "Ymosodwyd ar y brawd Rowland ryw bythefnos yn ol gan nifer o feddwon," meddai Howell Harris, mewn llythyr at Whitefield, dyddiedig Mawrth i, 1743, "ond llanwodd Duw Ei enaid yn odiaeth." Buy Diwygwyr droiau mewn cydymgynghoriad gyda golwg ar y priodoldeb o ddwyn y rhai a'u baeddent i'r llys gwladol; ond peidio a wnaethant; yn hytrach gwnaent eu herlidwyr yn wrthrychau arbenig eu gweddïau. Pa 'fodd bynag, nid oedd Rowland yn ei weled yn anmhriodol defnyddio ychydig ystryw weithiau er dianc rhag eu erlidwyr. Un tro, pan yn myned i bregethu mewn tref yn y Gogledd, daeth i'w glistiau fod haid o oferwyr wedi penderfynu na chai fyned i mewn o gwbl i'r lle. Daethant allan yn llu i'w gyfarfod. Pan wybu wrth y swn eu bod yn agos, gosododd ei het ar ei goryn yn y dull mwyaf ffasiynol, gan yru y ceffyl ar garlam. "Dyma fo'n dod," meddai rhai, " Na, nid y fo ydyw," meddai'r lleill; "nid yw y Methodistiaid byth yn gyru fel yna." Pan ddaeth i'w cyfer, dywedodd, "Blant y diawl, beth ddaeth a chwi allan mor foreu?" Penderfynodd hyn y cwestiwn; " y mae wedi dweyd enw'r diawl," meddent, a chafodd basio yn ddirwystr.

Yn ngwyneb gwrthwynebiad mwyaf pendant yr awdurdodau eglwysig y cariai Daniel Rowland ei waith yn mlaen. Nid yn unig meddai yr esgobion Saesneg, a'r nifer amlaf o'r clerigwyr, wrthwynebiad cryf at yr hyn a ystyrient yn annhrefn yn ei ymddygiad; ond yr oedd yr athrawiaethau Calfinaidd a bregethid ganddo yn gâs ganddynt. Yr oedd Eglwys Loegr, a'i holl offeiriaid yn mron, wedi cael eu llygru gan yr heresi Arminaidd. iachawdwriaeth yn gyfangwbl o râs, a bregethai yntau, a holl gyfiawnderau dyn ond megys bratiau budron. Dyrchafai Grist fel yr unig Waredwr, a ffydd ynddo fel unig foddion cyfiawnhad gerbron Duw. Oblegyd hyn nid oedd ond erledigaeth a phob ammharch yn ei aros yn yr Eglwys. I gychwyn, rhwystrwyd ef i pregethu yn nghapel Ystrad-ffin. Mewn llythyr at Mrs. James o'r Fenni, yr hon, wedi hyny, a ddaeth yn wraig i Mr. Whitefield, dyddiedig 1742, dywed:—[19] "Ni oddefir fi i bregethu yn Ystrad-ffin yn hwy. Pregethais fy mhregeth ymadawol yno, oddiwrth Actau XX. 32. Cyrhaeddodd eu calonau. Nid wyf yn credu i'r fath wylo uchel gael ei glywed mewn unrhyw angladd yn nghôf dynion. Clywed yr Arglwydd eu llef, ac anfoned iddynt weinidog galliog, yr hwn a gyfrana iddynt air y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu. Yn awr yr wyf i ymsefydlu yn Llanddewi-Brefi, yr hon sydd eglwys helaeth, yn abl cynwys amryw filoedd o bobl Daw amryw o'm cymunwyr yn Ystrad-ffin ac Abergwesyn yno ddiwedd y mis nesaf." Y mae y gair "ymsefydlu" wedi ei osod mewn llythyrenau Italaidd, er dangos ddarfod i Rowland gael awgrym cryf na oddefid iddo grwydro o gwmpas fel yr arferai, Er mor boblogaidd ydoedd, ac er mor ddysglaer ei ddoniau, ni chynygiwyd iddo unrhyw ddyrchafiad gan yr Esgob. Yn guwrad, gyda deg punt y flwyddyn o gyflog, am wasanaethu tair eglwys, y cafodd fod trwy'r blynyddoedd. Yn y flwyddyn 1760, bu ei frawd, John Rowland, yr hwn a ddaliai y fywioliaeth, farw; boddodd wrth ymdrochi yn y môr gerllaw Aberystwyth. Ni chynygiwyd y fywoliaeth i Daniel Rowland; yr oedd ei fod yn Fethodist yn rhwystr anorfod ar ei ffordd i'w chael; ond rhoddwyd hi i'w fab hynaf, yr hwn a'i daliodd tra y bu byw; a gwasanaethai yntau fel cuwrad i'w fab ei hun. Achwynid arno yn barhaus gerbron yr Esgob, ac nid anfynych gwysid ef i ymddangos ger ei fron. Weithiau rhybuddid ef yn arw, a gollyngid ef ymaith gyda bygythion. Bryd arall ceisid ei ddarbwyllo gyda geiriau têg. Am un o'r troion hyn, ysgrifena un William John, cynghorwr, at Howell Harris, tua diwedd 1743:[20] " Gwrthododd yr Esgob ordeinio Mr. Wilhams (Williams, Pantycelyn). Bu y Parch. Mr. Rowland gyda'r Esgob dydd Llun, yr hwn a ymddygodd yn garedig ato, a chyda hawer o barch." O'r diwedd, rhoddwyd ar ddeall iddo fod yn rhaid iddo beidio gweinidogaethu allan o'i blwyf, a phregethu mewn lleoedd anghysegredig, onide nas gellid ei oddef yn hwy. Atebodd yntau yn dawel, fod amgylchiadau y wlad ar y pryd yn ei farn ef yn galw am weinidogaeth deithiol, ai fod yn credu fod ei waith wedi derbyn cymeradwyaeth y nefoedd, ac nas gallai ymatal, beth bynag

—————————————

Llangeitho
Llangeitho

Llangeitho

—————————————

fyddai y canlyniadau. Mewn canlyniad, prysurwyd i'w ddihatru o'i swydd. Ceir dosparth o'r clerigwyr yn bresenol yn tueddu i wadu ddarfod i Rowland gael ei atal, a seiliant ei dadl ar y ffaith nad oes unrhyw gyfeiriad at hyn yn nghofnodau llys yr Esgob yn Nhyddewi. Ond y maent yn anghofio nad rhaid wrth erlyniad cyfreithiol i droi Rowland allan; nid oedd ond cuwrad; gallai yr Esgob gymeryd ei drwydded oddiarno wrth ei ewyllys, a hyny nid yn unig heb brawf yn ei lys, ond heb osod cofnod o'r weithred ar y Llyfrau. Ac felly y gwnaeth yr Esgob Squire.

Yn y flwyddyn 1763 y trowyd Daniel Rowland allan. Ceir dau draddodiad gwahanol gyda golwg ar yr amgylchiad. Dywed y Parch. John Owen, yn ei fywgraffiad, i hyn gael ei wneyd yn gyhoeddus ar y Sul yn Llanddewi-brefi. Cawsai efe yr hanes oddi wrth hen ŵr duwiol a breswyliai yn y lle, ac a gofiai yr amgylchiad yn dda. Daeth dau offeiriad i'r eglwys pan yr oedd Rowland yn esgyn grisiau y pwlpud. Un o'r ddau oedd y Parch, Mr. Davies, brawd Cadben Davies, Llanfechan; ni wyddis enw y llall. Estynyyd llythyr i Rowland yn y pwlpud. Gwedi ei ddarllen, trodd at y gynulleidfa anferth oedd wedi ymgynull, gan ddweyd na oddefid iddo bregethu. Daeth i lawr o'r pwlpud, ac aeth allan o'r eglwys, yn cael ei ganlyn gan y bobl, y rhai a wylent yn hidl. Yr adroddiad hwn a ddilynir gan y Parch. E. Morgan, Ficer Syston, yn y bywgraffiad a gyfansoddodd yntau; ond ychwanega ddarfod i'r gynulleidfa, gwedi myned allan, daer gymhell Rowland i bregethu, yr hyn a wnaeth yntau oddiar glawdd y fynwent.

Eithr cafodd y Parch. John Hughes, Liverpool, adroddiad gwahanol gan David Jones, Dolau-bach, yr hwn oedd yn flaenor yn Llangeitho, ac yn ŵr tra chraffus. Fel hyn y dywed efe: " Yn Nadolig, 1763, y trowyd ef allan gan swyddogion yr Esgob. Tybiaf fod camgymeriad yn hanes ei fywyd gan y Parch. J. Owen, pan y dywed mai o Landdewibrefi y trowyd ef allan. Canys y mae yr hanesion a gefais i yn sicrhau mai yn Llangeitho a Llancwnlle yr oedd ef yn gweinidogaethu ar y pryd. Bum yn ymddiddan a hen ŵr o'r enw John Jenkins, yr hwn, pan yn hogyn tua phymtheg mlwydd oed, a aethai gyda'i rieni i Llancwnlle i wrando Rowland ryw Sabbath; ac i ddau swyddog oddiwrth yr Esgob ddyfod yno i droi Rowland allan, a bod Rowland wedi dechreu yr addoliad cyn eu dyfod. Ataliodd y bobl y gwŷr wrth y drws, nes iddo orphen pregethu; yna aeth rhywun ato i'w hysbysu am eu dyfodiad a'u dyben. Ar hyn, disgynodd yntau yn ddioed o'r pwlpud, a daeth atynt i'r drws, gan ofyn eu neges. Hwythau a fynegasant iddo. ' O,' ebai Rowland, 'gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno na'ch danfon chwi yma; o'm rhan i, nid âf byth o fewn ei muriau mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn llety dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddod gyda fi.' Tystia yr hen ŵr ei fod ef yn bresenol ar y pryd, yn gweled ac yn clywed hyn oll, ac mai yn y modd a ddarluniwyd y bu yr amgylchiad. Ac fe wyr pawb sydd mewn oedran i gofio hefyd mai yn gwbl anghyfanedd yn mron y bu y rhan fwyaf o'r llanau, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith ar ol troad Rowland allan." Nid yw y ddau adroddiad o angenrheidrwydd yn anghyson. Nid yw yn anmhosibl i Daniel Rowland gael ei atal yn y boreu rhag gweinyddu yn Llanddewi-brefi, ac iddo farchogaeth rhyw chwech milldir i Lancwnlle erbyn y gwasanaeth prydnhawnol, yn yr hwn le y digwyddodd yr amgylchiad a gofnodir gan yr hen flaenor duwiol o'r Dolau-bach. Ond iddo gael ei droi allan sydd sicr. Ni amheuwyd hyn gan nac Eglwyswr nac Ymneillduwr am fwy na chan' mlynedd gwedi i'r peth ddigwydd. Hysbysai y Parch. Howell Davies[21] ar gyhoedd yn Nghapel Llangeitho, ddarfod i'r weithred brofi yn flin i'r Esgob mewn canlyniad; ei fod mewn ing enaid oblegyd hyn ar ei wely angau, ac iddo ddolefain: " Ymdrechais yr ymdrech (ai yr ymdrech yn erbyn Methodistiaeth a olygai?), gorphenais fy nghyrfa, ond collais fy enaid, ac yr wyf bellach yn andwyol!" A bu farw dan gnofeydd cydwybod ofnadwy. Byddai hyn, yn annibynol ar bob prawf arall, yn ddigon o sicrwydd ddarfod i ddrysau yr Eglwys gael eu cau yn erbyn Daniel Rowland; oblegyd yr oedd Howell Davies ac yntau yn gyfeillion o'r fath fwyaf mynwesol tra y buont ill dau byw; ac yn ychwanegol, yr oeddynt mewn cyfathrach berthynasol, gan i Nathaniel, ail fab Rowland, briodi merch Howell Davies. Rhaid felly fod amgylchiadau troad Rowland allan yn gwbl hysbys i Mr. Davies. Yr oedd Rowland yn gweled yr ystorm yn dyfod, ac yn parotoi i ymadael a'r Eglwys Sefydledig.[22] "Difyr yw darllen," meddai Dr. Lewis Edwards, "am y dull y llwyddodd yr hen ddiacon craffus o'r Dolau-bach i gael allan brofion fod Rowland yn Ymneillduwr ewyllysgar. Nid oes un ymresymiad cadarnach yn Euclid. Ond er bod Rowland yn parotoi i ymadael, tynodd yr Eglwys Sefydledig arni ei hun yr anfri o'i droi allan. Os oedd y pechod o sism yn gysylltiedig o gwbl a'r amgylchiad hwn, y mae yn rhaid mai yr Esgob a'i trodd ef allan oedd yn euog; ac nid ydym yn gwybod nad yw yr euogrwydd hwnw yn gorwedd hyd heddyw ar yr Eglwys o'r hon y cafodd ei ddiarddel."

Dyma Daniel Rowland bellach yn ddyn rhydd. Nis gall yr Esgob bellach ymyraeth ag ef, na chlerigwyr cenfigenllyd gwahanol blwyfau Cymru ei niweidio a'u hachwynion; y mae at ei ryddid i bregethu yr efengyl dragywyddol yn y lle a'r modd a ddewisa, heb fod gan neb rith o hawl i'w alw i gyfrif. Gwnaethid paratoadau yn flaenorol i adeiladu capel helaeth iddo yr ochr arall i afon Aeron, ac ar gongl pentref Gwynfil, yr hwn yn aml a gamenwir yn bentref Llangeitho; yn awr gwnaed pob brys i fyned yn mlaen a'r adeilad. Gwedi ei orphen, gelwid ef " Yr Eglwys Newydd." Yr oedd tua 45 troedfedd o hyd, yr un faint o lêd, ac heb un oriel; yr oedd y pwlpud gyferbyn a'r drws yn mhen pellaf y capel, a mynedfa iddo o'r cefn, fel na fyddai raid i'r pregethwr ymwthio trwy y gynulleidfa. Dyma lle y bu yn gweinidogaethu mwy hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oeddid wedi troi yr ysgubor cedd ar dir Rowland, yn mha un yr arferid cadw seiadau, yn fath o gapel yn mhell cyn hyny, yn yr hwn yr arferai y cynghorwyr di-urddau bregethu. Adeilad gwael a diaddurn oedd yr hen ysgubor, ei muriau o bridd a chlai, a'i thô yn gymysg o wellt a brwyn; ac nid oedd ei mesuriad ond rhyw ddeg llath o hyd wrth chwech o led. Aeth yr ysgubor yn rhy fach, trowyd hi yn dŷ anedd, a chyfodwyd capel bychan tua'r flwyddyn 1760, ryw dair blynedd cyn diarddeliad Rowland. Muriau pridd a thô gwellt oedd i hwn eto, ac yr oedd yn dra diaddurn. " Ty Seiat " y gelwid y naill a'r llall o'r rhai hyn. Byddai Rowland yn y cyfarfodydd a gynhelid ynddynt yn fynych, naill yn y gyfeillach grefyddol, neu yn gwrando'r cynghorwyr; ond elai iddynt yn ddirgel, rhag i'w elynion gael achlysur i achwyn arno wrth yr Esgob. Dywed Edward Morgan, Ficer Syston, ei fod mewn amgylchiadau cyfyng wedi ei droi allan; nad oedd ganddo ddim at gynal ei wraig a'i blant; ac nad oedd gan y Methodistiaid yr adeg yma unrhyw gynllun tuag at gynal eu pregethwyr. Er prawf o hyn, adrodda ddarfod i Rowland, yn fuan gwedi hyny, gerdded ar ei draed yr holl ffcrdd i Landdowror, i ymgynghori a'r Hybarch Griffìth Jones, ac nad oedd ganddo i gynal natur ond teisen yn ei logell, yr hon a fwytai efe ar y ffordd, gan yfed dwfr o'r ffynon i dori ei syched. Nis geill yr ystori hon fod yn wir. Yn 1763, mor bell ag y gwyddis, y diarddelwyd Rowland; ond yr oedd Griffìth Jones wedi marw yn ngwanwyn y flwyddyn 1761, sef ddwy flynedd cyn hyny. Yr oedd Daniel Rowland wedi priodi i un o'r teuluoedd goreu yn yr amgylchoedd, ac yr oedd Mrs. Rowland yn cael ei chyfrif yn ddynes "lew iawn," fel y dywedir yn Sir Aberteifi. "Teg ydyw dweyd," meddai y Parch. John Hughes, "fod lle i feddwl fod Rowland yn derbyn llawer mwy oddiwrth ei Fethodistiaeth nag y dywedir ei fod oddiwrth ei guwradiaeth. Dywedir y cymunai rhai miloedd yn Llangeitho bob mis, cyn, ac ar ol ei droad allan; ac arferol ydoedd i'r cymunwyr gyfranu rhyw gymaint o'u heiddo ar ddiwedd y cymundeb. Yr oedd llawer o honynt yn dlodion yn ddiau; ond yr oedd cryn nifer yn eu niysg yn alluog, ac yn ewyllysgar i gyfranu yn helaeth. Pa faint a allasai y cyfanswm fod, sydd anmhosibl dweyd, ac afreidiol ymofyn. Teilwng iawn i'r gweithiwr hwn ei gyflog, pa faint bynag ydoedd. Yr oedd arian y cymun, mewn amrywiol leoedd yr oedd cyfranu ynddynt, heblaw Llangeitho, yn cyrhaedd cryn swm." Ar yr un pryd, nid oes sail i dybio iddo ar unrhyw gyfnod o'i oes fod yn gyfoethog, na bod casglu arian yn amcan ganddo o gwbl.

Daeth y capel newydd bellach yn gyrchfan y miloedd; deuent yno o bob parth o'r Dywysogaeth, a pharhaodd felly dros ystod oes Rowland, ac am flynyddau lawer wedi iddo farw. Elai yr holl wlad yno o fewn cylch o rhyw bymtheg milldir, a deuai tyrfaoedd yn rheolaidd bob Sul cymundeb o eithafoedd y Gogledd, ac o gyrau pellaf y Dê. Am rai milldiroedd o gwmpas, byddai yr holl dai yn llawn o ddyeithriaid. Yn fynych, byddai dros bum' mil o bobl yn bresenol. Gofalai yntau am fod gartref ar Sul y cymundeb; pregethai fath o bregeth paratoad y Sadwrn blaenorol am un-ar-ddeg yn y boreu, a chan amlaf byddai rhai o'r gweinidogion dyeithr, neu o'r cynghorwyr, yn pregethu am dri yn y prydnhawn. Yn gyffredin, cynorthwyid ef yn y gwaith o gyfranu gan ddau neu dri o weinidogion, ac weithiau gan saith neu wyth. Dywedir fod y cynulliad yn Llangeitho yr adeg yma yn gyffelyb i ffair fawr; yr heolydd a'r ffyrdd yn dew o bobl, ond heb ddim o derfysg a dadwrdd ffair; yn hytrach,yr oedd difrifwch tragywyddoldeb yn eistedd ar wedd y dyrfa. Ni chanfyddid yno nac ysmaldod nac ysgafnder; byddai yr ieuanc a'r difeddwl, y rhai a ddaethent i'r cyfarfodydd gyda'r dyrfa, neu i foddhau chwilfrydedd, yn teimlo rhyw ddifrifwch yn ymaflyd ynddynt. Y caeau oeddynt lawnion o geffylau y dyeithriaid, a gwelid canoedd o anifeiliaid wedi eu cylymu yn rhesi wrth y cloddiau. Symbyliad i'r gwaith mawr a fu troad Rowland allan; rhyddhawyd ef o'i gadwynau; daeth ei weinidogaeth yn fwy nerthol, a lliosogodd y tyrfaoedd a ddeuent i wrando arno.

Yr ydym wedi galw sylw at y nerthoedd a arferent gyd-fyned a'i weinidogaeth; anaml y pregethai heb enill goruchafiaeth ar ei wrandawyr; trwy holl ystod ei oes gwisgid ef a nerth o'r uchelder, ac arddelid ef gan ei Arglwydd; ond weithiau torai allan yr hyn a elwid yn "ddiwygiad." Y "diwygiad" oedd y tân dwyfol yn disgyn gydag angerddolrwydd mwy na chyffredin, nes gwneyd yr holl gynulleidfa yn fflam, gan beri i'r drygionus grynu fel dail yr aethnen, a llenwi geneuau y duwolion a sain cân a moliant. Nid oes ynom un amheuaeth fod y diwygiadau hyn o Dduw; profir hyny yn ddiymwad gan eu ffrwyth. Ofer eu beirniadu mewn yspryd cnawdol; nid oes gan gnawd hawl i eistedd mewn barn ar waith Yspryd Duw. Cawn hanes nifer mawr o'r diwygiadau hyn yn cychwyn yn Llangeitho. Dechreuodd un cyn i Rowland gael ei dori allan o'r Eglwys, wrth ei fod yn darllen y Litani. Pan yn myned tros y geiriau, "Trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd, trwy dy grôg a'th ddyoddefaint, trwy dy werthfawr angau a'th gladdedigaeth, &c., Gwared ni, Arglwydd daionus," disgynodd rhyw ddylanwad rhyfedd ar ei yspryd; yr oedd ei dôn o'r fath fwyaf toddedig, a'i lais yn crynu gan deimlad; enynodd y teimlad yn y gynulleidfa, cawsant hwythau olwg ar yr Hwn a wanasant, a galarasant am dano fel un yn galaru am ei gyntafanedig; ond yn bur fuan trodd y galar yn orfoledd annhraethol. Ymdaenodd y diwygiad hwn trwy ranau mawr o'r wlad. Torodd diwygiad arall allan yn Llangeitho yn y flwyddyn 1762, pan y daethai casgliad o hymnau Williams, Pantycelyn, a elwid "Môr o wydr" allan o'r wasg. Wrth ganu yr hymnau ardderchog hyn, y rhai ydynt mor llawn o syniadau dyrchafedig ac efengylaidd, llanwyd eneidiau y bobl a moliant, ac ymdaenodd y gorfoledd trwy y cymydogaethau o gwmpas. Ond yn fuan wedi troad Rowland allan, y cafwyd y diwygiad mwyaf grymus, fel pe buasai yr Arglwydd am ddatgan ei foddlonrwydd mewn modd amlwg i wroldeb a hunanymwadiad ei wâs. Gelwir ef y "Diwygiad mawr,"oblegyd ymledodd trwy y rhan fwyaf o'r Deheudir, a rhanau helaeth o'r Gogledd, a bu yn foddion dwyn miloedd at draed y Gwaredwr. Cofiai Nathaniel Rowland am dano yn cychwyn, pan yr oedd ei dad yn pregethu, ac fel hyn yr adrodda yr hanes: "Yr oedd y tŷ fel pe buasai wedi ei lenwi a rhyw elfen oruwchnaturiol, a'r holl dorf wedi cael ei meddianu a rhyw deimladau rhyfedd; llifai y dagrau dros wynebau canoedd, rhai o honynt yn ddiau gan orlawnder tristwch, a rhai gan orlawnder gorfoledd; yr oedd rhai wedi eu dryllio gan edifeirwch, ac eraill yn gorfoleddu dan obaith gogoniant." Dywed Nathaniel Rowland yn mhellach i'r goleu yn yr odfa ddechreu tywynu trwy adnod o'r Beibl:— "I ti yr wyf yn diolch, o Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain; 'íe, o Dad, canys felly y rhyngodd bodd i ti. "Disgynodd rhyw daranfollt allan o'r geiriau i fysg y gynulleidfa; dallwyd canoedd gan lewyrch y dysgleirdeb; yr oedd yr effaith mor uniongyrchol, pwerus, a gorchfygol, fel mai ofer fyddai ceisio ei ddesgrifio. Dywedir i'r diwygiad hwn fod yn foddion i iachau llawer o'r teimladau dolurus a ganlynodd yr ymraniad gofidus a gymerasai le rhwng Rowland a Harris. Yr oedd yr effeithiau oeddynt yn cydfyned a'r diwygiadau hyn yn anhygoel; syrthiai rhai mewn llewygfeydd; torai eraill allan mewn ocheneidiau a llefain, gan ddychrynfeydd ac ing meddwl, fel pe y buasai y Barnwr wrth y drws; tra y clywid eraill drachefn yn tori allan mewn mawl a gorfoledd, am eu gwaredu megys o safn marwolaeth. Yr adegau yma, byddai y bobl yn fynych yn _ dychwelyd adref o Langeitho, rhai ar draed ac eraill ar geffylau, yn wŷr a gwragedd, meibion a merched, dan ganu a gorfoleddu, fel yr oedd eu sŵn yn cael ei gario yn mhell gyda'r awelon. Fel hyn eu desgrifir gan Williams:—

"Mae'r torfeydd yn dychwel adref,
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi taflu lawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd;
Y ffyrdd mawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes mae'r creigiau oer a'r cymoedd
Yn adseinio'r hyfryd dôn."


Er gwaethaf Esgob Tyddewi a'r clerigwyr rhagfarnllyd ni adawyd Daniel Rowland heb anrhydedd daearol. Tuag amser ei droad allan gwnaed ef yn "Gaplan i'r Dug o Leinster, un o anrhydeddusaf Gyfrin Gynghor ei Fawrhydi yn nheyrnas yr Iwerddon." Ni wyddis pa wasanaeth a ddisgwylid oddiwrtho yn y swyddogaeth hon, ond tybir y dygai iddo ryw gymorth sylweddol tuag at ei gynhaliaeth ef a'i deulu. Cynygiwyd iddo fywoliaeth Trefdraeth, yn Sir Benfro, gan y dyngarwr, John Thornton. Daethai Mr. Thornton i wybod am dano trwy wraig o ardal Llangeitho, yr hon, yn ol arfer llawer o ferched Sir Aberteifi yr adeg hono, a arferai fyned i Lundain yn ystod misoedd yr hâf i chwynu gerddi. Cawsai waith yn ngerddi y dyngarwr. Tra yno, elai bob Sabbath i glywed Mr. Romaine, a chaffai hyfrydwch dirfawr wrth ei wrando. Dymunai hefyd gael ei glywed yn yr wythnos, ac aeth at Mr. Thornton i ofyn caniatad i adael ei gwaith ychydig yn gynarach i'r pwrpas hwnw, gan addaw codi yn foreuach dranoeth. i wneyd iawn am y golled. Gofynai yntau: "A ydych yn hoffi pregethau Mr. Romaine?" "Ydwyf," meddai hithau, "y mae yn gwneyd i mi gofio am Gymru, oblegyd y mae gyda ni yno bregethwr heb ei fath." Arweiniodd hyn y boneddwr i holi hanes Rowland, ac yn raddol daeth yn un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol Canlyniad y cyfeillgarwch oedd cynyg iddo fywoliaeth Trefdraeth; ond pan glywodd y bobl yn Llangeitho, llanwyd hwy a thristwch; cynullent yn lluoedd i'w dŷ, gan daer erfyn arno am beidio eu gadael; dadleuent mai efe oedd eu tad, ac na fyddai neb ganddynt i dori bara'r bywyd iddynt pe y cefnai efe. A'u llefau a orfu, penderfynodd Rowland aros lle yr ydoedd, ac ymddibynu ar Raghliniaeth. Pan yr anfonodd ei benderfyniad, a'i resymau drosto, trwy law ei fab i Mr. Thornton, atebai yntau: "Yr oedd genyf feddwl mawr am eich tad o'r blaen, ond y mae genyf fwy meddwl o hono yn awr, er ei fod yn gwrthod y rhodd a gynygiais. Y mae ei resymau dros hyny yn anrhydedd iddo. Nid wyf yn arfer gadael i eraill wthio eu dwylaw i'm llogell, ond dywedwch wrth eich tad fod croesaw iddo roddi ei law ynddi bryd bynag y myno." Dywedir ddarfod iddo cyn hyny wrthod bywioliaeth yn Ngogledd Cymru yn hollol oblegyd yr un rhesymau.

Cawn gyfeirio yn nes yn mlaen at yr ymraniad anhapus a gymerodd le rhwng Rowland a Harris, a'r rhwyg a achoswyd yn y Cyfundeb mewn canlyniad. Gwedi yr ymraniad, Rowland a ystyrid fel arweinydd; arno ef y disgynai yr holl ofal; wrtho ef, mewn undeb a'i gyfaill hoff, Williams, Pantycelyn, y disgwylid am gadw i fynu burdeb mewn athrawiaeth a disgyblaeth. Nid ysgôdd yntau y cyfrifoldeb a orphwysai arno; cymerai faich yr holl eglwysi ar ei ysgwyddau, ac nid bychan a fu ei drafferthion. Nid yw yn ymddangos i'r heresi Arminaidd beri fawr traffeth iddo; yr oedd gweinidogaeth y Diwygwyr Cymreig, o'r dechreuad, yn drwyadl Galfinaidd. Ond yn raddol aeth rhai o'r cynghorwyr i'r eithafion cyferbyniol. Llyncodd un o honynt y cyfeiliornad Sandemanaidd, sef nad yw y ffydd sydd yn cyfiawnhau ond cydsyniad noeth a gwirionedd yr efengyl. Gwnaethai y cyfeiliornad yma ddifrod dirfawr ar yr eglwysi yn Lloegr. [23] Yn awr, yr oedd un Mr. Popkins, pregethwr tra phoblogaidd, yn myned o gwmpas, gan gyhoeddi yr un syniadau yn mysg y Methodistiaid. Gwnaeth y gŵr hwn lawer o ofid i Rowland. O'r diwedd, dygwyd ef i brawf mewn cymdeithasfa, cauwyd ei enau yn hollol, ac ni flinwyd y Cyfundeb ganddo mwyach. Trafaelodd o gwmpas, gwedi ei fwrw allan, mor bell a Sir Gaernarfon, er ceisio lledaenu ei egwyddorion, ond aflwyddianus hollol a fu ei ymgais i enill canlynwyr. Ni fuasai Sandemaniaeth wedi cael lle i osod ei throed i lawr yn Nghymru, oni bai i Jones, o Ramoth, un o brif weinidogion y Bedyddwyr, gael ei hudo ganddi; parodd hyn niwed dirfawr i gyfundeb y Bedyddwyr yn y Gogledd. Eithr denwyd amryw gan yr heresi Antinomaidd, y rhai a arweinient fywyd penrhydd, ac a wnaent ras Duw yn achlysur i'r cnawd. Yn mysg y rhai hyn yr oedd im o'r enw David Jones, pregethwr o ddoniau mawr, ac yn dra phoblogaidd trwy Ddê a Gogledd, yr hwn hefyd oedd yn nai i Rowland ei hun. Aeth y gŵr hwn yn falch ac yn annyoddefol, o hunanol. Ni phetrusai wrthwynebu Rowland a Williams yn gyhoeddus mewn cymdeithasfa; pan y pwysleisient hwy ar yr angenrheidrwydd am edifeirwch, a sancteiddrwydd buchedd, dywedai yntau:—"Mor ddall a deddfol ydych; nid ydych fel pe baech yn deall yr efengyl." Yr oedd llu yn tueddu i'w ganlyn, ac ofnid i'r holl wlad fyned ar ei ol. O'r diwedd, penderfynodd Rowland ei fod naill ai i roddi heibio ei olygiadau Antinomaidd, neu i gael ei ddiarddel o'r Cyfundeb; yr oedd yntau yn rhy warsyth i blygu, a'i ddiarddel a gafodd. Tybiodd, yn ei ffolineb, y gallai ddyfod yn sylfaenydd plaid grefyddol; ond "pan aeth o gwmpas, gwedi ei ddiarddeliad, gan geisio casglu canlynwyr, ni chafodd nemawr i lynu wrtho, ac ni arhosodd y rhai hyny gydag ef ond am ychydig. Yn y diwedd, gadawyd ef gan bawb, fel halen wedi colli ei halltrwydd. Bu gwroldeb Rowland yn gweinyddu disgyblaeth ar Popkins a D. Jones yn llesiol i'r lleill, a dueddent i'r unrhyw gyfeilornad; dychwelasant at symledd yr efengyl, gan ofyn maddeuant am y blinder oeddynt wedi beri. Yr oedd yntau o yspryd nodedig o faddeugar. Ond adroddir i un pregethwr tra phoblogaidd, oedd wedi teithio cryn lawer yn Ngogledd Cymru, gan bregethu syniadau Antinomaidd, gael ei osod tan ddisgyblaeth boenus iddo. Parwyd iddo ddychwelyd trwy yr holl eglwysi, a pha rai yr ymwelasai yn flaenorol, gan dynu yn ol ei gyfeiliornadau, ac addef ei fai a'i gamgymeriad; yr hyn a wnaeth yntau gyda pharodrwydd. At hyn y cyfeirir yn ei farwnad:—

" Ac fe wibiodd amryw ddynion,
Rhai ar aswy, rhai ar ddê;
Ond fe gadwodd arfaeth nefol
Rowland onest yn ei le;
A phwy bynag gyfeiliornai
O wiw lwybrau dwyfol ras,
Fe ddatguddiai 'u cyfeiliornad,
Hyd nes gwelai pawb hwy'n gas."

Cawsom gyfleusdra i ymddiddan ag amryw hen bobl yn nghymydogaeth Llangeitho oedd yn cofio Rowland yn dda, yn arbenig a David Jones, yr hen flaenor duwiol o'r Dolau-bach. Darlunient ef fel dyn cymharol fychan o gorffolaeth, cyflym ar ei droed, a chwimwth ei ysgogiadau. Dywed Dr. Owen Thomas fod y darlun o hono, a dynwyd ychydig cyn ei farwolaeth, ac a gyhoeddwyd yn mhen mis wedi ei gladdedigaeth, gan R. Bowyer—gyda'r talcen llydan, uchel, llawn, yr aeliau bwaog, y llygaid treiddgar, y trwyn Rhufeinig, y genau llydan, y gwefusau teneuon, a'r ymddangosiad penderfynol - yn un tra chywir. Darfu iddo ef adnabod merch iddo yn Llandilo Fawr, pan ar daith ddirwestol yn y Deheubarth yn y flwyddyn 1837, wrth y darlun hwn, er na wyddai ar y pryd fod un ferch wedi bod gan Rowland erioed, a llai fyth fod merch iddo yn fyw y pryd hyny. Trwy gryn anhawsder y cafwyd cymeryd ei hm. " Nid wyf fi ond telpyn o glai fy hun.in," meddai. A thra yr oedd yr arlunydd wrth ei orchwyl, dywedai drosodd a throsodd: "Ow! Ow! tynu llun hen bechadur tlawd!" Fel y rhan fwyaf o'r prif areithwyr, yr oedd yn dra nervous; pan y gwelai y bobl yn ymdaith wrth y canoedd tros y bryniau cyfagos, ac yn ymdywallt i ddyffryn cul Aeron, er mwyn gwrando arno, byddai ef yn crynu trwyddo gan ofn yn aml, ac yn arswydo eu gwynebu yn y capel Dywedai wrtho ei hun yn uchel: "Yr Arglwydd a drugarhao wrthyf, bryfyn distadl, llwch a lludw pechadurus." Treuliai lawer wythnos mewn pryder poenus gyda golwg ar ei bregeth y Sul dilynol; pan y deuai boreu y Sabbath, dywedai wrth ei hen was ei fod yn ofni na fedrai bregethu; ond meddai hwnw: "Wedi ei gael i'r pwlpud ni a wyddem fod pob peth yn iawn; enillai nerth yn raddol, byddai ei eiriau fel fflachiad mellten yn cyniwair trwy y gynulleidfa oddi allan ac oddi mewn; oblegyd yn gyffredin byddai mwy y tu allan nag yn y capel, a byddai yr effeithiau arnynt yn rhyfedd." Weithiau teimlai adgyfnerthiad i'w yspryd wrth weled y tyrfaoedd, a chlywed swn eu caniadau. Yr oedd ffynon tua dwy filldir yn uwch i fynu na Llangeitho; yno yr ymgasglai yr ymdeithwyr wrth y canoedd i fwyta eu tamaid bara a chaws, ac i ddrachtio y dwfr; wedi i natur gael ei hadfywio, canent emyn, a than ganu y disgynent yn fynych ar hyd llechweddau y dyffryn. Yn y cyfamser cerddai yntau yn gyflym ar hyd lan yr afon a'i feddwl mewn pryder; ond wrth glywed y swn codai ei ben i fynu yn sydyn, a dywedai, gyda gwen: "Dyma nhw'n dod, gan ddwyn y nefoedd gyda hwy."

Yr oedd holl elfenau y gwir bregethwr wedi cyfarfod yn Daniel Rowland. Meddai lais o'r fath oreu; hais treiddgar, chr, yn medru cyniwair yn hawdd hyd gyrau pellaf cynulleidfa o ugain mil Dywed rhai na fyddai yn bloeddio, er y siaradai yn gyffredin gydag yni mawr. Ond tystiai hen bobl Llangeitho fel arall, a dywedai ei hen forwyn y gorfyddai iddo newid ei grys ar ol yr odfa, gan fel y byddai wedi chwysu. Medrai ei lais arddangos pob math o deimlad, a phan yn traethu gwirioneddau tyner yr efengyl, byddai melusdra ei acenion yn orchfygol. Yr oedd ei gynefindra rhyfedd a'r Beibl yn peri fod ganddo gawell saethau o'r fath oreu wrth ei benelin yn wastad; ni fyddai ei gôf byth yn pallu pan y dymunai ddifynu adran o'r Ysgrythyr; byddai yr adnod wrth law ganddo yn ddieithriad, a hono yr adnod gymhwysaf i'r mater. Meddai ddychymyg beiddgar a chryf, yr hwn a barai i'r amgylchiadau a fyddai yn ddarlunio ymrithio yn ddelweddau byw o flaen ei lygaid. Pan yn pregethu unwaith yn Llancwnlle ar ddyoddefiadau y Gwaredwr, teimlodd fel pe bai Iesu Grist dan ei glwyfau a'i gleisiau yn bersonol ger ei fron, a gwaeddodd allan, "O wyneb glaswyn! O wthienau gweigion! O gefn drylliedig," nes yr oedd y dylanwad arno ef ei hun, ac ar y gynulleidfa yn mron yn llethol. Yr oedd ei deimladau yn danbaid ac yn gryfion. Dywedai un a'i hadweinai fod ganddo ddigon o deimladaeth (animal spirits) i haner dwsin o ddynion. Felly, heblaw fod ei ddeall yn nodedig o gyflym a chlir, a'i grebwyll yn fírwythlawn mewn meddylddrychau, yr oedd grym ei deimladaeth yn rhoddi adenydd i'w eiriau, ac yn peri eu bcd yn llawn tân. A thynai ysprydoliaeth o bresenoldeb cynulleidfa; byddai dod wyneb yn wyneb a thorf yn ei gyffroi drwyddo; a byddai y cyfryw gyffro nid yn ei ddyrysu, ond yn grymysu pob cyneddf a feddai, fel yr oedd ei ddeall yn fwy bywiog, a'i grebwyll yn fwy cynyrchiol, a gwresogrwydd ei yspryd yn gryfach nag ar unrhyw adeg arall. Efallai mai yn y pwlpud, yn nylanwad yr ysprydoliaeth a sugnai oddiwrth ei wrandawyr, y deuai o hyd i'r perlau dysgleiriaf a ddisgynai dros ei wefusau. Ac yn goron ar y cyfan, arddelid ef gan Yspryd Duw mewn modd neillduol yn mron trwy holl gydol ei oes, Pan y disgynai y dylanwadau nefol arno byddai fel llosg-fynydd mawr, yn arllwys allan o'i ymysgaroedd ffrydiau o hylif tanllyd, fel nad oedd yn ddichon i gnawd sefyll o'i flaen. Byrion oedd ei bregethau fel rheol, rhyw haner awr neu ddeugain mynyd o bellaf, ond ar rai achlysuron, anghofiai ei hunan yn gyfangwbl, a phregethai am dair neu bedair awr. Adroddir am un tro arbenig, pan yr cedd ef a'i wrandawyr wedi ymgolli mewn mwynhâd, fel na wyddent ddim am amser, mai wrth weled yr haul yn pelydru i mewn trwy y pen gorllewinol i'r eglwys, yn arwydd fod y dydd yn tynu at ei derfyn, y deallasant feithder yr adeg yr oedd yr odfa wedi para. Yr oedd ei deimladaeth ysprydol yn nodedig o fyw. Mewn cymdeithasfa unwaith, yr oedd yr odfaeon wedi bod yn bur galed; yr oedd offeiriad wedi pregrethu yn dra marwaidd am ddeg o'r gloch y prif ddiwrnod, a Rowland i sefyll o flaen y dorf ar ei ol. Teimlodd nas gallai lefaru heb fedru cynhesu yr hinsawdd rywsut yn gyntaf. Galwodd ar hen gynghorwr duwiol, enwog am fyrdra a nerth ei weddïau, Dafydd Hugh, Pwllymarch, i fyned am fynyd i weddi, "dim ond mynyd," meddai. Gyda'r gair, yr oedd yr hen gynghorwr yn anerch yr orsedd: "Arglwydd Iesu, er mwyn dy waed a'th ing, gwrando fi. Y mae dy weision wedi bod yma yn ceisio nithio y prydnhawn ddoe, a'r boreu heddyw; ond yn ofer,, Arglwydd; nid oes yr un chwa o wynt wedi chwythu arnom o'r dechreu. Y gwynt, Arglwydd! Y gwynt, Arglwydd grasol. Oblegyd yn dy ddwrn di y mae y gwynt yn awr ac erioed, Amen." Daeth ton o deimlad dros y gynulleidfa; chwythodd yr awel falmaidd nes sirioli ac adfywio pawb, a phregethodd gŵr Duw gyda nerth a dylanwad anorchfygol.

Siaredir weithiau fel pe byddai nerth Daniel Rowland yn gynwysedig yn gyfangwbl yn ei areithyddiaeth, ac nad oedd ei bregethau, ar wahan oddi wrtho ef, ond cyfansoddiadau digon cyffredin. Y mae hyn yn gamgymeriad hollol. Y mae ei bregethau a gyhoeddwyd yn awr ger ein bron, ac y maent mewn gwirionedd yn ardderchog, yn llawn mater, ac wedi eu cordeddu a difyniadau allan o'r Beibl. Puritanaidd ydynt o ran nodwedd, a nodedig o Ysgrythyrol; ac y maent yn dryfrith o'r cymhariaethau mwyaf cyffrous a swynol. Bid sicr, yr oedd hyawdledd a chyffro enaid y pregethwr yn ychwanegu at eu heffeithiolrwydd; ond ar eu penau eu hunain byddai yn anhawdd cael dim mewn unrhyw iaith yn rhagori arnynt. Cymerer y difyniad canlynol o " Newydd Da i'r Cenhedloedd." Cyfeiria at y doethion wedi myned i Jerusalem i chwilio am y Mab bychan yn lle i Bethlehem: " Nid trwy dywysogaeth y seren y daethant yno, ond trwy dywysiad eu rhesymau eu hunain. Tybiasant, gan mai Caersalem oedd prif ddinas y deyrnas, ac eisteddfod brenhinoedd, y byddent yn sicr o glywed yno am enedigaeth Crist. Dilynasant, meddaf, ddynol resymau, am hyny, nis cawsant yr Iesu. Nis gellir ei gael ef ond wrth ei oleuni a'i gyfarwyddiadau ei hun. Rheswm yn wir sydd roddiad daionus, ac o'r gwaed brenhinol; eto, fel Mephiboseth, mae yn gloff o'r ddwy droed. Ni ddaethai hwnw byth at Dafydd nes cael ei gario ryw ffordd neu gilydd; am hyny, da y gwnaeth Dafydd ddyfod ato ef. Felly, rheswm sydd yn dymuno marwolaeth yr uniawn, ac yn canfod daioni ac yn ei ganmol, ond byth nid yw yn ei ddilyn, ac nis gwna hyd oni lusgir ef:— Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynu ef. Cyhyd ag y dilynasant y seren y gwnaethant yn dda; pan adawsant y seren, ac y dilynasant eu rheswm eu hunain, y gwnaethant yn ddrwg. Dilyned y dyn dâll ei arweinydd, serch gorfod myned trwy ddrain a mieri, trwy ddyffrynoedd a thros fynyddoedd; ymddirieded i olygon eraill, gan nad all weled ei hun. Yr ydym bawb yn ddeillion wrth natur, ac o dosturi atom y danfonodd Crist y Diddanydd i'n harwain." Cymerer eto ddifyniad o'r un bregeth, yr hon sydd yn llawm o'r cyffelyb berlau: " Trueni yw meddwl leied gwerth a wel rhai yn yr Arglwydd Iesu; ni ddeuant o'r tai nesaf i ymofyn am ei wyneb. Pa mor bell yr A rhai i farchnad pan fyddo angenrheidiau y corph yn pallu? Mae eneidiau llawer wedi hir ddyoddef heb eu diwallu. Mae arnaf chwant dadleu dros eich eneidiau, a llefain am gael tamaid o fara iddynt, o'r fan lleiaf unwaith yn yr wythnos. Pe y caent ond hyny, mi a ddisgwyliwn iddynt gryfhau, ac ymorol am lawer yn ychwaneg. Deuai y doethion ychwaneg o filldiroedd nag y deuwch chwi o gamrau. Gwrthddadl; pe y gallech ei ddangos i ni, byddem foddlawn iawn i ddyfod. Chwi a ellwch gael ei weled ef, ac yn fwy gogoneddus nag y gwelodd y doethion eí. Yr ydym yn dangos Crist i chwi yn ngwyneb yr efengyl, nid i lygaid y corph, ond i'r enaid; nid yn gorwedd yn y preseb, nac yn gweddïo ar y mynydd, nac yn gwaedu yn yr ardd, nac yn marw ar y groes, ond yn eistedd ar ei orsedd yn ogoneddus yn y nef. Pe deuai un i ystafell olygus, a bod ynddi lawer o luniau prydweddol, os bydd lleni neu gorteni (curtains) drostynt, ni all neb weled yr un o honynt; ond pe y tynai un y lleni ymaith, byddai yn hawdd iawn eu canfod. Felly y mae ymddangosiad Crist yn ngwyneb yr efengyl; ond y mae llen rhwng rhai a hwynt; gorchudd ar eu llygaid, fel na welant. O! gweddïwch am rwygo'r llen, a thynu ymaith y gorchudd; yna y gwelwch ardderchawgrwydd yr Arglwydd Iesu yn ei gynulleidfaoedd." Gallasem ychwanegu sylwadau pert o'r fath yma, yn dynodi crebwyll o'r radd uchaf, yn ddiderfyn braidd, ond rhaid i ni ymfoddloni ar un difyniad ychwanegol. Y mae allan o'r bregeth, " Crist oll yn oll." Mater y pregethwr y w dangos cymh wysder yr Arglwydd Iesu, fel eneiniedig y Tad, i fod yn iachawdwr. " Nid gwan ydoedd, eithr galluog i waith y prynedigaeth. Yn Esaiah iii. 7, y dywedir, ' Na osodwch fi yn dywysog; ni byddaf iachäwr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad.' Cymhwysfod tywysogion yn gyfoethog; ni wna begeriaid ond gwancu meddianau eu deiliaid. Ni allasai Crist ddywedyd felly (fel y gŵr yn Esaiah), o herwydd efe a addaswyd a phob gras a dawn angenrheidiol i'r gorchwyl yr appwyntiwyd ef iddo; Salm lxxxix. 19. Yna, gwelwn nad ar wanŵr y rhoed y cymhorth, un ag a lewygai dan ei faich; nage, nage, ond un galluog, ië, hollalluog, i fyned trwy ei orchwyl. Megys y cyfododd Samson haner nos, ac y cariodd byrth Gaza i ben bryn uchel rai milltiroedd o'r dref; felly Iesu, y Cadarn, a gododd o angau, ac a gariodd byrth uffern a marwolaeth, ac a esgynodd i'r nef. O ba herwydd y dywedir, ' Efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy.' Nid ydym yn dyfod at un egwan, fel at yr archoffeiriad gynt; eithr at im cadarn, un etholedig o'r bobl. Wele fawr gysuri bob credadyn gwan, fod ei Arglwydd yn alluog i orphen y gwaith a ddechreuodd. Cysur y gwahanglwyfus oedd, ' Os myni, ti a elli fy nglanhau i.' Enaid, y mae genyt Dduw ag y tâl ymddiried ynddo, y mae mor llawn o ewyllys ag yw efe o allu i'th iachau. Gan ei fod yn hollalluog, gorphwyswn ar, ac ymddiriedwn yn ei allu ef. Rheded dynion fel y mynont, yma ac acw i mofyn cymorth, nid oes neb a ddichon eu cynorthwyo ond efe. Yn mha galedi bynag y byddom, pwyswn arno ef; efe a all gadw Noah mewn arch o goed; yr un ffunud y ceidw efe Moses mewn arch o frwyn. Gwel Esaiah xviii. 2: ' Efe a hebrwng genhadau hyd y môr mewn llestri brwyn.' Efe a wared trwy foddion, heb foddion, yn wrthwyneb i foddion, a goruwch moddion." Anmhosibl darllen y difyniadau uchod heb deimlo ardderchawgrwydd y mater. Ar yr un pryd, rhaid addef fod nerth teimlad, a gwresawgrwydd yspryd y pregethwr, yn ychwanegu yn fawr at eu grym.

Y mae llawer o ddywediadau pert Rowland, yn gyhoeddus ac yn breifat, wedi cael eu cadw yn nghôf hen bobl. Dywedai unwaith wrth athrodwr: " Yr wyt ti, ddyn, yn dweyd fod yn rhaid datguddio a hêl pechodau; am eu bod yn rhy aml yn yr eglwys, na ddylid eu cuddio. Pwylla, ddyn. Pwy wyt ti? Yr wyf yn meddwl fy mod yn adnabod dy deulu, a'th frawd hynaf, sef Cam, mab Noah. Ei ddau frawd a ddymunent guddio noethni eu tad; ond nid oedd efe dros hyny. Pa wobr a gawsant hwy am eu gwaith o guddio? Bendith Duw a'u tad. Beth a gafodd dy frawd di? Melldith gan Dduw a'i dad. Diameu genyf na fydd dy wobr dithau ddim gwell." I ragflaenu disgyblaeth ry lem, dywedodd unwaith fel hyn: "Mae disgyblaeth yr efengyl yn debyg i gribyn aur, yn tynu ac yn cynull y cwbl ati, er achles ac amddiffyniad, ac nid fel fforch, sydd yn taflu ymaith ac yn gwasgaru."

Y mae yn amheus a gyfododd Duw, oddiar ddyddiau yr apostolion, y fath pregethwr a Daniel Rowland, ac yn meddu y fath gymhwysderau ar gyfer y pwlpud. Barn ddiamwys bron bawb a'i clywsant, ac yn eu mysg cawn dystiolaeth personau o ddysgeidiaeth uchel, na wrandawsant ar neb wedi ei ddonio i'r un graddau. Yr oedd fel Saul yn eu golwg, yn uwch o'i ysgwyddau na phawb. Meddai Howell Harris, mewn llythyr ag y difynwyd rhan o hono yn barod: "Y mae yr Arglwydd gydag ef (Daniel Rowland) yn y fath fodd, fel yr wyf yn credu bod y ddraig yn crynu y ffordd y cerddo. Er fy mod yn awr wedi cael y fraint o glywed a darllen gwaith llawer o enwogion Duw, nid wyf yn gwybod, mor bell ag y gallaf farnu, i mi adnabod neb wedi ei fendithio yn y fath fodd a doniau a nerth; y fath oleuni treiddgar i yspryd yr Ysgrythyrau, i osod allan ddirgelwch duwioldeb a gogoniant Crist. Ac er iddo yn fynych gael ei gyhuddo o gyfeiliornadau, eto mae yr Yspryd tragywyddol wedi ei dywys yn y fath fodd i'r holl wirionedd, a'i gadw felly rhag syrthio i unrhyw gyfeiliornad,

—————————————

Capel Llangeitho a'r gofgolofn
Capel Llangeitho a'r gofgolofn

Capel Llangeitho a'r gofgolofn

—————————————

fel y mae ei weinidogaeth, yr wyf yn credu, yn un o'r bendithion mwyaf y mae eglwys Dduw yn y parth hwn yn eu mwynhau." Yr oedd Harris, pan yn ysgrifenu fel hyn, wedi gwrandaw prif bregethwyr Cymru a Lloegr; clywsai Griffith Jones, a Whitefield, a'r ddau Wesley, a'r enwogion eraill a gyfodasent yn yr oes ryfedd hono; ond yn ei farn ef nid oedd un o honynt wedi ei ddonio yn gyffelyb i Rowland.

Cyffelyb y barnai ac y dywedai Mr. Charles o'r Bala, a gwyddis pa mor bwyllog a chymedrol ei ymadroddion oedd efe. Yn y Drysorfa[24] ysgrifena fel y canlyn: "Yr oedd ucheledd a phob rhagoriaethau yn noniau Mr. D. Rowland, dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, er syndod a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr." Eto, yn yr ymddiddan rhwng Scrutator a Senex, dywed Senex:— [25] "Yr oedd gweinidogaeth y gŵr hwn, fel y gwyddoch, yn ardderchawg dros ben, ac yn rhagori yn ei mawredd a'i hawdurdod ar neb a glywais erioed." Eto,[26] "Yr oedd doniau ac arddeliad Mr. Rowland y fath nas dichon gwrandawyr yr oes bresenol gynwys dim amgyffred am danynt. Cyffelybais ef yn aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw yn mhlith cedyrn Dafydd; efe oedd benaf o'r tri; ac er godidoced oedd y lleill, eto, ni chyrhaeddasant y tri chyntaf. O rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb oedd gyda ei weinidogaeth, a'r modd rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr! Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo, ai y werin i'w hamrywiol deithiau meithion, yn llon eu meddwl, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddawn annrhaethol." Meddai Mr. Charles am dano unwaith, wrth geisio ei ddarlunio i gyfaill o Sais: "Pregethai Rowland edifeirwch, nes y byddai dynion yn edifarhau; pregethai ffydd nes y byddai dynion yn credu. Darluniai bechod mor wrthun nes psri casineb ato; a Christ mor ogoneddus nes peri dewisiad o hono." Mewn llythyr a ysgrifenodd yn y flwyddyn 1780, at yr hon a ddaeth wedi hyny yn wraig iddo, dywed: " Yr wyf yn credu fel chwithau, nid yn unig fod y Bala bach, ond hefyd Cymru, yn dra breintiedig. Y mae y cenad oedranus hwnw i Frenin y Gogoniant, Daniel Rowland, yn anrhydedd bythol iddi, ac efe a fydd felly. Anaml y gallaf grybwyll am dano mewn ymadroddion cymhedrol. Yr wyf yn ei garu yn fawr, fel fy nhad yn Nghrist; ac nid heb reswm, oblegyd iddo ef, tan fendith Duw, yr wyf yn ddyledus am gymaint o oleuni a phrofìad a feddaf o'r iachawdwriaeth ogoneddus trwy Grist." Byddai yn anhawdd defnyddio ymadroddion cryfach, a phan y cofir eu bod yn dyfod oddiwrth Mr. Charles, amlwg y rhaid eu cymeryd yn eu llawn ystyr.

Yn gyffelyb y tystiolaetha Mr. Jones, Llangan. Mewn llythyr o'i eiddo at yr Iarlles Huntington, dyddiedig, Penybont, Mai 14, 1773, efe a ddywed: [27] "Buasai yn wir dda genym eich gweled yn ein cymdeithasfa. Yr ydoedd mewn gwirionedd yn ddiwrnod tra arbenig. Cyflawnodd yr Arglwydd Iesu ei addewid werthfawr i'w weision, 'Wele, yr wyf fi gyda chwi.' Yr oedd gallu mawr oddi uchod yn cydfyned a'r gair a bregethid. Aeth llawer adref i'w cartref yn llawen; a phwy na lawenhai wrth weled Tywysog ein Hiachawdwriaeth ei hunan yn ymddangos ar faes y frwydr, ac yn sicrhau i galonau ei bobl druain, y byddai iddo ef fuddugoliaethu ynddynt a throstynt? Yr wyf yn hyderu fod rhai diofal wedi eu dwysbigo yn eu calon. Pregethodd Mr. Rowland yr ail bregeth yn y boreu, oddiar Actau ix. 4: ' Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Pregethodd Mr. William Williams o'i flaen ef. Ni a gawsom ddwy bregeth hefyd yn y prydnhawn. Y gyntaf gan Mr. William Llwyd (o Gaio), pregethwr diurddau, a'r ail gan Mr. Peter Williams. Gwnaeth rhai o'r bobl i'n tref fechan adsain Gogoniant i Fab Dafydd,' ' Hosana trwy'r nefoedd,' 'Hosana hefyd trwy'r ddaear,' Amen, Amen. Y mae digon yn eich cyrhaedd i gyfieithu y geiriau Cymraeg i chwi. Pregethodd Mr.Rowland, y dydd canlynol, mewn tref fechan, ryw ddeuddeg milltir i'r gorllewin i ni; lle y cafodd odfa felus mewn gwirionedd. Llefarodd yn rhyfeddol am Abraham yn dyrchafu ei lygaid ac yn edrych, Genesis xxii. 13. Ni chlywais y fath bregeth erioed o'r blaen. Yn sicr, efe yw y pregethwr mwyaf yn Ewrob. Bydded i'r Arglwydd ei arddel fwy-fwy. Yr oedd y dref fechan hono hefyd yn adseinio ' Gogoniant.' Parha, fendigedig Iesu, i farchog yn llwyddianus trwy ein gwlad. Llanw eni calonau oerion a'th gariad, ac yna ni a'th folianwn di o fôr i fôr."

Yr oedd gan yr Hybarch Grifíìths, Nevern, y syniadau uchaf am Rowland fel píegethwr. [28] "Yr oedd y pregethwr mawr hwn," meddai, "yn ei weinidogaeth gyhoeddus, yn gyffelyb i ymchwydd ac ymdoriad tònau y môr, pan fyddo y gwynt yn cynhyrfu mynwes yr eigion. Deuai nerth oll-orchfygol dylanwad yr Yspryd yn mlaen yn raddol, fel tòn y môr, gan gynyddu fwy-fwy. Dechreuai ei bregeth yn dawel, ond fel yr elai yn mlaen, cynyddai ei fater a'i arddull mewn dyddordeb. Byddai ei gynulleidfa, yx hon oedd yn wastad yn anferth o fawr, yn dwys syllu arno, gyda llygaid yn dysgleirio fel sêr, gan sylwi arno gyda phleser wrth ei fod yn myned rhagddo mewn modd mor ardderchog. Dygid eu meddyliau a'u teimladau yn mlaen gydag ef yn y modd mwyaf nerthol a melus, gan fod wedi eu cyffroi i radd uchel o gynhyrfiad crefyddol, nes yn mhen enyd y cyrhaeddai ei hyawdledd ei uchaf-bwynt; ac yna ymdorai ei hyawdledd, dan y dylanwadau dwyfol, mewn ardderchawgrwydd, fel ymchwydd y dòn, gan lwyr orchfygu y dyrfa fawr yn y modd mwyaf rhyfedd. Y pryd hwn, byddai angerddolrwydd eu teimladau yn cael gradd o ryddhad mewn bloeddiadau o 'Haleliwia,' a 'Bendigedig fyddo Duw.' Arafa y pregethwr; rhydd seibiant i'r gynulleidfa i fwynhau y wledd; yn wir, ni chlywsid ei lais pe yr elai yn ei flaen. Yr oedd yn angenrheidiol hefyd i'w brwdaniaeth gael pasio, er eu cymhwyso i wrando ar y gweddill o'r bregeth gyda budd. Felly ceisiant gadw eu teimladau danodd, ac ymdawelu, gan eu bod yn awyddus am fwynhau y danteithion a arlwyid ger eu bron gan genhadwr rhyfedd y nefoedd, yr hwn oedd wedi cael ei ddonio mor arbenig. Dechreua yntau adran arall o'i bregeth yn bwyllog a thawel, gan ymddyrchafu yn raddol, fel tòn arall o'r môr, i uchder gogoneddus mewn syniadau a theimladau, y rhai ydynt wir a naturiol effeithiau syniadau efengylaidd, a dylanwad yr Yspryd. Tan addysgiant Yspryd Duw, cynyrcha y rhai hyn eu cyffelyb yn y gwrandawyr. Y maent yn crogi wrth ei wefusau; gwyliant bob ysgogiad o'i eiddo, gan eu bod yn gwybod oddiwrth ei fater a'i ddullwedd fod ymdoriad gerllaw. Ei lais yntau, a gwedd ei wyneb, sydd yn cyfnewid, cynydda ei ymresymiad mewn nerth, ac yna dyna ei hyawdledd efengylaidd yn ymdori fel ymchwydd y dòn drachefn. Ar hyn y mae y gynulleidfa yn cael ei gorchfygu gan ei theimladau unwaith eto, ac yn tori allan mewn llefau uchel, 'Hosanai FabDafydd.' Yr oedd arddull, llais, ac osgo y dyn mawr hwn, ar adegau o'r fath, yn anarluniadwy o ardderchog ac effeithiol. Yr oedd holl gyhyrau ei wyneb yn siarad, a'i wedd yn pelydru mewn dysgleirdeb, fel yr haul yn ei nerth."

Er prawf pa mor rymus oedd dylanwad Rowland, a'r modd yr oedd teithwyr o gyrau pellaf y Dywysogaeth yn anghofio eu holl ludded tan swyn ei weinidogaeth, adrodda Dr. Owen Thomas yr hanes canlynol, wedi ei gael ganddo oddiwrth yr hen bregethwr hybarch, Mr. John Williams, Dolyddelen, "yr hwn," meddai, "nid oedd mewn un modd yn un gwanaidd, difeddwl, a pharod i ymollwng gyda phob awel a chwythai ar ei dymherau.[29] Dywedai ei fod ef (John Williams), un tro, wedi myned i Langeitho, gan gerdded yr holl ffordd o Ddolyddelen. 'Yr oeddwn,' meddai, 'wedi blino cymaint fel yr oeddwn yn llawer fftiach i fyned i fy ngwely nag i fyned i'r capel. Ond fe aeth Rowland i bregethu. Y testun oedd: ' Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig.' Ac ni chlywsoch chwi erioed y fath beth. Fe aeth ati i dapio barilau y cyfamod gras, ac i ollwng allan y gwin puredig, ac i ddiodi y bobl ag o. Yn wir, yr oedd o yn llifo trwy y capel. Mi yfais inau o hono, nes yr oeddwn i wedi meddwi fel ffŵl; a dyna lle y bum i, ac ugeiniau gyda mi, heb feddwl dim am flinder, yn gwaeddu, a rhai o honom yn neidio, am oriau.' "

Byddai yn gamwri gadael allan ddesgrifiad Christmas Evans o hono. Yr oedd Christmas, fel yntau, wedi ei eni a'i ddwyn i fynu yn Sir Aberteifi, ac yn 24 mlwydd oed pan y bu farw; a diau felly iddo gael cyfleustra i wrando arno lawer gwaith. Fel hyn y dywed yr hen Fedyddiwr hyawdl:[30] " Calfinaidd yn mhob ystyr o'r gair oedd athrawiaeth Daniel Rowland. Byr-eiriog oedd ei ddull o lefaru, a byddai ei ymadroddion yn gryno, sylweddol, a synwyrlawn. Pregethai yn ei arddull briodol ei hun, ac nis gellid ei ddynwared. Yr wyf megys pe gwelwn ef yn a wr, yn ei ŵn du, yn myned i mewn trwy y drws bychan oddi allan i'r pwlpud, ac yn ymddangos felly yn ddisymwth i'r gynulleidfa fawr. Yr oedd ei wedd, yn mhob ystyr, wedi ei haddurno a mawredd, ac yn arddangos synwyr cryf, hyawdledd, ac awdurdod. Yr oedd ei dalcen yn uchel a llawn; ei lygaid yn llym, yn fywiog, a threiddiol; ei drwyn yn eryraidd, neu Rufeinig; ei wefusau yn weddus, ac yn arwyddo penderfyniad; ei ên yn taflu allan ac yn codi ychydig; a'i lais yn soniarus, peraidd, cryf, a dylanwadol iawn. Yr arfer gyffredin fyddai i ryw weinidog ddarllen a gweddïo, cyn y cyfodai Rowland yn y pwlpud; yna rhoddai yntau allan, gyda llais eglur a hyglyw, air o Salm i'w ganu, megys xxvii. 4:

Un arch a eichais ar Dduw Nâf,
A hyny a archaf eto;
Cael dyfod i dy yr Arglwydd Glân,
A bod a'm trigfan yno.'

Un penill a genid o flaen pregeth yn y dyddiau hyny, oedd mor rhyfedd am ddylanwadau nerthol. Ymunai'r holl gynulleidfa i ganu gyda gwresogrwydd mawr; eto heb ddyblu ond ychydig o flaen pregeth, rhagi'r olew nefol redeg dros y llestri yn rhy fuan. Yna cyfodai Rowland, a darllenai ei destun yn eglur i glyw pawb. Byddai yr holl gynulleidfa megys yn glustiau i gyd, yn astud iawn, fel pe buasent ar wrando rhyw oracl efengylaidd a nefol. Byddai llygaid yr holl bobl ar yr un pryd yn craffu arno yn ddyfal. Yn nechreu ei bregeth, byddai ganddo ryw syniad tarawiadol, cyffrous, megys blwch bychan o enaint i'w agor o flaen blwch mawr ei bregeth, yr hwn, pan ei hagorid, a wasgarai berarogl yr enaint trwy yr holl gynulleidfa, ac a baratoai ddisgwyliadau y bobl am agoriad y blychau dilynol, o un i un, trwy'r bregeth, nes llenwi yr holl dy a'i arogl nefol, megys perarogl blwch enaint Mair yn Bethania gynt. Wedi cyffroi y gynulleidfa, fel hyn, a rhyw feddwl anghyffredin, efe a ranai ei destun, ac a ai yn mlaen gyda'r rhaniad cyntaf, gan blygu ei ben ychydig, fel ag i daflu cipolwg ar ei nodiadau a fyddent ar ddernyn o bapyr o'i flaen. Gwelais ei nodiadau ar y testun, 'Edifarhewch,' &c., y rhai oedd yn bur fyrion, fel hyn: ' (1) Edifeirwch, o ran ystyr, yw cyfnewidiad meddwl, am Dduw ac am ddyn, am y ddeddf a'r efengyl, am bechod a sancteiddrwydd, am ddrygioni'r galon a'r fuchedd, am haeddiant dyn a haeddiant Crist, ac am allu dyn, a nef a daear, ac uffern obry. (2) Y mae Duw yn galw ar ddyn i edifarhau. Clyw weinidogaeth Ioan Fedyddiwr, a Christ, a Phetr ar ddydd y Pentecost, a Phaul yn Pisidia. (3) Y mae Duw, o'i ras, yn rhoddi edifeirwch trwy Iesu Grist. Efe yw'r bibell euraidd, trwy yr hon y rhed holl ffrydiau gras a gogoniant. Cofia ymadrodd Petr, bod Duw yn rhoddi edifeirwch a maddeuant pechodau, drwy fendith yn dyfod o groth fawr arfaeth y nef, ac y maent fel efeilliaid yn canlyn eu gilydd yn ddiwahan; neu fel dwy râff yn tynu llong iachawdwriaeth dros y bâsleoedd peryglus, trwy effaith eiriolaeth Crist yn tynu pechaduriaid ato ei hun.'

Yr ydym yn awr yn dyfod at y rhan anhawddaf o'r desgrifiad, gan nas gallwn beri i ddelw fud lefaru, na dyn marw i fod yn fyw. Wedi cymeryd cipolwg ar ei nodiadau, o ran arfer yn fwy na dim arall, dechreuai ymadroddi yn bwyllog, gan lefaru yn rhwydd a hyglyw. Cyffelybaf ef i'r gôf yn rhoddi yr haiarn yn y tân, ac yn dywedyd wrth y chwythwr am chwythu mwy neu lai, gan gadw ei lygad o hyd ar yr haiarn yn y tân, ac ar yr un pryd yn gallu siarad am bedoli, a durio'r sẃch a'r cwlltwr. Y mae'r tân yn fflamio fwy-fwy, a gwreichion y twym-iâ s yn esgyn i fynu. Yna cipia yr haiarn, wedi ei ddwyni dymer doddedig ac ystwyth, i'r engan, a'r ordd fawr a'r morthwyl yn curo arno, nes i'r gwreichion ehedeg trwy yr holl efail. Yn gyffelyb y byddai Rowland, yn poethi ac yn brydio yn raddol, fel y byddai yn graddol deimlo ei fater; ac o'r diwedd dyrchafai ei lais yn awdurdodol, nes y byddai yn dadseinio trwy'r holl gapel. Bydda i yr effeithiau ar y bobl yn rhyfeddol; nis gwelid dim ond gwenau a dagrau yn treiglo dros eu gwynebau; a byddent ar yr un pryd yn bloeddio mewn gorfoledd. Cyfodai hyn oll o fflam ei oslef, a godidowgrwydd ei fater; a'i fywiogrwydd yntau o'r fflam a fyddai yn y meddyliau dyrchafedig a draddodid ganddo, yn nerthoedd yr Yspryd Glân. Yr oedd y gwahaniaeth yma rhyngddo ef a Whitefield; pan fyddai Whitefield fwyaf angerddol yn nhônau peraidd ei lais, byddai braidd yn gwanhau yn ei fater; ond ei fater a fyddai yn dyrchafu hyawdledd Rowland, a byddai ei lais yn dyrchafu gyda'i faterion. Gwedi i'r iâs hon lonyddu, dan y pen cyntaf, ac iddo frysio edrych ar ei bapyrun nodiadau, dechreuai yr ail waith doddi ac ystwytho meddyliau ei wrandawyr, nes eu dwyn drachefn i'r unrhyw dymer nefol. Gwnai felly weithiau chwech neu saith waith yn yr un bregeth, a byddai y twym-iâs nefol, a serch y gynulleidfa yn y sefyllfa fwyaf angerddol. Pur ychydig a fyddai ganddo yn niwedd y bregeth mewn ffordd o gasgliadau, neu gymhwysiad, gan y byddai yn cymhwyso ac yn cymell gwirioneddau gogoneddus yr efengyl trwyddi oll. Terfynai gydag ychydig sylwadau tarawiadol a grymus; yna gweddïai yn fyr ac yn felus, a datganai y fendith. Yna, yn llawn chwys, brysiai allan o'r pwlpud trwy'r drws-bychan, a hyny mor sydyn ag y daethai i mewn. Os na byddai cymundeb ar ol, gadewid y gynulleidfa fawr mewn hwyl nefol, yn mwynhau llewyrch wyneb eu Harglwydd, a hyn oll yn y modd nas gellir ei ddesgrifio ar bapyr. . . . Yr oedd y fath wresogrwydd tanbaid, anorchfygol, yn ei bregethiad, fel ag i ymlid ymaith yn effeithiol yspryd diofal, bydol, a marwaidd; a byddai'r bobl, wedi ei deffro felly, yn nesau megys yn y cwmwl goleu, at Grist, a Moses, ac Elias, a thragywyddoldeb a'i sylweddau aruthrol yn goresgyn eu meddyliau! Seren o'r maintioli mwyaf oedd efe, a thebyg na bu yn Nghymru ei gyffelyb er dyddiau yr apostolion. Y darlun uchod a dynais o'r pregethwr tywysogaidd hwn o barch i'w goffadwriaeth."

Gallasem ddifynu llu o dystiolaethau eraill i brofi fod Daniel Rowland yn bregethwr digyffelyb, ond rhaid i ni ymfoddloni bellach ar y darluniad canlynol o eiddo y Parch. Dr. Owen Thomas: [31] " Siaradai, ar y cyntaf, yn hytrach yn isel, ond yn dra chyflym; yn gymaint felly fel mai anhawdd braidd oedd ei ddilyn. Yr oedd yn ymddangos am amryw fynudau fel pe y buasai yn ofnus, ac heb ymddiried hollol ynddo ei hun. Ond, yn raddol, fe ddiflanai hyny, ac fe enillai hunan-feddiant perffaith. Siaradai yn awr yn fwy araf, ond yn uwch ac yn rymusach, gan ymwresogi fel yr elai rhagddo, a'r holl gynulleidfa yn cynhesu gydag ef, nes y byddai iâs o deimlad tyner yn treiddio trwyddi. Y mae wedi darfod yn awr a'r sylw cyntaf; yn gostwng ei lais; yn rhoddi ysgydwad naill-ochrog arno ei hunan; ac yn dechreu ar yr ail sylw. Y mae yn cychwyn eto yn lled araf a phwyllog, ond yn cyflymu yn fuan iawn, ac yn llefaru gyda nerth a rhwyddineb anghyffredin; y mae ei lygaid yn treiddio trwy'r capel; ei lais yn ymddyrchafu; ei deimladau yn tanio; y mae y gwres yn awr yn cydio yn y bobl; y mae y dagrau yn treiglo dros eu gruddiau; yr Amenau cynnes yn dyfod dros eu gwefusau; a'r pregethwr a hwythau mewn meddiant hapus o'u gilydd. Y mae yn darfod a'r ail sylw. Y mae yn disgyn yn raddol, drachefn, i'r tawelwch a'r pwyll a deimlid yn angenrheidiol ganddo gyda phob adgychwyniad.

Ac ni a glywsom y sylw gan fwy nag un o'i hen wrandawyr, na byddai efe byth yn ymddangos yn well fel siaradwr, na phan yn disgyn o'r arucheledd teimlad, y byddai efe ei hunan a'r gynulleidfa wedi eu codi iddo, i'r arafwch a roddai iddo y fantais oreu i ail ddisgyn. Ni welwyd mo hono erioed yn syrthio i lawr, ond yn disgyn yn dawel ac yn esmwyth, a'i holl nerth ganddo i ail godi. A dyna fo yn esgyn eto, ac yn cyfodi ei gynulleidfa gydag ef, i deimladau uwch, a dwysach, a phoethach. Y mae'r Ameniau ' yn amlach a chryfach; bloeddiadau, Diolch, Bendigedig, Gogoniant, i'w clywed o bob cwr i'r capel; a'r holl gynulleidfa, mewn hwyl hyfryd, yn mwynhau gorfoledd yr iachawdwriaeth. Ond y mae y pregethwr yn arafu; yn disgyn drachefn, braidd yn esmwythach ac yn brydferthach nag o'r blaen; ar. yn rhoddi ychydig eiliadau o seibiant i'r bobl i ddisgyn gydag ef. Eithr y mae heb ddarfod eto. Y mae yn cychwyn drachefn, ac i fynu, yn uwch, uwch, UWCH. Y mae golwg ryfedd erbyn hyn arno. Y mae ei lygaid yn fflamio; ei lais yn ymdori; ei wyneb yn dysgleirio; ei holl gorph yn ymddangos fel pe byddai wedi ei ysprydoli; yr enaid mawr yn gollwng allan, yn ffrydlif o hyawdledd byw, y meddyliau mwyaf tanllyd; a'r rhai hyny yn tanio yr holl gynulleidfa, ac yn ei chyfodi i hwyliau rhyfedd o orfoledd a mawl. Y mae llais y pregethwr wedi ei golli yn awr yn mloeddiadau a chaniadau y dyrfa; y mae yntau yn terfynu, nad oes neb yn gwybod pa fodd ond efe ei hun; ac yn gadael y gynulleidfa i orfoleddu am oriau. Ý mae yn cymeryd ychydig luniaeth, yn myned am ddwy awr i'w wely i orwedd; ac yn ei gwsg yn adenill rhyw gymaint o'r yni gwefrol a gollwyd ganddo, mewn awr o amser, yn y capel." Tra mai fel pregethwr y rhagorai Daniel Rowland, y mae yn dra sicr ei fod yn drefniedydd nodedig o fedrus, ac yn arweinydd doeth a dyogel. Gwedi yr ymraniad, efe a fyddai yn llywyddu yn y cymdeithasfaoedd, os yn bresenol. Ychydig a lefarai efe ei hun fel rheol; gwrandawai ar eraill am enyd, gan rodio yn ol ac yn mlaen ar hyd yr ystafell; yna torai y ddadl a fyddai yn cael ei chario yn mlaen i fynu, trwy ddweyd:

"Dyna ddigon wedi ei siarad," ac yna gosodai ei olygiadau eu hun ar y mater gerbron, yn gryno ac yn oleu, a bron yn ddieithriad dilynid ei gyfarwyddid. Fel arweinydd, unai benderfyniad meddwl, a hynawsedd yspryd nodedig. Y mae yn dra sicr ei fod yn anghydweled a golygiadau Peter Williams; nis gallasai lai yn ngwyneb y saflai a gymerasai mewn cysylltiad a daliadau Harris; ond yr oedd yn mhell o gydweled a'r ymosodiadau a wneyd ar yr hen esboniwr. Gwyddai Peter Williams hyn yn dda, a chyfeiria at ei dynerwch yn y farwnad a gyfansoddodd iddo:

"O, mrawd Rowland, ni 'th anghofiaf,
Ti roddaist i mi lawer sen;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai 'mhen?"

Meddai gydymdeimlad mawr a dynion ieuainc, a llygad crâff i'w hadnabod. Ni theimlai ddim tebyg i eiddigedd pan fyddai pregethwr ieuanc poblogaidd yn codi. Yr oedd Griffiths, Nevern, o ddoniau dysglaer; wedi gwrando arno yn pregethu y tro cyntaf, aeth Rowland ato, a'i lygaid yn tywynu gan lawenydd, gan ddweyd: " Fy mab anwyl! Yr wyt wedi taro ar yr wthien; gwthien euraidd y weinidogaeth; gofala gadw arni, a rhoddi yr holl glod i Dduw." Dywedir ei fod yn petruso ar y dechreu gyda golwg ar ganiatau rhyddid y pwlpud i Roberts, Clynog. Anhawdd gwybod yn bresenol y rheswm am hyny. Ond pan ddaeth Roberts y tro cyntaf i Langeitho, aeth Rowland yn llechwraidd i'r capel, gan gadw ei hun yn nghudd allan o olwg. Boddhawyd ef yn fawr yn noniau dysglaer y seraph tanllyd o'r Gogledd. Ar y diwedd, aeth ato yn llawn sirioldeb, gan ei longyfarch ar yr odfa lewyrchus oedd wedi gael; ac wedi peth ymddiddan, dywedai: "A wnewch chwi dderbyn gair o gyngor oddiwrth henŵr penwyn? " "Gwnaf, gyda y parodrwydd mwyaf," oedd yr ateb. Meddai yntau, "Gwyddoch fod gan y siopwyr dyllau bychain yn eu counters yn y rhai rhoddant yr oll y maent yn dderbyn; beth bynag a gânt, bydded aur, arian, neu brês, gosodant yr oll yn y tyllau hyn. Anwyl frawd, gwnewch chwithau yr un fath; beth bynag a dderbyniwch, rhoddwch ef yn y drysorfa. Peidiwch pocedu cymaint a ffyrling o arian y Meistr." Yr oedd ei allu i adnabod dynion ieuainc, ac i gydymdeimlo a hwy yn eu huchelgais, yn gymhwysder dirfawr iddo at fod yn arweinydd. Er ei holl boblogrwydd a'r parch a delid iddo, cadwodd Duw ef rhag ymchwyddo; yn nghanol yr oll yr oedd ei galon yn wir ostyngedig. Adroddir amryw hanesion fel prawf o hyn. Trafaelai ar ei draed yn bur fynych; a phan wedi ei gyhoeddi i bregethu mewn cymydogaeth, anfonodd gwraig dda, a breswyliai mewn ffermdy o'r enw Bryn-y-brain, ei gwas gyda cheffyl i'w gyfarfod. Rywsut camgymerodd y gwas y ffordd, neu daeth y pregethwr o gyfeiriad nad oeddid yn ei ddisgwyl, a chyrhaeddodd Rowland y He ar ei draed, ac yn flin. Gofidiai y wraig yn dddirfawr, a mynegai ei siomiant drosodd a throsodd. Atebai yntau: " Nel fach, ni feddyliais fy hun yn deilwng i neb ddod i'm cyfarfod, naddo gymaint a chan llath, erioed." Adroddir ddarfod i wraig weddw, o'r enw Mrs. Griffiths, Glanyrafonddu, oblegyd ei serch ato, a'r mawr lles a dderbyniasai trwy ei weinidogaeth, adael cerbyd iddo yn ei hewyllys. Yn hwn y teithiau yntau y rhan olaf o'i oes. Mewn pentref neillduol, He yr arferai bregethu, ni wnai neb ei dderbyn i dy ond hen wreigan dlawd. Pan welodd hon y pregethwr yn dyfod yn ei gerbyd i'r pentref am y tro cyntaf, dechreuodd ymofidio, a theimlo nad oedd ei thŷ na'i gwely gwael hi yn deilwng o'r fath ŵr. Dywedai hynny yn ei glyw. Ond ei ateb ef ydoedd: "Taw sôn, da thi; yr wyf yn gweled dy fod di mewn mwy perygl o gael niwed oddiwrth fy ngherbyd i, nag wyf fi o gael fy niweidio gan dy dŷ a'th wely di." Byddai yn anesgusodol ynom i basio heibio yn ddisylw y llyfrau a briodolir i Daniel Rowland, naill a'i fel Awdwr neu Gyfieithydd. Yn 1739, cyhoeddodd ei bregeth gyntaf, a elwir " Llaeth Ysprydol: o casgliad Eglwyswr." Y mae yn sylfaenedig ar i Petr ii. 2. Yn fuan wedi sefydlu y seiadau profiad, sef yn y flwyddyn 1742, cyhoeddodd, mewn undeb ag eraill, lyfr yn dwyn y teitl a ganlyn: "Sail, Dibenion, a Rheolau y Cymdeithasau, neu y Cyfarfodydd Neillduol, a ddechreuasant ymgynull yn ddiweddar yn Nghymru. At y rhai y chwanegwyd rhai hymnau i'w canu yn y cyfarfodydd. Gan wŷr o Eglwys Loegr." Nid oes enw neb ar y wyneb ddâlen, ond ceir enw Howell Harris wrth yr hymn gyntaf, enw Morgan Jones wrth yr ail, eiddo Daniel Rowland wrth y drydedd, ac eiddo Herbert Jenkins wrth y bedwaredd. Tybir mai Rowland oedd a'r llaw bwysicaf yn nghyfansoddiad y llyfr. Y flwyddyn ganlynol, 1743, cyhoeddodd gyfieithad o draethawd Ralph Erskine, ar " Farw i'r Ddeddf, a byw i Dduw, at ba un y chwanegwyd chwech o Hymnau buddiol ar Amryw ystyriaethau. O waith y Parchedig Daniel Rowland." Cawn ef y flwyddyn nesaf, 1744, yn cyhoeddi " Hymnau Duwiol, i'w canu mewn Cymdeithasau crefyddol. A gyfansoddwyd gan mwyaf gan y Parchedig Daniel Rowland, .Gweinidog o Eglwys Loegr." Y mae y wyneb ddalen yn gyfeiliornus; allan o 72 tudalen nid oes ond 25 yn perthyn iddo ef. Y mae yn ddyddorol sylwi mai yr un flwyddyn y cyhoeddodd Williams, Pantycelyn, y rhan gyntaf o'i "Aleluwia." Yr achlysur nesaf iddo ddyfod allan trwy y wasg, oedd er gwneyd yn hysbys ei olygiadau ar y pwnc mewn dadl rhyngddo ef a Harris. Gelwir y llyfr:— "Ymddiddan rhwng Methodist Uniawn-gred ac un Camsyniol. Yr ail argrafíìad, 1750." Ni wyddis pa bryd y bu yr argraffiad cyntaf. Dygwyd allan drydydd argraffiad o Gaerfyrddin, 1792. Yn 1759, cyfieithodd "Aceldama, neu Faes y Gwaed." Traethawd yw hwn yn dangos echryslonrwydd rhyfel. Hysbysir ei fod ar werth gan Peter Williams. Pregeth a gyhoeddodd nesaf, sef:— "Llais y Durtur. Gwahoddiad grasol Crist ar bechaduriaid. Neu bregeth a bregethwyd yn Llanddewi, Tach. i, 1761. Ar Datguddiad iii. 20. ' Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo,' &c. Gan y Parchedig Mr. Daniel Rowland,Gweinidog yr Efengyl yn Llangeitho, 1762." Yn ol Mr. Morris Davies, cyhoeddwr a golygydd yr argraffiadau cyntaf o bregethau Rowland, oedd un Thomas Davies, gerllaw Hwlffordd, Sir Benfro. Tybia fod Mr. Davies yn un o'r cynghorwyr a lafurient gyda'r Methodistiaid, a'i fod, fel cyhoeddwr llyfrau, yn ŵr ymdrechgar, bywiog,a gofalus. Ymddengys nad oedd yr awdwr yn derbyn dim elw oddiwrth werthiant ei bregethau; rhoddasai y copïau o honynt i'r cyhoeddwr, ac y mae yntau ar ddiwedd y rhestr o dderbynwyr yn diolch yn gyhoeddus iddo am danynt. Dywed fod y brys i'w dwyn allan gymaint, fel na chafodd yr awdwr, yn nghanol ei lafurwaith, amser i'w darllen wedi eu hysgrifenu, cyn rhoddi'r copíau o'i law i'w hargraffu. Blwyddyn nodedig yn ei hanes oedd y nesaf, 1763; dyma y pryd y trowyd ef allan o'r Eglwys Sefydledig; a chawn ef yn cyhoeddi " Pymtheg Araeth, ar Amryw Destunau." O flaen y rhai hyn y mae rhagymadrodd gan Peter Williams. Tybir mai efe a gyfieithodd " Camni yn y Coelbren," o waith Thomas Boston, a ddaeth allan yn 1769. Yn y flwyddyn 1772, cyhoeddwyd tair pregeth o'i eiddo; ac o fewn corff yr un flwyddyn, bum' pregeth arall, at ba rai y chwanegwyd amryw hymnau. Yr ydym yn ei gael yn 1774, yn cyhoeddi cyfieithad o " Ryfel Ysprydol " John Bunyan, gyda rhagymadrodd byr, eithr nodedig o ddyddorol, ganddo ef ei hun. Yn y flwyddyn hon hefyd, cyhoeddodd Thomas Davies " Wyth Bregeth " Saesneg o'i waith, a dywedir ar y wyneb ddâlen eu bod wedi cael eu pregethu ar bynciau ymarferol yn yr " Eglwys Newydd, yn Llangeitho." Wrth yr " Eglwys Newydd " y golygir y capel a adeiladesid i Rowland wedi iddo gael ei droi allan. Cyfieithwyd y rhai hyn gan y Parch. John Davies, Rheithor Sharnecote, swydd Wilts. Cafodd tair pregeth Saesneg arall, o gyfieithad yr un gŵr, eu dwyn allan y flwyddyn ganlynol. Yn 1776, cyhoeddwyd "Ychydig Hymnau yn ychwaneg, gan y Parchedig D. Rowland." Y cyfansoddiad olaf o'i eiddo a ddaeth allan trwy y wasg oedd:— "Llwyddiant wrth Orsedd Gras:— Pregeth ar Judas, 20, a bregethwyd yn Nghapel Llangeitho, 1782." Pan feddylir amledd ei deithiau, a maint ei lafur gyda gweinidogaeth yr efengyl, y mae yn syn iddo allu ysgrifenu cymaint. Ar y cyfan, y mae ei Gymraeg yn bur a chref, a'i holl ddullwedd yn eglur a chryno.

Er ardderchoced pregethwr oedd Daniel Rowland, ac er godidoced y gwaith a gyflawnwyd trwyddo, ni chafodd ddianc, hyd yn nod gwedi ei farw, heb gael ei gyhuddo o feiau a cholliadau. Dywed Dr. Rees, yn ei History of Nonconformity in Wales,[32] ei fod yn mhell o fod yn ddifai fel pregethwr, ac awgryma, ar dystiolaeth gweinidog Annibynol cymharol ddinôd, ei fod yn wan o ran mater, ac yn crwydro yn fynych oddiwrth ei destun; ond fod rhyw gymaint o effeithiolrwydd yn perthyn iddo. Byddai yn anhawdd cael gwell enghraifft o'r hyn a eilw y Saeson, "damning with faint praise." Meddai Dr. Rees: "Dywedai Harris a'r clerigwyr " - a diau y cynwysa y "clerigwyr " Daniel Rowland—"lawer o bethau yn eu pregethau difyfyr, a dramgwyddent chwaeth ddiwylliedig yr Ymneillduwyr, ac a roddai i'r digrefydd o bob dosparth destunau i gellwair halogedig," Sicr yw y defnyddiai Rowland, pan yr oedd ei holl natur yn berwi gan gyffro, a'r gynulleidfa wedi cael ei chodi i hwyl, ymadroddion cryfion; ac yr oedd yn hollol gyfreithlon iddo wneyd hyny; cyfiawnhäi yr amgylchiad y cyfryw eiriau; ond yr oedd gwaith rhai Ymneillduwyr—os bu y cyfryw—yn tramgwyddo wrth ymadroddion o'r fath yn brawf, nid o ddiffyg chwaeth yn Rowland, ond o gulni eu hysprydoedd a mursendod eu clustiau hwy eu hunain. Syniad unfrydol y rhai a glywsant yr Efengylydd o Langeitho, ac a feddent gymhwysder i farnu, oedd ei fod yn ardderchog mewn mater ac ardull. Meddai Christmas Evans: "Byddai wynebpryd, agweddiad, a llais Rowland yn cyfnewid yn fawr yn y pwlpud, yn ol fel y byddai ei deimladau; ond nid oedd dim yn isel ac yn annymunol ynddo; eithr oll yn weddaidd ac urddasol odiaeth."Dyna dystiolaeth Ymneillduwr, ac un o gedyrn y pwlpud Cymreig. Cymerer eto dystiolaeth Charles o'r Bala, gŵr o'r chwaeth buraf. "Yr oedd," meddai, " urddas ac ardderchawgrwydd, yn gystal a phob rhagoriaeth arall, yn noniau gweinidogaethol Rowland; meddyliau dyfnion a gogoneddus, llais nerthol a melus, ac eglurder a bywiogrwydd wrth arddangos dyfnion bethau Duw, er syndod, deffroad, a budd ei wrandawyr lliosog."[33] I bob dyn diragfarn y mae y tystiolaethau hyn yn ddigonol brofion o burdeb chwaeth ac ardderchawgrwydd mater Daniel Rowland.

Cafodd ei gyhuddo hefyd o gulni yspryd at yr Ymneillduwyr, ac o ymlyniad dâll wrth yr Eglwys Sefydledig. Profa ei holl hanes yn amgen. Ni anghofiodd drwy ei oes ei ddyled i Mr. Pugh, gweinidog Ymneillduol Lwynynpiod. Y mae yn bur sicr fod ymlyniad Howell Harris wrth yr Eglwys yn llawer cryfach nag eiddo Rowland. Ar anogaeth bendant Rowland, fel y cawn ddangos eto, y darfu i amryw eglwysi yn Morganwg a Mynwy, oeddynt yn perthyn i'r Methodistiaid, ordeinio gweinidogion iddynt eu hunain, yn ol trefn yr Ymneillduwyr. Awyddai ThomasGray, olynydd Mr. Pugh yn Llwynpiod, am ymuno a'r Methodistiaid, yn benaf, o herwydd ei fawr serch at Rowland. "Gwell i chwi," meddai yntau wrtho, "barhau i weithio yr ochr yna i'r mynydd, âf finau yn mlaen yr ochr yma; efallai y cyfarfyddwn mewn amser, pan yn cloddio dan deyrnas Satan." Yr oedd, fel y mae yn amlwg, yn rhyddfrydig ei galon at Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, ac yn hollol amddifad o yspryd proselytio.

Ond y cyhuddiad mwyaf enllibaidd yn erbyn Daniel Rowland, oedd yr un a ymddangosodd yn y Quarterly Review, Medi, 1849, agos i driugain mlynedd gwedi ei farw. Yn yr ysgrif hono, a gyfansoddwyd gan Ficer Meifod, haerid ei fod yn euog o yfed i ormodedd, y teimlid anhawsder weithiau i gelli yr effeithiau, pan y byddai ar fedr pregethu; ac mai yn ngrym cynhyrfiad diodydd cryfion y byddai yn traddodi ei bregethau gyda'r fath nerth ac awdurdod. Seilid y cyhuddiad gwaradwyddus hwn ar dystiolaeth cuwrad meddw a digymeriad, o'r enw W. Williams, yr hwn oedd yn fab i Siôn y Sgubor, hen wâs Rowland; ac yr oedd y cuwrad yma yn gyfryw fel na dderbyniasid ei dystiolaeth fel prawf o unrhyw beth, heblaw achwyniad ar Anghydffurfiwr. Yn ffodus, gwnaed yr ymosodiad ar ei gymeriad yn ddigon cynar i'w droi yn ol yn effeithiol, ac i beri i'r gwarth syrthio ar y rhai a'i gwnaeth. Cymerodd y Parch. John Griffiths, Rheithor Aberdâr ar y pryd, Rheithor Merthyr gwedi hyny, ran flaenllaw mewn chlirio y mater i fynu. Trwy gymorth Mr. David Jones, yr hen flaenor duwiol o Dolau-bach, casglodd dystiolaeth yr hen bobl oeddynt yn cofio Rowland yn dda, yn mysg pa rai yr oedd un 84 mlwydd oed, ac wedi bod am saith mlynedd yn ei wasanaeth; datganent un ac oll nad oedd rhith o sail i'r cyhuddiad, ond ei fod yn enllibo'r fath fwyaf maleisus. Dywedai y Parch. T. Edwardes, Rheithor Llangeitho, a'r hwn a adwaenem yn dda, ei fod dros driugain mlwydd oed, na fu erioed yn byw allan o'r plwyf, fod cymunwyr amryw wedi bod ganddo a fuasai yn cymuno gyda Daniel Rowland; fod yn eu mysg un hen ŵr a fuasai farw yn bedwar ugain ac wyth mlwydd oed, a'u bod oll yn tystio, nid yn unig nad oedd y Diwygiwr yn yfed i ormodedd, ond ei fod yn un tra chymedrol. Casglodd y Rheithor Griffiths hefyd dystiolaethau gwyr eglwysig o gryn enwogrwydd, oeddynt wedi cael ei dwyn i fynu yn nghymydogaeth Llangeitho, yn datgan na chlywsent air am y cyhuddiadau yn erbyn Rowland, nes iddynt ymddangos yn y Quarterly Rcview. Yn mysg y rhai hyn, ceir Canon Jones, Tredegar; Canon Jenkins, Dowlais; a'r Parch. D. Parry, Llywel. Teimlwn ein bod tan ddyled ddifesur i'r diweddar Reithor Griffìths am y boen a gymerodd i glirio cymeriad gŵr Duw. Nid yn unig nid oedd Rowland yn euog o anghymedroldeb ei hun, ond medrai gondemnio yn ddifloesgni y cyfryw ffaeledd mewn eraill. Yr oedd offeiriad yn nghymydogaeth Llangeitho unwaith yn awyddus am gael ei anfon fel cenhadwr i le penodol, ond nid oedd Rowland yn credu yn mhurdeb ei fuchedd. Trôdd ato, a dywedodd: "Yr wyf yn cofio amser, Syr, pan nad oedd i ni ond derbyniad a bywoliaeth go wael, wrth deithio dros fryniau a mynyddoedd ar ein merlod, heb ddim ond bara a chaws yn ein pocedau, na dim i'w yfed ond dwfr o'r ffynhonau; ac os caem lymaid o laeth enwyn yn rhai o'r bythynod, cyfrifem hyny yn beth mawr. Ond yn awr, Syr, y mae ganddynt eu tê, a'u brandi, ac os nad wyf yn camsynied, yr ydych chwi wedi cael gormod o'r brandi hwn." Rhaid fod yr hwn a fedrai lefaru mor gryf a difloesgni ar bwnc o'r fath o fuchedd ddiargyhoedd ei hunan.

Ond dyddiau Rowland a nesasant i farw. Gwanychasai ei iechyd yn ddirfawr yn ystod y flwyddyn olaf o'i fywyd, eithr yr oedd yn parhau i bregethu yn Llangeitho. Dydd Gwener, Hydref 15, 1790, cymerwyd ef yn glâf, a thranoeth gorphwysodd mewn tangnefedd, ac efe yn 77 mlwydd oed. Cyrchasai miloedd y Sadwrn hwnw i Langeitho ar gyfer y cyfarfod paratoad; disgwylid Rowland yno i'w cynghori fel arfer; eithr ar ganol y gwasanaeth, cyrhaeddodd y newydd ei fod ef wedi marw, a chyffrodd hyny y fath deimhidau o alar fel y methwyd myned yn mlaen a'r cyfarfod. Claddwyd ef yn mynwent Llangeitho, wrth ffenestr ddwyreiniol yr eglwys. Ac yn ddiweddar cyfodwyd cofadail ardderchog iddo, ger capel Gwynfil, y fan a wnaed yn gysegredig ganddo i galon pawb a garant yr Arglwydd Iesu. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu rhanau o'r farwnad ardderchog a ganwyd iddo gan ei hen gyfaill, Williams, Pantycelyn:

"Nid rhaid canu dim am dano,
Nid rhaid marble ar ei fedd;
Ofer tynu dim o'i bictiwr
Ar bapyr yn sâl ei wedd;
Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd,
Rhodd e'i farble yn ei le,
'Fe 'sgrifenodd arno 'i enw
A llyth'renau pur y ne'.

Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd, gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef;
' De'wch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân;
Ffowch oddi yma mewn mynydyn,
Ynte ewch yn ulw mân.'

Yn Llangeitho fe ddechreuodd
Waeddi dystryw 'r anwir fyd,
Miloedd ffôdd o'r Dê a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd;
Arswyd, syndod, dychryn ddaliodd
Yr holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gwr,
Fel y gwelwyd ef o'r blaen.

Gliniau 'n crynu gan y daran,
Fel pe buasai angeu 'i hun,
Wedi cym'ryd llawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un;
'Beth a wnawn am safìo 'n henaid? '
Oedd yr unrhyw gydsain lêf;
Chwi sy' am wybod hanes Daniel,
Dyma fel dechreuodd ef.

Pump o siroedd penaf Cymru
Glywodd y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachad,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed.

Deuwch drosodd i Langeitho,
Gwelwch yno ôl ei law,
Miloedd meithion yno 'n disgwyl,
Llu oddi yma, llu o draw;
A'r holl dorf yn 'mofyn ymborth,
Amryw 'n d'weyd, ' Pa fodd y cawn? '
Pawb yn ffrostio wrth fyn'd adref,
Iddo gael ei wneyd yn llawn.

Gwelwch Daniel yn pregethu
Yn y tarth, y mwg, a'r tân,
Mil ar unwaith yn molianu,
Haleluwia yw y gân;
Nes bai torf o rai annuwiol
Mewn rhyw syndod dwfn, a mud,
Ac yn methu rhoi eu meddwl
Ar un peth, ond diwedd byd.

Bywiol oedd ei athrawiaethau,
Melus fel yr hyfryd win,
Pawb a'u clywai a chwenychai
Brofi peth o'u nefol rin;
Pur ddyferion bythol fywyd,
Ag a roddai iawn iachâd,
I rai glwyfodd cyfraith Sinai,
Ac a ddrylliodd dan ei thraed.

Crist ei hunan ar Galfaria
Yn clirio holl hen lyfrau 'r nef,
Ac yn talu 'n llwyr bob hatling
O'r holl ddyled ganddo ef;
Mae 'r gwrandawyr oll yn llawen,
Oll yn hyfryd, oll yn llawn,
Wedi bwyta 'r bara nefol,
O lâs foreu hyd prydnhawn."


Hanes y Darluniau.—Cymerwyd dau ddarlun o'r Parch. Daniel Rowland ar wahanol amserau ar ei fywyd. Ymddangosodd y cyntaf mewn cyhoeddiad misol o'r enw, The Gospel Magazine, am fis Gorphenaf, 1778. Yr un pryd, nid yw yn debyg mai ar gyfer y misolyn hwnw y gwnaed ef, oblegyd dengys Rowland yn nghanol ei ddyddiau, neu yn gynarach na hyny, ac nid yn hen ŵr, 66 mlwydd oed, fel yr oedd yn 1778. Yn mhen mis ar ol marwolaeth y Diwygiwr enwog y cyhoeddwyd y llall. Gwnaed ef gan " Mr. B. Bowyer,Miniature Painter to His Majesty" Berners Street, Cornhill, Llundain. Darlun i'w fframio ydoedd hwn, ac nid un i'w osod mewri llyfr. Mewn ysgrif argraffedig o dan y darlun hwn, cyflwyna yr awdwr ef i'r Anrhydeddusaf Iarlles Huntington. Yr oeddid wedi colli golwg yn llwyr ar y darlun cyntaf, nes i Mr. Daniel Davies, Ton, Rhondda, ei ddarganfod yn Llyfrgell yr Amgueddfa Frutanaidd (British Museum), Llundain.

Adeladwyd cofgolofn iddo yn yml Capel Llangeitho yn y flwyddyn 1883. Costiodd hon lawn £700. Cafwyd yr arian drwy i'r Parch. Thomas Levi, Aberystwyth, anturio gwneyd apêl at blant y "Drysorfa" am arian i'w chodi. Mewn atebiad i'r apêl hwn, dylifodd arian i mewn o fis i fis, am ysbaid chwech neu saith mlynedd, pa rai a gydnabyddid ar glawr "Trysorfa y Plant," ac a osodid yn y banc. Yr arian hyn, gyda'r llôg, a dalodd am dani. Y cerfiwr oedd Mr. Edward Griífith, Caerlleon, Cymro o waed, ac o yspryd; a chyflawnodd ei waith yn ardderchog. Tybia llawer ei fod y cerflun goreu o'i fath yn Nghymru. Da genym ein bod yn alluog i roddi copi o'r cerflun ar raddfa eang yn nwylaw ein darllenwyr. Gwnaed ef oddiar ddarlun sydd yn meddiant y Parch. T. Levi.

Adeiladwyd y gofgolofn yn y flwyddyn 1883, ac ar y 6ed a'r 7fed o Fedi, yn y flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod i'w dadorchuddio hi. Dyma drefn y cyfarfodydd. Ar nos lau, y 6ed, pregethodd y Parchn. Joseph Thomas, Carno, a Dr. Lewis Edwards, Bala. Boreu Gwener, pregethwyd yn y capel gan y Parch. Joseph Thomas, ac yna yn yr ysgwâr wrth ochr y capel, gan y Parch. Dr. Owen Thomas. Am un o'r gloch yr oedd y dadorchuddiad, pan yr oedd dwy neu dair mil o bobl, o leiaf, wedi dyfod ynghyd, a llawer o honynt wedi dyfod yno o bellder ffordd. Dechreuodd y Parch. J. A. Morris (Bedyddiwr), Aberystwyth, trwy weddi. Llywyddwyd gan y Parch. T. Levi, fel Cadeirydd y Gymanfa Gyffredinol Dr. Lewis Edwards, gwedi araeth alluog, a ddadorochuddiodd y golofn yn nghanol cymeradwyaeth yr holl gynulleidfa. Areithiwyd yn ganlynol gan y Parchn. Dr. Owen Thomas, Joseph Thomas, a T. Charles Edwards, o Goleg Aberystwyth, sef Prifathraw presenol Athrofa y Bala. Diolcbwyd yn wresog i'r Parch. T. Levi am ei ymdrech lwyddianus tuag at gael y gofgolofn, ac am ei wasanaeth fel llywydd, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. Griffith Parry.

Gyda'r eithriad o'r darlun o'r tufewn i hen Eglwys Llangeitho, a geir ar tudalen 45, y mae yr oll o'r darluniau sydd yn addurno y benod hon yn dangos pethau fel y maent yn bresenol. Y mae amaethdy Pantybeudy, yr Eglwys, a'r Capel, wedi myned drwy gyfnewidiadau a gwelliantau mawrion. Hyd y gwyddis, nid oes darluniau o'r hen adeiladau ar gael.

Nodiadau

[golygu]
  1. Methodistiaeth Cymru Cyf i tudalen 69
  2. Y gerdd yn gyfan: Saith o Farwnadau/Y Parch Daniel Rowlands, Llangeitho
  3. Methodistiaeth Cymru, Cyf. i. tudal. 66
  4. The Life of Howell Harris, tudal. 45
  5. Traethodau Llenyddol, tudal 479
  6. Hanes y Bedyddwyr, tudal. 53
  7. Traethodau Llenyddol tudal 479-480
  8. Weekley History
  9. Weekley History
  10. Weekly History
  11. Weekly History
  12. Methodistiaeth Cymru Cyf i tudal 630
  13. Weekly History
  14. Ibid
  15. [[Drych yr Amseroedd/Hanes Mr. Daniel Rowlands|Drych yr Amseroedd tudal 79-81
  16. Weekly History
  17. Enwogion y Ffydd
  18. Ministerial Records
  19. Ministerial Records tudal 54
  20. Weekly History
  21. Ministerial Records
  22. Traethodau Llenyddol tudal 498
  23. Ministerial Records
  24. Llyfr 1af tudal 103
  25. Ibid tudal 136
  26. Ibid tudal 137
  27. The Life and Times of Selina, Countess of Huntingdon Cyf II tudal 118
  28. Ministerial Records
  29. Cofiant John Jones, Talsarn
  30. Hanes Bywyd Christmas Evans.
  31. Cofiant y Parch John Jones, Talsarn Rhan II
  32. Tudal 368
  33. Trysorfa Ysprydol


Nodiadau

[golygu]