Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Howell Harris

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Howell Davies

PENOD V.

HOWELL HARRIS

Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei argyhoeddiad yn eglwys Talgarth—Cael dyddanwch yn Nghrist—Dechreu cynal addoliad teuluaidd a chynghori—Yn myned i Rydychain—yn gadael Rhydychain—Myned o gwmpas i rybuddio yr annuwiol—Gwrthwynebiad yr offeiriaid a'r boneddwyr—Cael ei erlid—Sefydlu seiadau—Myned i lefaru i Sir Faesyfed—Argyhoeddiad Mr. Gwynn—Harris yn myned ar daith i Sir Fynwy—Yn ymweled a Sir Forganwg y tro cyntaf—Rhanau o'i ddyddlyfr—Cyfarfod a Whitefield yn Nghaerdydd—Myned i Lundain—Myned y tro cyntaf i'r Gogledd, mor bell a'r Bala—Dalenau ychwanegol o'i ddydd—lyfr—Myned i Sir Benfro—Sessiwn Trefynwy—Ail daith i'r Gogledd—Ei erlid yn y Bala—Myned i Sir Gaernarfon—Yn teithio ac yn gweithio yn ddidor.

Copi o'r Darlun Gwreiddiol

NID oes unrhyw dywyllwch yn gorchuddio hanes Howell Harris, oblegyd, yn wahanol i'r oll o'r Tadau Methodistaidd eraill, gadawodd Hunan-gofiant ar ei ol; yr hwn gofiant a gynwysa, nid yn unig ffeithiau ei fywyd, ond ei deimladau a'i brofiad yn ogystal. Cafodd yr Hunangofiant ei olygu, a'i gyhoeddi, gydag ychwanegiad, gwedi ei farw, gan "y rhai oeddynt o'r dechreuad yn gweled."Y rhai hyn oedd "teulu" Trefecca, y bu yn myned i mewn ac allan yn eu mysg, ac yn llywodraethu arnynt am yr yspaid o dair blynedd ar hugain. Yn ychwanegol, cadwai ddydd-lyfr, yn mha un y croniclai yn fanwl bob nos, holl helynt y diwrnod blaenorol, yn arbenig ystâd ei feddwl, a'r temtasiynau tumewnol a pha rai y buasai yn brwydro. Yr oedd hefyd yn ysgrifenydd llythyrau lawer, o ba rai y mae swm dirfawr ar gael hyd y dydd hwn. Rhwng ysgrifeniadau Harris ei hun, a thystiolaeth y "teulu" a gasglodd o'i gwmpas, y rhai oeddynt yn gydnabyddus a'i holl symudiadau, ac yn gwybod ei amcanion, y mae y goleuni dysgleiriaf sydd yn bosibl wedi cael ei daflu ar ei gymeriad ac ar ei waith. Nis geill neb wadu ei fod yn ddyn arbenig. Ymddengys fel Elias y prophwyd, yn wrol ei wedd, a gair Duw yn llosgi fel tân yn ei yspryd, ac yn taranu gyda holl angerddoldeb ei natur yn erbyn drygioni y genhedlaeth drofaus y cawsai ei anfon yn genad ati. Yr oedd teulu Howell Harris yn hanu o Sir Gaerfyrddin, o gymydogaeth Llandilo Fawr, nid yn nepell o'r fangre lle y preswyliai henafiaid y Parch. Henry a William Rees; a symudasant i Frycheiniog tua'r flwyddyn 1700. Perchenogai ei rieni, Howell a Susanna Harris, y tyddyn y darfu iddynt symud iddo, sef Trefecca Fach; ar yr hwn y saif Coleg y Methodistiaid, perthynol i'r Deheudir, yn bresenol. Ond nid oeddynt mewn un modd yn gyfoethog. Ni fedrai y tad roddi i'w blant well addysg na'r hyn a dderbyniai plant ffermwyr yn gyffredin. Cafodd Howell Harris ei eni yn y flwyddyn 1714, ac felly yr oedd flwydd yn ieuangach nai gyfaill a'i gyd-ddiwygiwr Daniel Rowland, a thair blwydd yn hŷn na'i fab yn yr efengyl, sef Williams, Pantycelyn. Efe oedd yr ieuangaf o dri brawd, ac y mae yn anhawdd meddwl am frodyr a mwy o wahaniaeth rhyngddynt, a phob un er hyny wedi ymddyrchafu i enwogrwydd yn yr alwedigaeth a phaun yr ymgymerodd. Trwy ymdrech a dyfal bara, ymddyrchafodd Joseph, y brawd hynaf, o fod yn ôf y pentref i sefyllfa o gyfrifoldeb mawr yn y bathdy brenhinol. Arno ef y gorphwysai y cyfrifoldeb o weled fod yr argraff ar yr arian yn ddinam, a bod pob darn yn gyflawn o bwysau. Trwy ei gyrhaeddiadau gwyddonol, daeth yn adnabyddus i rai o brif ddysgedigion ei oes. Cyfansoddodd amryw draethodau seryddol a meintonol; ond wrth un yn unig y gosododd ei enw, sef traethawd ar dremofyddiaeth (optics), yr hwn a gyhoeddwyd ryw ddeng mlynedd gwedi ei farw. Llwyddasai i gasglu cryn gyfoeth, a chawn ef yn priodi merch i Thomas Jones, Tredwstan, hen gymydog i'w dad. Bu farw yn y Tŵr yn Llundain, ryw naw mlynedd o flaen ei frawd Howell. Darfu i Thomas, yr ail frawd, ymsefydlu fel dilledydd yn Llundain, a thrwy ddylanwad rhywrai mewn safle uchel, cafodd ei benodi i gyflenwi y milwyr yn y fyddyn a dillad milwrol. Llwyddodd i gasglu cyfoeth dirfawr, a chwedi ymneillduo oddiwrth ei fasnach, prynodd etifeddiaeth Tregwnter, yn gyfagos i Drefecca. Ymddengys iddo wasanaethu fel Uchel Sirydd Brycheiniog yn y flwyddyn 1768. Bu farw yn y flwyddyn 1782. Ychydig o gydymdeimlad oedd rhwng Joseph a Thomas a Methodistiaeth eu brawd. Ceir amryw o lythyrau o eiddo Howell at eu frodyr, pan oeddynt yn Llundain, yn y rhai y rhybuddia hwy yn ddwys rhag cael ei llyncu i fynu yn ormodol gan awydd am gyfoeth a phleserau y bywyd hwn. Y mae un llythyr o leiaf yn Nhrefecca, yn llawysgrif Joseph Harris, wedi ei anfon at Howell ei frawd, yn yr hwn y cwyna arno ei fod mor ffol ag ymgladdu mewn dinodedd yn mysg y Methodistiaid, tra y gallasai, ond cymeryd cyfeiriad gwahanol, gyrhaedd enwogrwydd, anrhydedd, a chyfoeth, a'i gwnelai yn gyd-stâd ag uchelwyr penaf ei wlad. Mor ddall oedd y brodyr? Y mae enw Howell Harris yn dysgleirio heddyw, fel seren yn ffurfafen hanesiaeth; tra y buasai eu henwau hwy wedi myned ar ddifancoll, oni bai am eu cysylltiad perthynasol ag ef.

Ychydig o hanes bachgendod Howell sydd ar gael, ond ymddengys iddo gael ysgol dda, ac yr amcenid ei ddwyn i fynu ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd cario allan y bwriad hwn yn dreth drom ar amgylchiadau y teulu. Cawn Joseph yn ysgrifenu, pan yr oedd ei frawd ieuangaf tua phymtheg mlwydd oed, yn dymuno cael ei esgusodi rhag estyn cynorthwy at hyn ar y tir fod ei arian yn brin, oblegyd ei fod newydd gyhoeddi Llyfr, ond yn addaw gwneyd yr hyn a fedrai pan ddechreu y llyfr dalu. Dywed Howell yn ei Hunan-gofiant: "Cefais fy nghadw mewn ysgol gan fy rhieni hyd y ddeunawfed flwyddyn o'm hoed; erbyn hyn yr oeddwn wedi dyfod yn mlaen lawer mewn dysg—yna bu farw fy nhad." Rhaid fod yma ryw gymaint o gamsynied, oblegyd yn ol y dyddiad ar ei gareg fedd yn mynwent Talgarth, bu ei dad farw Mawrth 9, 1730, pan nad oedd Howell ond ychydig dros un mlwydd-arbymtheg. Yr oedd yr amgylchiad yn ergyd enbyd iddo; nid oedd ganddo unrhyw obaith bellach am ddringo i'r offeiriadaeth, a bu raid iddo fyned i gadw ysgol er cael defnydd cynhaliaeth. Awgryma fod ystyriaethau pwysig yn cael peth lle yn ei feddwl yn flaenorol i hyn; ond bellach nid oedd ganddo unrhyw gyfaill difrifol a'r hwn y gallai ymgynghori; aeth yr ymdeimlad a'i ryddid yn gymhelliad i lygredigaeth; a chariwyd ef i ffwrdd gyda ffrwd o wagedd y byd, balchder, a chwantau ieuenctyd. Gellir darllen gwagedd ei feddwl yn y rhes ganlynol o dreuliau, a gofnodir ganddo yn nechreu y flwyddyn 1732. Dywed ddarfod iddo wario arian am ddawnsio, ac am berwig, ellyn, menyg, chwip hela, ac amryw bethau di-lês o'r fath. Ynghanol ei ymroddiad i bleser, ni chaffai lonydd er hyny; yr oedd "rhyw reddf o argyhoeddiad" yn ymweled ag ef yn fynych; a chofnodai ei ffaeleddau ar bapyr, fel y byddent yn dystiolaeth yn ei erbyn. Dechreuodd ar y cyffesiadau hyn pan oedd tua dwy flwydd-ar-bymtheg oed, ac y maent ar glawr eto yn mysg ei ysgrifeniadau yn Nhrefecca. Dangosant nid yn unig fod ei gydwybod heb hollol galedu, ond hefyd ei Ei fod yn ysgolhaig pur wych, gan fod y llawysgrif yn rheolaidd, yr iaith yn ramadegol, gyda nifer mawr o dâlfyriadau yn yr iaith Ladin.

Wedi bod yn cadw ysgol am tua dwy flynedd, dechreuodd y cymylau glirio oddiar ei amgylchiadau; daethai i gydnabyddiaeth a dynion o ddylanwad, y rhai a addawent ei gynorthwyo i ymbarotoi am urddau; ac yr oedd Joseph, ei frawd, erbyn hyn wedi dyfod yn alluog i wneyd rhywbeth erddo. "Tra yr oeddwn fel hyn," meddai, "ac amryw ragluniaethau yn cyd-weithio o'm tu i'r dyben o gael dyrchafiad yn y bywyd hwn, am holl lygredigaethau cnawdol inau yn cael maeth oddiar hyny, i gynyddu gryfach gryfach ynof yn feunyddiol, gwelodd yr Arglwydd yn dda ogoneddu ei ras ynof." Daeth amgylchiad i'w gyfarfod, a newidiodd holl gyfeiriad ei fywyd.

Y mae hanes troedigaeth Howell Harris yn haeddu cael ei adrodd yn fanwl. Y Sul o flaen y Pasg, sef Mawrth 30, 1735, ac efe yn un-ar-hugain mlwydd oed, aeth yn ol ei arfer i eglwys Talgarth. Cyhoeddai yr offeiriad, y Parch. Price Davies, y gweinyddid y cymun bendigaid yno y Sabbath dilynol, gan ddarllen y rhybudd sydd yn y Llyfr Gweddi Cyffredin pan fyddo y bobl yn esgeulis am ddyfod i'r ordinhad. Nid ymfoddlonai ar ddarllen yr hyn oedd ysgrifenedig; aeth yn ei flaen i brofi ei fod yn ddyledswydd ar bawb i ddyfod at fwrdd y cymun, ac i ateb gwrthddadleuon cyffredin y rhai a esgeulusant y ddyledswydd. "Os nad ydych yn gymhwys," meddai, " i ddyfod at fwrdd yr Arglwydd, nid ydych gymhwys ychwaith i ddyfod i'r eglwys; nid ydych yn gymhwys i fyw, nac yn gymhwys i farw." Effeithiodd y gadwen hon o ymresymiad ar feddwl y llanc ieuanc o Drefecca Fach; penderfynodd cyn codi oddiar ei eisteddle roddi heibio ei ddifyrwch cnawdol a'i bechodau cyhoedd, ac ymddangos yn mysg y cymunwyr y Sul dilynol. Fel parotoad i hyn, galwodd ar ei ffordd adref heibio i gymydog, a'r hwn yr oedd mewn ymrafael, gan gyffesu ei fai, a dymuno maddeuant, ac estyn maddeuant iddo yntau. ond yr oedd yn enbyd o anwybodus am grefydd ysprydol; "yr oeddwn," meddai, " heb wybod dim am y wisg briodas, ac yn gwbl ddyeithr i grefydd dufewnol, a'm truenus gyflwr wrth natur." Penderfynodd, pa fodd bynag, geisio dilyn buchedd newydd; " er nas gwyddwn," meddai, "pa fodd y dechreuwn, na pha beth i'w wneyd." Y Sul canlynol y mae Harris yn yr eglwys mewn pryd, ac ar derfyn y gwasanaeth â yn ei flaen gyda'r lleill a fwriadent gymuno, gan syrthio ar ei ddeulin gerbron yr allor. Ond wrth gydadrodd a'r gweinidog y gyffes gyffredin: "Yr ym ni yn cydnabod ac yn ymofidio dros ein hamryw bechodau a'n hanwiredd, y rhai, o ddydd i ddydd, yn orthrymaf a wnaethom, ar feddwl, gair, a gweithred, yn erbyn dy Ddwyfol Fawredd, gan anog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th lid i'n herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifaru, ac yn ddrwg gan ein calonau dros ein cam-weithredoedd hyn. Eu coffa sydd drwm genym; eu baich sydd anoddefadwy," saethodd i'w feddwl nad oedd y geiriau yn wir yn eu perthynas ag ef; nad oedd y gradd lleiaf o alar yn ei galon oblegyd ei bechodau, nad oeddynt mewn un modd yn faich ar ei gydwybod, a'i fod yn myned at Fwrdd yr Arglwydd a chelwydd yn ei enau. "Y teimlad hwn," meddai, " ynghyd a golwg ar fawredd y wledd sanctaidd, a darawodd fy nghalon, fel y bum agos a chodi oddiar fy ngliniau, a sefyll yn ol, heb dderbyn y sacrament." Ond ceisiodd dawelu ei gydwybod, gan benderfynu dilyn buchedd newydd rhagllaw. Am ryw gymaint o amser gwedi hyny, ymdrecha fod yn ffyddlon i'w benderfyniad; ymrodda i weddi, a cheisia sefydlu ei fyfyrdodau ar Dduw. Ond yn mhen y pythefnos y mae yn cael ei fod wedi colli agos ei holl argyhoeddiadau, Eithr Ebrill 20, daeth llyfr i'w law a ail-adnewyddodd y teimlad o euogrwydd o'i fewn. Yr un diwrnod daeth o hyd i lyfr arall, a gawsai ei ysgrifenu gan Bryan Duppa ar y gorchymynion. " Wrth ddarllen hwn," cofnoda, " cafodd fy argyhoeddiadau argraff ddyfnach arnaf; pa fwyaf a ddarllenwn, mwyaf oll o oleuni ysprydol oedd yn llewyrchu o'm mewn, i weled mawr feithder a manylrwydd cyfraith Duw, yn fy ngalw i gyfrif nid yn unig am bechodau gwaradwyddus oddi allan, eithr hefyd am ein rhodiad, amcanion, a dybenion, yn yr hyn oll a feddyliom, a ddywedom, neu a weithredom. Yna y gwelais yn eglur, os wrth y gyfraith hono y'm bernid, y darfyddai am danaf yn dragywydd." Am ragor na mis bu yn ystorm enbyd arno, ei gydwybod yn rhuo fel arthes o'i fewn, ac yntau yn ceisio ei thawelu trwy ympryd, a gweddi, a chosbi ei gorff. Teimlai ei fod wedi ei werthu dan bechod, ei fod yn gnawdol, ac nas gallai gredu, na galaru yn briodol am ei ddrygioni mwy nag y gallai ddringo i'r wybr. Yr oedd uffern wedi lledu ei safn i'w dderbyn, ac yntau heb adnabod llais yr iachawdwr. Eithr ar weddi, teimlodd gymhelliad un diwrnod i roddi ei hun fel yr ydoedd i'r Arglwydd Iesu, gan adael y canlyniadau yn gyfangwbl iddo ef. Yn erbyn hyn, pa fodd bynag, gwingai yr yspryd deddfol oedd ynddo; teimlai, os rhoddai ei hun i'r Arglwydd, y collai ei ryddid, ac na fyddai yn eiddo iddo ei hun. Ond gwedi ymdrech galed, gwnaed ef yn ewyllysgar i roddi ffarwel i bob peth tymhorol, ac i ddewis Crist yn rhan dragywyddol. " Yr wyf yn credu," meddai, " ddarfod i mi gael fy ngalw

—————————————

Eglwys Talgarth fel yr ydoedd yn amser Howell Harris

—————————————

y pryd hwnw yn effeithiol i fod yn ddilynwr i'r Oen." Nid oedd eto wedi cael cyflawn ryddhad. Aeth i'r cymundeb ar y Sulgwyn yn flinderog a thrwmlwythog dan euogrwydd ei bechodau. Eithr darllenasai mewn llyfr, " os byddai i ni fyned i'r sacrament, gan gredu yn syml yn yr Arglwydd Iesu Grist, y byddem yn sicr o dderbyn maddeuant o'n holl bechodau. Ac yn wir felly y bu i mi; cefais brawf eglur trwy yr Yspryd Glân, fod Crist wedi marw drosof fi, a bod fy mhechodau i gyd wedi eu rhoddi arno ef; a'm bod yn awr yn rhydd oddiwrth frawdle cyfìawnder, ac yn fy nghydwybod." Pan yn y wasgfa cawsai ei flino gan syniadau Atheistaidd, y rhai a wnaent ei fywyd yn faich iddo; " ond wrth weled fy Nuw ar y groes," meddai, " cefais ryddhad oddiwrth y profedigaethau hyny. Weithian yr oedd y byd hwn, a phob meddyliau am ddyrchafiad, a chlod dynol, wedi cwbl ddiflanu o'm golwg, a'r byd ysprydol a thragywyddoldeb yn dechreu ymddangos."

Dyma Harris yn ddyn newydd ac yn ddyn rhydd. Drylliwyd ei gadwynau yn chwilfriw, dihangodd yntau am byth gyda 'i Farnwr. Mewn canlyniad i hyn, IHfodd tangnefedd fel yr afon i mewn i'w gydwybod; prin y cyffyrddai ei draed a'r ddaear wrth fyned adref; gallai ddawnsio a neidio, fel y cloffyn mhorth y deml gwedi ei iachau. Wrth fyned o'r eglwys, dywedai wrth ei gymdeithion, gyda thôn orfoleddus: "Y mae fy mhechodau wedi eu maddeu!" Edrychai y rhai hyny yn hurt, heb ddeall ystyr ei eiriau, am nad oeddynt wedi bod yn y wasgfa; âi yntau yn mlaen at y fyntai nesaf, gan ddweyd yr un peth: " Y mae fy mhechodau wedieu maddeu!" Yr oedd hyny yn gymaint peth yn ei olwg a phe y buasai wedi cael nefoedd. Ni chlywsai neb yn gwneyd cyffes o'r fath o'r blaen, ond yr oedd llawenydd ei fynwes yn gyfryw fel y mynai fwrlymu i'r golwg; a mawr chwenychai i'w gymydogion lawenychu gydag ef oblegyd y ddihangfa. O hyn allan, cawn ef yn cyson ddâl cymdeithas a Duw, ac yn cael amlygiadau mynych o wedd ei wyneb. " Mehefin i8, 1735, pan oeddwn mewn gweddi ddirgel," ysgrifena,[1] " yn ddisymwth teimlais fy nghalon yn toddi ynof fel cwyr o flaen tân o gariad at Dduw fy iachawdwr; teimlais hefyd nid yn unig gariad a heddwch, ond hefyd hiraeth am ymddatod a bod gyda Christ. Yr oedd llef yn nyfnder fy enaid, na wyddwn am dani o'r blaen, 'Abba Dad, Abba Dad.' Nis gallwn beidio a galw Duw, fy Nhad! Yr oeddwn yn gwybod mai ei blentyn ef oeddwn, a'i fod yn fy ngharu ac yn fy ngwrando. Cafodd fy enaid ei lenwi, a'i lwyr ddiwallu, nes y gwaeddwn, 'Digon! Digon!' Dyro i mi nerth, ac mi a'th ddilynaf trwy ddwr a thân! "

Y mae yn brofedigaeth i ni fyned yn y blaen i ddifynu, ond rhaid ymatal. Nid oedd allan o'r maglau eto, er hyny; bu mewn aml brofedigaeth gyda'r gelyn ar ol hyn. Cadwai yr ysgol yn y blaen, gan ddisgwyl galwad oddiwrth berthynas agos iddo i fyned i Rydychain; a ry w ddiwrnod collodd ei dymher o herwydd cam-ymddygiad un o'r plant. Ar hyn, dyma y gelyn yn rhuthro arno, gan haeru ei fod wedi syrthio oddiwrth ras, ac wedi fforffetio ei hawl yn Nghrist. Ond wedi bod mewn ing enaid am dymor, danfonodd Duw gysur iddo trwy Mal. iii. 6: " Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Gwelodd nad ar ei ffyddlondeb ef y dibynai ei iachawdwriaeth, ond ar ffyddlondeb Crist, ei Waredwr. O hyn allan, byw i'r Iesu yw ei amcan. Ymneilldua oddiwrth ei hen gyfeillion difeddwl; penderfyna ymwrthod a phob dyrchafiad bydol; a gwertha yr oll oedd ganddo, gan eu rhoddi i'f tlodion. Yn mysg pethau eraill, teimla fod y dillad a wisgai yn flaenorol yn rhy wych i Gristion, ac yn cydymffurfio yn ormodol a ffasiwn y byd, ac felly ymâd a hwythau, gan gyfranu yr hyn a gawsai am danynt mewn elusen. Nid yw yn pryderu gyda golwg ar ei ddyfodol o gwbl; mentra ar addewid Duw.

Yn awr, y mae cyflwr ysprydol ei gyd-ddynion yn dechreu gwasgu yn ddwys ar ei feddwl. Gwel eu bod yn teithio y ffordd lydan, ac nad oedd neb o ddifrif yn eu rhybuddio am eu perygl. Methai ymatal rhag siarad a hwy am bethau ysprydol; ond y canlyniad oedd fod rhai yn ei ddirmygu, ac eraill yn tosturio wrtho; ceisiai un dosparth ei ddychrynu, tra yr oedd dosparth arall yn ei gynghori. Edrychent arno fel penboethyn. " Nid oeddwn gymaint a meddwl y pryd hwnw," meddai, " y byddai i'r Arglwydd fy nefnyddio i er bendith i neb; canys nid oeddwn yn gweled y tebygolrwydd lleiaf o hyny, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb." Ond yr oedd gair yr Arglwydd yn llosgi fel tân o'i fewn, ac aeth yn ei flaen i gynghori pawb y deuai i gyffyrddiad a hwy. Am angeu, a'r farn, a thragywyddoldeb, y llefarai yn benaf, ynghyd a'r angenrheidrwydd am weddïo a derbyn y sacrament. Tywyll oedd ei syniadau; nid oedd ei ddirnadaeth o athrawiaethau yr efengyl ond cyfyng, ond ni chuddiai yr ychydig oleuni a feddai dan lestr. Cawn ef yn dechreu cynal addoliad teuluaidd yn nhy ei fam; a'r boreuau Suliau, cyn pryd eglwys, arferai amryw o'r cymydogion ddyfod i'w wrando yn darllen y llithoedd a'r Salmau. Meddai: "Nis gallwn orphwys na dydd na nos, heb wneuthur rhywbeth dros fy Nuw, a'm Hiachawdwr; ac nis gallwn, gyda boddlonrwydd, roddi hun i'm hamrantau os na byddwn wedi gwneyd rhyw wasanaeth er gogoniant iddo ef ar hyd y dydd. Yr oedd amser mor werthfawr yn fy ngolwg, fel nas gwyddwn pa fodd i'w dreulio yn hollol i ogoniant Duw, ac er daioni i eraill." Ymroddai i ddarllen a gweddïo pan ar ei ben ei hun, ac ai yn ei flaen i gynghori y bobl a ddeuent i'w wrando bob prydnhawn Sabbath. Erbyn hyn, yn ol ei gyfaddefiad ef ei hun, yr oedd wedi myned yn ddiareb gwlad. Dirmygid ef gan rai; bygythiai eraill wneyd niwed personol iddo; " ond," meddai, "yr oeddwn yn cael fy nghario fel ar adenydd trwy bob math o dreialon."

Nis gwyddai ei frawd Joseph, oedd yn awr yn Llundain, beth i'w wneyd o hono, nac o'i lythyrau; a lled awgryma fod y pruddglwyf wedi ei orchfygu. Er cael ymwared oddiwrth hyn, deil o'i flaen uchelgais gais bydol, a chymhella ef i frysio i Rydychain. Meddai Howell yn ol: "Nid wyf yn bruddglwyfus, fel yr ydych yn tybio. Yr wyf yn mwynhau trysor na fedraf roddi syniad i chwi am dano. Y mae galar bron a bod yn estron i mi." Nid yw yn cael ei ddallu ychwaith gan y rhag-olygon dysglaer a ddelir o'i flaen. "Bydded i'r rhai sydd yn caru gweled, a chael eu gweled," medd, "afaelu yn hudoliaethau Madam Ffawd. Goddefer i mi gymaint a hyny o ddifrifwch fel ag i ddelio yn onest a fy enaid." Nid yw yn gweled ei lwybr gyda golwg ar y dyfodol yn glir; ond dywed nad oes arno ofn na bydd iddo enill bywioliaeth, ei fod yn gobeithio ei fod wedi cael ei fwriadu i fod o ryw lês, ac na chyfrifa unrhyw drafferth na phoen yn ormod er eì gymhwyso ar gyfer hyny. Nifwriadaidderbynurddau bellach. "Peidiwch a'm cymhell i fod yn ddyn cyhoeddus, meddai wrth ei frawd, "oblegyd os goddefir i mi farnu gyda golwg arnaf fy hun, ni feddaf unrhyw gymhwysder at hyny." Gwelir nad oedd yn adnabod ei hun, na'i gymhwysderau, ac nad oedd ganddo syniad am y gwaith y galwyd ef i'w gyflawni. Dechreu Tachwedd, 1735, aeth i Rydychain, gan ymrestru fel efrydydd yn Neuadd Sant Mair, tan addysg Mr. Hart. Gobeithiai ei gyfeillion a'i frodyr y cai ei ddiwygio yn y brifysgol oddiwrth yr hyn a alwent hwy yn benboethni. Ac os bu unrhyw le neu sefydliad yn meddu dylanwad er angrefyddoli dynion ieuainc, a pheri iddynt golli pob difrifwch ysprydol, yr oedd Rhydychain felly y pryd hwn. Dywed John Wesley[2] fod y lle yn llawn o ieuenctyd anfoesol, mwy niweidiol na phe buasent yn arwain bywyd drwg cyhoeddus, y rhai a wisgent glogyn o weddeidd-dra allanol, ond a dreulient eu holl amser mewn oferedd, ac a arhosent mewn ymyfed a chyfeddach hyd haner nos. Ni feddent rith duwioldeb, chwaethach ei grym. I ganol y rhai hyn y taflwyd Harris druan, a theimlai bron fel pe bai wedi ei daflu i uffern. Yr oedd anfoesoldeb y lle yn ei ddychrynu, a threuliai y rhan fwyaf o'i amser mewn gweddi ddirgel ac yn yr addoliad cyhoeddus. Dylid nodi fod Methodistiaid. Rhydychain y pryd hwn wedi cael eu gwasgar; yr oedd John a Charles Wesley, ynghyd a Benjamin Ingham, ar Fôr y Werydd, yn croesi i Georgia, gyda'r amcan o efengyleiddio yr Indiaid; torasai iechyd Whiteheld i lawr, ac aethai adrefi Gaerloyw; ymsefydlasai John Clayton yn Manchester, a John Gambold, y Cymro o Sir Benfro, yn ficeriaeth Stanton-Harcourt. Felly, nid oedd braidd neb o fewn y Brifysgol yn ceisio atal y llifeiriant o lygredigaeth oedd yn cario pob peth o'i flaen. Dibynai Harris am gynhaliaeth tra yn Rhydychain ar ei gyfeillion, ac yn arbenig ar ei frawd Joseph. Y mae llythyr ar gael a anfonwyd ato yr adeg hon gan Joseph Harris yn profi hyny. "Chwi a gewch yn y gist hon," meddai y llythyr, "hen bâr o ddillad i mi wedi ei gyfnewid ar eich cyfer gan fy mrawd, gyda dau bâr o glôs (breches) perthynol iddo, hefyd fy hen glôs lledr i, y rhai a fyddant yn wasanaethgar i chwi yn y wlad neu yn Rhydychain." Ymddengys fod ei ragolygon bydol yn awr yn dra dysglaer, ond iddo fyned yn ei flaen i gymeryd urddau. Addewid lle iddo fel athraw ar ysgol fawr, ac yr oedd rhyw foneddwr yn cynyg bywioliaeth eglwysig iddo, gwerth saith ugain punt y flwyddyn. Ond meddai: "Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn awr wedi meddianu fy nghalon, fel nad oedd yr holl addewidion teg a osodent o'm blaen yn cael fawr effaith arnaf." Gwelodd nas gallai dreulio allan y tymor priodol yn Rhydychain; taflodd ymaith yr holl ragolygon am ddyrchafiad; a phenderfynodd ddychwelyd adref, gan dreiglo ei ffordd ar yr Arglwydd.

Gadawodd Howell Harris y Brifysgol ddiwedd y flwyddyn 1735, ac ni ddychwelodd yno mwyach. Mor fuan ag y daeth yn ei ol dechreuodd fyned o gwmpas i gynghori, a gwnai hyn gyda zel angerddol. Ai o dŷ i dŷ yn ei blwyf ei hun, a'r plwyfydd cyfagos, i rybuddio y trigianwyr i ffoi rhag y llid a fydd; cyfarchai y bobl a gyfarfyddai ar y ffordd fawr; pan y gwelai was ffermwr yn aredig ar y maes ymwthiai trwy y berth ato, a cherddai gydag ef o'r naill dalar i'r llall, er argraffu ar ei feddwl y pwys o ddianc rhag uffern. Buan y cynyrchodd ei ymddygiad gyffro trwy yr holl wlad. Aeth y tai anedd yn mha rai y cynghorai yn rhy fychain i'r bobl a ddeuent i'w wrando. Dywed yn ei Hunan-gofiant: "Yr oedd y fath awdurdod yn cydfyned a'r Gair, fel y byddai amryw yn y fan yn gwaeddu allan ar Dduw am faddeuant o'u pechodau, a'r cyfryw ag oedd yn byw mewn llid a chenfigen yn cyffesu eu beiau y naill i'r llall, ac yn ymheddychu a'u gilydd, gan ymddangos fel rhai yn ddifrifol ynghylch eu cyflwr tragywyddol. Addoliad teuluaidd a osodwyd i fynu mewn llawer o dai; ymgasglai tyrfaoedd mwy i'r eglwysydd, ac hefyd at Fwrdd yr Arglwydd." Yr oedd y lefain yn y blawd, a'r ymweithiad yn dechreu cymeryd lle.

Nid ymgynghorodd Harris a chig a gwaed er gwybod a oedd yr hyn a wnelai yn rheolaidd; nid oedd yn tybio ei fod yn pregethu, ac ni amcanai at fod yn bregethwr; ni feddai unrhyw gynllun ychwaith, ond gwelai ei gydwladwyr yn cyflymu i ddystryw, mewn anwybodaeth o'u perygl, a theimlai mai gwae ef oni rybuddiai hwynt. Efe yn ddiau yw tad y weinidogaeth leygol, yr hon a fu mor fendithiol i Gymru; ond ni amcanai ef ddwyn unrhyw newydd-beth i mewn. Awydd achub eneidiau anfarwol a losgai fel tân yn ei yspryd. "Erbyn hyn," medd, "yr oedd yn bryd i'r gelyn ymosod arnaf," ac amlwg yw iddo wneyd hyny mewn gwahanol ddulliau. Dechreuodd y werinos, yn cael eu cyffroi yn ddiau gan rai mewn sefyllfa uwch, ei wawdio ai erlid; bygythiai yr ynadon ef a'r bobl a'i derbynient i'w tai a charchar neu ddirwy; a chynhyrfai preladiaid yr Eglwys Wladol o herwydd ei fod yn ymyraeth a'r hyn a berthynai, fel y tybient, iddynt hwy yn unig. Chwefror, 1736, derbyniodd lythyr ceryddol oddiwrth Mr. Price Davies, ficer Talgarth. Yn y llythyr hwn dywed Mr. Davies ei bod yn llawn bryd ei hysbysu o'r pechod a'r gosb oedd yn dynu arno ei hun; ond iddo ddarllen ei Feibl, y gwelai nad oedd y gwaith a pha un yr ymgymerasai yn perthyn i leygwyr o gwbl, yn mhellach na darllen a gweddïo yn eu teuluoedd; fod ganddo un camwedd trymach i'w osod yn ei erbyn, sef ddarfod iddo derfynu un anerchiad gyda gweddi faith, allan o'i frest; a dymuna arno ystyried pa mor gryf y sawra ei ymddygiad o ffanaticiaeth a rhagrith. Diwedda Mr. Davies trwy fygwth. Bygythia ysgrifenu at ei frawd Joseph, a rhoddi gwybod i'r esgob, yr hyn a'i rhwystrai i gael ei urddo, oni wnai ymatal; a gobeithia na wna roddi achos cyfiawn iddo ef ac eraill i dybio fod ei synwyrau wedi eu amharu. Nid gelyniaeth at grefydd efengylaidd oedd yn cyffroi y Parch. Price Davies, na difaterwch hollol oblegyd cyflwr ysprydol y wlad; y mae yn amlwg ei fod yn meddu cryn lawer o ddifrifwch; ond ysgrifenai yn ol y goleuni oedd ganddo. Iddo ef a'i gyffelyb rheoleidd-dra oedd y pwnc mawr; purion peth oedd achub eneidiau, ond i hyny gael ei wneyd yn rheolaidd, a thrwy gyfrwng gweinidog wedi derbyn urddau esgobol; ond ystyriai fod gwaith lleygwr yn ymyraeth yn drosedd anfaddeuol. Nid oedd yn canfod fod achubiaeth y byd yn bwysicach na swyddogaeth. Efallai yr ofnai hefyd os cai personau di-urddau fyned o gwmpas i gynghori y darfyddai am yr offeiriadaeth.

Ni effeithiodd llythyr y ficer ar Harris fel ag i beri iddo newid ei gyfeiriad. Dychrynwyd rhai o'r personau a arferent ddyfod i wrando arno gan wrthwynebiad y personiaid, ac erledigaeth y werin bobl; ond cyfarfyddent yn ddirgel, pan na feiddient wneyd yn gyhoeddus. Yn raddol chwythodd yr ystorm heibio, a'r gwanwyn dilynol ail- gychwynodd ei ymweliadau o dŷ i dŷ. Erbyn hyn daethai i gydnabyddiaeth ag amryw o'r Ymneillduwyr; yr oedd eglwys Ymneillduol yn Nhredwstan, yr ochr arall i'r cwm iddo, yn yr hon, er ei bod yn fychan ac yn eiddil, yr oedd rhyw gymaint o wir grefydd yn aros, fel llin yn mygu; a chaffai gan y rhai hyn dderbyniad calonog i'w tai. Er mwyn bywioliaeth, sefydla ysgol ddyddiol yn Nhrefecca, yr hon yn fuan a symudwyd i eglwys Talgarth. Er ddarfod iddo fod ar ymweliad a'r Hybarch Griffith Jones, yn Llanddowror, yn mynegu ei fwriad ac yn gofyn cyfarwyddid, nid yw yn ymddangos fod ei ysgol yn un o rai Griffith Jones; yn hytrach, anturiaeth bersonol ydoedd. Ond yr oedd mewn gohebiaeth gyson ag offeiriad duwiol Llanddowror; mynegai ei lwyddiant iddo gydag asbri; a derbyniai oddiwrtho roddion o lyfrau a phob cefnogaeth. Bu yr ysgol yn gymorth nid bychan i'r Diwygiad." Llawer o ddynion ieuainc," meddai, "a gofleidias y cyfleustra, ac a ddaethant ataf i gael eu hyfforddi yn mhellach yn ffordd iachawdwriaeth."

Cafodd gyfleustra arall i rybuddio ei gyd-wladwyr gyda golwg ar fater eu henaid. Elai dyn o'r gymydogaeth o gwmpas i ddysgu pobl ieuainc i ganu Salmau." Nid oedd gwrthwynebiad i hyny," meddai Harris, "mwy na phe y buasent yn ymgynull ynghyd i ddawnsio, neu i ymladd ceiliogod." Felly yr ysgrifena, gyda phob difrifwch; nid yw fel yn ymwybodol y fath ddatguddiad a rydd ei eiriau o gyflwr y wlad. Wedi i'r athraw cerddorol derfynu ei addysgiant mewn canu, cyfodai y Diwygiwr i roddi iddynt air o gyngor, a thrwy y moddion yma dygwyd llawer dan argyhoeddiad. Arweiniodd hyni sefydliad societies. Meddai, "Myfi a ddechreuais sefydlu y societies hyn yn ol y drefn y mae Dr. Woodward yn rhoddi hanes am dani, mewn traethawd a ysgrifenodd efe ar y pen hwnw. Nid oedd hyd yn hyn ddim societies o'r fath yn Nghymru na Lloegr. Yr oedd y Methodistiaid Saesneg heb son am danynt eto, er fod yr Arglwydd y pryd hyny, fel y cefais wedin, yn gweithio ar rai o honynt yn Rhydychain a manau eraill." Perthyn i'r Eglwys Sefydledig yr oedd y Dr. Woodward y cyfeirir ato; sefydlasai ei seiadau ar gynllun, ac yn unol a rheolau a dynasid allan gan Archesgob Caergaint; yr amcan oedd casglu ynghyd y rhai a geisient arwain bywyd sanctaidd, ac a foddlonent i fyw yn unol a rheolau manwl, yn un gymdeithas, i'r hon y byddent oll yn gyfrifol. Mewn rhai pethau nid oeddent yn annhebyg i'r guilds presenol yn Eglwys Loegr. Yn Llundain yn unig y cawsent eu sefydlu gan Dr. Woodward, ac er iddynt unwaith fod yn bur gryfion, suddasent erbyn hyn i gyflwr isel a difywyd. Yn wir, ychydig o gyffelybrwydd oedd rhwng y seiadau a sefydlwyd gan Howell Harris i eiddo Dr. Woodward. Amcan seiadau Woodward oedd disgyblaeth; yspryd deddfol a lywodraethai ynddynt; ufudd-dod i reolau ac ordinhadau allanol yn benaf a ofynent. Amcan seiadau Harris oedd cyd-hyfforddiant ar y ffordd i'r nefoedd; cyfleusterau oeddynt i'r rhai a gawsent eu hargyhoeddi i adrodd eu profiadau, ac i arllwys eu calonau y naill i'r llall, fel y gallent gysuro a chynorthwyo eu gilydd. Yr oeddynt yn drwyadl efengylaidd o ran tôn, ac yn talu sylw yn benaf i'r ysprydol a'r mewnol. O ran ei hanfod yr oedd cynllun Harris yn wreiddiol iddo ef ei hun. Diau ei fod yn gywir wrth ddweyd nad oedd seiadau o'r fath ar y pryd yn Nghymru na Lloegr. Yn mhen tair blynedd gwedi hyn y sefydlodd John Wesley y gyntaf o'i seiadau ef. Cawn Parch. James Hervey, un o Fethodistiaid Rhydychain, yn y flwyddyn 1739, yn ffurfio cymdeithas grefyddol gyffelyb yn Bideford, "nid," meddai, "mewn gwrthwynebiad i'r Eglwys Sefydledig, ond mewn cydffurfiad. dyledus a hi." Dywed fod y manteision canlynol i'w cael mewn cym- deithasau o'r fath. "(1) Yr ydym ni yn anwybodus, ac yn fynych yn methu canfod y pethau sydd a rhagoriaeth ynddynt; eithr gwel Duw yn dda ddatguddio i rai yr hyn a guddir oddiwrth eraill; felly, yn amlder cynghorwyr y mae doethineb yn gystal a dyogelwch. (2) Yr ydym yn tueddu i garu ein hunain, ac felly yn analluog i ganfod ein colliadau; o ganlyniad, yr ydym yn anhebyg o ddiwygio. Ond gwna ein cyfeillion, mewn yspryd llariaidd a diduedd, ddangos i ni ein bai. (3) Yr ydym yn wan ac anmhenderfynol; rhwystrir ni yn hawdd pan yn ymgais am yr hyn sydd ardderchog; ond y mae cymdeithas cyfeillion, yn ymdrechu am yr un rhagoriaethau, yn ein llenwi a gwroldeb a sefydlogrwydd. (4) Yr ydym yn ddiog ac yn glauar yn nghyflawniad ein dyledswyddau crefyddol; eithr gwna cydgymundeb sanctaidd gyffroi a chadw yn fyw zêl dduwiol. Mor fynych yr aethum i gyfeillach fy mrodyr yn oer a diyspryd; ond dychwelwn y ddyn newydd, yn llawn awyddfryd a zêl"[3] Pa fodd bynag, methodd Hervey a chadw y gymdeithas yn Bideford ar y llinellau hyn. Nid oedd y rhai a ymgynullent yn teimlo y medrent gynal ymddiddan crefyddol yn mlaen mewn modd a gynyrchai adeiladaeth; nid oeddynt yn ddigon ysprydol ychwaith i gwestiyno y naill y llall gyda golwg ar fater eu heneidiau; felly, yn lle adrodd profiad, darllenid rhyw lyfr defosiynol da. Ond yr hyn y methodd Mr. Hervey ei sefydlu a ddaeth yn Nghymru yn gyfarfod o'r pwysigrwydd mwyaf, ac yn rhan o fywyd crefyddol y genedl. Yn y seiadau, a sefydlwyd gan Howell Harris a Daniel Rowland, mewn anwybodaeth am waith eu gilydd, yr addysgid yr anwybodus yn fanylach yn egwyddorion yr efengyl, y dangosid i'r anghyfarwydd y modd y dylai droedio er gochel maglau y gelyn, y rhybuddid y rhai a dueddent i oeri mewn zêl, y dyddenid y rhai oeddynt yn cael eu poeni gan ofnau, ac y caffai saint Duw gymdeithas a'u gilydd yn Nghrist Iesu. Ni wnaeth dim fwy er dwyshau y teimlad crefyddol yn y wlad na'r seiat brofiad.

Hyd yn hyn, Talgarth a'r cymydogaethau o gwmpas oedd cylch gweinidogaeth Howell Harris. Ond yn haf 1737, anfonodd boneddwr o Sir Faesyfed am dano i lefaru yn ei dy. Cwbl gredodd yntau fod yr alwad o'r nefoedd, ac heb ymgynghori a chig a gwaed yno yr aeth. Daeth nifer o bobl barchus ynghyd i wrando, wedi eu cyffroi yn benaf gan gywreinrwydd. Ond cawsant y fath foddlonrwydd yn yr hyn a draethai, ac yn yr atebion i'r gwahanol gwestiynau a ofynent iddo, fel y symudwyd eu rhagfarn yn hollol, a chafodd amryw eu hargyhoeddi o druenusrwydd eu cyflwr. Darfu i fendith Duw ar yr odfa gyntaf a gynhaliwyd ganddo yn mhell o cartref, ei argyhoeddi y bwriedid iddo eangu cylch ei lafur. Hyn a wnaeth yn ddiymaros. Ai i ffeiriau, a gwyliau, ac i bob man o fewn ei gyrhaedd, lle yr ymgynullai y lliaws, i rybuddio dynion o'u perygl. Ond yr oedd yr ysgol ar ei ffordd, fel na fedrai fyned yn mhell. Eithr symudwyd y rhwystr hwn trwy frâd y diafol ei hun; oblegyd tua diwedd y flwyddyn cafodd ei droi allan o'r ysgol oblegyd ei afreolaeth. Bellach, yr oedd at ei ryddid i fyned pa le bynag y gelwid am dano, ac ni phetrusai yntau dderbyn pob gwahoddiad. Pregethai dair neu bedair gwaith y dydd, weithiau bump neu chwech, a hyny i gynulleidfaoedd anferth. Cyffrowyd Siroedd Brycheiniog a Measyfed trwy ei weinidogaeth o gwr i gwr. Deffrodd hyn elyniaeth danllyd yn ei erbyn. Meddai: "Weithiau yr oeddwn yn cael fy llwytho a phob math o gamachwyniadau; y swyddogion gwladol yn bygwth fy nghospi, yr offeiriaid yn yr eglwysydd yn pregethu yn fy erbyn, gan fy nodi allan fel y Gaubrophwyd, a'r Twyllwr, a'r mob yn mhob lle, yn amcanu fy niweidio." Ond nid oedd gŵr Duw yn gofalu am y pethau hyn; llenwid ei enaid ynddo gan ddyddanwch pur.

Anhawdd i ni yn yr oes hon ffurfio barn am wresogrwydd a nerth gweinidogaeth Howell Harris. Nid oedd ei bregethau parthed arddull cyfansoddiad, ynghyd a dyfnder ac arucheledd meddylddrychau, i'w cymharu ag eiddo Griffith Jones, ac yn arbenig eiddo Daniel Rowland. Ni wnaeth ymgais am rai blynyddoedd i draddodi pregethau ar destynau; rhoddai anerchiadau difyfyr, heb unrhyw drefn neillduol, gan daranu yn erbyn pechod. Meddai: "Mewn perthynas i swm fy ymadrodd, yr ydoedd oll yn cael ei roddi i mi mewn modd anarferol, heb y rhagfyfyriad lleiaf; nid cynyrch fy nghof ydoedd ychwaith, canys ni fu genyf gof da erioed; nerthol gynhyrfiad a deimlwn yn fy enaid ydoedd, fel nas gallwn fod yn llonydd, gan yr angenrhaid a osodwyd arnaf i ddeffroi eneidiau pechaduriaid." Cawsai ei gyfaddasu yn arbenig gan natur, a chan ddyfnder ei argyhoeddiad, ar gyfer rhybuddio yr annuwiol. Yr oedd ei olwg yn fawreddog, ac yn tynu sylw ar unwaith; yr oedd ei lais yn gryf ac yn glir; fflamiai ei lygaid; eisteddai difrifwch o dragywyddoldeb ar ei wynebpryd; ac yr oedd nerth anorchfygol yn ei draddodiad. Elai allan i'r rhedegfeydd, ac i ffeiriau, gwylmabsantau, a chyfarfodydd llygredig y wlad, gan rybuddio y bobl i ffoi i'r cysgod. 'Disgynai ei ymadroddion fel pelenau o dân ar y tyrfaoedd anystyriol. Wedi cael cynulleidfa oi flaen, y mae y pregethwr yn sefyll i fynu, a chyda ei fod yn agor ei enau, dyma ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau yn disgyn ar ben y gwrandawyr; y maent yn cael eu hysgwyd uwchben uffern, nes y mae rhai yn gwelwi a rhai yn gw aeddu. Nid anaml gwelid cynulleidfa o ddwy fil yn aros am ddwy awr yn y gwlaw i wrando arno yn llefaru. Byddai rhai yn cael eu hargyhoeddi, ac eraill yn ceisio dystewi llais cydwybod trwy erlid y pregethwr. Ofer ceisio cyfrif ar dir rheswm cnawdol am y dylanwad a fyddai yn cydfyned a'i eiriau; yr oedd ganddo genadwri oddiwrth Dduw i ddynion, a thraddodai hi gydag angerddolrwydd yspryd a gariai y cwbl o'i flaen. Cymwys desgrifiad Williams, Pantycelyn, o hono :—

"Yn y cyfnes tywyll pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca Fach i ma's.

Yn y daran 'r oedd e'n aros,
Yn y cwmwl'r oedd ei le,
(Yspryd briw, drylliedig, gwresog,
Sy'n cael cwnsel Brenin Ne);
Ac yn saethu oddiyno allan
Fellt ofnadwy iawn eu rhyw,
At y dorf aneirif, dywyll,
Yn eu pechod oedd yn byw.

Gosfu gwrando ei eiriau geirwon,
Cadarn yw awdurdod nen;
Os gwrthw'nebu wna pechadur,
Trymach cwymp hi ar ei ben;
Dilyn ergyd a wnaeth ergyd,
Nes gwneyd torf yn foddlon dod
At yr Iesu mewn cadwynau,
Fyth i ddilyn ôl ei droed.

Gwerin fawr o blant pleserau
Y pryd hwnw gafodd flas,
Ag nad â tra fyddo anadl
'O'u hysprydoedd ddim i maes.
"Roedd ei eiriau dwys, sylweddol,
Heb eu studio 'mlaen llaw'r un,
Wedi ei ffitio gan yr Yspryd
I gyflyrau pob rhyw ddyn."

Digwyddodd dau amgylchiad ynglyn a Howell Harris, yn haf 1737, o bwysigrwydd mawr iddo ef ei hun ac i'r diwygiad. Un oedd cyfarfod am y tro cyntaf a Daniel Rowland yn Defynog. Er fod y ddau er ys peth amser wedi tori allan o'r llwybr cyffredin i rybuddio yr annuwiol, ni wyddent ddim am eu gilydd; a gwna hyn eu hymddygiad yn fwy beiddgar a gwronaidd. Ai Harris allan yn enw Crist i'r pentrefydd, ac i gymoedd mynyddig Brycheiniog a Maesyfed, gan dybio, fel Elias gynt, mai efe oedd yr unig dyst dros y Gwaredwr. Ond cafodd Rowland ei wahodd i Eglwys Defynog, gan ficer y plwyf; daeth Harris, trwy wahoddiad y ficer, yn ol pob tebyg, yno i'w gyfarfod; ac wrth weled y doniau seraphaidd a pha rai yr oedd wedi ei gynysgaeddu, a'r nerth gyda pha un y traddodai wirioneddau gogoneddus yr efengyl, ymglymodd ei enaid am yr apostol o Langeitho, ac aeth gydag ef i Sir Aberteifi cyn dychwelyd. Os edrychir ar Fethodistiaeth fel yn tarddu, a dywedyd yn ol dull dynol, o ddwy ffrwd wahanol ac annibynol, yn Defynog y pryd hwnw gwelir y ddwy ffrwd yn ymuno a'u gilydd, ac yn ymffurfio yn afon.

Yr amgylchiad arall oedd argyhoeddiad Mr. Marmaduke Gwynn, un o brif foneddwyr Brycheiniog, yr hwn a breswyliai yn y Garth, yn rhan uchaf y sir. Disgwylid Harris i bregethu yn y gymydogaeth. Clywsai Mr. Gwynn lawer math o ddrygair am y pregethwr, ei fod yn wrthryfelwr yn erbyn y brenin, ac yn terfysgu y bobl, gan eu hanog i godi yn erbyn yr awdurdod wladol. Teimlai mai ei ddyledswydd, fel ustus heddwch, oedd traddodi y terfysgwr i'r carchar. Ond yr oedd yn ŵr cyfiawn, ac meddai wrth ei wraig: "Mi a'i gwrandawaf cyn ei draddodi." I'r cyfarfod yr aeth, a Deddf Terfysg (the Riot Act), yn ei logell, er tori y cyfarfod i fynu, a gwasgar y gwrandawyr, pan welai duedd at wrthryfel. Ond ni soniai Harris am bethau tymhorol; bygythion Duw yn erbyn yr annuwiol a fynegai; anog y gynulleidfa i ddianc rhag y llid a fydd yr oedd, a'u ceryddu am eu pechodau gwaradwyddus, a'u bucheddau anfoesol. Ymddangosai i Mr. Gwynn fel angel Duw, fel cenad o fyd arall. Yn lle dal y pregethwr, cafodd efe ei hun ei ddal, ai ddwyn yn gaeth i Grist. Ar derfyn y cyfarfod, aeth at y pregethwr, gan gyfaddef ei ddrwg-fwriad, a gofyn ei bardwn, a'i gymhell i letya i'w dŷ. Bu aruthr gan Mrs. Gwynn, yr hon oedd yn foneddiges yn hanu o deulu uchel, weled ei phriod yn dychwelyd yn nghwmni y pregethwr terfysglyd, ac yn talu cymaint o barch iddo a phe byddai yn esgob. Braidd na chredai fod ei gŵr wedi colli ei synwyr. Eithr trodd y ferch, Miss Sarah Gwynn, gyda ei thad. Bu Mrs. Gwynn am beth amser yn elynol i'r diwygiad, ond cafodd hithau ei hargyhoeddi i fywyd, a daeth yr holl deulu yn Fethodistiaid. Priododd Miss Gwynn a Charles Wesley ar ol hyn. Taflodd Mr. Gwynn ei holl ddylanwad o blaid Harris; amddiffynodd ef yn mhob modd, a sicr yw ddarfod i'w ymddygiad effeithio yn fawr er lleihau yr erledigaeth, ac i ddwyn opiniwn y cyhoedd yn bleidiol i Fethodistiaeth.

Erbyn diwedd 1737, a gwanwyn 1738, er pob gwrthwynebiad oddiwrth yr offeiriaid a'r boneddwyr, ac er terfysg y werinos, yr oedd seiadau wedi cael eu ffurfio bron yn mhob cymydogaeth yn Sir Frycheiniog, mewn nifer mawr o leoedd yn Sir Faesyfed, ac mewn rhai manau yn Sir Henffordd. Nid oedd ardal na chwmwd perthynol iddynt nad oedd wedi ymweled a hwy droiau. Pregethai weithiau yn addoldai yr Ymneillluwyr, ond gan amlaf yn yr awyr agored. Heblaw hyn, ymwelai yn fynych a Llangeitho, nid yn unig er mwynhau gweinidogaeth seraphaidd Daniel Rlowland, ond hefyd yn ddiau er cael cydymgynghori ag ef gyda golwg ar gario y gwaith mawr yn mlaen. Bu ddwywaith o leiaf yn Llanddowror yn 1737, fel y prawf ei ddydd-lyfr, ar ymweliad a'r Parch. Griffith Jones, yr hwn a berchid ganddo megys tad. Y mae yn bur sicr ei fod yn pregethu rhyw gymaint wrth fyned a dychwelyd yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi. Canlyniad hyn, ynghyd a llafur Daniel Rowland, oedd fod arwyddion o ddiwygiad i'w canfod mewn amryw siroedd; ymdyrai y bobl i leoedd o addoliad; elai y cyfarfodydd llygredig heb fod nemawr yn cyrchu iddynt, ac yr oedd anfoesoldeb yn dechreu plygu ei ben mewn cywilydd: Clywyd son am ei weinidogaeth, a'r arddeliad rhyfedd oedd yn cydfyned a hi, yn Mynwy a Morganwg; tybiodd rhai o'r gweinidogion Ymneillduol yn y siroedd hyn fod gwawr gobaith yn ymagor ynddo ar Gymru, a phenderfynasant ei wahodd i ddyfod ar daith trwy eu gwlad, gan hyderu y byddai i'w ymweliad fod yn foddion adfywiad i'r achosion gweiniaid oedd yn wywllid eu gwedd, ac yn barod i farw.

Y cyntaf i roddi gwahoddiad i Howell

Harris oedd y Parch. Edmund Jones, Pontypŵl. Yr oedd Mr. Jones yn fab i rieni

—————————————

DARLUN O ATHROFA TREFECCA,

A

CHAPEL COFFADWRIAETHOL HOWELL HARRIS.

tlodion oeddynt yn aelodau yn eglwys Annibynol Penmain. Ni chawsai nemawr fanteision addysgol; nid ymddengys ychwaith ei fod o ddoniau mawr, ond yr oedd yn llawn o zêl a_ gweithgarwch. Llwyddasai i gasglu cynulleidfa ac eglwys fechan yn nghymydogaeth Pontypŵl; eithr gwanaidd a dilewyrch iawn oedd yr achos; nid oedd ganddynt addoldy o gwbl; ond ymgynullent mewn gwahanol dai anedd ar gylch. Yr oedd yr holl gwm, ynghyd a'r cwm nesaf, o Flaenau Gwent i lawr, yn ddigrefydd ac annuwiol. Penderfynodd Mr. Jones y gwnai ymgais i gael Howell Harris yno i bregethu; ddechreu gwanwyn 1738, aeth yn un swydd ar ei draed i Dre- fecca i'w gyrchu; ac ni ddychwelodd heb ddwyn Mr. Harris gydag ef.. Cynyrchodd ymweliad y Diwygiwr gyffro dirfawr yn yspryd offeiriad Mynyddislwyn a Bedwellty, ac yn ei lid, anfonodd ato y llythyr canlynol :—

"MR. HARRIS.— Yr wyf. yn synu at eich hyfdra yn dyfod i fy mhlwyfydd i, sef Mynyddislwyn a Bedwellty. Rhaid i chwi gilio yn ol; onide bydd i chwi, a'r person neu y personau a'ch gwahoddodd ac a anfonodd am danoch, dderbyn y dialedd cyfiawn sydd yn ddyledus am y fath ymddygiadau anghyfreithlon.— Yr eiddoch, DAVID PERROT.

Y mae y llythyr hwn wedi ei ddyddio Mawrth 17,1738. Ni thalodd Howell Harris un sylw i fygythion Mr. Perrot; aeth yn ei flaen gan daranu yn erbyn drwg arferion y trigolion gyda nerth, nes y syrthiodd braw a dychryn arnynt. Nid oes genym restr o'r lleoedd a pha rai yr ymwelodd, ond ymddengys fod dylanwadau rhyfedd yn cydfyned a'i weinidogaeth, a bod y fath awdurdod yn ei leferydd fel y dychrynid y mwyaf rhyfygus, ac y siglid teyrnas y tywyllwch hyd ei sail. 'Cynyrchodd chwildroad hollol yn sefyllfa foesol y wlad. Cymerer yr hyn a gymerodd le yn nghymydogaeth Mynyddislwyn fel enghraifft. Ger eglwys y plwyf yr oedd twmpath uchel a elwid "Towyn Tudur," a thaenid hen chwedl yn yr ardal yr elai yn ystorm o fellt a tharanau pe y ceisiai neb ei symud. Ar y twmpath hwn y safai Harris, ynghanol y canoedd campwyr oedd wedi ymgynull i wrando. Ychydig, meddir, oeddynt yn ddirnad am faterion y bregeth, ond deallent fod y llefarwr yn cyhoeddi melldithion ofnadwy yn erbyn eu drygfoes, a'i fod yn bygwth y llyn o dân ar y rhai a fynychent y gwylmabsantau a'r campau. Effeithiai ei ddull yn ofnadwy ar y gwrandawyr. Tybient fod y ddaear yn crynu dan eu traed, a bod uffern yn myned i agor ei safn i'w llyncu yn fyw. Nid annhebyg fod a fynai yr hen chwedl ofergoelus a mwyhau eu dychryn. Darfu i'r un bregeth hon fwrw diflasdod ar hen arferion bryntion yr ardal, a gwneyd y chwareuon yn anmhoblogaidd. Dywedai hen ŵr wrth y diweddar Barch. Thomas Evans, Risca: "Ni chefais flas byth mwy gyda'r bêl droed, er fy mod yn flaenorol yn un o benaethiaid y gamp. Pan aem i chwareu, dychymygwn, yn arbenig os byddai wedi machlud haul, fod y diafol yn bersonol yn ein mysg." Y dyb gyffredin gan drigolion y fro oedd fod y gŵr a fu yn pregethu ar Dowyn Tudur wedi rheibio y chwareu. Cyffelyb a fu yr effeithiau mewn ardaloedd eraill, er nad oes genym hanes mor fanwl am danynt. Dywed Edmund Jones [4] ddarfod i lawer gael eu hachub y pryd hwn yn Mlaenau Gwent, ac Ebbwy Fawr; ymunodd rhai o honynt ag Eglwys Loegr, eraill a'r Bedyddwyr, ac eraill a'r Annibynwyr. Dylid cofio mai ardaloedd amaethyddol oedd y rhai hyn y pryd hwnw, mai ffermwyr a'u llafurwyr a drigianai yma, a bod y wlad o ganlyniad yn anaml ei thrigolion. Meddai E. Jones: " Adeg ddedwydd oedd hon yn Ebbwy Fawr, y fath na welwyd, yr wyf yn credu, na chynt na chwedi hyn. Gallai un feddwl fod yr holl ddyffryn yn troi at Dduw. O ddau-ar-bymtheg-ar- hugain o dai, nid oedd ond saith, os oedd cynifer, i ba rai nad oedd Gair yr Arglwydd wedi treiddio. Yr oedd y bobl a dueddent at grefydd yn llawer amlach na'r lleill."

Bendithiwyd gweinidogaeth Harris y tro hwn er argyhoeddiad i amryw a ddaethant yn ganlynol yn bregethwyr, megys Phylip Dafydd, yr hwn a fu yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Mhenmain am agos i haner can' mlynedd; Thomas Lewis, yr hwn a gafodd ei benodi yn arolygwr yr achosion Methodistaidd yn y rhan agosaf i Loegr o Fynwy; John Powel, yr hwn oedd frodor o Frycheiniog, ac a ddygasid i fynu mewn tafarndy; ynghyd a Morgan John Lewis, gweinidog cyntaf eglwys y New Inn, am yr hwn y cawn son eto. Yn bur fuan, cawn seiadau wedi cael ei sefydlu yn y Goetre, Glascoed, Mynyddislwyn, Llangattwg, Trefethin, Llansantffraid, Llangattwg-ger-Caerlleon-ar- Wysg, Llanfihangel, a Llanheiddel. Pa un ai ar y daith hon, ynte taith arall a gymerwyd ganddo trwy Fynwy yn Hydref yr un flwyddyn, y cawsant eu sefydlu, nis gwyddom. Derbyniwyd Howell Harris fel cenad o'r nefoedd gan y gweinidogion Ymneillduol a bregethent athrawiaethau Calfinaidd; a bu ei ddyfodiad fel bywyd o farw i'r achosion gweiniaid oedd dan eu gofal Yn bur fuan yr ydym yn cael Edmund Jones yn adeiladu addoldy yn Mhontypŵl, a lliosogodd yr eglwysi Ymneillduol yn yr holl gwmpasoedd yn ddirfawr. Ond am y gweinidogion a dueddent at Arminiaeth, gwnaent hwy yr oll a fedrent i rwystro y diwygiad, ac i wrthwynebu Harris, a braidd nad y dosparth yma oedd yn y mwyafrif ar y pryd. Eu cri yn ei erbyn oedd na chawsai ei ordeinio, ac felly nad oedd hawl ganddo i bregethu. Rhoddai yr Ymneillduwyr ffurfiol hyn gymaint o bwys ar ordeiniad ag a wnelai offeiriaid Eglwys Loegr. "Ni fedraf lai na sylwi," meddai Edmund Jones, mewn llythyr at Howell Harris, "mai ein dynion goreu sydd yn ffafriol i chwi, ac mai y rhai sychion, amddifad o brofiad, neu Arminiaid, sydd yn eich erbyn; o leiaf, hwy sydd yn chwerw." Dywed yn mhellach fod y gweinidogion efengylaidd yn edrych arno fel un wedi cael ei alw i'r weinidogaeth, er nad yn y ffordd arferol. Harris wedi ei alw? Y mae mor sicr ei fod a darfod i'r apostolion gael eu galw gan y Gwaredwr; profid hyny yn ddiymwad gan yr arddeliad oedd yn cydfyned a'i bregethu, a chan y canoedd a gawsent eu dychwelyd trwyddo. Os gallai Paul droi ar y Corinthiaid crediniol, gan ddweyd: "Sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd," gallai Harris yntau gyfeirio at ganoedd ar hyd a lled y wlad a gawsant eu hachub trwy ei offerynoliaeth, ac a oeddynt yn dystion byw o'i ddwyfol anfoniad. Yr oedd rhesymau personol gan y gweinidogion Arminaidd dros wrthwynebu y Diwygiwr. Yn un peth, yr athrawiaethau Calfinaidd a bregethid ganddo, a hyny yn y modd mwyaf difloesgni; dyn yn golledigaeth ynddo ei hunan, y galon yn ddrwg diobaith, holl ymdrechion dyn i ddod i fynu a gofynion deddf gyfiawn y nefoedd yn gwbl ofer, ufudd-dod ac iawn yr Arglwydd Iesu yn unig sail cadwedigaeth, a'r clod yn gyfangwbl yn perthyn i ras penarglwyddiaethol Duw, dyma y gwirioneddau a gyhoeddai. Gellid symio ei gredo mewn cymal a geir yn un o'i weddïau: "Uffern wyf fi; ond nefoedd wyt ti."

Yn erbyn yr athrawiaeth hon gwingai yr Arminiaid anefengylaidd yn enbyd. Heblaw hyn, taranai yn ofnadwy yn erbyn yr oerni, y cysgadrwydd, a'r bydolrwydd, oedd wedi gorddiwes yr eglwysi Ymneillduol, ynghyd a dull clauar a deddfol y gweinidogion o bregethu. Fflangellai hwynt yn y modd mwyaf diarbed, a galwai arnynt yn enw yr Arglwydd i ddihuno, onide y syrthient dan y farn. Tybiai Edmund Jones ei fod yn tueddu i fod yn rhy lym. "Da genyf," meddai, " ddarfod i Mr. Whitefield ddwyn tystiolaeth onest a hyf yn erbyn clauarineb a bydolrwydd yr YmneiIIduwyr, ynghyd ag ysgafnder a bywyd penrhydd amryw o'u gweinidogion. Yr oedd yr angen mwyaf am wneyd hyn; ond gwna Mr. Whitefield ef mewn modd cymhedrol, eithr gonest; a phe y gwnaech chwithau hyn, anwyl frawd, gyda llai o nwyd a chyffröad yspryd, gan barchu eu personau, gallasech effeithio llawer o dda. Ond fel y mae, ofnaf na wnaed fawr da. Ar yr un pryd, gwelaf mai i ni y perthyn y bai mwyaf." Nid awn i geisio penderfynu a ydoedd Edmund Jones yn, barnu yn gywir; sicr yw fod Harris yn wresog ei yspryd, ac yn dra llym yn ei ddynoethiad o ddrygau, yn arbenig drygau cysylltiedig a'r cysegr; ond gwelir yn eglur ddarfod i'w hyfdra gynyrchu gwrthwynebiad iddo yn mysg y gweinidogion Ymneillduol o syniadau anefengylaidd. Pa fodd bynag, yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef, ac nid ofnai yntau beth a wnelai dyn iddo.

Pregethwr Ymneillduol arall a wahoddodd Mr. Harris i'w ardal oedd y Parch. David Williams, gweinidog yr eglwysi Presbyteraidd yn Watford a Chaerdydd. Dywed yn ei Iythyr at Harris ei fod wedi ei gyhoeddi i fod yn mlwyf Eglwysilan am ddau ddiwrnod, sef dydd Mercher gwedi y Sulgwyn yn Bwlchycwm, a'r dydd lau dilynol yn Maesdiofal, ac y disgwylid torf fawr i wrando. Aeth yntau yn ffyddlawn i'w gyhoeddiad. Ymddengys iddo fyned trwy Fynwy, oblegyd addawa Mr. Williams ei gyfarfod y nos Fawrth flaenorol yn Bedwellty, a'i ddwyn i'w dŷ ei hun i letya. Nid ydym yn gwybod a ddarfu iddo bregethu mewn lleoedd eraill yn Morganwg y tro hwn; y tebygolrwydd yw iddo wneyd; prin y gallwn feddwl iddo deithio yr holl ftordd yma o Dalgarth er mwyn gwaith dau ddiwrnod. Yr oedd yr un dylanwad yn cydfyned a'i weinidogaeth ag yn Mynwy. Ac nid rhywbeth amserol, yn cilio fel cysgod, oedd yr effaith; yn hytrach, tebygai i'r surdoes yn y blawd, yn cyfnewid ansawdd yr holl does. Mewn llythyr a anfonodd y Parch. D. Williams i Drefecca ychydig ar ol hyn dywedir: "Bu gwasanaeth y ddau ddiwrnod gyda ni yn rhyfeddol o lwyddianus. Y mae yr eglwysydd a'r cyfarfodydd yn orlawn: y mae tori y Sabbath yn myned lawr, edrychir arno fel peth atgas; a gwrthdystir yn erbyn tyngu ac ymladd ceiliogod. Ond nid ydych yn dychymygu fod y diafol yn fud ac yn llonydd. Na, y mae yn llefaru ac yn gweithredu; ond tybiaf fod mwy yn ei erbyn nac sydd o'i blaid yn y rhan hon o'r wlad. Y mae eich cyfeillion yn lliosocach na'ch gwrthwynebwyr. Pregethir yn eich erbyn mewn rhai manau; ond try er gwaradwydd i'r rhai sydd yn ceisio ei wneyd." Yn nes yn mlaen, dymuna yr ysgrifenydd iddo adferiad buan i iechyd, yr hyn a ddengys fod ei lafur dirfawr mewn pregethu a theithio diorphwys yn dechreu effeithio ar ei gyfansoddiad, er cadarned ydoedd; dymuna yn daer arno ymweled a'r rhan hono o'r wlad mor ddioedi ag sydd bosibl; "ni wna unrhyw wahaniaeth," meddai, "pe bai yn amser cynhauaf, gan mor awyddus yw y bobl i wrando arnoch;" a dywed yn mhellach fod ganddo nifer o leoedd yn crefu am ei wasanaeth. Dyddiad y llythyr hwn yw Mehefin, 1738. Cawn Mr. Williams yn ysgrifenu yn mhen dau ddiwrnod drachefn i wasgu arno am ail gyhoeddiad, gan ddweyd y byddai yr wythnos olaf yn y mis hwnw, neu yr wythnos gyntaf yn Gorphenaf, yn gyfleus iawn. "Y lleoedd mewn golwg genyf," meddai, "heblaw y rhai a gawsant eu siomi, ydynt Llanedeyrn (myned yno o St. Nicholas), yna Machen neu Maesaleg, ac wedi hyny i'n plwyf ni (Eglwysilan), yn y lle y tybir ei fod fwyaf cyfleus. . . . Dylaswn ddweyd y disgwylir chwi o'n plwyf ni i Gelligaer. Y mae y cuwrad, yr hwn a alwodd yn ein tŷ ni y nos o'r blaen, yn gwneyd ei oreu drosoch, er efallai mai y tu ol i'r llen, gan ei fod ar gael ei urddo yn offeiriad." Diweddir y llythyr gyda dweyd nad rhaid iddo fod mor anmharod i gyfeillachu ag Ymneillduwyr yn y rhanau hyny o'r wlad ag mewn manau eraill, gan fod rhagfarn yn diflanu yn gyflym. Y lleoedd y cyfeirir atynt fel wedi cael ei siomi yn eu disgwyliad am Howell Harris oeddynt Aberdâr, Llanwono, Llantrisant, a St. Nicholas, yn Mro Morganwg. Yn y manau hyn ymgynullasai torfeydd ynghyd, ac yr oedd eu siomiant yn ddirfawr pan y deallasant fod selni wedi rhwystro'r pregethwr.

Tua'r un amser ag yr ymwelodd Mr. Harris gyntaf a chymydogaeth Caerphili, bu yn pregethu yn y rhan orllewinol o Forganwg; ac y mae yn sicr mai gwahoddiad taer oddiwrth y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, a'i cymhellasai. Yr oedd Henry Davies yn weinidog ar gynulleidfa o Ymneillduwyr yn Nyffryn Nedd; bu ar delerau cyfeillgar a'r Methodistiaid trwy ei oes; cawn ef yn bresenol yn y Gymdeithasfa. gyntaf, yn Watford, ac mewn amryw Gymdeithasfaoedd eraill, a diau ei fod yn ŵr oedd yn ofni Duw. Gwedi ei farw aeth ei gynulleidfa. yn Undodiaid. Ymddengys ddarfod i selni Howell Harris ei rwystro i fyned i'r parthau hyny yn mis Mehefin, fel yr arfaethasai, ac i filoedd gael ei siomi mewn canlyniad. Mewn llythyr, dyddiedig Gorph. 28, 1738, dywed y Parch. Henry Davies: "Y mae y gŵr difrifol, zelog, a duwiol hwnw, Mr. William Thomas, offeiriad Llanilltyd-ger-Nedd, yn dra awyddus am eich gweled, a chael eich cymdeithas. Aethai yn un swydd ir Fonachlog i'ch gwrando, ond cafodd ei siomi, a miloedd heblaw efe. Ceryddwyd ef gan offeiriad chwerw sydd yn byw yn Nghastellnedd. Y mae yr offeiriaid yn rhanedig y naill yn erbyn y llall yn y cymydogaethau hyn. Y mae cadben ymrysonfeydd ceiliogod, yr hwn a'ch clywodd yn y Bettws, yn addaw peidio dilyn y chwareu annuwiol hwnw mwy; a darfu i un arall, yn agos i lan y môr, yr hwn oedd yn arweinydd yn mhob annuwioldeb, dori ymaith benau ei holl geiliogod ar ol bod yn gwrando arnoch. Gwelais ef y Sul diweddaf, ac ymddangosai fel gwrandawr difrifol. Gwahoddodd fi i'w Duw yn unig bia'r clod. credu ddarfod i'r diafol golli rhai milwyr medrus, y rhai ddarfu ymrestru i fod yn filwyr ffyddlawn dan y Cadben mawr, ein Harglwydd Iesu. O gweddïwch am ragor o fagnelau i ddryllio teyrnas Satan." Tua yr amser hwn hefyd derbyniodd Mr. Harris gyffelyb wahoddiadau oddiwrth y Parch. John Davies, gweinidog Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, ac oddiwrth y Parch. Vavasour Griffiths, o Sir Faesyfed.

Methasom ddod o hyd i ddydd-lyfr y Diwygiwr am y rhan olaf o'r flwyddyn 1738, ond y mae lle cryf i gasglu ddarfod iddo, yn unol a gwahodd y gweinidogion Ymneillduol yr ydym wedi cyfeirio atynt, fyned ar daith trwy ranau helaeth o Forganwg a Mynwy Awst neu Medi, 1738, ac i'w weinidogaeth brofi yn nodedig o fendithiol. Ysgrifena y Parch. David Williams ato, Hydref 17, 1738, fel y canlyn: "Bu y dygiedydd yn bur wyllt, ond y mae wedi diwygio yn fawr. Oddiar pan y gwrandawodd chwi ddiweddaf yn ein plwyf ni, â i bob cyfarfod sydd o gwmpas, nosweithiau gwaith yn gystal a'r Sul. Y cyfarfodydd yma ydynt yn orlawn. Y mae un-ar-bymtheg wedi anfon cais am ddyfod i'r cymundeb nesaf yn Nghaerdydd. Y mae genym ysgol Gymraeg yma yn myned ar gynydd." Yn mhen y mis ysgrifena drachefn: "Y mae genym ysgol Gymraeg fawr, yn yr hon y mae gweddïo wedi dyfod yn ffasiynol, a theimlwn awydd sefydlu un arall. Sefydlir cyfarfodydd gweddi yn mhob man. Derbyniwyd dau-ar-bymtheg i gymundeb y Sul diweddaf, ac y mae rhagor wedi cael eu cynyg. Gwelir gwedd gysurus ar bethau yma yn bresenol." Diwedda Mr. Williams trwy ddymuno am ymweliad arall o gwmpas y Nadolig, er na ellid disgwyl iddo bregethu yn yr awyr agored yr adeg hono o'r flwyddyn. Yr ydym yn difynu y ddau lythyr diweddaf, nid yn unig oblegyd eu dyddordeb, ond hefyd fel prawf ddarfod i Howell Harris ymweled a rhanau helaeth o Fynwy a Morganwg, Awst neu Medi, 1738, ac i'w daith fod yn dra bendithfawr. Pe na fuasai Mr. Harris wedi medru cydsynio a'r gwahoddiadau taer blaenorol, y mae yn mron yn sicr mai tôn siomedig fuasai yn rhedeg trwy y llythyrau hyn. Yn lle hyny, mawl oblegyd llwyddiant sydd yn eu llenwi. Fel ffrwyth ei lafur sefydlwyd amryw eglwysi yn Morganwg cyn diwedd 1738, yn mysg pa rai yr oedd Caerdydd, St. Ffagan, Eglwysnewydd, Pentyrch, Aberthyn, Llantrisant, Tonyrefail, a. Llanwono. Enillwyd amryw deuluoedd hefyd at Fethodistiaeth a_ ystyrid fel yn perthyn i fonedd y tir. Cawsai yr Yswain Jones, o Gastell Ffonmon, ei argyhoeddi wrth wrando Howell Harris yn pregethu yn Aberddawen. Aethai Mr. Jones tuag yno, gyda nifer o foneddigion, a'i gleddyf noeth yn ei law, er rhwystro y cyfarfod. Ni ddarfu i'r olwg arno ddychrynu y llefarwr o gwbl; yn hytrach ceisiodd gan y bobl ymwahanu a rhoddi ffordd, a throdd i bregethu yn yr iaith Saesneg, fel y gallai y boneddwyr ddeall. Aeth ceffyl yr yswain yn sicr yn y llaid fel nas gallai symud; gorfodwyd y marchogwr felly i wrando gwirionedd Duw o'i anfodd; ond aeth saeth i'w galon; tynodd ei het mewn parchedigaeth, agorodd ei galon i dderbyn yr efengyl, ac aeth yn ei ol i'w gastell a'r pregethwr gydag ef. Cyfododd bwlpud yn ei dŷ at wasanaeth y llefarwyr; daeth ei balas ar unwaith yn gartref y Diwygwyr pan ar eu teithiau, ac ymddengys y cynhelid pregethu rheolaidd yno trwy ystod oes y boneddwr, ac am flynyddoedd gwedi. Yma y lletyai Whitefield pan ar ei daith trwy y wlad. Boneddwr arall a gafodd ei argyhoeddi y pryd hwn oedd Mr. Howell Griffith, o Drefeurig, palasdy rhwng Llantrisant a Thonyrefail, yr hwn, fel y mae yn amlwg oddiwrth ei lythyrau at y Diwygwyr Saesneg, a gawsai addysg dda. Daeth ef yn bregethwr, a'i dŷ yn gartref Methodistiaeth. Un arall eto a gafodd ei enill yr adeg hon oedd Thomas Price, o Watford, ger Caerphili, yr hwn a elwir gan Williams, Pantycelyn, yn ei farwnad i Grace Price yn "Price y justice." Daeth yntau hefyd yn bregethwr. Cawn amryw eraill, yn cael eu dwyn tan ddylanwad yr efengyl, a ddaethant yn bregethwyr, neu, fel eu gelwid y pryd hwnw, "cynghorwyr." Yn mysg y rhai hyn yr oedd Thomas Williams; William Edwards, adeiladydd pont enwog Pontypridd; a John Belcher. O'r rhai hyn, John Belcher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau; cafodd ef ei anfon yn un i'r Gogledd er mwyn ceisio efengyleiddio y wlad, a dywedai yr hen John Evans, o'r Bala, am dano "ei fod yn ddyn gwrol, o gyneddfau cryfion, ac yn bregethwr da."

Fel y darfu i ni sylwi, nid oedd Howell Harris wedi tori allan unrhyw gynllun iddo ei hun ar y cychwyn; ni thybiasai ei fod wedi cael ei alw i fod yn bregethwr, credai yn benderfynol nad oedd; rhyw reidrwydd mewnol a'i gorfodai i rybuddio dynion am eu trueni ysprydol. Ond wrth weled y dylanwadau rhyfeddol oedd yn cydfyned a'i ymdrechion, a'r arddeliad oedd ar yr anerchiadau a draddodai, daeth i deimlo yn raddol mai cyhoeddi Crist yn Geidwad oedd gorchwyl mawr ei fywyd i fod. Ail-adnewyddodd hyn ynddo y duedd am ordeiniad. Yn ei ddydd-lyfr am fis Hydref, 1737, ceir a ganlyn: "Bedw (Aberdw?) Sul, y 30. Sacrament. Codi gwedi saith. Marwaidd fel arfer. Dymuniadau heddyw am gael fy argyhoeddi o'm camsyniadau. Gwedi wyth, myned tua chapel Dyffryn Honddu; ar y ffordd myfyrio ar y sacrament, gan deimlo yn orlwythog o ofnau. Yn y capel am enyd yn farwaidd; gwedi hyny dymuno am gael bod yn oleuni i'r byd, gan fod mewn trallod tumewnol mawr gyda golwg ar beth i'w wneyd, gan yr ofnwn gymeryd fy ordeinio rhag i mi gael fy rhwystro i fyned o gwmpas. Ond goleuwyd fi i ganfod, os yw Duw yn fy ngalw y byddai iddo gadw y drws yn agored i mi, gan osod yn nghalonau rhai i ganiatau i mi ddyfod i'w heglwysydd." Teifl y difyniad hwn ffrwd o oleuni ar agwedd meddwl Howell Harris. Gwelir iddo, wedi cryn bryder a therfysg meddwl, ddyfod i benderfyniad i wneyd cais am ordeiniad; mai ei amcan wrth wneyd y cyfryw gais oedd, nid cael bywioliaeth fras, na chael cyfleustra i efengylu o fewn cylch cyfyng plwyf, ond symud ymaith yr afreoleidd-dra a berthynai i'w waith, fel na byddai mwy yn myned o gwmpas i bregethu heb awdurdod ac ordeiniad esgobol; ac mai yn yr hyder y teflid eglwysydd y wlad yn agored iddo mewn canlyniad y daeth i'r cyfryw benderfyniad. Y mae y weddi, "dymuno am gael bod yn oleuni i'r byd," yn dra arwyddocaol, ac yn profi na dderbyniai ordeiniad ar yr amod iddo roddi y teithio i fynu. Y mae yn sicr ddarfod iddo gario ei benderfyniad allan, ac appelio am ordeiniad at yr esgob; dywed Whitefield iddo appelio ddwy waith, a chawn iddo wneyd hyny y drydedd waith. Ond yr oedd afreoleidd-dra ei ymddygiad, a'r ffaith ei fod yn un o'r Methodistiaid dirmygus, yn rhwystr anorfod ar ei ffordd i gael urddau. Trodd yr esgob ef heibio ar y tir ei fod yn rhy ieuanc, "er," meddai Whitefield, "ei fod ar y pryd rhwng dwy a thair-ar-hugain mlwydd oed, ac yn meddu pob cymhwysder ar gyfer urddau sanctaidd. "Eithr er cael ei wrthod yn ei gais, ni roddodd Harris i fynu fyned o amgylch a chynghori. Ar yr un pryd, ymddengys ei fod mewn pryder dirfawr gyda golwg ar ei ymddygiad; edrychai arno ei hun fel un hollol afreolaidd. Ar y naill law, gwelai dân y diwygiad yn ymledu trwy ei offerynoliaeth, eneidiau gwerthfawr yn cael eu hachub, y meusydd yn wynion i'r cynhauaf, anfoesoldeb y werin yn toddi ymaith tan ddylanwad yr efengyl, a rhagluniaeth yn agor drysau newyddion iddo yn barhaus. O'r tu arall, ni wyddai am neb diurddau yn myned o gwmpas i gynghori ond ei hunan. Yr oedd yr Ymneillduwyr lawn mor wrthwynebol i weinidogaeth leygol a'r Eglwyswyr. Cawn hyd yn nod John Wesley, a hyny mor ddiweddar a'r flwyddyn 1742, tua saith mlynedd gwedi i Howell Harris ddechreu ar ei waith, yn cyffroi trwyddo pan y clywodd fod Thomas Maxfield, y lleygwr, wedi ymgymeryd a phregethu, ac yn rhuthro i fynu i Lundain mewn nwyd er mwyn ei rwystro. Ond lliniarwyd llid Wesley gan ei fam. "Cymerwch ofal pa beth a wnewch, John," meddai wrtho; "y mae y dyn ieuanc yna wedi cael ei alw gan Dduw i bregethu mor wir a chwithau."

Ni fynai Howell Harris ychwaith ymuno a'r Ymneillduwyr, er mwyn dwyn ei weithrediadau o'r tu fewn i derfynau rheoleidd-dra; yr oedd eu deddfoldeb, eu dadleuon, eu rhagfarnau, ac yn arbenig eu hoerni crefyddol yn annyoddefol iddo, er fod ganddo barch mawr i'w gweinidogion efengylaidd, a'i fod yn cydweithredu yn galonog â hwy. Rhwng pob peth yr oedd ei feddwl yn gythryblus ynddo, a gwnai aml gyhuddiadau yr offeiriaid a'r gweinidogion Ymneillduol anefengylaidd y cythrwfl yn fwy. Ond penderfynu myned yn mlaen a'i waith a wnaeth er pob peth. A diwedd y flwyddyn 1738, derbyniodd lythyr calonogol oddiwrth Whitefield. Ewch yn mlaen, anwyl frawd," medd y Diwygiwr Seisnig, "ewch yn mlaen; ymgryfhewch yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef. Y mae, a bydd, llawer o wrthwynebwyr, ond nac ofnwch. Bydd i'r hwn a'ch anfonodd eich cynorthwyo, eich cysuro, a'ch dyogelu, a'ch gwneyd yn fwy na choncwerwr trwy ei fawr gariad. Fy anwyl frawd, yr wyf yn eich caru yn ymysgaroedd yr Arglwydd Iesu, ac yn dymuno i chwi fod yn dad ysprydol miloedd, a llewyrchu fel yr haul yn y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad Nefol. Fy serch calonog at Mr. Jones (Griffith Jones, Llanddowror). O! fel y llawenychaf eich cyfarfod gerbron mainc Crist." Y mae y llythyr hwn yn ddyddorol ar gyfrif mai dyma yr ymgyfathrach cyntaf rhwng y Diwygwyr Cymreig a Methodistiaid Lloegr. Llonodd ei gynwys yspryd Howell Harris yn fawr; yr oedd iddo fel dyfroedd oerion i enaid sychedig; cadarnhawyd ef yn ei gred ei fod tan arweiniad yr Yspryd Glân. A diau fod ei ddylanwad yn fwy, gan mai gŵr wedi derbyn urddau esgobol, ac o enwogrwydd gweinidogaethol digyffelyb, oedd wedi ei ysgrifenu. Ysgrifenodd yntau lythyr caruaidd yn ol yn fuan, yn rhoddi byr hanes am y diwygiad yn Nghymru. Gwedi ei dderbyn dywedai Whiteheld: " Y mae Mr. Howell Harris a minau yn gohebu; bendigedig fyddo Duw! Bydded i mi ei ganlyn fel y mae efe yn canlyn Iesu Grist. Gymaint yn mlaen yw efe arnaf!" Dyma ddechreuad ymgyfathrach a ddaeth yn gyfeillgarwch o'r fath fwyaf anwyl, ac a barhaodd tra y buont byw ill deuoedd. Tawelodd llythyr Mr. Whitefield amheuon ei feddwl i raddau mawr; ond dywed na chafodd lwyr ymwared oddiwrthynt nes iddo gael ei wysio i wydd person o urddas i roddi cyfrif am ei ymddygiad, pan y daeth gyda nerth i'w enaid y geiriau sydd yn Datguddiad iii. 7, 8: "Wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau." Cwbl gredodd ddarfod i'r geiriau gael eu hanfon i'w feddwl fel cenadwri uniongyrchol oddiwrth yr Yspryd Glân, ac nid amheuodd drachefn.

Nid oedd derfyn ar yni a gweithgarwch Howell Harris, a chawn ef ddechreu y flwyddyn 1739 ar daith eto yn Morganwg a Mynwy. Ceir hanes rhan o'r daith mewn dalenau o'i ddydd-lyfr, o ba un y gwnawn ychydig ddifyniadau. Y mae difynu yr oll allan o'r cwestiwn, ni fyddai pen draw ar y cyfrolau a lenwid, oblegyd ysgrifenai y Diwygiwr yn ddiderfyn; croniclai nid yn unig y digwyddiadau ai cyfarfyddai, ond hefyd ei fyfyrdodau, a theimladau ei galon.

"COLLENE, GER. TREFEURIG, Sul (lonawr 9, 1789). Deffro yn foreu. Codi gwedi wyth. Yn farwaidd mewn dyledswydd, ond yn teimlo dymuniad am fod ar ben fy hun, yn dal cymdeithas a fy Nuw. Marwaidd hefyd yn y weddi deuluaidd. Oddeutu deg, myned tuag eglwys Llanharry; ac ar y ffordd meddwl am yr hyn a draethwn; ond gwedi hyny cefais ystyriaethau ddarfod i Dduw fy ngwneyd er ei ogoniant ei hun. Teimlwn ddiofalwch pa beth a ddeuai o honof, a pha beth a ddywedid am danaf, ond i mi gael fy ngynorthwyo i ogoneddu Duw. O Arglwydd, ai ni wnei ganiatau hyni mi? Nid wyf yn gofyn am ddim arall mewn bywyd. Pe ei caniateid byddwn y dyn dedwyddaf o fewn y byd. Dwfn ddymuniad fy enaid yw bod yn ddim yn fy ngolwg fy hun, a byw i Dduw. Ond och ! pan fyddwyf yn ymadroddi, fynychaf nis gallaf ganfod o ba le y mae yr ymadrodd yn tarddu; a yw yn tarddu oddiar ras, a chariad at Dduw, ynte oddiar yr arferiad o siarad. Myned i eglwys Llanharry gwedi un-ar-ddeg (yn agos i ddeuddeg). "Teimlo ar y cyntaf yn gysglyd; gwedi hyny llanwyd fi oddimewn a thosturi at yr eneidiau oedd o'm cwmpas. Gwedi tri, myned allan, a gweled pobl ddeillion yn mhob man yn halogi Dydd yr Arglwydd mewn anwybodaeth, a chael fy llanw a thosturi atynt. Yna tynwyd fi allan i weddïo: "O Arglwydd, anfon ddynion ffyddlon i'th winllan! O Arglwydd, ai nid ydwyt yn Dduw trugaredd ? O, ai nid dy gariad a ddanfonodd dy Fab i' byd ar y cyntaf? O, ai nid ydwyt eto yn parhau yn Dduw y cariad? O, ai nid ydwyt yn canfod dy greaduriaid tlawd mewn anwybodaeth o honot ti yn mhob man? Anfon weithwyr!" Wedi hyn, gorchfygwyd fi gan deimlad anniddig ac anfoddog, nes y darostyngwyd fi, wrth ganfod mor lleied or ddwyfol natur ynof. Ofnwn fyned i lefaru heno, gan fy mod wedi fy llenwi a meddyliau angharedig am gyfeillion anwyl, yn enwedig Mr. Edmund Jones. Daeth hunan i mewn, i holi beth a ddywedwn heno, gan ei fod ef (Edmund Jones, yn ddiau) wedi dyfod i'm gwrando. Myned i fysg y bobl o gwmpas chwech, pan oedd Mr. Henry Davies yn gweddïo, pan y dygwyd fi i deimlo mwy o'm hanneilyngdod, ac i ddymuno ar i rywun arall gymeryd y gwaith mewn llaw. O, yr wyf wedi fforffetio pob ffafr; delir fì i fynu yn unig gan hyn, y gall Duw fy nghynal, ac nad yw yn rhoddi cymorth er fy mwyn i, ond er mwyn ei Fab. Y mae dau beth, y rhai, pe y caem olwg arnynt, a'n cyfnewidiai yn fawr; golwg arnom ein hunain, a golwg ar Dduw yn ei holl briodoleddau. Cynorthwywyd fi i orchfygu y teimlad slafaidd, hunangeisiol, o geisio boddhau dynion. Yn y man cefais ddrws agored, (dangosais) yn y modd mwyaf arswydus a chryf fel y caiff y duwiol fwynhau Duw mewn cariad, a'r annuwiol mewn dychryn, a hyny yn fwy argyhoeddiadol nag erioed, ac heb dderbyn wyneb. (Dangosais) o ba beth y mae uffern wedi cael ei gwneyd, a'r modd y mae rhieni yn dwyn eu plant i fynu." Wedi myned dros lawer o'r pethau a draethwyd ganddo, ychwanega: "Cefais ryddid. ymadrodd mawr mewn gweddi ar y diwedd. Yr oeddwn yn wan iawn o ran fy nghorff o eisiau bwyta, ond gweddïais am nerth, A CHYNORTHWYWYD FI. Yn ganlynol, wedi mwynhau cymdeithas cyfeillion, i gyflawni fy awenydd, derbyniais lythyr oddiwrth Mr. Whitefield. Ac wrth weled ei fod yn un a mi mewn yspryd, yr hyn a brofais i yn fynych yn fy enaid tuag ato ef, er heb unrhyw obaith ei weled ef i lawr (yn Nghymru) na chlywed oddiwrtho, synwyd fi at ddaioni Duw." Ymddengys oddiwrth y difyniadau hyn, yn y rhai y lleda Howell Harris ei galon ger ein bron, fod Edmund Jones, Pontypŵl, yn dechreu dangos yr yspryd proselytio, a'r duedd i droi llafur y Diwygiwr yn fantais i'w enwad ei hun, am yr hyn y gweinyddir cerydd tyner iddo yn nes yn mlaen. Yn nhynerwch ei gydwybod beia Harris ei hunan am roddi lle i

—————————————

ATHROFA'R IARLLES HUNTINGDON YN NHREFECCA

A gymerwyd allan o'r Evangelical Register 1824

—————————————

syniad o'r fath; ond daeth yn amlwg, yn mhen ychydig, fod y dybiaeth y gwrthodai roddi lle iddi yn ei fynwes yn sylfaenedig ar ffaith. (Gwelir hefyd mai yn y Collene, yn Morganwg, ar y 9fed o lonawr, y derbyniodd lythyr Mr. Whitefield, er i'r llythyr gael ei ysgrifenu y 26ain o Rhagfyr, y flwyddyn flaenorol. Rhaid cofio fod y trefniadau ynglyn a llythyrau y pryd hwnw yn anmherffaith iawn, a thebygol ddarfod i'r llythyr fyned yn nghyntaf i Drefec chael ei ddanfon oddiyno ar ol Mr. Harris

" TREFEURIG, Llun, lonawr IO, 1739. Deffro yn fynych; medrwn godi, ond esgeulusais. Codi o gwmpas wyth. Yr wyf yn gobeithio y dygir fi i fuddugoliaeth lwyr ar y cnawd. Gweddi breifat; marwaidd, marwaidd; ond cefais benderfyniad i ddisgwyl. Wrth weled fod son am danaf. wedi ymledu tros Loegr, ac mor barod yw fy nghalon i ymchwyddo, a pha mor arwynebol ydwyf, parwyd i mi lefain gyda gofid yn fy enaid: *O Arglwydd, yr wyf yn ofni fod hyn oll yn tueddu i'm dinystr, o herwydd balchder fy nghalon fy hun. Mor llithrig yw y lle yr wyf yn sefyll arno!

Diolch nad aethum o gwmpas er mwyn cael enw. O na fyddwn yn ddinod! Ond, O Arglwydd, yr wyf yn cyflwyno yr oll i ti. Yr wyf yn ewyllysgar i fyned os wyt ti yn fy anfon, digwydded y peth a ddig wyddo i mi. Gelli di ddarostwng holl falchder fy nghalon, a'm cadw yn ostyngedig. O Arglwydd, tosturia wrth y byd. Estyn einioes Mr. Whitefield, Mr. Griffth Jones, Mr. Edmund Jones, a dy holl rai ffyddlon. Os yw y Bedyddwyr yn cyfeiliorni, gosod hwy ar yr iawn. Na fydded hyn (bedydd) yn achlysur ymraniad yn ein mysg. Bydded i ni oll fod yn un. O, yr wyf yn ofni dadleuon, ynghyd a'u canlyniadau i'r cywion (dychweledigion) ieuainc. Yr wyf yn dy glodfori am gynifer o rai ffyddlon. Ti wyddost, O Arglwydd, mor anghymwys wyf i fyned i'r cyhoedd: mor fach yw yr amser sydd genyf i ddarllen; ac mor ychydig o allu sydd genyf i dreulio ac i ddal. O, mi a hoffwn fod yn ddiwyd, ond gan na fedraf, yr wyf yn cyflwyno fy hun i ti; goleua di íì, ac arwain fi i bob gwirionedd. Bydded i mi gael rhagor o oleuni ar dy Air, Os ydwyf yn un o dy blant, bydded i mi deimlo mwy o ddyddordeb yn dy achos; yna mi a allwn dy glodfori yn dragywydd. Cynorthwya fi heddyw i fod yn hyf drosot ti, a gwared fi rhag yr anghenfil hwn, hunan.' "

Dydd Llun y mae yn gadael Trefeurig, ac yn croesi y mynydd heibio Tonyrefail, gan gyrhaedd Cymmer, yn Nghwm Rhondda, tua chanol dydd.

"Cymmer. Llefaru ar y ffordd. Ond fflachiadau yw y cwbl sydd yn perthyn i mi; nid yw yn tarddu oddiar gariad. Yr wyf yn gweled hunan o hyd yn chwerthin o herwydd gwendidau fy nghyd greaduriaid. O, beth wyf fi, fel y cawn fod yn yr un byd a saint Duw? Ond os gwneir fi rywbryd yn rhywbeth dros Grist, bydd er gogoniant tragywyddol rhad gariad. Ar y ffordd, clywed am un o'r Methodistiaid, cadben ar y môr, yn cynghori y milwyr. Llanwyd fy enaid a llawenydd am oriau o'r herwydd. Cefais hiraeth dwfn ac wylo yn fy enaid am Yspryd Duw. O na chawn dy Yspryd, Arglwydd; onide beth a wnaf a dy seiadau di? Yn Cymmer gwedi un, dechreu (trwy ddweyd) Ai nid yw dynion mewn carchar yn llawen wrth glywed am un i'w rhyddhau? A'r claf, wrth glywed am physygwr? Ond yr ydym ni yn farw, yn farw mewn pechod. Cymell i ymgadw rhag dawnsio a phob chwareuyddiaethau. Crist yn dwyn pechaduriaid ato ei hun trwy argyhoeddiad. Y gair (wrth argyhoeddi) yn gyffelyb i dân, i ordd, i oleuni, i gleddyf, ac i sebon. Cyfeirio at yr Iddewon yn cael eu dwysbigo, ac at Nebuchodonosor. Nodau argyhoeddiad ydynt, golchiad y galon, tynu y galon oddiwrth bob peth ato ef, ein tynu i beidio ymddiried ynom ein hunain. Cael peth hyfrydwch a phleser yn y gwaith; rhyw gymaint o gariad at yr eneidiau, a thosturi atynt; ynghyd a hiraeth am Dduw. Rhoddodd Duw i ni hin hyfryd heddyw. Gwedi hyn argyhoeddwyd fi gan Mr. Henry Davies o fy anniolchgarwch i'r Arglwydd am yr help yr oedd yn roi, a'm bod o'r herwydd yn fforffetio'r cwbl; ac o'r ychydig gariad sydd yn fy enaid."

Boreu dydd Mawrth, Ionawr 11, y mae yn llefaru yn Cymmer drachefn, yn teithio rhyw bedair milldir ar hyd Cwm Rhondda, nes cyrhaedd Ynysyngharad, ger Pontypridd. Dydd Mercher, lonawr 12, cawn ef wedi croesi y mynydd ar ei draws, ac yn y Parc, plwyf Eglwysilan; a phrydnhawn yr un dydd mewn lle o'r enw Tynycoed. Rhaid difynu rhan o'i ddydd-lyfr yma eto: "Cawsom dynerwch hyfryd, ac yspryd cariad at y bobl ieuainc; ac yr wyf yn gobeithio ddarfod cael rhai o honynt i Grist. Gwedi un, lleferais hyd o gwmpas pedwar. Cawsom heddyw eto yr hin yn hyfryd; nid yn aml y ceir y fath dywydd yr adeg hon o'r flwyddyn. Yr wyf yn gobeithio fod Duw gyda ni. Rhoddwyd i mi beth a ddywedwn; nid oeddwn wedi ei ragfeddwl, gan y bwriadwn lefaru ar fater arall. Gwedi hyny, myned tua Llanbradach Fach, ac ar y ffordd cael ymosod arnaf gan Fedyddiwr, yr hwn a geisiai bigo cweryl a mi. Teimlais oddimewn i mi wrthnaws at y ddadleuaeth, oblegyd ofn y canlyniadau. Nis gallaf ddweyd beth sydd yn peri fy mod yn cael fy yspryd yn fwy yn erbyn y rhai hyn na neb, oddigerth y Pabyddion. Yr wyf yn ofni fod penboethiaid yn eu mysg, y rhai, os na wel Duw yn dda eu darostwng, a wnant niwed i eglwys Crist. Ond yr wyf yn hwyrfrydig i gymeryd i fynu y pastwn yn eu herbyn; nid rhag ofn y ddadl, oblegyd yr wyf yn glir ar y mater, eithr rhag tynu i lawr waith hyfryd y diwygiad. Yr wyf yn gweled nodau y rhagrithiwr yn amlwg ar y penboethiaid yma. Yn un peth, y mae holl gyfeiriad eu hymddiddan tuag at hyn (bedydd), a dim ond ychydig am Grist. Yn ail, y mae eu cariad gwresog yn gyfyngedig i'r rhai o'r un opiniwn a hwy eu hunain; ond eiddo y dyn duwiol at holl aelodau eglwys Crist. Yn drydydd, y mae eu holl awyddfryd yn amlwg am wneyd proselytiaid iddynt eu hunain, ac awyddfryd y duwiol am ddwyn dychweledigion at Grist, O 7 hyd 11, noswaith anghyffredin o hyfryd; ni welais un mor hyfryd; o leiaf yr un yn fwy. Rhoddwyd i mi (yr hyn a ddywedwn); ond ni phrofais ddigon yn fy yspryd. Argoelion dymunol heno.

Llanbradach Fach, Dydd lau (Ionawr 13). Dihuno yn foreu, a chodi am naw. Cefais gymorth wrth edrych ar y groes. Yr wyf yn gobeithio fod ei angau ef yn marweiddio pechod ynof. Am ddeg, gweddi ddirgel, a chael fy narostwng gan deimlad o fawredd Duw, fel nas gallwn edrych i fynu. 'O Arglwydd, er mwyn Crist, ac nid er mwyn fy nagrau a'm gweddïau tlawd i (oblegyd yr wyf yn wael, fel y pryf gwaelaf sydd yn ymlusgo ar dy ddaear, yn ceisio hunan a phechod), ai ni rynga bodd i ti i'n cadw ni rhag dadleuon, oblegyd eu canlyniadau? O leiaf, Arglwydd, yr wyf yn dymuno ar i ti fy nghadw i allan o'r ddadl, a danfon rhywun arall i'w chymeryd mewn llaw. Ond os wyt yn fy anfon, yr wyf yn foddlon gwneyd pa beth bynag wyt ti yn ewyllysio.' Yna parwyd i fy enaid weled cymaint o ddaioni Duw, fel y tynwyd fì allan mewn clodforedd—'O Arglwydd, yn sicr dylwn dy folianu yn barhaus am yr hyn wyt wedi ei wneyd mor rhyfedd erof. A wnai di dderbyn fy mawl? Cadw fì yn isel, canys yr wyf oll yn bechod. Dyma fy ngweddi, tosturia wrthyf; yr wyf yn bwrw y cwbl arnat ti. Yr wyf yn ymddiried ynot, pan yr af i Gaerdydd, ar roddi i mi yr ymadrodd yno er dy ogoniant.'"

Yn nesaf, dydd Gwener, lonawr 14, yr ydym yn ei gael yn Werndomen, ffermdy ger Caerphili. Yma eto y mae y Bedyddwyr yn ei flino. Ysgrifena: "O Arglwydd, yr wyf yn myned heddyw i lefaru; pa beth a wnaf ac a ddywedaf? A wnai di fy nghadw rhag dynion penboeth i boenydio fy enaid? Os mynet ti, Arglwydd, i mi newid fy marn, gad i mi weled dy ewyllys; ac os arweini di hwy ataf fi, bydded i mi fod yn gywir. O, bydded i ni gael cariad ac undeb. Yr wyt yn canfod nad wyf fi am ymresymu, os rhynga dy fodd di i'm cadw rhagddo. O, ni wnawn ymddadleu oni bai i ti fy anfon."

Gwedi hyn yr ydym heb hanes am dano hyd dydd Mercher, Ionawr 19, pan yr ydym yn ei gael yn Gwrhay, ger Mynydd Islwyn. Ai rhan o'r dydd-lyfr sydd ar goll, ynte a ddarfu iddo ef beidio ysgrifenu, nis gwyddom. Nid oes genym ond dyfalu hefyd pa le y treuliodd yr amser cydrhwng, ond y mae yn fwy na thebyg iddo fyned i Gaerdydd fel yr arfaethasai. Dydd lau, Ionawr 20, y mae yn Llanheiddel, ger Pontypŵl. Dydd Gwener, Ionawr 21, cawn ef yn Mlaenau Gwent; a'r Sul dilynol yn Llanbedr — Llanbedr, ger Crughy wel, yn ol pob tebyg—heb fod yn nepell o'i gartref.

Gwelwn ei fod yn teithio ar draws gwlad, o orllewin Morganwg hyd y rhan ddwyreiniol o Fynwy, a bod y Parchedigion Edmund Jones, Pontypŵl, a Henry Davies, gydag ef am ran o'r daith. Ai Henry Davies, Bryngwrach, a olygir; ynte Henry Davies, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llantrisant, sydd ansicr. Y mae y tebygolrwydd yn ffafr y diweddaf. Anmhosibl darllen ei ddyddlyfr heb deimlo fod ei holl fryd ar achub ei gydgenedl. Teimlir ei fod yn byw yn y byd ysprydol; prin y mae y ddaear a'i helynt yn bod iddo; ei berthynas â Duw, a'r gwaith mawr a pha un yr ymgymerasai, sydd wedi llyncu ei enaid. Er ei fod yn achwyn ar y Bedyddwyr, y mae yn amlwg na theimlai unrhyw chwerwder yspryd atynt. Ofni yr ydoedd fod rhoddi y fath arbenigrwydd y pryd hwnw ar fedydd, ac ymgolli mewn dadleuaeth mewn perthynas iddo, yn rhwystr ar ffordd cerbyd y diwygiad. Buasai ef yn hollol foddlawn i gydweithio a'r Bedyddwyr pe y gallent suddo ei hoff bwnc, ac ymroddi i gyhoeddi Crist yn Geidwad i bechaduriaid. Yr ydym trwy y dydd-lyfr yn gallu edrych i mewn i ddyfnderoedd ei galon; y mae cilfachau pellaf ei yspryd yn cael eu datguddio; braidd nad yw yn tueddu i ddwyn i'r wyneb ei feiau yn hytrach na'i rinweddau; a gwelwn mor syml yr ydoedd, mor ostyngedig, ac mor awyddus am gadw ei hunan i lawr, ac i roddi yr holl glod i Dduw. Mor bell ag y gallwn gasglu oddiwrth y nodiadau a geir, gwasgarog oedd ei bregethau; ni ddangosent feddylgarwch dwfn, ac nid ymdriniai ynddynt o gwbl a phynciau duwinyddol dyfnion. Ond yr oedd saeth ar flaen pob brawddeg, yr hon a anelai yn syth at galonau pechaduriaid; a thaflai yntau ei holl yspryd i'r gwaith pan yn tynu yn y bwa, fel nad oedd yn rhyfedd fod dynion wrth yr ugeiniau a'r canoedd yn cael eu clwyfo.

"Dewch, gwrandewch ef yn pregethu,
Calon ddrwg, lygredig dyn,
Ac yn olrhain troion anial,
A dichellion sy' yno ynglyn;
Dod i'r goleu a dirgelion
I rai duwiol oedd yn nghudd,
Agor hen 'stafelloedd tywyll
Angau glas, i oleu'r dydd.

Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Dyfnder iachawdwriaeth gras,
Gosod allan y Messiah
Yn y lliw hyfryta 'maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig,
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."

Ymddengys ddarfod i Harris dreulio mis Chwefror, 1739, yn ymweled a gwahanol leoedd yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a gogledd-orllewin Morganwg; felly y dengys ei ddydd-lyfr. Nid anhebyg iddo gael ei rwystro i fyne'd i'r Gogledd, fel y bwriadasai, gan lythyr oddiwrth Mr. Whitefield, yn addaw dyfod i Gymru. Ymglymasai calonau y ddau yn rhyfedd, er nad oeddynt wedi gweled eu gilydd yn y cnawd. Cychwynodd Whitefield o Bryste Mawrth 6. Ffaith ddyddorol yn ei hanes yw mai rhyw bythefnos cyn hyny y pregethasai gyntaf yn yr awyr agored, a hyny i lowyr Bryste, pan yr oedd holl eglwysi y ddinas wedi cael eu cau yn ei erbyn. O hyn allan, pregethai pa le bynag y cai gyfleustra, heb holi pa un a oedd esgob wedi cysegru y ddaear â halen ai peidio. Er ei bod yn gynar yn y flwyddyn, a'r hin mewn canlyniad yn oer, tyrai miloedd i'w wrando yn Mryste; ar un amgylchiad dywed fod tuag wyth mil o bobl yn bresenol, tra y llefarai ar bowling green a fenthycasid iddo. Yr oedd hefyd newydd gyfarfod a'r Hybarch Grifíith Jones, Llanddowror, yn Bath, gan yr hwn y cawsai hanes Cymru, ac yn ol pob tebyg hanes manylach am Howell Harris, a'r gwahanol rwystrau ar ffordd llwyddiant yr efengyl yn y Dywysogaeth. Teimlai Whitefield ei galon yn cynhesu at yr hen filwr, a chafodd ei argyhoeddi nad oedd ef ond milwr dibrofiad iawn eto. Yn nghwmni ei gydymaith, Mr. William Seward cyrhaeddodd y New Passage prydnhawn dydd Llun, Mawrth 6. Yma cyfarfuant a'r Parch. Nathaniel Well, offeiriad Caerdydd, yr hwn a deimlai y fath lid at y Methodistiaid, fel na wnai groesi yn yr un cwch a'r ddau efengylwr. ond o herwydd tywydd ystormus, gorfodwyd hwy i aros yma am ddeuddeg awr, ac nid oedd gan Mr. Well well ffordd i dreulio ei amser na thrwy chwareu cardiau. Achwynai Mr. Well fod y ddau yn canu hymnau pan yn croesi y sianel, fel yr oedd y llywiwr yn methu clywed llais y dyn oedd yn gwylio, nes y bu raid eu rhwystro. Sicrhâi hefyd na chai Mr. Whitefield ei eglwys i bregethu ynddi. " Gobeithio," meddai William Seward, "fod y meusydd yn wynion yn Nghaerdydd, fel ag yn Mryste. Y mae yno hefyd seiat yn disgwyl am danom." Awgryma hyn fod eglwys Fethodistaidd wedi cael ei sefydlu yn barod yn Nghaerdydd trwy offerynoliaeth Howell Harris. Cyrhaeddodd Whitefield a Seward Gaerdydd o gwmpas un-ar-ddeg dydd Mercher.

Dechreuodd Whitefield ar unwaith gynghori y bobl oedd yn y gwest-dy, tra yr aeth Seward i chwilio am le i bregethu ynddo. Cafodd, trwy ryw ddylanwad, neuadd y dref, a phregethodd Whitefield o sedd y barnwr i gynulleidfa o bedwar cant; gwrandawai y rhan fwyaf yn sylwgar, ond gwatwarai rhai. Gyda ei fod yn disgyn o'i sedd, pwy a welai ond Howell Harris. Teithiasai Harris trwy Gwm Tâf Fawr, ac arosai y nos flaenorol yn Eglwysilan, nid anhebyg yn nhŷ Mr. David Williams. Y cwestiwn cyntaf a ofynodd i'r Diwygiwr Cymreig oedd: "A ydych yn gwybod fod eich pechodau wedi cael eu maddeu? "Prin y medrai Harris ateb, gan mor sydyn y daeth y gofyniad ar ei draws. "Pan gyntaf y gwelais ef," meddai Whitefield, "ymglymodd fy nghalon am dano; yr oedd arnaf eisiau derbyn rhyw gymaint o'i dân; a rhoddais iddo ddeheulaw cymdeithas a'm holl galon. Treuliasom yr hwyr mewn adrodd y naill wrth y llall beth oedd Duw wedi ei wneyd i'n henaid; cymerasom i ystyriaeth hefyd achosion y gwahanol seiadau; a chytunasom ar y mesurau hyny ag a ymddangosai y mwyaf tebygol i lwyddo gwaith ein Harglwydd." Gwelir yma fel yr ymgynghorai y Diwygwyr a'u gilydd; a'r ymgynghoriadau anffurfiol hyn a ymddadblygasant yn raddol i fod yn gyfansoddiad trefnus, gyda Chymdeithasfa a Chyfarfodydd Misol. Treuliwyd boreu dydd lau, Mawrth 9, mewn gweddi ac ymddiddan gydag aelodau y seiat yn Nghaerdydd. Am ddeg, pregethai Whitefield yn neuadd y dref i gynulleidfa fawr, gydag Harris yn eistedd yn glos wrth ei ochr. Tra y llefarai, yr oedd rhyw greaduriaid anystyriol oddiatan yn llusgo llwynog marw o gwmpas, ac yn ceisio cael y cwn cadnaw i'w hela, i rwystro'r odfa. Wedi gorphen, aeth y ddau Ddiwygiwr, yn nghwmni dau weinidog Ymneillduol, i wasanaeth a gynhelid yn yr eglwys. Ysgrifena Whitefield yn ei ddydd-lyfr am Howell Harris: "Goleuni dysglaer a llosgedig a fu efe yn y rhan hon o'r wlad; gwrthglawdd yn erbyn cabledd ac anfoesoldeb; a gweithiwr difefl yn efengyl Iesu Grist. Er ys rhyw dair neu bedair blynedd y mae Duw wedi ei dueddu i fyned o gwmpas i wneyd daioni. Y mae yn awr o gwmpas pum' -mlwydd ar-hugain oed. Ddwy waith appeliodd am urddau sanctaidd, a châdd ei wrthod ar yr honiad twyllodrus nad oedd mewn oed, er ei fod y pryd hwnw yn ddwy-flwydd-ar-hugain a chwech mis. Tua mis yn ol cynygiodd ei hun drachefn, ond trowyd ef heibio. Er hyn y mae yn benderfynol i fyned yn y blaen gyda'i waith. Er ys tair blynedd y mae wedi llefaru braidd ddwy waith bron bob dydd, am dair neu bedair awr or bron, nid yn awdurdodol fel gweinidog, ond fel person preifat yn cynghori ei frodyr. Y mae wedi teithio saith sir, gan fyned i wylnosau, &c., er troi y bobl oddiwrth wagedd a chelwydd. Llawer o bobl y tafarndai, ynghyd a'r ffidleriaid, a'r telynwyr, a achwynant arno am spwylo eu galwedigaeth. Gwnaed ef yn wrthrych lliaws o bregethau; bygythiwyd ef ag erlyniad cyfreithiol, ac anfonwyd cwnstebli i'w ddal. Ond y mae Duw wedi ei fendithio a dewrder anhyblyg; ac y mae yn parhau i fyned yn ei flaen o fuddugoliaeth i fuddugoliaeth. Y mae o'r yspryd mwyaf catholig, yn caru pawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist; ac felly gelwir ef gan benboethiaid yn Ddisenter. Geilw llawer ef yn dad ysprydol, a rhoddent. yr wyf yn credu, eu bywydau i lawr drosto. Llefara fynychaf mewn maes, bryd arall mewn tŷ, oddiar fur, bwrdd, neu rywbeth arall. Y mae wedi sefydlu tua. deg-ar-hugain o seiadau, a pharha cylch ei ddefnyddioldeb i ymeangu. Y mae yn llawn o ffydd, ac o'r Yspryd Glan."

—————————————

ATHROFA'R IARLLES HUNTINGTON, FEL Y MAE YN BRESENOL.

—————————————

Yr ydym wedi difynu mor helaeth o'r dydd-lyfr, am y ceir ynddo gryn lawer o hanes Howell Harris, ac hefyd am y dengys deimlad cynes Whitefield tuag ato. Teimlai Harris lawn mor gynes ato yntau. Dywed ei fod yn ei garu am ei fod ef yn caru yr Arglwydd Iesu. Ymddengys ddarfod i Howell Harris bregethu yn Nghaerdydd yn ogystal, a dywed iddo wneyd gyda gradd o awdurdod. Dydd Gwener, y maent yn gadael Caerdydd, ac yn cyrhaedd Casnewydd. Cafodd Whitefield bwlpud yr eglwys yno; daeth llu o Bontypŵl a manau eraill i'w wrando; a chyfrifid y gynulleidfa yn fil o bobl. Aeth Howell Harris gydag ef i Fryste; treuliodd yno ac yn Bath, lle y gwasanaethai Griffith Jones ar y pryd, o ddydd Sadwrn hyd i dydd Mercher, gan bregethu i'r glowyr ar y maes, ac yn y seiadau yn ogystal. Diau fod angerddolrwydd ei yspryd, a' tân Cymreig a fflamiai o'i fewn, yn synu y Saeson, ac yn dylanwadu yn fawr arnynt. Cyn dychwelyd, cyflwynodd Mr. Seward oriawr iddo, fel prawf o'i serch. Dydd Iau, Mawrth 16, cawn ef yn llefaru yn Eglwysnewydd, tair milldir o Gaerdydd; dydd Gwener y mae yn Mhontypŵl, dydd Sadwrn yn Llanfihangel, yn yr un gymydogaeth; y Sul yn Mynyddislwyn; yn Maesaleg, ger Casnewydd, y Llun; yn Pentre Bach dydd Mawrth, yn St. Bride dydd Mercher, yn ol yn Nghaerdydd dydd lau, yn Ynysyngharad, ger Pontypridd, y Sadwrn, yn Parc Eglwysilan y Sul, yn Llanwono y Llun, Aberdâr dydd Mawrth, Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, dydd Mercher, a nos yr un dydd yn Faenor, yr ochr arall i Ferthyr, a dydd lau, Mawrth 30, y mae yn Cantref, wrth waelod Bannau Brycheiniog, o fewn taith diwrnod i'w gartref. Cyrhaeddodd Drefecca yn ddiau y dydd canlynol, wedi taith o rhwng tair wythnos a mis.

Eithr nid oedd gorphwys i was yr Arglwydd. Llai nag wythnos a gafodd yn ei gartref, oblegyd, Ebrill 5, yr ydym yn ei gael drachefn yn Brynbiga (Usk), yn Sir Fynwy, yn cyfarfod Whitefield ar ei ail ymweliad â Chymru. Gwrthodwyd yr eglwys iddynt yno; a phregethodd Whitefield oddiar fwrdd dan gysgod coeden fawr, a Harris ar ei ol yn Gymraeg. Dilynwyd hwy gan osgordd o tua haner cant o wŷr i Bontypŵl; cawsant yr eglwys yno; ond gan nad oedd lle i'r lliaws a ymgynullasai yn yr adeilad, pregethasant drachefn ar y maes. Yn nghwmni tua deg-ar-hugain o wŷr ceffylau, aethant i'r Fenni; cyffelybai Whitefield hwy i Joshua a'i fyddin yn goresgyn gwlad Canaan. Cawsant gynulleidfa o tua dwy fil yn yr awyr agored, ac nid arbedasant y gwatwarwyr bonheddig wrth lefaru. Disgwyliasent gynhwrf yn y Fenni, ond ni feiddiodd neb agor ei enau i'w herbyn. Cawn hwy yn myned oddiyno i Cwm lau, at yr offeiriad duwiol, Mr. Jones; ond yr oedd y gynulleidfa yn rhy fawr i'r eglwys, a llefarasant yn y fynwent. Gwaith un dydd oedd hyn oll. Ebrill 6, cyrhaeddasant Gaerlleon-ar-Wysg, yn nghwmni tua thriugain o wŷr ceffylau, "yr hon dref," meddai Whitefield, "sydd yn enwog am fod deg-ar-hugain o frenhinoedd Prydeinig wedi eu claddu ynddi, a'i bod wedi cynyrchu tri o ferthyron ardderchog." Mewn maes yma yr oedd pwlpud wedi ei godi i Howell Harris pan yr ymwelasai a'r lle yn flaenorol; yn hwn y darfu i'r ddau bregethu yn awr; daethai miloedd i wrando, ond ni feiddiodd neb aflonyddu, er iddynt guro drwm a bloeddio pan y buasai Harris yma o'r blaen. Odfa ryfedd oedd hon, fel yr ymddengys. "Rhoddodd Duw i mi y fath gymorth anarferol," meddai Whitefield, "fel y cefais fy nghario yn mhell tu hwnt i mi fy hun." Ychwanega: "Gweddïais dros Howell Harris erbyn ei enw, fel yr wyf wedi gwneyd yn mhob lle y pregethais ynddo yn Nghymru. Na ato Duw i mi gywilyddio o herwydd fy Meistr na'i weision." Tebyg y cyfeiria at y ffaith fod Harris yn pregethu heb urddau. Priodola y Gloucester Journal, am Ebrill 24, 1739, fawredd y cynulleidfaoedd i serch personol at Mr. Whitefield, ac hefyd i'r athrawiaeth am yr enedigaeth newydd a bregethai. Prawf hyn mai ychydig o son oedd am ailenedigaeth yn mhwlpudau yr Eglwys. O Gaerlleon aethant i Trelech; y gareg farch, ger y gwest-dŷ, oedd eu pwlpud yno. Cawsant fynedfa i'r eglwys yn Nghaergwent, y dref Gymreig olaf iddynt ar y daith hon, a chawn hwy, Ebrill 9, yn cyrhaedd Caerloyw.

Yn y ddinas hon naceid yr eglwysi i Whitefield, y naill ar ol y llall, er mai dyma ei le genedigol; cymerodd yntau y maes, gyda Howell Harris wrth ei ochr, ac yr oedd eu cynulleidfaoedd yn fynych yn rhifo o dair i bedair mil. Fel hyn yr ysgrifena Whitefield: "Llefed y neb a fyno yn erbyn fy nghyndynrwydd, nis gallaf weled fy anwyl gydwladwyr a'm cydgristionogion yn mhob man yn suddo i ddinystr, o herwydd anwybodaeth ac angrhediniaeth, heb wneyd fy ngoreu i'w hargyhoeddi. Yr wyf yn galw ar y rhai sydd yn ceisio fy rhwystro i ddwyn yn mlaen reswm dros eu gwaith; rheswm nid yn unig a foddlona ddynion, ond Duw. Aelod o Eglwys Loegr ydwyf fi. Yr wyf yn dilyn yn glos ei herthyglau a'i homilïau; a phe y gwnelai fy ngwrthwynebwyr yr un peth, ni fyddai cymaint o Ymneillduwyr oddiwrthi. Ond y mae yn gyffredinol hysbys fod y wlad yn galaru oblegyd anwiredd yr offeiriaid. Yr ydym (ni yr offeiriaid) wedi pregethu a byw llawer o ddynion difrifol allan o'n cymundeb. Yr wyf wedi ymddiddan a nifer o oreuon y gwahanol enwadau, ac y mae llawer o honynt wedi tystio yn ddifrifol ddarfod iddynt adael yr Eglwys am na chaent yno fwyd i'w henaid. Arosasant yn ein mysg nes iddynt gael eu newynu allan." Geiriau ofnadwy o ddifrifol, ac yr ydym yn eu difynu am eu bod yn wir i'r llythyren gyda golwg ar Gymru. Darfu i'r Methodistiaid, a chorff y genedl gyda hwy, adael yr Eglwys Wladol, nid oblegyd syniadau neillduol gyda golwg ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, ond oblegyd fod eu heneidiau yn rhynu ac yn newynu i farwolaeth o'i mewn. Newyn am efengyl oedd yn yr Eglwys; yno cynygid careg i'r bobl yn lle bara, ac aethant hwythau i'r meusydd, lle yr oedd gwirionedd Duw yn cael ei bregethu gan dynion ffyddlon. Un o feibion ffyddlonaf Eglwys Loegr oedd Howell Harris; nid yw byth yn blino mynegu hyny; ond parodd anfoesoldeb buchedd, a difaterwch yr offeiriaid, iddo fod yn flaenllaw gyda mudiad a waghâodd yr eglwysi ar hyd a lled y wlad.

Ond i ddychwelyd, aeth Howell Harris gyda Whitefield i Lundain. Pregethent ar y ffordd, ac yr oedd nid yn unig tân, ond hefyd beiddgarwch penderfynol y Cymro o fantais ddirfawr. Yn nghymydogaeth Bryste, rhwystrwyd Whitefield i lefaru gan branciau a gwatwaredd rhyw chwareuwr, a bu raid iddo roddi i fynu. Neidiodd Harris i'r pwlpud, a chymerodd yn destun: "Daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?" Meddai y gwatwarwr annuwiol: "Fe safa i." "Beth!" llefai Harris, a'i lygaid yn melltenu yn ei ben, ac arswyd yn eistedd ar ei wedd; "Y ti sefyll! Y ti, brifyn diddim a gwael y fath ag wyt, sefyll o flaen llid yr Anfeidrol" Cwympodd y dyn fel marw i'r ddaear, a dywedir na adawodd y cryndod mo hono tra y bu byw. Cyrhaeddodd y Diwygwyr Lundain Ebrill 25, lle yr arhosodd Harris hyd ddechreu Mehefin. Tra yn y Brifddinas, elai yn fynych gyda Mr. Whitefield i gymdeithas grefyddol y Morafiaid yn Fetter Lane. Perthynai, nifer o ddynion duwiol a da i'r gymdeithas hon, ac yn eu mysg amrai o fonedd y tir, megys Arglwydd ac Arglwyddes Huntington, Syr John PhiIIips, y Cymro o Sir Benfro, a brawd yn-nghyfraith Griffith Jones, &c. Diau i Harris yma gael cymundeb wrth fodd ei galon. Cyffroid y gymdeithas ar y pryd gan y cwestiwn o hawl lleygwyr i bregethu. Meddai Charles Wesley, yn ei ddydd-lyfr: "Cyfododd dadl gyda golwg ar bregethu lleygwyr; yr oedd amryw yn zelog drosto; ond darfu i mi a Mr. Whitefield sefyll yn gryf yn erbyn." Yn raddol, pa fodd bynag, daeth Whitefield yn fwy cymhedrol; cawn ef yn ysgrifenu mewn llythyr at John Wesley, dyddiedig Mehefin 25, 1739" Yr wyf yn oedi barn ar ymddygiad y brodyr Cennick a Watkins, hyd nes y deallaf yr amgylchiadau yn well. Y mae gwahaniaeth mawr rhyngddynt hwy a Howell Harris. Y mae efe wedi ceisio urddau sanctaidd dair gwaith; bydd i mi ei gefnogi ef ynghyd a'r cyfeillion yn Nghaergrawnt." Rhoisai Harris y seiadau a ffurfiasid trwy ei offerynoliaeth dan ofal dynion ffyddlon, y rhai oeddynt i'w harolygu, ac i anfon gwybodaeth o'u hansawdd iddo ef i Lundain. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Meistri James Roberts; David Williams, Watford; Edmund Jones; a Henry Davies. Ysgrifena James Roberts ato Ebrill 17, 1739, ac y mae tôn ei lythyr braidd yn gellweirus: "Fy anwyl Howell," meddai, "gadewch i mi fod dipyn yn siriol gyda chwi. Yr ydych yn fath o Arolygydd, neu Arglwydd Archesgob, mewn amrai siroedd; felly, priodol i'ch caplan tlawd, yr hwn sydd wedi ufuddhau i'ch arch, ac wedi ysgrifenu y llythyr, o ba un y mae copi yn cael ei amgau i chwi, yw eich hysbysu am y modd y cyflawna ei ddyledswyddau." Y "llythyr" oedd cenadwri at yr eglwysi yn Longtown, Llandefathen, Crugcadarn, a Gwendwr. Ysgrifena Mr. Edmund Jones lythyr ato Mai 21, 1739, o ba un y difynwn a ganlyn: "Yr wyf wedi bod o gwmpas eich seiadau fel gwyliwr, i edrych sut yr oeddynt yn dod yn mlaen, a pha un a oedd y diafol yn ceisio eu niweidio; a gallaf ddweyd, diolch i Dduw, i mi gael y cwbl yn llwyddiannus. Ni chefais gymaint o bresenoldeb Duw er ys blynyddoedd ag a gefais ar y daith hon; yn enwedig yn Maesyronen, yn y weddi yn Gwendwr, y Sul yn Nhredwstan, a'r Llun yn Grwynefechan. Y mae eich cyfeillion yn Mrycheiniog yn hiraethu am eich gweled. Cefais nerth gan Dduw wrth weddïo drosoch yn Grwynefechan. Y mae y warrant yn eich erbyn wedi dyfod i ddim. Ni wnai y Cynghorwr Gwynn gyffwrdd a hi, na neb o'r ustusiaid, ond yr ustusiaid offeiriadol; yr oedd Price Davies (offeiriad Talgarth) yn neillduol i'w weled yn eich erbyn; ond llwfrhasant, ac ymddangosent fel yn cywilyddio o'r braidd y darfu i'r offeiriad James, o Lanamwch, yr hwn oedd mor weithgar yn eich erbyn, ddianc rhag boddi ychydig yn ol, yr hyn a haedda sylw. Yr wyf wedi ceisio gan y dynion ieuainc, perthynol i'r seiadau, i weddïo yn benodol dros y boneddwyr a safasant o'ch plaid." Profa y llythyrau hyn amryw bethau; (1) Fod yr Eglwyswyr, yn arbenig y personiaid, yn llawn llid eto yn erbyn Howell Harris, ac yn awyddus am ei gospi, pe y medrent. (2) Fod bonedd y wlad yn dechreu troi o blaid y diwygiad mewn amrywiol leoedd. (3) Fod Harris yn barod wedi sefydlu nifer o seiadau, y rhai oeddynt yn hollol ar wahan i'r eglwysi Ymneillduol oedd yn flaenorol yn y wlad, ac nad oedd y gweinidogion Anghydffurfiol hyd yn hyn yn eiddigus o'r herwydd.

Yn mis Mehefin, cawn Harris yn canu yn iach i'w gyfeillion yn Llundain, ac yn cyrhaedd Trefecca. Heb orphwys ond noson yn nhŷ ei fam, cychwyna i'r Fenni; yr oedd cymdeithas y brodyr yno mor felus, fel na fedrodd gyrhaedd adref hyd yr hwyr; ac yna bu yn ysgrifenu hyd un o'r gloch. Tranoeth pregetha ddwy waith yn y Gelli, Brycheiniog. Y dydd canlynol, wyneba ar gynulliad annuwiol yn Longtown, Sir Henffordd; gyda ei fod ar ymyl y dorf, clywodd ddyn yn rhegu, a cheryddodd ef yn llym. Aeth y si trwy yr holl le fod Howell Harris yno, a daeth torf o ryw ddwy fil o'i gwmpas. "Rhoddodd yr Arglwydd nerth i mi i ymosod ar y diafol ar ei randir ei hun," meddai; "gosododd fy wyneb fel callestr, gan fy llanw o'r hyn a ddywedwn. Yn enwedig, pan welais rai boneddwyr a boneddigesau yn dyfod i wrando, gwnaed fi yn gryfach gryfach i ddarostwng eu balchder," Appeliodd hefyd at yr ynadon, ac at offeiriad y plwyf, gan ofyn iddynt pa fodd y rhoddent gyfrif o'u goruchwyliaeth, gan eu bod yn cefnogi tyngu, a meddwdod. Chwarddodd rhai o'r boneddwyr; "tynwch y clebrwr i lawr," meddai un arall; "ond ni ddaethai fy amser eto," meddai. Wedi pregethu mewn amryw fanau, aeth i Bontypŵl, lle y llefarodd am wroldeb Daniel, a'r tri llanc, ac fel yr oedd yr Arglwydd wedi sefyll o blaid ei bobl yn nydd y frwydr. Eithr erbyn hyn yr oedd yspryd erlid wedi ei ddeffro yn Mhontypŵl Daeth ustus heddwch ar draws y gynulleidfa ac yntau, gan ddarllen deddf terfysg, a gorchymyn iddynt ymwahanu mewn awr o amser. Addawodd yntau y gwnaent; ond gofynodd iddo a oedd yn arfer darllen deddf terfysg yn y gwahanol gampau, ac yn yr ymladdfeydd ceiliogod? Rhoddwyd ar gwnstabl hefyd i gymeryd Harris i fynu. Mynai ef fyned i'r carchar, ond perswadiwyd ef i roddi meichiau, y gwnai ymddangos yn Sessiwn Trefynwy. Cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddo a'r ustus: —

Harris: "Nid oeddwn yn disgwyl mai mab yr Uchgadben H fuasai y cyntaf i ymosod ar gynulleidfa o Brotestaniaid heddychol; oblegyd dyn hynaws oedd efe."

Ustus: " Yr wyf wedi derbyn fy nghyfarwyddyd oddiuchod."

" Ai o'r nefoedd ydych yn feddwl?"

"Na, nid oeddwn yn golygu hyny."

"Dywedais wrtho," meddai Harris, "Pe y gwybuai ei fawrhydi mor deyrngar a diniwed ydym, na wnai feddwl yn uwch o hono ef am ein gorthrymu. Felly gadewais ef, wedi gadael rhai saethau yn ei gydwybod, a'i adgofio y rhaid iddo yntau roddi cyfrif gerbron gorsedd ofnadwy; ond y gwnawn weddïo drosto; a diolchodd yntau i mi." Yr oedd hyn ganol Mehefin, ac nid oedd y Sessiwn yn Nhrefynwy cyn Awst. Yn y cyfamser aeth Harris i Fryste, a phregethodd yno i gynulleidfa o Gymry. Cyfarfyddodd yno hefyd am y tro cyntaf â John Wesley. Ymddengys fod peth rhagfarn yn ei feddwl at John Wesley, am nad oedd yn dal yr athrawiaeth o etholedigaeth, a pharhâd mewn gras; nid anhebyg hefyd i'r rhagfarn gael ei ychwanegu gan Mr. Seward, yr hwn oedd wedi cwympo allan a Charles Wesley. Pregethai Mr. Wesley ar Esaiah xlv. 22: "Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber; canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall." Cyhoeddai y gwirionedd mawr am gyfiawnhâd trwy ffydd mor ddifloesgni a chlir, ynghyd a'r angenrheidrwydd, y fraint, a'r ddyledswydd o edrych at Iesu am gyfiawnder a nerth; ac yr oedd y fath ddylanwad nefol yn deimladwy yn yr odfa, fel y toddodd holl ragfarn Harris; ac er anghytuno ag ef gwedi hyn, nid amheuodd byth fod John Wesley yn weinidog Crist. Aeth yn ganlynol i ymweled ag ef yn ei lety, a phan y gwnaeth ei hun yn hysbys, syrthiodd Wesley ar ei liniau i weddïo drosto gerfydd ei enw, a thros Griffith Jones, a thros Gymru. Bu y ddau yn gyfeillion mwy hyd eu bedd.

Gwedi teithio rhanau helaeth o Gymru, dychwelodd i Drefynwy yn brydlon erbyn y Sessiwn. Teimlai yn bryderus ac yn isel ei yspryd; gwyddai nad oedd ganddo nac arian na chyfeillion i wynebu ar brawf costus; ac ofnai fod yr erledigaeth yn brawf nad oedd wedi cael ei alw i gynghori, a'i fod fel yr honai yr offeiriaid yn rhedeg heb gael ei anfon. Ond pan ddaeth i'r dref llonwyd ei galon; cyffröasai yr Arglwydd feddwl nifer mawr o ddynion da i ddod yno i'w bleidio, o Lundain, Caerloyw, a rhanau o Gymru. Yn ngwyneb y teimlad cyhoeddus, ac yn ddiau dan argyhoeddiad fod y gyfraith yn eu herbyn, gadawodd yr ustusiaid yr achos i syrthio; a chafodd Harris ymadael heb na dirwy na charchar. Diau i'r helynt brofi yn fantais ddirfawr i'r diwygiad; gwelwyd na ellid ei osod i lawr trwy gyfrwng cyfraith y wlad. Enynodd sirioldeb difesur hefyd yn mynwes Howell Harris; symudwyd ei ofnau, a chwbl gredodd y mynai yr Arglwydd iddo deithio o gwmpas i gynghori pechaduriaid. Nid oedd neb a lawenychai yn fwy na Whitefield. Ysgrifena o Philadelphia: "Yr wyf yn eich llongyfarch ar eich llwyddiant yn Nhrefynwy. Yn mhen tua deuddeg mis, os myn Duw, yr wyf am wneyd defnydd o'ch maes-bwlpudau eto. Y mae ein hegwyddorion yn cyduno fel yr etyb wyneb i wyneb mewn dwfr."'

ATHROFA TREFECCA: GOLYGFA DDWYRAIN-OGLEDDOL


Siroedd Morganwg a Mynwy a gawsant y rhan fwyaf o lafur Howell Harris yn ystod 1738, 1739; yr ydym wedi crybwyll eisioes am effeithiau ei weinidogaeth yn Mynwy, a Dwyrain Morganwg, ac ymddengys i'r unrhyw ddylanwadau ei ganlyn i orllewin Morganwg. Bu yn offeryn i ddeffro y wlad o gwr i gwr; mentrodd i ganol y gwyliau mabsantau a'r ffeiriau annuwiol, gan yru ofn ar weithredwyr anwiredd; daeth ei enw yn ddychryn i'r campwyr, a sefydlodd nifer mawr o seiadau. A gwnaeth hyn oll heb nemawr gymorth dynol; efe ei hun, a phresenoldeb ei Dduw gydag ef, a gynyrchodd y childroad; ychydig iawn o gymorth a gafodd gan yr offeiriaid, na chan y gweinidogion Ymneillduol. At ychydig o'i orchestion yn unig y cawn gyfeirio. Adroddir am dano yn pregethu mewn ffair yn Crug-glas, ger Abertawe. Yr oedd terfysg y ffair yn ddirfawr, y sŵn yn ddigon i ferwino clustiau, a'r ymladdfeydd yn waedlyd a chreulon. Buasai dyn cyffredin yn cael ei lethu gan ddychryn, ond ni wnai hyn ond awchu zêl Harris. Cododd i fynu ynghanol y berw, a'r olwg arno mor arswydlawn a phe buasai yn ymgorfforiad o ddychrynfeydd Sinai; taflodd olwg lem ar y twmpath chwareu, a dechreuodd weddïo. Yn raddol y mae difrifwch ei wedd, treiddgarwch ei lais, a thaerni ei weddi yn enill sylw; llonydda y berw fel pe y tywelltyd olew ar ddyfroedd cyffrous; cywilyddia y chwareuwyr ac ymeifl dychryn ynddynt; a dyma hwy yn dianc oddiar y maes fel pe eu hymlidid gan ellyllon. Pan welodd y telynwr ddarfod iddo gael ei adael, rhoes yntau ei offer heibio ac ymadawodd. Yn mysg y rhai oedd yn bresenol y pryd hwnw yr oedd creadur annuwiol a elwid " Rotsh o'r Gadle." Ymddengys i saeth lynu yn ei gydwybod yntau, ond ni adawodd ei ffyrdd drygionus. Gwyddai ei fod ar ffordd na ddylai, ond ni chefnai arni. Dywedir ei fod unwaith wedi gwario ei holl arian ar ei flysiau, ac na wyddai pa fodd i fyned yn y blaen. Tybiai y dylasai yr hwn a wasanaethai mor egniol ei gynorthwyo, a chyfarchai y "gwr drwg" "Wel, yr wy' i wedi bod yn was ffyddlawn i ti, gad i mi weld fath feistr wyt ti; dod rywfaint o arian yn fy het." Yna rhoddai ei het i lawr, a chiliai oddiwrthi encyd o ffordd. Yn mhen enyd, dychwelai ati eilwaith, i gael gweled beth oedd ynddi. Wedi ei chael yn wag, troai i edliw a'r diafol, gan ddweyd: "Mi welaf mai meistr caled ydwyt wedi'r cyfan." Pa foddion a ddefnyddiwyd i'w ddwyn ato ei hun ni wyddis i sicrwydd. Aeth ryw foreu Sul i gyrchu y cŵn hela ar gyfer tranoeth; nid anhebyg i eiriau Howell Harris drywanu ei galon ar y ffordd; pa fodd bynag, daeth yn ei ol heb y cŵn, ac aeth i'w wely, dan arteithiau euogrwydd anamgyffredadwy. Yr oedd wedi cael ei ddal megys a gwys oddiuchod; a fflangellid ef megys ag ysgorpionau. At hyn y cyfeiriai gwedi hyny wrth ganu:—

"Pan oeddwn ar fy ngwely,
Un prydnhawn,
Heb feddwl dim ond pechu,
Un prydnhawn,
Fe ddaeth ei danllyd saethau,
Y ddeddf a'i dychryniadau,
I'm tori i lawr yn ddiau,
Un prydnhawn,
A gado'm holl bleserau,
Un prydnhawn."

Bu ei argyhoeddiad yn ofnadwy. Ai at lan y môr, gan godi llonaid ei law o'r tywod, a cheisio eu rhifo: "Mi a ddeuwn i ben a hyn rywbryd," meddai, "ond am dragywyddoldeb, nid oes rhifo arno byth! "Ymofynai a'i hen gymdeithion, ai ni wyddent hwy am un ffordd o ddiangfa, ond cysurwyr gofidus oeddynt oll, Cyfarfu unwaith â hen feili yn Abertawe, ac yn ing ei enaid gofynai i hwnw: "A wyddost ti rywbeth am Iesu Grist?" Edrychodd y beili yn hurt arno, ac aeth ymaith heb ddywedyd gair, Ond o'r diwedd tywalltwyd olew a gwin i glwyfau "Rotsh o'r Gadle," a'r offeryn a fendithiwyd i hyny oedd Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, yr hwn oedd wedi dyfod yn weinidog i'r Mynyddbach.

Yr ydym yn cofnodi hanes "Rotsh" am ei fod yn ddiau yn engrhaifft o'r dull yr argyhoeddwyd llawer i fywyd yn yr amser rhyfedd hwnw. Un arall o'r cedrwydd talgryf a dorwyd i lawr yn 1739 oedd William Thomas, o'r Pil, a hyny pan nad oedd ond llencyn un-mlwydd-ar-bymtheg oed. Dwysbigwyd ef trwy wrando Harris yn pregethu mewn lle a elwir Chwarelau Calch, yn agos i Gastellnedd, eithr bu am agos i bedair blynedd gwedi hyn cyn rhoddi ei hun i fynu yn llwyr i'r Iesu. Daeth yn ganlynol yn "gynghorwr" nid anenwog, ac yn ddyn o ddefnyddioldeb mawr. Adroddai hen ŵr, o'r enw John Morgan, am Harris yn dyfod i le a elwir Waungron, nid yn nepell o'r Goppa-fach, ar gyffiniau Morganwg a Chaerfyrddin. Cynhelid gwylmabsant yno ar y pryd. Yr oedd y cyfarfod wedi dechreu cyn i John Morgan, ar ei ffordd i'r gamp, gyrhaedd; ond pan tua chwarter milldir neu fwy o'r lle, cyrhaeddodd llais y pregethwr ei glust, "a daeth," meddai, "gyda'r fath awdurdod, fel y teimlwn ef yn myned trwy fy esgyrn yn y fan." Dychwelwyd ef a llawer eraill at y Gwaredwr y tro hwnw. Cyfeiriai yr hen weinidog hybarch, Hopkin Bevan, o Hirwaun, at Howell Harris yn dyfod dro arall i Crug-glas. Daeth dyn haner meddw yn mlaen, wedi ei anog gan ryw ddihirwyr, a gwn yn ei law, gan geisio saethu y pregethwr, Cynygiodd ddwy waith a thair, ond ni thaniai yr ergyd. "Trowch ffroen eich dryll ffordd arall," meddai Harris, gyda llais awdurdodol; gwnaeth y dyn, ac allan aeth yr ergyd. Yn fuan wedyn cafwyd y dyn wedi llosgi i farwolaeth mewn odin galch, lle yr aethai yn ei feddwdod.

Nis gallwn, o ddiffyg lle, gofnodi ychwaneg o lafur a buddugoliaethau Howell Harris yn Ngorllewin Morganwg y cyfnod yma. Tua'r pryd hwn, neu yn fuan gwedi, sefydlwyd seiadau yn y Palleg, ger Ystradgynlais; Creunant, yn nghymydogaeth Castellnedd; y Goppa-fach, nid yn nepell o Abertawe; Castellnedd, Hafod, Cnapllwyd, Llansamlet; a'r Dyffryn, ger Margam.

Tua mis Rhagfyr bu ar ymweliad a Sir Benfro; ei ymweliad cyntaf yn ddiau, Nid yw hanes y daith genym; felly, nis gwyddom pa mor bell yr aeth, nac yn mha leoedd y bu yn efengylu; ond cyfeiria at yr amgylchiad mewn llythyr " at chwaer yn Sir Fynwy." Dyddiad y llythyr yw Tachwedd 30, 1739. Dywed: "Yr wyf yn awr ar fy ffordd i Sir Benfro; collais y ffordd ar y mynyddoedd neithiwr, ond yr Arglwydd a gofiodd ei gyfamod." Nid ydym yn tybio iddo aros yn hir yma y tro hwn. Nid oes pen draw ar ei deithiau yr adeg hon. Cawn ef yng ngodre Sir Aberteifi, yng nghymdogaeth Penmorfa; teithia oddi yno i Lanarth, ac i Lanbedr; croesa y Mynydd Mawr, a phregetha mewn amaethdy bychan ynghanol y brwyn, o'r enw Brynare, yn agos i darddiad yr afon Towi. Cyn pen wythnos yr ydym yn ei gael yn nhref Henffordd, ac yn myned oddi yno i Gaerloyw, trwy rannau o Sir Fynwy. Rhaid bod ei gyfansoddiad fel haearn, a'i zêl yn angerddol.

Dechrau y flwyddyn 1740 y mae yn cychwyn ar ei ymweliad cyntaf a'r Gogledd. Rhydd yr Hybarch John Evans, o'r Bala, yr amser yn 1739; dywed Methodistiaid Cymru fod dyddlyfr Howell Harris yn cytuno a hyn; eithr y mae y ddau yn camgymryd. Y mae y dyddlyfr, ynghyd a'r holl lythyrau a ysgrifennodd Mr. Harris ar ei daith, at Mrs. James, o'r Fenni, a Miss Anne Williams, o'r Scrin, ac eraill, yn profi mai Chwefror, 1740, y cymerodd hyn le. Hawdd esbonio y modd y darfu iddynt gamsynied. Dilynai Howell Harris wrth ysgrifennu yr hen galendr eglwysig; o Ionawr hyd Mawrth 25, rhoddai, wrth ddyddio ei lythyrau, yr hen flwyddyn a'r flwyddyn newydd; ac y mae y llythyr o Lanfair-muallt, y cyntaf iddo ar y daith hon, felly, sef "Builth, Feb. 1, 1839-40." Elai ar wahoddiad Mr. Lewis Rees, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanbrynmair, yr hwn a ddaethai dros y mynyddoedd cribog yn un swydd i'w gyrchu. Gan mai Mr. Lewis Rees a fu yn foddion i ddwyn Methodistiaeth i ogledd Cymru, nid anniddorol fyddai ychydig o'i hanes. Ganwyd ef yn Glynllwydrew, Cwm Nedd, yn Sir Forganwg, yn y flwyddyn 1710, ac felly yr oedd rai blwyddau yn hŷn na Rowland a Harris. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn yr Eglwys Ymneillduol yn Blaengwrach, yr hon oedd dan ofal y duwiol a'r diragfarn Henry Davies. Ymunodd a chrefydd yn ieuanc. Darfu i'w allu meddyliol, ynghyd a'i dalentau, yn arbennig ei ddawn mewn gweddi, beri i'w rieni ei godi i fynnu ar gyfer y weinidogaeth. Cafodd fanteision addysg helaeth; bu yn yr ysgol gyda Joseph Simons, yr hwn a gadwai ysgol ramadegol yn Abertawe, gyda Mr. Rees Price yn Penybont-ar-Ogwy, ac yn ddiweddaf gyda y Parch. Vavasor Griffiths, yn Sir Faesyfed. Dywedodd yr olaf ei fod yn llawn ddigon o ysgolhaig, ac anogodd ef i ymgymeryd a gweinidogaeth yr efengyl yn ddioedi. Y pryd hwn daeth y Parch. Edmund Jones, Pontypŵl, heibio, gwedi bod ar daith yn y Gogledd; darluniodd gyflwr gresynus y rhan honno o'r wlad, ac anogodd ef i ymgymeryd a bugeiliaeth y ddeadell fechan yn Llanbrynmair, gan addaw troi yn ôl gydag ef, a'i gyflwyno i'r bobl. Cyn cyrraedd pen eu taith collasant y ffordd, a buont am rai oriau yn crwydro mewn lle a elwir Coedfron. Yn y sefyllfa annymunol hon ymroesant i ymddiddan a'u gilydd am bethau yr efengyl, a hynod y mwynhad a gawsant; terfynodd eu dyryswch hefyd yn annisgwyliadwy, gan iddynt gael gafael ar Lanbrynmair tua dau o'r gloch yn y boreu. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1734, tua blwyddyn cyn dechreuad y diwygiad Methodistaidd, a thua chwe' mlynedd cyn taith gyntaf Howell Harris i Wynedd. Yr adeg hon yr oedd cyflwr ysprydol Gogledd Cymru yn dra gresynus. Mewn ychydig fannau yn unig y pregethid yr efengyl yn ei phurdeb. Dihoenai yr eglwys fechan yn Llanbrynmair; ychydig iawn oedd rhif y ffyddloniaid yn y Bala, lle yr oedd achos wedi cael ei blannu gan y Parch. Hugh Owen, Bronyclydwr; ac yr oedd y ddeadell yn Pwllheli ar roddi i fynnu mewn digalondid. Ymroddodd Mr. Rees i bregethu; elai i Bwllheli mor aml ag y medrai, ac i'r Bala unwaith y chwarter. Gwnâi hyn drwy anhawster a pherygl dirfawr.[5] Yr oedd y ffordd yn faith, mynyddig, ac anhygyrch; y tywydd yn aml yn oer, ac yn ystormus; a phreswylwyr Dinas a Llanymawddwy, y pentrefydd, oedd ar ei ffordd, yn ffyrnig am ei ladd, gwedi ddeall ei neges. [6] Pan yn pregethu yn y Bala un tro digwyddodd i Meurig Dafydd, o ben uchaf plwyf Llanuwchllyn, fod yn gwrando. Wedi cael blas ar yr odfa, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu i'w dŷ ef. Yntau a aeth fel yr addawsai. Yr oedd y tŷ yn llawn; daethai y bobl yno o chwilfrydedd i glywed Pengrwn yn pregethu; ond yn ol defod y wlad yr amser hwnw, yr oedd pawb, y gwyr yn gystal a'r gwragedd, wrthi yn ddiwyd yn gwau hosanau. Gafaelodd yntau yn y Beibl, gan ddarllen penod, a disgwyl i'r bobl rhoddi heibio eu gwaith; eithr yn mlaen yr oedd y gwau yn myned, a sŵn y gweill yn ymgymysgu a sŵn y Gair. Trodd i weddïo, ond heb fawr gobaith y byddai i neb o'r gynulleidfa gydynmno ag ef, a'r olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid, oedd gweled y bysedd wrthi yn brysur yn trin y gweill. Ar weddi cafodd gymorth arbenig; aeth ei enaid allan at Dduw mewn deisyfiadau ar ran y trueiniaid anwybodus oedd yn bresenol; deallodd yn fuan fod y gwau wedi cael ei roddi heibio; ac yn lle clec y gweill clywid sŵn gruddfanau ac ocheneidiau am drugaredd. Ni adawyd ef hefyd wrth bregethu, a bu yr odfa yn foddion achubiaeth i amryw. Gwedi hyn, bu Morgan, brawd Meurig Dafydd, oedd yn gryfach na'r cyffredin, ac yn adnabyddus fel ymladdwr mawr, yn dra charedig iddo. Hebryngai ef trwy Lanymowddwy, gyda phastwn onen cryf yn ei law, a phan geisiai rhywrai niweidio y pregethwr ysgydwai y pastwn, gan ddweyd: "Wedi hebrwng y gŵr da i ffwrdd, mi a ddof i siarad a chwi." Droiai bu gwarant allan i ddal Lewis Rees, am fyned o gwmpas i bregethu yr efengyl. Un tro dygwyd ef o flaen y Canghellydd Owen, yr hwn yn ogystal oedd yn fìcer Llanor a Dyneio. Gwedi' i'r gŵr hwn ddeall fod ganddo drwydded i bregethu, ac felly nas gallai ei anfon i'r carchar, aeth yn gynddeiriog. Ymaflodd mewn cleddyf, gan fygwth ei ladd, ac yn ei gynddaredd torodd got y pregethwr yn gareiau a'r cledd oedd yn ei law.[7] Pan y teithiai Mr. Rees trwy Lanymowddwy un tro, cyfarfu ag offeiriad y plwyf, wrth yr hwn yr achwynodd am ymddygiadau barbaraidd ei blwyfolion. Cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt: —

"Gŵr o ba wlad ydych chwi?" ebai'r offeiriad.

"Gŵr o Lanbrynmair, Syr," ebai Mr. Rees, yn fwynaidd iawn.

"Beth a ddaeth a chwi i Lanbrynmair?"

"Yr oedd y gynulleidfa Ymneillduol heb weinidog; ar eu dymuniad, mi a ddaethum atynt, ar y cyntaf ar brawf; ac wedi cael boddlonrwydd o bob ochr, mi a osodwyd yn weinidog arnynt."

"Peth afresymol," ebai'r offeiriad," yw goddef i Bresbyteriaid bregethu yn y wlad hon; Ysgotland yw y wlad iddynt hwy." "Gobeithio, Syr," meddai Mr. Rees, "eich bod o well egwyddor nag y ffurfiech eich crefydd wrth arfer y wlad y byddech yn byw ynddi; onide byddai raid i chwi fod yn Bresbyteriad yn Ysgotland, ac yn Babydd yn Rhufain."

Tarawodd grym ei resymau, a mwyneidd-dra ei atebion, y gŵr eglwysig, a thrwy ei ddylanwad ar y preswylwyr, ni chafodd Mr. Rees ei aflonyddu o hyny allan. Gwnaeth Lewis Rees ddaioni anhraethol yn y Gogledd; nid oedd rhagfarn yn ei yspryd; a pharhaodd yn groesawgar i'r Methodistiaid tra y bu yn Llanbrynmair. Wedi llafurio am chwarter canrif yn Ngwynedd, symudodd i'r Mynyddbach, ger Abertawe. Bu farw Mawrth 21, 1800, pan wedi cyrhaedd ei bedwarugain-a-deg mlwydd oed.

Ond i ddychwelyd at daith Howell Harris i'r Gogledd. Ymddengys iddo fod mewn pryder cyn cychwyn pa un ai yno, ynte i Sir Benfro, yr ai. Tebygol mai yr hyn a benderfynodd o blaid Gwynedd oedd cymhellion cryfion Mr. Lewis Rees, ac hefyd yr elfen o berygl oedd ynglyn a'r daith. Ymddengys fod boneddwyr Sir Drefaldwyn wedi rhwymo eu hunain a diofryd y gwnaent garcharu unrhyw Fethodist a anturiai i'w tiriogaethau; daethai hyn i glustiau Mr. Harris, a pharai beiddgarwch ei yspryd, a'i zêl dros ei Waredwr, iddo deimlo awydd angerddol am anturio i ganol yr ystorm. Chwefror y 1af, yr ydym yn ei gael ar y ffordd tuag yno, yn Llanfair-muallt. Rhaid i ni ddifynu darnau o'i ddydd-lyfr, ac o'i lythyrau, eto, fel y caffom nid yn unig ei hanes, ond hefyd agwedd ei feddwl.

"Pan y daethum yma (Llanfair-muallt)[8] cefais y bobl yn canu, a boneddwr ieuanc yn llusgo celain cath o gwmpas, er mwyn peri terfysg. Ond siomwyd ef; ni wnai y cwn hela. Cawsom nerth mawr, ac yr wyf yn awyddus iawn am fod yn rhydd oddiwrth, a byw uwchlaw y creadur, gan ddianc at waed Crist am heddwch a sancteiddrwydd. Yr wyf yn clywed pethau nodedig o hyfryd am Mr. Gwynn; gweddïwch drosto.

Rhaiadr (wyth milltir o Llanfair-muallt), Chwefror 3, 1740. Y mae fy ngorff yn flin, gwedi llafur caled, ac y mae yn awr yn bedwar o'r gloch y boreu. Ond y mae rhywbeth ynof, pan ei rhoddir mewn gweithrediad, sydd yn fy ngwneyd yn ddiludded. Ddoe, galluogwyd fi i lefaru ddwywaith, i drafaelu deng milltir, ac i ysgrifenu llawer o lythyrau. Heddyw, teithiais chwech milltir, llefarais ddwywaith, cedwais ddwy ddyledswydd deuluaidd, ac ysgrifenais chwech o lythyrau. Heno cefais y newydd cysurus fy mod mewn gwirionedd i gael fy nghymeryd i'r ddalfa yn Sir Drefaldwyn. Gwn y llawenhewch, y gweddïwch, ac y bendigwch Dduw trosof. Cawsant gyfarfod i'r pwrpas, ac yr wyf yn cael yr Arglwydd yn fy nerthu yn rhyfedd oddi mewn. Gosododd Duw yn meddwl cyfaill anwyl i ddod i ddweyd wrthyf. Cuddied yr Arglwydd fy mhen yn nydd y frwydr. Yr wyf yn myned y fory i Cwmtyddwr, i wyl, a nos y fory i ran o Drefaldwyn. Y mae yr Arglwydd wedi rhoddi i mi lawer concwest ar y diafol.

Llanybister (pedair milltir o Rhaiadr), Chwefror 5, 1740. Diwrnod gogoneddus oedd y ddoe; yr oeddwn yn yr wyl fawr, a mentrais wrthwynebu y diafol ar ei dir ei hun. Felly lleferais o fewn ychydig latheni i dafarndy, lle yr oedd y chwareuyddiaeth i gychwyn. Ar y dechreu yr oeddwn gryfaf; wrth lefaru am argyhoeddiad Zaccheus, ceisiais eu denu trwy gariad; ond collais fy awdurdod. Yr oeddwn yn farw ac yn sych yn mron hyd y diwedd. Yna dyrchafodd yr Arglwydd fy llais fel udgorn, a galluogodd fi i gyhoeddi hyd adref gyda golwg ar elynion Duw. Ni phrofais erioed fwy o nerth. Yr wyf yn credu ddarfod i rai gael eu gwanu; wylai llawer; llewygodd un; eraill drachefn a deimlent gryndod dirfawr; ac yr oedd ar bawb fraw mawr. Gwedin aethum i'r eglwys; pan y daethum allan ofnwn rhag i'r diafol eu cael i'w fagl drachefn, a chyhoeddais y pregethwn o fewn chwarter milltir i dref Rhaiadr. Yno y daethant, yn mron bawb, yr wyf yn meddwl, ond ychydig oedd yn y tŷ. Cynorthwywyd fi i lefaru, a hyny gyda llai o daranu a mwy o ddyddanwch, nag arfer. Oddiyno aethum i le a elwir Y Lodge, yn Llandinam, lle y galluogwyd fi i lefaru gyda nerth, Neithiwr a heddyw ni chyfarfyddais a dim gwrthwynebiad, a chawsom odfaeon melus": Cedwir llawer rhag dyfod i'm gwrando gan ystori, sydd yn pasio fel gwirionedd, fy mod yn gohebu a brenin yr Ysbaen, a bod deugain punt yn cael eu cynyg am fy nghymeryd. Y fory yr wyf yn disgwyl cael fy nal; ac os caf, ysgrifenaf yn uniongyrchol o fy llety newydd.

Dyma Howell Harris wedi rhoddi ei draed ar ddaear Gwynedd, ac wedi pregethu yn Llandinam, a hon oedd y bregeth gyntaf i Fethodist yn Ngogledd Cymru. Dengys yr hanes pa mor ffol oedd y chwedlau a daenid am dano.

"Llanbrynmair,Nos Sadwrn(Chwefror g, 1740). Hyd yn hyn y mae yr Arglwydd wedi bod gyda mi, ac yn fy llwyddo fwyfwy. Ymddengys Satan fel wedi ei rwymo; yr oeddwn yn disgwyl bob dydd gael fy rhoddi mewn cadwyn; ond hyd yn hyn nid wyf wedi cyfarfod gwrthwynebiad. Dydd Gwener, cyfarfyddais a Mr. Lewis Rees, ac ni chefais yn ystod fy holl deithiau y fath nerth ag a ges neithiwr wrth lefaru i tua mil o bobl yn Llan (Llandinam?) Gallech glywed calonau yn ymddryllio; ac yr oedd y fath ocheneidiau, a dagrau, a gwaeddi, na wrandawsoch ar ei gyffelyb. Yr wyf yn gobeithio ddarfod i lawer o galonau agor i Iesu Grist. Yr oeddwn ymron a chael fy nghario allan o fy hunan. O! gogoneddwch Dduw drosof. Yr wyf yn myned dydd Llun nesaf i Sir Feirionydd. Druan o Wynedd; y maent yn byw yma fel anifeiliaid, heb wybod dim! "Pasiai ar ei daith trwy Lanidloes; nid yw yn ei lythyrau yn cyfeirio at y dref, ond dywedir yn Nrych yr Amseroedd iddo gael llonydd i bregethu heb i neb aflonyddu arno. Bu cymaint o erlid yn Llanidloes a braidd unrhyw dref yn Nghymru ar ol hyn. Cawn iddo hefyd bregethu yn Nhrefeglwys, a dywedir mai dyma y pryd yr argyhoeddwyd Lewis Evan, Llanllugan, yr hwn oedd ar y pryd yn ddyn ieuanc un-ar-hugain mlwydd oed. Gwehydd ydoedd Lewis Evan; gwedi ei argyhoeddi ymroddodd i ddarllen y Beibl; ac yn bur fuan cymerai ef o gwmpas i'w ddarllen o dŷ i dŷ; llithrodd yn raddol i roddi gair o gynghor, ac i derfynu trwy weddi, a daeth yn gynghorwr heb yn wybod iddo, ac heb wybod fod neb wedi gwneyd fel hyn o'i flaen. Peth dyeithr yn yr ardal oedd gwehydd ieuanc yn myned o gwmpas i gynghori, a pharodd ei ymddygiad gryn gyffro.

Nid yw Mr. Harris yn ei lythyrau yn cyfeirio at ei bregethu yn Llanbrynmair,[9] ond y mae yn sicr iddo wneyd, a dywedir mai o flaen tafarndy, a elwir yn awr y Wynnstay Arms, y llefarai. Yr oedd son am dano wedi myned ar led y gymydogaeth fel un a welsai weledigaeth, yr hwn a ai o amgylch i fynegu yr hyn a welsai ac a glywsai. Yn mhlith eraill a ddaethant i'w wrando yno yr oedd tri o frodyr, sef William, Edward, a Richard Howell, ynghyd a gŵr arall o'r enw Richard Humphrey. Er mwyn bod yn gyfleus i wrando aethant i ben tŷ bychan gerllaw. Dechreuodd gŵr Duw bregethu, a nodi beiau yr oes, yn ei ddull llym a phriodol ei hun. Tybiasant hwythau fod y pregethwr yn gwybod am danynt, ac yn eu pwyntio allan. Bu gorfod arnynt, gan rym cydwybod, ddisgyn oddiar ben y tŷ, fel Zaccheus o'r sycamorwydden, a saeth argyhoeddiad a drywanodd y pedwar gŵr. Dyma ddechreuad Methodistiaeth yn Llanbrynmair. Wedi dweyd ei fod yn oedi ymweled a Sir Benfro, am y credai fod gan Dduw waith iddo yn Ngwynedd, â Harris yn mlaen yn ei lythyrau: —

"SIR Feirionydd, ger y Bala, Dydd Mawrth (Chwefror 12, 1740). Y ddoe, anrhydeddwyd fi gan Dduw trwy gael fy nghymeryd yn garcharor yn ei waith, yn mhlwyf Cemmes, yn Sir Drefaldwyn. Gwnaed hyn gan un Wynne, ustus, yr hwn, gydag ustus arall, a boneddwr arall, ynghyd ag offeiriad y plwyf, a ddaeth arnom, wedi anfon eu hysbiwyr, ynghyd a'r cwnstabl, o'u blaen. Ni chefais yr anrhydedd o fyned i Drefaldwyn mewn llyfetheiriau; ond cymerasant ein henwau, ynghyd a'r manylion perthynol i'r cyfarfod, a'n bod yn ymgynull mewn lle heb ei drwyddedu; a bygythient wneyd eu goreu i'm dirwyo i o ugain punt, gŵr y tŷ o ugain punt, a phob un o'r gwrandawyr o bum' swllt yr un. Achwynent fy mod yn tori deddf y tŷ cwrdd (Convcnticle act). Atebais nas gellid fy nghospi yn unol a'r ddeddf hono; mai deddf ar gyfer yr Anghydffurfwyr ydoedd, tra yr oeddwn i yn gydffurfiwr a'r Eglwys Sefydledig. Ni a fynwn ymgynghori a'r cyfreithwyr goreu, meddent, ac os oes cyfraith i'w chael, cewch ddyoddef ei llymder eithaf.' Dywedais yn ol, os oedd y gyfraith yn fy erbyn, fy mod yn foddlawn dyoddef pa gospedigaeth bynag a farnent yn addas ei gosod arnaf. Llanwodd yr Arglwydd fi a gwroldeb; ni chefais fy ngadael. Llawer o ddagrau a gollwyd gan y gynulleidfa; ac yr oedd nifer wedi arfaethu dod gyda mi i Drefaldwyn pe buasai raid. Dychwelais gyda rhai dwsynau oeddynt wedi dyfod gyda mi, i'r lle o ba un y cawswn fy nghymeryd, a llefarais wrthynt am sefyll yn nydd yr ystorm. Cychwynais tua'r lle hwn, taith o tua deuddeg milltir, a llefarais ddwy waith ar y ffordd. Wedi teithio encyd, disgynais, ac aethum i fwthyn bychan ar ochr y ffordd, lle yr ysgrifenais hwn. Gwelais yno, mewn hen wraig, gariad at Air Duw ac at ei Fab, a mawr uniondeb meddwl, a gofal tyner. Y mae arnaf ofn dilyn fy ewyllys fy hun mewn dim, llawenheir fi wrth feddwl mai gwas i Un arall wyf, ac y mae heddwch mawr mewn ymostwng i Dduw yn mhob peth. Teimlais fy nghalon yn cynhesu at yr hen wraig—dywedodd y daw Duw'n nes atom ninau os awn ni yn nes ato ef. Yr oedd yn ddiolchgar iawn, yr oedd yn gweled ei hun yn bechod i gyd, yr oedd ganddi gariad cryf at Grist, teimlwn fy nghalon yn agor iddi o gariad at yr Iesu. Yr oedd yn fwy o ddyddanwch i mi gael bod yn ei thŷ na phe buaswn mewn palas. Bwyteais ychydig fara ceirch tew caled a chaws, ac yna aethum yn fy mlaen ar y ffordd tua thŷ Meurig Dafydd, Gweirglodd Gilfach.

Fel yr oeddwn yn myned o'r bwthyn tua Llanymowddwy, gwawdiwyd fi; rhedai plant ac eraill ar fy ol, gan waeddi, Down with the Rumps, a phethau eraill. Yr oedd Satan yn rhuo, ac yn chwerw iawn. Ni theimlais unrhyw derfysg yn fy enaid, eithr gweddïais drostynt, a thosturiwn wrthynt,—er nad cymaint ag yr hoffwn wneyd. Ac nis gallwn gael fy hun yn ol i'r ystad meddwl hyfryd yr oeddwn ynddi cyn hyny.

Pan aethum yn agos at yr eglwys, daeth tyrfa o bobl mewn oed a bechgyn at eu gilydd; pan welsant fi yn dod, gwaeddasant: Down with the Rumps, a chasglasant y cŵn at eu gilydd i'w hysio arnaf. Pan welais hwynt, teimlais fy ewyllys yn hollol ymroddedig—felly hefyd yr wyf wedi ei theimlo ar hyd y ffordd—cefais galondid mawr i fyned yn mlaen, siaredais heb ofn, a chefais ryddid meddwl. A gofynodd dynes i mi—galwent hi yn wraig fonheddig — beth oedd arnaf fi, dd----l coll, eisiau yno. A chyda hyny, cymerodd laid a thywarchen—nid oedd cerrig yn ei hymyl wrth lwc—a thaflodd hwynt ataf. Gwelais ei bod yn un o ddilynwyr Satan, ond ni dderbyniais niwed.

Gwaeddasant ar fy ol wedi fy myned, ond tra yr oeddwn yn pasio cauodd yr Arglwydd eu safnau.

Ar ol hyn deuais at eglwys Llanuwchllyn. tref fechan ar lan Llyn y Bala; cyfrifir y daith tua deuddeng milltir. Daeth rhywbeth fel ofn drosof wrth glywed fy mod yn neshauat dref, ond tawelwyd fi gan ymroddiad meddwl. Yr oedd fy myfyrdodau yn rhy ysgeifn, ac mor ychydig o Dduw sydd yn fy meddwl! Cefais beth hyfrydwch i'm henaid wrth weled daioni Duw yn rhoddi pethau i ni, a chefais fy hun yn gweddïo: ' O Arglwydd, na ad i mi bechu mewn ewyllys na meddwl.'

Wedi hyn, tra'r oedd cur yn fy mhen, a minau ar newynu, cyrhaeddais y Llan tua phump. Arhosais yma; yr oedd cynulleidfa fawr iawn wedi ymgynull, ond wedi mynd ymaith. Siaredais hyd chwech wrth rai canoedd am dröedigaeth St. Paul. Cefais gymorth yma i efengylu gyda grym, ac yr oedd llawer yn wylo. Atebais amheuon a gwrthwynebiadau, a gwahoddais bawb at Grist. Cefais rwyddineb melus i siarad wrth galonau drylliog, calonau wedi eu perswadio.

Wedi hyn, rhoddwyd i mi ras i weddïo am Yspryd Duw, fel y medrwyf ganu a gweddïo, a charu a siarad, a byw yn yr Yspryd hwnw, ac O mor angenrheidiol yw hyn!

Yna aethum i'r tŷ, lle'r oedd yspryd ysgafnder wedi dod dros y bobl. Bum uwch ben fy mwyd o saith hyd yn agos i wyth. Ac yna agorodd yr Arglwydd ddrws i mi siarad a hwynt, a hwy a wrandawsant. Siaredais am ein cwymp, ac fel yr agorodd y cwymp hwnw ddrws i gariad Duw hefyd. Danghosais iddynt gariad Duw tuag atom, a'n gwrthryfel ninau yn ei erbyn. Effeithiodd hyn arnynt, a wylodd llawer. Agorwyd drws i mi—tŷ tafarn oedd y tŷ—i ddarllen ac esbonio y ddeuddegfed benod o'r Rhufeiniaid, i ganu ac i weddïo. Ymddengys mai pobl ddiniwed sydd yma, a chefais gymorth i fod yn ffyddlon yn eu mysg.

Ysgrifenais lythyr hyd wedi deg; a bum mewn gweddi ddirgel hyd gwedi un-ar-ddeg, yn gweddïo gyda pheth pryder, wedi darllen Actau ii. 17, 18: 'O dyro i mi o'th Yspryd, O dyro i mi o'th Yspryd, fel y gogoneddwyf ac yr anrhydeddwyf di. O Dduw, a allaf fi fod yn llawen tra y dianrhydeddir dy Fawrhydi bendigedig genyf fi ac eraill? Arglwydd anwyl, paham yr wyf yn rhoddi mor ychydig o werth ar dy gariad? Yr wyf yn diolch i ti am y wybodaeth am danat dy hun a roddaist i rai eraill. O Dduw, pa bryd y caf fi dy adnabod a dy garu? O, rhyfedd dy fod yn gwneyd cymaint rhyfeddodau i mi, a minau eto heb gariad atat! '

Llanywyllyn, ger y Bala, Sir Feirionydd, Dydd Mercher. Deffroais yn fore; codais am wyth. Yr wyf yn mhell oddiwrth Dduw o hyd, ac eto yn anfoddlon hebddo. Aethum i weddi yn y dirgel; a gweddïais yn hir mewn geiriau, o'r pen a'r deall, ac nid o'r galon. Nis gallwn gael gafael ar ddymuniadau i wneyd daioni o ddifrif. Ond o'r diwedd, tra yn disgwyl yno ac yn ofni dilyn f'ewyllys fy hun heb Dduw, rhoddodd yr Arglwydd allu i'm henaid lefain: ' O Arglwydd, yr wyf yma ymhell oddiwrthyt ti, ac mewn gwlad bell. Gad i mi dy gael di yn rhan; yr wyf yn ymwadu a phob peth arall. Dyro hwynt i'r hwn a fynot, a gad i mi fod yn eiddo i ti. O Drindod, yr wyf yn rhoddi fy hun i ti.' O naw hyd ddeg, pregethais i rai canoedd o bobl. Dechreuais trwy ddangos oddiwrth y seithfed benod o Rhufeiniaid—fel y gwnaethwn y nos o'r blaen wrth son am dröedigaeth St. Paul—ein bod yn gweled yma y dygir ni, pan ddaw gras Duw i'r galon: (i) I ganfod llygredigaeth ein natur, fel y mae corff ac enaid wedi eu cwbl halogi, ein hamharodrwydd i wneyd da a'n parodrwydd i wneyd drwg. (Danghosais hyn oddiwrth eu profiad hwy eu hunain.) (2) I weled fod teimlo yr anmhosiblrwydd hwn i wneyd daioni yn boen a gofal mawr i'r enaid. (3) Nis gallant fod yn dawel heb chwilio am ryddhad. " Pwy a'm gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon?" (4) Fel y gwelwn oddiwrth Rhuf. viii. 2, pan ddaw'r enaid i chwilio yn ddyfal am ryddhad, datguddia Crist ei hun, i ryddhau yr enaid oddiwrth euogrwydd a llygredd pechod, a chadwynau'r tywyllwch. Ac yma cefais oleuni mawr i ddangos (i) Ein bod dan y gyfraith tra byddom ynom ein hunain. Gadawyd i mi ddeall mwy ar natur y gyfraith nag erioed o'r blaen; dangosais nas gall Duw faddeu am droseddu ei gyfraith nes y caffo iawn i'w gyfiawnder. ' Ai ni fuasech chwi'n condemnio barnwr, ac yn ei gyfrif yn anghyfiawn, pe y rhoddasai bardwn i ddrwgweithredwr, a'i fai yn amlwg, heb iawn i'r gyfraith? ' (2) Nas gall Duw edrych arnom nes y newidir ein natur, ac nas gallwn ninau ymhyfrydu ynddo ef, A fedrai gŵr a gwraig gytuno pe carai y naill yr hyn a gashäi y llall? Felly nis gallwn ninau fod yn gytûn a Duw os carwn chwant, balchder, cybydd-dod, meddwdod, tywyllwch, yr hyn bethau y mae Duw yn gashau; a thra nas gallwn garu y sancteiddrwydd a'r purdeb y mae Duw yn garu. Felly, rhaid i Dduw golli ei briodoleddau o gyfiawnder a phurdeb, neu rhaid i ni gael gwaredigaeth oddiwrth euogrwydd a natur pechod, cyn y gallwn sefyll ger ei fron. (3) Rhaid symud y tywyllwch oddiar ein llygaid; fel y gwelom farwolaeth ynom ni a bywyd yn Nghrist, tywyllwch ynom ni a goleuni yn Nghrist, aflendid ynom ni a phurdeb ynddo ef, gwendid ynom ni a nerth ynddo ef. Ond rhaid i ni deimlo mor druenus ydym cyn yr awn ato, a rhaid ei uno a ni trwy ffydd fywiol, neu ni fydd yn fwy llesol i ni glywed am gyfiawnhad trwy ffydd a thrueni y rhai sydd heb fod yn Nghrist, na phe y clywem am feddyg pan yn wael ac heb gymeryd ei gyffeiriau. Cefais nerth; a phan ddaethum i'r fan yma, gwelwn fod llawer wedi teimlo i'r byw, a medrais bregethu yn felus. Daeth cawod hyfryd arnom wrth i mi ddweyd wrthynt nas gallwn eu twyllo. Yna soniais am ragorfreintiau y rhai sydd yn derbyn Crist. Y mae y rhai sydd yn meddu Crist yn meddu pob peth; a'r rhai nis meddant ef, ni feddant ddim. Cynghorion cyffredinol: molianu Duw. Gwagedd yw gobeithion gau. Pan fo'r Arglwydd yn dysgu ac yn rhoi nerth, peth melus yw gweithio, a pheth hawdd. Fel y teimlasom yr Adda cyntaf ynom, felly y rhaid i ni deimlo Adda'r ail. Mewn gweddi ddirgel, cefais mai dymuniad fy enaid ydyw bod yn ffyddlon, a gogoneddu enw'r hwn a'm danfonodd. Gwneled Duw ei ewyllys arnaf. Ac O, pa fodd y gallaf fod yn llawen tra mae pobl yn dianrhydeddu ac yn anghofio Duw!

Ysgrifenais tan haner dydd, ac yna teithiais i'r Bala—pum' milldir. Nis gallwn gael fy enaid i feddwl am unrhyw fater ar y ffordd—dim ond meddyliau ysgafn—a dyma wnawn beunydd oni bai am ras.

Cyrhaeddais y Bala cyn dau o'r gloch, a siaredais gyda rhai canoedd hyd yn agos i bedwar. Tra yr oeddwn yn siarad, yr oedd llawer yn chwerthin ar eu gilydd, a gollyngwyd ergyd o wn yn fy ymyl.

Clywais un yn dymuno cael ei ddamnio, pe gwyddai mai Presbyteriad oeddwn, os cawn bregethu. Dywedais wrthynt fy mod yn perthyn i'r Eglwys. Pregethais ar y stryd ar gyfer neuadd y dref, ac yr oedd pregethu yno fel pregethu uwchben ceiliogod yn ymladd.

Dechreuais gyda chatecism yr Eglwys, llw y bedydd, y ddwy ddyledswydd at Dduw a dyn, a'r sacramentau. Nid oeddwn hyd yn hyn wedi cael fawr o awdurdod arnynt, ond yr oeddwn yn edrych a fedrwn eu tynu ataf. Gwrandawodd llawer, a wylodd eraill. Pregethais ar Luc xix. 12. Cefais awdurdod i siarad wrthynt am eu pechodau. Rhoddwyd i mi oleuni mawr, fel yn y tŷ cyn myned allan, o wybodaeth gliriach; a dangosais ddrwg pechod fel y mae yn bechod yn erbyn daioni Duw, er argyhoeddiad llawer yr wyf yn gobeithio. Y mae arnaf ofn na wnaed llawer o ddaioni yma, ond cefais nerth i fod yn ffyddlon.

Wedi hyn bum ar fy mhen fy hun, yn bwyta, &c., hyd bump. Yna pregethais hyd chwech. Dangosais fel y mae Duw yn cario ei waith ymlaen yn raddol, o ris i ris; ceisiais gynorthwyo eu meddyliau i weled eu trueni; dangosais fel y mae Satan a'r byd yn ymgynhyrfu yn ein herbyn pan ddechreuom newid oddi mewn ac oddi allan, ac fel y medr yr enaid gael nerth i'w gwrthsefyll; a dywedais wrthynt hanes fy nhröedigaeth fy hun. Cefais felusder, a nerth i fod yn ffyddlon. A llefais yn y dirgel: ' O Arglwydd, gad i mi bob amser dy deimlo di ynof, a rho nerth i mi fod yn ffyddlawn i ti, anwyl Arglwydd.'

Wedi hyn ymadewais, gan deimlad cariad cryf, tua Thal-ardd, pum milldir o ffordd. Cefais gipolwg ar y ffordd ar drueni yr hwn elo at y meirw heb Grist, ond nis gallwn wasgu y peth yn agosach at fy enaid. Gwelaf nad wyf ond pechod, yn farw a thywyll oll; nid oes genyf ond pechod a thrueni; nis gallaf wneyd dim, ond anghofio Duw o hyd; nis gwn ddim, ond y peth a ddangosir i mi.

Daeth pryder ar fy enaid am fy mam, ac awydd i ddadleu drosti mewn yspryd tosturi ac ofn: ' O Arglwydd, gwared hi o drueni. O na welwn hi wedi ei newid. Dyro iddi dy Yspryd, lladd ei hanghrediniaeth, gwna hi yn rhydd, dadguddia dy anwyl Fab ynddi. Gad i mi weled arwyddion amlwg o gyfnewidiad ynddi, ac yn fy enaid tlawd fy hun. O Arglwydd, goleua fy meddwl; a gwrando fi ar ran fy mrodyr. A adewir iddynt fyned ymlaen yn eu pechodau, ac mewn gwrthryfel yn dy erbyn di? Cofia **[10] yr hon sy'n rhan o'm henaid. Ac na alw fi i dragywyddoldeb tra'n farw yn fy mhechodau.'

Cefais olwg ar y cyflwr ofnadwy y buaswn ynddo i dragywyddoldeb; a gwnaeth meddwl mor gyfiawn fuasai Duw, wrth wneyd hyn, i mi ymostwng i'r llwch ger ei fron. Ac yna dangoswyd i mi dynerwch Duw tuag ataf, rhagor at eraill. onis gallaswn fod wedi ymbarotoi at fod yn filwr, a chael fy ngadael i mi fy hun, i fod yn erlidiwr? O, beth wyf fi, fel yr hoffwyd fi rhagor miloedd? Gwae i mi os na ogoneddaf Dduw. O Arglwydd, y mae arnaf ofn pechod. Gwna fi yn un a arweinir ymlaen gan gariad. Tyn fy holl gariad atat, ac na ad i mi orphwys nes teimlo yn sicr fy mod yn eiddo i ti, a thithau yn eiddo i mi yn fwy llwyr o hyd. Ac O, arhosed hyn ynof—cael teimlo cariad newydd, ac awydd am ogoneddu Duw.'

Cyrhaeddais Lanywyllyn, ac arosais yno tan oedd yn agos i wyth; yna troais i tuag adref heno, ac yr oedd ** yn cael lle mawr yn fy meddwl. ' O Arglwydd, gad i mi sicrwydd dy fod di'n Dduw i mi, a fy mod inau'n eiddo i tithau yn mhob peth.'

Cefais beth iselder meddwl wrth weled fod Crist yn oleuni a bywyd a phurdeb, ac wrth weled fod mor ychydig o bob un o'r rhai hyn ynof fi. Ofnwn nad ydyw ef ynof—ond eto y mae graddau, a phwy sydd yn tynu fy meddyliau i fyny? O na fedrwn fod yn ddiolchgar fyth.

—————————————

EGLWYS DEFYNOG.

Lle y Cyfarfydd Howell Harris a Daniel Rowlands am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1757

—————————————

Ar y ffordd cefais olwg gliriach ar fawredd Duw. Yr oedd y mawredd hwn o flaen fy llygaid o hyd: yr hwn yn unig sydd yn taenu'r nefoedd.' Yr oeddwn mewn syndod wrth feddwl yr edrychai ar lwch; ac wrth weled rhyfeddod ei dragywyddol gariad yn anfon ei Fab, collais fy hun mewn edmygedd. O tyn fi yn gyfangwbl i dy garu di!

Cyn cyraedd yno yr oeddwn wedi blino, gorff ac yspryd, ac yr oedd fy nhymerau naturiol yn pallu. Pregethais ar ragoroldeb ffydd: (i) Fel y mae'n agoriad i glo trysorau gras Rhagluniaeth Duw. (2) Hi ydyw llaw yr enaid i dderbyn oddiwrth Dduw. (3) Hi ydyw'r droed i redeg ar ol Duw pan fydd yn cilio, ac i ddilyn pan fydd yn tynu ynom. (4) Hi yw y llygad i weled Crist, a phob gras wedi ei drysori ynddo ef. (5) Hi yw y glust i glywed llais Crist yn mhob dim. (6) Hi yw llais a thafod yr enaid. (7) Ei hedyn. (8) Yn treulio bwyd ysprydol.

Ceisiais ddangos gallu cariad Crist, ond gorfod i mi roddi i fyny. Aethum i'm gwely tua haner nos.

Tal-ardd, yn mhlwyf Llanywyllyn, Meirionydd, Dydd lau. Codais cyn saith; wedi breuddwydio neithiwr. Cefais ddymuniadau am i Dduw fy rheoli, a rhoddi i mi fyfyrdodau sanctaidd ar y ffordd heddyw—un-milldir-ar-bymtheg yn ol eu cyfrif hwy—fel y gwelwyf fod fy nghymdeithas i gyda'r Tad a chyda'r Mab. Dymunwn yn dda, ond nid wyf yn teimlo digon o wagder yn fy enaid i dderbyn Duw. Yn sicr ni chafodd neb erioed natur mor anhawdd ganddi ddod at Dduw, ac mor anhawdd iddi gredu'r Beibl ac ymhyfrydu ynddo. Yna daethum i ddarllen y Beibl, ond ychydig o hono gyda'm calon; eithr y mae ef yn tosturio wrthyf, ac yn fy nilyn a'i gariad. Ni fu neb yn meddu mwy o Satan na myfi, nac mor galed i effeithio arnaf, ond rhyfedd yw natur gras—y gras a wnaeth ragrith yn onestrwydd ac uniondeb, y gras a wnaeth y casineb mwyaf yn gariad, y gras a wnaeth y balchder mwyaf yn ostyngeiddrwydd, y gras a wnaeth y llwfrdra mwyaf yn wroldeb, y gras a wnaeth y chwant mwyaf yn burdeb, y gras a'm cododd o'r domen i anrhydedd. O nas gallwn ei ogoneddu ef am byth!

Wedi bwyta a gweddïo gyda'r teulu, cychwynais tua Machynlleth cyn wyth, taith o un-milldir-ar-bymtheg. Mor fuan ag yr aethum allan cafodd fy enaid daerineb a llefain, ac erfyn dros Ogledd Cymru, druan: 'O Arglwydd, dyro wybodaeth iddynt. O trugarha wrthynt. Oni weli di'r tywyllwch dudew sydd yn mhobman yn eu mysg? O Arglwydd anwyl, na wrthod fy nghais; anfon wybodaeth iddynt drwy ryw fodd neu gilydd.'

Nis gallwn oddef cymeryd fy ngwrthod, eithr gwnawd i mi barhau mewn taerineb. Wedi peth cysgadrwydd, gweddïais wedin, ond yr wyf eto yn mhell oddiwrth Dduw. Yna meddyliais am fy myned i Fachynlleth heddyw, a llefais: ' Pe gwyddwn, Arglwydd, fy mod yn mynd i dy ddianrhydeddu di, trwy ras y gallaf ddweyd nad awn. Y mae digon o ddianrhydeddu arnat heb i minau hefyd dy ddianrhydeddu di. Na ad di i mi fod yn mhlith y rhai sydd yn dy erbyn mwy. Er i mi ildio i feddyliau ofer, ac er i'r rheini sychu

fy enaid, O dyro dy hun i mi, ac yna gad i mi fod y peth a fynot, gan deimlo fy enaid wedi ei ddiddyfnu oddiwrth bobpeth, a chan allu meddwl ychydig am berffeithderau Duw.. Rho dy natur ynof, nid oes arnaf ofn dim ond pechod. Na foed ewyllys ynof ond dy ewyllys di, dysg fi i'th ogoneddu yn mhob peth.'

Tuag un-ar-ddeg daethum i Ddinas Mawddwy, tref wyth milldir o Fachynheth. Yr oeddynt yn ymddangos ychydig yn dynerach yma y tro hwn, a dywedent y buasent yn falch o'm clywed. Yna penderfynais bregethu yno, a dechreuais siarad a rhyw ychydig o honynt oedd wedi dod at eu gilydd. Chwarddai rhai, yr oedd pawb a'u hetiau am eu penau, ai rhai eraill heibio heb gymeryd sylw o honof, gwaeddai rhai eraill: ' Yr wyf fi'n clywed digon yn yr eglwys.' Lle ofnadwy ydyw hwn; addefasant y bydd canoedd yn dawnsio ar y Sul, ac yn chwareu pêl, yn tyngu ac yn byw pob afradlondeb; felly y mae yn mynwent Mawddwy. Ni chefais awdurdod arnynt, ac ni chymerais destun, ond pregethais yn gyffredinol am Dduw, a marw, a'r farn, a thragwyddoldeb, a phechodau a arferir. Ni chefais awdurdod, a pheidiais a siarad pan welais rai yn rhedeg ataf, gan feddwl eu bod yn dod i aflonyddu. Ond gwelais mai dod i wrando yr oeddynt, a phregethais ychydig yn ychwaneg gyda mwy o deimlad, ond ychydig iawn. Ni chefais unrhyw effaith arnynt, darostyngwyd fy yspryd; yr oeddwn yn foddlon iddynt fy mathru dan eu traed, ond yr oedd ynof dosturi tuag atynt, a pheth pryder am achos Duw. Cefais yspryd tosturi i weddïo, gan deimlo'n isel a gostyngedig iawn.

Ymadewais am haner awr wedi deuddeg, tua Machynlleth, a daeth ataf, fel o'r blaen, yspryd i weddïo dros Ogledd Cymru. Cyfarfyddais ŵr ieuanc tlawd oedd yn ffafriol, a chawsom ymgom felus; yr oeddwn yn ei garu, a chynorthwywyd fi i'w gynghori. Yr oedd gras Duw ynddo, ond yr oedd yn anwybodus am Grist.

Rhedodd y bechgyn bach ar fy ol heddyw, i waeddi. Yr wythnos hon, hyd yn hyn, y mae Satan wedi cael ychydig o ryddid. Yr oeddwn inau wedi fy ngadael, ac yn isel fy yspryd. Gofidiais pan glywais fel yr oeddynt yn cymeryd enw Duw yn ofer, a llefais: 'O Arglwydd, pa hyd y dyoddefi ni? Saf drosot dy hun, dros dy dŷ dy hun. Ymwregysa, Arglwydd, amddiffyn dy ogoniant; oni weli di fod yr offeiriaid yn dy erbyn, oni weli fod y rhai mawr yn codi yn dy erbyn di? O Dduw, bydd gyda mi. Boed i bobpeth a'th ofidio di fy ngofidio inau; a phobpeth a'th foddhao di fy moddhau inau.' Adnewyddwyd fy nerth, ond yr oeddwn eto yn wan. Teimlais beth cymundeb a Duw, ond yr oeddwn yn rhy ddiofal yn fy myfyrdodau.

Cyrhaeddais Fachynlleth ychydig wedi tri. Disgynais wrth dŷ'r Cyllid. Yno cyfarfyddais a hen ŵr bonheddig, yr hwn oedd wedi meddwi. Cydiodd ynof, sarhaodd fi, gan ofyn cwestiynau sarhaus. Ond ni wnaed terfysg. Clywais iaith uffern—dynion yn damnio eu hunain yn fy nghlustiau—a daeth yr holl dyrfa ynghyd i chwareu pêl droed. Wedi cael ychydig o luniaeth aethum allan, gan feddwl mynd i'r Clwt Teg oedd ger llaw. Yr oedd yr Arglwydd wedi darparu tri neu bedwar o gyfeillion i'm hamddiffyn; ac yr oeddynt hwy wedi cael lle arall i mi, mewn drws bychan oedd yn agor o lofft uwchben grisiau. Sefais yn y drws hwnw, a'm gwyneb i'r heol. Ni wnaethum yr hyn a ddylaswn wneyd mewn lle mor beryglus, sef ceisio yr Arglwydd, eithr dechreuais siarad am lw y bedydd. Ond yr oeddynt wedi ymgynddeiriogi cymaint fel na wrandawent. Yr oedd offeiriad—Mr. Griffiths, o Benegoes, mab i Ddissenter o Sir Aberteifi—a thwrne o'r enw Lewis Hughes, a gŵr bonheddig o'r enw Mr. Thomas Owens; yr oedd y rhai hyn fel pe buasent wedi eu rhoddi ar dân uffernol gan Satan. Yr oeddynt mor wallgof fel y gallesid gweled cynddaredd yn mhob gwyneb; ac ymgynddeiriogai y dyrfa, gan luchio cerrig a thyweirch, a hen esgyrn ataf. Ond gwaredodd yr Arglwydd fi rhag i'r un o honynt gyffwrdd a mi. Y mae genyf achos cywilydd, am fy niofalwch yn peidio ceisio'r Arglwydd, ac yn enwedig yn peidio gweithredu ffydd. Yr oeddwn yn wan, ac nis gallaswn gael geiriau. Ond o'r diwedd ymdawelasant ychydig, a chefais inau beth awdurdod. Siaredais ychydig am y clefyd mawr sydd yn eu mysg; lluchiwyd pethau ataf, ac yr oedd yr offeiriad a'r twrne yn rhuo bygythion, yn bygwth rhoi'r cwnstabl arnaf oni thawn, ac yn cynhyrfu'r dyrfa i ymosod arnaf. Teimlais nad oedd Duw wedi fy ngalw yma, neu fy mod wedi camymddwyn. Ofnais i mi ymfalchio, ond yma tynwyd fy malchder i lawr. Cefais gymorth i ddweyd wrthynt am edrych ati, na safai gwyr mawr yn y farn yn eu lle. Wrth fy ngweled yn dal i bregethu, rhedodd y twrne i fyny i'r ystafell lle yr oeddwn, mewn dig a chynddaredd mawr, a'i enau'n llawn melldithion, yn tyngu yn erchyll, gan feddwl fy llusgo i lawr. Siaredais inau yn deg ag ef, a dangosais mor afresymol oedd iddo ymwallgofi heb reswm. Gorfod i mi dewi, o herwydd nis gallai neb fy nghlywed. Ac yna daeth y gŵr bonheddig i fyny at y drws oddi allan, mewn cynddaredd mawr, a saethodd ergyd o lawddryll yn ein mysg, a chrochlefodd. Aethum inau i lawr y grisiau yn awr, gan weled fy mod mewn perygl. Aethum gyda'r cyfeillion i ystafell breifat, ac yna daeth y dyrfa i'r ffenestr, a chrochlefasant drachefn. Gwelais fy mod yn awr yn uffern, yn ymladd ag anifeiliaid yn Ephesus. Aethum allan, gan feddwl myned ymaith; ond pan gefais fy hun yn y dyrfa gwelais fod fy mywyd mewn perygl. Ofnwn gael fy nhrywanu, yr oeddwn wedi cael fy nghicio ddwywaith, ac wedi fy ngwneyd yn wawd y dyrfa. Galwent fi yn ' berson,' mewn dirmyg. Dangosodd marwolaeth ei wyneb i mi mewn llawer ffordd.

Cefais ystafell breifat wedin gan gyfaill, a bolltiasom y ddôr; ond yr oeddynt yn ysgrechain cymaint y tu faes fel yr oeddwn yn disgwyl gorfod marw pan ddown allan. Ac yn awr ymdrechais geisio Duw, ond gadawyd fi yn unig. Yr oeddwn ar fy mhrawf, a'm ffydd yn wan. Deisyfais ar iddynt beidio fy llofruddio; ac yna agorasom y drws ac aethom i'w mysg.

Achubodd yr Arglwydd fy mywyd; a gwnaeth iddynt adael i mi fyned pan ddywedais fy mod am droi i ffwrdd. Pan ofynais am heddwch yn enw'r brenin, dywedodd un na chawn niwed; a dywedodd un arall, pan oeddynt yn meddwl fy mathru dan eu traed, fy mod yn gyd-greadur. Cymerais fy ngheffyl, ac aethum ar hyd ffordd gefn; ond gorfod i mi fyned drwy ran uchaf y dref ar fy ffordd, a dyna lle yr oeddynt yn dod oll i'm cyfarfod eilwaith. Rhedodd un ataf drwy'r caeau, gan godi dwy dywarchen. Dymunais arno beidio fy lladd; taflodd un dywarchen ataf a methodd, yna taflodd y llall yn union heibio fy mhen. Aethum trwy eu canol, lluchiwyd cerig ar fy ol, ond cadwodd yr Arglwydd fi, ac ni chefais fy nharo gan gareg. Rhedodd un gyda pholyn ar fy ol i'm taro, ond nerthodd yr Arglwydd fy ngheffyl blinedig i garlamu, ac felly dihengais. Ond yr oedd fy nghyfaill ar ei draed, ac yn eu canol; ac ni theimlais gariad yn fy nhynu yn ol i'w achub, er na fedraswn wneyd dim. Ond achubodd yr Arglwydd ef a'r lleill. Pan ddaethum at fy nghyfeillion, galwodd tri neu bedwar o bobl ar ein holau. Yr oeddwn yn ddrwgdybus o honynt; er hyny arhosais hwynt. Yr wyf yn meddwl mai rhai wedi dod i'm dal ar fy nhaith oeddynt; gofynasant i mi beth oedd fy mywoliaeth, a beth oedd yn gwneyd i mi ddod o gwmpas, a chwestiynau felly.

Pan ar fy mhen fy hun, agorodd y Llyfr ar 2 Tim. i'. 17, 18. Treiais geisio'r Arglwydd, ond yr oedd wedi ciho; nis gallwn ei gael, ond medrais lefain: ' Arglwydd, nid af oddiyma nes yr edrychot arnaf." O mor ddigysur ydyw arnom hyd nes y daw yr Arglwydd o hono ei hun. Parodd ei ymadawiad oddiwrthyf i mi edrych ychydig i mi fy hun, a gwelais fod popeth o'i le,—(i) Nid oeddwn wedi cael galwad glir i ddod yma. (2) Nid ymddygais, y mae arnaf ofn, er anrhydedd i Dduw; a gwelaf na wnaf, os na chynhelir fi bob eiliad ac os na ddysgir fi gan Dduw. Ond cefais gysur wrth feddwl fy mod wedi gwneyd, er nad fel y dylaswn, eto fel y daeth i'm meddwl i wneyd. (3) Ni ddisgwyliais ddigon wrth Dduw, a thorais y gorchymyn: ' Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff.' Ond ildiais i ofn y cnawd, dywedais yn deg wrth elynion yr Arglwydd, gwelais fy hun yn llawn o hunan-gariad, yn cymeryd mwy o ofal am fy mywyd nag am achos Duw, ac nid oedd pryder am ei anrhydedd ef yn ddwfn yn fy nghalon.

Daeth y pethau hyn oll i'm meddwl; ond wrth ddisgwyl wrth Dduw, cofiodd drugaredd; er fy mod i yn hir mor galed a chareg, heb gariad, yn galed a sych, a'm calon yn berwi drosodd o feddyliau chwerwon am Dduw. Cefais gymorth i osod yr holl fater ger bron Duw, ac i ymbil ag ef, gan deimlo peth euogrwydd a'm caledai. Nis gallwn fyned ymaith,—disgwyliwn, gobeithiwn wrth weled tynerwch Crist,—ond yr oedd fy enaid mewn cadwynau. O'r diwedd rhyddhawyd fi, a medrais lefain gyda pheth gofid, wrth gofio i mi gwympo yn Adda, a cholli ei ddelw ef: ' Ai ni welir dy ddelw arnaf byth mwy? O anwyl ogoneddus Arglwydd! Ai nid digon genyt yr hyn a wnaeth Crist drosof? Tro oddiwrthyf wyneb dy gyfiawnder, ac edrych arnaf mewn trugaredd yn Nghrist. O edrych ar ei waed ef! '

Cefais feddwl rhydd i weddïo drostynt oll, ond ni fedrais gael taerineb. ' O Arglwydd, anwyl Arglwydd, yr wyf yn hiraethu am fod gyda thi. O pa hyd raid iddi fod nes y caf ddod! Ò 'rwyf yn hiraethu, 'rwyf yn hiraethu—cymer fi, enill y fuddugoliaeth yn llwyr dy hun. Yr wyf yn sicr nad oes yr un cythraul yn uffern haeddodd uffern yn fwy na fi, ond y mae genyt ti drugaredd—golch fi yn ngwaed Crist, selia fi yn blentyn i ti dy hun.'

Yna adfeddienais fy enaid, i ddweyd geiriau cariad melus, a diolchgarwch. Yna aethum at y brodyr; gweddïasom a chanasom ynghyd hyd saith. Wedi hyn aethum i dŷ fy ngyfaill, bu'm yno hyd wedi deg, yna i'm gwely.

Dysgais oddiwrth heddyw: (1) Fel y digir yr Arglwydd, ac fel y dengys ei amynedd wrth fy nyoddef. (2) Gymaint o wrthryfel sydd yn Satan, pan welir cymaint o derfysgu yn mysg dynion er cymaint o atalfeydd—er gwaethaf cydwybod, cyfreithiau dynol, gobaith, cywilydd, &c. (3) Fy mod bob amser yn teimlo yn ddiolchgar drostynt am y fraint o siarad a byw dros Dduw. (4) Beth wyf pan wedi i'm gadael, mor barod i edrych i lawr. Mor dda i mi ei fod ef yn dal gafael ynof fi, onide buan iawn y collwn fy ngafael ynddo ef. (5) Mor gryf ydyw cynddaredd Satan yn fy erbyn; a rhaid mai ei gynddaredd ef yw hwn, o herwydd nid oedd dim arall i enyn y bobl yn fy erbyn. Galwasant fi yn ymhonwr ac yn awdwr y cynhwrf hwn; a phe buasent wedi fy nghael allan o'r tŷ, yr oeddynt wedi meddwl fy nghario mewn cadair o gwmpas y dref, mewn gwawd." Yma daw ei fyfyrdodau a'i weddïau hyd nes y cysgodd, cyn un o'r gloch y boreu.

"Rhuegruawell, plwyf Penegoes, Sir Drefaldwyn. Yr oedd fy nghorff yn flinedig, wedi trafaelu ugain milldir ddoe, ac arhosais yn fy ngwely tan oedd agos yn naw. Breuddwydiais fy mod yn derbyn fy nghymun gyda'r Dissenters, ac arhosodd y meddwl hyfryd yn f'enaid. O mor ddiyni ydwyf; a phan fyddaf ar lawr, pa fodd y gallaf godi? A rhoddodd ffydd, wedi ei sylfaenu ar yr addewidion, allu i mi ddisgwyl am atebiad, o herwydd fod Duw wedi addaw, a bod Crist yn y nefoedd. Dadleuais hyn, fel y noson o'r blaen.

Wedi hyn, pregethais hyd oedd yn agos i un-ar-ddeg. Cefais beth cymorth wrth weddïo. A melus oedd pregethu am osod y sylfaen yn ddwfn, ac am afresymoldeb erlid. Daeth adnodau lawer i'm meddwl i ddweyd na chawn ond erlid yma. Cefais gymorth i siarad, yr wyf yn gobeithio, yn ddidderbyn-wyneb, a chyda thynerwch."

Oddi yma aeth tua Thalerddig, ac yr oedd yn nos ar ei brofiad wrth deithio. Nis gallai gredu mwy nag y medrai ehedeg, ond medrodd weddïo. Pregethodd ar gwymp Petr, gan ddifynu adnodau o'i hoff Rufeiniaid. Efengyleiddiodd, ac yr oedd yno "wylo mawr." Ar ganol adrodd ei bregeth dywed: "Yr wyf yn gweled cymaint o ddrygioni yn fy nghalon fel nas gallaf ddweyd y cwbl wrth fy mrawd Lewis Rees. Pan ofynodd un i mi i ble yr ai i gymuno, nis gallwn ddweyd wrthi am fynd ato ef, gan yr hoffwn gael seiadau yn ein heglwys ni; ond pan welaf na fyn Duw hyn, yr wyf yn ymostwng. Ni fedraf fyned gam o flaen ei Yspryd ef." Wedi prophwydo y profid eu ffydd, a chael hwyl ryfedd ar bregethu, a son am "offeiriad cnawdol," aeth tua Chwmcarne, a phregethodd yn nerthol ar ddiwydrwydd Satan, a phethau eraill. Ar weddi, cafodd Lewis Rees lewyrch rhyfedd, ond tywyll oedd hi ar Howell Harris. Eto teimlai fod rhywbeth yn ei gynal.

" Treuhais beth amser i drefnu i ba le i fyned yr wythnos nesaf. Teimlwn awydd cryf am fyned adref, meddwn deimlad i weddïo am fyned, i weled fy mam a ** Ond perswadiwyd fi, yn erbyn fy nheimlad, i fyned ffordd arall, o dosturi at eneidiau."

—————————————

COFLECH HOWELL HARRIS YN EGLWYS TALGARTH.

—————————————

Yr ydym yn gobeithio nad yw ein darllenwyr yn blino ar y dydd-lyfr. Yr ydymyn difynu mor helaeth o hono am ei fod yn taflu goleu cryf ar ansawdd y wlad, ac ar yr amgylchiadau a gyfarfu y Diwygiwr yn ei ymdrech i geisio efengyleiddio ei gydwladwyr; ond yn fwy arbenig, am ei fod yn ddangoseg o natur ei brofiad, y pruddglwyf a'i goddiweddai yn aml, ei ddyhead am Dduw, a'i ryfeloedd yn erbyn anghrediniaeth a llygredigaeth ei galon. Gellid meddwl y buasai, ar ol cymaint blinder ac erlid, yn dyheu am orphwys; ond pan yn ysgrifenu y dydd canlynol o Lanbrynmair, trefnu cyhoeddiad arall y mae. Fel hyn y dywed: "Arfaethai lefaru yn y sir hon hyd dydd Mawrth. Nos Wener yr wyf yn bwriadu, os Duw a'i myn, cysgu yn nhŷ fy anwyl fam, a phregethu yno boreu dydd Sadwrn." Yna trefna i gyfarfod a chyfeillion yn Nolygaer nos Sadwrn, myned i Cwm Iau, lle yn y mynyddoedd, rhwng y Fenni a Thalgarth, y Sul, i wrando ar yr offeiriad efengylaidd, Thomas Jones; leefaru yn y prydnhawn yn agos i Cwm Iau, a dychwelyd i'r Fenni i gysgu. Yna llefaru dydd Llun yn Llandilo, ger y Fenni, a nos Lun yn y Goetre, ger Pontypŵl; dydd Mawrth yn ysgol William Powell, a nos Fawrth yn y Trensh: dydd Mercher yn Llanafan, yn agos i dŷ hen ŵr oedd yn awyddus am ei weled, ac yn Brooks nos Fercher. Oddi yno myned i bregethu i Langynidr boreu dydd Iau, gan gyrhaedd Trefecca nos Iau. Ond wedi cyrhaedd adref, nid oes ganddo hamdden i orphwys. Arfaetha bregethu yn Nhrefecca boreu dydd Gwener, myned y Sul i wrando y Parch. Thomas Lewis, offeiriad ieuanc oedd yn bregethwr da yn nghymydogaeth Aberhonddu, a chychwyn oddi yno am daith faith arall yn Sir Benfro. Braidd nad oedd angerddolrwydd ei yspryd yn ei godi uwchlaw lludded corff; ac nid gwerthfawr ganddo yntau ei einioes ei hun, os gallai gyflawni rhyw wasanaeth i Grist ei iachawdwr. Yr un pryd, digalon y teimlai gyda golwg ar Sir Drefaldwyn. "Yr wyf yn ofni," meddai, "fod y sir hon dan felldith; yr wyf yn cael fod y rhan fwyaf, os nad yr oll, o'r boneddwyr yn elynion."

Fel yr arfaethasai Howell Harris, felly y cyflawnodd. Cychwyna tua Sir Benfro dydd Llun, Mawrth, 1740, gan bregethu dair gwaith yn ystod y dydd. Yn Llywel (Trefcastell) cynhelid ffair bleser; pregethodd yntau gydag awdurdod yn ei chanol. Ceisiodd Satan ei rwystro trwy osod un i fynu i holi cwestiynau iddo, ac un arall i ganu'r gloch, ac arall drachefn i gadw sŵn. Ond aflwyddiannus fuont. Wedi gorphen y bregeth, gosodasant i fynu ddawns yn y fynwent; nis gallai ei enaid yntau oddef iddo ymadael tra yr oedd y dawnsio yn myned yn mlaen; aeth i'w canol, a tharanodd felldithion y gyfraith ddwyfol yn eu clyw, nes eu gyru oll ar ffo. Trwy yr wythnos, cawn ef yn teithio o gwmpas deg milldir, ac yn pregethu dair gwaith y dydd, nes, erbyn nos Sadwrn, Mawrth 8, y mae yn cyrhaedd tŷ yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror. Gydag ef, a Madam Bevan, y treuliodd y Sabbath, ac yr oedd eu cymdeithas, yn ol ei ddydd-lyfr, yn wledd felus i'w enaid. Dydd Llun, yr ydym yn ei gael yn Llwyndryssi, plwyf Llangan, Sir Gaerfyrddin; a dydd Mawrth y mae wedi myned i mewn i Sir Benfro.

Yr oedd Penfro yr adeg yma yn gyffelyb i siroedd eraill Cymru o ran drygfoes, anwybodaeth, a choelgrefydd; os nad oedd, yn wir, yn fwy ofergoelus.[11] Dywedir yr ai y trigolion i'r llan, Sul y Pasg, yn nhraed eu hosanau, sef heb esgidiau, rhag, meddent, gyffroi y pridd. Ar foreu Nadolig cyfodent cyn dydd i edrych y Rhosmari, a thaerent ei fod yn blodeuo; ond rywfodd nid oedd y blodau byth yn aros hyd doriad y wawr. Credent fod ysprydion yn yr eglwys nos Calangauaf, yn cyhoeddi enwau pawb perthynol i'r plwyf a fyddai farw o fewn corff y flwyddyn ddyfodol. Ceid ambell un yn ddigon gwrol i fyned i wrando dan ffenestr y gangell; clywai hwnw, meddid, yr enwau yn cael eu cyhoeddi; ond pe elai a chydymaith gydag ef, ni chlywid dim. Ddydd Calanmai byddai ganddynt helynt fawr ynghylch "gwisgo y fedwen;" ymdyrai y lliaws ynghyd, a meddwdod ac ymladd fyddai y diwedd. Dyoddefai hyd yn nod y ddaear oblegyd anwiredd ei thrigolion.[12] Prin y gellid dweyd fod amaethyddiaeth yn bod o fewn y sir; ychydig neu ddim triniaeth a gaffai y tir; bwrid ychydig ŷd i'r ddaear yma a thraw, yn y llanerchau hawddaf i'w haredig; ond ni fyddai na gwrych na chlawdd o'i amgylch, a gwaith y trigolion trwy yr haf fyddai ei warchod, a chadw yr anifeiliaid allan o hono. Gwelir hyd yn nod y tir yn ddyledus i'r diwygiad. Yr oedd rhai eglwysi perthynol i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi eu planu yma oddiar y ganrif flaenorol; ac ymddengys fod bedydd wedi bod yn destun dadl, a chwerwder yspryd nid bychan yn eu mysg, oddiar adeg y ddadl gyhoeddus ar lechwedd y Frenni Fawr, yn 1692, hyd yn awr. Y mae dydd-lyfr HoweH Harris yn llawn o gyfeiriadau at yr ymryson ynghylch bedydd; teimlai ei galon yn ofidus ynddo o'r herwydd.

Gwnawn ei ddilyn ar ei daith trwy y wlad gyda chymorth ei ddydd-lyfr a'i lythyrau.

Trefhowell, plwyf Llanfrynach, Sir Benfro, dydd Mawrth. Y peth cyntaf a wna wedi codi o'i wely yw gweddïo ar ran John Powell, gweinidog cyfagos perthynol i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg, yn yr hwn y cred fod y gwaith da wedi ei ddechreu, ond yr ofna iddo gael ei arwain ar gyfeiliorn, a gwneyd niwed. Yna gofyna am gael ei wrando ar ran y Bedyddwyr, yn mysg pa rai y mae yn hyderus fod llawer o bobl i'r Arglwydd, ond amheua mai o hono ef y tardd eu hyspryd condemniol. " Melusa hwy a dy gariad," medd, " fel y byddont bobl bur i ti." Gweddïa yn ganlynol dros y Methodistiaid, ar iddynt gael eu cadw rhag cyfeiliornadau; a thros holl weinidogion y Gair. Cyfaddefa ei fod ef yn hollol allan o drefn, ar ei ben ei hun yn gyfangwbl, ond eto yn cael drws agored i'r weinidogaeth. " Gwna di, Arglwydd, dy ewyllys dy hunan arnaf," medd; " na ad i mi fyned yn fy nerth fy hun, nac yn fy neall fy hun." Ceisiwyd ganddo bregethu ar bwnc dadleugar, bedydd yn ddiau, ond ni wnai, o herwydd y cariad a lanwai ei galon; yn hytrach ymosododd ar lygredigaeth yn y wedd o falchder, meddwdod, gwyn, a chybydd-dod.

Prydnhawn yr un dydd cyfeiria ei gamrau tua Maenclochog, ac ar y ffordd cyffröir ei enaid ynddo wrth siarad am Enoch Francis, gweinidog ymadawedig perthynol i'r Bedyddwyr, galara am y golled a barodd ei farwolaeth i'r eglwys, a gweddïa na chaffo Satan wneyd dinystr arnynt yn awr, wedi i Mr. Francis gael ei symud. Yr oedd Enoch Francis yn bregethwr gwych, ac yn dal gafael dyn yn yr athrawiaeth efengylaidd. Ei ddylanwad ef yn benaf a gadwodd eglwysi y Bedyddwyr yn Nghymru rhag gwyro at Arminiaeth, fel y gwnaethai amryw o'r eglwysi Presbyteraidd. Erbyn cyrhaedd Maenclochog nid oedd neb yn ei ddisgwyl, nid oeddynt wedi clywed am ei ddyfodiad; ond yn mhen rhyw awr casglwyd cynulleidfa o amryw ganoedd, a phregethodd yntau am agos i dair awr. Cyn dechreu, bu mewn ymdrechfa galed a Satan; ond rhoddodd yr Arglwydd fuddugoliaeth iddo ar y gelyn, a galluogwyd ef i lefain: "Satan, gwna dy waethaf! Yn enw yr Iesu yr wyf yn dy herio! Mi a dynaf dy deyrnas i lawr, ac a ddynoethaf dy ddichellion." Yr oedd y rhan gyntaf o'r bregeth yn daranllyd, ac yn dynoethi drygedd y galon; yna trodd i ddangos mai dyna y rheswm paham y dylent ddyfod at Grist. "Ar hyn," medd, "wylodd llawer yn chwerw; ac ymddangosai nerth mawr yn ein mysg oddi yno i'r diwedd. Cyn ymadael anoga broffeswyr crefydd i beidio ymryson, ac ymladd y naill yn erbyn y llall, ond i gytuno yn eu hymdrechion yn erbyn y gelyn. Cyfarfu yma a'r Parch. John Powell, y gweddïasai drosto yn y boreu; "a galluogwyd fi," medd, "i lawenychu yn galonog yn ei lwyddiant." Yn yr hwyr cychwyna tua Hwlffordd; y mae yn llefaru ar fin y ffordd; cyn cyrhaedd, clyw fod un M. P yn pregethu yn erbyn bedydd babanod, a theimla ei yspryd yn ymgynhyrfu gan awydd cymeryd i fynu arf yn ei erbyn. Eithr gwedi ail ystyriaeth, tyr allan mewn gweddi, i ofyn ar i'r Arglwydd lywodraethu ei yspryd a'i galon. Y mae yn clywed, hefyd, os aiff i Dyddewi, y caiff ei gymeryd i'r ddalfa, fod un Justice Vaughan wedi arwyddo gwarant i'r perwyl hwnw; "ond gwnaed i'r oll a glywais," medd, "ddylanwadu yn felus ar fy enaid, i'm tynu allan o fy hunan at Grist."

Dydd Mercher, y mae yn Hwlffordd. Wrth ddal cymundeb â Duw yn y boreu dywed: "Yr wyf yn gofyn am help yn unig i fod yn ffyddlawn i'm Harglwydd; nid yw fy mod i yn cael fy namsang mewn un modd yn ddolurus; nid oes arnaf ofn dim yn gymaint ag i mi drwy fy ngwaith dy ddianrhydeddu di." Gobeithia fod yr Arglwydd am ddefnyddio John Powell i ddiwygio y sir, a hydera y bydd iddo yntau gael gwneyd yr oll a fedr i gryfhau ei ddwylaw. Y mae yn pregethu i ganoedd lawer, cyfrifa y gynulleidfa tua dwy fil. Pregetha yr un dydd yn Saesneg am agos i ddwy awr; pwnc y bregeth yw fod crefydd yn gynwysedig mewn gallu, fel ei heglurir mewn cysylltiad â Zaccheus, ac yn nhroedigaeth Paul. Ymddengys fod yr odfa yn un dra nerthol; " llanwodd yr Arglwydd fy ngenau â geiriau," medd; "dyrchafwyd fy llais i fynu; gwnaed fy yspryd yn gryf; yr wyf yn gobeithio fod awdurdod yn cydfyned, ac i mi gael cymorth i edrych i fynu at Dduw." Pregetha ar yr un mater drachefn yn Gymraeg. Teimlodd hyfrydwch mawr wrth lefaru y ddau dro; ond yn arbenig yn Gymraeg. Yn ganlynol, ymgynghora â chyfeillion gyda golwg ar ei daith trwy ranau eraill y sir.

Dydd Iau, yr ydym yn ei gael eto yn Hwlffordd, ac yn myned i ymweled a'r Parch. Howell Davies, yr hwn feddyliem a ddaethai i'w wrando. Yr oedd y gyfeillach mor felus fel ag i beri i Harris waeddi "Gogoniant!" "Cefais ymddiddan maith ag ef am wahanol bethau," meddai. "Galwai ei sancteiddrwydd yn amod iachawdwriaeth; addefwn inau nas gallai iachawdwriaeth fod hebddo; ond nad oeddwn yn foddlawn ei alw yn amod, rhag i bobl gael eu gyru i chwilio am dano ynddynt eu hunain ac nid yn Nghrist, gan dybio na chânt eu derbyn os na byddant yn feddianol arno. Yr ydym yn cael ein cyfiawnhau er mwyn Crist, ac yn cael ein hachub trwy weled mawr gariad Duw yn rhoddi ei Fab. Ymddiddanasom am deimlad, a'r modd i brofi ei wirioneddolrwydd, trwy y cyfnewidiad a effeithia ar ein heneidiau a'n bywydau; am yr angenrheidrwydd am ffydd yn flaenorol i weithredoedd; am berygl moesoldeb heb egwyddor; am y perygl o fod yn amddifad o dlodi yspryd, i beri i ni anobeithio ynom ein hunain, a'n tynu allan o hunan at Grist; a pha fodd yr ydym yn cael ein cyfiawnhau yn ngolwg Duw trwy Grist, ac nid o herwydd ein hedifeirwch a'n gweithredoedd da." Teimlai Mr. Harris fod ganddo reswm cryf dros geisio cydnabyddiaeth eangach â'r Ysgrythyr. "Ymadawsom yn felus," meddai. A oedd Mr. Davies wedi ei ordeinio yn awr, sydd ansicr; ond y mae yr ymddiddan hwn rhyngddo ef, a wnaed gan yr Arglwydd gwedi hyn yn Apostol Sir Benfro, a Howell Harris, yr hwn a wnelsid yn Apostol holl Gymru, a rhanau helaeth o Loegr, yn dra dyddorol. Wrth fyned o Hwlffordd, clywodd bethau dychrynllyd am gyflwr moesol y wlad; fod meddwdod, puteindra, tyngu, a drygau cyffelyb yn ffynu ynddi, fel na wyddai beth i'w wneyd.

Dydd Gwener, y mae mewn lle o'r enw Loverson, tua saith milldir o Hwlffordd. Yma eto cyfeiria at y Bedyddwyr, ac ymddengys fod ei deimlad tuag atynt wedi newid yn gyfangwbl. "Cefais gryn deimlad," medd, "wrth weddïo dros John Powell. Mi fum nas gallwn garu y Bedyddwyr, na llawenhau yn eu llwyddiant; ond yn awr y mae y cadwynau oll wedi eu dryllio; yr wyf yn teimlo cariad atynt, a phleser yn eu llwyddiant; a mawr yw y nefoedd wyf yn fwynhau yn hyn." Pregethodd yma eto yn Saesneg a Chymraeg ar ein cwymp yn Adda, ac am gariad Crist. Gobeithia i lawer gael eu dwysbigo hyd adref yn yr odfa. Y mae yn myned oddiyno i dŷ Crynwr, yn mhlwyf Llanddewi. "Tra y bof yr ochr hyn i dragywyddoldeb," medd, "na fydded i mi dramgwyddo yr un o dy blant, o unrhyw blaid neu enwad." Pregethodd yma am nerth duwioldeb, oddiar y geiriau, " Deled dy deyrnas." Yn nhŷ y Crynwr y lletyai, ac ymddengys i'r gymdeithas rhwng y ddau fod yn nodedig o feluis; gobeithia Harris na chaiff ei adael i ddweyd gair anffafriol am y bobl hyn eto.

Dydd Sadwrn, y mae yn Pwllhook, ger Clarbeston. Llefarodd gyda nerth mawr am yr angenrheidrwydd o seilio ein gobaith ar waed Crist, a pharhaodd y cyfarfod dros ddwy awr. "O, na fyddai i Dduw," medd, "dosturio wrth y sir hon. Yr wyf fi yn ymadael a'r lle, yn unol a chyngor cyfeillion, er mwyn ymroddi i astudio, gan yr ymddengys mai hyny yw ewyllys Duw." Gwelir fod y pwnc o gymeryd ordeiniad esgobol yn ei flino o hyd. Oddi yma y mae yn myned i le na rydd ei enw, lle yr oedd cynulleidfa o dair mil o leiaf; cafodd nerth mawr wrth weddïo, a phregethodd hyd agos i saith ar "Deled dy deyrnas," gan gymharu y ddwy deyrnas a'u gilydd. Y Sul, y mae yn Wolf's Castle, lle y llefara ar gyfiawnhad. Llefara hefyd yn y prydnhawn, ond ni theimlai unrhyw awdurdod. Yna â tua lle o'r enw Trecomau, lle yr ymgynullasai amryw filoedd. Dydd Llun, y mae yn Nhre-Cadwgan, plwyf Whitchurch. Yr oedd yn flinderog mewn gweddi, ond cynorthwyodd yr Arglwydd ef i raddau. Yma gwelodd lythyr wedi ei ysgrifenu gan weinidog perthynol i Eglwys Loegr, yn erbyn y Bedyddwyr, ac achwyna nad yw y llythyr yn arogli o yspryd Crist. Am ddeg y mae yn cychwyn tua lle o'r enw Tygwyn. Yma cyfarfu a gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, o'r enw Thomas Williams, yr hwn a ofynai iddo pa brawf oedd ganddo dros fedydd babanod. Cyfeiriai Harris ef at i Cor. vii. 14: " Canys y gŵr digred a sancteiddir trwy y wraig, a'r wraig ddigred a sancteiddir trwy y gŵr; pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt." Nid oedd gan Mr. Williams ddim i'w ateb, ond nad oedd yn gweled bedydd babanod yn y geiriau. "Yr oeddwn mewn brys," meddai Mr. Harris, " ac nis gallwn aros; ond gwelwn eu bod yn ddeillion i dybio ei bod yn ddyledswydd arnynt dros Dduw i amddiffyn un gwirionedd, heb ystyried eu bod wrth hyny yn niweidio gwirioneddau eraill. Dywedais wrtho ei fod yn gwneyd yn iawn wrth ufuddhau i'r goleuni sydd ynddo ef; felly finau wrth ufuddhau i'r goleu sydd ynof fi."

Dydd Mawrth, y mae yn Hendre Einon, Tyddewi. Dywed ei fod yn deall ddarfod i'r Arglwydd eisioes ei arddel i wneyd daioni mawr yn Sir Benfro, a bod un Cadben Davies a'i foneddiges wedi ymlynu wrtho. Gweddïa: "O Arglwydd, tosturia wrth y sir hon. Yr wyf yn foddlawn cymeryd fy arwain genyt ti, gyda golwg ar fy ymddygiad yn y dyfodol, pa un a af o gwmpas a'i peidio. Galluoga fi i ddal i fynu, gorff ac enaid." Pregetha i amryw filoedd ar drueni yr hwn sydd heb Grist, am y creadur newydd, ac am y ffydd sydd yn cyfiawnhau, ac yn gafaelu yn y Gwaredwr. Yr oll a ddywed am yr odfa yw fod yno nerth, a'r gwirionedd yn chwilio y galon. Yn Methodistiaeth Cymru ceir hanes manylach gan Mr. T. Rees, Trepuet. Dywed ef y pregethai Mr. Harris wrth y Groes, ynghanol yr heol; fod hyny wedi cael ei hysbysu yn flaenorol, ac i dyrfa fawr ymgasglu ynghyd.
COFLECH HOWELL HARRIS YN Y CAPEL COFFEDWRIAETHOL

Dynoethai y llefarwr arferion llygredig y dinasyddion yn ddiarbed a difloesgni; ac yr oedd pob darn ymadrodd o'i enau yn gwreichioni ac yn melltenu mor daranllyd i gydwybodau gwrandawyr, nes yr ofnent fod y farn gyffredinol wedi eu goddiweddyd. Mor rymus oedd yr effeithiau, fel yr oedd dynion dewrion a thalgryfion yn syrthio yn gelaneddau ar yr heol, mewn llewygfeydd o fraw a dychryn. Odfa i'w chofio byth ydoedd yn ddiau. Arswyd a gynhyrfai yn benaf; fel y dywed ef ei hun, trueni y sawl oedd heb Grist oedd ei phrif fater, a chyhoeddi gwae yn erbyn yr oferwyr a mynychwyr y campau; trwyddi dadymchwelwyd yr hen chwareuon, a fuont yn uchel eu penau am oesoedd, fel nad ydynt wedi medru codi eu penau hyd heddyw. Fel engrhaifft o'r dylanwad, adroddir am lencyn pymtheg oed, mab i un Sion Griffith, a ddaethai i'r odfa yn hollol ddifeddwl, gan gael ei gyffroi gan gywreinrwydd yn unig.—Ond aeth saeth i'w galon, ac er pob ymdrech, methai ei hysgwyd ymaith. Cynyddu a wnaeth ei drallod. Yr oedd ing ei fynwes yn ymylu ar wallgofrwydd; nes iddo benderfynu rhoddi terfyn ar ei einioes trwy daflu ei hun bendramwnwgl ir môr, gan na wnai wrth fyw yn y blaen, ond lliosogi ei bechodau, a thrymhau ei gosb. Eithr tra yn cyfeirio ei gamrau at y geulan, daeth yr ymadrodd, "Ha fab, maddeuwyd iti dy bechodau," gyda nerth i'w feddwl; y fath oedd y goleuni a lewyrchai arno, fel y syrthiodd yn gelain ar y ddaear; wedi dadebru, bu yn ceisio amheu nad oedd y gair yn perthyn iddo ef; ond ofer fu ei ymdrech, a chyn codi, llwyr roddodd ei enaid i ofal y Gwaredwr. Erbyn codi ar ei draed, ymddangosai hyd yn nod y ddaear iddo wedi gwisgo gwedd newydd. Diau nad yw hanes y llanc hwn ond un allan o lawer cyffelyb.

O gwmpas 11 yr un dydd y mae yn myned tua Threfin, ac ar y ffordd y mae ei yspryd yn flin ynddo oblegyd fod Duw yn cael ei ddianrhydeddu yn y wlad, a'i Sabbathau yn cael eu halogi. Dywed fod gwaith da yn cael ei gario yn mlaen trwy y diwygiad, os na chai ei rwystro gan rai oddi fewn yn ffurfio pleidiau. Yn Trefin cafodd ymddiddan â chyfeillion anwyl a ddaethent ato i ymgynghori gyda golwg ar ddyfod at Grist, a galluogodd yr Arglwydd ef i fod yn ffyddlawn. Erbyn myned i'r maes yr oedd rhai miloedd yn disgwyl; cafodd nerth mawr ar weddi; llefarodd am dair awr oddi ar Ioan xv. 1, gan ddangos yr angenrheidrwydd am i ni gael ein huno â Christ. "Yr oedd yn ddiwrnod gogoneddus," meddai. Efallai y cyfeiria hyn at yr odfa yn Nhyddewi yn gystal a Threfin. Yn y tŷ daeth rhai ato i ymddadleu yn nghylch bedydd; gwrthododd gymeryd y mater i fynu, gan lefaru yn hytrach am yr angenrheidrwydd o gael Crist ynom.

Dydd Mercher, y mae yn Nhref Howell, plwyf Llanwnda, ar lan y môr. Oddi yno cyfeiria ei gamrau tuag Abergwaun, lle y pregethodd yn Saesneg a Chymraeg i amryw filoedd. Yr oedd llawer o fonedd y wlad wedi dyfod i'w wrando, a gobeithia ei fod mewn yspryd cariad a phwyll wedi medru eu cyrhaedd. Yn Gymraeg pregethai ar dröedigaeth Paul, ac ymddengys fod y cyfarfod yn un nodedig iawn. "Galluogwyd fi," medd, "i daranu mewn modd ofnadwy iawn gyda golwg ar uffern." Cyn gorphen, pa fodd bynag, cyfeiria at gariad Crist. Ymddangosai effeithiau anarferol yn cydfyned a'r traddodiad, a llawer yn cael eu dwysbigo. Achwyna fod John Powell yn ymgynhyrfu gyda golwg ar fedydd, a'i fod y dydd Llun blaenorol wrth bregethu wedi galw yr athrawiaeth am fedydd babanod yn gyfeiliornus, uffernol, melldigedig, a chythreulig. "O," meddai, "fel yr wyf yn hiraethu am heddwch a chariad."

Dydd Iau, y mae yn Nevern, tua milldir o Trefdraeth. Teimlai angenrhaid arno yma i lefaru ar "Profwch yr ysprydion." Gofynwyd iddo fyned gydag un a eilw "Parson Thomas," gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg. "Yr wyf yn meddwl," ysgrifena, " ei fod er gogoniant Duw i mi fyned; nid i ymryson a'r Bedyddwyr, ond i geisio atal yr ystorm, a pheri i bawb brofi eu hunain. Yn sicr, y mae Dliw yn caelei ddianrhydeddu, ac eneidiau yn cael eu dinystrio, trwy y zêl hon." Üddiyma â tua Glyn-Meredydd. "Yr wyf yn credu," meddai, "fy mod yn eiddo i ti. Ti yw fy Mrenin, a fy Meistr." Wrth ganu, portreadwyd dyoddefaint, angau, a chariad yr Arglwydd Iesu, mor fyw gerbron llygaid ei feddwl, fel yr enynwyd fflam o gariad yn ei enaid yntau. Yn nesaf yr ydym yn ei gael mewn lle o'r enw Dygoed. Dydd Sadwrn y mae mewn lle o'r enw Bwlchyclawdd, yn mhlwyf Maenclochog, y Sul yn Rhyd Hir, plwyf Llanddewi Velfrey, a dydd Llun y mae yn ymadael a Sir Benfro, ac yn cyrhaedd lle o'r enw Wenallt.

Gyda golwg ar y daith hon yn Mhenfro, y mae yn sicr mai yn y flwyddyn 1740 y cymerodd le; profa llythyrau a dydd-lyfr Mr. Harris hyny tu hwnt i amheuaeth. Amlwg yw idd ei ddyfodiad gynyrchu cyffro dirfawr. Pan y deuai cynulleidfaoedd o amryw filoedd i wrando, mewn gwlad mor deneu ei thrigolion, rhaid fod corff y boblogaeth am filldiroedd lawer o gwmpas yn crynhoi ynghyd. Y mae yn sicr fod yr odfaeon, rai o honynt, beth bynag, yn nodedig o nerthol; fod y cynulleidfaoedd yn cael eu hysgwyd fel cae o ŷd o flaen rhuthr y corwynt. Mynai y Bedyddwyr ddadleu ag ef gyda golwg ar fedydd; yr oedd ei enaid yntau yn cashau dadleuaeth, ac ni fynai ymryson. Nid oedd ganddo wrthwynebiad pendant yn erbyn yr athrawiaeth am fedydd y crediniol; ond credai ei bod yn cael ei gwthio yn ormod i sylw, pe byddai yn wir, a hyny ar draul esgeuluso gwirioneddau pwysicach. ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd fod y ddadleuaeth yn lladd yspryd crefydd, ac yn rhwystr anorfod ar ffordd y diwygiad. Nid oes amheuaeth na wnaeth y daith fanwl hon o eiddo Mr. Harris, yr hon a barhaodd bythefnos o amser, argraff annileadwy ar Sir Benfro, a'i bod yn rhagymadrodd ardderchog i lafur cyson Howell Davies yn y blynyddoedd dyfodol.

Medi, y flwyddyn hon (1740), cawn ef yn nghwmni Mr. William Seward yn cymeryd taith faith trwy ranau o Fynwy, Henffordd, a Brycheiniog. Yr oedd William Seward yn ŵr o safle gymdeithasol anrhydeddus; cawsai ei argyhoeddi mor foreu a'r flwyddyn 1728; daeth i gyffyrddiad a'r ddau Wesley, ond glynodd yn hytrach wrth Whitefield, ac yr oedd yn gydymaith iddo yn America yn y flwyddyn 1739. Yr oedd gyda Whitefield pan yr ymwelodd gyntaf â Chymru. Calfin trwyadl ydoedd mewn athrawiaeth, a chwedi cwympo allan a Charles Wesley, y mae yn croesi y sianel, ac yn ymuno â Howell Harris yn Mhontfaen. Pregethasant mewn amryw leoedd nes cyrhaedd Casnewydd. Yno ymosodwyd arnynt yn enbyd; rhwygwyd dillad Mr. Harris, a lladratwyd ei berwig, a bu raid iddo sefyll yn ben-noeth yn y gwlaw. "O ben-noethni hyfryd," meddai, "dan waradwydd Crist." Lluchiwyd cerig atynt, ac afalau pwdr, ynghyd â llaid; ceisiai ei gyfeillion gan Harris roddi i fynu, ond ni theimlai yn rhydd gwneyd hyny nes i'r Arglwydd gael goruchafiaeth ar Satan. Aethant oddi yno i Gaerlleon-ar-Wysg. Tra y gweddïai Seward, a hyny gyda melusder mawr, yr oedd pob peth yn dawel; ond pan y cyfododd Harris i bregethu, dyma y cythrwfl yn dechreu. Crochlefai y werinos; lluchient dom a llaid, ynghyd ag wyau a cherig eirin, at y llefarwyr, a tharawyd Seward ar ei lygad fel y llidiodd, ac yn y diwedd y collodd ei olwg yn hollol. "Gwell dyoddef hyn nag uffern," ebai yntau. Yn Nhrefynwy cedwid rhedegfa geffylau; ac yr oedd gwreng a bonedd wedi ymgynull ynghyd. Dechreuodd Harris lefaru ger neuadd y dref, lle yr oedd nifer o foneddigion a boneddigesau ar giniaw; ymddengys y taranai yn ofnadwy yn erbyn dawnsfeydd cynulliadau llygredig, puteindra, a meddwdod; merwinai clustiau y gwŷr mawr wrth glywed, ac anfonasant rywun i chwareu'r drwm, fel y boddid ei lais; dechreuodd y werinos hefyd luchio cerig, ac afalau, a llaid. Ond yn mlaen yr aeth gweision Crist, yn gorchfygu ac i orchfygu. Aethant oddiyno trwy ran o Sir Gaerloyw; yna dychwelasant i Drefecca. Hydref 22, aethant i Hay; ymosodwyd arnynt yn enbyd yno; dihangodd Harris yn ddianaf, ond tarawodd rhywun Seward druan a chareg ar ei ben, fel y bu farw cyn pen nemawr ddyddiau. Efe, yn ddiau, oedd merthyr cyntaf Methodistiaeth.

Tua dechreu y flwyddyn 1741 y mae Howell Harris yn ymweled a'r Gogledd yr ail waith. Aeth ar y tro hwn ar wahoddiad un Robert Griffith, o Bryn Foyno, yr hwn a'i taer gymhellai, oblegyd i lawer gael eu hargyhoeddi trwyddo pan fu yn flaenorol yn Llanuwchllyn. Yn ddiegwan o ffydd y mae yntau yn myned, er llid y gelyn a bygythion yr offeiriaid. Ymdaenodd y newydd am ei ddyfodiad fel tân gwyllt trwy y wlad, a gwnaed parotoadau eang i'w rwystro i bregethu, ac i'w faeddu. Wrth agoshau at y Bala, ar lan y llyn, goddiweddwyd ef gan offeiriad y plwyf. Rhybuddiodd yr offeiriad ef, os oedd am ddianc a'i fywyd yn ysglyfaeth, am beidio myned i'r dref. Atebai yntau mai ymdeimlad a'i ddyledswydd oedd yn ei yru, nas gallai droi yn ei ol, ac mai ei unig amcan oedd mynegu ffordd iachawdwriaeth i'r bobl, a hyny heb roddi achos tramgwydd i neb. Cyffrodd yr off'eiriad, ac yn ei ddig cyfododd ei ffon, gan fygwth ei daro. Ateb yn fwynaidd a wnaeth Harris, a chafodd lonydd i fyned yn ei flaen. Erbyn cyrhaedd y Bala, lle yr oedd ychydig ddisgybhon yn disgwyl am dano, cafodd y dref yn llawn cythrwfl, y werinos wedi ymgynull ynghyd, ac yn tyngu y gwnaent ei ladd. Blaenor y gad oedd yr offeiriad, yr hwn oedd wedi parotoi baril o gwrw, gan ei gosod yn gyfleus ar y gareg farch yn ymyl y tafarndy, er mwyn gwneyd y bobl yn fwy ffyrnig trwy yfed. Dechreuodd Harris lefaru ar yr heol, ond llefodd yr offeiriad yn groch ar i'r. rhai a garent yr Eglwys ddyfod i'w hamddiffyn. Ar hyn dyma lu, wedi yfed yn helaeth, ac wedi ymddiosg hyd at eu crysau, yn dyfod yn mlaen yn fygythiol, gyda phastynau yn eu dwylaw. Yr oedd fel pe buasai uffern wedi cael ei gollwng yn rhydd. Barnwyd mai ofer ceisio parhau yr odfa ar yr heol, ac awd i dŷ preifat yn nghanol y dref, lle y gwnaeth Harris ymgais i lefaru oddiar y geiriau: "Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?" Yn y cyfamser yr oedd y werinos yn yfed cynwys y faril, ac yn cael eu hanog gan y Person i ymosod ar y tŷ. Ni chafodd ymadroddi ond ychydig. Torwyd y ffenestri yn ganddryll, daeth rhai o'r terfysgwyr i mewn, gan ruo fel bwystfilod. Ond meddianai gweinidog Crist ei enaid mewn amynedd, ni ddeuai dychryn yn agos ato, a theimlai alwad arno i fyned yn ei flaen; a phan ar gais taer cyfeillion y rhodd i fynu, profai fel pe bai yr Arglwydd wedi ei adael. Ond er tewi ni chaffai lonydd. Yr oedd y terfysgwyr wedi penderfynu ei gael allan. Dringodd rhai i'r tô, gan fygwth tynu y ty i lawr; ymwthiai eraill i mewn trwy y ffenestri drylliedig. Aflan y bu raid iddo ef a rhai o'i wrandawyr fyned, fel defaid i safnau y cwn. Gwnaeth ei gyfeillion eu goreu drosto, ond ei amddiffyn ni fedrent. Ymosodai y dorf fileinig, cynwysedig o'r ddau ryw, arno yn y modd mwyaf creulon; y benywod a'i trybaeddent a thom yr heolydd, y gwŷr a'i curent a'u dyrnau, ac a'u pastynau, nes yr oedd ei waed yn cochi yr heol. Dilynwyd ef allan o'r dref tua'r llyn, bu dan draed yr erlidwyr am beth amser, a thybiodd yn sicr y collai ei fywyd. Llusgwyd ef o gwmpas wrth napcyn ei wddf, a buasai wedi cael ei dagu oni bai i'r napcyn ddyfod yn rhydd. Ond cyfryngodd yr Arglwydd ar ei ran mewn modd oedd bron yn wyrthiol, a dihangodd o'u dwylaw. Daethai Jenkin Morgan, un o ysgolfeistri Griífith Jones, i'r Bala i'w glywed, a bu ei hoedl yntau mewn enbydrwydd. Pan ar gefn ei geffyl, ac yn ceisio dianc, gafaelwyd ynddo gan y werinos. Gwnaed ymdrech i'w daflu ef a'i geffyl dros y graig i'r llyn; glynodd ei droed yn yr wrthafl, a bu felly yn cael ei lusgo o gwmpas am enyd; ond trwy diriondeb Rhagluniaeth dihangodd yntau. Sicrheir ddarfod i farn amlwg Duw orddiwes y rhai blaenaf yn yr helynt warthus. Wedi i'r terfysgwyr wasgar, ymgasglodd y dysgyblion yn nghysgod y tywyllwch i'r llety, lle y buont yn ceisio meddygyniaethu clwyfau eu gilydd. Cynghorai Harris ei gyd-ddyoddefwyr i lynu wrth y Gwaredwr, ac i lawenhau oblegyd eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef drosto. Yr oedd Harris ei hun yn llawn penderfyniad; " dyma y gwaed cyntaf a gollais dros Grist," meddai, "er i mi gael fy mynych fygwth." Yr unig beth a'i gofidiai oedd iddo gymeryd ei berswadio i roi i fynu pregethu; gwyddai na fyddai marw iddo ef ond mynediad i ddedwyddwch.

Wedi cael ei drin mor ddidrugaredd yn y Bala, naturiol disgwyl y buasai yn troi yn ol, ac yn gadael y Gogledd i farn; ond yn ei flaen yr aeth. Nid oedd Luther wrth fyned i Worms, pan y dywedai yr ai yno pe bai yn y lle gynifer o gythreuliaid ag oedd o lechi ar benau y tai, fymryn yn fwy gwrol dros Dduw nag oedd Howell Harris, pan yn wynebu Gwynedd yn awr. Nos Sadwrn, cyrhaeddodd Bwllheli, ond ni wyddai neb pwy ydoedd. Boreu y Sul, holodd am y pregethwr goreu oedd yn yr Eglwys yn y parthau hyny. Dywedwyd wrtho fod Canghellydd yr Esgobaeth yn pregethu yn Llanor. Yno yr aeth, ac efe a'i ddyfodiad i Wynedd oedd pwnc y bregeth. Galwai y Canghellydd ef yn weinidog dros y cythraul, yn au brophwyd, ac yn waeth na'r diafol, "oblegyd," ebai ef, "nis gall y diafol weithredu yma yn mysg dynion ond trwy gyfrwng offerynau o'r fath." Galwai arnynt er mwyn Crist a'i eglwys, ac o gariad at eu gwlad, i ymuno yn erbyn y fath ddyn ofnadwy, yr hwn a amcanai ddinystrio nid yn unig eu personau a'u meddianau, ond eu heneidiau dros byth. Fel hyn y llefarai y Canghellydd wrth ei blwyfolion, heb wybod fod y neb a ddynoethai yn bresenol. Ar derfyn y gwasanaeth aeth Harris ato, i ymgynghori ag ef gyda golwg ar osod ysgolion Cymraeg i fynu, ac i ymliw ag ef am y bregeth. Ar hyn deallwyd fod Howell Harris ei hun yn y lle. Dechreuwyd ymosod arno; ceisiai rhai fyned a'i geffyl oddiarno, eraill a daflent gerig at ei ben, ac o braidd y diangodd. "Tybiais," meddai, "na chawn byth genad i ddychwelyd yn fyw o'r parthau hyny."

Ymddengys fod y Parch. John Owen, y Canghellydd y cyfeiriwyd ato, ac oedd hefyd yn ficer Llanor a Dyneio, yn ddyn brwnt, ac yn dra llidus yn erbyn y Methodistiaid. Dywedir ei fod yn meddu ar gryn dalent, y medrai siarad yn rhigl a rhwydd, a bod ganddo ddylanwad nid bychan yn y wlad o gwmpas. Er mwyn rhwystro y diwygiad trefnodd, gyda ei frodyr y clerigwyr, i gadw cyfarfod bob dydd Mercher yn Dyneio, ger Pwllheli, i bregethu yn erbyn yr hyn a alwent yn gyfeiliornadau dinystriol, oedd yn ymdaenu ar led y wlad. Deuai yr offeiriaid i gynal y cyfarfod yn eu tro; eu testynau fyddai: " Ymogochelwch rhag gau brophwydi; " " A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi;" "Y rhai hyn sydd yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth wrageddos flwythog o bechodau," &c. Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag, i'r weinidogaeth enllibaidd hon rwystro dim ar y cerbyd. Yr oedd gan y Canghellydd hefyd glochydd talentog, yr hwn oedd yn ogystal yn ysgolhaig pur wych. Y gwr hwn a gyfansoddodd yr * interliwt enllibaidd yr ydym wedi cyfeirio ati yn barod, yr hon a elwir yn "Interlude Morgan y Gogrwr."[13] Yn y gân fudr hon, nad yw mewn un modd yn amddifad o ddawn, gosodir Howell Harris i gyfarch "Chwitffild" yn yr ymadroddion a ganlyn:—

"Pedfaech chi mor dda 'ch tuedd, Mr. Sanctiddiol,
A rhoi i mine beth o'ch awdurdod nefol,
Rwy'n tybied y gwnawn heb ronyn dawn dysg,
Waith odiaeth yn mysg ynfydion.

Mi fedra grio ac wylo'n greulon,
Mewn golwg, heb ddim ar y nghalon;
A phregethu rhagrith heb ronyn rhith rhaid,
I dwyllo trueiniaid tlodion.

Mi fedraf, pan fynwyf, roi pres ar f' wyneb,
A dweyd mai Gair Duw a fydd pob gwiriondeb,
A throi 'r Ysgrythyr, loew bur wledd,
Gwaith anial wledd, i'r gwrthwyneb.

Mae genyf ddigon wedi eu hudo yn y Deheudir,
A ddaw ar fy lledol fel ped fawn i garn lleidr,
I 'mofyn am ryw gyngor gwan
Mewn hylltod wedi can' milldir."

Fel hyn y dywed Harris wrth Jenkin Morgan : —

"Dos di 'mlaen yn rhith y prophwyd Elias,
Mi ddeuaf finau 'n swydd Simon Magus, neu
Suddas,
Ni a fynwn arian am gadw nad,
Os bydd dim yn y wlad neu 'r deyrnas."

Nis gallwn ddilyn yr Interlude yn mhellach; rhaid addef fod ynddi ddawn, ond dawn celwyddog ydyw, wedi ei fwriadu i daflu gwarthrudd ar gymeriad y rhai a wynebent bob math o beryglon, heb un amcan is nag achub eneidiau. Pa fodd bynag, boddhaodd y clochydd ei feistr. Galwyd cyfarfod o fonedd y tir yn mhalas Bodfel i ddarllen yr Interlude, a'r fath oedd y boddlonrwydd a roddodd iddynt, fel y tanysgrifwyd haner can' gini yn y fan a'r lle i'r clochydd, am y gwasanaeth a gyflawnasai ar ran yr Eglwys. Nid hir y bu y clochydd, modd bynag, heb i'r farn ei orddiwes. Wrth ddychwelyd o argraffu ei lyfr, trodd i felin gerllaw y Bala i orphwys. Gofynodd y rhai a ddigwyddai fod yno ar y pryd, beth a gludai. Atebodd yntau mai interludc yn erbyn y Cradocs. Ond yr oedd y dynion yn cydymdeimlo a'r diwygiad. "Y distryw mawr," meddent, "pa beth a wnaethant i ti? Ble y mae y rhaf? ni a'i crogwn yn ddioed." Dychrynodd yr adyn, a phrin y dihangodd a'i fywyd yn ysglyfaeth. Wedi hyn aeth yn ffrwgwd rhyngddo a'r Canghellydd. Tybiai hwnw ei fod yn ceisio taflu y gloch ar ei gefn er mwyn ei ladd; rhuthrodd arno fel arth, ac ymladdfa waedlyd a gymerodd le, mewn canlyniad i'r hyn y tröwyd y clochydd o'i swydd. Bu farw yn dlawd a thruenus.

—————————————

LLYFRGELL TREFECCA, GYDA PHWLPUD A CHADAIR DDERW HOWELL HARRIS

—————————————

Yn ol Drych yr Amseroedd, yn Nglasfryn Fawr, tŷ Mr. William Pritchard, y pregethodd Howell Harris gyntaf yn Sir Gaernarfon. Saif Glasfryn Fawr yn mhlwyf Llangybi, ger Pwllheli. Cawsai William Pritchard ei argyhoeddi wrth wrando ar Ymneillduwr, o'r enw Francis Evans, yn cadw dyledswydd deuluaidd; anfonasai at Grifiìth Jones am ysgolfeistr i gadw ysgol ac i bregethu; yn unol a'r cais hwn y daeth Jenkin Morgan i'r Gogledd, ac yn y Glasfryn Fawr y cedwid yr ysgol. Teimlai y Canghellydd Owen yn gas at Mr. Pritchard oblegyd hyn, a rhoddodd ef yn Nghwrt yr Esgob. Gyda fod Howell Harris yn dechreu llefaru, rhuthrodd y Canghellydd, gyda haid o oferwyr wrth ei sodlau, arno. Rhoes yntau i fynu bregethu, a dechreuodd weddïo. Ceisiodd yr offeiriad luddias neb i glywed, trwy roddi ei law ar ei enau. Cododd Harris i fynu, a dywedodd:—

" Pa beth? A rwystrwch chwi ddyn i weddïo ar Dduw? Byddaf yn dyst yn eich erbyn am hyn yn y farn."

" Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgyn budr," oedd yr ateb, "am fyned ar hyd y wlad i dwyllo pobl."

Yna galwai ar un o'i ffyddlon ganlynwyr i ddyfod yn mlaen i gydio yn Harris. Eithr dychrynasid hwnw wrth glywed son am y farn, a gwrthododd, gan ddweyd: "A glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn pa un o honoch yw y ffolaf. Ni feiddia yr un o honoch ddweyd gair yno." Ymddengys fod William Pritchard yn ddyn gwrol a chryf; gwthiodd y Canghellydd a'i griw allan dros y trothwy, gan gau y drws ar eu holau. Ceisiodd Harris bregethu drachefn ar ol adfer tawelwch; ond ni chafodd ddrws agored, yr oedd ei yspryd ynddo wedi ei gythryblu yn ormodol, a therfynodd y cyfarfod trwy anog y bobl i ymgadw rhag bugeiliaid ysprydol annuwiol. Yn mhen amser bu y Canghellydd Owen farw tan farn amlwg.

Aeth oddiyno i le a elwir Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhydyclafdy. Daethai cynulleieifa anferth ynghyd, gan eu bod wedi clywed mai y gŵr a welsai weledigaeth ydoedd. Yn mysg eraill, daethai yno foneddwr, gyda bwriad i saethu y pregethwr. Eithr gan na chadwodd Mr. Harris ei amser, blinodd yn disgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Gyda ei fod wedi troi ei gefn dyna Harris yno. Pregethai yn yr awyr agored, a chafodd nerth anarferol i lefaru. Disgynai ei eiriau fel tân ar gydwybodau ei wrandawyr. "Yr ydych yn arfer gweddïo," meddai, gan gyfeirio ei sylwadau at y bobl annuwiol a arferent fynychu yr eglwysydd, " deled dy deyrnas. Beth pe yr ymddangosai efe yn awr, mewn gallu a gogoniant mawr, gyda myrddiwn o angelion a thân fflamllyd; ai ni waeddech allan: 'O Arglwydd, yr wyf yn anmharod; bydded i'th ddyfodiad gael ei oedi!" Cerddai grym dwyfol gyda'r ymadroddion; methai dynion caledion a thalgryf sefyll; cwympent fel meirw ar y maes; ac wrth fyned i'w cartrefi llefent ac wylent ar hyd y ffordd, fel pe buasai dydd yr Arglwydd gerllaw. Odfa ryfedd oedd yn ddiau. Dywedai un o'i wrandawyr i Mr. Harris bregethu y tro hwn nes oedd Lleyn yn crynu; " a dydi hi byth wedi dod ati ei hun," meddai.

Y dydd canlynol pregethodd yn Towyn, ger Tydweiliog, a hyny dan arddeliad rhyfedd. Dyma y pryd yr argyhoeddwyd John Griffith Ellis, a ddaeth yn ganlynol yn bregethwr, am weinidogaeth yr hwn y dywedir ei bod yn rhagori mewn rhai pethau ar eiddo ei holl gydoeswyr. Crybwyllir am un bregeth hynod o'i eiddo, yn Nghymdeithasfa y Bala, ar y geiriau, "Deffro gleddyf yn erbyn fy Mugail," pan y disgynodd rhyw dywalltiad nodedig fel cwmwl yn ymdori, nes y llesmeiriodd ef a llawer o'i wrandawyr gan nerth y dylanwad. Dan y bregeth hon o eiddo Mr. Harris, hefyd, yr argyhoeddwyd un o ferched y Tyddynmawr, a fu gwedi hyn yn wraig Mr. Jenkin Morgan. Daeth y Tyddynmawr mewn canlyniad yn " lletty fforddolion," ac yn noddfa i aml bererin lluddedig, pan yr oedd yr erledigaeth yn chwythu yn gryf. Ymddengys mai dwy waith y pregethodd gwedi hyn yn Sir Gaernarfon, sef yn Rhydolion, a Phorthdyn-llaen. Dychwelodd adref trwy Abermaw a Machynlleth. Bu yn galed arno wrth groesi y Traethmawr; ymosodwyd arno gan fintai o erlidwyr, "y rhai yr oedd yspryd mwrddwyr i'w canfod yn eu gwedd;" ond dihangodd o'u dwylaw, ac yn nhŷ gweinidog Ymneillduol y cafodd noddfa. Bu mewn perygl, hefyd, yn Machynlleth; ond cafodd groesaw mawr yn Llanbrynmair gan Mr. Lewis Rees, a siriolwyd ei yspryd yn hyfryd wrth weled cymdeithasau bychain wedi cael eu sefydlu mewn amrywiol fanau.

Ofer fyddai ceisio rhoddi hyd yn nod crynodeb byr o lafur a theithiau Howell Harris y blynyddoedd hyn. Cyniweiriai trwy swyddi Wilts, Caerloyw, Henffordd, a'r Amwythig; ymwelai a Bryste, Bath, a Llundain , a threuliai gryn amser y n y lle olaf a nodwyd. Gwibiai, fel pe byddai yn angel digorff, o'r naill gwr i'r llall o'r Dywysogaeth, trwy afonydd, a thros fynyddoedd anhygyrch, gan rybuddio pechaduriaid. Haf, 1742, bu yn Llundain am bedwar mis, nid yn segur, ond yn efengylu i'r Saeson yn y Moorfields, ac yn Lambeth. Dywedir y byddai yn pregethu yn Gymraeg yn aml yn Lambeth er budd ei gydgenedl. Cyfeiria ef at un tro arbenig yn ei ddydd-lyfr, pan y pregethodd am dri o'r gloch y prydnawn i dorf o Gymry, oddiar y geiriau: "Simon, mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i?" Tra yn y Brif-ddinas yr oedd gofal yr holl eglwysi yn pwyso arno; er hyny teimlai ei frodyr yn y Dywysogaeth ei eisiau yn fawr, a thaer gymhellent ef i ddychwelyd. Meddai Daniel Rowland wrtho mewn llythyr: " Ai nid ydych yn clywed eich holl frodyr yn Nghymru yn gwaeddi, 'Cymorth, cymorth, cymorth!' Frawd Harris, tydi ryfelwr dewr, pa le yr ydwyt? Beth, yn Llundain yn awr yn nydd y frwydr! Beth, ai nid oes gan Lundain ddigon o ryfelwyr i ymladd drosti? . . . Arglwydd da, tosturia wrth Gymru dlawd. Anfon ein brawd anwyl i'n mysg yn dy allu, ac yn nghyflawnder dy fendithion, a bydded i'r cythraul grynu o'i flaen. Amen, Amen." Fel esiampl o'i lafur dirfawr, a pha mor ddiorphwys y teithiai, yr ydym yn cael ein temtio i roddi ei hanes am ran o Tachwedd a Rhagfyr, 1742. Dydd Iau, Tachwedd yr 11 , y mae yn gadael Llundain gyda'r cerbyd am 6 o'r gloch y boreu, er mwyn dychwelyd i Gymru. Yr oedd yr ymadawiad rhyngddo a'r gymdeithas yno yn nodedig o dyner. Pur wag oedd y cerbyd, cafodd yntau gyfleustra i ymddiddan a'r cerbydwr am fater ei enaid, ac â dynes ieuanc oedd yn cyddeithio ag ef, a gobeithia nad â y dylanwad i golli. Dydd Gwener y mae yn Reading, a theimla yn drymllyd a gwanaidd oblegyd colli ei gwsg. Ceisiodd yr Arglwydd, a chafodd neshad ato. Synai at natur y cyfamod trwy yr hwn y mae yr Arglwydd yn sicrhau ei ogoniant ei hun, ac iachawdwriaeth pechadur, a hyny y tu hwnt i gyrhaedd llygredigaeth. Gweddïodd tros yr eglwys yn Llundain, dros yr eglwys yn Nghymru, a thros yr holl weinidogion a'r cynghorwyr. Dydd Sadwrn teithia trwy Marlborough, yn swydd Wilts; a chan basio trwy Bath, cyrhaedda Bryste yn hwyr. Cyfid y Sul o gwmpas wyth, ac â ar unwaith i bregethu gyda y brawd Humphrey, a'r hwn y cafodd gymdeithas anwyl. Teimlai ei galon yn ymlynu wrtho, oblegyd y dystiolaeth ffyddlon a ddygasai yn erbyn y gweinidogion Ariaidd neu Undodaidd. Wrth bregethu cafodd ryddid mawr; ac er ei fod wedi colli ei gwsg, yr oedd yn llawn o nerth a bywiogrwydd. Pregethodd drachefn o gwedi deg hyd ddeuddeg oddiar 1 Thes. iv. 14, a thybia i'w weinidogaeth fod er bendith.

Dydd Llun, Tachwedd 15, y mae yn gadael Bryste am Gymru cyn chwech y boreu, ac yn cyrhaedd y Passage o gwmpas naw. Bu raid iddo aros yma y gweddïll o'r diwrnod, am ei bod yn amhosibl croesi y sianel. Ond yr oedd amser yn rhy werthfawr yn ei olwg i'w afradu. Wedi adgyfnerthu natur â lluniaeth, ysgrifenodd yn ei ddydd-lyfr hyd gwedi 12; yna aeth allan i bregethu i'r bobl oedd fel yntau yn disgwyl am y cwch; rhoddes yr Arglwydd ymadrodd iddo, a gweddïai yntau am gael ei wneyd yn halen y ddaear. Gwedi ciniaw ymosodwyd arno gan yr hen demtasiwn; beth oedd hono ni ddywed; ond rhoddodd Duw waredigaeth iddo. Methodd groesi dydd Mawrth eto, oblegyd yr ystorm, ond daliodd ar y cyfle i gynghori, ac agorodd yr Arglwydd glustiau y bobl i wrando. Siaradai am ei dröedigaeth, am ddydd y farn, am y cyfrif y rhaid i ni rhoddi o'n holl dalentau, gan eu nodi, pa fodd y dygwyd ef ei hun i weled nas gallai gael ei gyfiawnhau trwy weithredoedd, am haeddiant Crist, am ffydd, beth ydyw, a pheth nad yw, ac am ufudd-dod a chariad fel ffrwythau ffydd. Yn y prydnhawn y mae yn cynghori eilwaith. O gwmpas wyth yn yr hwyr cawsant groesi; yr oedd y gwynt yn ystormus, a'r tonau yn lluchio; meddyliai fod angau, efallai, yn agos, ond cafodd nerth i ymddiried.

Dydd Iau y mae yn Redwick, Sir Fynwy; cyrhaedda Watford, ger Caerphili, nos Iau, lle oedd yn gartref iddo pan ar ei deithiau yn y parthau hyn. Pa nifer o weithiau y pregethodd, ni ddywed; ond y mae yn sicr na chroesodd yr holl filldiroedd ar draws gwlad heb gymell eneidiau at Grist. Cawn ef yn Llanheiddel nos Wener; cyfi am 6 boreu Sadwrn, a dywed ei bod yn felus ar ei enaid yn y weddi ddirgel ac yn y ddyledswydd deuluaidd. Pregetha yn y boreu mewn lle o'r enw Coedcae-mawr; oddi yno cyfeiria ei gamrau tua'r Goetre, ger Pontypŵl. Yno clywodd am ganlyniadau ei lwyddiant blaenorol, nes y darostyngwyd ei enaid ynddo, a pheri iddo waeddi ei fod yn foddlon cael ei droi o'r neilldu, a'i sathru dan draed pawb, a'i fod yn adyn mor wael fel nad yw yn haeddu cael byw. Pregethodd oddiar Salm xli., am y galon doredig; cafodd odfa hyfryd; teimlid yno nerth dirfawr, yn arbenig ar rywun oedd o'r blaen yn llawn rhagfarn tuag ato. Dydd Sadwrn aeth i'r Fenni; cafodd yno ryddid mawr mewn gweddi, yn arbenig wrth gyffesu ei bechodau. Llefarodd oddiar Matt. v. 3-8, gan ddangos gwir natur tlodi yspryd, ac mai dyna y cam cyntaf at Grist. Yna gwnaed iddo ddyrchafu ei lais i alw yr holl bechaduriaid tlodion, colledig, a hunan gondemniedig at y Gwaredwr, gan gyfaddef ei hunan y gwaelaf a'r balchaf o bawb, a'u cymhell at yr Iesu. Cred i rai ddyfod. Ymddengys hefyd fod rhyw ofid dwys yn gwasgu arno y pryd hwn mewn cysylltiad a'r diwygiad; drosodd a throsodd dywed nad arno ef yr oedd y bai; ond fod ei galon ar dori o'r herwydd. Pa beth ydoedd, nid oes genym ond dyfalu; yn ol pob tebyg, rhyw chwedl gelwyddog, yn drwgliwio ei gymeriad, yn cael ei thaenu ar led. Nos Sadwrn, breuddwydiodd fod Esgob Rhydychain yn pregethu yn y 'stryd, ac yn dweyd fod yn rhaid i bawb deimlo cariad Crist wedi ei dywallt ar led yn eu calonau, fel yr oedd yn ei galon ef; llanwodd hyn yspryd Harris â mwynhad. Dydd Sul, Tachwedd 21, y mae yn Llandilo, ger y Fenni, ac achwyna ei fod yn wanaidd o ran ei gorff. Gwelodd a theimlodd ei fod yn caru ei Dduw mor glir ag y gwelsai ei bechod. Arllwysodd ei deimhid gyda golwg ar ei ofid i'r brawd Price. Gwedin aeth i Cwm Iau i wrando yr Hybarch Thomas Jones. Ar ol ciniaw cyfeiriodd ei gamrau tua seiat Longtown, collodd ei ffordd ar y mynyddoedd, ac yr oedd yn agos i saith arno yn cyrhaedd. Cafodd un ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd ar ei daith. Ac eto, yr oedd yr helynt yn pwyso ar ei yspryd; ofnai i'r gwaethaf ddigwydd, ac i ganlyniadau gwarthus ganlyn, fel ag i beri i'r achos gael ei ddinystrio. Yna gwawriodd ar ei feddwl nad oedd y gwaith yn dibynu arno ef, nac ar ei enw, fod y gwaith o Dduw. Dydd Llun y mae yn Clydach, lle y cafodd awel hyfryd oddiwrth Yspryd yr Arglwydd. Teimla nad oes ganddo yr un dymuniad ond gogoniant Duw, na'r un ofn ond rhag ei ddianrhydeddu. Dywed na chafodd y fath ymweliad erioed o'r blaen. Wrth deithio yr oedd y brawd Price gydag ef, a gwnaed y naill yn fendith i'r llall. Dywed ei fod yn ddedwydd, yn dragywyddol ddedwydd.

Cyrhaeddodd Drefecca nos Lun, a dywed fod nifer o'r ŵyn anwyl wedi dyfod i'w gyfarfod, i ba rai yr agorodd ei galon ar amryw faterion, yn arbenig ei briodas. Arosodd yn Nhrefecca dydd Mawrth, aeth i Erwd, nid yn nepell o Lanfair-muallt, dydd Mercher; i Ddolyfelin dydd Iau; a chawn ef yn Llansantffraid, Sir Faesyfed, y Sul. Yma pregethodd ar y geiriau: " Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd," a chafodd lawer o ryddid ymadrodd. Gobeithia i lawer gael eu gosod yn rhydd. Y mae yn Erwd eto y Llun, a rhed ei fyfyrdodau ar Miss Ann Williams. Dywed fod ei weddïau gyda golwg arni yn mron cael eu hateb, a'i bod yn ymyl cael ei pherswadio; yn flaenorol ofnai y croesau, a'r treialon, a'i dymher erwin yntau; ond yn awr rhoddasai yr Iesu iddo ymysgaroedd o dynerwch. Yr oedd yn nerthol iawn wrth bregethu; cafodd ddiwrnod a noswaith i'w cofio byth; yr oedd y bobl yn fflam o gariad, a chawsant eu goleuo, eu porthi, a'u deffro. Daeth y tân i lawr, a phrofwyd melusder dirfawr. Cyrhaeddodd Drefecca nos Lun. Dydd Mawrth, y mae yn nhŷ John Price, yn Merthyr Cynog, rhyw bymtheg milldir o bellder, a thestun ei bregeth oedd: "Canys byw i mi yw Crist." Dydd Mercher, ceir ef yn Cantref, wrth droed Bannau Brycheiniog, dydd Iau yn Beiliau, a dydd Gwener yn Llanwrtyd, lle y teimla fod Duw gydag ef. Cawn ef dydd Sadwrn yn Llwynyceiliog, ger Caio. Yma y teimla mai efe yw y pechadur duaf ar wyneb yr holl ddaear. Cyrhaeddodd Lancrwys, yn ngodreu Cwmtwrch, o gwmpas deuddeg, a daeth i Langeitho yn hwyr yr un diwrnod. Dywed ei fod yn cael ei ddisgwyl yno, ac wrth weddïo, pledia yn daer ar ran yr ŵyn, ac am iddo yntau gael ei waredu oddiwrth y natur uffernol oedd ynddo. "O gariad rhyfedd," meddai, nad wyf yn uffern, wedi temtio cymaint ar Dduw."

Dydd Sul, Rhagfyr 5, y mae yn Llangeitho, ac yn myned i'r eglwys yn y boreu, lle y pregethodd yr anwyl Rowland, oddiar y geiriau: "Canys gŵr halogedig o wefusau ydwyf fi;" a chythruddwyd enaid Harris o'i fewn gan lymder y genadwri. Teimlai mai efe oedd yr adyn gwaethaf o fewn y byd. Yn y prydnhawn, aeth i Lancwnlle, un o'r eglwysi a wasanaethai Rowland; ac wrth glywed y Gair yn cael ei ddarllen cafodd olwg ar ogoniant Crist fel cyfaill publicanod a phechaduriaid. Gwnaed ef yn ddiolchgar wrth glywed Rowland yn pregethu. Yna cyfranogodd o'r sacrament, a gwelodd ei hun y tlotaf, y gwaethaf, a'r dallaf o bawb. " Y mae arnaf eisiau bywyd," medd, "a goleuni, a nerth, a chyfiawnder." Ymddengys fod y gyfeillach ar y ffordd rhyngddo a'r apostol o Langeitho yn nodedig o felus. " Ni wna Crist fy nghondemnio," meddai, " er fy mod yn haeddu, canys dyna ei ewyllys. Yna torodd goleuni arnaf. Eiddof fi yw Rowland; yn fwy nag erioed, gwelais mai eiddof fi yw Crist; ac felly eiddof fi yw pob peth." Yn yr hwyr, ar y maes ger Llangeitho, pregethodd Howell Harris i gynulleidfa o ddwy fil, hyd nes oedd yn wyth o'r gloch. Y mater oedd dydd y Pentecost, ac yspryd yr Arglwydd fel tân. Ymddengys fod yr odfa yn un dra nerthol; wrth lefaru am y tân, daeth y tân i lawr, ac yna aeth yn floedd trwy y lle. Ar y diwedd gweddïodd dros yr esgobion, dros yr eglwys yn gyffredinol, dros amryw o'r Diwygwyr erbyn eu henw, dros y seiadau yn Sir Forganwg, a thros ei fynediad yntau y tu hwnt i'r môr. Awgryma y gair diweddaf fod yn ei fryd ddilyn esiampl Whitefield, a chymeryd taith i'r America. Yn y tŷ bu ef a Rowland yn ymddiddan hyd dri o'r gloch y boreu, ynghylch y brodyr blaenaf gyda'r diwygiad, a'r angenrheidrwydd am eu dwyn i ryw drefn. Gwel fod y gwaith da yn myned yn mlaen yn hyfryd. Cyn myned i'w wely, trefnodd ei deithiau, ac yr oedd yn bedwar cyn iddo fyned i orphwys.

Dydd Llun, cychwyna dros y Mynyddbach, a chyrhaedda Landdewi Aberarth, ar lan y môr. Cafodd nerth mawr yma i gynghori gyda golwg ar ddwyn ffrwyth, ac i lefaru yn erbyn balchder, a diogi; yna efengylodd i'r rhai oedd wedi eu clwyfo. Dydd Mawrth ni a'i cawn mewn lle o'r enw Gwndwn, ger Llangranog, ar lan culfor Aberteifi. Testun ei bregeth yno oedd: "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol." Cafodd odfa rymus; dyrchafwyd ei lais fel udgorn; a dywed ei fod yn nodedig o nerthol wrth wahodd at Grist.

GOLWG FEWNOL AR Y CAPEL COFFADWRIAETHOL

Wedi hyny ysgrifenodd at y cynghorwr blaenaf, ac yr oedd yn llawn o zêl wrth wneyd, gan ddangos iddynt y modd yr oedd y gwaith yn myned yn y blaen dros y byd, a'u hanog i zêl, bywyd, a thân. Yna, wedi canu a gweddïo, eisteddwyd wrth y bwrdd; ond wedi swpera, llefarai Harris drachefn wrth y teulu, gan eu hanog i gariad, a thynerwch, a charedigrwydd at bawb. Dydd Mercher y mae yn Llangranog; teimlai yn hyfryd wrth weddïo, a chynghori oddiar y geiriau: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?" Erbyn un daeth i Twrgwyn, a llefarodd oddiar Matt. xii. 43. Yma dywedai: "Yr wyf yn benderfynol i beidio gadael yr Eglwys dywyll hon (Eglwys Loegr); ond mi a safaf yn y bwlch, ac a lefaf ar y mur; nis gallaf roddi i fynu y weinidogaeth na'r bobl. Nid oedd y cyfarfod mor rymus ag yn Llangranog. Am chwech yr un dydd y mae yn Castellnewydd-yn-Emlyn. Datgana yma eto ei benderfyniad i beidio gadael yr Eglwys; ymddengys na chymerodd destun, ond iddo lefaru oddiar amryw adnodau oeddynt yn ateb ei bwrpas. Llefarodd dan gryn arddeliad. Wedi myned i'r tŷ clyw fod gwrthwynebiad yn cael ei barotoi iddo; wrth glywed, llanwyd ei enaid ynddo a nerth; teimlai y gallai wynebu pob erlid. Dywed fod y dyn ieuanc a fwriadai ei gael yn gynorthwywr iddo, John Belcher, neu James Ingram, gydag ef ar ei daith; ac y mae yn trafferthu llawer i'w gynghori a'i gyfarwyddo, a gweddïa yn fynych ar iddo gael ffydd. Dydd Iau, y mae yn Blaenporth; ei fater yma eto oedd: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn? " Dymuna fod ganddo gan mil o fywydau i'w rhoi i'r Iesu. Aeth oddi yno tua thref Aberteifi; a chafodd gymdeithas felus a'r nefoedd ar y ffordd. Teimlai nerth dirfawr wrth weddïo a phregethu; ni chafodd erioed y fath nerth wrth efengylu. Gweddïa yn daer dros ei gydymaith: "O Arglwydd, cymhwysa ef ar fy nghyfer; gwna ef yn gryf i fyned trwy anhawsterau; gwna ef yn ffyddlon, yn ufudd, yn ostyngedig, ac yn dringar. Yr wyf yn hyderu yn awr, nad oes dim ond angau a'n gwahana."

Dydd Gwener, y mae yn gadael Aberteifi, wedi trafaelu y sir o Langeitho i'r gwaelod, ac yn cyrhaedd Dygoed, yn Mhenfro. Cafodd wrthwynebiad mawr yno gan Satan, yr hwn a safai ar ei ddeheulaw; ond wrth weddïo tynwyd ef y tu fewn i'r llen mewn modd na theimlodd ei gyffelyb o'r blaen; a phregethodd oddiar y geiriau: " Megys gan hyny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo." Ymddengys Sir Benfro iddo mewn cyflwr truenus. " Nid wyf yn gwybod," meddai, "ond am ychydig yn y wlad hon gymaint ag wedi eu dihuno i weled eu bod yn ddamnedig yn Adda." Llefarodd hyd yn agos i wyth; oddi yno hyd 11 bu gyda y dychweledigion ieuainc, yn eu ffurfio yn seiadau, ac yn eu hyfforddi mewn dysgyblaeth eglwysig. Dangosai iddynt natur gweithrediadau yr Yspryd; ei fod weithiau yn fawl, bryd arall yn alar; ei fod yn hyfforddi, yn arwain, yn bywiocau ac yn cadarnhau. Dangosodd ddyledswyddau aelodau y seiat, ac na ddylent gyfeirio yn gyhoeddus at bechodau gweinidogion yr efengyl, heb yn nghyntaf alaru o'u herwydd. Cyfeiriodd at y seiadau yn Llundain, ac fel yr oedd y gwaith mawr yn myned yn mlaen dros y byd. Gweddïodd gyda nerth, ac aeth i gysgu o gwmpas un, gan deimlo ei hun yn ddedwydd yn Nuw. Pregethodd boreu dydd Sadwrn drachefn yn Dygoed, ar, "Arhoswch ynof fi." Ty'r Yet, ger Trefdraeth, yw y lle y cyrhaeddodd nos Sadwrn. O gwmpas deg boreu Sabboth pregethodd ar hunan-ymwadiad; cafodd lawer o oleuni, a pheth nerth, ond yr oedd yn sych. Erbyn un yr oedd yn Llysyfran; ar y ffordd tuag yno bu yn cynghori yr ŵyn, y rhai, gobeithiai, oedd yn ddwfn argyhoeddedig o bechadurusrwydd hunan. Daethai cynulleidfa anferth ynghyd i Lysyfran; cyfrifa ef hi yn bum miÌ; ond yr oedd ef yn dywyll ac yn sych iawn ar y dechreu; "ni feddwn ddim nerth," meddai; ond yn raddol tosturiodd yr Arglwydd wrtho; tynwyd ef allan o hono ei hunan wrth weddïo, a chynorthwywyd ef i bregethu ar Had y wraig yn ysigo pen y sarff. Pregethai yn Gymraeg ac yn Seisneg; a soniai am y cyfamod cyntaf, modd ei torwyd, a'r felldith a ddilynodd, a'n bod oll trwyddo mor ddamniol ein cyflwr a'r diaflaid. Yna trodd i ddangos natur y cyfamod newydd. "Cefais nerth, a goleuni, a hyfrydwch mawr," medd, "fel yr wyf yn arfer gael ar y pen hwn, pan y'm harweinir ato gan Dduw. Yr wyf yn gobeithio i lawer gael eu hachub a'u troi; yr oedd yn felus mewn gwirionedd yma; ond yr oeddwn yn dra chyfeiriol a llym yn y rhan flaenorol, fel na allai cnawd fy nyoddef, gan ddangos nas gallent gadw eu calonau yn sefydlog ar Dduw am bum mynyd, pe y caent ddeng mil o fydoedd am hyny, o honynt eu hunain, nac edrych ar yr hwn a wanasant." Mewn ymddiddan preifat a ddilynodd, cafodd y beuai rhai ef yn fawr am beidio rhoddi rhagor o le yn ei weinidogaeth i foesoldeb, ac am osod dynion moesol ac anfoesol ar yr un tir o ran cyflwr. Gwelodd fod arno eisiau doethineb oddiwrth Grist yn gystal a nerth; teimlai yn barod, os dywedasai rywbeth ar gam, i alw ei eiriau yn ol, neu i'w hesbonio, ac yna aeth at yr Iesu i geisio doethineb. Cafodd hyfrydwch mawr yn y weddi deuluaidd, a gwnaed ef yn ddifrifol iawn wrth weddïo dros yr hen bobl yn neillduol. Bu yn ysgrifenu yn ei ddyddlyfr hyd o gwmpas deuddeg. Yna dywed fod yr helynt hono y cyfeiriasai ati yn ddrain yn ei ystlys o hyd; pe buasai wedi cael ei goddef i ddigwydd, nas gallasai ddal, y suddasai tani. Cawsai ei synu yn hapus at lefau tair merch ieuanc yn y cyfarfod, y rhai a gydweddïent gerbron yr orsedd. " Mor hyfryd yw calonau toredig," medd, " yn neillduol rhai ieuainc; mor ardderchog yw yr olygfa; dim ysgafnder, na dadleuaeth, na siarad; ond ar eu gliniau yn pledio eu trueni yn ddifrifol gerbron Iesu, Cyfaill pechaduriaid. Ni chlywais fiwsig mor felus erioed; yr oeddynt fel colomenod yn trydar."

Dydd Llun y mae mewn lle a eilw yn Treinar; yr oedd sefyllfa Eglwys Loegr yn gwasgu yn ddwys ar ei feddwl; bu yn wylo, yn galaru, ac yn dadleu ar ei rhan. Erbyn deuddeg, yr oedd yn Castellnewydd bach, a phregethodd hyd gwedi dau ar, "Gan edrych ar Iesu." Ar y dechreu yr oedd yn sych; ond yn raddol cafodd ryddhad, a thynwyd ef allan mewn mawr gariad. Priodola ei sychder yn y rhan gyntaf i falchder ei galon, o herwydd pa un y gorfodir Duw i'w gaethiwo, er ei gadw yn ostyngedig. Cafodd hyfrydwch a goleuni mawr; dangosodd hefyd os oedd tywyllwch yn Eglwys Loegr, fod marweidd-dra yn mysg yr Annibynwyr; "felly," medd, "bydded i ni alaru ynghyd, a pheidio gadael y naill na'r llall, na gwanhau dwylaw ein gilydd; nid yw Yspryd Crist yn dymuno am ddinystr nac enwad na dynion, ond ar i'r holl eglwysi gael eu llanw o Dduw." Aeth oddi yno tua Fishgate, pum' milldir o bellder; yr oedd yn hyfryd arno ar y ffordd, ac eto nid oedd mor agos at ei Waredwr ag y dymunai. Er ei bod yn nghanol Rhagfyr, dywed y rhaid iddo bregethu allan yn mhob man, gan lluosoced y cynulleidfaoedd. Cafodd hyfrydwch wrth weddïo, a llefarodd oddiar: "Canys byw i mi yw Crist." Yr oedd yn sych yma eto ar y cychwyn, ond dychwelodd ei Arglwydd ato heb fod yn hir. Cafodd gryn nerth i gymell at Grist. Yna aeth i seiat, lle yr oedd llonaid ystafell wedi ymgynull; cafodd nerth yma eto, gobeithia, i'w gosod ar dân; dywed wrthynt mai tân yw eu prif angen. Cyfeiria at yr Eglwys ac Ymneillduaeth fel yn farw. Cynghora hwy i oddef pawb sydd a'u hysprydoedd wedi eu tanio; ac eto nid oes neb i gael eu cefnogi i gynghori ond y rhai y mae Duw yn bendithio eu geiriau er bywiocau.

Dydd Mawrth, y mae yn Abergwaun. Yr oedd yr Arglwydd yn agos iawn ato yn ei ystafell wely. Teimlai anwyldeb mawr at ei gydymaith; edrychai arno fel wedi cael ei roddi iddo gan Dduw; a gweddïai drosto: "O Arglwydd, dy was di ydyw; rho iddo bob doethineb, pob zêl, pob gostyngeiddrwydd, a phob nerth ffydd, i ogoneddu dy enw. Yr wyt yn canfod mai er mwyn dy ogoniant yr oeddwn yn dymuno ei gael."Yna cafodd ddifrifwch mawr wrth weddïo tros yr ŵyn, yn arbenig y rhai a roddasai Duw iddo ef; teimlai y fath anwyldeb atynt fel na wyddai sut i'w gadael; synai fod y Goruchel a'r Dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragywyddoldeb, yn gwneyd defnydd o hono ef, a darostyngwyd ef i'r llwch o'r herwydd. Gofynai am i'r Arglwydd fendithio ei lafur, a llafur yr holl frodyr, a dymunai na fyddai unrhyw ymraniad rhyngddynt. Ymddengys ei fod wedi clywed fod annhueddrwydd yn yr offeiriaid i oddef i'r Methodistiaid gymuno yn yr eglwysydd; a gweddïa yntau drostynt, os na chawsent eu galw i bregethu, ar iddynt gael eu cadw rhag gwrthwynebu, a goddef y bobl i ddyfod i'r ordinhad. Pregethodd oddiar Col. i. 12, 13. Ar y cyfan teimlai hyfrydwch yn y gwaith. Aeth oddi yno i Long House, ger Trefin. Llefarodd oddi ar Actau ii. 4: "A hwy oll a lanwyd a'r Yspryd Glân; " cafodd oleuni, hyfrydwch, a nerth mawr. Dydd Mercher y mae yn myned i Dyddewi; llefara hyd gwedi tri, a theimla dosturi diderfyn yn llanw ei yspryd wrth edrych ar y gynulleidfa. Wrth weddïo cafodd ryddid mawr; ac yr oedd nerth rhyfedd yn cydfyned a'r weinidogaeth. Pregetha yn yr hwyr drachefn; rhybuddia y bobl i beidio rhoddi mwy o bwys ar fedydd nag ar waed Crist; a chafodd fwy o flas wrth sôn am y clwyfau nag erioed. Dydd Iau y mae yn Wolf's Castle; ac yn Hwlffordd dydd Gwener. Aeth i eglwys Prendergast yn y boreu; bu yno mewn seiat breifat hyd ddeuddeg; yna pregethodd gyda nerth anarferol hyd oedd yn agos i ddau. Aeth oddi yno tua lle a eilw yn Fenton; yno yr oedd mewn caethiwed ar y dechreu, ac yn galed arno mewn gweddi; ond yn y diwedd cafodd ryddhad wrth bregethu. Aeth yn ei flaen i St. Kennox; llefarodd am gân Simeon a Mair, cafodd ei dynu allan yn rhyfedd. Disgwyliai gyfarfod a'r brawd Howell Davies yno, ond cafodd ei siomi. Gweddïodd drosto, pa fodd bynag. Dydd Sadwrn â i Lwyndyrys. Yma, er ei fawr lawenydd, daeth Howell Davies ato. Ar gyfer y Sul ysgrifena yn ei ddydd-lyfr: "Yr wyf wedi ymadael a'r anwyl a'r cariadus Howell Davies; cydunem yn hollol yn mhob peth, er fod Satan wedi ceisio creu ymraniad. Dywedais wrtho am drefn yr eglwys yn Llundain, ac am y gwaith mawr yn mhob man, a chefais ddoethineb i osod allan yn glir y pethau a rodded i mi." Dywed ei fod yn awyddus i'r diwygiad fyned yn ei flaen pe na bai ganddo ef un llaw ynddo; yn ewyllysgar iddo fyned yn ei flaen fel y mynai Efe, a thrwy yr hwn a fynai Efe. Y mae yn foddlon peidio myned i seiat y gweinidogion, rhag iddo beri gofid iddynt. Yna gweddïa: " O Arglwydd Iesu, pa bryd y caf ddyfod adref! O, yr wyf yn hiraethu am gael dyfod adref atat ti! Yno, fy Nhad, fy Mrawd, ni phechaf! " Aeth yn ei flaen i Landdowror, yna i eglwys Llandilo, lle y pregethai y Parch. Griffith Jones yn y prydnhawn, a daeth awel hyfryd ar ei enaid. Pregethai Mr. Jones—"y gwerthfawr Mr, Jones," y geilw Howell Harris ef—ar adgyfodiad Lazarus.

Gadawa Landdowror y Llun, y mae yn Cilgarw, ger Caerfyrddin, dydd Mawrth; yn Llanon dydd Mercher; Llansamlet, ger Abertawe, dydd Iau; Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, dydd Gwener. Dydd Sadwrn, yr hwn hefyd yw dydd Nadolig, y mae yn Llanddew, ger Aberhonddu, am bump o'r gloch y boreu yn y plygain, lle y gwasanaethai y Parch. Thomas Lewis. Oddi yno brysia yn ei flaen i Drefecca, fel y gallai gymuno yn eglwys Talgarth yn ol ei arfer. Ar ei ffordd clywodd fod ei gyfeillion wedi cael eu hatal o gymundeb yr Eglwys. Derbyniodd y newydd yn hollol dawel; yr oedd ei feddwl yn llawn o heddwch hyfryd, "nid oherwydd dylni," medd, "ond o herwydd ffydd, gan y gwelaf Grist yn mhob peth. Teimlais barodrwydd i adael yr Eglwys, a llawn nerth i ddyoddef hyn; ond teimlwn nas gallwn adael fy mrodyr i gael eu bwrw allan, heb fyned allan gyda hwynt." Yna aeth at yr offeiriad, y Parch. Price Davies, i ymholi ac i achwyn. Dywedodd hwnw, ei fod, oddiar resymau digonol, wedi penderfynu na chai y Methodistiaid gyfranogi o'r sacrament. "A ydych yn fy atal i rhag dyfod i'r ordinhad? " gofynai Howell

Harris. "Ydwyf, yn benderfynol," meddai y Ficer. Llanwyd enaid y Diwygiwr â heddwch dwfn wrth glywed; ymddiriedai yn ngeiriau Duw fod pob peth yn gweithio er daioni i'r rhai sydd yn ei garu; yna dywed: " Gwelais fod daioni mawr yn rhwym o ganlyn hyn; y mae y gwaith o Dduw; yr wyf finau yn foddlon dilyn. Llanwyd fy enaid â thosturi a chariad at yr offeiriad a'r bobl." Gobeithia, er iddo ef gael ei droi allan, y deuai Duw i achub y bob', druain. Y mae yn foddlon cael ei ddirmygu, ac i weled ond ychydig yn dyfod allan gyda hwy.

Yr oedd hyn cyn myned i'r eglwys. Yn y gwasanaeth, wrth glywed y Litany yn cael ei ddarllen ynghyd a'r llithiau, cafodd hyfrydwch mawr; teimlai fod yr adnodau yn nodedig o gyfeiriol. Pregethai yr offeiriad yn erbyn y rhai oeddynt yn mynychu cyfarfodydd crefyddol y tu allan i eglwys eu plwyf; galwai hwy yn Sismaticiaid, a dywedai eu bod yn archolli corff Crist ac yn trywanu ei ystlys sanctaidd mor wir a'r milwr a'i gwanodd a phicell. Tosturi dwfn ato a deimlai Harris, gwelai ei fod yn llefaru yn ol y goleuni oedd ganddo. Ond bu raid i'r Diwygiwr ymadael heb y fraint o gofio angau y Gwaredwr. Ar y ffordd i Drefecca, penderfynodd roddi yr holl achos gerbron yr Esgob, ac os byddai efe yn cadarnhau ymddygiad yr offeiriaid, nid oedd dim i wneyd ond cefnu ar yr Eglwys, er cymaint ei serch ati.

Cyrhaeddodd adref o gwmpas un; llifai heddwch fel yr afon i mewn i'w yspryd; bu yn ysgrifenu llythyrau ac yn cofnodi ei deimladau yn ei ddydd-lyfr hyd gwedi tri, yna pregethodd i gynulleidfa liosog oddiar Esaiah xl: " Cysurwch, cysurwch, fy mhobl." Cafodd nerth anghyffredin i gyfeirio eu llygaid at Grist; hydera i lawer gyfarfod a'r Arglwydd y prydnhawn hwnw. Cyfeiriodd at waith yr offeiriaid yn eu cau allan o ragorfreintiau'r tŷ, a dywed ei fod yn foddlon i'r mater, pwy yw y gwir brophwyd dros Dduw, gael ei benderfynu yn y farn ddiweddaf. Dyma lle y teimlodd fwyaf o nerth wrth lefaru; a syna at y cariad angerddol a lanwai yr ŵyn. Er ei fod heb gysgu y noson flaenorol, a'i fod wedi bod mewn chwech o gyfarfodydd cyhoedd a phreifat y dydd hwnw, cychwyna gyda mîn y nôs i Sancily, ffermdy lled fawr, yn nyffryn Wysg, rhwng Talybont ac Aberhonddu, yr hyn a wnelai ei daith am y diwrnod yn ddeng-milldir-ar-hugain. Er hwyred ydoedd, pregethodd mewn lle o'r enw Tygwyn. Ei destun ydoedd: " Trowch eich wynebau ataf fì holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Ar y dechreu yr oedd yn dra difywyd; nid oedd unrhyw ddylanwad yn cydfyned a'i eiriau; ond rhoddwyd ef yn rhydd; cafodd nerth rhyfedd, a chariad a goleuni, i edrych at Grist.
LLAWYSGRIF HOWELL HARRIS.

Boreu y Sul y mae yn Sancily, a daeth i'w feddwl drachefn y priodoldeb o fyned dros y môr; teimlai ** a Chymru yn agos iawn at ei galon, ond galluogwyd ef i'w cyflwyno i'r Arglwydd Iesu. Teimlai Dŷ yr Amddifaid (a adeiladesid yn Georgia gan Whitelìeld) eglwysi yr ochr arall i'r cefnfor, yn pwyso ar ei feddwl, a mawr awyddai eu gweled. Credai y gallai yr Iesu gario ei waith yn mlaen yn y wlad yma hebddo. Aeth i eglwys Llanddew, lle y pregethai y Parch. Thomas Lewis. Yno cafodd les i'w enaid. Yr oedd ganddo amcan deublyg wrth fyned i Landdew, sef cael cyfranogi o'r sacrament, yr hyn a waharddasid iddo yn eglwys Talgarth gan Mr. Price Davies, y ficer, a chael ymgynghori a Mr. Thomas Lewis, yn ngwyneb y dyryswch newydd oedd wedi codi. Toddodd ei galon fel cwyr ynddo wrth nesu at y bwrdd; tynwyd ei yspryd yn agos iawn at yr Iesu, a melus oedd y gyfeillach. Teimlodd fod yr Iesu yn aros yn ffyddlon, pan yr oedd ef yn cael ei fwrw allan o eglwys ei blwyf. Wrth edrych ar yr elfenau, gwelodd fwy o ddirgelwch yr undeb rhwng y ddwyfoliaeth a'r ddynoliaeth yn mherson y Mab nag erioed.

Aeth oddi yno tua Merthyr Cynog; clywai fel yr oedd y gwaith yn myned rhagddo yn mhob man, a phenderfynai lynu wrth yr ŵyn. Cyrhaeddodd yno o gwmpas pedwar; "Trowch eich wynebau ataf fi," oedd ei destun, cafodd nerth mawr wrth weddïo, ac wrth anerch y dyrfa. Yn yr hwyr aeth i le a eilw Alltmawr, pregethodd hyd gwedi naw oddiar Zech. xii. 10: "A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, yspryd gras a gweddïau, a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; " ac yr oedd y nefoedd yn gwenu arno, Bu i lawr hyd gwedi un-ar-ddeg yn cynghori yr ŵyn.

Dydd Llun, y mae yn Llanddewi'r Cwm; anogodd y bobl i edrych at Grist, yna cychwynodd i Langamarch, lle y cyfarfyddodd a'r anwyl Mr. Gwynn. Ei destun yno oedd: "Wele Oen Duw," a chaffodd ddirfawr nerth i lefaru.

Gwedi cymdeithas felus a Mr. Gwynn, cyfeiriodd ei gamrau tua Dolyfelin. Ar y ffordd bu yn dda ar ei enaid; gwelodd bechod fel y mae yn erbyn yr Iesu, ac felly dychrynai rhagddo yn gystal a rhag ei ddoethineb, ei ewyllys, ei reswm, a'i gyfiawnder ei hun; gwelodd Grist yn ogoneddus, a'i hunan yn ofnadwy, nes y gweddïodd: " O, achub fi rhag fy hunan! " Pregethodd oddiar Heb. xii. 1, 2, gyda nerth mawr. Wedi hyny aeth tua Llanfair-muallt, yr oedd ei gysylltiad a Miss Williams, y Scrin, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl; ar yr un pryd teimlai barodrwydd i'w rhoddi i fynu, ac i beidio ei gweled byth, os byddai hyny yn fwy manteisiol i ŵyn Crist. Cafodd undeb nefol, a rhyddid ffydd, yn nghymdeithas saint Llanfair; gwelai fod goleuni Crist yn peri iddynt ddirmygu yr hen gyfamod. Pregethodd yma eto oddiar " Trowch eich wynebau ataf fi," a chafodd ryddid a dirfawr felusder yn y gwaith. Aeth oddi yno tua chyfeiriad Hengwm, gan daflu bras-olwg ar ei lafur, er pan y dechrenodd fyned allan gyda'r efengyl. Dywed ddarfod iddo deithio tua deuddeg milldir y dydd am y pedair blynedd a haner diweddaf, ac felly fod ei holl deithiau am y tymor hwnw dros dair mil o filldiroedd, a'r cyfanswm am yr wyth mlynedd yn agos i chwe' mil. Traddodasai rhwng chwech a saith mil o bregethau, heblaw cofnodi ei deimladau a'r digwyddiadau yn ei ddydd-lyfr, ac ysgrifenu llythyrau dirif. Yn ychwanegol, cynghorai yn y seiadau. Cafodd gyfarfod nodedig o nerthol yn Hirgwm. Wrth weddïo daeth dylanwad rhyfedd ar ei yspryd; gwelodd ei holl bechodau wedi eu cyfrif ar Grist; " Gwelais ef,"' meddai, " yn gorchfygu angau ac uffern, ac yn gwneyd hyny drosof fi, yn fwy clir nag erioed; tynwyd fi allan o fy hunan yn fwy nag erioed. Yna, wrth bregethu oddiar 'Wele Oen Duw,' yr oeddwn yn ofnadwy, yn fwy gorchfygol nag erioed; yr oedd genyf yspryd ac awdurdod fel nas gellid gwrthsefyll. Yr oeddwn yn galw ar y chwareuwyr, ac yn condemnio eu hiaith, yn tori pob peth o'm blaen, gan gyfeirio at yr hen fyd, at Sodom, ac at y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân."

Ymddengys fod yr odfa, yr hon a ddesgrifia gyda manylwch, yn un ofnadwy; atebai esgusodion yr annuwiol; condemniai y teuluoedd diweddi, a'r rhai a ddygent eu plant i fynu gan eu harfer i chwareuyddiaethau; a dywedai, os yw Gair Duw yn wir, fod yr holl wlad yn myned tuag uffern. "Ychydig oedd genyf i'r ŵyn," meddai; "ond ni chefais y fath awdurdod erioed." Diau fod yno le difrifol mewn gwirionedd; mellt Sinai a oleuent i'r bobl eu cyflwr colledig, a tharanau yr Hollalluog a ruent yn eu clyw, nes yr oedd eu wynebau wedi myned fel calch, a'u gliniau yn curo ynghyd. Y mae yn Hirgwm hefyd dydd Mercher; aeth oddiyno i Cefnllys, yn Sir Faesyfed; dydd Iau y mae yn Cefnbrith, nid yn nepell o Cefnllys. Aeth oddiyno i Gore, ac ar y ffordd darllenai Lyfr Vavasor Powell, yn desgrifio ansawdd Cymru yn y flwyddyn 1641. Pregethodd yma oddiar Es. xlv. 22. Ar y dechreu yr oedd yn sych iawn, dim dylanwad, a braidd y medrai gael geiriau. Ond trodd at y gyfraith yn ddisymwth; yna daeth nerth mawr, tra y dangosai iddynt eu bod yn caru, yn ofni, yn ymddiried, ac yn rhyfeddu at bob peth ond Duw. Y mae yn y Rhiw dydd Gwener, y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1742, a dydd Sadwrn, y cyntaf o'r flwyddyn newydd, y mae yn y Scrin, ar ymwehad a Miss Ann Williams. Teifl y difyniadau hyn allan o'i ddydd-lyfr oleuni mawr ar ei hanes, ar y diwygiad, ar y rhwystrau mawrion a'i cyfarfyddent, ac ar ansawdd ei feddwl yntau. Ond ein hamcan penaf oedd rhoddi rhyw syniad am fawredd ei ymdrechion, a'i yni diderfyn.

Ar ol dychwelyd o'r daith, yr hon a barhaodd agos i saith wythnos, rhydd y crynodeb canlynol o'i lafur, mewn llythyr at gyfaill: "Yr wyf, oddiar pan adewais Lundain, wedi teithio dros fil o filldiroedd, ac wedi llefaru dros chwech ugain o weithiau, fynychaf yn yr awyr agored, gan na all unrhyw dŷ gynwys y dorf, a hyny yn nghanol gwyntoedd, gwlawogydd, a rhew; ac eto nid wyf yn waeth o ran fy nghorff nag ar y dechreu. Hyfryd yw bod ar fy eithaf dros Dduw." Meddai, mewn llythyr arall, at un Mr. Baddington, "Pe baech yn cymeryd tro gyda mi am ddeufis neu dri, yn gweled fy llafur a'm profedigaethau, yr wyf yn sicr na ryfeddech gymaint am na anfonais atoch cyn hyn. Y mae yn awr ynghylch naw wythnos er pan ddechreuais fyned o amgylch De a Gogledd Cymru. Yn yr amser hwn mi a ymwelais â thair sir-ar-ddeg, a thrafaelais gan amlaf 150 o filldiroedd bob wythnos, gan bregethu ddwy waith, ac weithiau dair a phedair gwaith y dydd. Bum saith noswaith yn olynol heb ddiosg fy nillad. Teithiais o un boreu hyd yr hwyr dranoeth, heb orphwys, dros gan' milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn foreu iawn, ar y mynyddoedd, rhag cael ein herlid."

Mewn gwirionedd, yr oedd ei lafur yn anhygoel. Y syndod yw nad ymollyngodd ei gyfansoddiad, er cadarned oedd, tan bwys y gwaith. Gwedi taith flin, a phregethu amryw droiau i dorfeydd terfysglyd, a'r holl wlad yn ferw ac yn gyffro o'i gwmpas, arosai i lawr drachefn hyd dri neu bedwar o'r gloch y boreu, yn gweddïo, yn ymdrechu yn galed a llygredigaeth ei galon, ac yn ysgrifenu, fel nad oedd ganddo nemawr o amser i orphwys. Efe, uwchlaw pawb, a arloesodd y tir, ac a dorodd y garw, i'r efengyl. Tybiai ef ei hunan yn fynych fod ei ddiwedd yn ymyl, ond ni theimlai unrhyw brudd-der o'r herwydd; yn hytrach cyffroid ei enaid ynddo gan y gobaith o fyned at ei Waredwr.

Fel enghraifft o'i ddyoddefaint gyda gwaith yr efengyl cymerer a ganlyn. Ryw noson clywai Mrs. Rumsey, Tynywlad, ger Crughywel, lais gwan wrth ddrws y tŷ, o gwmpas dau o'r gloch y boreu. Adnabu y llais, mai llais Howell Harris ydoedd. Prysurodd i agor, ac erbyn iddo ddod i mewn yr oedd golwg ryfedd arno. Wrth ddychwelyd o Sir Fynwy cawsai ei guro a'i faeddu yn dost; gorchuddid ei gorff gan waed, a chan archollion a chleisiau; cafwyd fod tri-arddeg o glwyfau ar ei ben, a'r syndod oedd na chawsai ei ladd. Cafodd bob ymgeledd posibl mewn ffermdy, ac aeth i ffwrdd boreu dranoeth yn siriol ei yspryd, gan ystyried mai braint oedd cael dyoddef anmharch dros Grist.

Dro arall, sef Mehefin, 1741, yr oedd ef a John Cennick yn Swindon ar eu ffordd i Lundain. Dechreuasant ganu ac efengylu, ond cyn gallu dechreu pregethu ymosodwyd arnynt gan y werinos. Saethent a drylliau dros eu penau, ac yr oedd ffroenau y drylliau mor agos i'r pregethwyr fel y gwnaed eu hwynebau mor dduon gan y pylor ag eiddo tinceriaid. Nid oedd arnynt fraw; agorasant eu mynwesau, a dywedasant eu bod yn barod i roddi eu bywydau dros eu hathrawiaeth. Yna cawsant eu gorchuddio drostynt oll a llwch yr heol, yr hwn a deflid atynt. Yn nesaf, cafodd y terfysgwyr beiriant dwfr, yr hwn a lanwasant o gwteri aflan, gan arllwys yr hylif budr ar weision Crist. Ond ni ddigalonent. " Tra y taflent y dwfr budr ar Harris," meddai Cennick, " pregethwn i; pan y tröent y peiriant arnaf fi, pregethai yntau." Parhasant i wneyd hyn, nes niweidio y peiriant; yna taflasant fwceidiau o ddwfr budr a llaid arnynt. Yr oedd boneddwr, o'r enw Mr. Richard Goddard, yn anog y terfysgwyr; benthycasai iddynt ei beiriant a'i ddrylliau i'r pwrpas; dywedai wrthynt am drin y ddau bregethwr cynddrwg ag y medrent, ond peidio eu lladd. Safai ar gefn ei geffyl yn edrych ac yn chwerthin. Wedi iddynt ymadael, gwisgasant ddwy ddelw, galwasant un yn Harris a'r llall yn Cennick, a llosgasant hwy. Diau mai hyn a wnaethent a'r pregethwyr eu hunain oni bai fod arnynt ofn. Nid digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn, cyfarfyddent a'r cyffelyb yn mron bob dydd.

Fel pregethwr, math o Ioan Fedyddiwr ydoedd, a gwaith garw, rhagbarotôl, i raddau mawr, a gyflawnodd. O ran gallu gweinidogaethol, nid oedd i'w gymharu a Daniel Rowland. Yn ei flynyddoedd cyntaf, ychydig o drefnusrwydd fyddai ar ei sylwadau, ac ni arferai gymeryd testun, eithr llefarai yr hyn a roddid iddo ar y pryd. Tywalltai allan yr hyn a fuasai yn berwi yn ei fynwes, heb ryw lawer o reoleidd-dra, ond gydag awchlymder a nerth nas gallai dim sefyll o'i flaen. Ar yr un pryd, yr oedd rhyw hynodrwydd yn ei arddull, oedd yn ei osod ar ei ben ei hunan ynghanol pawb. Meddai Williams, yn ei farwnad:—

" Ond yn nghanol myrdd o honynt Mae rhyw eisiau o dy ddawn."

Nid rhaid ond edrych ar ei ddarlun," ysgrifena Dr. Owen Thomas,[14] " er mwyn gweled ar unwaith, mai nid dyn cyffredin ydoedd. Y mae y wyneb hir, ac yn enwedig yr ên hir yna, y trwyn eryraidd, yr aeliau mawrion, y talcen llydan er nad yw yn uchel, y genau agored eang, y llygaid treiddgar, a'r wynebpryd penderfynol yna, yn arwyddo ei fod yn berchen galluoedd naturiol cryfion, ac yn arbenig ei fod wedi ei wneuthur heb ofn." Yr oedd dwysder ei argyhoeddiad hefyd, yr ing enaid ofnadwy y pasiodd trwyddo, yr agosrwydd at dragywyddoldeb yn mha un yr oedd yn byw, yn awchlymu ei leferydd, ac yn rhoddi mîn ar ei eiriau. Meddai y Parch. John Hughes:[15] "Rhoes Duw iddo orchymyn, ' Llefa a'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Israel." Y llef a ddywedodd wrtho, ' Gwaedda.' A gwaeddi yn groch a wnaeth: ' Pob cnawd sydd welit, a'i holl odidowgrwydd sydd fel blodeuyn y glaswelltyn.' Gwnaed ei wyneb fel callestr. Dyrchafodd ei lef uwchben dynion diofal nes yr oedd eu gwynebau yn gwelw-lasu." Pregethwr y werin anystyriol ydoedd yn benaf; pe buasai ei iaith yn fwy coeth, ei leferydd yn fwy tyner, a'i fater yn fwy athronyddol, ni fuasai yn offeryn cymwys ar gyfer y gwaith oedd Duw wedi dori allan iddo. Cyfeiria John Wesley, yn ei ddydd-lyfr, at rymusder ei genadwri. Ar gyfer dydd Llun, lonawr 22, 1750, ysgrifena: "Mi a weddïais yn y boreu yn y Fomidery (capel Mr. Wesley, yn Llundain), a phregethodd Howell Harris, areithiwr nerthol, yn gystal wrth natur a thrwy ras, ond nid yw yn ddyledus am ddim i gelfyddyd na dysgeidiaeth." Cyfeiria ef ei hun yn aml at brinder ei wybodaeth, a'i fod yn methu cael amser i ddarllen, fel rhwystrau ar ei ffordd gyda'r weinidogaeth. Ond fel yr ydoedd yr oedd gymhwysaf ar gyfer ansawdd y wlad. Mewn ymroddiad diarbed i lafur, mewn teithiau hirion a pheryglus, mewn cydwybodolrwydd dwfn i'r Arglwydd Iesu, mewn hyfdra sanctaidd yn ngwyneb gwawd ac erhd, ac mewn ymdeimlad difrifol a gwerth yr eneidiau oedd yn teithio

yn ddiofal i ddinystr, ni ragorodd un o'r Diwygwyr ar Howell Harris. Braidd na allai ddweyd yn ngeiriau Paul: "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll;" ac yn briodol iawn y gelwir ef yn Luther Cymru. Yr oedd ei allu trefniadol hefyd agos a bod yn gyfartal i'w ddawn fel siaradwr; bu ganddo ef law fawr, yn wir y llaw fwyaf, yn lluniad y cyfansoddiad Methodistaidd ar y cychwyn, ac y mae ei ddelw ef i'w gweled yn amlwg ar y Cyfundeb hyd heddyw. Gadawn hanes Howell Harris yn y fan hon yn bresenol, ond cawn ddychwelyd ato eto.

—————————————

—————————————

HANES Y DARLUNIAU.

ATHROFA TREFECCA CHAPEL COFFERWDAETHOLAETHOL HOWELL HRRIS. Cymerwyd y darlun hwn ar gyfer y gwaith presenol yn ngwanwyn y flwyddyn hon, 1894. Yn mis Ebrill, y flwyddyn 1752, y gosododd Howell Harris sail yr adeilad i lawr; ac yr oedd rhan o hono wedi ei orphen yn y flwyddyn ganlynol. Ar ddiwedd y flwyddyn 1754 yr oedd teulu sefydledig yn Nhrefecca, o gylch cant o rifedi, heblaw y rhai oedd yn myned ac yn dyfod. Gan y rhoddir hanes cyflawn o'r sefydliad yn Nhrefecca yn amser Howell Harris yn y lle priodol yn nghorff y gwaith, ni raid ymhelaethu arno yn y fan hon. Yn y flwyddyn 1842 yr agorwyd y lle fel Athrofa y Deheudir, ac am yr ugain mlynedd cyntaf, y Parch. D. Charles, B.A., oedd yr unig athraw. Agorwyd y Capel Coffadwriaethol yn mis Gorphenaf, 1873, sef can-mlwyddiant marwolaeth Howell Harris. Gwasanaethwyd ar yr agoriad gan y Parchedigion Dr. Lewis Edwards, Bala; Dr. Owen Thomas, Liverpool; Edward Matthews, David Williams, Troedrhiwdalar, ac eraill. Cynllunydd y capel ydoedd Mr. R. G. Thomas, Menai Bridge; a'r adeiladydd Mr. Evan Williams, Bangor. Costiodd £3,432 2s. 2c. Casglwyd yr arian drwy ymdrechion y Parchedigion Edward Matthews, a Dr. J. Harris Jones, un o athrawon y sefydliad.

DARLUN GWREIDDIOL HOWELL HARRIS. Cyhoeddwyd dau Gofiant o Howell Harris yn y flwyddyn ar ol ei farwolaeth. Argraffwyd hwy yn Nhrefecca, ac yr oedd y cyntaf yn yr iaith Gymraeg, a'r llall yn Saesneg; ond ni chyhoeddwyd darlun o'r Diwygiwr hynod yn y Cofiantau hyny. Cyhoeddwyd Cofiant eilwaith iddo yn Nhrefecca yn 1792, ond nid oes darlun o hono yn hwnw ychwaith. Ond yn y flwyddyn 1838, sef yn mhen tri ugain a phump o flynyddau wedi marwolaeth Howell Harris, fe ail-argraffwyd y Cofiant a ddygwyd allan yn 1792 gan Mr. Nathan Hughes, tad y diweddar Barch. Jobn Ricbard Hughes, Brynteg, Sir Fon. Argraffwyd ef yn Merthyr Tydfil. Pan ynghylch cyhoeddi yr argraffiad hwn o Gofiant Howell Harris, cafodd Mr. Nathan Hughes afael ar ddarlun o hono yn Nhrefecca, pa un a osododd yn llaw fod pris y darlun ei hun yn llawn cymaint a hyny, o herwydd dywedir ddarfod i'r platcerfiedydd mewn dur, a chyhoeddodd liaws o gopïau o hono. Er fod cyhoeddiad y Cofiant hwn a'r darlun yn gyfamserol, ymddengys eu bod yn cael eu gwerthu ar wahân; o herwydd nid yw y darlun wedi ei rwymo gyda'r Cofiant, yn y copïau yr ydym ni wedi eu gweled; ac yr ydym wedi dyfod ar draws y darlun yn aml, heb y Cofiant. Pris y Cofiant ydoedd swllt, a thebygol e gostio deg punt; felly gwerthid hwy gyda'u gilydd neu ar wahân, yn ol ewyllys y prynwr. Dywedir fod y plate yn awr yn meidiant y Parch. Dr. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, Scranton, Pen. America, sef un o feibion Mr. Nathan Hughes. Y mae darlun Howell Harris wedi ei gerfio lawer gwaith yn ystod y blynyddau diweddaf.

EGLWYS TALGARTH. Copi ydyw y darlun hwn o'r print a gyhoeddwyd gydag argraffiad Mr. William Mackenzie o "Holl Weithiau Williams, o Bantycelyn," dan olygiad y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones. Cymerwyd y photograph gwreiddiol tua'r flwyddyn 1867, gan Mr. T. Gulliver, Abertawe. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw heb fyned dan unrhyw gyfnewidiad. Y mae yr eglwys yn bresenol yn bur debyg i'r fel yr ydoedd yn amser Howell Harris, ac y mae genym wrth law amryw ddarluniau diweddar o honi, eto gwell oedd genym dalu am y copyright i Mackenzie na gwneyd defnydd o honynt.

ATHROFA'R IARLLES HUNTINGTON. Cymerwyd y darlun o'r adeilad dyddorol hwn allan o'r Evangelical Register am Ebrill yn y flwyddyn 1824, cyhoeddiad perthynol i Gyfundeb yr Iarlles. Gan y mynegir hanes yr adeilad yn yr amser priodol yn ngborff y gwaith hwn, nid oes eisiau ond crybwyll yn y fan hon, fod Athrofa yr Iarlles, ag Athrofa presenol y Methodistiaid yn Nhrefecca, yn ddau adeilad hollol wahanol, fel y gwelir oddi wrth y darluniau sydd yn addurno y benod hon. Saif Athrofa'r Iarlles ar dir Trefecca Isaf; daeth y tir hwn yn eiddo, trwy bryniad, i Thomas Harris, a disgynodd trwy etifeddiaeth ar ol ei ddydd ef, i Mrs. Hughes, unig ferch brawd hynaf Howell Harris, sef Joseph Harris. Ar ol marwolaeth yr Iarlles, symudwyd yr Athrofa i Cheshunt, ac aeth yr adeilad yn adfaeledig. Y mae bellach er ys blynyddau yn amaethdy, a gelwir ef yn "College Farm," ac y mae yn meddiant James P. W. Gwynne Holford, Ysw., o Buckland, yr hwn sydd yn disgyn o'r Harissiaid. Yr oedd y tir ar yr hwn yr adeiladwyd yr Athrofa bresenol yn eiddo Howell Harris ei hun, er mai i bwrpas arall y bwriadai efe y lle.

GOLYGFA DDWYRAIN-OGLEDDOL AR ATHROFA TREFECCA. Dengys y darlun hwn y rhan o'r adeilad a neillduir yn breswylfod y Prif Athraw. Adnewyddwyd yr Athrofa yn fawr yn ystod y blynyddau diweddaf, ac y mae yn bresenol yn edrych yn adeilad hardd ac mewn cadwraeth dda.

EGLWYS DEFYNOG. Er fod yr eglwys eang hon wedi myned dan adgyweiriadau yn ystod y blynyddau diweddaf, eto nid ydyw wedi myned dan gyfnewidiadau mawrion, er pan y cyfarfyddodd Howell Harris â Daniel Rowland ynddi, yn y flwyddyn 1737. Y mae hon, fel eglwys Talgai'th, yn llawer mwy o faintioli nag yw eglwysi parthau gwledig Cymru yn gyffredin. Yma y treuliodd y Parchedig Mr. Parry ddiwedd ei oes, er ei fod yn llawer mwy adnabyddus fel Mr. Parry o Lywel. Yr oedd efe yn ei ddydd yn un o'r offeiriaid mwyaf poblogaidd a feddai y Deheudir, ar gyfrif ei ddawn pregethwrol a'i ddaliadau efengylaidd. Y mae ei gorff yn gorwedd yn y fynwent hon, er nad yw y fan yn cael ei ddangos yn y darlun hwn.

COFLECH HOWELL HARRIS YN EGLWYS TALGARTH. Nid yw yn hysbys pa bryd y gosodwyd y goflech hon i fyny. Tebygol iddi gael ei gosod yno yn fuan wedi ei farwolaeth, gan y "teulu" yn Nhrefecca. Y mae Mr. Theophilus Jones, yn ei History of Breconshire, a gyhoeddwyd yn 1809, yn crybwyll am dani, er mai cyfeiriad anmharchus ddigon a geir ati yn ei lyfr ef. Y mae yr hanesydd tra-eglwysig hwnw yn achwyn ar eiriad y coffadwriaeth sydd ar y goflech, ac yn anfoddlawn, debygid, fod y geiriau "a hunodd yn yr Iesu " wedi eu harfer i ddynodi ei ymadawiad ef. Tra ddyrchefir ei frodyr ganddo ar draul ei ddarostwng ef. Prin y mae yn bosibl i gulni yspryd fyned yn mhellach na hyn. Adnewyddwyd Eglwys Talgarth yn fawr yn y blynyddau 1874-5, ac o herwydd rhyw resymau nad ydynt yn hysbys i ni, fe dynwyd y goflech ymaith oddiar fur gogleddol yr eglwys, lle yr ydoedd wedi bod am gynifer o flynyddau; ac y mae rhan o honi—a dim ond rhan yn unig—yn awr wedi ei gosod mewn modd digon anmharchus yn erbyn y mur, ar un o ystlysau yr eglwys. Y mae yn anhawdd peidio ymholi paham na buasai yr awdurdodau oedd yn gyfrifol am adgyweiriad yr eglwys, yn ail-osod y goflech? Nis gellir dweyd ei bod yn anhardd ac anolygus, o herwydd y mae y darlun o honi sydd ar tudalen 107 yn dangos yn wahanol. Hwyrach y gallasai ei fod yn angenrheidiol iddi gael ei symud o'r fan yr ydoedd wedi bod er amser marwolaeth Howell Harris, ond pa gyfrif sydd am nad ail-adeiladwyd hi yn ei chyfanrwydd mewn rhyw gwr arall o'r eglwys? Nid ydym yn ystyried ein bod yn gwybod digon o'r amgylchiadau i ateb y gofynion hyn, ond yn sicr, yr ydym yn credu y dylai fod gan awdurdodau Eglwys Talgarth atebion da iddynt. Howell Harris yn ddiau oedd y mwyaf ymlyngar wrth yr Eglwys Sefydledig o'r oll o'r Tadau, ac y mae ei goffadwriaeth yn haeddu pob parchedigaeth oddiar ei llaw hi. Gan Mr. D. Grant, o Lanfair-yn-muallt, y cymerwyd y darlun gwreiddiol.

COFLECH HOWELL HARRIS YN Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Y mae y maen coffadwriaethol hwn yn un destlus a da. Gwnaed y medallion gan Mr. William Davies (Mynorydd), Llundain, ac y mae yn waith celfyddgar a gorchestol. Y geiriau a gerfiwyd arni ydynt fel y canlyn:—"This Chapel was erected in memory of Howell Harris: born at Trevecca, January 23rd, 1714: died July 21st, 1773. He was interred near the Communion Table in Talgarth Church. His powerful preaching was blessed of God, to the conversion of many souls, and the revival of religion in all parts of Wales." Rhodd cyfeillion Llundain ydyw, a chostiodd £32.

LLYFRGELL TREFECCA, YNGHYD A PHWLPUD A CHADAIR DDERW HOWELL HARRIS. Gesid y darlun hwn ger ein bron olygfa ar un o ystafelloedd Llyfrgell yr Athrofa. Y mae y pwlpud a'r gadair wedi eu symud o'u lleoedd priodol, fel ag i ymddangos yn y darlun. Y mae y pwlpud yn egluro ei hun. Cadair dderw gerfiedig ydyw y gadair hon, ac y mae y flwyddyn 1634 wedi ei cherfio arni, felly gwelir fod y gadair yn meddiant y teulu, lawn bedwar ugain mlynedd cyn geni Howell Harris.

GOLYGFA FEWNOL AR Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Rhydd y darlun hwn syniad cywir am sefyllfa y pwlpud a'r goflech. Gwelir ynddo y bwrdd a'r ddwy gadair freichiau, rhodd cyfeillion Dolgellau, gwerth £25. Y mae eiddo gwerthfawr eraill yn y capel hwn, ar nas gallesid eu cael i fewn i'r darlun, megys y llestri arian at wasanaeth y cymun, gwerth £52, a gyflwynwyd gan gyfeillion o Liverpool; ynghyd ag awrlais ardderchog, gwerth £25, sydd yn rhodd cyfeillion o Ddinbych, &c.

LLAWYSGRIF HOWELL HARRIS. Gwelir fod y llythyr hwn wedi ei ysgrifenu yn eglur, ac yn gwbl anhebyg i'w lawysgrif yn y dydd-lyfr, yr hwn sydd yn hynod o aneglur, ac yn llawn talfyriadau. Gosodir tudalen o'r dydd-lyfr i fewn eto. Y mae nodiad ar gefn y llythyr hwn yn darllen fel hyn:—"Letter sent, 1756, to the 4 brethren gone to the Army." Nid yw yn hysbys pwy oeddynt. Mae y gwreiddiol yn ngadw yn Athrofa Trefecca, a chopiwyd ef gan Mr. O.M. Edwards, M.A., Rhydychain, yr hwn sydd yn arlunydd medrus, yn gystal ag yn llenor gwych.

-^

Nodiadau[golygu]

  1. Hunan-gofiant
  2. Oxford Methodists, gan Tyerman, tudal. 18.
  3. Tyerman's Oxford Methodists.
  4. History of the Parish of Aberystruth
  5. Methodistiaeth Cymru, cyf. i.
  6. History of Protestant Nonconformitiy in Wales, tudal. 415.
  7. Methodiastiaeth Cymru
  8. Llythyrau at Miss Anne Williams, Y Scrin
  9. Methodistiaeth Cymru, cyf. i., tudal 98.
  10. Wrth ** y meddylir Ann Williams, o'r Ysgrin, yr hon ddaeth wedi hyny yn wraig i Howell Harris.
  11. Methodíistiaeth Cymru
  12. Ibid
  13. Gwel tudalen 51.
  14. Cofiant John Jones, Talsarn.
  15. Methodistiaeth Cymru.