Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Howell Davies

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn

PENOD VI

HOWELL DAVIES

Ei hanes dechreuol yn anhysbys—O dan addysg Griffith Jones[1] —Yn guwrad Llysyfran—Ei benodiad i fod yn guwrad Llanddowror—Eglwys Prendergast, a chysylltiad Howell Davies a hi—Yn dyfod yn un o arweimvyr y Methodistiaid—Penfro yn brif faes ei lafur—Ei briodas—Ei lafur mawr gyda'r diwygiad—Adeiladu y Tabernacl yn Hwlffordd—Capel Woodstock, gweinyddu y sacramentau yno—Adeiladu capel newydd—Ei nodweddion—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth.

O'r "Tadau Methodistaidd" y Parchedig Howell Davies, Apostol Penfro, yw yr un y gwyddis lleiaf o'i hanes. Nid ydym yn gwybod brodor o ba le ydoedd; beth oedd enwau, galwedigaeth, a sefyllfa gymdeithasol ei rieni; na dim o hanes ei faboed yntau. Braidd nad yw fel Melchisedec gynt, "heb dad, heb fam, heb achau;" yr ydym yn ei gyfarfod am y tro cyntaf yn ysgol athrawol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, mor sydyn a phe y disgynasai yno o'r cwmwl. Yn mhenawd y farwnad a gyfansoddwyd iddo gan Williams, Pantycelyn, hysbysir ni iddo farw yn y flwyddyn 1770, yn 53 mlwydd oed. Yn ol y cyfrif hwn cafodd ei eni yn 1717; ac yr oedd yr un oed a Williams, dair blwydd yn iau na Howell Harris, a phedair blwydd yn iau na Daniel Rowland. Ymddengys mai o Sir Fynwy yr hanai. Ein hawdurdod ar hyn yw ysgrif sydd yn bresenol ar gael o eiddo Lawrence Torstanson Nyberg, gweinidog cyntaf yr eglwys Forafaidd yn Hwlffordd. Gweinidogaethai efe yn Hwlffordd o Mehefìn 24, 1763, hyd Awst 23, 1768; yn ystod yr amser hwn rhaid ei fod yn dra chydnabyddus a Mr. Davies, yr hwn oedd y gweinidog mwyaf ei barch a'r uchaf ei safle gymdeithasol a feddai y dref; ac felly yr oedd mewn mantais i wybod. Dywed traddodiad y disgynai Howell Davies o deulu parchus, a'i fod yntau er yn ieuanc wedi dadblygu cynheddfau meddyliol cryfion, ac yn dra awyddus am ddysg. Yn ysgol athrawol Griffith Jones gwnaeth gynydd cyflym; daeth yn ysgolhaig gwych mewn Lladin

ac mewn Groeg; a thueddai ei feddwl yn gryf at y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Eiddil o iechyd ydoedd er yn blentyn; cryfhaodd i raddau gwedi tyfu i oedran, ond ni feddianodd o gwbl gyfansoddiad cadarn ei gydlafurwyr, sef Daniel Rowland, Howell Harris, a William Williams. Dywedir yn mhellach ei fod yn naturiol o duedd ddifrifol, ac iddo gael ei ddwyn dan awdurdod y gwirionedd trwy weinidogaeth Griffith Jones, ei athraw. Felly, nid yw yn debyg iddo deimlo yr ing a'r loes a brofwyd gan Rowland a Harris; ni fu yn crynu wrth droed Sinai yn gwrando ar y taranau; ni chafodd ei ysgwyd uwchben y trueni bythol; yn hytrach ei brofiad ydoedd " Fe'm denodd i yn ddirgel iawn, A dystaw ar ei ôl." Beth bynag am ddull ei argyhoeddiad, cafodd Howell Davies grefydd ddiamheuol. Gwedi hyn yr oedd yn fwy tueddol ei feddwl at weinidogaeth yr efengyl, a diau ei fod yn cael pob cefnogaeth gan ei athraw. Efe oedd hoff" ddisgybl Griffith Jones, a'r diwrnod yr oedd Howell yn caél ei ordeinio, gofynai yr offeiriad hybarch i'r gynulleidfa yn Llanddowror offrymu ei gweddi i'r nefoedd ar ei ran. Yn sicr, gwrandawyd y weddi hon yn helaeth. I guradiaeth Llys Bran, neu fel y gelwir y lle ar lafar gwlad, Llysyfran, y cafodd ei benodi. Yn rhyfedd iawn, nid oes unrhyw gofnodiad o'i urddiad fel diacon ar gael yn llyfrau

HOWELL DAVIES

A gyhoeddwyd gan CARRINGTON BOWLES, 60, St. Paul's Churchyard, Llundain, Mawrth 30ain, 1773

esgobaeth Tyddewi. Bu y Parch. E. Meyler yn chwilio yn fanwl, a chafodd fod cofrestriad yr ordeiniad wedi cael ei esgeuluso yn hollol. Dengys hyn mor ddiofal ac afler y cedwid cofnodau eglwysig yr adeg hono, ac nas gellir tynu unrhyw gasgliad diamheuol oddiwrth eu dystawrwydd parthed unrhyw amgylchiad. Nid oes unrhyw gyfeiriad ato ychwaith ar lyfr cofrestriad Llysyfran; cafodd Mr. Meyler fod dalen o'r llyfr a berthyn i'r adeg hon wedi ei rhwygo allan. Nid anhebyg mai un o'r clerigwyr dilynol a wnaeth hyny,—fel na chaffai dim perthynol i'r Methodist enwog aros ar gof a chadw mewn llyfr. mor gysegredig.—Ond iddo fod yn guwrad Llysyfran sydd sicr; profir y ffaith gan dystiolaeth lliaws ai clybu yno yn efengylu, ac a dderbyniasant les ysprydol trwyddo. Rywbryd tua dechreu y flwyddyn 1740 y cychwynodd ar ei waith gweinidogaethol, a dechreuodd yn ddioed i daranu yn ofnadwy yn erbyn annuwioldeb y wlad, nes yr oedd gweithredwyr anwiredd yn arswydo yn ei bresenoldeb. Daeth y llanerch dawel, a orwedda fel yn mreichiau cwsg yn nghanolbarth Penfro, ar

—————————————

EGLWYS LLYS-BRAN (NEU LLYSYFRAN), SIR BENFRO.

(Fel yr ymddangosai yn amser Howell Davies.)

—————————————

unwaith yn gyrchfa cynulleidfaoedd aruthrol; aeth yr eglwys yn rhy fechan i ddal y gwrandawyr; ymdywalltai y gwlaw nefol i lawr yn gawodydd bendigedig, fel yn Llangeitho; a chafodd llawer eu troi at yr Arglwydd. Gan mai yn 1740 y cychwynodd, nid cywir y sylw yn Methodistiaeth Cymru, ei fod yn mysg y rhai blaenaf yn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru, o ran amser yn gystal ag o ran enwogrwydd. Yr oedd Daniel Rowland a Howell Harris ar y maes agos i bum' mlynedd o'i flaen.

Gwir nad yw pum mlynedd yn amser mawr; ond ar adeg o gyffro fel oedd yn berwi Cymru y pryd hwnw, pan y bydd digwyddiadau yn canlyn eu gilydd yn gyflym, ac effeithiau dwfn ac arosol yn cael eu cynyrchu mewn cyfnod byr, y mae pum mlynedd yn gryn amser. Yr oedd Rowland a Harris wedi teithio rhanau helaeth o'r Deheudir, a rhyw gymaint o'r Gogledd, cyn iddo ef ddyfod a'i gryman i'r maes. Ond yr oedd agos ysgwydd yn ysgwydd a'r ddau Ddiwygiwr mewn enwogrwydd, a gallu gweinidogaethol. Ac y mae yn sicr iddo ddechreu ar ei lafur yn annibynol

EGLWYS ST. DANIEL'S, GER PENFRO

arnynt ; nid dyfod allan yn gynorthwywr i'r un o'r ddau a wnaeth ; yr oedd yn gychwynydd, a hollol briodol ei gyfenwi yn dad Methodistiaeth Sir Benfro. Anwiredd i'w gospi gan farnwyr fyddai ceisio ei osod ar safle is. Pan y cyfarfyddodd a Howell Harris yn Hwlffordd, gwanwyn 1740, y mae yn dra thebyg ei fod wedi ei ordeinio, ac wedi dechrau tynu tyrfaoedd i Lysyfran ; a chyfeiria Harris ato yn ei ddydd-lyfr gyda pharch.

Nid hir y bu Howell Davies yn gweinidogaethu yn Llysyfran; tuag wyth mis o bellaf a fu tymor ei arosiad ; aeth ei weinidogaeth danllyd, effro, yn annyoddefol i rai o'r plwyfolion cysglyd, a llwyddwyd i'w yru ymaith. Cawn ef yn cael ei ordeinio yn offeiriad gan Dr. Nicholas Claget, Esgob Tyddewi, Awst 3, 1740, a'i drwyddedu i guwradiaeth Llanddowror, a Llandeilo-Abercowin, dan yr Hybarch Griffith Jones. Ond ni chyfnewidiodd o ran natur ei weinidogaeth; ni phallodd a rhybuddio yr annuwiol ; ac ni pheidiodd y bendithion dwyfol a disgyn i lawr trwyddo. O hyn allan ystyrir ef yn perthyn i'r Methodistiaid, ac yn arweinydd yn eu mysg. Diau mai un o amcanion Howell Harris wrth ymweled a Sir Benfro, Rhagfyr, 1742, rhyw bythefnos o flaen y Gymdeithasfa yn Watford, oedd ymgynghori a'i gyfaill yn yr efengyl gyda golwg ar y trefniadau y bwriedid eu gwneyd. A chawn fod y ddau yn cydweled yn hollol. Er mai yn Sir Gaerfyrddin yr oedd cysylltiadau eglwysig Howell Davies, eto Penfro oedd prif faes ei lafur. Teithiodd y sir o gwr i gwr; pregethai yn y tai ffermydd ac ar y maes cyn adeiladu capelau, am y gwarafunid yr eglwys iddo mewn aml i fan, a sefydlodd lliaws o seiadau bychain. Er i ymweliadau Harris a Rowland beri cyffro dirfawr, a chynyrchu daioni anarferol, eto, trwy lafur Howell Davies yr efengyleiddiwyd y sir, ac y darostyngwyd hi i grefydd. Ymddengys fod ei ddoniau yn nodedjg o felus. Cyfeiria Harris ato yn ei lythyrau yn barhaus fel yn rhagori mewn nerth a swyn. Dywed, mewn llythyr at Whitefield, wedi ei ysgrifenu o Milford, tua diwedd y flwyddyn 1743,[2] "Y ddau Sul diweddaf gwrandewais efallai y ddau udgorn mwyaf croch a fedd y genedl; sef y brawd Rowland, a'r brawd Davies. Yr oedd y goleuni, y gallu, a'r ddoethineb ddwyfol i glwyfo a meddyginiaethu, ac i ddatguddio yr Arglwydd Iesu Grist, y fath, fel na fedr geiriau gyflwyno unrhyw syniad cywir gyda golwg arno." Mewn llythyr at ei frawd yn Llundain o Fishgate, yn Mhenfro, dywed:[3] "Rhyfeddol yw yr hanes wyf yn glywed am y gallu sydd yn cydfyned â gweinidogaeth y brawd Howell Davies; yn fwyaf neillduol yn mysg y Saeson (y mae haner y wlad hon yn Saesnig). Y mae nerth anarferol hefyd yn y cymdeithasau yma, fel yn aml pan fyddont yn myned i geisio bendith ar eu pryd bwyd, disgyna yspryd gweddi ar amryw o honynt yn olynol, fel y cedwir hwy wrth orsedd gras am agos i dair awr. Y mae llawer yn cael eu swyno gymaint gan gariad Crist wrth ganu, nes y maent yn llewygu."[4] Yn mis Mawrth, 1743, ysgrifena at eglwys y Tabernacl, yn Llundain: "Bum y Sul diweddaf mewn un arall o eglwysydd y brawd Davies yn y sir hon, a gwnaed ef yn ddiwrnod o ogoniant mwy na'r Sul blaenorol. Credaf fod y gynulleidfa o ddeg i ddeuddeg mil. Nis gall iaith fynegu fel y mae yn bendithio y brawd Rowland yn Sir Aberteifi, a'r brawd Howell Davies yn y sir hon." Gallem ddifynu lliaws o ymadroddion cyffelyb, a frithant lythyrau Howell. Harris, yn dangos mor aruchel oedd gweinidogaeth Apostol Penfro, a'r modd y bendithiai Duw ei weinidogaeth.

CAPEL WOODSTOCK, SIR BENFRO.

Nid oedd yn bresenol yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. llai mai y rheswm oedd, ddarfod iddo fynegu ei holl feddwl ar y gwahanol bethau i Harris, fel nad ystyriai fod eisiau iddo yn ganlynol gymeryd taith mor bell. Ond yr oedd hefyd yn wanllyd o ran corff, a chyfrifa hyny am ei absenoldeb o amryw o'r Cymdeithasfaoedd, ac am fod ei lafur yn gyfyngedig i gylch cymharol fychan. Yn y trefniadau a wnaed gyda golwg ar y gwahanol siroedd yn y Gymdeithasfa, rhoddwyd Penfro oll dan ofal Howell Davies, ac efe, os yn bresenol, oedd i fod yn gadeirydd y Gymdeithasfa Fisol. Ar yr un pryd, yr ydym yn ei gael mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol cyntaf. Yr oedd yn Nghymdeithasfa fisol Gelliglyd, Mai 1, 1743; yn Nghymdeithasfa Fisol Longhouse, Mehefin 8, 1743; ac yn Nghymdeithasfa. Trefecca, Mehefin 29, 30, 1743. Bu mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn yr un lle hefyd yn 1744. Cawn ef yn llywyddu yn Nghymdeithasfa Fisol Llangwg, neu yn hytrach Llangwm, yn Sir Benfro, pan yr oedd John Sparks, George Gambold, a William Gambold, yn ymgeiswyr am y swydd o gynghorwyr. Yr oedd y ddau Gambold yn frodorion o Gasmal, er ar y pryd yn trigianu yn Hwlffordd, ac yn berthynasau agos i John Gambold, yr esgob Morafaidd, ac un o Fethodistiaid Rhydychain. Yn nghofnodau y Gymdeithasfa Fisol uchod ceir a ganlyn : "Ein bod yn cymeradwyo ac yn derbyn George Gambold fel cynghorwr, a'i fod i fyned oddiamgylch gymaint ag a all, gyda chymeryd gofal am ei nain." Ceir yma hefyd enw yr enwog William Edwards, Rhydygele, a gosodir ef dan ofal Mr. Howell Davies, y cymedrolwr, i gael ei dderbyn i gymundeb, ac i fyned dan arholiad, cyn y caffai ei ystyried yn gynghorwr. Rhoddir caniatad hefyd i John Sparks arfer ei ddawn dan arolygiaeth Howell Davies. Efe a lywyddai yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd, Ionawr 28, 1745, er fod Howell Harris yn bresenol fel arolygydd cyffredinol. Daethai. amryw gynghorwyr anghyoedd yno, a thri o rai cyhoedd, sef John Harris, am yr hwn y cawn son eto, William Richard, a Thomas Meyler. Gwelir, felly, fod Howell Davies yn gwneyd gwaith pwysig ynglyn a threfniadau y diwygiad yn Sir Benfro.

Tref Hwlffordd oedd canolbwynt ei lafur, ac eglwys Prendergast, neu fel ei gelwir gan y trigolion, Prengast, oedd un o'r lleoedd yn mha rai y gweinidogaethai. Anhawdd deall natur ei gysylltiad a'r eglwys hon. Gelwir ef weithiau yn "Rheithor Prengast;" ond nid yw yn ymddangos iddo fod yma, nac fel rheithor na chuwrad. [5] Y mae llyfr cofrestriad yr eglwys ar gael yn awr yn gyfan, ac yn cyrhaedd mor bell yn ol a dyddiau Oliver Cromwell, ond ni cheir ynddo ddim i ddangos ddarfod i Howell Davies fod mewn cysylltiad a'r lle o gwbl. Ond y mae yn sicr iddo fod yma yn gweinidogaethu, ac yn gweinyddu y cymun am flynyddoedd, a hyny gyda chysondeb, cyn fod gan y Methodistiaid un capel yn y rhan hon o'r wlad. Tref Hwlffordd yw canolbwynt Penfro; yma y cyrchai y bobl i'r marchnadoedd ac i'r ffeiriau o'r ardaloedd amaethyddol; yr oedd pobl Llysyfran yn neillduol a'u ffordd trwy Prengast; felly daeth yr eglwys, trwy swyn a nerth gweinidogaeth yr hwn a efengylai yno, yn gyrchfa pobloedd. Ymgynullai tyrfaoedd aruthrol i wrando. Prengast oedd y nesaf at Langeitho parthed lluosogrwydd cynulleidfaoedd, ac nid annhebyg oedd y dylanwadau nerthol a ddisgynent yn y ddau le. Pregethai hefyd, a gweinyddai y sacrament, yn St. Daniel, yn Nghastell Martin, ac yn Mounton, ger Narberth, lleoedd a berthynant i'r rhan Saesnig o'r sir. Rhwng y tri lle rhifai ei gymunwyr dros ddwy fil; llenwid yr eglwysydd drosodd a throsodd gan ddynion awchus am gofio angau'r groes.

Tua'r flwyddyn 1744 yr ydym yn ei gael yn myned i'r ystâd briodasol. Nid heb bryder y darfu iddo newid ei sefyllfa; bu yn gofyn cyngor ar y mater i Howell Harris, ac y mae ei lythyr ef mewn atebiad wedi ei argraffu. Yr oedd Harris mewn ystâd meddwl addas i gydymdeimlo ag ef, gan ei fod yntau ei hun ar fedr priodi. Y mae y llythyr yn un tra difrifol; dywed fod enw Mr. Davies mor gyhoeddus, a'r achos o gymaint pwys, fel yr oedd perygl iddo gamgymeryd serchiadau yn lle datguddiad oddiwrth Dduw. Nid oes ganddo ddim yn erbyn y ferch ieuanc; geilw hi "yr anwyl chwaer C—— ," yr hyn a brawf yr adwaenai hi fel dynes ieuanc dduwiol, a diwedda trwy geisio ganddi ddyfod i Gapel Ifan i'w gyfarfod, fel y caffai wybod ystâd ei meddwl yn fanylach. Trodd yr ymddiddan allan yn ffafriol, a phriododd Howell Davies. Haedda ei gymhares ychydig o sylw. Ei henw morwynol oedd Catherine Poyer, ac yr oedd yn ferch i John Poyer, Ysw., yr hwn oedd o haniad Normanaidd, ac yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd yn Sir Benfro. Un o'r teulu hwn, John Poyer wrth ei enw, a lywodraethai gastell Penfro yn amser Oliver Cromwell, ac ymddengys iddo amddiffyn y lle yn erbyn lluoedd Oliver gyda dewrder a medr arbenig. Dygasid Catherine Poyer i fynu mewn palasdy tlws, a pha un y mae stâd yn gysylltiedig, o'r enw Parke, ar aelwyd ei thaid a'i nain o du ei mam, sef Griffìth a Catherine Twyning. Yma y daeth tan argraffiadau crefyddol, a hyny, yn ol pob tebyg, wrth wrando ar Howell Davies. Ond yr oedd crefydd, o ryw fath, beth bynag, yn nheulu Twyning. Yr oedd offeiriad o'r enw Griífith Twyning yn ficer Walton, y plwyf agosaf at Llysyfran, yn y flwyddyn 1747, ac y mae sail i gasglu mai efe oedd olynydd Howell Davies yn nghuwradiaeth Llysyfran. Cawn ferch i'r ficer hwn, o'r enw Mrs. Scourfield, yr hon a breswyliai yn Pwllhook, yn perthyn i'r Methodistiaid yn amser y Parch. David Jones, Llangan. Y mae sail i gredu fod Howell Harris a Daniel Rowland, yn gystal a Howell Davies, yn ymweled a'r Parke yn fynych ar eu teithiau; a'r tebygolrwydd yw fod Catherine wedi cyfranogi yn helaeth o yspryd y diwygiad. Cyn ei phriodas yr oedd ei thaid a'i nain wedi marw; felly, perchenogai hi yr etifeddiaeth a adawsid ganddynt; ac yn rhinwedd yr undeb hwn daeth Howell Davies ar unwaith yn ŵr o gyfoeth. Eithr ni fu golud yn achlysur iddo laesu dwylaw gyda'r efengyl; llafuriai gyda'r un awyddfryd ac ymroddiad ag o'r blaen, a diameu iddo gael pob cefnogaeth i hyn gan ei briod. Nid hir, pa fodd bynag, y parhaodd pethau yn ddysglaer yn y Parke; daeth angau i mewn i'r palasdy tlws, gan gymeryd ymaith ddymuniad llygaid Mr. Davies. Bu farw ar enedigaeth baban, ei chyntaf-anedig; a chyn i'r eneth fechan gyrhaedd dwy flwydd oed, cafodd hithau ei rhifo i'r bedd, a gadawyd Howell Davies wrtho ei hun.

Yn mhen amser, priododd drachefn a Miss Luce Phillips, merch Mr. Hugh Phillips, boneddwr cyfoethog o'r un ardal; a chan i'r gweddill o blant Hugh Phillips farw heb hiliogaeth, daeth yr holl eiddo yn feddiant i Mr. Davies. Yr oedd hi yn ddynes nodedig o brydweddol, ac heblaw bod yn enwog am ei doethineb a'i chrefydd, yr oedd yn gantores dda. Meddai Mr. Davies, hefyd, ddawn canu rhagorol, a cheir y dalent yn nheulu y Parke hyd y dydd hwn. Mewn canlyniad i'r briodas hon daeth Howell Davies yn berchen dau gartref, sef y Parke, a thŷ ei wraig yn Prengast; preswyliai yn y ddau fel y byddai cyfleustra yn rhoi. Nid dibrofedigaeth a fu ei yrfa er hyny; bu farw ei unig fab, Howell, yn y flwyddyn 1749, ac efe yn saith mis oed. Ond ganwyd iddo ferch, sef Margaret, yr hon wedi hyny a ddaeth yn wraig i'r Parch. Nathaniel Rowland; ac y mae eu hiliogaeth hwy yn preswylio yn y Parke hyd y dydd heddyw.

Parhau i lafurio a wnaeth Howell Davies, a pharhaodd y nefoedd i fendithio ei waith. Ymledodd y diwygiad trwy Sir Benfro oll, yn arbenig yn y canolbarth, ac yn nhref Hwlffordd. Tua 1748, symudodd i ddarpar lle i'r ddeadell yn Hwlffordd i addoli, a galwyd yr adeilad yn "Ystafell y Tabernacl," gan ganlyn Whitefield, yr hwn oedd wedi galw ei babell ef yn y Moorfields, Llundain, yn "Tabarnacl." Yn cynorthwyo Howell Davies gyda hyn yr oedd y cynghorwr John Sparks, at ba un y cyfeirir yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Llangwm. Cawsai John Sparks ei eni yn y flwyddyn 1726; brodor o Hwlffordd ydoedd; profodd argyhoeddiad dwfn pan yn ieuanc, a chedwid gwasanaeth crefyddol yn nhŷ ei rieni, yn yr hwn y cymerai ef ran. Yr oedd yn bregethwr da, ac yn ddiamheuol dduwiol. Yn yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, glynodd John Sparks wrth y diweddaf. DarIlenwn am dano droiau yn pregethu yn Nghymdeithasfaoedd plaid Harris, a dywedir ei fod yn llefaru gydag arddeliad anghyffredin. Ond yn 1751, gadawodd y Methodistiaid, ac ymunodd a'r eglwys Forafaidd. Yr oedd achos crefyddol cryf wedi cael ei sefydlu hefyd yn Woodstock, trwy offerynoliaeth Howell Davies; adeiladwyd capel yma yn y flwyddyn 1754, agorwyd ef yn y flwyddyn ganlynol, pan y pregethodd Whitefield, ac y gweinyddodd sacrament swper yr Arglwydd. Tybir mai dyma y tro cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu mewn adeilad heb ei gysegru, gan offeiriad Methodistaidd, a phrawf yr amgylchiad fod Howell Davies yn meddu cryn feiddgarwch meddwl, a'i fod wedi ymrhyddau oddi wrth Iyfetheiriau yr Eglwys Wladol o flaen ei holl gyd-ddiwygwyr. Ar yr un pryd, yr oedd Howell Harris a Whitefield, mewn undeb a Methodistiaid Lloegr, wedi dyfod i benderfyniad mor foreu a 1743, i weinyddu y cymundeb yn y seiadau pan y gwrthodid y fraint iddynt yn eu heglwysydd plwyfol, a chawsai hyn ei anfon mewn llythyr at Howell Davies. Bu yr ordinhadau, sef bedydd a swper yr Arglwydd, yn cael eu gweinyddu gyda chysondeb yn Woodstock am 56 o flynyddoedd cyn y neillduad yn 1811. Felly, mewn un ystyr, Woodstock yw mam-eglwys y Cyfundeb. Wrth gyfranu, defnyddiai Mr. Davies was maeth yr Eglwys; ond yn aml torai ar ei draws, gan lefaru am ddyoddefiadau y Gwaredwr gyda nerth a melusder, a orchfygai y rhai a ddaethent i gyfranogi.

Bu yn offerynol hefyd i godi addoldy yn nghwr gogleddol Sir Benfro, a alwyd Capel Newydd. Sefydlasid cymdeithas grefyddol mor foreu a 1743 yn y Cerig Gwynion, lle heb fod yn nepell; yn raddol, ymranodd hon er mwyn cyfleustra, un adran yn ymgyfarfod yn Llechryd, a'r adran arall mewn ffermdy yn mhlwyf Clydau, a elwid Hen Barciau. Pregethai Howell Davies yn fynych yn y ddau le. Gan ei fod yn offeiriad urddedig, cai bregethu yn eglwys Llechryd; ond gan lluosoced y gynulleidfa, byddai raid iddo fynychaf lefaru yn y fynwent. Am ysbaid methid cael tir i adeiladu addoldy arno yn yr Hen Barciau, er fod y ffermdai wedi myned yn rhy fychain i'r cyfarfodydd; o'r diwedd cafwyd tir gan Stephen Colby, Ysw., cadben yn y llynges, gwraig yr hwn a deimlai yn garedig at y Methodistiaid. Howell Davies a benderfynodd yr ysmotyn. Wrth deithio dros y bryn o Lechryd i'r Hen Barciau, taflodd ei chwip i ganol yr eithin mân, a dywedodd wrth ei gyfeillion: "Dyma y fan i'r capel." Cafodd y capel hwn ei agor yn y flwyddyn 1763; pregethodd Mr. Davies ar yr achlysur oddiar y geiriau: "Gad, llu a'i gorfydd, ac yntau a orfydd o'r diwedd."

—————————————

EGLWYS MOUNTON, GER NARBERTH, SIR BENFRO

—————————————

Dechreuwyd gweinyddu yr ordinhadau yn Capel Newydd ar unwaith, a bu yn enwog fel yr unig le yn yr ardaloedd hyny ag yr oedd y sacramentau yn cael eu harfer yn mysg y Methodistiaid; cyrchai tyrfaoedd mawrion iddo, ac fel Woodstock, parhaodd i fod yn lle i gymuno hyd nes y neillduwyd gweinidogion. Howell Davies fyddai yn gweinyddu amlaf; yn ei absenoldeb ef cyfrenid gan Daniel Rowland, neu ei fab, Nathaniel Rowland; neu ynte, Davies, Castellnedd; Jones, Llangan; neu Williams, Lledrod. Dywedir ddarfod i Howell Harris, gwedi i archollion yr ymraniad iachau i raddau, bregethu yma amryw weithiau. Yn Capel Newydd y pregethai Daniel Rowland yn y flwyddyn 1773, oddiar Heb iv. 15, pan y cynyrchwyd y fath argraffiadau dyfnion ar feddwl Mr. Charles o'r Bala; argraffiadau na ddilewyd mo honynt byth. Yma hefyd y pregethodd Jones, Llangan, am y tro diweddaf, wrth ddychwelyd o Langeitho.

Efallai na chafodd Mr. Davies gymaint o'i erlid a rhai o'r Tadau; yr oedd ei

—————————————

CAPEL NEWYDD, SIR BENFRO.

—————————————

sefyllfa fydol barchus, ynghyd a nodded yr Hybarch Griffith Jones, yn gryn gysgod iddo. Ond ni ddiangodd yntau heb i'r ystorm ruthro arno. Mewn llythyr o eiddo Howell Harris ato, dyddiedig Medi 7, 1743, ceir a ganlyn: "Byddai yn dda genyf gael gwybod pa fodd yr ymdarawsoch yn Nghwrt yr Esgob; efallai y gallwn ymddiddan a rhywrai yma (Llundain) er cael cyfarwyddyd pa fodd i weithredu. Ond credaf na wnant ddim. Yn arbenig, os deallant eich bod chwi yn gwybod nad oes gan eu llys ddim gallu, a'ch bod chwithau yn benderfynol o appelio at y gyfraith wladol, a dwyn cwrs eu hymddygiadau duon i oleuni. Hyn, mi a gredaf, yw ein dyledswydd; ond cadw ar yr amddiffynol; ac os cawn ein rhyddid, bydded i ni yn ostyngedig a diolchgar ei ddefnyddio." Nis gwyddom beth a ddaeth o helynt Cwrt yr Esgob, ond sicr yw mai yn ei flaen, heb droi ar y ddehau na'r aswy, yr aeth gweinidog Crist, gan deimlo yr erlid yn fraint, am mai dros ei Waredwr y dyoddefai.

Apostol Penfro yn benaf oedd Howell Davies; yr oedd ei apostoliaeth yn gyfeiriedig yn llawn cymaint at yr adran Saesnig o'r sir a'r adran Gymraeg; a phregethai yn y naill iaith neu y llall fel y byddai galwad. Gwnaed ef yn gwmwl dyfradwy i Benfro; disgynodd y gwlaw graslawn yn drwm ar yr holl wlad trwy ei weinidogaeth; cafodd weled y ddaear yn blaendarddu ac yn dwyn ffrwyth mewn canlyniad, a'r holl fro wedi ei darostwng i raddau mawr i efengyl Crist. Ond er ei fod yn fwy cartrefol na rhai o'i gyd-ddiwygwyr, eto, teithiodd lawer ar hyd Dê a Gogledd Cymru, ac hefyd yn nhrefydd Lloegr. Bu yn Llundain droiau; ymwelai yn ei dro a Bryste, ac a Bath, ynghyd a threfydd eraill, yn mha rai y pregethai y Methodistiaid Saesnig, a dywedir ei fod yn un o hoff bregethwyr Iarlles Huntington. Yr oedd ef yn un o'r rhai a gyfarfu a'r Iarlles yn Mryste, ac a ffurfìent osgorddlu iddi pan yr ymwelodd a'r Dywysogaeth yn y fwyddyn 1748. Dywedai yr Hybarch John Evans, o'r Bala, iddo fod amryw weithiau yn y dref hono. "Gŵr tirion a mwynaidd oedd efe, a phregethwr enillgar iawn," meddai Mr. Evans gyda golwg arno. Yr oedd Howell Davies yn bresenol yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd yn y Bala. Cawn ef yn ysgrifenu at Howell Harris: "Er y pryd yr ymadawsom o'r Gymanfa, rhoddais dro trwy Sir Forganwg, a bu i rai yn amser hyfryd iawn. Am danaf fy hun, yr wyf yn hiraethu am fyned yno drachefn yn fuan, canys diau fod Duw gyda hwynt. O berthynas i fy mynediad i'r Gogledd, yr wyf yn meddwl y hydd yn rhy boenus i mi, sydd o hyd yn llesg ac afiach; ond, pa fodd bynag, yr wyf yn penderfynu cynyg hyny, pe y gorfyddai i mi farw ar y ffordd." Nid ychydig o beth i ddyn gwanllyd fel Howell Davies oedd anturio am daith i'r Gogledd yr adeg hono.[6] Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ac yn fynyddig; y lletyau yn wael ac yn anaml; caredigion yr efengyl gan amlaf yn dlodion eu cyflwr, ac yn ychydig eu rhif; yr addoldai yn wael, ac yn oerion, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd; y rhagfarn yn erbyn y Methodistiaid yn greulawn fel y bedd; y werin yn derfysglyd a dideimlad; a'r clerigwyr a'r gwyr mawr yn llawn llid, ac yn gwylio am gyfleustra i erlid a baeddu y rhai a gyfrifid fel aflonyddwyr y byd. Nid rhyfedd y dychrynai Mr. Davies wrth feddwl am yr anturiaeth; ond penderfynai fyned, hyd yn nod pe y tröai y daith yn angau iddo. Yr ydym yn cael Williams, Pantycelyn, yn y farwnad ardderchog a ganodd iddo, yn cyfeirio at fawredd ei lafur a'i deithiau. Darlunia ddau seraph, o'r enw Cliw a Sirius, yn adrodd hanes ei fywyd i'r angylion:—

"D'wedent i ni fel y teithodd,
Pan oedd yn ei iechyd gynt,
Mynwy, Dinbych, a Chaernarfon,
Môn, Meirionnydd, a Sir Flint;
Fel cyhoeddodd yr efengyl,
Gydag yspryd bywiog, rhydd,
O Lanandras i Dyddewi,
O Gaergybi i Gaerdydd.

D'wedent i ni fel y chwysodd
Fry yn Llundain boblog, lawn,
Wrth bregethu gair y deyrnas,
Weithiau foreu, weithiau nawn;
Bryste, hithau, oer, derfysglyd,
Glywodd swn ei 'fengyl gref;
Tidea thonau, llif a storom,
Gurodd ganwaith arno ef."

Y mae yn amlwg ei fod yn cilio yn ol hyd byth ag y medrai oddiwrth gyhoeddusrwydd. Ysgrifena Howell Harris ato Mawrth 7, 1744: " Ni ddylai eich ofn i'ch llythyr gael ei gyhoeddi yn y Weekly History beri i chwi beidio defnyddio eich ysgrifell; oblegyd ni wnawn hyny heb eich caniatad. Ni wnaf erchi, fy mrawd; yn unig dywedaf fy marn am amcan y papyr. Nis gwn paham na wnai y brawd Davies roddi ei enw yn mysg y rhai a lafuriant ynglyn ag ef, gan ddweyd yr hyn sydd ganddo i'w fynegu am Iwyddiant yr efengyl Yr wyf yn credu fod yr achos mor agos at ei galon a neb, a'i fod yn gwybod cymaint trwy ei sylwadaeth, a dylanwad ei weinidogaeth a neb. Yr wyf yn gwybod ei fod yn eu caru (sef y credinwyr), ei fod yn barod i gyd-gyfranogi o'u dyoddefaint, gan y gwyr eu bod yn llefaru yr un iaith, yn cael eu harwain gan yr un Yspryd, yn ymladd dan yr un faner, a'u bod yn cael eu cyfrif ynghyd gan y gelynion. Ni ddyliai ofn clod ein cadw rhag traethu yr hyn a wyddom, mwy nag y dylai awydd clod beri i ni ei fynegu. Gwyr fy mrawd mai yr Arglwydd sydd yn gwneyd y cwbl, nid nyni." Wedi ei geryddu yn dyner fel hyn am ei yswildod a'i duedd at anghyoeddusrwydd, y mae Mr. Harris yn myned yn mlaen i'w gymhell i'r Gymdeithasfa ddilynol, mewn dull sydd yn dangos y rhoddai bwys mawr ar ei bresenoldeb. "Yr wyf yn gobeithio y daw fy mrawd," meddai, "i gyfarfod y brodyr yn y Fenni, dydd Mercher, yr 28ain. Gellir llanw yr amser wrth fyned a dychwelyd mewn pregethu yn Siroedd Brycheiniog a Mynwy. Yr wyf yn fwy taer, am yr ymddengys nad yw y rheidrwydd o hyn yn pwyso ar galon ein brawd i'r graddau ag y dylai. Bydded i ni gymdeithasu mwy, fel y byddo i'n gelynion deimlo ein bod o ddifrif, ac felly nas gallant ddinystrio un, heb ddistrywio yr oll Bydd y cwn bob amser yn gyru y defaid yn glosach at eu gilydd."

Ymddengys mai Mr. Howell Davies a fu yn offeryn dychweliad Mr. Bateman, ficer St. Bartholomew Fwyaf, yn Llundain, yr hwn, gwedi hyny, a ystyrid fel un o'r rhai mwyaf efengylaidd yn y brifddinas. Ymddengys fod gan Mr. Bateman fywioliaeth fechan yn Sir Benfro. Un tro, pan ar ymweliad achlysurol a'i , blwyf, daeth i'w ran i bregethu yn un o'r eglwysydd yn mha rai y gweinyddai Howell Davies. Yr oedd Mr. Bateman y pryd hwnw heb ei argyhoeddi; ac yr oedd ei bregeth yn Ilawn o gyhuddiadau enllibaidd yn erbyn y Methodistiaid; rhybuddiai ei wrandawyr, er mwyn eu heneidiau, i'w gochel. Gwedi y bregeth, syrthiodd arno ryw brudd-der yspryd, nas gallai roddi cyfrif am dano; ni fedrai na chysgu na bwyta; ac nis gallai fwynhau y gyfeillach anghrefyddol, yn yr hon yr ymhyfrydai yn flaenorol. Aeth i wrando Howell Davies, a hyny i'r un eglwys ag y buasai yn ei wawdio ef a'i ganlynwyr; teimlodd y Gair fel "picell yn trywanu ei afu;" ei bechodau bellach a'i llethent; aethant dros ei ben, yr oeddynt yn faich rhy drwm iddo eu dwyn. Bu am fìs o amser cyn cael heddwch i'w enaid. Eithr gwedi hyny bu yn fendithiol i lawer yn Nghymru ac yn Llundain.

Y mae yn ddiau fod Howell Davies yn bregethwr nerthol dros ben. Nid oedd, yn nghyfrif yr hen bobl, yn ail i neb ond i Rowland ei hun. Pa le bynag y pregethai, ai mewn tŷ anedd, neu ysgubor, ynte mewn addoidy eang yn Mhryste neu Lundain, enillai sylw ei wrandawyr ar unwaith. Darllenai neu adroddai benill neu emyn; yna arweiniai y canu ei hun gyda y llais clir, llawn peroriaeth, a feddai; a chydunai y gynulleidfa mewn mawl i Arglwydd yr holl ddaear. Yn y weddi arweiniol byddai yn nodedig o afaelgar; medrai ymddyrchafu hyd at y Presenoldeb Dwyfol, a thynu y nefoedd i'r lle; yn ei daerni gerbron yr orsedd ail-adroddai yr un dymuniad drosodd a throsodd, fel pe yn methu gollwng ei afael arno. Yr oedd y gynulleidfa wedi ei nawseiddio yn hyfryd ganddo, erbyn ei fod yn myned i bregethu; ac yr oedd rhyw nefoleidd-dra yn ei ymddangosiad yn tueddu i'w ffafr, ac fel yn cynyrchu cariad ac ofn ar yr un pryd. Darllenai ei destun yn hyglyw, a chyda melodedd sain o'r fath fwyaf dymunol. Am ychydig llefara yn araf, gan esbonio yr adnod a'u chysylltiadau. Ond yn fuan, dyna ei yspryd yn gwresogi o'i fewn; y mae yn dyrchafu ei lais fel udgorn arian, nes y mae cyrau pellaf y dorf yn gwladeiddio ger ei fron. Anela saethau llymion at ei wrandawyr, ac y mae pob brawddeg yn clwyfo. Erbyn hyn y mae yno le difrifol mewn gwirionedd. Clywir canoedd yn ocheneidio ac yn gruddfan; aeth y graig gallestr yn llyn dwfr; gwelir y dagrau yn llifo yn hidl ac yn gyffredinol; nid oes yr un rudd sych yn y gynulleidfa. Ond yn fuan newidia y pregethwr ei gywair; rhydd heibio daranu, a chyfeiria y gwrandawyr yn eu dagrau megys a'i fys at y Gwaredwr a ddichon achub hyd yr eithaf. Diflana yr ocheneidiau, a pheidia y gruddfan; yn eu lle clywir bloeddiadau "Gogoniant!" a " Diolch iddo!" Erbyn hyn y mae yn orfoledd cyffredinol o gwr i gwr i'r dorf. Llifa y dagrau eto, ond dagrau llawenydd ydynt yn bresenol; a gorphena y pregethwr, gan adael y gynulleidfa mewn hwyl sanctaidd.

" Fel hyny y rhodiai y penaf areithydd,
Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed,
A roed i rychwantu y bythol wybrenydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed."

Heblaw ymddangosiad personol urddasol, ac areithyddiaeth wych, dywedai un o'i hen wrandawyr fod ganddo ryw symudiad neillduoI iddo ei hun ar ei law ddehau, yr hon a ddygai i gyffyrddiad a'i law aswy mewn modd effeithiol dros ben. Yn ei bregethau tynai ddarluniau nodedig o fyw; ac yn arbenig, pan y desgrifiai groeshoeliad y Gwaredwr, yr oedd ei ddarluniad mor rymus ac effeithiol, fel yr oedd pob llygad wedi ei hoelio arno. Dywedir pan y pregethai ar foreu Sabbath yn Llechryd, yr arosai y gynulleidfa ar ol weithiau, yn moli ac yn gorfoleddu hyd y nos. Ai ef ymaith yn y prydnhawn, ond wedi cyrhaedd bryn a elwir Craig Cilfowyr, safai am enyd, ac edrychai yn ol ar y dyrfa orfoleddus gyda syndod a diolchgarwch. Un tro, cyd-bregethai Howell Harris ac yntau yn Llechryd. Pregethai Howell Davies y tu fewn i'r fynwent, a'r Howell arall y tu allan. Yr oedd un o honynt wedi bod dan law yr esgob, a'r llall heb fod; nid oedd caniatad, gan hyny, i Howell Harris ddiurddau i bregethu yr efengyl ar dir cysegredig,

Yn yr ymraniad gofidus rhwng Rowland a Harris, glynodd Howell Davies, yr un fath a WiIIiams, Pantycelyn, a'r rhan fwyaf o'r offeiriaid, wrth Rowland. I'w fawr ddylanwad ef, yn ddiau, y rhaid priodoli ddarfod i'r corwynt hwn chwythu drosodd heb wneyd cymaint o niwed yn Sir Benfro ag a wnaeth mewn rhanau eraill o'r wlad. Gan fod Siroedd Aberteifi a Phenfro yn ffinio am filldiroedd lawer, yr oedd Rowland a Howell Davies a therfynau eu meusydd llafur yn cyffwrdd a'u gilydd; a diau y byddai y ddau yn dal gafael ar bob cyfleustra a gaent i gyd-ymgynghori ac i gyd-gynllunio. Yr oeddynt yn hollol o'r un syniadau gyda golwg ar athrawiaethau crefydd. Nid yw yn ymddangos ychwaith ddarfod i unrhyw eiddigedd, nac unrhyw oerfelgarwch, gyfodi rhyngddynt o gwbl. Er fod Howell Davies yn ddyn mwynaidd a thra charedig a rhyddfrydig, eto, medrai wrthwynebu pob ymadawiad oddiwrth y ffydd, a phob afreolaeth mewn buchedd, gyda hyfdra. Cawn Williams yn cyfeirio at hyn yn ei farwnad:—

"Clywsom fel y gwrthwynebodd
Ef heresiau diried ryw;
Mellt a tharan oedd ei eiriau,
I elynion 'fengyl Duw;
Cywir yn ei egwyddorion,
Syml, gonest yn ei ffydd;
Elusengar yn ei fywyd,
Llwyr ddefnyddiol yn ei ddydd."

Ni ddarfu i'w boblogrwydd fel pregethwr, na'r cyfoeth a ddaeth i'w ran, gynyrchu ynddo y gradd lleiaf o falchder yspryd; yn hytrach parhaodd yn wir ostyngedig trwy yr oll. Hoffai osod ei hun yn gydradd a'r gwaelaf. Cerddai yn fynych i Woodstock, Sul y cymundeb, ffordd arw, bymtheg milldir mewn hyd. Un amcan mewn golwg ganddo oedd gosod ei hun yn hollol ar yr un safle a chorff y werin, y rhai a ddylifent yno o ugain milldir o gwmpas. Ond diau y gwnelai hyny hefyd er cael cymdeithasu ar hyd y ffordd a'r hen bererinion, y rhai yr oedd eu calonau yn llawn, gwres, a'u profiadau yn fywiog ac ysprydol. Nid oes amheuaeth fod y wledd nefol yn cael ei phrofi mewn rhan cyn cyrhaedd y capel, a bod y gymdeithas yn barotoad ardderchog i'r odfa, ac i'r sacrament. Geilw Williams ef yn " fugail pedair eglwys fawr." Yr eglwysydd hyn oeddynt Capel Newydd, Woodstock, St. Daniel, yn Nghastell Martin, a Mounton, ger Narberth.

—————————————

TŶ LLE Y PRESWYLIAI HOWELL DAVIIES, GER HWLFORDD, SIR BENFRO

—————————————

Ond dyddiau Howell Davies a nesasant i farw, a hyny pan oedd yn nghanol ei waith, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb. O ran oedran, nid oedd nemawr dros ganol oed; gallesid disgwyl blynyddoedd lawer o weithgarwch oddiwrtho; ond yr oedd ei lafur dirfawr wedi peri i'r ychydig nerth a feddai ei gyfansoddiad eiddil dreulio allan; a rhifwyd ef i'r bedd, Ionawr 13, 1770, ac efe yn dair-ar-ddeg-a deugain oed. Bu farw yn ei balas, sef y Parke. Buasai Elizabeth, ei ail wraig, farw ddeng mlynedd o'i flaen. Ac yn ei hymyl hi, a'i unig-anedig fab, Howell, y rhoddwyd ei weddillion yntau i orwedd yn mynwent Prengast hyd ganiad yr udgorn. Diwrnod tywyll a du i Fethodistiaid Sir Benfro oedd y dydd y claddwyd Howell Davies, ac nid oedd neb a deimlai hyny yn fwy byw na hwy ei hunain. Er fod y pellder o'r Parke i Hwlffordd tuag ugain milltir, yr oedd yr angladd yn un tra lluosog ; ac heblaw y rhai a deithient yr holl ffordd, deuai cwmniau neu dorfeydd o'r gwahanol leoedd, yn mha rai y buasai efe yn gweinidogaethu, i'r croesffyrdd i ddangos eu parch iddo; ac wrth fod yr arch yn pasio wylent yn uchel.

—————————————

EGLWYS PRENDERGAST.
Lle Claddedigaeth Howell Davies

—————————————

Erbyn cyrhaedd Hwlffordd yr oedd y dorf yn anferth, cyrhaeddai lawn milldir ar y ffordd fawr. Mor fawr oedd yr hiraeth ar ei ol, ac mor ddwys y teimlad a lanwai fynwesau pawb, fel y methai yr offeiriaid a weinyddent ddarllen y gwasanaeth claddu. Cyfeiria Williams at hyn yn ei farwnad. Ac yn nghanol cawodydd o ddagrau chwerwon, ac arwyddion o alar na welwyd ond anfynych eu cyffelyb, y gosodwyd Howell Davies i orwedd yn y ddaear. Efe oedd y cyntaf o'r Tadau Methodistaidd a gymerwyd ymaith. Gadawodd yr achos mewn cyflwr llewyrchus yn Sir Benfro ; rhifai ei gymunwyr ef yn unig yn agos dair mil; ac yr oedd y Methodistiaid yn y sir yn dra lliosog. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu rhanau o'i farwnad gan Williams, Pantycelyn:—

"Y mae'r tafod fu'n pregethu
Iachawdwriaeth werthfawr, ddrud,
'Nawr yn dew, yn floesg, yn sychu,
Ac fel yn ymgasglu'n nghyd;
Fflem a lanwodd y pibellau
Oedd yn dwyn y gwynt i'r lan,
Ac mae natur hithau'n methu
Clirio lle i'r anadl gwan.

Y mae'r olwg ar yr angladd
Wedi'm dodi'n drist fy ngwedd,
Haner Sir, i'm tyb, sy'n eisiau,
Pan mae Davies yn ei fedd
Ni alla' i ddim dyoddef edrych
Arno'n myned dan y don,
Heb fod hiraeth cryf a chariad
Yn terfysgu dan fy mron.

Gwelwch gwmni ar ol cwmni,
Yn ugeiniau ar bob llaw,
Oll yn wylo dagrau heilltion
Yn ei gwrddyd yma athraw;
Yr hears yn cerdded yn y canol,
Dyma'r arwydd pena' erioed,
Ag a welodd gwledydd Penfro
Fod rhyw ddrygau mawr i ddod.

Pwy sydd yn y coffin pygddu,
Trwm, yn nghanol y fath lu?
Medd trafaelwyr ar y gefnffordd,
Rheiny'n synu hefyd sy';
Howell Davies, ffyddlon, gywir,
Bugail pedair eglwys fawr,
Sydd yn myn'd i fonwent Prengast,
Heno i orwedd yno i lawr.

Dacw'r coffin rhwng y brodyr,
Yn ei gario idd ei gell,
Ac mae'i swn yn ngwaelod daear,
Megys swn taranau pell;
Y mae'r bobl oll yn wylo,
Ac fe ddaliodd yspryd gwan
Feibion Lefi, fel nas gallent
Ddim llefaru yn y fan.

* * * * *



Nid yn ngerddi cryno'r Parke,
Dan och'neidio yma a thraw,
Mae'r offeiriad heddyw'n rhodio,
Ond yn ngardd Paradwys draw;
Nid y lemon, nid yr orange,
Pomgranad, nw'r nectarine,
Ond pur ffrwythau Pren y Bywyd
Mae'n ei ddodi wrth ei fin.

Nid y gwinwydd sy'n rhoi ffrwythau
I ddiodi cwmni'r nef,
Ond afonydd gloew'r bywyd
Heddyw sy'n ei gwpan ef;
Mae yno amrywioldeb eang
O bob ffrwythau, heb ddim trai,
A phob dim sydd yn eu gwleddoedd
Sydd fyth fythoedd i barhau."

—————————————

—————————————

HANES Y DARLUNIAU

DARLUN Y PARCH. HOWELL DAVIES.

Y mae copi gwreiddiol o'i ddarlun. ef yn yr Amgueddfa Frutanaidd (British Museum), Llundain. Cedwir ef yn y Print Room. Hwn yw yr unig ddarlun o'r Tadau Methodistaidd ag y daethom o hyd iddo yn yr ystafell hono. I'w fframio y gwnaed ef, ac nid i'w osod mewn llyfr. Nid yw y copi hwn ond tua haner maintioli'r un gwreiddiol. Y mae o wneuthuriad tra chelfyddgar, ac y mae mewn cadwraeth dda. Fel hyn y mae yr ysgrif dano yn darllen: "The Rev. Mr. Howell Davies, late Minister of the Gospel in Pembrokeshire, and Chaplain to the Countess of Walsingham. Printed for Carrington Bowles, at his Map and Print Warehouse, No. 69, in St. Paul's Churchyard, London. Published, as the Act directs, March 30, 1773." Gwelir felly mai yn mhen tair blynedd wedi marwolaeth Howell Davies y cyhoeddwyd ef. Y mae un o'r copiau gwreiddiol yn nghadw yn Llyfrgell Athrofa Trefecca. Rhodd Cyfarfod Misol Sir Benfro i'r sefydliad ydyw.

EGLWYS LLYSYFRAN.

Nid oes gyfnewidiad o gwbl yn yr adeilad hwn er dyddiau y Diwygiwr. Y mae llawer o'r beddfeini ar y fynwent yn adeiladau diweddar.

EGLWYS ST. DANIEL, GER PENFRO.

Y mae hon hefyd fel yr ydoedd gynt. Drwy law y Parch. W. Evans, M.A., Pembroke Dock, y cawsom y darlun hwn.

EGLWYS MOUSTON, GER NARBERTH.

Adeilad fechan iawn ydyw hon, a phur ddiaddurn. Ni chynelir gwasanaeth grefyddol ynddi yn bresenol, ond yn ystod misoedd yr haf. Gynt, yr oedd y brifffordd o Benfro i Lundain yn arwain heibio iddi; ond wedi gwneyd y ffordd bresenol, y mae yr eglwys yn sefyll ar gongl neillduedig, ac nid oes dramwyfa briodol tuag ati. Y mae yn hollol fel yr ydoedd yn amser Howell Davies.

CAPEL WOODSTOCK.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1754. Adnewyddwyd a helaethwyd ef ddwywaith oddiar hyny. Darlun o'r capel fel y mae yn bresenol sydd yma. Nid oes darlun o'r hen adeilad ar gael. Y mae y capel presenol yn eang a hardd, yn enwedig y tu fewn iddo.

CAPEL NEWYDD.

Saif y capel hwn yn mron ar derfyn gogleddol Sir Bonfro, heb fod nemawr o filldiroecíd o dref Aberteifi. Adeiladwyd ef gyntaf gan Howell Davies yn y flwyddyn 1763, ac ail-adeiladwyd ef yn 1848. Darlun o'r capel presenol ydyw hwn.

TŶ HOWELL DAYIES YN PRENDERGAST, GER HWLFFORDD.

Nid oes gyfnewidiad o bwys yn yr adeilad er dyddiau y Diwygiwr.

EGLWYS PRENDERGAST, GER HWLFFORDD.

Mae yr eglwys hon wedi myned dan adgyweiriadau a gwelliantau lawer er dyddiau Howell Davies. Yn mynwent yr eglwys hon y claddwyd ef. Cyfeiriwn y darllenydd at gareg fedd, sydd yn gorphwys ar fur porth yr eglwys, yn y darlun. Gwelir croes fechan ar y mur uwch ei phen. Dyna'r fan y mae efe a'i deulu yn gorwedd. Careg fedd syml a diaddurn—ond careg dda iawn—sydd ar ei fedd. Gosodwyd hi gan Gyfarfod Misol Sir Benfro, mewn coffadwriaeth barchus o hono. Mae yn mhwriad Methodistiaid Sir Benfro i osod Coflech hardd i'w goffadwriaeth yn Nghapel Woodstock yn fuan. Trwy lafur y Parch. E. Meyler, y mae yr arian at ddwyn y treuliau eisioes wedi eu casglu.

Cymerwyd yr holl o'r darluniau ar gyfer y gwaith hwn yn ystod y flwyddyn hon a'r un flaenorol; ac yr ydym yn dra dyledus i'r Parch. E. Meyler, Hwlffordd, am ei garedigrwydd yn ein arwain ac yn ein cludo dros ugeiniau o filldiroedd, fel ag i'n galluogi i gymeryd darluniau o'r lleoedd dyddorol hyn.

Nodiadau[golygu]

  1. Yr ydym yn ddyledus am lawer iawn o gynwys yr ysgrif hon i'r Parch. E. Meyler, Hwlffordd, yr hwn ni arbedodd boen na thrafíerth i geisio dod o hyd i ffeithiau; a'r hwn yn ogystal sydd yn edmygydd mawr o Howell Davies.
  2. Weekly History
  3. Weekly History.
  4. Ibid.
  5. Ysgrif y Parch. E. Meyler.
  6. Methodistiaeth Cymru.