Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Howell Harris (1745)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743–44) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)

PENOD XII.

HOWELL HARRIS

(1745)

Pregeth Williams, Pantycelyn, yn Nghymdeithasfa Watford—Ymdrin a phynciau athrawiaethol dyfnion—Harris, yn Erwd, yn galw gwaed Crist yn "waed Duw"—Cymdeithasfa Abergorlech—Howell Harris mewn dyfroedd dyfnion yn Sir Benfro—Daniel Rowland yn rhybuddio Harris i fod yn fwy gofalus parthed yr athrawiaethau a bregethai—Sefyllfa gyffrous Methodistiaid Lloegr—Cymdeithasfa Bryste—Cymdeithasfa Cayo—Llythyr cynghorwyr y Groeswen—Price Davies yn caniatau y sacrament i'r Methodistiaid yn Nhalgarth —Datganiad Howell Harris yn Nghymdeithasfa Watford—Howell Harris yn Llundain eto—Pressio i'r fyddyn H. Harris ar daith yn Sir Forganwg—H. Harris yn arolygwr y Methodistiaid Saesneg—Dadl a Griffith Jones, Llanddowror—Ymweled a Llundain eto.

CYCHWYNODD y Methodistiaid ar y flwyddyn 1745 trwy gynal Cymdeithasfa Chwarterol yn Watford, ar yr ail ddydd o Ionawr, at ba un, yn syn iawn, nid oes unrhyw gyfeiriad yn nghofnodau Trefecca. Cyrhaeddodd Howell Harris y lle y noson cynt. Cymysglyd oedd ei brofiad. Ar y cychwyn llenwid ei feddwl a llawenydd ac a rhyddid wrth weled yn Nghrist ei holl hawl a'i deitl i fywyd tragywyddol. Eithr yn Watford clywodd, fel yr ymddengys, am ryw gyfeiliornadau oedd ar led, a dadleuon, a chyffrodd hyny ei yspryd yn ddirfawr. "Gwelais," meddai, "ddarfod i'r gelyn gael ei ollwng yn rhydd yn ein mysg, ac megys y trigai yn ein llygredigaethau yn flaenorol, ei fod yn awr ynom yn yspryd cyfeiliornad a thwyll. Yna, wrth edrych ar ein dadleuon, cefais ryddid i lefain: O Arglwydd, os wyt yn bwriadu ein huno oll yn un, a'n dwyn yma oll, a pheidio caniatau i ni gael ein gwasgar na'n rhanu yma, yna dyro i mi gael y fath olwg arnynt (y brodyr cynulledig), ac ar y gwaith, ag a bâr i mi fuddugoliaethu mewn llawenydd, ac hefyd i alaru.' Wedi dysgwyl am beth amser, cefais y fath olwg ar fawredd a mawrhydi Duw, y cartref gogoneddus sydd fry, ei waith, pa mor ogoneddus yw yr eglwys, yn nghyd â'r gwaith sydd genym mewn llaw, fel y cefais yspryd i alaru trosof fy hun a'r lleill."

Y mae yn amlwg ei fod yn gythryblus ei feddwl rhag i'r Gymdeithasfa fod yn faes rhyfel, ac iddi derfynu mewn ymraniad. Yna aeth i wrando Williams, Pantycelyn, yn pregethu, yr hyn a wnaeth gyda nerth mawr, oddiar Can. iii. 8. "Agorodd yr holl lyfr hyd y fan hon," meddai Harris, yna dangosodd natur y nos y cyfeirir ati yma, fel (1) nos yspryd deddfol; (2) nos erledigaeth; ac yn (3) nos profedigaethau a thrallodion. Olrheiniai hyn yn hanes yr eglwys yn yr Aipht, yn Nghanaan, yn Jerusalem, ac hyd yn awr, gan gyfeirio yn neillduol at Job, a Joseph, &c. Dangosodd er mor lliosog oedd gelynion yr eglwys, fod Duw yn ei hamddiffyn. Yr oedd yn anghyffredin o bwerus wrth ddangos fod erledigaeth, efallai, wrth y drws. Yr oedd yn cyrhaedd i'r byw wrth gyffroi pawb i fod yn ddiwyd, yn awr tra y mae ein rhyddid genym."

Y mae yn amlwg i Williams gael odfa anghyffredin. Yna eisteddodd y Gymdeithasfa hyd o gwmpas wyth yn yr hwyr, ac yn groes i ofnau llawer, ffynai undeb a chydgordiad hyfryd yn y cyfarfod. Eithr trowyd un brawd o gynghorwr o'i swydd oblegyd ei esgeulusdra. "Yna," meddai Harris, "ymdriniasom â rhai dadleuon a gymerasai le yn mysg y brodyr. Gwelais werth yr Ysgrythyrau, a'r drugaredd fawr eu bod genym, a bod yn rhaid i ni gredu y gwirioneddau a gynwysant heb ymresymu yn eu cylch. Dywedais fod chwech of ddirgeledigaethau i'w credu, nas gellir eu hamgyffred. Yn (1) y Drindod; (2) yr ymgnawdoliad; (3) cyfrifiad o bechodau Adda i ni, a'n cyfranogiad o honynt wrth natur; (4) cyfrifiad o Grist trwy ras i ni, a'n cyfranogiad o hono; (5) fod Duw wedi caru ei bobl a chariad tragywyddol, ac eto, hyd nes eu hargyhoeddir, eu bod yn blant digofaint, a than y felldith; (6) fod gan Dduw etholedigaeth, ond dim gwrthodedigaeth." Y mae yn amlwg nid yn unig fod Harris yn iach yn y ffydd, ac yn dduwinydd rhagorol, ond hefyd y meddai syniad cywir am derfynau y rheswm dynol, gan ddeall fod rhai dirgeledigaethau yn perthyn i'n crefydd nad gwiw ceisio llygadrythu yn ymchwilgar iddynt, ond yn hytrach ymostwng yn addolgar gerbron y mawr ragorol ogoniant a gynwysant. "Yna," meddai, "ymdriniasom a Supralapsariaeth, a Sublapsariaeth, ddarfod i Dduw ein caru yn rhad, ac mai Crist yw y ffordd ar hyd pa un y rhed ei gariad atom; y modd y mae yn ewyllysio pechod, sef trwy ei oddef; ac wrth ymdrin â'r pethau mawrion hyn gwelais ein hanwybodaeth." Nid rhyfedd; yr oedd y brodyr yn gwthio eu cychod i ddyfroedd dyfnion. Ond y mae yn ddyddorol sylwi nad dynion bychain, yn cael eu dylanwadu gan zêl benboeth, oedd y Tadau Methodistaidd, ond fod dirgeledigaethau yr efengyl, y rhai nad yw yn debyg y medr y rheswm dynol byth eu cwmpasu, yn meddu attyniad mawr iddynt. Fel na byddo i'r darllenydd gael ei ddychrynu gan y termau mawrion a dyeithr, Supralapsariaeth a Sublapsariaeth, gallwn ei hysbysu fod a fynont a threfn y bwriadau yn y cynghor dwyfol; y cyntaf yn dal fod y bwriad i achub dyn yn Nghrist yn blaenori y bwriad i oddef iddo gwympo; tra y mae yr olaf yn dal y gwrthwyneb.

Eithr rhaid i ni fyned yn mlaen gyda desgrifiad Howell Harris o'r Gymdeithasfa. "Cefais ryddid wrth ganu i ofyn i'r Arglwydd a oedd yr hyn a wnaethom yn foddlawn iddo. Pan yn gweddïo, tynwyd fi allan mewn dwfn ostyngeiddrwydd, cariad, a drylliog galon. Wrth glywed newyddion da am y modd yr oedd yr Arglwydd yn arddel y brodyr, llawenychais yn fawr, gan weled fy hun y gwaelaf o honynt oll. Yna, gwedi bwyta, eisteddasom i lawr hyd o gwmpas deuddeg." Dranoeth, eisteddodd y Gymdeithasfa drachefn hyd o gwmpas un—ar—ddeg, a chlowyd y cwbl i fynu gyda phregeth gan Daniel Rowland, oddiar y geiriau yn Nehemiah: "O fy Nuw, cofia hwynt." Ymddengys fod yr odfa yn un arbenig, hyd yn nod i Rowland. Meddai Harris: "Wrth weddio teimlwn fy yspryd yn cael ei dynu allan yn y deisyfiadau gydag ef; yn neillduol pan y gweddïai dros y brenhin a'r genedl; a chefais brawf yr ai y gwaith yn ei flaen, ac nad ai yr erledigaeth yn mlaen. Yn sicr, yr oedd yn llawn o Dduw. Cefais nerth i gydymdrechu ag ef yn ei bregeth. Y fath ddylanwad, yr wyf yn meddwl, ni welais erioed, fel yr oeddwn dan orfodaeth i anrhydeddu yr anwyl frawd Rowland. Yn sicr, yr oedd y nerthoedd yn rhyfeddol y tro hwn. Cafodd ddoethineb rhyfedd, yn fewnol ac yn allanol, i ddangos fel y mae pob aelod yn meddu ei le a'i ddefnydd yn y corph, felly hefyd yn yr eglwys. Os wyt wrthgiliwr,' meddai, darllen yr Hebreaid; os wyt ddefosiynol, darllen y Salmau; os wyt o dueddfryd ryfelgar, darllen Joshua a'r Barnwyr; ond os wyt am gyflawni pethau mawr, darllen Nehemiah; aeth efe tuhwnt i bawb yn mawredd ei ymgymeriadau, a hyny heb offerynau cymhwys.' Nis gallwn fyned yn mlaen gyda difynu pregeth Rowland, er cymaint y brofedigaeth. Meddai Harris: "Y mae nerth rhyfedd wedi ei roddi iddo i dynu eneidiau at Dduw, ac i dynu Duw atynt hwy. Yr oedd fel pe nas gallai roddi i fynu ymdrechu. Bendigedig a fyddo yr Arglwydd, ei fod eto yn ein mysg yn y fath fodd. Gwelaf fod graddau helaethach o allu wedi ei roddi iddo na neb o fewn fy adnabyddiaeth. Am danaf fy hun, ychydig o allu feddaf, ac ychydig ddylanwad." Nid rhyfedd i'r brodyr, gwedi y fath amlygiad o bresenoldeb y Goruchaf yn eu mysg, ymadael yn llawen.

Cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, Ionawr 16. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Gwedi treulio amryw oriau yn nghyd, yn gweddïo ac yn canu, mewn cariadwledd, trwy yr hyn y taniwyd ein calonau mewn modd anarferol, pob un yn teimlo presenoldeb yr Arglwydd mewn modd tra anghyffredin, wrth fod pob un o'r brodyr yn darllen ei adroddiad am y seiadau oedd dan ei ofal, penderfynwyd :——

"Ein bod yn trefnu rhyw foddion i ysgafnhau y brawd James yn ei amgylchiadau allanol, fel y byddo yn fwy rhydd i fyned o gwmpas.

"Ymroddi i weddi gyda golwg ar fwriad y brawd Thomas Jones parthed priodas, gan gyduno ei fod i adael ei ysgol yn gyfangwbl.

"Fod y brawd Thomas Jones i chwilio i mewn i amgylchiadau y brawd Edward Bowen, ac i geisio deall a ydyw yr Arglwydd am iddo symud o'r lle y mae.

"Fod y brawd Lewis Evan i fyned mor bell ag y gall i'r Gogledd, i Sir Feirionydd, mewn ufudd—dod i alwadau allanol.

Anerchwyd y cyfarfod gan y brawd Harris gyda golwg ar ostyngeiddrwydd, ffydd, a zèl, ac am chwilio yr Ysgrythyrau, ynghyd a gofal na byddo ein zel a'n cynhesrwydd yn myned y tu hwnt i'n gwybodaeth, a'n golwg ar Dduw trwy ffydd.

"Fod y brawd Harris i siarad â brawd yn Merthyr sydd yn myned i briodi gwraig heb ganiatad ei thad, er ceisio cael ganddo oedi.

"Fod y brawd Harris i benderfynu rhyw anghyd—ddealltwriaeth yn seiat Llanafan, yn codi oddiar fod yr Ymneillduwyr yn dyfod (i bregethu) i'r tŷ lle y cyfarfyddent, yn amser eu cyfarfodydd, hwythau yn cwyno nad ydynt yn cael un budd wrth eu gwrando.

"Wedi bod yn fwy dedwydd, hyfryd, a llawnach o'r cariad dwyfol nag arfer, a chwedi penderfynu pob peth, pob un yn dwyn tystiolaeth i bresenoldeb amlwg yr Arglwydd yn ein mysg, ymadawsom o gwmpas deuddeg, wedi bod yn nghyd yn y pregethu, y gariad—wledd, a'r Gymdeithasfa, am o gwmpas deuddeg awr. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw!

Y mae yn sicr iddynt gael Cymdeithasfa lewyrchus anarferol. Meddai Harris: "Wrth ganu a gweddio llanwyd ein calonau a'n heneidiau fel â gwin newydd. Cefais ddoethineb wedi ei roddi i mi i drefnu ein hamgylchiadau, wedi chwilio i stâd yr holl gymdeithasau a'r cynghorwyr. Anogais i ostyngeiddrwydd, doethineb, chwilio yr Ysgrythyrau, gan eu rhybuddio gyda golwg ar dân a zêl. Ond wedi cael mwy o dân nag y gallai ffydd ei ddwyn, y cnawd a'i derbyniodd, a minau a syrthiais. Ond O, dynerwch yr Arglwydd tuag atom. Cefais ychydig olwg i weled fod Duw o'n plaid." Nid hawdd deall beth a feddylia wrth ddarfod iddo gael mwy o dân nag y gallai ffydd ei ddwyn. Ai nid yw yn awgrymu tuedd, yn ymylu ar fod yn afiach, i ddadansoddi yn ormodol ystâd ei galon, a natur ei deimladau? Modd bynag, tebygol yr ystyriai nad oedd ei zêl yn y cyfarfod yn gyfangwbl yn ol gwybodaeth, a bod yr hwyl i raddau yn fwy na'r argyhoeddiad. Dengys y nodiad dynerwch cydwybod na cheir yn gyffredin ei gyffelyb.

Tranoeth, y mae yn parotoi i gychwyn i daith fawr, o dros fis o amser, trwy ranau helaeth o Ddê a Gogledd Cymru. Dengys y nodiad canlynol ei deimlad ar yr achlysur : "Heddyw, ysgrifenais lythyr Cymraeg i Sir Feirionydd, wedi cael fy llanw o gariad neillduol atynt, a deall fod ewyllys yr Arglwydd i mi ymweled â hwynt, ac efallai i farw yn eu mysg." Ai y gorlafur yn debyg o brofi yn ormod i'w gyfansoddiad eiddil, a olyga, ynte y posiblrwydd iddo gael ei osod i farwolaeth gan yr erlidwyr, nis gwyddom. Dydd Gwener, aeth mor bell ag Erwd, lle y pregethodd gyda nerth anarferol. Dywedais wrthynt," meddai, "am edrych at waed Duw. Ni chefais gymaint erioed o'r blaen o'r goleuni hwn, i ganfod y gwaed, ac i weled yr angenrheidrwydd am iddo fod yn waed Duw. Felly, ni chefais erioed o'r blaen gymaint o nerth ac awdurdod wrth bregethu." Y mae y bregeth hon yn Erwd yn drobwynt yn ei hanes, fel y pryd y defnyddiodd gyntaf yr ymadrodd gwaed Duw," yr hwn ddywediad a brofodd yn dramgwydd mawr i'r brodyr, ac a fu yn un o brif achosion yr ymraniad. Ond dilynwn y daith trwy gyfrwng y dydd—lyfr : "Aethum yn fy mlaen yn hyfryd tua Llanfairmuallt, ac ar y ffordd yr oedd gwaed Crist fel gwaed Duw wedi ei osod yn rhyfedd gerbron fy ngolwg. A'r goleuni hwn a'm cadwai yn ddedwydd. Ni welais yn flaenorol ddirgelwch y gwaed hwn fel gwaed Duw. Daethum i Lanfair. Wrth weled y plant yn chwareu, drylliwyd fy nghalon gan alar duwiol; prin y gallwn ei oddef." Pregethodd yno gyda chryn. arddeliad. Aeth i Dolyfelin, lle y cyfarfyddodd â Mr. Gwynn, presenoldeb yr hwn yn wastad a daniai ei enaid. Pregethodd oddiar Gal. iv. 1. Lletyai yn nhŷ Mr. Gwynn y noswaith hono, lle y darllenodd lyfr o waith Mr. Griffith Jones ar dragywyddol gariad Duw. "Wrth ddarllen," meddai, "rhwygodd Duw y gorchudd; cefais y fath oleuni na chefais ei gyffelyb o'r blaen, i weied ddarfod iddo fy ngharu â chariad tragywyddol, ac y bwriadai yn nhragywyddoldeb fy nwyn i ogoniant. Yn y goleuni hwn gwelwn bob peth yn diflanu i ffwrdd, a fy hun yn wrthddrych cariad tragywyddol y Drindod, fel y ffieiddiwn fy hun oblegyd pechod, ac y deallwn natur pechod, wreiddyn a changen, yn fwy nag erioed." Aeth i Langamarch, lle y pregethodd oddiar eiriau yn Hosea, ac y cafodd odfa nerthol. Pasiodd

trwy Merthyr Cynog, lle y pregethodd oddiar Phil. iv. 4; oddiyno i Landdewi, lle y derbyniodd y sacrament; ac yn ei flaen i'r Glyn, lle y pregethodd oddiar Esaiah lxxx. 1. "Cefais yma fwy o nerth. i bregethu y gwaed nag erioed," meddai; "dangosais nad hwn sydd yn cael ei bregethu, ond rhesymau, ac mai dyna paham yr ydym wedi colli y nerth o'n mysg; a bod rhai yn ei ddirmygu. Cyfeiriais at allu yr Arglwydd; mai gwaed Duw ydyw, ac am adnabod Crist yn unig." Gwelir fod yr un syniad yn oruchaf yn ei feddwl trwy y daith. Aeth yn mlaen trwy Blaenllywel, gan ddyfod i Landdeusant y diwrnod o flaen y Gymdeithasfa Fisol yn Abergorlech. Y mae ei brofiad yma yn haeddu ei groniclo. Meddai: "Heddyw a ddoe toddwyd fi yn llwyr, a darostyngwyd fi wrth draed yr Arglwydd, wrth gael goleuni gan yr Yspryd Glân i ganfod y trugareddau allanol sydd yn fy nghylchynu. Ac felly, tan ddylanwadau dwyfol, mi a syrthiais ar y llawr, ac a addolais, gan gyfaddef fel y canlyn: O Arglwydd, tydi ydwyt oll yn gariad; y mae yn llifo yn rhydd i mi. Minau ydwyf oll yn bechod, a hunan, ac anwybodaeth, a gelyniaeth ; ac yn arbenig yn annghrediniol ac anniolchgar. Ond eto, yr wyt ti yn maddeu y cwbl. O gariad digyffelyb!' Yna tynwyd fi allan mewn dymuniad ar iddo egluro ei ogoniant yn Nghrist. Yno cefais ryddid i ddymuno ar iddo fod yn ein mysg, a dylanwadu ar y brawd Rowland i fyned yn fwy o gwmpas yr wyn, i'w porthi

a'u tanio."

Gwelwn fod Harris dan yr argyhoeddiad eto nad oedd Daniel Rowland mor ymdrechgar gyda theithio ag y dylasai. Nis gallwn benderfynu a oedd gradd o wirionedd yn hyn; ai ynte nad oedd Harris yn cymeryd yn ddigonol i ystyriaeth amgylchiadau ei gyfaill, yr hwn oedd yn guwrad tair o eglwysydd pwysig. Ion. 22 y cynhelid y Gymdeithasfa Fisol yn Abergorlech; yr oedd Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn bresenol, a'r cyntaf oedd yn y gadair. Agorwyd y gweithrediadau gyda phregeth gan Rowland oddiar Jeremiah vi. 5. Meddai Harris: "Wrth ymuno yn y weddi fwyaf nerthol, feddyliaf, a wrandewais erioed, teimlwn fy

hun yn cael fy narostwng; gwelwn fy hun y creadur gwaethaf a greodd Duw; fod mwy o bechod yn dylifo allan o honof na neb o fewn y byd. Fy enaid a ddarostyngwyd ynof; canfyddwn fy hun y diweddaf yn ngwinllan Duw; gwelwn y brawd Rowland fel fy mrawd hynaf, ac eto fod Duw wedi fy anfon inau." Wedi y bregeth gweinyddid y sacrament. gwmpas pump ymgynullwyd i drin gwahanol faterion, a buwyd wrth hyny hyd o gwmpas deg. Nid yw Harris yn son dim am y penderfyniadau; yn unig crybwylla ei fod ef a Rowland yn cydletya. Y mae cofnodau y Gymdeithasfa fel hyn:

"Wedi gwrando am ystad y seiadau, a chael fod clauarineb yn ffynu yn Sir Forganwg, a lleoedd eraill, penderfynwyd cadw dydd o ymostyngiad rhwng hyn a Chwef

ror 21ain.

"Cydunwyd fod y brawd John Morgan i fyned o gwmpas ar unwaith, i gasglu yr arian am y llyfrau, i dalu Mr. Farley, cyhoeddwr y Weekly History.

"Fod y brawd David Williams i fyned i ymddiddan à Mr. Griffith Jones, dydd Sadwrn nesaf, ac i gynorthwyo y brawd John Richard pan y gall, gyda gofalu am yr ysgol."

Dyna yr holl o'r cofnodau, a gwelwn mai cymharol ddibwys ydynt. Gwelwn fod y Parch. D. Williams, Llysyfronydd, wedi symud i Forganwg erbyn 1745. Aeth Harris a Rowland yn nghyd tua Chilycwm, lle y pregethodd y diweddaf. Teithiodd Harris trwy Glanyrafonddu, lle y pregethodd ac y bu yn anerch y seiat, a Llanarthney, Llanon, a St. Clears, gan gyrhaedd y Parke, cartref Howell Davies, erbyn y Sul. Bu mewn dyfroedd dyfnion y Sul hwn, a chaiff ef ei hun adrodd yr hanes: "Gwelwn fy hun," meddai, “heb ddim gofal am ogoniant Duw, heb ddim cariad at y brodyr, heb dosturi, nac ystyriaeth o'r canlyniadau. Canfyddwn fy mod yn pechu yn erbyn cariad a gras; yn erbyn trugaredd, moddion, perthynasau, a bendithion. Gwelaf fy mod yn suddo yn ddyfnach, ddyfnach. O ddyfnder drwg pechod ! Yr oeddwn yn y fath drueni a dyryswch, fel nas gallaswn ddyfod allan o hono. Ond er fy mod wedi fy ngwanhau a'm dryllio, teimlwn gariad pur at y brodyr, a gwelwn fy hun yn annheilwng i fod yn eu mysg, gan eu bod oll yn cael eu ffafrio yn fwy na mi mewn gras a sancteiddrwydd. O gwmpas tri aethum i lawr, ond ni theimlwn yn rhydd i fyned at y brodyr; gwelwn yr un pryd ganlyniadau niweidiol peidio myned; ond nis gallwn help. Yn unig cefais nerth i lefain ar i'r Arglwydd gyflawni ei ewyllys, bydded y peth a fyddo. Eithr fel yr oeddwn yn dychwelyd tua Llanddowror, a chwedi dyfod i'r fan lle yr oedd yn rhaid i mi benderfynu, tosturiodd yr Arglwydd wrthyf, a rhoddodd yn sydyn y fath gariad i mi at y brodyr, fel nas gallwn lai na llefain yn fy yspryd am fod gyda hwynt, a chael byw a marw gyda hwynt. Yr oeddwn yn un â hwy mewn modd neillduol. Cefais y fath undeb â'r brawd (Howell) Davies, na chefais ei gyffelyb o'r blaen, gan deimlo ffrwd o serch at ei enaid a'i gorph fel teml Duw, fel un yn ffafr Duw, ac fel cenad Duw." Amlwg yw iddo fod mewn ystorm ofnadwy o ran ei feddwl; ac y mae yn bur sicr iddi godi oddiar ryw dramgwydd a gawsai yn y brodyr. Nid annhebyg iddo glywed rhyw chwedl, naill ai ar ei ffordd i Sir Benfro, neu ynte yn nhŷ Howell Davies y nos o'r blaen, a barodd iddo ymddigio. Efallai iddo glywed ei bregethau yn cael eu beirniadu, neu fod rhai o'i hoff gynlluniau yn cael eu gwrthwynebu. Ffromodd yn aruthr o herwydd hyn; poethodd ei dymherau nes y collodd pob llywodraeth arnynt am yspaid; a chwedi ymlonyddu i raddau, er y teimlai gywilydd o hono ei hun, ni fedrai gael rhyddid i fyned i fysg ei gyfeillion, oeddent wedi cydymgynull y dydd cyn y Gymdeithasfa, ac yn treulio y prydnhawn mewn gweddi a mawl. Bu mewn cyfynggynghor pa beth a wnelai, ai tori pob cysylltiad â hwy, a dychwelyd adref, ynte myned i'w mysg. Trwy drugaredd, Ílanwyd ei fynwes a chariad, fel y trodd y rhod. o blaid y diweddaf; ond yr oedd yr amgylchiad yn flaenbrawf o'r dymhest a gludodd Harris allan o'r cylch Methodistaidd yn mhen pum mlynedd ar ol hyn.

Ar ol tymhestl y daw hindda; ac ymddengys fod yr haul yn llewyrchu ar y frawdoliaeth oedd wedi ymgynull yn Hwlffordd, yn y Gymdeithasfa, prydnhawn dydd Llun. Meddai Harris: "Yr oeddwn yn agos at Dduw, a galluogwyd ni i drefnu ein cynlluniau tuhwnt i bob disgwyliad, fel y synwn ddarfod i'r gelyn geisio fy rhwystro i ddyfod yma. Yn sicr, gwnaed llawer o waith; a threfnasom amryw bethau a ymddangosent yn dra dyrus; megys am arolygwr newydd, trefnu y cynghorwyr anghyoedd, symud rhagfarnau am y tŷ newydd yn y lle hwn, agor ein calonau i'n gilydd gyda golwg ar gyfiawnhad, a pha mor bell y geill eneidiau fyned heb ras achubol, Saul yn enghraifft, yn nghyd â Judas, Balaam, Demas, y morwynion ffol, a'r rhai y crybwyllir am danynt yn Heb. vi. Cawsom lawer o serch at ein gilydd, ac undeb, a chydweithrediad. Yna aethum i bregethu." Gyda golwg ar ei bregeth, dywed: "Eangwyd fy nghalon, fy ngenau a agorwyd, teimlai y bobl, a disgynodd yr Arglwydd mewn modd anghyffredin i lawr ; yn enwedig pan y dangosais mor ardderchog y byddai gyda hwynt yn angau, pan fyddai eu llygaid yn pylu, a'r galon yn pallu; yna,' meddwn, y cewch chwi, ïe, chwi bechaduriaid tlawd a dirmygedig sydd yn credu, weled gogoniant tŷ ein Tad, uno. â'r llu nefol, a sefyll o gylch yr orsedd i orfoleddu ac addoli.' Cafodd odfa nerthol iawn, ac wrth ymadael yr oedd ei galon yn gynhes at ei Waredwr ac at y brodyr. A ganlyn yw y prif benderfyniadau a gafodd eu pasio:

"Fod y brawd William Edward i fod ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i ymweled yn wythnosol a seiadau Tyddewi, Penrhos, a Mounton; a'i fod ef, yn nghyd â'r holl gynghorwyr anghyoedd eraill, i beidio ymweled a lleoedd eraill, ond fel y bydd eu hamgylchiadau, a'u gofal penodol yn caniatau, a than gyfarwyddid eu harolygwyr.

"Fod y brawd Cristopher Mendus i ymweled yn wythnosol a seiadau WaltonWest, a Studder, gyda y rhyddid a'r rhwymau y cyfeiriwyd atynt.

"Fod y brawd John Sparks i gynghori ar brawf fel cynt yn nghymydogaeth Hwlffordd, dan arolygiaeth y brawd Davies.

"Fod y brawd George Gambold i fyned o gwmpas yn gyfangwbl, ac i adael yr ysgol, er llefaru yn gyhoeddus fel arolygwr, ar brawf hyd ein Cymdeithasfa Chwarterol nesaf yn Cayo."

Wedi y Gymdeithasfa aeth Howell Harris trwy ranau helaeth o Benfro, gan basio trwy Dyddewi, Trefin, lle y cafodd odfa anarferol iawn, Bwlchygroes, Llwynygrawys, ac Eglwyswrw. Testun ei weinidogaeth yn mhob lle oedd y gwaed, a'r clwyfau. Yna teithiodd Sir Aberteifi ar ei hyd, gan ymweled a Llechryd, Cwmcynon, Cilrhedyn, Llanbedr-pont-Stephan, Capel Bettws, a Llanddewi-brefi, lle y lletyai mewn hen balasdy yn nghesail y mynydd, o'r enw Foelallt. Yn mhob man rhoddai bwys mawr ar rinwedd y gwaed, oblegyd ei fod yn waed Duw. "Yr wyf yn gweled fy mod yn pregethu'r gwirionedd," meddai. Aeth y Suli Langeitho, i wrando Rowland; ac oddiyno i eglwys Llancwnlle, a phregethodd ei hun yn yr hwyr yn mhentref Gwynfil, ger Llangeitho, i gynulleidfa o rhwng dwy a thair mil. Rhwystrwyd ef i fyned i Ogledd Cymru, fel y bwriadesai, a dychwelodd adref trwy Gayo a Llwynyberllan. Rhydd y crynodeb canlynol o'r daith: "Mis i heddyw yr aethum o gartref i ymweled à Siroedd Caerfyrddin, Penfro, ac Aberteifi, taith O tua thri chant o filltiroedd, a galluogwyd fi i bregethu o gwmpas haner cant o weithiau, gan brofi bendithion diderfyn, yn nghyd â nerth meddwl a chorph anarferol i gyhoeddi Crist."

Yn

mhen ychydig ddyddiau wedi ei ddychweliad yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Dibwys oedd y trefniadau a wnaed; ond yn nglyn à hi cynhaliwyd cariad-wledd, yn mha un y cafwyd arwydd ion arbenig o bresenoldeb y Goruchaf. "Yr oedd yn gariad-wledd yn wir; buom yno yn canu, yn gweddio, ac yn cynghori, hyd nes yr oedd gwedi deg. Ond beth wyf fi wrth lawer o honynt? Yr oedd y brodyr wedi eu tanio i'r fath raddau fel y buont yn canu ac yn gweddïo hyd yn agos i ddau. Gogoniant i Dduw, yr hwn sydd eto yn ein mysg! Yn y gariadYn y gariad wledd cefais nerth i geisio, ac i guro; teimlwn ryw gymaint o agosrwydd at Dduw ; ond ni ddaeth yn y modd fflamllyd hwnw y daethai gynt, i gymeryd ymaith y gorchudd, gan ddangos ei ogoniant, nes toddi fy enaid, a rhoddi i mi fynediad i mewn agos. Ond parhausom i ymdrechu gyda Duw, ac yn mhen ychydig cefais nerth i ofyn i'r Arglwydd a oedd yn bwriadu ymweled a'r genedl yn ei ras, a dychwelyd atom? A oedd yn bwriadu sefyll wrth gefn y Methodistiaid tlodion, gan eu harwain a'u hamddiffyn? ganlynol, cefais foddlonrwydd yn fy enaid fy hun ei fod yn dyfod atom mewn cariad. Gwedi hyny, cefais ryddid i ofyn yr un peth yn y weddi gyhoeddus, a'r Arglwydd a ymddangosodd yn nghydwybod y brodyr, a boddlonodd hwy yn yr un dull ag y boddlonwyd fi. Yna, cefais ryddid mawr i'w hanog i ymdrech, i fywyd, a zêl, a gweithgarwch."

Dengys y difyniadau hyn ddyn yn byw yn agos iawn at yr Arglwydd. A oedd ei waith yn cwestiyno y Duw mawr, ac yn gofyn ateb pendant ganddo gyda golwg ar y dyfodol, ac yna yn cymeryd ei deimladau boddlongar ei hun a'i frodyr fel atebiad cadarnhaol i'r hyn a ofynwyd, yn dangos ystad meddwl hollol iachus, ni chymerwn arnom benderfynu. Ymddengys fel blaguryn o'r dueddfryd gyfriniol a ymddadblygodd ynddo i raddau gormodol wedi hyn. Yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca drachefn ar yr ail ddydd o Fawrth, a daeth Daniel Rowland i bregethu i'r ardaloedd cylchynol amryw ddyddiau yn flaenorol. Aeth Harris i'w wrando i Erwd. Pregethodd yntau yn rhyfedd oddiar Phil. iii. 1: "Ië, yn ddiameu. yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled, o herwydd ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd." O'r cofnodau llawn o'r bregeth a rydd Harris, nis gallwn ddifynu ond ychydig. "Dangosodd," meddai, "fel yr oedd ein cyflwr yn Nghrist yn rhagori ar eiddo. Adda. Yn (1) Pe y parhäi Adda heb bechu, nid ydym yn cael y cawsai ei symud oddiar y ddaear; ond yr ydym ni i gael ein symud i'r nefoedd at Dduw. (2) Nid oedd efe ond mewn paradwys i ba un yr oedd Satan yn gallu cael mynediad, ond yr ydym ni i gael ein symud i fan lle nas gall ddyfod. (3) Er ei fod mewn ystyr yn llawn O ras, eto nid oedd ganddo ddigonedd y tu cefn; felly, er y medrai sefyll, yr oedd yn bosibl iddo syrthio; ond y mae genym ni drysorau dihysbydd y tu cefn i ni, faint bynag a wariom. Yma yr oedd (Rowland) hyd adref ar barhad mewn gras, gan ddangos os oedd Satan wedi ein dinystrio trwy bechod fel nas gallwn achub. ein hunain, eto fod Crist yn well gweithiwr nag efe; felly, ai ni fydd iddo ein hachub mor effeithiol fel nas gallwn ddamnio ein hunain? Dangosodd fod y rhai a gamddefnyddiant yr athrawiaeth hon yn gnawdol. Yn nesaf, eglurodd ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist, gan ddangos mawredd y wybodaeth hon, a'i defnyddioldeb, ei bod yn dwyn pardwn, gras, a dedwyddwch. Yr oedd yn llawn addysg, ac o ddoethineb ddwyfol," meddai. "Yna aethum gydag ef tua Threfecca, i wrando arno, ac i gael fy nghryfhau wrth wrando. Dywedai fod yr Arglwydd yn fy rhoddi i iddo gyda hwy i gryfhau ei ddwylaw, ac i lefaru yr un peth ag yntau, a rhybuddiai fi i fod yn fwy gofalus yn fy athrawiaeth." Y mae yr ymadrodd olaf hwn yn dra arwyddocaol, ac yn dangos fod y Diwygiwr o Drefecca, yn marn ei frodyr, yn tueddu i fod yn anochelgar yn ei ymadroddion pan yn egluro athrawiaethau mawrion yr efengyl. Derbyniodd ef y rhybudd, modd bynag, yn yr yspryd yr oedd yn cael ei roddi. "Cawsom gariad ac undeb," meddai, "a chefais ryw gymaint o ostyngeiddrwydd wrth weled fy hun yn cael sylwi arnaf gan unrhyw un. Wrth ei wrando yn pregethu (yn Nhrefecca) oddiar y geiriau: Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun,' nid oeddwn yn meddwl i mi erioed glywed y fath ddoethineb." Teimlai Harris yspryd milwr yn deffro ynddo wrth wrando.

A ganlyn yw cofnodau y Gymdeithasfa Fisol: "Yr oeddym wedi cyfarfod o'r blaen (Chwef. 16), gan dreulio cryn amser yn dra buddiol i ystyried cyflwr y genedl, a'r eglwys, a sylwi ar arwyddion yr amserau, pob un yn gofyn i'r llall pa oleuni, yn ei dyb ef, oedd yr Arglwydd yn roddi y pryd hwn gyda golwg ar y gwaith, pan y mae cymaint o bethau yn dygwydd i fygwth dinystr. Meddai pob un ffydd, yn fwy clir neu wan, yr a'i y gwaith yn ei flaen yn wir nad oedd eto ond dechreu, er fod rhai yn tybio y gallai treialon ddygwydd yn gyntaf. Yr oedd yr Arglwydd gyda ni mewn modd arbenig iawn; cadwyd y brodyr i fynu, i ganu ac i weddïo, hyd gwedi deuddeg.

Wedi agor ein calonau i'n gilydd, a gofyn cwestiynau y naill i'r llall gyda golwg ar y gwaith, cydunwyd i gyfarfod drachefn dydd Gwener, Mawrth 29, am ddeg yn y boreu, a phob pedwerydd dydd Gwener, o Mawrth y cyntaf, fel y byddai i bob dydd perthynol i'n Cymdeithasfa breifat fod yn ddydd o ymostyngiad a gweddi yn nghyd.

Cydunwyd fod amgylchiadau y brawd Thomas Jones i gael eu gosod gerbron y seiadau preifat.

"Fod y dydd Mawrth yn mhen y pythefnos i fod yn ddydd o ymostyngiad personol yn mhlith y ffyddloniaid, o herwydd yr ymraniadau yn Lloegr, a'r clauarineb a phechodau eraill yn Lloegr a Chymru."

Dengys y cofnod diweddaf fod sefyllfa y Methodistiaid yn Lloegr yn dra chyffrous; fod ymbleidio a rhaniadau yn eu mysg; ac yr oedd eu llywydd, Whitefield, yn yr America er y flwyddyn flaenorol; o ganlyniad, ar ysgwyddau Howell Harris, yn benaf, y disgynai y gofal. Dechreu Mawrth, cynelid Cymdeithasfa yn Mryste, ac aeth Harris yno yn nghwmni Beaumont. Yr oedd ei yspryd yn brudd ynddo oblegyd yr amrafaelion rhwng y cynghorwyr. Yn y cwch, wrth groesi yr Hafren, rhoddwyd iddo agosrwydd mawr at Dduw, a nerth i ofyn iddo am ei gadw rhag ei yspryd ei hun yn nydd y demtasiwn oedd yn agoshau, rhag iddo ei dramgwyddo ef, na thramgwyddo y brodyr, yr hyn a ofnai uwchlaw pob peth. Boddlonodd Duw ef y gwnai ei gadw. Wedi cyrhaedd Bryste galwodd y frawdoliaeth yn nghyd; cynaliwyd cyfarfod i ymostwng gerbron y Goruchaf Dduw, ac i ofyn am arweiniad; yna anerchodd Harris hwy, gan ddweyd fod gan yr Arglwydd gweryl â hwy. Boreu dydd y Gymdeithasfa bu mewn ymdrech angerddol â'r Arglwydd cyn myned allan o'r tŷ; gwelai y diwrnod yn ddydd o dreial, yn ddydd galar, ac yn ddydd o ymostyngiad. Cododd chwant myned adref arno, ac eto llefai ei fod yn foddlon aros yno ond iddo weled bod hyny er gogoniant i Dduw. "Y fath nifer," meddai, "hyd yn nod o'r rhai a broffesant eu bod yn adnabod yr Arglwydd, sydd yn llawenychu yn ein hymraniadau; rhai a gondemniant y gwirioneddau ydym yn draethu; eraill a gondemniant yr yspryd a'r zêl. Arglwydd, pa hyd y gadewi ni i fod yn watwargerdd? Ai nid dy blant di ydym, a'th genadon tlawd, wedi eu hanfon genyt? O tosturia wrthym!" Yn yr yspryd hwn yr aeth i fysg y brodyr. Daeth rhyw deimlad drylliedig dros y brodyr wrth ddarllen cofnodau y Gymdeithasfa o'r blaen. Yna," meddai, "bum yn ymresymu â'r brawd Bishop, yr hwn sydd yn myned i ymneillduo, ac i uno â'r Bedyddwyr. Wedi siarad rhydd daethom i ddealltwriaeth ag ef, gyda golwg ar y rhai sydd heb eu bedyddio, ond wedi eu hargyhoeddi. Tybiai ef y dylem godi trwydded i bregethu, mai dyfais ddynol yw bedydd babanod; fod ganddo hawli weinyddu y sacramentau heb ordeiniad nac arddodiad dwylaw. A hyn darfu i ni oll anghytuno. Nid oedd rhai o honom, a minau yn eu mysg, yn rhydd i godi trwydded. Yr oedd pawb o honom yn anmharod i weinyddu yr ordinhadau heb ordeiniad, ac yn anmharod hefyd iordeinio yn ein mysg ein hunain. Yr oeddym yn unfarn hefyd parthed bedydd babanod, ond cytunasom y gallai efe ddyfod i'n mysg, os dymunai. Wedi cael fy nghymhell, aethum i bregethu i'r neuadd, i dorf fawr.” Cafodd odfa dda, ac agosrwydd mawr at yr Arglwydd ar weddi, wrth ddechreu a diweddu.

Parhai y Gymdeithasfa dros ddydd Iau a dydd Gwener, a ffynai heddwch yn yr holl gyfarfodydd. "Yn sicr, gwrandawodd yr Arglwydd ein gweddi," meddai Harris, "ac unodd yn hyfryd ein calonau a'n heneidiau. Teimlwn fod yr Arglwydd yn rhoddi i mi symlrwydd, cariad, a rhyddid, a buddugoliaeth ar ragfarn, i siarad yn syml, ac i beidio ymryson parthed geiriau. Gwelwn ein bod yn meddwl yr un peth (1) gyda golwg ar Grist ein cyfiawnder; yr oeddynt hwy yn golygu yr un peth wrth ei alw ein sancteiddrwydd, ag a olygwn ni wrth ei alw yn gyfiawnder cyfranedig; neu sancteiddrwydd personol. (2) Eu bod hwy yn golygu yr un peth wrth ffrwythau ffydd, neu ffrwythau yr Yspryd, ag a olygwn ni wrth y creadur newydd, sef egwyddor o ras oddifewn yn yr enaid. (3) Eu bod hwy yn golygu yr un peth wrth y gair ffydd mewn ymarferiad ag a olygwn ni wrth ffydd, neu gymundeb â Duw. (4) Eu bod hwy yn meddwl yr un peth wrth ffydd allan o ymarferiad ag a olygwn ni wrth y gair anghredu, neu wrthgilio yn y galon. (5) Pan y siaradent yn erbyn profiad, golygent yn unig peidio ei osod allan o'i le, sef yn gyfnewid am Grist. Yna, cydunasom, os byddem yn defnyddio rhyw derm nad yw yn yr Ysgrythyr, i'w egluro mewn geiriau Ysgrythyrol; ac, hyd y mae yn bosibl, i gyfyngu ein hunain i ymadroddion Beiblaidd." Drachefn, “Cydunasom am gyfiawnhad a sancteiddhad; mai Crist, ac nid ffydd, yw y sylfaen ar ba un y dylem bwyso; a chawsom oleuni a rhyddid anghyffredin wrth ymdrin parthed angenrheidrwydd a lle ffrwyth, sef sancteiddrwydd calon a buchedd; yn nghyd â lle y gyfraith neu y gorchymyn mewn crefydd. Golygem yr un peth yn flaenorol, pan yr ymddangosem fel yn gwrthddweyd ein gilydd. Cydunasom hefyd am y modd i ddelio a'r rhai sydd yn tori y ddeddf yn eu bucheddau nad ydynt yn gredinwyr, am fod Crist yn ysgrifenu ei gyfraith ar galon y credadyn. Mynegasom ein holl galonau i'n gilydd ar bob pwynt; ysgrifenasom hefyd i lawr y pethau y cydunem arnynt. Cydunasom hefyd gyda golwg ar wahanol raddau ffydd-ffydd wan a ffydd gref, ffydd ddamcaniaethol, ffydd grediniol, a ffydd achubol. Cydunwyd hefyd gyda golwg ar y brawd Cudworth; nid oeddwn i yn tueddu ato fel cydlafurwr; ond pan y mynegodd ei fod yn syml, heb dwyll na hoced, yn cyduno a'r hyn a ysgrifenasid i lawr, cefais ryddid i'w dderbyn. Trefnwyd cylchdeithiau pob un; a chwedi trefnu y pregethwyr ieuainc yn eu gwahanol leoedd, ymadawsom yn hyfryd a dedwydd, wedi offrymu mawl a gweddi i Dduw, yr hwn a roddodd i ni y fuddugoliaeth."

Felly y terfynodd Cymdeithasfa Bryste, ac y mae yn sicr fod ei dylanwad yn fawr ar Fethodistiaeth Cymru yn gystal ag eiddo Lloegr. Am y waith gyntaf, tynwyd i fynu fath o Gyffes Ffydd, a Rheolau Disgyblaethol, a gosodwyd y cyfryw i lawr mewn ysgrifen, fel y gellid apelio atynt yn ol llaw. Hawdd gweled fod yr adeg yma yn un o gyffro mawr, a bod y cyffro hwnw yn peri fod holl athrawiaethau crefydd yn cael eu chwilio a'u dadleu. Yr oedd anuniongrededd yn cael yr un driniaeth ag anfoesoldeb, a hawdd iawn i frodyr oedd myned i ymryson yn nghylch geiriau, pan y golygent yr un peth. Doeth iawn yn y frawdoliaeth oedd cyduno i arfer geiriau Ysgrythyrol, hyd byth ag oedd yn bosibl, wrth egluro pob athrawiaeth; ac nid rhyfedd fod Harris yn galw y Gymdeithasfa yn "Gymdeithasfa fendigedig." Y mae yn ddiau fod perygl ymraniad ar y pryd. Felly, o leiaf, y golygai Howell Harris ; a chredwn mai ei ddoethineb a'i arafwch ef fel llywydd y gynadledd a fu yn offerynol i ailsefydlu heddwch, ac i gadw y brodyr rhag ymwahanu. Fel hyn yr ysgrifena gyda golwg ar yr ymdrafodaeth at Mr. Erskine, Ebrill 12, 1745: "Ni fedraf byth anghofio eich gofal pan y cyfarfyddem yn Mryste. Yr oedd, yn wir, yn amser enbyd; ond y Duw sydd yn wrandawr gweddi a agorodd ei glustiau i lefau ei liaws plant a afaelent ynddo. Yr oedd pethau wedi myned mor bell fel na allai unrhyw foddion dynol leshau, ond Duw a dosturiodd wrthym, ac ni oddefai i'w ogoniant, ei waith, a'i blant, a'i genhadau tlawd a drygionus gael eu sathru dan draed, nac i'w gelynion orfoleddu. Gwnaeth ryfeddodau erddom. Ni ddynoethwyd ei fraich yn fwy o'n plaid erioed. Cynlluniau Satan a ddarganfyddwyd, a'i fwriad uffernol a wnaed yn ddim. Gan y gwn eich bod wedi cael y manylion gan y brawd Edwards, nid rhaid i mi ond nodi mai y moddion a ddefnyddiodd i'n huno oedd a ganlyn. Yn gyntaf, datguddiodd i ni, o leiaf i rai honom, y canlyniadau arswydus a fyddant yn debyg o ddilyn ymraniad; y dianrhydedd a dderbyniai ein hanwyl Arglwydd, y tramgwydd a deflid ar ffordd yr annychweledig, a'r annhrefn a ddeuai i'n mysg ninau, a phawb sydd yn ein caru. Yn nesaf, wedi creu ynom, o leiaf yn rhai o honom, ddymuniad am fod yn un, a than ddylanwad y dymuniad hwn i dywallt ein calonau gerbron yr Arglwydd, efe a symudodd ein rhagfarnau allan o'n hysprydoedd, gan roddi i ni ffydd y byddai iddo eto drugarhau wrthym, a'n huno yn ei wirionedd, er mor annhebyg yr ymddangosai hyny. Yna, wrth agor ein calonau i'n gilydd, y gorchudd a'n cadwai rhag deall ein gilydd o'r blaen a gymerwyd ymaith, a chawsom fod ein camddealltwriaethau a'n gwahaniaethau yn cyfodi o gamgymeryd geiriau ein gilydd. Óblegyd gyda golwg ar gyfiawnhad a sancteiddhad, a ffydd achubol, golygem yr un peth, er y gwahaniaethem yn ein dull o egluro yr un gwirionedd. Fel y gwelwch, yr wyf yn credu, yn nghofnodau ein cytundeb, yr oedd y brawd Cennick wedi bod yn anwyliadwrus yn rhai o'i ymadroddion, yn ngwres ei zêl, ac oddiar ddymuniad difrifol am ddyrchafu y Duw-ddyn, yr Emmanuel gogoneddus; ac wrth ddifodi y gau noddfeydd sydd yn cadw cynifer heb ddyfod i fyw mewn ffydd wirioneddol ar y gwaed a'r clwyfau, darfu i'r gelyn ei wthio fel y llithrodd ryw gymaint wrth lefaru, ac y dyrysodd rai o'r bobl a wrandawent, fel ag i'w gamgymeryd yn y ddau eithafion. Yr oedd rhai o'r dynion ieuainc, mi a gredaf, yn fwy beius fyth. Ond ar bob llaw, yr wyf yn gobeithio ein bod wedi cael ein darostwng, a'n dwyn yn agosach at ein Meistr tyner a thosturiol."

Nis gallwn fanylu ar gynwys y llythyr, er fod ynddo amryw bethau yn haeddu sylw. Treuliodd Howell Harris ei Sabbath yn Bath, a dychwelodd adref erbyn dydd Iau, Mawrth 29, fel ag i fod yn bresenol yn y Gymdeithasfa Fisol, yn Nhrefecca. Cyfarfyddai ei frodyr gyda chalon lawen, oblegyd fod pethau wedi troi allan gystal yn Mryste; ac eto yr oedd pob llwyddiant gyda'r gwaith yn ei ddarostwng, ac yn ei lenwi a gostyngeiddrwydd. Fel hyn yr ysgrifena: "Yr oedd ein cyfarfod yn llwythog o newyddion da. Wrth weddi tynwyd fi allan yn hynod, a llewyrchodd yr Arglwydd ei wyneb arnom, gan wresogi ein calonau. Wrth fy mod yn gosod o'u blaen y cynygiad o Scotland, am gadw diwrnod bob tri mis, a phob boreu Sul, i ddiolch i'r Arglwydd am yr adfywiad diweddar yn Lloegr, a Chymru, ac America; cynygiad a pha un y darfu i'r brodyr gyduno, cefais nerth i weled nad oedd hyn yn perthyn i neb yn fwy na mi. Yn (1) Nid oes neb wedi cael ei ffafrio yn gymaint a mi, y gwaethaf a'r annheilyngaf o bawb. (2) Nid oes neb wedi digio a themtio yr Arglwydd fel myfi, ac felly nid oes ar neb gymaint o rwymau i'w ganmol, ac i ymostwng ger ei fron. (3) Nid oes ar neb gymaint o rwymedigaeth i ddymuno am lwyddiant y gwaith. Llefais am gael fy ngwneyd yn gydwybodol yn hyn. Gwedi ymholi am ansawdd y cymdeithasau, ac am y dull y cedwid y dyddiau o ymostyngiad, ymadawsom yn hyfryd ein hysprydoedd."

Yn nghofnodau Trefecca ceir yr adroddiad a ganlyn:

"Cymdeithasfa Trefecca, Mawrth 29'; Howell Harris, cymedrolwr Wedi adrodd ddarfod i'r Arglwydd wrando ein gweddïau parthed uno y brodyr yn Lloegr, trefnwyd ein Cymdeithasfa Fisol nesaf i fod yn nhŷ Thomas James, dydd Gwener, Ebrill 26.

"Gan fod cynygiad wedi dyfod o Scotland i gadw diwrnod bob tri mis, gan ddechreu gyda Thachwedd 1, yn ddydd o weddiau, am ddwy flynedd, ac hefyd i gyfarfod bob boreu Sul, oblegyd y gwaith diweddar yn Lloegr, Cymru, Scotland, ac America, i ddiolch i Dduw am dano, i weddïo am iddo fyned yn mlaen, ac i ymostwng oblegyd y pechod oedd yn cydfyned ag ef; cydunasom â'r cynygiad i gadw y dydd cyntaf o Fai nesaf, a phob boreu Sul, gyda chynifer ag a allwn gael. Ac hefyd yn breifat, i roddi i hyn gymaint o le ag a allwn yn ein calonau, a'n hamser, bob nos Sadwrn, ac i gymhell hyn ar eraill."

Y dydd Mercher a Iau canlynol, sef yr wythnos gyntaf yn Ebrill, cynelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Nghayo; Cymdeithasfa bwysig ar amryw gyfrifon, ond nid yw ei hanes yn ysgrifenedig yn nghofnodau Trefecca. Agorwyd y gynhadledd gyda phregeth gan John Powell, yr offeiriad o Sir Fynwy. Meddai Harris: "Yr oeddwn yn ddifrifol ac yn drymaidd, ond nid yn yr Yspryd, wrth wrando. Eithr cefais nerth i ymdrechu drosto, ar i Dduw lewyrchu arno, a daeth yr Arglwydd i lawr. Yna ciniawasom; a phregethodd y brawd G. oddiar Ioan i. 1, 2. Yr oedd ganddo gyflawnder o eiriau, ond yr oedd wedi ei adael yn hollol, a ninau yn sych yn ymddangosiadol. Yr oedd yr Arglwydd fel pe yn mhell oddiwrthym. Trywanwyd fi wrth glywed y brawd Rowland yn dweyd fod yr Arglwydd fel pe yn gadael y cynghorwyr. Gwelwn hyn fy hunan, mewn cysylltiad â mi ac eraill. Bendithiwyd yr ymadrodd; rhoddwyd i ni ryw gymaint o wyliadwriaeth, a zêl, a galar am ein gwrthgiliad parhaus oddiwrth yr Arglwydd, a'n heilunaddoliaeth, a'n puteindra ysprydol. Ond, yn sicr, nid oedd ein cyfarfod eto yn llawn o Dduw. Wrth ddarllen llythyr oddiwrth y brawd Howell Davies, yn datgan y fath anrhydedd oedd cael pregethu gwaed Crist, cefais oleuni ac argyhoeddiad i weled nad yw gogoniant y gwaed hwn ond prin dechreu dyfod i'r golwg. Darllenasom ddau lythyr o Fynwy a Morganwg gyda golwg ar ymadael oddiwrthym." Pa gymdeithas yn Sir Fynwy a anfonodd y cyfryw lythyr sydd anhysbys, ond yr oedd y llythyr o Sir Forganwg oddiwrth gynghorwyr y Groeswen, ac y mae mor bwysig, ac mor nodweddiadol o deimlad llawer o'r cynghorwyr ar y pryd, fel yr haedda gael ei gofnodi oll. Fel hyn y darllena:—

"At yr anwyl frodyr yn gyffredinol, a'r gweinidogion yn neillduol, cynulledig yn Nghayo, anfon anerch.

"Gras fyddo gyda chwi oll. Amen. Yr ydym yn credu am danoch mai rhai ydych sydd anwyl gan Dduw, a bod Duw yn anwyl genych chwithau, a'ch bod mewn modd neillduol wedi cael eich galw gan Dduw i waith y weinidogaeth, a bod achos Duw yn agos atoch, ac yn pwyso ar eich ysprydoedd; a'ch bod wedi cael adnabyddiaeth helaeth o'i ewyllys, ac o herwydd hyny angenrhaid a osodwyd arnom i ddanfon atoch fel rhai a dderbyniodd y gras o gydymdeimlad â ni, ac amryw eraill sydd yr amser hwn mewn llawer o gaethiwed, o herwydd yr annhrefn sydd yn ein plith. Mae ein cydwybodau wedi eu rhwymo gan Air Duw, fel nas gallwn barhau fel hyn allan o drefn Duw; canys gweled yr ydym fod Duw wedi gosod trefn yn ei eglwys, er y dechreuad, yr hon sydd i barhau hyd y diwedd. Ni a dybygem mai eich dyledswydd chwi yw cydymdeimlo â ni yn yr achos mawr hwn; canys chwi a fuoch yn anogaeth i ni fyned dros Dduw allan o drefn ; ac er dim a wyddom ni fe'n llwyddodd Duw ni mewn mesur, ac a fydd i chwi, fel goruchwylwyr da yn nhŷ Dduw, ymegnio i ddwyn y gwaith da hwn yn mlaen i drefn? Mae yn annhebygol iawn i un corph o bobl barhau fel hyn dros ei holl amser. Yr y'm ni yn disgwyl am gael eich meddyliau chwi yn yr achos hwn, yn agos er ys dwy flynedd, ac nid y'm yn gweled dim argoel eich bod chwi wedi pwyso y mater hwn fel y dylasai gael; ond yr y'm yn ofni fod gormod o ragfarnau yn eich dygiad i fynu yn nglyn wrthych. Ein meddwl yw, eich bod yn ormod yn nglyn wrth yr Eglwys Sefydledig. Yr ydym ni yn gweled pe bai chwi yn cael eich ordeinio yn Eglwys Loegr, fel ag yr ydych yn disgwyl, na byddai hyny yn ddigon i wneuthur yn esmwyth amrywiol o frodyr a chwiorydd yn y wlad; canys eisiau sydd arnynt gael rhai i weinidogaethu y Gair a'r ordinhadau iddynt yn ei bryd, ac i edrych drostynt fel bugail dros y praidd, ac y byddai raid i ni gael ein hatal, neu fod fel ag yr ydym, yr hyn beth nis gallwn feddwl ar ei wneuthur.

"Yr ydym wedi rhoddi ein hachos yn llaw Duw, gan obeithio, os na fydd i chwi dosturio wrthym, y bydd i Dduw agor ffordd i ni gael gwell trefn. O frodyr, y mae yn dost genym glywed nad oes genych ddim rhyddid i ni gynghori, o herwydd nad ydym wedi ein hordeinio; ac nad ydych, can belled ag y gallwn ni weled, yn gofalu pa un a gaffom ni ein hordeinio a'i peidio. Os na fydd i chwi gydymdeimlo â ni, yr ydym yn gweled fod galwad i ni droi ein golygon ffordd arall, a Duw fyddo yn gyf arwyddwr i ni. Yr ydym yn cyfaddef mai eich llafur chwi ydym, ac y mae yn dost genym orfod ymadael â chwi, a rhoi lle i eraill ddyfod i mewn i'ch llafur chwi; eto, yr ydym yn rhwym i dori trwy bob anhawsdra, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu, a chydwybod dda. Ac nid ydym yn gwneuthur hyn mewn byrbwylldra. ond gan ei ystyried yn ddwys ac yn ddifrifol; ac fel y mae yn cael ei ystyried y mae yn dyfod yn nes atom, fel ag y mae yn anhawdd ei ddyoddef. Un achos paham y mae ein cydwybodau mor gaethiwus yw, o herwydd fod trefn o arddodiad dwylaw yn cael ei arfer yr amser gynt, sef amser yr apostolion, ar bob math ag oedd yn gweinidogaethu y Gair, nid yn unig yr esgobion a'r henuriaid, ond hefyd y diaconiaid, fel y gallwch weled yn Actau vi. 6: Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo hwy a osodasant eu dwylaw arnynt hwy.' Wedi hyn yr ydym yn cael hanes am yr effaith ragorol a ganlynodd, fel y gellwch weled yn y wers ganlynol. Mae yn debygol fod y rhai hyn, fel ninau, wedi bod lawer gwaith yn llefaru, a bod Duw yn eu llwyddo; eto, feallai, nad oedd gan yr esgobion a'r henuriaid hollol ryddid iddynt, mwy nag sydd genych chwi, yr offeiriaid, atom ni yn bresenol; am hyny ni a ddymunem arnoch wneuthur yr un peth; ac wrth wneuthur felly ni ellwch dramgwyddo neb dynion a gymero Air Duw fel rheol benaf i rodio wrthi, ac ni a allwn ddisgwyl yr un effeithiau, sef chwanegu at ein rhifedi, a bod yn gadernid i'r rhai sydd eisoes wedi eu galw. Ni a ddymunem na fyddo i'r brodyr edrych arnom fel pobl wedi syrthio i glauarwch, o herwydd ein bod fel hyn yn anfon ein meddyliau atoch, na'n bod yn disgwyl am gael enwau mawrion yma; nage, canys os rhoddwch chwi le iddo yn eich rheswm, nid ydym yn actio yn y cyfryw fodd. O herwydd hyn, ni allasem fyned ymaith yn ddystaw, ac felly cael ein hordeinio, a chymeryd cynulleidfaoedd dan ein golygiad. Nage, frodyr; yr ydym yn foddlawn i gydlafurio gyda chwi, fel yr ydym hyd eto, ac i gymeryd ein llywodraethu genych chwi fel o'r blaen, eto yn yr Arglwydd, ac yn ol ei Air. Yr ydym wedi bod yn ceisio dodi ein hachosion o'ch blaen chwi er ys talm o amser, ond ni chawsom ryddid i wneuthur felly. Duw a dosturio wrthyın mewn amser O gyfyngder, pan y mae ein tadau yn Nghrist, a'n brodyr yn yr Arglwydd, yn ein gadael yn amddifaid. Hyn, yn bresenol, oddiwrth eich caredicaf frodyr,

"THOMAS Price,
"WILLIAM EDWARD,
"THOMAS WILLIAM,
"JOHN BELSHER,
"EVAN THOMAS."

Rhaid addef fod hwn yn lythyr cryf, er y cynwysa rai cyfeiriadau personol nad ydynt yn gwbl barchus. Prin yr oedd yn weddus ar ran y cynghorwyr hyn i awgrymu, pe y caffai rhai o ddynion blaenaf y Gymdeithasfa eu hordeinio yn ol trefn Eglwys Loegr, nad gwaeth ganddi beth a ddeuai o'r lleill. Hawdd darllen rhwng y llinellau awydd mawr am ordeiniad; yr oeddynt yn barod i aros gyda'r Methodistiaid, ond iddynt gael eu hordeinio; yr oeddynt yn benderfynol i ymadael oni chaent. Diau genym fod y cyffelyb ysprydiaeth yn ymweithio fel lefain yn mysg y cynghorwyr trwy lawer o'r cynulleidfaoedd. Dyddorol fyddai gwybod pa ateb a roddwyd i'r llythyr, os atebwyd ef o gwbl; nid yw y wybodaeth hono genym; ond teifl dydd—lyfr Howell Harris lawer o oleuni ar stad meddwl y frawdoliaeth cynulledig yn Nghayo, yn nglyn a'r mater hwn. Meddai: "Cawsom hir ymchwiliad i natur ac arwyddion balchder, sydd yn awr yn dechreu ymddangos yn y cynghorwyr. Agorasom ein calonau i'n gilydd, gan weled fod yn rhaid i ni ddatgan yn erbyn yr Ymneillduwyr, eu bod yn cysgu, ac yn gadael yr Arglwydd. Rhoddodd yr Arglwydd i mi genadwri i'w chyhoeddi i'r brodyr ; cenadwri ofnadwy, yn tori i'r byw, gyda golwg ar ostyngeiddrwydd, a thlodi yspryd. Yr oedd yr Arglwydd yno yn wir. Datganai amryw fod y geiriau yn trywanu eu heneidiau fel cleddyfau. Cyfeiriais at berygl balchder; mor ffiaidd oedd ein gweled ni (y cynghorwyr) yn falch, gan na feddwn ond ychydig ddoniau, ac ychydig wybodaeth mewn unrhyw beth; a'n bod heb ddysg na medr, yn wael, ac yn ddirmygus yn ngolwg pawb, ac felly hefyd mewn gwirionedd. Dangosais y dylem gywilyddio, ac ymostwng gerbron Duw, wrth weled cynifer yn ymgynull i wrando ar greaduriaid mor wael; a'r modd y mae balchder yn ymddangos mewn anallu i oddef cerydd." Prawf y difyniadau hyn mai fel balchder yspryd ar ran y cynghorwyr, yr edrychai Howell Harris, a'r brodyr yn Nghayo, ar y dymuniad angerddol am urddiad oedd yn dechreu dangos ei ben, ac yn peri dadleuaeth frwd ac ymraniad. Ymddengys y pethau canlynol yn bur glir: (1) Fod arweinwyr y Methodistiaid yr adeg hon, ac yn arbenig Howell Harris, yn dra ymlyngar wrth yr Eglwys Sefydledig, ac yn rhy anmharod i gydnabod hawliau y cynghorwyr mwyaf galluog gyda golwg ar ordeiniad i gyflawn. waith y weinidogaeth. Awyddent am i amryw gael urddau esgobol; eithr oni chaent y fraint hono, nid oeddynt yn barod i ymgymeryd a'r cyfrifoldeb o ordeinio yn eu mysg eu hunain. Gwell ganddynt, yn hytrach, oedd i'r cymdeithasau ddyoddef amddifadrwydd, ac i'r cynghorwyr galluocaf gefnu. (2) Tra yr oedd rhai cynghorwyr wedi eu cynysgaethu â doniau helaeth, ac yn meddu gwybodaeth ddofn o'r Ysgrythyr, fod lliaws o rai eraill yn weiniaid eu galluoedd, yn brin eu dirnadaeth, ac yn amddifad o chwaeth a barn; ac eto, nid annhebyg fod yr awydd am ordeiniad, er mwyn cael safle uwch yn yr eglwys, yn gryfach yn y dosbarth olaf hwn na neb. Felly, pe y dechreuid ordeinio y cynghorwyr, nid annhebyg y byddai hyny fel pe yr agorid argae, y llifai cenfigen ac eiddigedd i fewn i fysg y brodyr fel afon. (3) Y mae yn bur sicr fod amryw, a'r rhai hyny, efallai, y dosparth_mwyaf parchus, o'r rhai a ganlynent y Diwygwyr, ac a ymgyfenwent yn Fethodistiaid, yn fwy ymlyngar wrth yr Eglwys na'r arweinwyr; a phe y gwelent y duedd leiaf yn y Cyfundeb i ymffurfio yn blaid Ymneillduol, y troent eu cefnau arno ar unwaith. Rhwng pob peth, ni welai Rowland a Harris eu ffordd i symud; disgwylient yn awyddus am oleuni mwy pendant a chlir. Ar yr un pryd, tueddwn i feddwl iddynt fod yn rhy amddifad o feiddgarwch yn y cyfnod hwn, a'u bod yn disgwyl arwydd eglurach nag oedd ganddynt hawl i wneyd, a thrwy hyny iddynt golli canoedd o'u canlynwyr, y rhai a ymunasant â phleidiau eraill. Ni fu hyn, modd bynag, yn golled i grefydd, oblegyd bu yn foddion i greu yspryd llawer mwy efengylaidd, a mwy ymosodol, yn y cyfryw bleidiau, ac efallai yn atalfa effeithiol ar yr yspryd cyfeiliorni a ffynai yn eu mysg.

Y peth cyntaf a wnaeth Howell Harris ar ol cyrhaedd adref oedd myned at Price Davies, offeiriad Talgarth, er cael ganddo ganiatau i'r Methodistiaid gymuno yn yr eglwys, yr hon fraint a ataliasai oddiwrthynt am agos i ddwy flynedd a haner. Gwrthwynebai yntau," meddai Harris, "yn (1) Am fy mod yn pregethu gartref ar adeg y gwasanaeth dwyfol. Atebais inau na wnaethum y fath beth, yn fwriadol, erioed. (2) Fy mod yn pregethu yn erbyn canonau yr Eglwys. Atebais nad oedd y canonau yn gyfraith, am na chawsent erioed eu cadarnhau gan Weithred Seneddol. (3) Fy mod wedi dolurio Esgob Llundain. Dywedais fy mod yn meddwl na wnaethum hyny, ond nad oedd yr Esgob yn glir gyda golwg ar gyfiawnhad, a phe y cawn fy ngalw o'i flaen y teimlwn yn ddyledswydd arnaf i ddweyd hyny wrtho; ond os oeddwn wedi camddifynu ei eiriau yn fy llythyr at Mr. Glyde, mai y rheswm oedd, nad oedd llythyr yr Esgob genyf wrth law pan yn ysgrifenu, ac y gwnawn gyfaddef fy mai mewn llythyr arall. (4) Nad oeddwn yn dyfod i wrando i eglwys fy mhlwyf. Atebais mai anaml yr oeddwn. gartref; fy mod weithiau yn myned i'r capel, a'm bod wedi clywed llawer o bregethu da yno; ac weithiau i eglwys Talarchddu, lle y clywn yr hyn a gytunai a'm chwaeth yn well (nag yn eglwys Talgarth); ond nad oeddwn yn cadw i ffwrdd oddiar unrhyw ddrwgfwriad, ac yr awn i Dalgarth oni bai am Mr. Edwards, y cuwrad. (5) Fy mod yn ymosod ar yr offeiriaid yn eu cefnau; ac os oeddynt yn feius, mai fy nyledswydd oedd tosturio wrthynt. Atebais na oddefwn ynof y fath deimlad at neb, ond ei bod yn rhwymedig arnaf i sefyll yn gyhoeddus yn erbyn eu pechodau, am eu bod yn foddion i galedu eraill mewn pechod trwy eu hesiampl, gan fod llawer o honynt yn feddwon, ac yn cael eu canfod yn feddw. Dangosais iddo fel yr oeddwn wedi llafurio i gadw llawer yn yr Eglwys, oeddynt yn annhueddol i hyny oblegyd annuwioldeb ac anwybodaeth y clerigwyr, y rhai a bregethent weithredoedd yn lle Crist. Pan y gwrthwynebai hyn, cydnabyddais y dylent gael eu pregethu yn eu lle, fel ffrwythau ffydd. Dywedai fod y bobl, ar ol gwrando arnaf fi, yn edrych yn watwarus arno ef, ac yn ei ddirmygu. Dywedais fy mod yn gobeithio na wnaethum i hyny erioed. Cydnabyddodd na wnaethum. Dywedais, yn mhellach, pa bryd bynag y gwelwn y cyfryw yspryd ynof fy hun, neu mewn eraill, fy mod yn ei geryddu. Yr oedd yn chwerw yn erbyn y brawd Rowland, gan ei fygwth a gwys os byth y deuai yno drachefn. Pan yr honai nas gallwn ddwyn cosp arno ef am wrthod y sacrament i mi, fel yr oeddwn wedi bygwth yn fy llythyr, cyfeiriais ef at y prawf rhwng Esgob Manaw a'r llywodraeth, pan yr oedd wedi gwrthod y sacrament, ac y cafodd ei wysio o'r herwydd." Felly y terfynodd yr ymddiddan rhwng Harris a'r hen Price Davies, ac y mae yn dra dyddorol fel engrhaifft o'r teimlad o'r ddau tu. Nid yw yn ymddangos i'r offeiriad roddi ateb penderfynol ar y pryd; ond ildio a wnaeth, oblegyd ar gyfer Sul y Pasg cawn y nodiad a ganlyn yn y dydd—lyfr: "Aethum i eglwys Talgarth, a chefais ganiatad i gyfranogi o'r sacrament. Yr oeddwn yn isel fy meddwl yn ystod y canu, eithr yn y bregeth, ar Col. iii. 1, synwyd fi at ei huniongrededd a'i hysprydolrwydd; yna aethum at y bwrdd, wedi bod yn agos at yr Arglwydd trwy ystod y bregeth, a gwnaed fi yn ddiolchgar o herwydd clywed y fath bregeth yma." Fel y trefnasid yn flaenorol, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn nhŷ Thomas James, Cerigcadarn, ar y 26ain o Ebrill. Ni cheir ei phenderfyniadau yn y cofnodau; tebyg mai dibwys oeddynt; ond rhydd Howell Harris ryw gymaint o'i hanes yn y dydd—lyfr. "Eisteddasom yn nghyd," meddai, hyd gwedi pedwar, a'r Arglwydd a'm gwnaeth yn finiog, ac yn dra llym i'r brodyr. Dangosais y rhaid i ni gael ein dysgu gan Dduw yn yr ol ag a geisiwn ddysgu i'r bobl, onide nas gallwn lefaru gydag awdurdod, a bywyd, a hyfdra; y dylem ddeall ein perthynas a holl greaduriaid Duw, â phawb dynion, ac â phawb credinwyr, gan weled ein bod wedi ein geni i'r byd cynddrwg a'r diaflaid; pan fyddom yn myned gerbron y bobl, ein bod yn wynebu ar greaduriaid sydd yn farw mewn pechod, y rhai na effeithia geiriau na rhesymau fwy arnynt na phe y ceisiem dyllu careg â bys, oddieithr i Dduw lefaru wrthynt a'u dwysbigo; y dylem benderfynu peidio myned at y bobl heb Dduw, a gofalu, gwedi myned, am gadw ein llygaid yn sefydlog ar Dduw; oblegyd pan fyddom yn myned yn y cnawd, os canfyddwn yn y gynulleidfa ŵr doeth a phrofiadol, ni a anghofiwn y bobl, gan gyfeirio ein holl ymadroddion ato ef, a cheisio gosod ein hunain yn iawn yn ei syniad ef, ac felly anghofio yr Arglwydd. Yna dangosais fel yr oedd y bobl wedi syrthio i drwmgwsg, fel, er eu bod yn teimlo tan weinidogaeth y Gair, nad ydynt yn eu bywydau yn cydnabod yr Arglwydd, ac na dderbyniant gerydd. Sylwais y byddai yn well i ni beidio pregethu, oni wneir ni yn effeithiol i ddwysbigo ac argyhoeddi. Cyfeiriais at falchder—balchder mewn dillad—ein dull o geisio ei guddio, ac fel yr ydym yn gaethion iddo. Yr oedd nerth mawr yn ein mysg. Yr wyf yn credu y caiff hyn ei fendithio iddynt, ac i'r wyn. Gwelais ddarfod i'r Arglwydd fy anfon gyda'r genadwri hon atynt. Yna, gwedi trefnu dydd o ymostyngiad, a phenderfynu ein cylchdeithiau, aethum, o gwmpas wyth, tua Llangamarch." Pregethodd yno gyda nerth mawr, ac aeth i dŷ Mr. Gwynn i gysgu.

Yr wythnos ganlynol aeth ar daith i ranau o Fynwy a Morganwg, er mwyn, yn un peth, bod yn bresenol yn Nghymdeithasfa Watford; ac, fel y dengys y dydd—lyfr, er mwyn cadarnhau y cynghorwyr. Yr oedd y cyffro a'r anesmwythder a ffynai yn eu mysg yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl. Meddai: "Yr wyf yn teimlo fy enaid yn crynu oblegyd y cynghorwr; y mae hunangais yn cynyddu yn eu mysg, a thlodi yspryd yn darfod, a gwybodaeth y pen yn dyfod yn mlaen. O fy Nuw, dwg ni i'th ddysgeidiaeth di, fel y gwelom ac y gogoneddom di, ac y deuwn yn debyg i ti. Byddai yn beth arswydus i'r Methodistiaid adael yr Arglwydd ar ol cymaint a wnaeth efe iddynt. Eithr y mae fy Arglwydd yn dyner wrthyf yn y dydd hwn o brawf. Yr wyf yn cael mai yr hyn yn unig a geisiant yw, ordeiniad, disgyblaeth, a chynulleidfaoedd. O, ai nid ydynt yn hyn yn debyg i'r Israeliaid a geisient frenin er mwyn bod fel y cenhedloedd eraill?" Wedi pregethu yn Cantref, Dolygaer, Llanheiddel, a New Inn, cyrhaeddodd Watford y nos cyn y Gymdeithasfa. Yr oedd yma o fewn dwy filltir i'r Groeswen, canolbwynt y cyffro am ordeiniad, o'r hwn le hefyd yr anfonasid y llythyr i Gymdeithasfa Cayo. O angenrheidrwydd, felly, rhaid fod awydd y cynghorwyr am gael eu hordeinio, a'r cynhwrf yn nglyn â hyny, yn uchaf ar feddwl pawb a ddaethai yn nghyd; a rhaid i'r mater gael ei drafod. Cymerodd Harris fantais ar bresenoldeb llawer o'r brodyr i drin y pwnc yn flaenorol i gynulliad ffurfiol y Gymdeithasfa, gan draethu yn helaeth ei syniadau ei hun, ac ateb rhesymau a gwrthddadleuon. Caiff y dydd—lyfr adrodd yr hanes "Wrth ymddiddan a'r brodyr, dywedais fy mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn tri pheth. Yn mlaenaf, nad oeddwn erioed wedi edrych ar y seiadau fel eglwysi, ond fel canghenau bychain o Eglwys. Yn nesaf, nad oeddwn wedi edrych ar y cynghorwyr fel gweinidogion i weini yr ordinhadau, na, gyda golwg ar lawer o honynt, fel rhai i gyfranu y Gair yn y ffordd o bregethu, ond mewn ffordd o gynghori. Yn drydydd, nad oeddwn wedi edrych arnom erioed fel sect, ond fel pobl o fewn i'r Eglwys, wedi ein galw er mwyn diwygiad, hyd nes naill y gwrandewir ni neu y troir ni allan. Dangosais y rhaid i bwy bynag a elwir i lafurio fel diwygiwr gael cariad cryf i ddyoddef llawer. Dywedais fod yr holl anesmwythder hwn, yn ol fy marn i, yn codi yn—

"I. Oddiwrth Satan yn gweithio yn ddirgel i geisio ein rhanu. Fy rhesymau ydynt y rhai canlynol: (1) Nis gallaf gredu fod y petrusder (gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys) wedi cael ei gynyrchu gan Dduw, gan na ddaeth yr amser eto i'w symud, na gweithredu yn ei ol. (2) Amy rhai ddarfu ildio i'r petrusder hwn, fel pe yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd, nid ydynt wedi llwyddo. (3) Nis gallem gyduno â'r Ymneillduwyr pe yr ymumem â hwy, oblegyd eu Baxteriaeth mewn athrawiaeth, a'u clauarineb fel proffeswyr, tra y byddent hwy yn edrych arnom ni fel rhai urddasol, ac na chaem awdurdod yn eu mysg i fyned yn mlaen â gwaith y diwygiad. (4) Fod y syniad am fyned allan fel sect wahaniaethol yn arswydus i mi.

"II. Yr wyf yn meddwl fod y petrusder hwn yn codi hefyd oddiar hunan. Rhesymau: (1) Y maent yn meddu cryn grediniaeth yn eu gallu i ddeall yr Ysgrythyr. (2) Nid ydynt yn teimlo pwysfawredd y gwaith yn dyfod yn ddigon dwys ar eu heneidiau. (3) Nid ydynt yn gweled canlyniadau yr hyn a geisiant.

"III. Yr wyf yn credu y dangosai yr Arglwydd y dymunoldeb o hyn i'r rhai y mae wedi egluro mwyaf o'i feddwl, ac y dechreuai yr ymraniad (oddiwrth yr Eglwys) trwy y rhai y mae wedi, ac yn, rhoddi mwyaf o amlygrwydd o hono ei hun. Mewn atebiad i wrthddadleuon, dywedais: (1) Nad oedd neb wedi gadael eglwys sefydledig hyd nes y caent eu gwthio allan, megys yr apostolion oddiwrth yr Iuddewon, a'r Protestaniaid oddiwrth y Pabyddion; a bod y diweddaf wedi derbyn yr ordeiniad a'r ordinhadau oddiwrth y Pabyddion am gan' mlynedd cyn ymffurfio yn eglwys. (2) Pan y gwrthddadleuid nad oedd yn debyg y byddai i lawer o'r cynghorwyr gael eu hordeinio gan yr Eglwys Sefydledig, oblegyd diffyg gwybod aeth o'r ieithoedd, atebais, pan yr agorid y drws i ni y rhaid i hyny gymeryd lle trwy i'r Arglwydd agoryd calon (yr Esgobion) i ordeinio o herwydd cydwybod, ac nid glynu wrth ffurfiau; neu ynte rhaid iddynt ein gwthio o'u mysg. (3) Dangosais, gyda golwg ar ordeiniad, er fod llawer yn ein mysg yn ei ddymuno, na ystyrid ef yn beth o bwys mawr yn nyddiau yr apostolion. Pan y pregethai Apolos, na anghymeradwyir ef am fyned o gwmpas heb ei ordeinio, ond am ddiffyg goleuni i adnabod Crist. (Ni roddid pwys ar ordeiniad) ychwaith yn nghlyn â'r rhai a elent o gwmpas pan laddwyd Stephan. Gwrthddadl Ond adeg erledigaeth oedd hyny. Ateb Felly y mae yn awr, pan yr ydym ni yn ceisio cael ein hordeinio.

"Lleferais fy meddwl, a meddwl y brawd Rowland, gyda golwg ar y cynghorwyr, fy mod wrth weled y fath falchder, a'r fath ansefydlogrwydd yn rhwym wrth lawer o honynt, yn crynu drostynt; ac hefyd gyda golwg ar y bobl gyffredin, eu bod yn syrthio i gwsg, o ddiffyg rhai i bregethu iddynt fywyd ffydd, ac i ddangos mai yr hyn sydd o bwys ydyw, nid beth y maent. yn ei deimlo, ond beth y maent yn ei wneyd. Yr wyf yn credu i'r Arglwydd fendithio ein dyfodiad yn nghyd yn rhyfeddol, a thuhwnt i'm dysgwyliad. Cafodd y brodyr fwy o gariad, gostyngeiddrwydd, ac ymddarostyngiad nag a ddysgwyliwn, gan ei gymeryd yn garedig fy mod yn dweyd fy marn am danynt, ac yn dangos na lwyddent os aent yn mlaen (gyda mater yr ordeiniad); ond y profai hyny, yn fy marn i, yn fwy o rwystr i'r gwaith na dim a ddigwyddasai hyd yn hyn. Dywedais fy meddwl hefyd gyda golwg ar ffurf o addoliad, y buasai yn dda genyf pe bae un yr Eglwys yn cael ei ddiwygio, a'i ddefnyddiad yn cael ei adael at farn y gweinidog. Atebais wrthddadl arall hefyd, gan ddangos nas gallai ordeiniad gadw dynion cnawdol rhag ymaflyd yn y gwaith."

Yr oedd hwn tuhwnt i ddadl yn gyfarfod pwysig; ac ymddengys i Howell Harris ei hunan, heb gymhorth neb o'i frodyr, orchfygu y wanc am ordeiniad a ffynai yn mysg y cynghorwyr. Ei brif resymau dros beidio ymneillduo oeddynt yn (1) Ofni nad oedd Yspryd yr Arglwydd yn arwain hyn, ac felly y profai y peth yn rhwystr mawr ar ffordd y diwygiad. (2) Gobaith yr etholid esgobion llawn cydymdeimlad a'r diwygiad, y rhai a ordeinient y rhai mwyaf galluog a chymhwys o'r cynghorwyr, heb roddi gormod o bwys ar ddysgeidiaeth ddynol. Nid rhyfedd ei fod ar ei ben ei hun yn ymostwng gerbron Duw am yr anrhydedd a rodded arno, a'i fod yn gweled teyrnas Satan yn cwympo i'r llawr. Yn y Gymdeithasfa, dranoeth, yr oedd pob peth yn gysurus. Anerchodd Harris y cynghorwyr gyda grym; penderfynasant hwythau i adael i'r mater mewn dadl syrthio, a myned yn mlaen fel cynt. Eithr cydunwyd i dynu i fynu bapyr yn egluro eu holl achos, i'w gyflwyno i'r esgobion. Y noson hono aeth Harris i bregethu i'r Groeswen, at y rhai oeddent wedi ymneillduo. Ei destun oedd yr ymadrodd yn Llyfr y Datguddiad: "Nac ofna; myfi yw y cyntaf a'r diweddaf;" a chafodd odfa anghyffredin. A defnyddio ei eiriau ef ei hun, daeth yr Arglwydd i lawr. "Holl ddymuniad fy enaid,” meddai, "oedd am i'r Arglwydd ddod yno, ac aros yn mysg y bobl, gan nad yw geiriau, na mater, na dyrchafu y llais, nac wylo, yn ddim heb Dduw. Cefais ryddid mawr i ddangos sut y mae Iesu Grist y cyntaf, a'r nerth sydd yn hyn i orchfygu ofn; ei fod y cyntaf o flaen dynion, os oes arnom ofn dyn; y cyntaf o flaen y diaflaid; a'r cyntaf o flaen pechod. Y gallai yr Iesu ddweyd: 'Mi a wn ddechreu dyn, a dechreu Satan, a dechreu pechod; mi a wn eithaf eu gallu,

PHOTOGRAPH O LYTHYR RICHARD TIBBOT AT HOWELL HARRIS, AR YR ACHLYSUR O FARWOLAETH EI BRIOD

a'u cyfrwysdra; mi a allaf blymio eu gwaelodion.' Yna, dangosais y modd yr oedd y diweddaf, a'i fod yn cyhoeddi: Mi a fyddaf y diweddaf gwedi pechod, a dynion, a diaflaid; mi a arosaf ar y maes hyd nes y byddont oll wedi eu concro; mi a arosaf yn dy enaid i'w lanhau hyd nes y byddo yn berffaith. Yr wyf yn dy enaid, i dy olchi hyd nes y byddot yn lan ac yn bur, heb na brycheuyn na chrychni. Yr wyf ynot i ymladd dy frwydrau, hyd nes y byddo yr holl elynion sydd yn dy amgylchu wedi eu concro. Nac ofna, yn y dydd olaf, pan y bydd y cyfan yn cael ei losgi gan dân; mi a fyddaf y diweddaf. Myfi, yr hwn sydd wedi dy garu, a'r hwn wyt tithau yn garu; myfi, yr hwn wyt yn ddymuno uwchlaw y cwbl, a'r hwn yr wyt wedi gadael pob peth er ei fwyn; myfi a fyddaf yno, y diweddaf. Yr wyf wedi bod yn farw, mae yn wir; mi a orphenais dy iachawdwriaeth ar y groes; disgynais i'r dyfnder i orchfygu angau a Satan; ond er i mi farw, yr wyf yn fyw.'" Erbyn hyn, yr oedd yn lle ofnadwy yn y cyfarfod, a'r bobl wedi cyfodi fel gallt o goed ar eu traed. Ond y mae y pregethwr yn myned yn mlaen i gymhwyso'r athrawiaeth. "Dyma ddigon," gwaeddai: "Y mae'r Iesu yn fyw! Dowch yn awr, dyrchafwch eich llygaid at y gwaed! Edrychwch, a chwi a welwch gastell marwolaeth wedi ei ddymchwelyd, y llew wedi ei gadwyno a'i goncro, uffern wedi ei gorchfygu; chwi a gewch weled goleuni yr ochr hwnt i angau." Yr oedd y pregethwr yn awr yn feistr y gynulleidfa; yr oedd yn llawn of ffydd ac o'r Yspryd Glân, a phob gair a lefarai yn cyrhaedd hyd adref. Yna, aeth yn mlaen i daranu yn erbyn gelynion Crist, y Sosiniaid, yr Ariaid, y Deistiaid, y Pab, ac uffern, a gorphenodd y bregeth trwy eu hanog oll i ymostwng i'r Gwaredwr. "Cefais nerth rhyfedd," meddai; "yr oedd fy enaid yn rhydd, ac yn llawn o ffydd, o oleuni, ac o Yspryd yr Íesu. O mor ogoneddus yw y goleu hwn!" Nid annhebyg fod a fynai y nerthoedd a deimlid yn yr odfa yn dwyn gwell yspryd i mewn i fysg y cynghorwyr, lawn cymaint ag ymresymiadau Howell Harris yn y Gymdeithasfa.

O Watford, aeth Harris tua'r Aberthyn, yn dra dedwydd ei feddwl, gan adael y cynghorwyr, a gawsent eu ceryddu ganddo, yn iselfrydig o yspryd. Ei destun yma oedd Es. xx. 2, 3, a chafodd gryn nerth i ddangos beth a wnaethai yr Arglwydd erddynt, ac fel yr oeddynt hwythau yn myned yn mlaen i buteinio oddiwrthi. Yn y seiat a ddilynai, bu y pwnc o ymadael a'r Eglwys dan sylw, ac yr oeddynt oll yn unfryd i beidio ymwahanu. Dydd Sadwrn, aeth i St. Nicholas. Clywodd yma fod y press gang allan, a llawenychai ei enaid o'i fewn wrth feddwl am y peryglon ar ba rai yr oedd ei wyneb. Yn eglwys Wenfo, yr oedd clerigwr tra efengylaidd, ac yn ol ei arfer, pan fyddai yn y gymydogaeth, aeth Harris yno y Sul i wrando y Gair, ac i gyfranogi o'r sacrament. Yna, cyfeiriodd ei wyneb tua chartref, gan basio trwy Watford, a phregethu, gydag arddeliad, yn Mynyddislwyn, Gelligaer, a Pontsticyll, a chyrhaeddodd adref erbyn y cyntaf o Fai, yr hwn oedd yn ddydd o ymostyngiad ac ympryd, yn ol trefniad y Gymdeithasfa. Yn mhen ychydig ddyddiau derbyniodd lythyr o Lundain, yn ei alw i fynu, gan fod llawer o faterion pwysig yn galw am eu trefnu, a Whitefield o hyd yn America. Lledodd yntau y llythyr gerbron yr Arglwydd ; teimlai ei fod yn gyfangwbl at ei wasanaeth ef, fel clai yn llaw y lluniwr ; a theimlai yn anrhydedd i fyned, os oedd Duw yn ei alw. Cyn cychwyn tua'r brifddinas, modd bynag, cymerodd daith faith trwy Orllewin Morganwg, gan ymweled â Llansamlet, a gwlad Browyr; trwy ranau o Sir Gaerfyrddin, ac aeth mor bell a'r Parke, yn Sir Benfro. Yr hyn a'i dygodd yma oedd cydymdeimlad a'i anwyl gyfaill, Howell Davies, yr hwn oedd mewn dyfroedd dyfnion oblegyd colli ei briod. Wedi treulio Sabbath yn Llanddowror, gyda yr Hybarch Griffith Jones, dychwelodd Harris i Abergorlech, lle y cynhelid Cymdeithasfa Fisol. Yno pregethai Daniel Rowland. Cafodd afael ryfedd ar weddi ar y dechreu. Meddai y dydd-lyfr : "Yr anwyl frawd Rowland a weddïodd yn rhyfeddol. Pan aeth i ddeisyf ar ran y genedl, ac i alw Duw yn ol i breswylio yn ein mysg, llanwyd y lle gan bresenoldeb yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo yn sicr i'r weddi hon fyned ar ei hunion i'r nef." Testun Rowland oedd, 2 Cor. vii. 1; a'i fater ydoedd, fod athrawiaeth rhad ras yn ddinystriol i bechod. Yr oedd yr Arglwydd yn y lle mewn modd anarferol iawn. Nid oes unrhyw gofnod o'r Gymdeithasfa ar gael, ond yr hyn a gronicla Howell Harris 66 Meddai : yn ei ddydd-lyfr. Eisteddais gyda'r brodyr yn hwyr, am fod gwarant i bressio allan. Holasom ein gilydd gyda golwg ar ein parodrwydd i fyned i'r rhyfel; yr oedd pob un yn foddlawn, os cai ei alw; ond penderfynasom fod yn synwyrol a chall. Cydunasom i fod yn fwy trefnus. yn ein teithiau, fel y caffai yr wyn well porthiant. Cawsom lawer o gariad, a chymundeb yspryd.". Dychwelodd adref trwy Glanyrafonddu, a Llanddeusant. Ymddengys nad oedd meddwl Harris ei hun ddim yn hollol esmwyth gyda golwg ar y penderfyniad i aros yn yr Eglwys Sefydledig; cyfeiria ato amryw droiau yn ystod y daith; ac wedi dychwelyd i Drefecca, y mae nodiad pur hynod yn y dydd-lyfr "Gweddïais yn daer ar i'r Arglwydd ddychwelyd i'n mysg ; ond pan y cefais atebiad ffafriol gyda golwg ar y gwaith, ni chefais ddim yn ffafr y Sefydliad, yr esgobion, a'r clerigwyr, er fy mod yn dadleu llawer o'u plaid." Yn sicr, y mae y geiriau yn arwyddo cryn anesmwythder yspryd.

Tua chanol Mai, cawn ef a Mrs. Harris yn cychwyn am Lundain. Nid oedd yn ddibryder gyda golwg ar yr achos yn Nghymru yn ystod ei absenoldeb; "ond," meddai, cefais ffydd i gyflwyno yr holl lafurwyr i'w ofal ef, gan fy mod i yn myned i'w gadael am ychydig, a llefais ar i'r Arglwydd fod yn ddoethineb, ac yn nerth iddynt, a'u galluogi i sathru Satan dan eu traed." Erbyn cyrhaedd y brifddinas, cafodd fod y cymdeithasau yno mewn stâd dra annhrefnus; ymraniadau a dadleuon wedi dod i mewn i'w mysg, a chwestiynau wedi codi parthed purdeb buchedd rhai o'r aelodau. "Yr wyf yn clywed y fath bethau yma, ac yn gweled y fath ymraniadau, fel nas gwn beth i'w wneyd nac i'w ddweyd," meddai. "Y mae yn dda i mi mai Crist yw fy holl ddoethineb a'm nerth; yr wyf yn gweled fy mywyd a'm hiechyd yn ei law. O, pa fodd yr ymddygaf yn y dydd hwn o brawf." Un Mr. Cudworth oedd wrth wraidd y drwg, sef yr un ag a fuasai yn cynhyrfu yn flaenorol yn Mryste. Nid yn unig yr oedd wedi dwyn dadleuon i mewn am natur cyfranogiad yr enaid o gyfiawnder Crist, ond yr oedd rhyw helynt flin wedi codi gyda golwg ar ei gymeriad personol, a chyhuddid ef o ryw anfoesoldeb na enwir. Credai Harris am dano na chawsai erioed ei aileni, a'r diwedd a fu tori pob cysyllt iad ag ef. Tua phythefnos y bu Mr. a Mrs. Harris yn Llundain, ac ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn mysg y brodyr Saesnig i wastadhau eu hymrafaelion, a'u dwyn at eu gilydd. Nis gallwn ddifynu y dydd-lyfr am yr yspaid hwn, er y cynwysa hanes manwl a dyddorol, ond y mae ynddo un nodiad tra arwyddocaol. "Neithiwr," meddai, "datgenais mai un gofal yn unig a arferai fod arnaf pan yn esgyn i'r pwlpud, sef ar i bawb yn y cyfarfod gael lles trwy fy ngeiriau, ac ar i Grist gael ei ddatguddio i bawb; ond yn awr fod arnaf bryder gyda golwg ar beth arall, sef ofn rhag i mi dramgwyddo rhyw rai. Ac os gwelaf amryw o blant Duw yn dyfod i wrando gyda chlustiau gochelgar, yn unig er mwyn gweled a ffaelaf, y mae yn brawf dolurus fy mod yn methu credu eu bod yn ceisio fy nghynorthwyo, a dal fy mreichiau i fyny â'u gweddïau. O mor boenus yw dadleuaeth! Mor falch ar bob cyfrif a fyddwn i gael myned i neillduaeth, oni bai mai yr Arglwydd ddarfu fy ngalw yma." Awgryma y nodiad fod rhai o'r frawdoliaeth, yn Llundain, yn dechreu amheu a oedd Harris yn iach yn y ffydd, ac yn myned i'w wrando gyda y bwriad o'i ddal yn tripio. Bu ef a'i briod am gryn amser tua Bath a Bryste ar eu ffordd adref, ac yr oedd yn Fehefin 26, pan y cyrhaeddasant Drefecca.

Llonwyd calon Howell Harris yn fawr wrth ddeall fod y gwaith da wedi myned rhagddo yn Nghymru yn ystod ei absenoldeb. Clywai yn arbenig am y nerth oedd yn cydfyned a gweinidogaeth Howell Davies, ac enynodd ei enaid yn fflam ynddo o'r herwydd. "Llonwyd fy yspryd," meddai, "â diolchgarwch, ac hefyd â chariad ato, ac at bob tyst sydd gan Ďduw yn y byd. O ddaioni fy Arglwydd, yn fy mendithio fel pe na byddwn un amser yn pechu yn ei erbyn! Tynwyd fy enaid allan mewn llawenydd oblegyd y doniau, y grasau, y llwyddiant, y doethineb, a'r nerth y mae yn roddi i eraill." Yn sicr, ceir yma ryddfrydigrwydd yspryd na welir yn aml ei gyffelyb. Yn fuan clywodd fod dyn yn dyfod y dydd hwnw o Aberhonddu, er ei gymeryd, a gwneyd milwr o hono. Teimlai nerth ei natur lygredig fel y gwelwodd wrth glywed y newydd. Ond aeth i'r dirgel; yno cafodd olwg ar ogoniant yr Arglwydd Iesu Grist, fel un a phob awdurdod yn ei law. Gwelai fod y diaflaid, a phob math o ddrwgddynion, ac yn eu mysg y dyn â'r warant, o Aberhonddu, mewn cadwyn ganddo ef. Llanwodd hyn ei yspryd a thangnefedd. Gwelai werth yr addewidion, yn neillduol yr addewid, "Pan elych trwy y dyfroedd myfi a fyddaf gyda thi," fel y galluogwyd ef, nid yn unig i fod yn dawel o ran ei feddwl, ond hefyd i gysuro ei deulu. Eithr ystori gelwyddog oedd y chwedl yn y diwedd; neu, os oedd y cyfryw ddrwgfwriad yn mryd y gwrthwynebwyr, ni roddwyd mo hono mewn grym.

Ar y 3ydd dydd o Orphenaf cynelid Cymdeithasfa Chwarterol, yn Blaenyglyn. Nid oedd Daniel Rowland yno, eithr daethai Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, i'r cyfarfod, yn nghyd â'r Parch. John Powell, yr offeiriad, o Fynwy. Fely gellid disgwyl, yr oedd Howell Harris hefyd yn bresenol. A ganlyn yw y cofnodau:—

"Wedi derbyn llythyr oddiwrth y brawd George Gambold, gyda golwg ar ei alwad, pa un ai (cynghorwr) cyhoedd neu breifat fyddai, a chwedi deall fod ei ddoniau yn hytrach at adeiladu y saint nag at argyhoeddi, a'i fod wedi cael ei fendithio mewn amryw leoedd yn gyhoeddus, ni a ledasom. y mater gerbron yr Arglwydd, ac yna ni a'i cyflwynasom i'r brawd Howell Davies, gan adael iddo benderfynu yn mha leoedd y caffai lefaru yn gyhoeddus, ac yn mha leoedd yn breifat, a hyny ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Gwedi derbyn dau lythyr, un oddiwrth y brawd John Richards, a'r llall oddiwrth. y brawd Richard Tibbot, y rhai oeddynt mewn cryn betrusder pa fodd i ymddwyn ar hyn o bryd, gan y byddent yn sicr o gael eu pressio pe yr aent i rai lleoedd yr arferent fyned iddynt, ac yn gofyn am gyfarwyddyd, ai nid gwell iddynt roi eu hunain y tuhwnt i gyrhaedd gelynion, trwy gymeryd trwydded, cydunasom oll y byddai cymeryd trwydded, yn bresenol, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd, yr un fath ag y byddai gadael y gwaith. Meddyliem, felly, mai gwell i'r rhai sydd allan o afael y gelyn fyned i'r lleoedd mwyaf peryglus, a'r lleill fyned yn fwy preifat, gan arfer pob doethineb diniwed, am mai prawf am amser ydyw hwn, ac na ddylai gael edrych arno fel erledigaeth. Ond am y brawd William Richard, yr oedd efe a'i feddwl mor llawn o amgylchiad Daniel fel y teimlai ei hun dan rwymau i fyned fel cynt. Cydunasom hefyd, os deuai yr erledigaeth yn gyffredinol, a'r efengyl yn cael ei rhwystro yn hollol, i apelio at y llywodraeth. Os gwrthodir ni yno, i ddeisebu yr esgobion; yna, os cymerir ein rhyddid ymaith yn gyfangwbl, bydd y ffordd yn rhydd i ymwahanu.

Darllenwyd adroddiadau y brodyr, y rhai a ddygent newyddion da am lwyddiant yr efengyl yn y rhan fwyaf o leoedd; y brodyr Thomas James a Thomas. Williams, heb ysgrifenu adroddiad.

"Cydunwyd fod i'r brodyr dderbyn tanysgrifiadau er argraffu llyfr Elizeus Cole, ar Benarglwyddiaeth Duw,' yn Gymraeg, hyd y Gymdeithasfa nesaf."

Rhaid fod gwrthwynebiad y brodyr i ymneillduo, ac i ymffurfio yn blaid, yn gryf, pan y dewisent gymeryd eu llusgo o fynwes eu teuluoedd, a'u rhwygo oddiwrth y cymdeithasau oedd mor anwyl ganddynt a'u llygaid, yn hytrach na gosod eu hunain allan o gyrhaedd y perygl, trwy gymeryd trwydded i bregethu, a thrwy hyny gyf addef eu hunain yn Anghydffurfwyr. Gweddus cadw mewn cof hefyd fod y rhai a basient y penderfyniad uchod yn agored i'r ddryc-hin eu hunain. Disgwyliai hyd yn nod Howell Harris bob dydd i'r awdurdodau anfon gwarant i'w gymeryd. Yn ychwanegol, yr oedd amryw o'r cynghorwyr a gawsent eu pressio yn barod yn bresenol yn y cyfarfod, wedi cael caniatad i ymweled â'u brodyr; ac am beth amser buont hwy a'r lleill yn cydgymysgu eu dagrau, ac yn cyd-ddyrchafu eu hocheneidiau at Dduw. Y rhai y cyfeirir atynt, fel allan o berygl, oedd y rhai a gawsant eu hordeinio, naill ai yn yr Eglwys Sefydledig, neu yn ol trefn yr Ymneillduwyr. Tybiai Howell Harris mai y dull goreu i ddwyn y cyfarfod i deimlad o . ymddiriedaeth tawel oedd cyfeirio at wirioneddau tragywyddol yr iachawdwriaeth. "Cyfeiriais," meddai, "gyda grym at berygl ein synwyr ein hunain, ac at ddirgelwch y Duwdod, nad yw yn bosibl ei ddirnad ond trwy ffydd yn ngoleuni yr Yspryd. Dangosais fel y mae fy llygaid yn dechreu cael eu hagor i ganfod mawr ddirgelion y Duwdod. Yn (1) Y Gair yn cael ei wneuthur yn gnawd. (2) Y Trindod mewn undod. (3) Gwirioneddolrwydd yr undeb rhyngom a Christ. Credaf i hyn brofi yn foddion i gyffroi y brodyr allan o'u doethineb eu hunain, i dremio ar y dirgeledigaethau dwyfol; ac yn arbenig cynhyrfwyd hwy wrth edrych ar y gwaed. Yno yr ydym yn gweled y Tad, y Mab, a'r Yspryd. Yno yr ydym yn canfod cariad tragywyddol Duw. A daeth yr Arglwydd i lawr, ac yr oeddym yn ddedwydd yn nghyd." Byddai yn anhawdd cael gwell engrhaifft nag a geir yma o saint yn ymddiried yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef, nes yr oedd ofn perygl yn cael ei lyncu o'r golwg gan fawredd y tra-ragorol ogoniant sydd yn Nuw.

Ar y 16eg o Orphenaf, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Erwd, ac a ganlyn yw ei chofnod: "Yn y Gymdeithasfa hon, ni phenderfynwyd dim neillduol, ond treuliwyd yr amser mewn canu, a gweddïo, ac agor ein calonau i'n gilydd gyda golwg ar ansawdd y gwaith, ac ystâd yr Eglwys a'r genedl. Buom yno am rai oriau, a daeth Duw i'n mysg, gan ein dal i fynu."

Tua diwedd y mis, aeth Harris am daith i Sir Forganwg, hanes pa un a ddifynwn allan o'i ddydd-lyfr:—

"TREFECCA, Sul, 28 Gorphenaf, 1745. Gan mai heddyw yr wyf yn dechreu fy nhaith trwy Sir Forganwg, syrthiais gerbron yr Arglwydd, a chefais agoshad nodedig ato wrth ofyn ar ran fy anwyl wraig, a'm teulu. Atebodd fi y cawn ei gweled drachefn, a'i derbyn o law marwolaeth, fel y gwnaethwn y boreu hwn wrth ddihuno. Čefais ryddid i ddeisyf gyda golwg ar fy nhaith, am i mi gael fy mendithio, a chael fy ngwneyd yn fendith i bawb, pa le bynag yr af. Wedi gweddïo gyda'r teulu, cychwynais. Pan gyrhaeddais Cantref, yr oedd y brodyr yn dyfod allan o'r eglwys. Siriolwyd fi yn fawr wrth eu cyfarfod; a fflamiwyd fy enaid ynof wrth glywed pa mor dda yw efe i'r brodyr sydd wedi cael ei pressio. Ar y ffordd tua Watford, cefais gryn agosrwydd at Dduw. wrth ganu, ac wrth folianu ei enw am y trugareddau a roddasai i eraill. Daethum yno o gwmpas saith, gwedi trafaelu oddeutu deugain milltir mewn wyth awr. Yno, mi a lewygais gerbron y bobl ar derfyn y weddi; gwedi dyfod ataf fy hun, lleferais oddiar yr ymadrodd: 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd.' Cefais ryddid mawr wrth gyfeirio at undeb y naturiaethau, ac at waed y Duwdod. Daeth y nerth i lawr yn benaf wrth fy mod yn cymhwyso yr athrawiaeth, gan ddangos fel y mae y ddynoliaeth yn Nghrist wedi ei huno â Duw, felly yr ydym ninau ynddo wedi ein huno â Duw. Cefais gymorth i Cefais gymorth i egluro yr undeb hwn, fel y mae yr enaid a'r corph yn un â Christ, ein henaid ni yn un a'i eiddo ef, a'n corph ni a'i gorph ef. Yna, cyfeiriais ataf fy hun, er i dân losgi fy nghorph, ac i bryfed ei fwyta, eto y cawn ef drachefn yn ogoneddus. Cefais ryddid mawr i'w cyffroi i fyw yn ngolwg Crist, ac i gadw yn agos ato."

Bwriedid cynal Cymdeithasfa yn Watford, am yr hyn y ceir y nodiad canlynol yn Nghofnodau Trefecca: "Bwriadem gynal Cymdeithasfa, ond yr oedd y brawd Price wedi myned i Sir Gaerfyrddin, ac nis gallem gael cyfarfod a'r brawd Richard Jones, yr hwn yr oedd pob moddion wedi eu defnyddio tuag ato, er ei ddiwygio oddiwrth ei ddiofalwch, a'i esgeulusdra gyda'r gwaith. Dymunwyd arno drachefn i beidio llefaru yn gyhoeddus hyd nes y caffai ei adnewyddu drachefn trwy edifeirwch, a phenderfynodd y brodyr i beidio anfon am dano hyd nes y byddo achos Duw yn pwyso mwy ar ei galon."

Ond i ddychwelyd at y dydd-lyfr : "WATFORD, dydd Llun. Heddyw, gwelais ddirgelwch y gwaed yn fwy nag erioed; yr oedd gerbron fy llygaid trwy y dydd. Gwelwn fy holl iachawdwriaeth, a'm nerth, a'm ffynon i ymolchi, fel môr yn llifo allan oddiwrth Dduw, yn rhinwedd yr undeb dirgeledig; ac felly fod ei gwraidd yn Nuw. Llefwn am i ogoniant y gwaed a'r cyfiawnder yma gael ei amlygu trwy yr holl fyd, gan fod pob gwirionedd yn cyfarfod ac yn canolbwyntio yn y gwirionedd hwn---y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd. Cefais ryddid i ddangos i'r brawd Thomas William mai Duw yw y pen saer celfydd; mai efe sydd yn gwybod i ba le yn yr adeiladaeth y mae pob un yn gymhwys; ac hyd nes y byddo pawb yn y lle a fwriada efe iddynt, mai gwanhau, ac nid cryfhau, yr adeilad a wnant." Tebygol fod cyfeiriad y sylwadau hyn at awydd cynghorwyr y Groeswen am ordeiniad, fel y byddai ganddynt hawl i weini yr ordinhadau, ac felly sefyll ar yr un tir a gweinidogion Ymneillduol. Datgenais fy syniad fy mod yn gweled rhyw gymaint o Dduw yn mhob ffurf ar addoliad - Esgobyddiaeth, Presbyteriaeth, ac Annibyniaeth-a rhyw gymaint o'r dyn hefyd, efallai. Geill pob un o honynt fod yn iawn ar ambell adeg, mewn rhai lleoedd, a than ryw amgylchiadau; ond nis gall un o honynt fod mor gyffredinol iawn, fel ag i beidio goddef y lleill. Y mae gwahaniaeth mawr hefyd rhwng pan fyddo y brenin a'r llywodraethwyr yn Gristionogion, a phan fyddant yn elynion Crist.

"Daethum yn fy mlaen i Dinas Powis. Cefais lawer o ryddid wrth weddïo, ac wrth lefaru ar Matt. i. 21. Yr oeddwn wedi cael awdurdod i drywanu, i ddeffroi, ac i argyhoeddi. Dangoswn fel yr oedd Duw yn cashau pechod, ei fod wedi dyfod i'w ddinystrio, wreiddyn a changen; a pha le bynag y byddo Yspryd yr Arglwydd, yno y bydd rhyfel, hyd nes y byddo pechod wedi ei orchfygu. Dangosais sut y mae yn ei ddinystrio, trwy ddatguddio y gwaed. Yma yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw. Llefarais mewn modd argyhoeddiadol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ddatgan mai fy ngwobr i am fy llafur oedd eu gweled hwy yn rhodio gyda Duw. Er fy mod yn wan, yn sâl, mewn poen, ac yn mron llewygu, siaradais yn breifat hyd adref am rodio yn sanctaidd, am gadw dysgyblaeth, am dori allan pwy bynag sydd yn rhodio yn anweddaidd, a rhwystro pawb i gynghori oni fydd arwyddion fod y gwaith ar eu calonau. Cefais ryddid mawr gyda y rhan hon hefyd. Deallais fod y gelyn. yn ceisio fy nuo, a gwanhau fy mreichiau, trwy daenu ar led fy mod wedi syrthio i gyfeiliornadau. Yn hyn hefyd cefais fy nghadw yn dawel a diolchgar, er yn nghanol poen.

"DINAS POWIS (dydd Mawrth). Neithiwr cadwyd fi yn agos at yr Arglwydd, yn mhell uwchlaw'r cnawd, yn fy mhoenau i gyd. Yr wyf yn cael fod y brawd Wesley, yn nghyd â'r brodyr, yn fy narlunio fel wedi syrthio i gyfeiliornadau. Yn hyn yr wyf yn llawenychu, eu bod yn fy ngwneyd i yn ddim, gan fy yspeilio o fy enwogrwydd, ac o'r eneidiau (a argyhoeddwyd drwof), fel y byddo i'r Person rhyfeddol sydd fry gael ei ddyrchafu. Llefais: 'O Arglwydd, na chofier fi, ond i'r graddau y byddot yn defnyddio y cof am danaf, er ledu dy foliant di. Dysg bawb i dy adnabod; galluoga ni oll i feddwl ac i lefaru yn iawn am danat ti.' Aethum tua St. Nicholas, rhyw bum' milltir o bellder, mewn poen mawr o herwydd y ddanodd. Gelwais gyda Mr. Hodge, a chefais ef yn llawn cariad. ddaeth yr amser i lefaru, rhoddodd yr Arglwydd nerth ynof i wynebu ar y gwaith, a chefais lawer o awdurdod a goleuni. Yr oeddwn yn llym yn erbyn y rhai a esgusodent bechod, neu a geisient dadogi y bai ar bai ar Dduw; dangosais fod gwraidd pob drwg ynom ni, ac yn y diafol. Yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw wrth ddynodi y gwirionedd yn cynyddu yn y pen, ac nid yn y galon. Yn breifat, drachefn, yr oeddwn yn agos iawn parthed chwynu y seiat, a pheidio goddef drygioni ynom ein hunain, nac yn neb arall, onide y byddai i'r Arglwydd ein gadael. Datgenais na wnawn arbed neb, ond y trown allan bawb a rodiai yn anweddaidd, pwy bynag fyddent. Gwrthddadl : Yna, ni a awn yn ychydig. Ateb: Pe na baem ond dau, bydded i ni fod yn nghyd yn yr Arglwydd. Gwrthddadl: Fe â y seiadau i lawr. Ateb: Gadawer iddynt fyned; oni chawn seiadau yn yr Arglwydd, bydded iddynt oll fyned yn ddarnau mân. Yna, gosodais o'u blaen achos Richard Jones; ei fod wedi cael ei ddystewi oblegyd ei ddifaterwch, ac eto, fod rhai yn ei alw i lefaru. Datgenais ei fod wedi tristhau yr Arglwydd, a'i fod yn dangos nad yw achos Duw yn agos at ei galon; ac hyd nes y rhoddir edifeirwch iddo, nas gallaf gydlafurio ag ef, ac na ddeuaf ychwaith i'r seiadau sydd yn ei alw. Yr wyf yn gwneyd hyn o gydwybod tuag at Dduw. Pan ddatgenais felly, llewyrchodd yr Arglwydd yn fy enaid; toddodd fy nghalon ynof yn felus, gan ddwyn tystiolaeth ddarfod i mi ryngu ei fodd ef. Aethum ymaith yn llawn cariad.

Cyfeiriais fy nhraed tuag Aberddawen erbyn chwech. Yr oedd poen y ddanodd yn mron bod yn annyoddefol, ond gwnaed i fy enaid fendigo a moli Duw o'r herwydd; gwelwn mai gwialen ydoedd, oblegyd fy mod yn crwydro oddiwrth yr Arglwydd, ac yr oeddwn yn caru Duw am dani. Gelwais yn Ffonmon, ond gan mor fawr oedd y boen, nis gallwn aros yma ond ychydig fynydau. Pan ddaethum i Aberddawen, cefais lonydd gan y boen i lefaru i dorf fawr ar, i dorf fawr ar, Byddwch lawen yn wastadol;' ond trowyd fy ymadrodd i fod yn finiog a llym. Daethum i Pentrythyn, rhyw chwech milltir o ffordd; yr oedd y boen yn dyfod yn mlaen drachefn; teimlwn fy mod wedi cael fy ngwaredu oddiwrth angau, ond O, mor wan a fyddwn mewn poenau oni bai fod genyf Dduw! Cefais ddyoddefgarwch wrth dynu y dant allan; pan yr oedd y boen yn aros drachefn, gofynais feddwl yr Arglwydd gyda golwg ar dynu dant arall; gwedi tynu hwnw allan darfyddodd y poenau.

"PENTRYTHYN (dydd Mercher). Neithiwr, yn Aberddawen, yr oedd llawer o bobl Mr. Wesley yn gwrando, a dywedais ein bod ni a hwythau yn cyduno gyda golwg ar hyn, y rhaid i ni gael ein gwaredu oddiwrth bechod yn y pen draw, a bod y Cristion yn llawenychu yn yr olwg ar hyn; ei fod yn llawenychu hyd yn nod yn nghanol ei alar oblegyd llygredigaethau ei natur, gan fod Duw yn ei garu, yn maddeu iddo, ac yn edrych arno fel yn berffaith yn Nghrist. Y boreu hwn, yn y dirgel, cefais olwg bellach yn fy yspryd, y rhaid i mi fod ar fynydd Seion, yn nghymdeithas myrddiwn o rai sanctaidd, ac felly, gwelwn fy hun yn estron yma. Aethum o gwmpas un i lefaru yn yr Aberthyn, a chefais odfa anghyffredinol o nerthol wrth bregethu ar, Aroswch yn fy nghariad.' Yr oeddwn yn llym wrth y rhai nad oedd a'u holl hyfrydwch yn Nuw. O mor felus yw cael pregethu yn yr Arglwydd! Yr oedd y cynulleidfaoedd yn lliosocach nag arferol yn y rhan fwyaf o fanau. Yna aethum i'r seiat breifat, ac eisteddasom i fynu yr holl nos, hyd yn agos i chwech; a rhyfedd fel y cryfhaodd yr Arglwydd fi yn fy enaid a'm corph. Daeth efe yno; gwnaeth ni fel fflam o dàn â'i gariad; cynysgaethodd ni â bywyd, a nerth, a gwres. Yr oeddwn yn llym atynt, na oddefent bechod yn eu mysg, na dim tebyg iddo. Yna cadarnheais eu ffydd yn y gwaith, gan ddangos fod pob arwydd ei fod o Dduw, a'i fod wedi ymledu trwy yr holl wlad, eu hochr hwy a'r ochr arall i'r môr. Am yr wrthddadl fod yr offerynau yn wael, atebais fod hyn yr un fath ag yn amser yr apostolion; ac, yn llaw Duw, fod yr offerynau gwaelaf gystal a'r goreu. Cyfeiriais at ataliad Richard Jones oddiwrth bregethu, oblegyd ei ddifaterwch, ac na oddefai gerydd, gan ddangos y rhaid i ni fod yn un mewn gwrthod ei fath, onide na fydd dim awdurdod yn ein mysg. Yna dangosais, gyda grym, yr anghenrheidrwydd am i bawb gael eu dysgu gan Dduw, a'u llanw o hono, ar gyfer eu lleoedd. Yna, wrth ganu a gweddio, taniwyd ein hysprydoedd; yr oedd yr Arglwydd gyda ni yn wir. Cadwyd fy llygaid yn sefydlog ar y Jerusalem newydd, yr oeddwn yn llawn o deimlad, ac yn awyddu bod yno. Cynhyrfais y brodyr yn erbyn y diafol, gan ddangos fel y darfu iddo ein dinystrio ar y cyntaf, ac fel y mae yn parhau i'n rhanu, ac i'n gwneyd yn annedwydd. Erbyn hyn yr oedd y brodyr yn llawn bywyd. O, gogoniant i Dduw am ddychwelyd atom eto! Cyfeiriais at y dirgelwch mawr; y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd, a'r modd y llewyrchodd arnaf gyntaf. Gwedi hyn, cliriwyd amryw achwyniadau oedd ganddynt yn erbyn eu gilydd, ac yr oeddynt yn awr yn hollol rydd oddiwrth y demtasiwn i ymneillduo."

Er mor ddyddorol yw y dydd-lyfr, rhaid i ni frysio yn mlaen. Aeth o'r Aberthyn i Penprysc, ffermdy, nid yn nepell o Lantrisant, lle y pregethodd gyda nerth anarferol iawn, oddiar Matt. xxviii. 18. Toddai y gynulleidfa fel llyn dwfr tan ddylanwad y Gair. Yr un diwrnod (dydd Iau) llefarodd mewn lle o'r enw Hafod, oddiar y geiriau: "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." Tybia na chafodd y fath nerth i bregethu erioed o'r blaen. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn y lle. Wylai llawer yn hidl; bloeddiai eraill dan rym argyhoeddiad; cafodd Satan ei glwyfo, a dynoethwyd angau yn ogoneddus gerbron y credinwyr, fel yr wylai Harris ei hun ddagrau melus o lawenydd. Gwaeddai: "Nid wyf yn gofalu pa un a fydd trefn ar fy mhregethu a'i peidio; nid trefn sydd arnaf eisiau, ond gallu." Aeth yn ei flaen i gyfeiriad Castellnedd, a chlywai fod y werinos yno wedi penderfynu ei fobio. Gwingai y cnawd o'r herwydd am ychydig, ond tawelodd Duw ei yspryd yn fuan. Cyn cyrhaedd yno pregethodd mewn lle o'r enw Cwrt Herbert, ar "Byddwch lawen yn wastadol." Cafodd dynerwch mawr yma wrth wahodd yr holl gynulleidfa at Grist. Cafodd lonydd gan werinos Castellnedd. Yn Llansamlet, darfu i oruchwyliwr y tir ar ba un y safai wrth bregethu, gydio yn ei geffyl ef, a cheffylau y cynghorwyr eraill, at y rhent oedd yn ddyledus ar yr amaethwr. Aeth Harris i siarad ag ef; dangosodd yr a'i gwaith Duw yn mlaen er pob gwrthwynebiad. Cynygiodd y goruchwyliwr ei geffyl yn ol iddo, ond iddo addaw na ddeuai yno i bregethu drachefn. Atebai yntau, nas gallai addaw y fath beth am fil o geffylau, nac am ei fywyd. Yr oedd ganddo ddigon o gariad i ddymuno gweled y dyn anghyfiawn yn y nefoedd; nid yn unig boddlonai i'r ceffyl gael ei gymeryd, ond bendithiai Dduw am hyny, am y tueddai yn flaenorol i fod yn falch o'r anifail. Oddiyno brysia yn mlaen i ffermdy, o'r enw Perllan-Robert, yn Nghymydogaeth Abertawe, yn yr hwn le yr oedd Howell Davies yn pregethu. Pa beth oedd yn dwyn Efengylydd Penfro i Forganwg, nis gwyddom. Pregethodd, gyda dylanwad, oddiar Zech. xii. 8; dywed Harris ei fod yn marchog ar adenydd yr Hollalluog; a bod yr odfa yn un nerthol anarferol. Yr oedd cydgyfarfyddiad y ddau gyfaill, a ymdreulient yn ngwasanaeth eu Harglwydd, yn adnewyddiad yspryd i'r ddau. Hysbysai Mr. Davies fod llwyddiant rhyfedd ar y gwaith yn Sir Benfro, yn y rhanau Saesnig a'r rhai Cymreig. Aeth Howell Harris yn ei flaen trwy Abergorlech, Glanyrafonddu, Llanddeusant, a Llywel, gan gyrhaedd Trefecca, gwedi absenoldeb o bythefnos. Trwy yr holl daith yr oedd ei gorph yn wan; llewygai weithiau gan lymder y poen a ddyoddefai; ond nerthai yr Arglwydd ef yn rhyfedd pan godai i lefaru, a chafodd odfaeon mor nerthol ag a gafodd yn ei fywyd. Yr oedd cyflwr yr eglwysi yn Lloegr hefyd yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl; dywed iddo gael llythyrau o Lundain, yn dangos fod yr annhrefn yn y seiadau yno yn parhau; ei gysur yn ngwyneb yr oll ydoedd mai yr Arglwydd sydd Dduw.

Awst 8, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, yn yr hon y llywyddai Howell Harris. Y mae ei chofnodau fel y canlyn:—

"Agorodd y brawd Harris, trwy ddangos ansawdd gwaith yr Arglwydd yn Lloegr, Scotland, Cymru, America, a Ffrainc; ac yna agorodd pob un ei galon gyda golwg ar ystâd y gwaith yn ein mysg ni, a chyflwr y genedl. Dymunai y brawd Morgan John Lewis i ddeiseb at yr esgobion gael ei thynu i fynu, ac i un neu ddau o bersonau priodol gael eu hanfon o bob seiat at yr offeiriaid plwyfol, i geisio mewn modd tyner dyfod i gydddealltwriaeth â hwy, er gweled pa effaith a gaffai hyn, dan fendith Duw, i hyrwyddo y diwygiad. Tybiai eraill na ddaethai yr amser eto, a bod y gwaith yn sicr o fyned yn ei flaen.

"Cymerwyd i ystyriaeth anwiredd y wlad, cyflwr y proffeswyr, ein pechodau a'n gwaeleddau ein hunain; a chawsom adnewyddiad dirfawr wrth glywed am y moddion a ddefnyddiodd yr Arglwydd yn Ngogledd Cymru, lle yr oedd y drws wedi ei gau yn erbyn y Gair, i ddwyn yr efengyl i'r trefi; sef trwy ddyn ieuanc a gawsai ei bressio i'r fyddin, yr hwn a galonogwyd, ac yn wir a gymhellwyd, i bregethu gan y cadben, yr hwn a safai wrth ei ochr, gyda ei gleddyf noeth yn ei law, i'w amddiffyn tra y pregethai.

"Rhai o'n rhesymau paham na wnai Duw roddi i fynu y genedl hon ydynt y canlynol: (1) Anchwiliadwy olud ei ras. (2) Fod ganddo eglwys yma, oddiar adeg y Diwygiad Protestanaidd. (3) Y diwygiad diweddar, yr hwn a ddechreuwyd ganddo mewn modd mor nodedig, trwy foddion anarferol. (4) Ei waith yn dwyn y diwygiad yn mlaen er gwaethaf pob gwrthwynebiadau, y rhai ydynt eto yn parhau. (5) Ei fod yn cadw meddyliau y llafurwyr mor rhydd, a chatholig, heb duedd at ymwahanu. (6) Ei waith yn dyogelu ein rhyddid i ni, fel nad oes cyfreithiau erlidgar wedi cael eu pasio. Cynghorodd y brawd Harris yn wresog; a chwedi canu a gweddio, a thywallt ein calonau y naill i'r llall, yr oeddym yn dra hapus a gwynfydedig. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn ein mysg, a rhoddodd i ni lawer o fendithion."

Awgryma y cofnodion amryw gwestiynau, ond rhaid i ni basio. Ymddengys fod cynygiad Morgan John Lewis, parthed deisebu yr esgobion, a nesu at offeiriaid y gwahanol blwyfydd, wrth fodd calon Howell Harris, a dywed yn ei ddydd-lyfr y canfyddai M. J. Lewis a James Ingram fel colofnau o nerth i'r achos. Dywed yn mhellach, iddo egluro i'r cyfarfod yr anghydfod a gyfodasai rhyngddo ef a John Cennick. Am tranoeth, ysgrifena ei fod yn ddydd o brawf iddo. Daeth i'w law bapyryn o waith Archesgob Caergaint, wedi ei gyfeirio at y Methodistiaid. Wedi darllen hwnw, yn ol pob tebygolrwydd dynol, nad oedd dim gobaith i'r gwaith fyned yn y blaen (yn yr Eglwys); a gwnaed iddo edrych at Dduw yn unig, gan adael y mater i orphwys gydag efe.

Ar y 22ain o Awst, yr oedd Cymdeithasfa yn y Tyddyn. Llywyddai Daniel Rowland, ac yr oedd Williams, Pantycelyn, hefyd yn bresenol. Cyn cychwyn tuag yno clywodd Harris fod dau o'r brodyr Saesnig wedi troi eu cefnau, ac aeth y newydd i'w galon fel dagr. Pregethai Williams, Pantycelyn, ar yr adnodau blaenaf yn Ioan xv. Marwaidd oedd yr odfa; ond pan aeth Rowland i weddïo daeth awel dyner dros y cyfarfod. Gymdeithasfa hon yw yr olaf y croniclir ei gweithrediadau yn nghofnodau Trefecca; o hyn allan rhaid i ni ddifynu am yr hanes ar y dydd-lyfr, ac ar y llythyrau. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Cydunwyd fod y brawd Evan David i fyned yn mlaen fel cynt; felly hefyd Andrew Whitaker.

"Wedi ymddiddan maith a'r brawd Benjamin Cadman, gan nad yw yn benderfynol yn ei feddwl pa un a'i uno â ni, neu ynte â'r Ymneillduwyr, a wna, cydunwyd ei fod i ymatal oddiwrth gynghori hyd y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf; a bod ei benderfyniad ef, a barn y seiadau, gyda golwg arno, i gael eu dwyn yno gan y brawd Richard Tibbot."

Yn y dydd-lyfr, dywed Howell Harris ddarfod i ymgeisydd oddiwrth yr Ymneillduwyr ddyfod i'w mysg; bu y frawdoliaeth yn ymresymu ag ef, gan ddangos fod cryn wahaniaeth rhwng yr Ymneillduwyr a hwythau, ac nas gallai gyduno a'r ddau, a'u bod yn gweled y rhai a ymunent a'r Ymneillduwyr yn dilyn rheswm cnawdol, ac yn myned yn glauar; eu bod yn dymuno llwyddiant a nerth iddo; ond os byddai yn ffyddlon fel hwy mewn cysylltiad ag Eglwys Loegr, ac ar yr un pryd ddatgan yn erbyn ei llygredigaethau, y byddai yn sicr o gael ei nerthu. Cydunodd pawb ar hyn. Yn yr hwyr, wedi y Gymdeithasfa, aethant tua thỷ Thomas James, tua deng milltir-ar-hugain o bellder, ac ar y ffordd, testun y siarad oedd, ysprydion a bwganod. Clywodd Harris y fath hanesion am danynt, ac am y pethau a wnaent, nes y treiddiai iasau trwy ei gnawd.

Tua chanol Medi, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol y brodyr Saesnig yn cael ei chynal yn Caerloyw, ac oblegyd yr anghydfod a fodolai yn eu mysg, teimlai Howell Harris ei hun dan rwymau i fyned yno. Mor fuan ag y cyrhaeddodd, daeth John Cennick ato, gan agor ei galon, a dangos fel yr oedd achos Duw yn pwyso ar ei feddwl, ac fel yr oedd ymddygiadau rhai o'r brodyr wedi blino ei enaid, a pheri iddo wylo ffrydiau o ddagrau wrth draed y Gwaredwr. Mynegai, yn mhellach, ddarfod iddo ymgynghori ag amryw y teimlai ymddiried yn eu barn, a'u bod yn cyduno y rhaid iddynt hwy eu dau, Cennick a Harris, ymgymeryd a holl ofal yr achos, a rhoddi y brodyr ieuangaf tan ddysgyblaeth. "Pan y dywedodd," meddai Harris, "fod arno eisiau rhywun a ai gydag ef at yr ystanc, teimlais agosrwydd mawr ato; ond yr oedd fy mhechadurusrwydd a fy ngwendid yn rhythu arnaf." Ei benderfyniad oedd cyflwyno yr holl fater i'r Arglwydd, a dyma ei eiriau gerbron yr orsedd: (1) "Nis gallaf ymwrthod â'r anrhydedd hon, a sefyll yn erbyn yr alwad am fil o fydoedd. (2) Nid oes genyf unrhyw ateb i'w roddi, ond lledu ger dy fron di fy holl bechodau, a'm hannheilyngdod, a'm hammurdeb, a'm balchder, a'm tymher, a'm hanghymhwysder. (3) Os wyt ti yn fy ngalw, yna gwn y derbyniaf o'th drysor ras i lanw fy lle, ac argyhoeddiad llawnach gyda golwg ar beth yw dy ewyllys. (4) Dyro i mi olwg newydd ar dy eglwys, ac ar dy achos; gâd i mi ei deimlo wedi ei osod yn fy nghalon; (ac felly y cefais. Rhoddwyd i mi ddatguddiad helaethach o ogoniant a dirgelwch yr eglwys, fel priod i Dduw, ac wedi ei dyrchafu allan o bechod ac uffern i ogoniant. Yn y goleu hwn, er nad oedd ond gwan, gwelwn bob rhwystr fel dim o flaen yr eglwys ogoneddus.) (5) Yna dyro i mi lygad eryr, er doethineb a dealltwriaeth; nerth ych, er amynedd, diwydrwydd, a sefydlogrwydd; a chalon llew, er dewrder, beiddgarwch, a phenderfyniad, fel y gallwyf dy ogoneddu a llanw y lle hwn. (6) Cwyd fi uwchlaw y bywyd hwn, gan nad yw yr holl a berthyn iddo ond tarth a gwagedd."

Nid oedd unrhyw swm o waith yn ormod i'r Diwygiwr o Drefecça ymgymeryd ag ef. Ar ei ysgwydd ef yn benaf, er fod ganddo gydweithwyr galluog, y gorweddai pwys y trefniadau yn nglyn â gwaith y diwygiad yn Nghymru. Braidd nad oedd y llafur a'r cyfrifoldeb perthynol i hyn yn mron llethu ei natur; ac yn awr dyma ef eto, mewn undeb a John Čennick, yn ymgymeryd a holl gyfrifoldeb yr achos yn mysg y brodyr Saesnig. Ymdeimlad â phresenoldeb Duw yn unig a allasai ei gynysgaethu a'r fath wroldeb. Aed i'r Gymdeithasfa gwedi ciniaw, ac eisteddwyd i lawr trwy y nos hyd chwech o'r gloch dranoeth, gyda'r trefniadau. "Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd yn ein mysg, ac yn ein goruwch-lywodraethu," meddai Harris. Gwnaeth Cennick araeth hyawdl, yn dangos sut y dylent fod a'u holl enaid yn ngwaith yr Arglwydd hyd oni ddelo. Wedi gorphen gyda'r allanolion aed i siarad am wahanol athrawiaethau, ac yn eu mysg am iachawdwriaeth gyffredinol. Dywedai Cennick ei fod yn credu yr athrawiaeth, ond nad oedd yn athrawiaeth i'w phregethu, oddigerth gan angel, tua mil o flynyddoedd gwedi yr adgyfodiad. Ymddiddanwyd am y Duwdod, ac yr oedd pawb yn gweled lygad yn llygad. Wrth ganu yr emyn, cafodd Harris olwg ar ddirgelwch y Duwdod yn y dyn, a darostyngwyd ei enaid ynddo. Wrth gadarnhau penderfyniad Cymdeithasfa Llundain, gyda golwg ar ddiarddel Mr. Cudworth, yr hwn oedd yn myned bellach, bellach, teimlai Howell Harris agosrwydd mawr at y brodyr, a dywedodd ei feddwl wrthynt yn bur groyw.

Cyn diwedd mis Medi cynelid Cymdeithasfa Chwarterol y Cymry, yn Erwd, Daeth pump o gynghorwyr, ac un offeiriad i letya i dŷ Mr. Harris y noson cynt; diolchai yntau am y fraint o'u cael. Pregethodd William Richards, y cynghorwr o Aberteifi, ar ras, ei natur a'i ragoriaeth, a chafodd odfa felus. Dranoeth, yn Erwd, pregethodd Daniel Rowland i gychwyn, oddiar y geiriau: "O na bai i mi adenydd fel colomen," a chafodd, fel arfer, odfa nerthol. Ar ei ol, pregethai John Sparks, yn Saesneg, oddiar y genadwri at eglwys Laodicea. Teimlai Harris yn ddirfawr drosto, am ei fod yn ieuanc, a gweddïai am i'r Arglwydd ei arddel; yr hon weddi a atebwyd yn helaeth. Yn y cyfarfod preifat, rhoddodd Rowland anerchiad llym, yn cyrhaedd i'r byw, gyda golwg ar drefn, yn nghyd a gwagedd rhai o'r cynghorwyr. Eithr yn raddol teimlai Harris fod yspryd rhy ysgafn wedi dod i'r cyfarfod, o ba un yr oedd efe ei hun wedi cyfranogi. "Ceryddais y brawd Price," meddai, "gan ddatgan mai efe oedd yn fy llygru i. Digiodd yntau, ac aeth allan. Yn ganlynol, drylliwyd fy nghalon ynof; yna llewyrchodd yr Arglwydd arnaf, a gwelais y deuai y cwbl yn iawn, am mai efe sydd Dduw. Ac felly y bu." Y mae darllen am yr amgylchiad hwn, a'r cyffelyb, yn dra dydd orol, pe na bai ond er dangos nad oedd y Methodistiaid cyntaf ond dynion, a'u bod yn agored, weithiau, i fyned yn blentynaidd, ac i ddigio wrth eu gilydd am y nesaf peth i ddim. Dengys hefyd dynerwch cydwybod dirfawr; fod y gradd lleiaf o ysgafnder yn annyoddefol yn eu mysg. Boreu dranoeth, codwyd yn foreu, er gorphen gwaith y Gymdeithasfa. Gwedi agor eu calonau y naill i'r llall, cafwyd eu bod oll yn deyrngar i'r brenin, a datganai Harris mai y brenin George oedd yr unig deyrn cyfreithlawn. Yna, aeth y brodyr William Richards, Rice, Llanwrtyd; James Ingram, a Morgan John Lewis, i weddi yn olynol, gan ymostwng o herwydd eu pechodau eu hunain, a phechodau y genedl. Daeth yr Arglwydd i'w mysg yn amlwg. Datganent i'w gilydd, yn gystal ag ar eu gliniau, nad oedd eu cyrph yn eiddo eu hunain. Anogent y naill y llall i ganlyn Crist yn fwy agos, ac i bregethu ychwaneg ar ffrwyth yr Yspryd. Taer gymhellai Harris hefyd yr offeiriaid urddedig i ymweled â Morganwg a Mynwy, fod mawr angen am danynt, a bod eu doniau yn tra rhagori ar yr eiddo ef. Ymadawyd yn felus, wedi cael Cymdeithasfa ddedwydd.

Ar ddydd Mercher, yn nechreu mis Hydref, cawn Howell Harris yn cychwyn am daith faith i Sir Benfro. Aeth yn nghyntaf i'r Glyn; oddiyno yn ei flaen i Crai, lle nad oedd y bobl wedi ymgasglu, am, yn ol pob tebyg, na chlywsent am ei ddyfodiad. Pregethodd y noswaith hono yn gyfagos i Trecastell, a chafodd odfa nerthol. Dranoeth y mae yn Llanddeusant, a Glanyrafonddu; dydd Sadwrn yn Glancothi; ac wedi pregethu y Gair mewn amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin, cyrhaeddodd Landdowror prydnhawn dydd Sul, mewn pryd i wrando yr Hybarch Griffith Jones. Pwnc pregeth Mr. Jones oedd y sarff bres. Diolchai Harris Dduw am fod y fath oleuni yn mysg y Cymry. Aeth i dŷ Mr. Jones i letya, a deallodd yn fuan fod y gŵr da wedi clywed llawer o chwedlau parthed annhrefn y Methodistiaid. "Dywedai Mr. Jones,' meddai, "fod gormod o honom yn agored i gael ein cyhuddo o falchder, a barn ehud, yn nghyd â chwerwder yspryd; a'n bod yn ddiffygiol mewn gostyngeiddrwydd a chariad, ac yn galw eraill yn erlidwyr. Yr oedd wedi clywed am ein troion anghall yn Lloegr a Chymru; am ein hymraniad yn Lloegr; ac yr oedd yn dramgwyddedig oblegyd y bloeddio a'r gwaeddi allan dan y Gair. Cyfeiriai at ein gwaith yn cateceisio, yr arweiniai mewn amser i annhrefn, ac y deuai yn y diwedd i'r dim. Atebais, nas gallai hyny ddigwydd; pa beth bynag a ddeuai o honom ni fel Corph, fy mod yn credu fod canoedd wedi cael eu hargyhoeddi a'u hachub. Dywedais fy mod yn credu yr oll a ddywedasai oddiar wybodaeth bersonol; ond ei fod yn faich arnaf ddarfod iddo wrando ar ein cyhuddwyr, a'u credu, heb ein dwyn ni wyneb yn wyneb â hwy; a phe y gwnaethai hyny y cawsai fod y gwaith hwn o Dduw. Meddyliwn y dylasem gael rhagor o le yn ei serchiadau. Lleferais wrth Madam Bevan ac yntau, gan gael rhyddid oddiwrth Dduw i ddweyd yr oll a wyddwn; y modd yr oeddynt oll (yr Eglwyswyr) wedi gwanhau ein dwylaw, a'n diarddel, a chreu rhagfarn yn meddyliau rhai yn Bath yn ein herbyn. Pan y cyfeiriodd at ei lyfr ar yr Articlau, gan fy nghyhuddo i o rwystro ei werthiant, dywedais nad oeddwn cyduno a'r llyfr, a pha beth bynag a ddywedais neu a ysgrifenais, ei fod yn codi o gydwybod. Gofynai ai nid oeddwn yn teimlo dymuniad am i bawb gael eu hachub? Atebais fy mod yn cael fy nhemtio yn gryf weithiau i weddïo dros y cythraul; ond nad oeddwn yn gweled un lle canol rhwng achubiaeth yr etholedigion. yn unig, ac achubiaeth pawb. Pan y gwasgai arnaf am fy marn, dywedais fy mod yn meddwl mai yr etholedigion yn unig a gedwir; am y lleill, fod yna anmhosiblrwydd ar y ffordd, a hwnw yn tarddu nid o Dduw, ond o honynt eu hunain, a'm bod yn credu ei fod yn gyfeiliornus wrth bleidio y posiblrwydd i bawb gael eu hachub. Cyfeiriodd at waith. Tillotson, Holl Ddyledswydd Dyn, gan ganmawl Tillotson fel y dyn goreu a eisteddodd erioed yn y gadair archesgobol, a dadleu fod ei lyfr yn un o'r rhai galluocaf ar y pwnc; a bod y llyfr mor llawn o garedigrwydd Cristionogol, fel mai prin yr oedd yn gadael neb yn golledig yn y pen draw. Atebais yn ol y gallai gael y fath syniadau yn ngweithiau athronwyr, ond nad dyna athrawiaeth Paul na Christ. Yna, mynegais iddo am ei draethodau Saesnig (Welsh Piety, Griffith Jones), yn y rhai y fflangellai ni fel Corph, fy mod yn tybio am yr ymosodiad cyntaf, er yr aroglai yn ormodol o ddoethineb y byd hwn, fod ei lygad yn syml wrth ei wneyd, gan mai cael rhagor o ryddid gan yr esgobion a fwriadai; ond pan y gwelais ef yn ailadrodd yr unrhyw, gan grybwyll am ein gwendidau, heb gyfeirio at ddim arall, nas gallai y fath ymddygiad fod yn garedig, ac y gwnai gryfhau y rhagfarn yn ein herbyn, yn arbenig gan ei fod mewn argraff, ac hefyd yn dyfod oddiwrtho ef, gwaith yr hwn a ddarllenid, efallai, yn mhen mil o flynyddoedd. Addefai ei fod yn rhagfarnllyd yn erbyn ein Corph ni, gan ei alw yn wrthYsgrythyrol, ac yn ordeiniad. Ésboniais iddo ein hamcan, sef cael gwybodaeth of stâd ysprydol y dychweledigion, ac nid sefydlu ordeiniad. Mewn cysylltiad â chateceisio, tybiwn ei fod yn ei ddyrchafu yn rhy uchel, mai ei wir ddefnydd oedd nid cymeryd lle pregethu, ond bod yn is-ddarostyngedig i hyny; ar yr un pryd, yr hoffwn ei weled yn cael ei osod i fynu mewn teuluoedd lle y byddai personau cymhwys at hyny, a'm bod i wedi gwneyd fy ngoreu i'w osod i fynu. Yr oedd yn ymosod yn drwm ar y cynghorwyr anghyoedd, gan ddweyd eu bod yn anwybodus, ac yn anghymwys i'r gwaith, a bod ganddynt gopi o'n seiadau, a'r lleoedd eu cedwid. Gwedais inau ein bod yn anfon y cyfryw allan ond i wylio dros eneidiau eu gilydd, a phan y caem fod neb yn ymddwyn yn anweddaidd, ein bod yn peri iddo beidio. Gofynai ai nid oeddym yn tueddu i ymffurfio yn sect? Atebais ein bod yn dysgwyl, naill ai cael ein himpio i mewn yn gyfangwbl i'r Eglwys Sefydledig, neu gael ein troi allan; ac yna, naill ai i ymuno a rhyw blaid arall, neu ymffurfio yn blaid ar wahan. Mynegais yn mhellach fy mod wedi clywed y brawd Rowland yn ceryddu y rhai a floeddient yn y cyfarfodydd, ond fy mod yn credu am lawer o honynt nas gallent ymatal, a bod yn well genyf eu gweled yn gwaeddi nac yn dylyfu gên. Addefai yntau ei fod yn hoffi gweled pobl yn wylo yn yr odfaeon, ac hyd yn nod yn gruddfan. Siaredais ag ef yn breifat am wneyd rhywbeth i fynu rhyngddo a Mr. Rowland, fel na chaffo y gelyn ddyfod rhwng y rhai sydd yn caru yr Arglwydd; a dymunais arno, gan fy mod yn gwybod ei fod yn myned a'n hachos yn feunyddiol at yr orsedd, ar iddo beidio. myned yn rhagfarnllyd yn ein herbyn, oblegyd ein camsyniadau a'n hafreolaeth ymddangosiadol; mai gyda phob gostyngeiddrwydd y dymunwn ei ddweyd, ond fod Duw yn wir yn ein mysg. Ymadawsom yn ddrylliog, ac yn gariadlawn; ac wrth ymadael, dywedais fy mod yn ei anrhydeddu yn fawr; felly hefyd y gwna pawb o'r brodyr, hyd y gwyddwn i. Dymunais arno ddyfod i'n mysg; dywedais fy mod yn credu y buasai yn nes atom oni bai am eraill, a'm bod inau i'm beio am na fyddwn yn ymweled ag ef yn fwy mynych. Ymddangosent (Griffith Jones a

Madam

Bevan) yn fwy cyfeillgar atom nag o'r blaen, ond yr oeddynt wedi clustymwrando ar adroddiadau annyoddefol. Dywedai ein bod yn cael ein cyhuddo o gofleidio Cwaceriaeth, a phob math o gyfeiliornadau, ac o adael y Beibl, gan ddilyn y teimlad tufewnol. Atebais nad oedd hyn yn wir; eithr nad oedd y Beibl ond llythyren farw i ni hyd nes y profom waith yr Yspryd ar ein calonau; mai nid y naill na'r llall ar wahan, ond y ddau yn nghyd raid i ni gael."

Felly y terfyna yr ymddiddan rhwng Howell Harris ar y naill law, a Griffith Jones a Madam Bevan ar y llaw arall. Hawdd gweled fod y ddadleuaeth yn fynych yn frwd; yr arferai y ddwy ochr lawer iawn o blaendra; ond y mae yn hyfryd sylwi iddynt gael eu llywodraethu gan yspryd cariad trwy y cyfan, a phan y llefarent y caswir eu bod yn nes at golli dagrau nag at golli eu tymherau. Nid yn unig y mae y ddadleuaeth yn ddyddorol, ond yn ogystal yn taflu ffrwd o oleuni ar amryw bethau cysylltiedig â Methodistiaeth. Gwelwn (1) Fod Griffith Jones, tra ar y dechreu yn cydymdeimlo yn ddwfn a'r diwygiad Methodistaidd, erbyn hyn wedi troi yn feirniad, ac wedi roddi gormod o goel i'r chwedlau anwireddus a daenid am y Diwygwyr. Efallai fod a fynai awydd rhai o'r cynghorwyr am gael eu hordeinio yn ol dull yr Ymneillduwyr â hyn. (2) Fod Howell Harris yn fwy o Galfin, a braidd na ddywedem, yn alluocach duwinydd na Griffith Jones. Yr oedd yr olaf, yn bur amlwg, yn ormod tan ddylanwad Archesgob Tillotson, yr hwn a gyfeiliornasai yn bur bell i dir Arminiaeth. (3) Fod Howell Harris, tra yn synio yn uchel am Griffith Jones, ac yn ei anrhydeddu yn fawr, yn rhy annibynol i'w ganlyn yn wasaidd, a'i fod yn meiddio. gwahaniaethu oddiwrtho gyda golwg ar rai o wirioneddau trefn yr iachawdwriaeth.

[ocr errors] Ond rhaid i ni ganlyn Howell Harris ar ei daith. "Yr oeddwn yn ddiolchgar am Griffith Jones," meddai, "ac am ei holl geryddon; llefwn am i mi beidio cael fy ngadael heb ryw un i'm rhybuddio." Dydd Llun, pregethodd yn y Pale i gynulleidfa anferth, oddiar y geiriau: "Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi, er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddyoddef erddo ef." Yr oedd yr Arglwydd yma yn amlwg; torai llawer allan i folianu, ac arferai yntau ei ddylanwad i gymedroli yr hyn a dybiai allan o le. Yn y prydnhawn, yr oedd yn Carew, lle y pregethodd oddiar y Salm gyntaf. Odfa ofnadwy oedd hon. "Ar y cychwyn," meddai, yr oeddwn yn dra arswydlawn i'r annuwiol. Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd yn y lle mewn modd rhyfeddol iawn." Bu hefyd yn cynghori yr ŵyn, y rhai, yn angerdd eu zêl, oeddynt yn rhy barod i fyned allan o'r llwybr. Boreu dydd Mawrth, yn Carew, cafodd rhyw frawd afael rhyfedd ar weddi, nes peri i Harris deimlo fod yr Arglwydd yn amlwg yn Sir Benfro. Mewn lle o'r enw Lampha, ger tref Penfro, cynhelid Cwrt Leet, i ba un y cyrchasai amryw o'r mawrion; cymerodd yntau fantais ar yr amgylchiad i bregethu. Ei destun oedd, Ex. xx. 1: Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw;" a chyda llawer o serchawgrwydd ceryddodd y boneddigion, y clerigwyr, a'r bobl oll, am eu bywydau afreolus. Cymerai fantais yr adegau hyn i weddïo tros yr Eglwys, y brenin, a'r deyrnas, yr hon oedd yn llawn berw, ac i daranu yn erbyn y rhai a bleidient yr Ymhonwr (Pretender). Nos Fawrth, yr oedd yn Nerth, ger Aberdaugleddyf; dydd Mercher, yn Menfro a Walton, lle y pregethodd gyda chryn hwylusdod, oddiar Rhuf. viii. 15. Dydd Iau, cafodd odfa anghyffredin yn Hwlffordd. Yna aeth i Hay's Castle; yr oedd Duw yma yn amlwg; gwedi hyn i Lanilow a Longhouse; a boreu y Sulaethieglwys Morfil, nid yn nepell o Woodstock, i wrando Howell Davies. Dydd Llun, yr oedd Cymdeithasfa Fisol mewn lle o'r enw Ffynon Gaino. "Yma,' meddai, "agorodd yr Arglwydd fy ngenau i lefaru am y tân, ac am allu Duw, a'i fod ef yn y Gair oll yn oll. Cydunai yr holl frodyr fod y tân o Dduw. Y brawd Gambold a sylwai y rhaid i ni fod yn farw i ni ein hunain, heb ddysgwyl dim wrth fyned o gwmpas ond oerni, a noethni, a newyn, a thlodi, a chael ein difenwi, at hyny gan Gristionogion; ond y dylem fyned dros Grist pe baem yn garpiog, ac yn droednoeth, gan roddi ein dillad a'n hymborth y naill i'r llall, a bod heb y cyfryw ein hunain, os rhaid. Cydunai pawb. Cyfeiriais, gyda nerth, am beidio rhoddi tramgwydd i'r clerigwyr, hyd ag y mae yn bosibl; mai yn yr Eglwys Sefydledig yr ydym ni. Dangosais eu rhagfarn yn Ysgotland ac America. Cyfeiriais at le pob un; mai fy mhlant ysprydol i yw y brodyr Davies a Williams; ond gan eu bod wedi eu hordeinio, fy mod yn dal fy hun mewn darostyngiad iddynt, ac y dylem oll ddyfod i'w cynorthwyo. Siaradais am Griffith Jones, y dylem nesu ato, hyd byth ag y mae yn bosibl, a'i garu. Y dylem osod cateceisio i fynu hyd byth ag sydd yn bosibl, a chadw at y Gair ysgrifenedig, gan ddwyn pawb dynion ato, oblegyd efe yw ein rheol. Cydunai pawb. Cydunwyd hefyd i gadw y dydd cyntaf o Dachwedd yn ddydd o ymostyngiad."

Y mae un peth newydd hollol i ni yn yr hanes hwn, sef, mai Howell Harris oedd tad ysprydol Howell Davies, yn gystal a Williams, Pantycelyn. Eithr felly y dywedir yn bendant. Aeth Harris, yn yr hwyr, yn mlaen at Lwynygrawys; taranodd yn erbyn yr Ymhonwr, a chanmolodd y brenin George, a chafodd nerth anarferol. Yna cyfeiriodd ei gamrau trwy Eglwyswrw, Cerig loan, gan groesi i Aberteifi, ac ymweled a Blaenporth, Cwmcynon, a lleoedd eraill. Nos Wener, daeth i Langeitho; boreu dranoeth, croesodd y mynydd, gan basio trwy Abergwesyn, a chyrhaeddodd

PHOTOGRAPH O LYTHYR CERYDDOL Y PARCH. PRICE DAVIES, TALGARTH, I HOWELL HARRIS.

Drefecca y noswaith hono. Eithr dros y Sabbath yn unig y cafodd fod gyda ei deulu. Boreu dydd Llun, ar lasiad y wawr, y mae ymaith drachefn, ac yn cyrhaedd Cayo tua chanol dydd, lle y pregethodd gyda nerth oddiar y Salm gyntaf. Yn gynar yn y prydnhawn yr oedd yn Llwyn yberllan, yn yr hwn le y cedwid Cymdeithasfa Fisol. Daniel Rowland a lywyddai. Nid yw yn ymddangos ddarfod i benderfyniadau o bwys gael eu pasio; ond bu Howell Harris yn anerch y cynghorwyr gyda difrifwch mawr. Meddai: "Datgenais mai perffeithrwydd oedd y nod o fy mlaen; os syrthiaf, fod yn rhaid i mi gyfodi, ac mai hunanymwadiad sydd yn gosod gwerth ar waith. Anogais ar i'r seiadau gael eu cyffroi i ddarllen yr Ysgrythyr, a dwyn eu holl brofiadau at faen prawf yr Ysgrythyr; ac oni fyddant yn gyson â'r Beibl nad ydynt i gael eu derbyn. Dywedais y rhaid i'r bobl gael pregethu iddynt mor gyson ag sydd bosibl, a'u cynghori i beidio gwneyd sŵn yn yr odfaeon cyhoeddus." Gwelir fod anghymeradwyaeth Griffith Jones o waith y rhai mwyaf tanbaid eu tymherau, yn tori allan i waeddi dan y Gair, yn cael ei gludo trwy Harris i'r cymdeithasau. Dranoeth, pregethodd Daniel Rowland yn nghapel Abergorlech, oddiar Hosea ix. 12. Gwedi y bregeth yr oedd cymundeb, a daeth Harris allan yn hyfryd a dedwydd ei deimlad, ac yn ddyn rhydd. Aeth y ddau gyfaill yn nghyd i Glanyrafonddu. Melus odiaeth oedd y gyfeillach rhyngddynt; y naill yn agor ei galon i'r llall. Yno gorfodwyd Harris i bregethu, yr hyn a wnaeth yn effeithiol, am ddirgelwch duwioldeb. Pregethodd Daniel Rowland boreu dranoeth, yna aethant i Dygoedydd, a chafodd Rowland odfa i'w chofio byth. Yma ymadawsant, a dychwelodd Howell Harris drwy Ceincoed, Llangamarch, a Wernddyfwg, gan gyrhaedd gartref yn hwyr nos Sadwrn.

Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Watford, a chawn Harris a Rowland yno eto. Rhaid fod eu llafur yn ddiderfyn. Dychwelodd Harris adref nos Iau, a boreu dydd Sadwrn cychwyna am daith i Sir Drefaldwyn, gan bregethu yn Tyddyn, Trefeglwys, Llanbrynmair, Blaencarno, Llanllugan, a Mochdref. Yn y lle olaf datganodd ei farn yn bur rhydd. wrth Richard Tibbot am yr Ymneillduwyr, nad oeddynt yn ymddangos iddo ef yn gosod ceisio Duw fel eu prif amcan, eithr yn hytrach uniongrededd, trefn, swn, a moesoldeb; am dano ei hun, na ofalai pe na lefarai air wrth y bobl, oddigerth fod yr Arglwydd yn defnyddio y cyfryw air i glwyfo rhai, ac i feddyginiaethu eraill; mai ei holl amcan oedd delio a chalonau. Ei fod yn bleidiol i uniongrededd, ac hyd yn nod i efrydu llyfrau ac ieithoedd, fel pethau is-ddarostyngedig i'r Yspryd, ond ei fod am i Dduw gael cymhwyso y pregethwyr at y gwaith, trwy ddatguddio ei hun iddynt. Fod ei galon ef yn gatholig, a'i fod yn erbyn rhagfarn o bob tu, ac am gynydd mewn pob math o wybodaeth, ond nid trwy nac yn y llythyren yn unig, ond yn yr Yspryd, trwy weithrediad ffydd, ac mai hanfod ffydd yw adnabyddiaeth o Dduw, fel y mae yn datguddio ei hun yn Iesu Grist. Pa beth a achlysurodd yr ymddiddan hwn, nis gwyddom; nid annhebyg fod Tibbot yn gwasgu ar Harris am gymeryd dalen allan o lyfr yr Ymneillduwyr, a sefydlu math o athrofa i addysgu y cynghorwyr, fel yr awgrymasai yn ei lythyr at y Gymdeithasfa. Ond i fyned yn mlaen, ymadawodd Harris yma, gyda serchawgrwydd mawr, a nifer o wyn anwyl yr Iesu, o Siroedd Caernarfon a Meirionydd, ac aeth yn ol trwy Lwynethel a Llandrindod.

Yr wythnos olaf yn Tachwedd, cawn ef a Mrs. Harris yn cychwyn am Lundain. Parhau yn gymysglyd yr oedd pethau yn mysg y brodyr Saesnig, ac yn ben ar y cwbl, bygythiai Cennick eu gadael, gan ymuno a'r Morafiaid. Yn y Gymdeithasfa Chwarterol, a gynhelid yn y Tabernacl, Rhagfyr 4, daeth y mater yn mlaen. "Agorodd y brawd Cennick," meddai Harris, "ei galon gyda golwg ar y Morafiaid, a'r rheidrwydd a deimlai i ymuno â hwy ar unwaith. Dywedais inau fy mod yn eu hadwaen, ac yn eu parchu, ond nas gallwn gydweled â hwy, am (1) Eu bod yn gwrthod cyhoeddi y gyfraith i bechaduriaid, i ddangos iddynt eu hangen o Grist. (2) Am nad oedd ganddynt ond un mater yn eu gweinidogaeth, sef person yr Arglwydd Iesu, ac felly eu bod yn gwrthod addef graddau mewn ffydd. (3) Am eu bod yn dal y caiff pawb eu hachub yn y pen draw. Dywedais yn mhellach, pan y cyflwynai efe ofal y Tabernacl i mi, nas gallwn wrthod ymgymeryd a'r baich, hyd nes y dychwelai Mr. Whitefield, neu y trefnid rhyw gynllun arall. Yr oeddwn yn barod wedi lledu y mater gerbron yr Arglwydd, ac yr oedd yntau wedi eu gosod (y brodyr Saesnig) ar fy nghalon, fel yr oeddynt yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn gnawd o'm cnawd." Y mae yn anhawdd peidio synu at ei feiddgarwch. Ar ei ysgwyddau ef yn benaf y gorphwysai gofal achos y Methodistiaid yn Nghymru; yr oedd ei lafur yn eu plith hwy bron bod yn ormod i'w natur; a dyma ef yn awr, ac wedi colli John Cennick, ar ei ben ei hun yn ymgymeryd â holl ofal yr achos yn Llundain ac yn Lloegr. Y noswaith hono aeth Harris i'r Tŵr at ei frawd. Dranoeth, y mae Cennick yn ffarwelio a'r Gymdeithasfa, ac, yn nghanol dagrau, yn cyflwyno yr holl ofal i Howell Harris." Siaradodd," meddai y dydd-lyfr, "am ddirgelwch person Crist yn ogoneddus; cyfeiriodd lygaid y bobl at y gwaed, gan erchi iddynt addoli'r clwyfau. Wylai y bobl yn hidl; cefais inau ryddid i wylo. Ar y diwedd, gweddiodd yn afaelgar trosof fi, a llewyrchodd goleuni i mewn ify enaid." Yn sicr, nid dyma y modd y bydd dynion yn gyffredin yn cefnu ar eu cyfeillion crefyddol, ac yn ymuno â phlaid arall. Os oedd Cennick yn cyfeiliorni o ran ei farn, nis gellir peidio edmygu ei gydwybodolrwydd. Ond nid oedd y diwedd eto. Tranoeth, sef dydd olaf y Gymdeithasfa, y mae nifer o'r brodyr blaenaf, sef Hammond, Heatly, Solivan, a Thorn, yn datgan eu penderfyniad i ganlyn Cennick, ac ymuno a'r Morafiaid. Datganai un arall, Goodwin, ei fwriad i ymadael, ond yr arosai am oleuni pellach cyn penderfynu a wnai uno a'r Morafiaid. O'r rhai a ystyrid yn arweinwyr, nid oedd yn aros bellach i sefyll wrth ochr Howell Harris, ond Herbert Jenkins, ac Adams. Ni lwfrhaodd ei enaid ynddo yn yr argyfwng difrifol hwn; ymnerthodd yn y gras sydd yn yr Arglwydd; ysgrifenodd at Whitefield, i'w hysbysu o'r holl amgylchiadau, a llifodd cysur i'w yspryd oddiwrth y geiriau: "A bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef." Wedi trefnu pethau cystal ag y gellid yn y Tabernacl, ac yn Lloegr oll, ar ol yr argyfwng difrifol yr aethid trwyddo, dychwelodd Howell Harris a'i briod i Gymru ychydig cyn y Nadolig. Eithr ni ddychwelodd i orphwys. Ail tranoeth i'r Nadolig, y mae yn cychwyn am daith faith drachefn i Siroedd Mynwy a Morganwg; ac yn Dinas Powis, o fewn rhyw dair milltir i Gaerdydd, y torodd gwawr 1746 arno.

Nodiadau[golygu]