Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Howell Harris (1743–44)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)

PENOD XI.

HOWELL HARRIS
(1743—44).

Gwaeledd iechyd Harris yn ei dueddu i roddi i fynu y gwaith cyhoeddus—Ymosodiad Edmund Jones ar y Methodistiaid—Dechreu codi capelau—Capelau Maesgwyn a'r Groeswen—Prawf Morgan Hughes—Dadl ag Esgob Tyddew—Pumed ymweliad Harris a Llundain—Y Gymdeithasfa Saesnig—Glynu wrth yr Eglwys Sefydledig—Whitefield yn tybio y cai ei wneyd yn esgob—Dadl a Richard Jenkins gyda golwg ar y Gair—Ystorm yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu—Cymdeithasfa Watford, 1744—Y Methodistiaid a'r gyfraith wladol Llythyr aelodau Mynyddislwyn—Chweched ymweliad Harris a Llundain—Amryw Gymdeithasfaoedd Chwarterol a Misol.

YR ydym yn barod wedi olrhain hanes Howell Harris hyd tua chanol y flwyddyn 1743. Gwelsom ei fod yn teithio yn ddidor, ac yn llafurio yn hwyr ac yn foreu, mewn cynghori pechaduriaid, cadarnhau y saint, trefnu y seiadau, ac arolygu pob peth cysylltiedig a'r symudiad grymus oedd yr Arglwydd wedi gychwyn trwyddo ef a Rowland. O Gymdeithasfa gyntaf Watford, a gynhaliwyd ddechreu Ionawr, hyd ganol Awst, pan yr aeth am ychydig amser i Lundain, prin y gellir dweyd iddo gael diwrnod o orphwys. Yn ychwanegol, yr oedd ei ohebiaeth yn ddirfawr. Ysgrifenid ato gan bersonau na welodd mo honynt erioed, a hyny ar bob math o faterion; ac yr oedd yntau mor gydwybodol a gofalus, fel na adawai lythyr heb ei ateb. Dan yr holl bwys hyn, nid rhyfedd i'w iechyd fethu. Nid gormod dweyd iddo amharu ei gyfansoddiad i'r fath raddau, fel na bu mor gryf a chynt byth. Fel rheol, pan yn croniclo helynt pob diwrnod yn ei ddydd—lyfr, dechreua trwy gofnodi fod ei gorph yn sâl ac yn friw. Pan ar daith yn Sir Benfro, mis Mehefin, cwyna fod poen annyoddefol yn ei wddf, ac yn saethu trwy ei ben, a bod lygaid, ei glustiau, a'i dafod yn y cyfryw stad, fel nas gallent gyflawni eu swyddau priodol. Parodd hyn iddo feddwl am roddi y cynghori i fynu, ac ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith o arolygu y cymdeithasau. Mewn llythyr at gyfaill yn Llundain, dyddiedig Mehefin 4, 1743, dywed: "Y mae yn yn gwasgu yn drwm ar fy meddwl cael fy ngalw oddiwrth y gwaith cyhoeddus at yr hyn sydd yn fwy preifat. Rhoddaf fy rhesymau i chwi, a gwn y gwnewch chwithau eu lledu gerbron yr Arglwydd, ynghyd a'r credinwyr gweddïgar o'ch cydnabod. (1) Ymddengys fel pe bai Duw yn gosod hyn yn fwy ar fy nghalon na'r llall. (2) Y mae fy natur wedi ei hamharu a'i threulio allan i'r fath raddau, a'm corph wedi myned mor egwan, fel nad oes genyf nerth digonol; ac ni fu y cyfryw genyf er ys amser maith, ond pan ei cawn yn wyrthiol trwy ffydd. (3) Yr wyf yn gyson yn colli fy llais, fel na fedraf wneyd i gynulleidfa fawr glywed, o leiaf heb boen dirfawr. (4) Trwy gyfres o dreialon anarferol o bob cyfeiriad, oddiwrth ddynion, oddiwrth Satan, ac oddiwrth fy natur felldigedig fy hun, y mae yr Arglwydd fel pe yn fy nghymwyso yn neillduol at waith oddifewn. (5) Darfu iddo gyfranu doniau cyhoeddus i alw, argyhoeddi, ac i ddal Crist gerbron yr annychweledig, yn helaethach ar amryw o'r brodyr nag arnaf fi, a chredaf eu bod yn cael eu bendithio yn fwy yn y gwaith. (6) Ymddengys angenrheidrwydd am rywun at y gwaith hwn, ac y mae digon o wahaniaeth rhyngddo a'r gwaith cyhoeddus. (7) Trwy hyn, gallwn roddi mwy o amser at ddarllen, ysgrifenu llythyrau, ac, efallai, gwneyd a derbyn mwy o ddaioni yn breifat. Y rhesymau hyn, yn neillduol fy nghrygni a'm gwaeledd, sydd yn eu gwneyd yn anmhosibl i mi ddod i Lundain oni ddaw rhyw frawd gyda mi at y gwaith cyhoeddus." Pa fodd bynag, dywed i'w selni ddysgu gwersi gwerthfawr iddo, sef ei ddyledswydd i gydymdeimlo a'r rhai ydynt mewn poen; deall y fath gydymdeimlad sydd rhwng y naill ran o'r corph a'r llall, a'r parodrwydd sydd yn y naill aelod i gynorthwyo y llall, yr hyn sydd yn ddrych o'r undeb dirgel ac ysprydol a fodola rhwng y saint; a theimlai yn sicr fod y cystudd wedi ei fwriadu er lles iddo, er ei wneyd yn fwy gostyngedig, ac felly ei barotoi i dderbyn rhyw ddawn oedd Duw ar fedr ei gyfranu iddo.

Ymddengys i'r rhwyg oedd wedi dechreu eisioes rhwng y Diwygwyr a'r Ymneillduwyr ymledu yn ddirfawr tua'r cyfnod hwn. Mai 30, 1743, cawn Howell Harris yn ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr: " Clywais trwy y brawd H. am broclamasiwn cyhoeddus yn ein herbyn gan yr anwyl frawd Edmund Jones, a'r rhai a ymlynant wrtho yn mysg gweinidogion yr Annibynwyr. (Condemniant ni): Yn gyntaf, am ein bod yn cymuno gydag offeiriaid cnawdol; ac yn ail, am nad ydym wedi ein hordeinio," "Y brawd H.," yn ol pob tebyg, oedd Herbert Jenkins, yr hwn ar y pryd oedd ar ymweled a Threfecca. Math o alw i'r gâd oedd y proclamasiwn, yn ddiau, mewn canlyniad i waith Cymdeithasfa Watford yn cynghori yr aelodau a arferent gymuno yn yr Eglwys i barhau, hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws i adael ei chymundeb. Ymddengys ei fod yn benderfyniad cymanfa, ac yn cael ei anfon at yr egiwysi yn ei chylchlythyr. Y mae cyfeiriad yr ail adran o'r cyhuddiad, sef pregethu heb feddu ordeiniad, yn uniongyrchol at Howell Harris. A dweyd y lleiaf, yr oedd hyn yn anniolchgarwch mawr ar ran Edmund Jones a'i frodyr. Wedi i'r Diwygiwr ymweled a'u hardaloedd ar eu cais, a bod yn foddion yn llaw Duw i argyhoeddi lliaws o eneidiau, o ba rai y darfu i nifer mawr ymuno a'u heglwysi, peth tra annheilwng oedd troi arno, gan ddanod mewn proclamasiwn cyhoeddus, a ddeuai, yn ol pob tebyg, yn swyddogol o'u cymanfa, nad oedd wedi ei ordeinio. Eithr ni chythruddwyd yspryd Howell Harris. Meddai: " Darfu i'r Yspryd Glân, fy anwyl Arweinydd, fy nghadw rhag fy yspryd fy hun, gan fy narostwng, a'm danfon at Dduw, a rhoddi i mi gariad at bawb sydd yn ymwahanu oddiwrthym. Galluogwyd fi i lefain yn y dirgel: 'O Dad, dangos i mi dy lais mewn perthynas i hyn; gwel fel yr ymosodir arnom o bob cyfeiriad. O arwain ni, a threfna ni fel y mynost, a sancteiddia yr oll i ni. Bendithia y rhai sydd yn ein herbyn. Pa hyd y caifF dy blant di ymryson ar y ffordd, a bod yn rhanedig? (Yma rhüddwyd i mi yspryd galar oblegyd hyn). O cadw ni rhag eu niweidio, na gwanhau eu dwylaw mewn un modd. Bendithia a llwydda hwy i gasglu eneidiau atat ti, a bydd yn eu mysg.'"Os bu gweddi anhunangar erioed, yn anadlu yspryd Iesu Grist, yr oedd y weddi hon o eiddo Howell Harris ar ran Edmund Jones, a gweinidogion yr Annibynwyr, felly. Teimla ei hun ddarfod iddo gael ei ddyrchafu uwchlaw ei natur lygredig, oblegyd sylwa rhwng cromfachau: " Y mae hyn yn mhell oddiwrth yr hen ddyn."

Darfu i broclamasiwn Edmund Jones ddwyn ffrwyth, a pheri i nifer o weinidogion yr Ymneillduwyr, oeddynt hyd yn hyn wedi bod yn cynorthwyo gyda'r diwygiad, droi eu cefnau. Yn mhen ychydig ddyddiau cawn Howell Harris yn ysgrifenu fel y canlyn yn ei ddydd-lyfr: " Clywais eto fod nifer o frodyr anwyl, gweinidogion, yn bwriadu ein gadael, oblegyd rhagfarn atom. Yr oedd yn dra phoenus. Ond darfu i Yspryd Duw, trwy yr hwn y gallaf wneyd a dyoddef pob peth, fy nghadw rhag fy hunan. Darostyngwyd fì yn isel, a gwnaed i mi garu Duw o'r herwydd; gan fy mod yn ei weled yn gadwraeth rhag hunan, a rhag ymuno yn gnawdol. Ni theimlwn na llid na dig atynt; gallwn olchi eu traed; ac anfonais genadwri atynt, os gadawent hwy ni, nas gallem ni eu gadael hwy." Byddai yn anmhosibl cyfarfod ag yspryd mwy rhyddfrydig. Efallai fod yr ymadrodd "ymuno yn gnawdol" yn cyfeirio at y perygl y bu Harris unwaith yn ei ofni, sef iddo ef a'i gyd-ddiwygwyr gael eu gyru gan amgylchiadau i ymuno a'r Ymneillduwyr, heb fod yr undeb rhyngddynt yn undeb yspryd a chalon. O hyn allan, ychydig o gymhorth a gafodd Harris oddiwrth weinidogion yr Ymneillduwyr; yr oedd ei fod yn myned o gwmpas i gynghori, heb gael ei ordeinio gan esgob, na'i urddo gan weinidog, yn faen tramgwydd iddynt nas gallent gamu drosto.

Yr oedd cyffro wedi enyn yn mysg y Methodistiaid erbyn hyn am adeiladu capelau; nid mewn gwrthwynebiad i'r eglwysydd plwyfol, ond er cyfleustra i'r lleygwyr lefaru, gan fod y tai anedd yn myned yn rhy fychain i'r cynulleidfaoedd, ac hefyd er mwyn cynal y seiadau ynddynt. Yn ol pob tebyg, y capel cyntaf perthynol i'r Methodistiaid ag y mae genym hanes am dano, yw capel Maesgwyn, yn Sir Faesyfed. Nid yr un Maesgwyn yw a'r lle o'r un enw cyfagos i'r Gelli, yn mha un y gweinyddai y gweinidog Ymneillduol enwog, Vavasor Griffiths; y mae yn fwy i'r gogledd, ac yn gorwedd rhwng y Rhaiadr a Llanybister. Ysgrifena James Beaumont at Howell Harris, yr hwn oedd yn Llundain, Awst 2, 1742: "Y mae yr Ustus V___n yn bygwth tynu tŷ cwrdd Maesgwyn i lawr." Pe capel Ymneillduol fyddai, buasai wedi ei drwyddedu yn ol y gyfraith, a buasai gymaint allan o gyrhaedd unrhyw ustus i'w dynu i'r llawr ag eglwys gadeiriol Tyddewi ei hun. Anhawdd meddwl na wyddai Beaumont hyn yn dda. Ond gan nad oedd y Methodistiaid gynt yn codi trwydded ar eu haddoldai, am nad ystyrient eu hunain yn Ymneillduwyr, yr oedd yr adeiladau a osodent i fynu i raddau mawr at drugaredd yr erlidwyr. Y tebygolrwydd yw mai capel Methodistaidd oedd Maesgwyn. Yr oedd Howell Harris yn fyw gan awydd

codi addoldai yn y flwyddyn 1742. O fewn corph y flwyddyn hono ysgrifena at foneddiges gyfoethog, nad oedd yn ddiberygl o gael ei pherswadio i gyfranu ei heiddo at bethau diraid, gan ddynodi amryw achosion teilwng oeddynt yn galw am gymhorth, ac yn mysg pethau eraill dywed: "Y mae llyfrau i'w hargraffu a'u gwasgar, a thai seiat i'w hadeiladu." Sefydliad neillduol i'r Methodistiaid oedd y seiat, a rhaid mai ar adeiladu addoldai iddynt hwy yr oedd bryd Howell Harris, pan y cyfeiria at dai seiat.

Ymddengys i gapel y Groeswen gael ei adeiladu yn y flwyddyn 1742. Dyddiad gweithred y tir, ar ba un y saif, yw Mehefin 2, 1742. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, ceisir gwadu mai y Methodistiaid a'i hadeiladodd, a dywedir yn bendant na fu erioed yn perthyn iddynt. F'el hyn yr ysgrifenir: "Yn 1742, adeiladwyd capel bychan ar ben y Groeswen, ar gwr cae, a elwid y Waunfach, fel cangen o'r Watford, y mae yn dra thebyg, Ond yn mhen ychydig amser, aeth y bobl a ymgynullent yno yn rhy Fethodistaidd i bobl y Watford a'u gweinidog allu cyd-dynu a hwy; ac felly buont am flynyddau yn ymgyfeillachu mwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr. Ond ni buont ar un adeg o'u hanes yn Felhodistaidd hollol; a chamgymeriad yw haeru mai gan y Methodistiaid yr adeiladwyd ef, oblegyd yr oedd wedi ei adeiladu cyn i'r Methodistiaid ymffurfio yn gorph. Ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig yn ol cynllun Howell Harris, a bu am dymor yn cael ei hystyried yn gymdeithas Fethodistaidd, yn ol yr ystyr a roddid i Fethodistiaeth ar y pryd."

Y mae y difyniad hwn nid yn unig yn dywyll a chymysglyd, gyda ei wahanol adranau yn gwrthddweyd eu gilydd, ond y mae yn ogystal yn gwbl gamarweiniol. Nid eglwys Watford yn lledu ei therfynau, ac yn bwrw ei gwraidd i lawr mewn tir newydd, a roddodd fod i gymdeithas y Groeswen, ond y Methodistiaid, gwedi blino dadleu yn erbyn David Wiliams a'i heresi, a chwilient am gartref heddychol. Thomas Price, o'r Watford, cynghorwr gyda'r Methodistiaid, oedd y prif ysgogydd yn y symudiad, a'i enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr ar weithred trosglwyddiad tir y capel. Cymerai seiat y Groeswen ei llywodraethu gan y Gymdeithasfa fel y seiadau eraill, a cheir ei hadroddiadau, a anfonwyd i'r Gymdeithasfa, yn mysg yr adroddiadau sydd yn awr yn Nhrefecca. Yn mhellach, datgana cynghorwyr y Groeswen yn bendant, yn eu llythyr hanesyddol at Gymdeithasfa Cayo, mai trwy y Methodistiaid y cawsent eu hargyhoeddi a'u dwyn at grefydd, ac mai hwy a gydnabyddent fel eu tadau yn Nghrist. Yn ngwyneb y ffeithiau hyn ofer dweyd na fu eglwys y Groeswen erioed yn Fethodistaidd. Yr oedd mor Fethodistaidd a'r gymdeithas a ffurfiwyd yn ei ysgubor gan Daniel Rowland, yn Llangeitho, ac nid yw fod y capel wedi cael ei adeiladu ychydig fisoedd cyn ffurfiad y Gymdeithasfa, os mai felly y bu, yn newid dim ar y cwestiwn.

Fel y dywedasom, tua'r blynyddoedd 1742-43, yr oedd adeiladu capelau wedi dod yn gwestiwn pwysig yn mysg y Methodistiaid, a thueddwn i feddwl fod amryw wedi cael eu gosod i fynu yn ngwahanol ranau y wlad. Yn mis Mawrth, 1743, ysgrifena y Parch. Benjamin Thomas, y gweinidog Ymneillduol a ymunodd a'r Methodistiaid, at Howell Harris : "Darfu i'r Eglwyswyr gloi un o'r tai cyrddau yn fy erbyn, a phregethais inau gyda fy nghefn ar y drws. Tybia rhai ddarfod iddynt ysgrifenu i Lundain gyda golwg ar hyn. Byddwch mor garedig a rhoddi gwybod i ni beth a allant wneyd. Yr wyf yn foddlon rhoddi fy nghorph a fy enaid i ddyoddef drosto, os rhydd efe i mi nerth." Anhawdd genym feddwl fod Mr, Thomas yn cyfeirio at un o'r capelau Ymneillduol; gwyddai efe, a gwyddai yr holl wlad erbyn hyn, fod Deddf Goddefiad yn gysgod i'r cyfryw, ac nad oedd gan neb, hyd yn nod Archesgob Caergaint, hawl i ymyraeth â hwy; y mae tebygolrwydd cryf mai at dai cyrddau perthynol i'r Methodistiaid y cyfeiria, y rhai oeddynt yn ddiamddiffyn, gan nad oeddynt wedi eu trwyddedu yn ol y gyfraith. Yn Nghymdeithasfa Porthyrhyd, a gynhalwyd Hyd. 3, 1744, penderfynwyd, yn mysg pethau eraill, fod tŷ at ddybenion crefyddol yn cael ei adeiladu yn Llansawel. Nid oes un rheswm dros amheu ddarfod i hyn gael ei gario allan, ac nid yw geiriad y penderfyniad yn awgrymu ei fod yn symudiad newydd.

Teimlai Howell Harris ddyddordeb arbenig yn y dyddiau o'r flwyddyn a fyddent yn cyfateb i'r adegau pwysig yn ei fywyd ysprydol. Cawn ef yn ysgrifenu Ebrill 6, 1743: "Ar y dydd hwn, wyth mlynedd yn ol, yn ol dyddiau y mis, Sul y Pasg y flwyddyn hono, y derbyniais y sacrament am y tro cyntaf. Yr oeddwn wedi cael fy argyhoeddi gyda golwg ar yr angenrheidrwydd am hyn y Sul blaenorol, sef Mawrth 30. Y pryd hwn cynyrchwyd y fath argraff ar fy yspryd na adawodd fi am bythefnos gwedi. Yna cefais Holl ddyledswydd dyn, trwy yr hwn y daethum yn raddol i ganfod fy nhrueni, yr hyn a derfynodd mewn argyhoeddiad." Ebrill 20, 1743, ysgrifena: "Heddyw yw dyddgylch yr wythfed flwyddyn oddiar fy argyhoeddiad cyntaf, trwy ddarllen Holl ddyledswydd dyn. Sulgwyn yr un flwyddyn cawn ef yn ysgrifenu: "Dyma gylchwyl yr wyth fed flwyddyn er pan y cefais olwg gyntaf—trwy ffydd—ar Grist yn marw trosof, ac y teimlais heddwch a llawenydd. O gwmpas yr amser hwn, wyth mlynedd yn ol, y bwriwyd Satan allan o honof. Yn awr, gwnaed i fy enaid lefain, nid mewn teimlad yn unig ond gyda gradd o oleuni, 'Satan, ti a wyddost dy fod wedi dy fwrw allan o honof, trwy allu Duw; fod Duw yn awr ynof. Ti a wyddost, Satan, mai plentyn Duw ydwyf yn awr, a llestr etholedig iddo. Ti a wyddost mai fi yw dy arglwydd, na chefaist lywodraethu arnaf byth oddiar hyny, ac na chai di ddim llywodraethu arnaf fi. Ti a wyddost fy mod yn eiddo'r Arglwydd, nas gelli fy niweidio.' Gwnaed i fy enaid yn awr mewn ffydd goncwerio ar fy holl elynion, trwy weled fod Duw wedi fy ngharu, ac wedi fy ngwaredu rhagddynt oll. Gwnaed fi, yn wir, yn ddiolchgar am fy ngwaredu o deyrnas y diafol, gyda ei grym a'i thrueni. Gwelais yn awr, trwy ffydd, fy rhagorfreintiau, fy mod yn eiddo yr Arglwydd, ac yntau yn eiddo i minau. Wyth mlynedd yn ol tynwyd fi o grafangau y diafol at Dduw; ond yn awr y mae arnaf eisiau cael fy ngwaredu oddiwrth ddylanwad y cnawd, a'r natur, yn mha rai y mae Satan yn gweithio. O Dduw, gwared fi rhag fy hunan! O, gwared fi rhag fy natur!" Yn sicr, nis gallai neb ond un yn byw llawer yn y byd ysprydol ysgrifenu fel hyn.

Un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn 1743, oedd dal y cynghorwr Morgan Hughes, a'i anfon i garchar Aberteifi, i sefyll ei brawf yn y brawdlys yno, heb ganiatau iddo gael myned yn rhydd yn y cyfamser, trwy roddi meichiau am ei ymddangosiad. Cynyrchodd yr amgylchiad gyffro dirfawr yn mysg y Methodistiaid; ymddangosai yr helynt, y naill ffordd neu y llall, fel yn penderfynu tynged y diwygiad. Pan y pasiai Howell Harris trwy dref Aberteifi, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Fisol Longhouse, yr oedd Morgan Hughes, druan, yn gaeth y tu fewn i furiau y carchar. Nis gallodd fyned i'r carchar i'w weled; nid yw yn ymddangos fod ganddo drwydded i hyny oddiwrth yr ynadon. Ond hawdd gweled ei deimlad yn y difyniad canlynol o'i ddydd-lyfr: "Aberteifi, dydd Mercher. Yn y dirgel cefais achos y brawd Morgan Hughes, y carcharor, yn gwasgu yn drwm arnaf. Teimlais y fath gariad ynof fel yr oeddwn fel pe wedi cymeryd lle y carcharor, ac yn teimlo fel y teimlai efe; yr oedd pob peth oedd genyf, bywyd, arian a chwbl, at ei wasanaeth; gallwn ddyoddef yn ei le. Teimlwn hefyd y cyfryw gariad tadol at yr oll o'r cynghorwyr, fel y gallwn ddyoddef gyda hwy. Ysgrifenais lythyr at y brawd Rowland, yn ei gyfarwyddo i geisio cael y brawd yn rhydd trwy roddi meichiau." Teimlad diflas i un a'i ymysgaroedd mor dosturiol a Howell Harris, oedd gorfod cefnu ar Aberteifi heb weled ei gyfaill, na medru ei gynorthwyo mewn un modd. Ni lwyddwyd i gael Morgan Hughes allan trwy feichiau, ychwaith; bu raid iddo aros yn rhwym hyd ddydd y prawf. Teimlai Thomas Price, o'r Watford, a'r gymdeithas i ba un y perthynai, yn ddwfn oblegyd yr helynt. Meddai Mr. Price, mewn llythyr at Howell Harris: "Yr wyf yn ofidus, ac eto yn llawenhau, oblegyd yr erledigaeth ar y brawd Rowland a'r brawd Hughes." Awgryma hyn fod Daniel Rowland yn ogystal wedi cael ei wysio i sefyll ei brawf yn Aberteifi, ond na feiddai yr ynadon draddodi offeiriad ordeiniedig i garchar. Ychwanega Mr. Price: "Bûm yn meddwl myned i Aberteifi erbyn y brawdlys, gyda y brodyr William Morgan a Watkin Evans; ond gan i rwystrau ddyfod ar ein ffordd, a bod y draul yn anghymesur, yr ydym yn anfon hyn (swm o arian) gyda ein serch i'r brodyr Rowland a Hughes. Yr ydym yn anfon cymaint ag a fedrwn o'n cariad gyfranu, er mwyn i chwi symud yr achos i Westminster, ac yr ydym yn barod i'ch cynorthwyo hyd eithaf ein gallu. Gwell i ni fod yn ddiffynwyr, ond os nad ânt yn y blaen, dymunwn arnoch ddwyn cyhuddgwyn yn eu herbyn am gam drin Morgan Hughes ar brif-ffordd y brenin. Nid rhaid wrth dyst, gan i'r peth gael ei gyflawni mewn lle mor gyhoeddus." Felly yr ysgrifena Mr. Price, a hawdd gweled ei fod wedi ei gyffroi, ac y meddai yn ogystal lawer o wybodaeth o'r gyfraith.

Ar foreu dydd Llun, tua diwedd mis Ebrill, y mae Howell Harris a Daniel Rowland yn cychwyn o Langeitho tua brawdlys Aberteifi. Yr oedd eu ffordd ar y cyntaf trwy ddyffryn prydferth Aeron, un o'r rhai tlysaf yn Nghymru; erbyn tri daethant i Clwyd Jack, haner ffermdy a haner palasdy, tua thair milltir islaw Talsarn, lle y cawsant ymborth i'w hanifeiliaid. Cyrhaeddasant dy un Walter Watkins erbyn chwech, ac yr oedd yn agos i naw arnynt cyn cyrhaedd Aberteifi. Melus odiaeth oedd y gyfeillach ar y ffordd; teimlent ddirfawr hyfrydwch mewn cael cyd-ddyoddef. Gwelai Howell Harris fawr dynerwch a doethineb Duw yn nhrefniant eu dyoddefaint; ar y cychwyn, pan oeddynt yn wan, ni erlidid hwy ond trwy eu gwatwar a'u gwawdio, dim ond digon o wrthwynebiad yn eu cyfarfod i roddi rhyw gymaint o ymarferiad i'w gras eiddil; a phan, tua phedair blynedd yn ol y cyfododd ystorm yr oedd ganddynt gyflawnder o frodyr, a chyfeillion ac arian i fod yn gymhorth iddynt. Daeth ar ei feddwl i ysgrifenu a chyhoeddi llyfrau Cymraeg, fel gallai pawb ddod i adnabod Crist; ond teimlai mai ei ddyledswydd gyntaf oedd ymweled a'r seiadau, lle yr oedd yn amlwg fod yr Arglwydd yn ei fendithio. Wedi cyrhaedd Aberteifi, y peth cyntaf oedd ymweled a Morgan Hughes, y brawd oedd yn y carchar. "Pan ei gwelais," meddai Howell Harris, "aeth fy nghalon yn fflam; tynwyd fi allan mewn nerth ffydd, a chariad, a gwres, fel y diflanodd pob ofn ac iselder yspryd, a dychryn ymddangos gerbron y fainc; gallwn eu gwynebu oll yn wrol, a dyoddef gyda fy mrawd. Yn ngrym y nerth hwn gallwn, yn wir, fyned i'r fflamau; tynwyd ofn y werinos i ffwrdd oddiwrthyf; yr oedd ynof ddigon o ddewr- der i arddel fy Arglwydd. Daethum at Morgan Hughes pan oedd yn isel ei yspryd, ac yn gweled pob peth yn ei erbyn, heb wybod am neb a gymerai ei achos mewn llaw. Ond cefais ddigon o nerth ffydd i ddweyd a dangos fod Duw uwchlaw iddynt oll, nad oes arnom eisiau cymhorth braich o gnawd, gan fod Duw yn chwerthin ar ben y diafol, a phob ymgais o'i eiddo, ac y byddai iddo ddwyn da o hyn oll. Cysurais fy mrawd, a theimlais fy hun yn llawn cariad a thosturi at ein gwrthwynebwyr."

Addawsai Harris i Mr. Llwyd na byddai i'r Methodistiaid osod cyfraith ar eu herlynwyr, ond iddynt dalu holl gostau y prawf. Felly, nid oedd gan y barnwr ddim i'w wneyd ond rhyddhau Morgan Hughes, heb ei osod ar ei brawf, ac wrth wneyd hyny dangosodd barch mawr at y rhai a erlynid heb ddim yn eu herbyn ond eu crefydd. "O Arglwydd," meddai Harris, "y mae hyn oll yn dyfod oddiwrthyt ti." Felly y terfynodd y prawf yn Mrawdlys Aberteifi, ac y mae yn sicr i'r amgylchiad feddu dylanwad mawr er gyru ofn ar y gwrthwynebwyr, a chalonogi y rhai a geisient addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybodau. Manyla Howell Harris ar eu hanes yn Aberteifi, lle y buont o nos Lun hyd brydnawn dydd Iau. Dywed fod ei gorph yn wan, ond am ei enaid yr oedd yn byw yn mhell uwchlaw y creadur, ac yn bendithio Duw am edrych ar ei fath. Daethai llawer o'r brodyr crefyddol yn nghyd, fel nad oedd prinder cydymdeimlad nac arian; ac yn nghanol eu pryder cadwent gyfarfodydd i weddïo, a chanu, a molianu, y fath na chlywyd y cyffelyb o'r blaen mewn brawdlys. Ymddengys mai un W. Llwyd oedd blaenor yr uchel reithwyr; dangosodd hwn ei fod yn gyfaill i'r diwygiad; ac meddai Harris: "Teimlwn fy enaid yn ymlenwi o gariad ato, cyffelyb i eiddo yr angelion." Buont yn ymgynghori a chyfreithiwr, a dadleuydd, ac yn egluro yr holl achos. Arweiniodd Mr. Llwyd Harris i'r coffee room yn y prif westy, i ganol yr uchelreithwyr a'r mawrion, ac ymddengys i argraff ffafriol gael ei gynyrchu. Dydd Iau y daeth y prawf yn mlaen. Yn nghyntaf oll gosodwyd gerbron bump o ddrwgweithredwyr; tri am ladrata caseg, a buwch, a rhyw gymaint o arian; a dau am dori tŷ. Wedi gorphen â'r lladron, a'r tŷ-dorwyr, dygwyd Morgan Hughes gerbron. Ond yr oedd yn ddealledig erbyn hyn fod yr uchel-reithwyr wedi taflu yr achos allan, trwy ddylanwad Mr. Llwyd yn benaf, ac yr oedd ei wraig, boneddiges ieuanc dyner, wedi dylanwadu arno yntau. Yn ystod y flwyddyn 1743, hefyd, bu Howell Harris mewn gohebiaeth ag Esgob Tyddewi, gyda golwg ar waith y clerigwyr yn gwrthod y cymundeb iddo, ac i'r rhai oeddynt wedi eu hachub trwyddo. Nid oes un o lythyrau yr Esgob ar gael, ond y mae yn Nhrefecca gopi o lythyr a anfonodd Howell Harris at Ysgrifenydd yr Esgob. Ei ddyddiad yw Awst 1, 1743. Gellir casglu oddiwrtho fod achwynion trymion wedi cael eu dwyn yn erbyn Harris, parthed athrawiaeth ac ymddygiad; a chawn yntau wrth ateb yn dweyd ei feddwl yn ddifloesgni, heb ofni awgrymu nad yw yr Esgob yn hollol iach yn y ffydd. Difynwn ranau o hono: "Yr wyf eto yn amheus a ydyw ei arglwyddiaeth yn cyduno gyda golwg ar gyfiawnhad, mai unig achos am gyfiawnhad gerbron Duw yw ufudd-dod gweithredol a dyoddefol Iesu Grist, heb unrhyw waith o eiddom ein hunain; a bod yr haeddiant hwn yn cael ei drosglwyddo yn rhad i ni gan Dduw, ac yn cael ei ddirnad yn y gydwybod fel yn eiddo i ni trwy y gras o ffydd, yr hwn hefyd sydd yn cael ei roddi i ni. Y mae y ffydd hon yn profi ei hun i ni y wir ffydd, trwy fod yr Yspryd Glân yn tystiolaethu yn ein calonau; ac i'r byd trwy fywyd ac ymarweddiad uniawn. Yn yr ystyr hwn yr wyf yn credu fod sancteiddrwydd tumewnol ac allanol yn angenrheidiol; sef yn angenrheidiol i rodio ynddynt tua'n cartref tragywyddol; a phob amser yn angenrheidiol fel y ffrwyth sydd yn canlyn cyfiawnhad. Gyda golwg ar y cyhuddiadau amgauedig yn eich llythyr, yr wyf yn addef rhai, ac yn gwadu rhai. Ond chwi a addefwch eu bod yn llawn chwerwder, a theimlad cas. Gyda golwg ar y lleoedd y bum yn

llefaru ynddynt, cydnabyddaf ddarfod i mi

PHOTOGRAPH O DUDALEN DDYDD-LYFR HOWELL HARRIS

wneyd casgliadau at amcanion crefyddol yr ochr arall i'r môr, ond telais hwy bob ceiniog i Mr. Whitefield, fel y dengys ei lyfr, a thalodd yntau hwy at yr amcan mewn golwg. Parthed fy mod yn dal perffeithrwydd dibechod, ni chredais ac ni chyhoeddais hynny erioed. Eithr wedi bod yn nghymdeithas Mr. Wesley, tua thair blynedd yn ôl, yr wyf yn addef i mi arfer ymadroddion heb fod yn glir; ond wedi deall ei fod ef yn dal y cyfryw gred, mi a ysgrifennais lythyr maith ato, ac a ysgerais fy hun oddiwrtho ar bwnc o athrawiaeth. Er hynny, yr wyf eto yn credu ei fod yn ddyn gonest, yn ymdreulio mewn gwneyd daioni, ac fel y cyfryw, yr wyf yn ei garu ac yn ei anrhydeddu. Credaf y byddai ei arglwyddiaeth yn fwy ffafriol i ni pe na chredai yr oll y mae yn glywed. Cyhuddir fi o ddweyd nad yw y naill le yn fwy sanctaidd na'r llall. Yr wyf yn gobeithio eich bod chwithau yn credu felly, nad oes yr un gwahaniaeth, dan yr efengyl, rhwng un lle a lle arall, ond gwahaniaeth cyfleustra; ac na cheir unrhyw addewid yn yr Ysgrythyr am bresenoldeb Duw mewn un man rhagor man arall, oddigerth gyda golwg ar deml Solomon. Nid oedd hyny ychwaith ond fel yr oedd yn gysgod o'r eglwys Gristionogol, ac i barhau yn unig hyd nes y sefydlid addoliad ysprydol, pan y darfyddai yr holl gysgodau. Yn awr, pa le bynag yr ymgynull dau neu dri yn enw yr Iesu, ac mewn ffydd, yno y mae presenoldeb Duw. Ar yr un pryd, er mwyn trefn allanol, dymunwn na fyddai un rheswm yn erbyn, a'i fod yn bosibl i ni oll ymgynull yn yr un lle. Am y cyhuddiad ddarfod i mi lefaru ar adeg y gwasanaeth dwyfol yn Felin-newydd, credaf ddarfod i chwi gael eich camhysbysu; mewn anwybodaeth y gwnaethum, os gwnaethum hefyd; yr oedd yn ymyl machlud haul arnaf yn cyrhaedd yno, mor bell ag yr wyf yn cofio. Os troir fi allan o gymun- deb, pan na ellir dwyn unrhyw achwyn yn erbyn fy ymarweddiad, tra y mae eraill yn cael derbyniad, er byw mewn pechodau ysgeler, dan rith tynerwch cydwybod, daw yn amlwg ryw ddydd, os nad yw felly yn awr, a ydyw hyn yn ymddygiad cydwybodol. Gwyddoch os nad oes ymwared i'w gael oddiwrth hyn, ac oddi- wrth y cyffelyb weithredoedd direswm ac anghariadus, yn y llysoedd eglwysig, fod y gyfraith wladol i'w chael. Os troir aelodau allan o eglwys yn unig am fyned i wrando lle y medrant ddeall yr hyn a wrandawant yn well nag yn eu heglwysydd plwyfol, a lle cânt fwy o les, ac teimlant fwy o'r Presenoldeb Dwyfol, nis gwn pa fodd y gall y cyfryw Eglwys gael ei rhyddhau oddiwrth yspryd erledigaeth, na honi ei bod yn meddu y cariad catholig, na'r tynerwch, y rhai y tybiwn ydynt brif nodweddion eglwys."

Llythyr teilwng o apostol. Hawdd gweled ei fod yn ysgrifenu gyda phob gonestrwydd, ac yn hollol ddiofn, er ei fod yn awyddus am dalu i'r Esgob a'i Gaplan bob parch gweddus. Yn ngoleuni y llythyr yma gallwn weled natur y cyhuddiadau a ddygid yn erbyn Howell Harris, sef (1) Ei fod yn dal nad yw gweithredoedd da yn amod cyfiawnhad, a'i fod yn pregethu athrawiaeth John Wesley gyda golwg ar berffeithrwydd dibechod y credadyn. (2) Ei fod yn casglu arian yn y cyfarfodydd crefyddol a gynhelid ganddo, gan ddefnyddio y cyfryw at ei wasanaeth ei hun." (3) Y pregethai nad oedd cysegriad esgobol yn gwneyd adeilad yn fwy sanctaidd, ond y gellid defnyddio unrhyw le, pa un bynag ai wedi ei gysegru neu ynte heb ei gysegru, at ddybenion crefyddol. (4) Ei fod yn cynal ei gyfarfodydd ar yr un adeg ag yr oedd yr offeiriaid yn cynal gwasanaeth dwyfol yn y llanau. Profa yntau ei fod yn ddieuog o rai o'r pethau a osodid i'w erbyn; ac am y pethau eraill, fod ei syniadau yn fwy Ysgrythyrol nag eiddo ei wrthwynebwyr. Gyda golwg ar wrthod y cymun bendigaid iddo ef, a'r Methodistiaid, tra yn derbyn i'r ordinhad sanctaidd ddynion o fucheddau annuwiol cyhoeddus, ysgrifena gyda grym anwrthwynebol, ac anhawdd genym feddwl nad oedd y gwrid yn dyrchafu i ruddiau Esgob Tyddewi wrth ddarllen ei eiriau llosgedig. Da genym weled nad oedd eglwysyddiaeth Harris yn myned mor bell ag y tybir weithiau, ac mai dibwys iawn yr edrychai ar gysegriad esgob. Yr ydym yn parchu ei ddewrder, a'i onestrwydd, ynghyd a'i gydwybodolrwydd i wirionedd ac i Grist.

Dydd Mercher, Awst 3, 1743, y mae Howell Harris yn cychwyn ar gefn ei geffyl tua Llundain, sef ei bumed ymweliad a'r brif-ddinas. Amcan ei ymweliad oedd cael cyfarfod a'r brodyr Saesnig yn eu Cymdeithasfa Gyffredinol. Eithr nid ai y ffordd unionaf; yn hytrach cymerai dro ar draws y Deheudir, mewn rhan er defnyddio pob mantais i bregethu yr efengyl, ac mewn rhan er cael cydymgynghori a'i frodyr, fel y byddai yn alluog yn y Gymdeithasfa i roddi mynegiant i syniadau yr arweinwyr yn Nghymru, yn gystal a'i syniad ei hun. Aeth y diwrnod cyntaf i Beiliau, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Myfi yw y ffordd." Yr oedd yn odfa dda, a theimlai yntau ryddid mawr. Tranoeth, aeth i Myddfai, lle y llefarodd oddiar y geiriau: "Portha fy wyn." Nid arosodd yma nemawr, eithr teithiodd yn ei flaen i'r Parke, yn Sir Benfro, a chyfrifa fod taith y diwrnod o gwmpas haner can' milltir. Yma yr arosodd hyd brydnhawn dydd Sadwrn. Oddiyno aeth yn ei flaen trwy Lanstephan, hyd Gapel Evan. Ymddengys fod Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yma. Pregethodd Howell Davies yn mlaenaf, i gynulleidfa o saint yn benaf. Ar ei ol ef llefarodd Daniel Rowland, oddiar Gal. ii. 20: "Mi a groshoeliwyd gyda Christ." Pregeth anarferol, gyda goleuni a gwres mawr. Dangosai yn (1) Fel y mae yr enaid yn canfod ei hun yn wag o bob daioni, ac fel y mae yn canfod ei ddigonedd, am amser a thragywyddoldeb, yn Nghrist. (2) Natur y farwolaeth o ba un y mae y Cristion yn marw yn rhinwedd ei undeb â Christ; sef ei bod (a) yn farwolaeth boenus, (b) yn farwolaeth araf a dyhoenus, (c) yn farwolaeth gywilyddus, ond (d) ei bod yn dwyn llawenydd i'r enaid. (3) Dangosodd natur y bywyd sydd i'w gael trwy undeb â Christ, a'r fath ddirgelwch yw y credadyn; ei fod yn farw ac eto yn fyw, yn wan ac eto yn gadarn, yn bechadurus ac eto yn bur, yn ddall ac eto yn gweled, yn cwympo ac eto ar ei draed. Y casgliad oedd fod pawb amddifad o'r bywyd hwn o dan y felldith. Gwaeddai gydag awdurdod: "Bechadur, beth wnei di! Dere allan oddi tan y gyfraith, ac oddiwrth bechod, a hunan, a'r byd, a rho dy hun i Grist.' Cafodd nerth anghyffredin; yr oedd calon Harris yn gyffrous o'i fewn hyd yr Amen, a theimlai sicrwydd ynddo y gwnai Duw ddisgyn, a bendithio'r gwaith.

O Gapel Evan aeth Harris yn ei flaen ar draws Siroedd Caerfyrddin, Morganwg, a Mynwy, gan bregethu efengyl gras Duw yn Abertawe, Castellnedd, Llantrisant, Watford, a Llanfihangel, a lleoedd eraill, a chyrhaeddodd Bryste dydd Mercher, pen y pythefnos er pan y cychwynodd o gartref. Brysiodd gyda'i gydymaith, James Beaumont, i'r ystafell newydd i wrando Mr. Mansfield yn pregethu. Pwnc y bregeth oedd cyfiawnhad heb weithredoedd y ddeddf; eglurai y llefarwr y mater mor glir, gan ddangos geudeb yr egwyddor o wneyd hyn, a'r llall, ac arall, er mwyn cael bywyd, fel y llanwyd enaid Harris a diolchgarwch i Dduw am gyfodi y fath oleuni yn y wlad. Teimlai ei falchder hefyd yn cael rhyw gymaint o glwyf am ddarfod iddo dybio nas gallai y cyfryw oleuni ddyfod "heb fod rhai o honom ni yn eu mysg." Ai y Cymry a olyga wrth y"ni," nis gwyddom. Bwriadai fod yn bresenol mewn Cymdeithasfa Fisol yn Mryste, ond yr oedd drosodd cyn iddo gyrhaedd. Eithr wedi clywed y penderfyniadau teimlai y gallai gymeradwyo yr oll. Boreu dydd Iau ail gychwynodd tua Llundain, gan gyrhaedd yno oddeutu pump prydnawn dydd Gwener. Elai i mewn i'r ddinas trwy Hyde Park, gan basio yr adeiladau mwyaf gorwych perthynol iddi, ond prin y sylwai ar y mawredd oedd o'i gwmpas; agorodd Duw ei lygaid i ganfod gogoniant byd arall, a gwychder ty ei Dad, yr hwn ogoniant sydd dragywyddol, tra y mae mawredd daear i ddiflanu. Er mor flinedig ydoedd, aeth y noson hono i'r Tabernacl i wrando Mr. Whitefield yn pregethu, a theimlo ei enaid yn ymddarostwng ynddo tan ddylanwad y gwirionedd. Boreu dydd Sadwrn aeth Howell Harris, yn ngwmni Whitefield, i gyfarfod â John a Charles Wesley. Teimlai nad oedd yn gymhwys i fod yn mysg y cyfryw gymdeithion, ac y byddai yn fraint iddo gael bod wrth eu traed i'w cynorthwyo. Mater eu hymgynghoriad oedd gwaith mawr y diwygiad, y posiblrwydd o undeb rhyngddynt, a'r priodoldeb o neillduo personau i gyfarfod er cael cydweithrediad. Cafwyd cryn ymddiddan gyda golwg ar gyfranogi o'r sacrament yn nghyd; nid oedd y ddau Wesley yn teimlo eu hunain yn rhydd i hyny; ofnent rhag i gyfarfyddiad canlynwyr Whitefield a'u canlynwyr hwythau beri dadleuon. Cydunent mai dymunol cael pregethwyr diurddau, eu bod gan bob eglwys; mai gwell peidio ymffurfio yn blaid wahaniaethol hyd nes y byddai iddynt gael eu gwthio allan o Eglwys Loegr; ac hefyd i roddi cyfraith ar y werinos a ymosodai arnynt, fel y gallent gadw eu rhyddid. Eithr nid oedd y Diwygwyr am ddial; bwriadent faddeu i'r rhai a'i camdriniai wedi iddynt ddeall ddarfod iddynt droseddu cyfraith y tir. Penderfynasant yn mhellach apelio at y gyfraith wladol rhag traha y llysoedd Eglwysig. Ymadawyd mewn teimlad hyfryd, wedi cydymostwng gerbron gorsedd gras. Dydd Mercher, yn mhen yr wythnos, y dechreuodd y Gymdeithasfa, yr hon oedd yn gyffredinol i'r holl frodyr Saesnig. Pwnc cyntaf yr ymdriniaeth oedd y priodoldeb o ymwahanu oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Meddai Howell Harris: "Darfu i'r brawd Whitefield a minau sefyll yn erbyn; ac yn y pen draw darbwyllwyd y brodyr i aros fel yr ydym. Yr wyf yn cael nad yw yr Arglwydd am ddinystrio yr Eglwys Genedlaethol dlawd hon. Yn (1) Y mae ganddo lawer o eneidiau da o'i mewn, nad ydynt yn ymuno â ni. (2) Y mae yn cadw ac yn bendithio y brawd W. yn fawr. (3) Y mae yn goruwch-lywodraethu malais y clerigwyr. (4) Y mae wedi argraffu yn ddwfn ar feddwl y brawd Whitefield y bydd iddo gael ei wneyd yn esgob, a thrwy hyn y mae yn ei gadw yn mlaen fel y mae yn awr. (5) Y mae yn rhagluniaethol wedi ein cadw rhag ysgar oddiwrthi hyd yn hyn. Parhaodd y ddadl yn hir; dadleuais (1) brydferthwch ffurf yr ordeiniad yn ein mysg; (2) fod yn rhaid i'r sawl a fyddo am gael ei ordeinio gael cymeradwyaeth y sawl sydd yn ei adwaen, gan y rhaid cyhoeddi ei fwriad o gynyg ei hun, yn eglwys y plwyf, dri Sul yn mlaen llaw; (3) rhaid iddo gael cymeriad oddiwrth dri offeiriad sydd yn ei adnabod; (4) rhaid iddo gael ei arholi gan yr esgob. Dywedais nad aethum allan ar y cyntaf i ffurfio plaid, ond i ddiwygio y wlad, ac mai dyna wyf yn wneyd yn awr.

"Cydunwyd nad yw y brawd Humphreys i gymeryd ei ordeinio (yn ol ffurf yr Anghydffurfwyr). Sonia ef am ymuno â'r Ymneillduwyr, a chymeryd y gynulleidfa gydag ef. Cefais ryddid i ddweyd am iddo yn hyn ateb i'w gydwybod; ond pe bawn i yn ei gefnogi gyda golwg ar ordeiniad, y byddwn yn dyfod yn un ag ef yn yr act, ac yn ei gwneyd yn eiddo i mi fy hun. A chan nas gallwn gymeryd fy ordeinio fy hunan yn y cyfryw fodd, nas gallwn ei gefnogi yntau. Eithr y byddai i mi wedi hyny ddal cymundeb ag ef fel brawd Ymneillduol, ond nid fel un o'r Methodistiaid, y rhai ydynt yn briodol yn perthyn i Eglwys Loegr, oni yrir hwy allan. Cydunwyd gyda golwg ar y cyfryw Ymneillduwyr ag sydd yn ymuno â ni, fod i rai gweinidogion Ymneillduol a wnant hyny, gael cyfranu yr ordinhad; ac yn mysg y gweddill, y rhai na fedrant gael y cymun yn yr Eglwys, rhai o'n hoffeiriaid ni a fyddant yn rhydd. Y mae hyn yn groes i'r canonau; eithr yr ydym yn gwadu awdurdod y rhai hyny."

Teifl yr ymdrafodaeth ffrwd o oleuni ar agwedd meddwl y Methodistiaid yr adeg hon. Yr oedd y pwnc o barhau yn nghymundeb yr Eglwys wedi dyfod yn gwestiwn llosgawl. Whitefield, a Howell Harris, oedd y mwyaf awyddus am aros i mewn. Am Whitefield y mae yn sicr ei fod yn credu y caffai ei wneyd yn esgob; yr oedd ei gyfeillgarwch a'r Iarlles Huntington, ac a phendefigion a boneddigesau urddasol eraill yn ei gefnogi yn ei dyb; ceir amryw gyfeiriadau yn nydd-lyfr Harris at y gobaith y byddai iddynt gael esgob mewn cydymdeimlad a'r diwygiad; a diau fod a fynai hyn a'i ymlyniad penderfynol wrth y Sefydliad. Nid ydym am awgrymu fod Whitefield yn wageddus ei feddwl, ac yn awyddus am y swydd er dyrchafiad personol. Tebygol y credai mai modd i beri i grefydd efengylaidd wreiddio yn y deyrnas oedd trwy efengyleiddio yr Eglwys Wladol; a phe bai y Methodistiaid yn cefnu arni, ac yn ymffurfio yn blaid ar wahan, y byddai i'r amcan gael ei oedi, os nad ei wneyd yn amhosibl. Ac eto, efallai nad oedd urddas y swydd heb feddu rhyw gymaint o ddylanwad arno. Pwy sydd yn hollol rydd oddiwrth awydd am ddyrchafiad? Ám Howell Harris, nid hawdd deall grym ei ymlyniad. Ar y naill law yr ydym yn ei gael yn ddyn rhyddfrydig, yn dibrisio traddodiadau a defodau yr Eglwys Wladol, yn tori ar draws ffurfiau a ystyrid yn awdurdodol, ac yn meiddio dweyd yn ngwyneb yr Esgob nad oedd gwahaniaeth o gwbl rhwng tŷ wedi ei gysegru, a thy heb ei gysegru. O'r ochr arall, ni fynai son am adael ei chymundeb, oddigerth cael ei yru allan. Modd bynag, yr ydym yn sicr ei fod yn gwbl anhunangar yn y mater. Nid oedd ei lygaid yn cael eu dallu gan swydd, ac nid oedd yn awyddus am gael ei ddyrchafu. Os oedd yn dymuno cael ei ordeinio, awyddai am hyny er cael mantais helaethach i wneyd daioni.

Ond i fyned yn mlaen gyda phenderfyniadau y Gymdeithasfa. Cydunwyd mai cyfreithlon erlyn â chyfraith y werinos a derfysgent y cyfarfodydd, ac a ymosodent ar y crefyddwyr. "Ar hyn," meddai Howell Harris, "llanwyd fy enaid a thosturi at y terfysgwyr; cefais y fath olwg ar eu trueni, a'r fath gariad atynt, fel yr oedd fy nghalon ar dori." Wrth benderfynu gosod yr achos yn llaw cyfreithiwr, yr oedd gofal i gael ei gymeryd nad oedd y personau a erlynid i gael eu niweidio; gyru ofn arnynt yn unig oedd yr amcan. Yna aed i giniawa i dy un Mr. Richardson. O gwmpas y bwrdd bu cryn ymddiddan gyda golwg ar y Morafiaid, a'u cyfeiliornadau; a gwnaeth Howell Harris ymdrech i leihau chwerwder teimlad rhai o'r brodyr atynt. Yn yr hwyr yr oedd seiat. "Ac er fy mod trwy y dydd," meddai Harris, "yn mhell o'r goleuni, ac heb feddu cymundeb yspryd â Duw, yn y canu daeth y dylanwad dwyfol arnaf, fel y cefais fy nhynu yn agos at yr Arglwydd, ac y perwyd i mi lefain am gael peidio dychwelyd i'r creadur."

Ymgynullai y Gymdeithasfa ychydig wedi saith dydd Iau drachefn. Teimlai Howell Harris ei hun yn dywyll ac yn dra digysur; yr oedd y ddadl y dydd blaenorol wedi dolurio ei yspryd. "Yr oedd cryn betrusder yn fy meddwl," meddai, "pa un a barhawn i fod yn gysylltiedig a'r Gymdeithasfa hon. Er y gallwn aros i ddysgwyl am dano, nis gallaf deimlo yr un undeb brawdol atynt ag at y brodyr yn Nghymru. Ychydig wedi saith aethum at y brodyr, ac eisteddasom hyd wedi dau, yn trefnu achosion y Tabernacl, gan ddewis yn (1) ymwelydd a'r cleifion, (2) athraw ysgol, (3) llyfrwerthydd, (4) un yn ben ar bob dosparth, er ceisio eu dwyn i drefn. Yna cafwyd ymddiddan maith am y priodoldeb o bregethu y ddeddf fel rheol bywyd i gredinwyr. Yr oedd y brawd Cennick yn erbyn hyn, eithr pregethu Crist, hyd nes y byddem yn dyfod yn debyg iddo, a phechod yn cael ei ddystrywio. Minau a ddywedais nad oeddwn yn cyduno ag ef, a bod ei syniadau yn Antinomaidd. Fy mod yn meddwl fel mai trwy adnabyddiaeth o Dduw yn Nghrist y mae y creadur newydd yn cael ei borthi, felly mai trwy sancteiddrwydd Duw yn y gyfraith y mae gweled drwg pechod, ac y dinystrir yr hen ddyn, sef y natur lygredig. Mai nid hyd nes y byddom yn credu yr ydym dan y ddeddf, ond hyd nes na byddo dim o'r hen natur yn aros; a bod y ddeddf i barhau yn athraw i ni hyd nes y dygir ni i lwyr ddarostyngiad i'r Iesu. Gwelwn ei fod ef (Cennick) y tuhwnt i mi yn mhell mewn rhyddid, ond nis gallwn uno ag ef yn hyn. Cefais nerth i ddweyd sut yr oedd arnaf, fy mod yn methu teimlo undeb â hwynt, y modd yr oeddwn yn teimlo petrusder gyda golwg ar ddyfod i Lundain gwedi hyn, a datgenais fy mwriad i beidio dyfod. Yr oeddwn yn farw, a dwl, a thywyll, a sych, yn mhell oddiwrth Dduw, ac nis gallwn deimlo cymundeb â Duw nac â hwy. Darostyngwyd fi; gwelais nad oeddwn yn deilwng i ddyfod i'w mysg, ac eto yr oeddwn yn llawn cariad atynt. Yna ymddiddanasom am lawer o bethau. Yna, gwedi trefnu ymwelwyr mewn cys- ylltiad a'r Tabernacl, ynghyd a'r tŷ newydd, ciniawsom yn nghyd; yr oeddwn yn afiach o ran corph, ac yn flinedig yn fy yspryd. Ymneillduais, a cheisiais weddïo thynu yn agos at fy Arglwydd, ond nis gallwn. Ychydig o Dduw a welwn yn fy neall, yn fy ewyllys, ac yn fy serchiadau; ond llawer o'r diafol, ynghyd a'r natur hono sydd yn barod i gyneu mewn unrhyw brofedigaeth. Myfi yw yr eiddilaf, y dallaf, y mwyaf llygredig, a'r llawnaf o hunan o bawb; a thra yn dymuno am i undeb mewnol i gael ei ffurfio, yr wyf yn ewyllysgar i fod mewn undeb allanol â hwy. Yr oedd yn boenus arnaf heddyw; ac eto yr wyf yn drwyadl ddedwydd, o herwydd fy mod trwy ffydd yn gorwedd ar ffyddlondeb Crist." Felly yr ysgrifena Howell Harris, a therfynodd y Gymdeithasfa trwy iddo ef bregethu oddiar Heb. x. 19, 20.

Dyma y ddadl frwd gyntaf, yn cynyrchu teimladau dolurus, a gymerodd le yn Nghymdeithasfaoedd Methodistiaid. Hawdd gweled ddarfod i Howell Harris golli ei dymer. Cydnebydd yntau hyny mewn gofid, gan achwyn yn dost ar ei natur lygredig, yr hon sydd yn barod i danio ar y brofedigaeth leiaf. Cawn gipolwg am y tro cyntaf ar y dymher gyffrous, a'r yspryd na oddefai gymeryd ei wrthwynebu, a andwyodd ei ddefnyddioldeb gwedi hyn, ac a barodd iddo droi ei gefn ar ei frodyr. Y mae yn sicr fod a fynai ei iechyd, canlyniad naturiol gor-lafur, a'r ysprydiaeth oedd yn dechreu ei feddianu. Dychwelodd i Lundain ddechreu mis Hydref. Y peth cyntaf a gofnoda wedi dychwelyd adref yw ymddiddan ag un Richard Jenkins, yr hwn oedd wedi gadael y Methodistiaid, ac wedi ymuno a'r Ymneillduwyr. "Gwelais," meddai, "ei fod yn synio yn gyfeiliornus am danaf, sef fy mod wedi newid fy marn gyda golwg ar y Gair ysgrifenedig a bywiol; fy mod yn derbyn ac yn coleddu chwedlau anwireddus am danynt, gan edrych arnynt fel plaid wedi ymuno yn ein herbyn, a'm bod wedi gosod gorfodaeth ar bobl i gadw i ffwrdd oddiwrthynt. Atebais inau fod y goleuni a ganlynent yn digwydd gwanhau ein dwylaw; am danaf fy hun, fy mod wedi cael fy ngalw i aros yn yr Eglwys Sefydledig; a'u bod yn pregethu yn ein herbyn. Ond gyda golwg ar Mr. Edmund Jones, fy mod yn credu am dano ei fod yn blentyn i Dduw, yn wir weinidog i Grist, ac yn gwneyd pob peth a wnelai yn gydwybodol; ond fy mod inau yn aros yn yr Eglwys o herwydd cydwybod, ac nid o herwydd rhagfarn. Yna mynegais fy syniadau gyda golwg ar y Gair ysgrifenedig, nad yw Duw ynddo yn hanfodol, nac yn barhaus, nac yn gweithio ynddo yn wastad, ond fel y mae yn ewyllysio; mai offeryn ydyw y Gair, trwy yr hwn y mae yr Arglwydd yn gweithio i alw pechaduriaid ato ei hunan, ac i ddatguddio iddynt yr Arglwydd Iesu. Ond ynddo ei hun, ac ar wahan oddiwrth Dduw, nad yw ond llythyren farw, a'i fod yn amddifad o oleuni, a bywyd; mai yn Nuw yn unig y mae y bywyd. Ei fod (y Gair) yn dest- ament ysgrifenedig, yn cynwys cymun- roddion i blant Duw, ac yn ddarlun o Dduw, yn ei gynrychioli gerbron y byd; ond nas gallwn weled Duw ei hun heb i'r Yspryd ei ddatguddio i'n heneidiau; fod yr Yspryd ar wahan oddiwrth y Gair, ac nad yw wedi rhwymo ei hun wrtho, er ei fod wedi ein rhwymo ni; a bod dal ei fod yn wastad ynddo, pe byddai ein grasusau ni yn weithgar i'w ganfod, yr un peth, yn ol fy meddwl i, a dweyd fod yr Yspryd yn wastad yn y dwfr bedydd, neu yn yr elfenau yn Swper yr Arglwydd; a'i fod yn wadiad ar benarglwyddiaeth yr Yspryd, yr hwn sydd yn tywynu fel y rhynga bodd iddo yn y Gair, ac yn ein heneidiau ni. Ein bod yn deall ei fod yn fynych yn bresenol yn y Gair i eraill pan nad yw i ni, ac i ni heb fod i eraill. Fy mod yn cael am y llyfr, a elwir y Beibl, ei fod yn unig am amser, tra y byddom yn y cnawd, ac na fydd ei angen yn y byd ysprydol, am y gall Duw lefaru yno yn ddigyfrwng wrth ein heneidiau. Pan y mae yr Arglwydd yn llefaru trwy y Beibl, fod y llais a'r nerth yn bethau ar wahan oddiwrth y Beibl, a'i fod yn farw hyd yn nod y pryd hwnw, er fod bywyd yn dyfod i ni trwyddo, ac nad yw ond cyfrwng."

Prawf y difyniad hwn fod Harris yn dduwinydd ardderchog, ac y meddai graffder dirfawr i adnabod pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt. Gwelir hefyd fod y gwahanfur rhyngddo a'r Ymneillduwyr yn ymddyrchafu yn raddol, a bod y naill wedi myned yn ddrwgdybus o'r llall. Dau ddiwrnod o orphwys, os gellir ei alw yn orphwys, a gafodd wedi dychwelyd o Lundain, cyn cychwyn drachefn ar ei deithiau. Nos Sul y cyrhaeddodd adref; dydd Mercher canlynol wyneba ar Glanyrafonddu, yn yr hwn le y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol. Ar y ffordd goddiweddodd rai o'r ŵyn, cymdeithas pa rai a fu foddion i danio ei enaid. Pan y clywais," meddai, "am y gweinidogion Ymneillduol yn troi yn ein herbyn, ac yn bwrw rhai allan am ymuno â ni, galerais. Pan y clywais drachefn fod y gwaith yn myned yn mlaen yn ogoneddus trwy y brodyr Rowland, Williams, a Davies, llawer yn dyfod tan argyhoeddiadau, a chanoedd lawer yn dyfod i'r ordinhad, fflamiodd fy enaid ynof, a thynwyd fi allan i fendithio yr Arglwydd." Yn Llwynyberllan cyfarfyddodd a'r tri offeiriad y clywsai am eu llwyddiant, sef Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, a thaniwyd ei yspryd yn eu cwmni. Teimlai amddifadrwydd o rym i fyned i Ogledd Cymru, ond meddai, "teimlwn y gallai fy enaid apelio at Dduw, gan lefain:, O Arglwydd, ti a wyddost fy mod yn foddlon myned yno i farw, ac yna i ddod atat ti." Pregethodd Howell Davies yn Llwynyberllan, oddiar Esaiah i. 6, a chafodd odfa nerthol. Dranoeth cyrhaeddodd cenhadau Crist Glanyrafonddu, a chafodd Herbert Jenkins afael ryfedd ar weddi wrth agor y Gymdeithasfa. I gychwyn, llefarodd Harris hyd nes tua haner awr wedi dau wrth yr holl frodyr cynulledig, am fawredd y gwaith, am drefn a darostyngiad, am ddarllen yr Ysgrythyr, a llyfrau da eraill er diwyllio eu meddyliau; a'i fod yn gweled mai ei le ef oedd cynorthwyo y gweinidogion ordeiniedig.

Ond chwythodd ystorm ar y Gymdeithasfa. Meddai Howell Harris: "Cyfododd dadl yn ein mysg gyda golwg ar y Morafiaid; yr oedd y brawd Rowland yn rhagfarnllyd o'u plaid; safais inau yn erbyn eu cyfeiliornadau. A'r gelyn a lywodraethodd fy yspryd. Drachefn, y brawd Morgan John Lewis a ddatganodd ei argyhoeddiad gyda golwg ar adael yr Eglwys Sefydledig, fod ei sail yn Iuddewaidd, ei chanonau yn anysgrythyrol, ei hoffeiriaid yn elynion Duw, a'i haddoliad yn ffurfiol, gyda llawer o goelgrefydd Babyddol, a'i fod yn meddwl y dylem ei gadael yn awr; mai yn awr yw yr amser i adael cyfeiliornadau, pan yr ydym yn argyhoeddedig o honynt. (Datganodd yn mhellach): Ein bod yn awr yn eglwys, ac y dylem ymwahanu; i'r eglwys Iuddewig gael ei sefydlu yn gyntaf yn yr Aipht, yn ganlynol iddi gael ei dwyn i'r anialwch, ac ymwahanu; fod yr eglwys Gristionogol am beth amser yn yr eglwys Iuddewig, ac yna iddi ymwahanu. Yna yr holl frodyr a gytunasant yn erbyn hyn, nad oeddem yn cael ein galw i ymneillduo; na ddarfu i ddisgyblion Crist adael yr eglwys Iuddewaidd nes iddynt gael eu gwthio allan; ac nad ydym ni yn euog am ddim o'r drygau sydd yn yr Eglwys, gan ein bod wedi codi ein llais yn eu herbyn. Datgenais i fy ffydd a'm rhesymau y bydd i'r gwaith hwn (sef y diwygiad) lanw yr Eglwys a'r deyrnas." Y mae yn dra sicr i'r ddadl fod yn frwd, ac i Howell Harris gyffroi yn enbyd. Y mae yr ymad fod y gelyn yn llywodraethu ei yspryd, yn dra arwyddocaol, ond yn dangos gonestrwydd na cheir yn gyffredin ei gyffelyb. Ai parch i deimladau Howell Harris a barodd i'r brodyr benderfynu yn unfryd na wnaent

ymwahanu, ynte argyhoeddiad gwirioneddol mai aros yn yr Eglwys oedd eu

dyledswydd, nis gwyddom. Ond hyfryd cofnodi ddarfod i'r ystorm dawelu, ac i dangnefedd lanw y gynhadledd. Meddai y dydd-lyfr: "Yna, wedi cyduno i aros fel yr ydym, a chwedi ateb rhyw bethau i'r rhai a betrusent, gweddïasom a chanasom, a daeth nerth a thân i'n mysg.'

O hyn hyd y diwedd aeth y Gymdeithasfa yn mlaen yn hyfryd. Dygai yr arolygwyr eu hadroddiadau i mewn, y rhai oeddynt yn nodedig o galonogol, a phenderfynwyd llawer o bethau. Yn yr ymdrafodaeth, cafwyd goleuni arbenig trwy y brodyr Morgan John Lewis, a William Richard. Gosodwyd y brawd John Richard, Llansamlet, yn ol yn ei le, wedi iddo fod dan ychydig gerydd. "Wedi penderfynu pob peth," meddai Harris, "a chael fod arolygwyr Siroedd Mynwy, a Threfaldwyn, yn glauar, agorodd yr Arglwydd fy ngenau, a chyda dwyfol ddoethineb, gallu, awdurdod, cariad, a melusder, mi a hyderaf, anerchais y cynghorwyr gyda golwg ar eu gwaith; y pwys iddynt iawn ymddwyn yn mysg yr wyn; am ein hanghymwysder, bawb o honom, i'r gorchwyl; am y pwys o ymroddi i ddarllen; am adeiladu y saint fel meini bywiol, am gymeryd y gwaith yn uniongyrchol o law Duw, ac am garu ein gilydd. Yr oedd bywyd a gallu yn cydfyned a'r ymadroddion, yn dangos pa mor fawr yw y pethau a wna Duw yn fuan trwy y gymdeithas hon." Boreu dranoeth, sef dydd Iau, ysgrifena drachefn: "Yr oedd swn canu a gweddio i'w glywed trwy gydol y nos. Yr oedd cwmwl cyfan o dystion yr Oen wedi ymgynull, sef tri offeiriad, dau frawd Ymneillduol, deuddeg arolygwr, a nifer mawr o gynghorwyr. Teimlwn agosrwydd mawr at Dduw. Treuliais y boreu mewn ffarwelio a'r brodyr, ac yn trefnu fy nheithiau, yr hyn wyf yn wneyd bob amser gyda mawr ofal a gweddi." Arosodd yn Glanyrafonddu hyd dydd Sadwrn, ac yna cychwynodd ,am Langeitho. Y Sul, cafodd flas mawr ar wasanaeth yr Eglwys, a phregethodd Rowland yn rhyfedd oddiar Hosea i. 10. Yr oedd mewn agosrwydd mawr at yr Arglwydd hefyd ar y cymundeb. Dywed fod y gynulleidfa fawr a ddaethai yn ughyd yn dyfod o wyth o wahanol siroedd. Yn y prydnhawn, am bump, pregethodd Harris oddiar y geiriau: "Aroswch yn fy nghariad," a chafodd ryddid ymadrodd dirfawr. Boreu dydd Llun, cyfid am bump, teimla gariad angerddol at Rowland a Williams, Pantycelyn, fel nad hawdd ffarwelio â hwy, ac am chwech cychwyna tua Llanbrynmair. Tramwyodd trwy ranau helaeth o Siroedd Tref- aldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog cyn dychwelyd.

Yn mis Tachwedd cawn ef yn bresenol mewn Cymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant. Ni fu yno na digter na dadl, ond pob peth yn myned yn mlaen yn hyfryd. Rhoddodd Harris siars ddifrifol iawn i'r cynghorwyr, gyda golwg ar eu hymddygiad, eu gwisg, a'u darllen; dangosai fawredd y gwaith, gwerth yr ŵyn, a pha fodd y dylent eu caru, a bod yn dyner o honynt, er mwyn Crist. "Yr oeddwn yn fanwl," meddai, "wrth ddangos sut y mae hunan a balchder yn dyfod i mewn, dan wahanol liwiau, megys gwisgoedd, &c. Yna agorwyd fy ngenau, gan Dduw, yr wyf yn credu, i geryddu brawd am fod yn anffyddlawn i'w ymddiriedaeth. Tra yr oeddwn yn ei geryddu aethum i lawr i'r llwch, yr oeddwn yn cael fy nhrywanu gan gariad ato, a dangosais ganlyniadau niweidiol anffyddlondeb i ymddiriedaeth i bawb o honom, ei fod yn ddirmyg ar awdurdod Duw yn ein mysg." Nid oedd Harris yn fwy dirmygus a gwael yn ei olwg ei hun un amser, na phan yn gweini cerydd i arall, a chawn ef y tro hwn yn llefain ar y canol: "O Arglwydd! Pwy wyf fi i fod yn y fath le o ymddiried! Yr wyf yn ei deimlo i'r byw, ei fod yn fy ngosod fwy- fwy yn lle tad, ac y mae hyn yn fy ngyru i'r llwch."

Diorphwys y teithiai Howell Harris misoedd Tachwedd a Rhagfyr, 1743. Yr ydym yn ei gael yn barhaus naill ai yn Llangeitho, neu ynte yn nghymdeithas Daniel Rowland a Williams, Pantycelyn, mewn rhanau eraill o'r wlad, yr hyn a arwydda fod materion pwysig cysylltiedig â'r diwygiad yn peri dirfawr bryder, ac yn gofyn am aml a dwys gydymgynghoriad. Eithr yr oedd yspryd Harris ar uchelfanau y maes. Dydd Nadolig ysgrifena: "Yr wyf yn awr yn dychwelyd o daith am bedair wythnos trwy Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, lle y mae y gwaith yn myned yn mlaen yn rhyfedd. Ni welais erioed o'r blaen yn y nifer amlaf o leoedd y fath dân, bywyd, nerth, a rhyddid ffydd. Bydded i Grist gadw mewn cof yn ein mysg ryfeddol waith yr Yspryd Glan. Yn sicr, y mae yr Arglwydd wedi dychwelyd i'w deml. Neithiwr, yn y dirgel, yr oedd fy enaid yn llosgi gan awydd am ogoneddu Duw; yr oedd fy enaid ar dân gan fawl i Dduw. Llefwn: 'O Dduw, yr wyf yn dy garu ac yn dy fendithio am Grist. Yr wyf yn dy fendithio am ei fywyd, fy nheitl perffaith i'r nef; yr wyf yn dy fendithio am ei farwolaeth, fy ngwaredigaeth rhag y felldith; yr wyf yn dy fendithio am ei adgyfodiad, am orchfygu marwolaeth, a phechod, a'r diafol; yr wyf yn dy fendithio am ei fod yn awr mewn gogoniant, a phob awdurdod ganddo.' O, y rhyddid hwn! Cryfhawyd fy ffydd yn fawr wrth ddarllen Mat. i. 21, y gellid fy ngwaredu oddiwrth fy mhechodau. Cefais lawer o nerth i weddïo dros y sir hon, yn enwedig ar i Dduw aros yma, a'm bendithio inau iddi."

Blwyddyn ryfedd yn hanes Methodistiaeth Cymru yw y flwyddyn 1743. Ynddi y cymerodd cyfansoddiad y Cyfundeb ffurf arosol, ac y darostyngwyd y seiadau a'r cynghorwyr i drefn. Bu yn gyfnod o ddirfawr bryder, o ymdrechion arwrol, ac o ymweliadau grymus. A chawn Howell Harris ar ei therfyn mewn yspryd bendigedig, yn bendithio ac yn molianu Duw.

Y dydd Mercher cyntaf yn y flwyddyn 1744, cyfarfyddai y Gymdeithasfa Chwarterol yn Watford. Y mae profiad Harris ar ei ffordd yno yn haeddu ei groniclo:

"Llefais mewn dwfn ddarostyngiad: O Arglwydd, oni bai am y gras sydd ynot ti, O Iesu, nis gallwn fyned yn y blaen; dychrynid fi gan y treialon a'r croesau; ynot ti ac ar dy ras yr wyf yn pwyso.' Cefais olwg hyfryd ar ogoniant, cariad, a melusder Duw; gorweddais yn gysurus arno, gan lefain: Gyda golwg ar fyned i Lundain, dangos i mi, Arglwydd, a ydwyt yn fy anfon. Yr un peth i mi yw myned neu beidio myned. Yn unig bydded i mi dy gael di, yna danfon fi i uffern, os wyt yn ewyllysio, i bregethu i'r gethr sydd yno. Yr wyt ti yn frenin arnynt hwy, ac y maent yn rhan o dy deyrnas." Gwelais hyn mor amlwg fel yr oeddwn yn barod i fyned neu beidio myned. Yna yn ddisymwth cododd cri ynof: O Arglwydd, anfon fi i Lundain; anfon genadwri gyda mi er bendith i'r wyn.' Teimlwn gariad dwfn, a dymuniad am gael fy anfon i'w mysg. Gyda golwg ar y mawrion yr wyf i ymddangos ger eu bron, sef esgobion, &c., gwnaed i fy enaid lefain: O Arglwydd, yr wyt ti yn y nefoedd; ar y gras sydd ynot ti yr wyf yn pwyso." . . . Y ddoe oedd y dydd yr ymddangosai yr wyn perthynol i Sir Drefaldwyn, gerbron y gelynion yn Bangor; teimlais gymundeb dwfn â hwy yn eu dyoddefaint, a hyder y byddai i Dduw fod gyda hwy. Am danaf fy hun, teimlwn yn barod i fyned i ganol y werinos, a marwolaethau o bob ffurf, gan fy mod. yn gweled Crist uwchlaw pob peth."

Gyda golwg ar Fethodistiaid Sir Drefaldwyn yn cael eu gwysio i Bangor, teifl y difyniad canlynol o lythyr Howell Harris at yr Hybarch Griffith Jones, ryw gymaint o oleuni: "Oddiar pan welais chwi bum yn Sir Drefaldwyn. Y ddoe aethant (y Methodistiaid) i Bangor; ac yn ol eich cyfarwyddyd chwi ymgynghorais â rhai personau deallus yn y gyfraith. Ymddengys mai yr unig ffordd trwy ba un y gellir symud achosion o'r llys hwnw i'r Court of Arches yw trwy writ oddiwrth yr Arglwydd Brif Ynad, a elwir nolle prosequi. Dydd Sadwrn nesaf, yn Nhrefecca, yr wyf yn dysgwyl cael hysbysrwydd am y gweithrediadau yn eu herbyn, a pha un a fydd i hyny, a materion eraill, fy ngalw ar unwaith i Lundain. Neithiwr, cyfarfyddais a Mr. Whitefield yma; y mae efe am i mi fyned, ac am gario yr achos yn mlaen. Ond gan mai achos yr Arglwydd ydyw, nid amheuaf y bydd iddo dueddu meddyliau pawb ydynt dan lywodraeth deddf ei gariad i uno, galon a llaw, i'w gario yn mlaen. Bendigedig a fyddo Duw, y mae y gwaith ar gynydd yn mhob man, a drysau newyddion yn agor." Ysgrifenwyd y llythyr hwn o Watford, Ionawr, 1744. Gwelwn fod Griffith Jones, er na ymunai yn ffurfiol â'r Methodistiaid, yn calonog gydymdeimlo â'r diwygiad, a'i fod yn wr o gynghor i'r Diwygwyr ar bob achos dyrys. Sut yr aeth pethau yn mlaen yn Mrawdlys Bangor, nis gwyddom, ond gallwn fod yn sicr ddarfod i'r Arglwydd, yn ol ei arfer, i'r rhai a garant ei enw, ofalu am ei eiddo. Y "materion eraill" y cyfeiria Harris atynt, fel yn debyg o'i alw i Lundain, oedd y cynghaws cyfreithiol a ddygid yn mlaen yn erbyn y rhai ddarfu ymosod ar y Methodistiaid yn Hampton, gan derfysgu eu cyfarfodydd. Yr oedd canlyniad y cynghaws o'r pwys mwyaf i'r Methodistiaid, am y penderfynai eu hawl i gael llonyddwch i addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod.

Cymdeithasfa fechan ydoedd yn Watford. oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn absenol; dywed cofnodau Trefecca mai gerwinder yr hin a'u rhwystrodd, ac i'w ceffylau fethu. Ond daethai Whitefield yno yn ffyddlawn i gymeryd y gadair; yr oedd y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, wedi cyrhaedd, ac hefyd y nifer amlaf o'r arolygwyr. Dechreuwyd am ddeuddeg trwy weddi a mawl. Meddai Harris:

"Dysgwyliais am nerth i roddi fy mywyd i lawr; teimlwn fy hun yn foddlawn gwneyd hyny, ac eto ni chymerwyd arswyd marwolaeth i ffwrdd; gwelwn ddadgysylltiad natur a newid stad yn beth i'w fawr ofni. Gwelais angau fel anghenfil dychrynllyd, ond gwelais Iesu Grist uwchlaw iddo, ac uwchlaw y diafol; ac yn yr ymdeimlad o nerth Crist cymerwyd yr arswyd ymaith."

Gwaith cyntaf y Gymdeithasfa oedd derbyn adroddiad yr arolygwyr. Yna traddododd Whitefield anerchiad i'r cynghorwyr. Yn ganlynol, pregethodd Whitefield, gyda chryn nerth, oddiar Heb. viii. 10-12. Yna ail eisteddodd y frawdoliaeth i ymdrin â gwahanol faterion, o'r hyn y rhydd Harris y crynodeb canlynol:

"1. Llefarodd Whitefield am y cynghaws cyfreithiol, a daeth Yspryd Duw i lawr; cefais nerth i weled ei fod dros yr Arglwydd, felly hefyd y gwelai yr holl frodyr. Profodd yn foddion i'n gwasgu yn

agosach at ein gilydd, ac felly ni a gyfranasom yr hyn a fedrem at yr achos. 2. Gofynodd Whitefield genyf ysgrifenu hanes fy mywyd; cefais inau ryddid mawr tuag at Grist, gan ganfod ei fod yn dysgwyl hyn genyf; cefais nerth i benderfynu gwneyd, er mwyn yr wyn, ac o gariad ato ef, gan mai ei eiddo ef yw yr holl waith.

3. Pan y gofynwyd genyf i fyned i Lundain, i weled llawer o'r mawrion, a phan oedd arnaf ofn y prawf, cefais nerth i gyfeirio fy ngolwg at glwyfau yr Iesu, a chododd cri ynof: O Arglwydd, gad i mi fyned; gad i mi fyned, ac anfon fi.' wedi gweddïo mewn cryn ryddid gyda'r brodyr, agorwyd fy ngenau i gynghori, daeth tân, nerth, a bywyd i'n mysg. Tuag un-ar-ddeg aethom i'r Watford, ac eisteddasom i fynu hyd bump, yn siarad yn rhydd gyda'r brodyr am lawer o faterion, megys cynhanfodiad eneidiau, taith yr Israeliaid tua Chanaan, &c. Y mae fy holl hyder yn y gras sydd yn Nghrist. O fel yr ydym yn cael ein ffafrio, ac fel y mae yr Oen yn ein harwain ac yn tosturio wrthym." Hawdd gweled fod yr yspryd goreu yn ffynu, a bod y brodyr yn rhydd iawn yn nghymdeithas eu gilydd. Tyna Harris mewn ychydig linellau ddarlun prydferth o'r cwmni yn mhalas Watford o gwmpas y tân, wedi gorphen eu gwaith, ac yn aros i fynu hyd bump o'r gloch y boreu, yn ymdrin â chwestiynau dyrys a damcanol, cyffelyb i gynhanfodiad eneidiau. Gwelwn hefyd mai yn y capel y cynaliwyd y cyfarfodydd. Ond pa un ai capel Watford, ynte capel y Groeswen, sydd ansicr; y mae dull y geiriad yn ffafrio y diweddaf.

A ganlyn yw yr adroddiad am y Gymdeithasfa yn nghofnodau Trefecca:—

"Darllenwyd llythyr oddiwrth seiat Cnapllwyd, yn gofyn ar i'r brawd George Phillips gael ei anfon i'w cynorthwyo. Pwyswyd y mater gan y brodyr, a chydunwyd ei fod i gael ei anfon.

"Yr oedd adroddiad y brawd Beaumont am ei seiadau yn felus; dangosai eu bod mewn stad o gynydd; ond yr oedd arno angen llafurwr oddifewn, i feithrin yr eneidiau. Cydunwyd ei fod i ofalu am danynt ei hun, mor bell ag y bydd hyny yn gyson â'i gynllun, hyd nes y cyfyd yr Arglwydd rywun yn meddu y ddawn neillduol hon.

"Y mae y brawd Thomas Lewis i gael ei roddi yn gyfangwbl i'r brodyr Saesnig.

"Creda y brodyr fod y brawd Jacob Jones yn cael ei alw gan ein Hiachawdwr i weithio yn ei winllan, ac y maent yn cyduno iddo fod yn gynorthwywr i'r brawd Morgan John Lewis. Yr un fath am y brawd Richard Edward.

"Cydunwyd fod y brawd William John i fod yn arolygwr dros Sir Gaerfyrddin, yn lle y brawd Bloom, yr hwn sydd wedi ymddiswyddo.

"Derbyniwyd adroddiadau y brodyr Morgan John Lewis, Thomas Williams, William Richard, William John, Thomas James, a Richard Tibbot, am seiadau Trefaldwyn, Morganwg, Brycheiniog, Mynwy, a rhanau o Faesyfed, a Chaerfyrddin. Yr oeddynt yn hyfryd yn wir. Nis gellid cael yr adroddiadau eraill. Y mae Cymdeithasfaoedd Misol wedi cael eu cynal yn mhob cylch o arolygiaeth er ein Cymdeithasfa ddiweddaf, sef yn Gellidorchleithe, Cayo, Trefecca, a Watford; siomiant a fu yn Dygoed; ac yr oedd yr Arglwydd gyda ni yn mhob man; a phenderfynem bob peth, yr ydym yn gobeithio, yn ol ewyllys ein Hiachawdwr, mewn cariad, a heddwch, ac undeb. Ein Cymdeithasfa nesaf i fod yn y Fenni, y dydd Mercher cyntaf gwedi Gwyl Fair."

Ymddengys ddarfod i holl drefniadau y Gymdeithasfa gael eu gwneyd y diwrnod cyntaf, ond pregethodd Whitefield boreu dranoeth am wyth, oddiar 1 Cor. xv. 53, dan arddeliad anarferol. O gwmpas deg, cychwynodd Harris ac yntau tua'r Fenni. Ar eu ffordd pasient gymydogaeth Pontypwl, maes llafur y Parch. Edmund Jones. Llonwyd Howell Harris yn fawr wrth glywed am ymdrechion a llwyddiant y gŵr da hwnw. Meddai: "Cefais lawer o undeb ag ef, a serch ato, er ddarfod i Satan ar y cyntaf geisio creu pellder rhyngom, fel nad oeddwn yn hoffi ei weled." Fe gofir mai Edmund Jones fuasai a'r llaw flaenaf yn lluniad ac anfoniad allan y proclamasiwn hwnw yn erbyn y Methodistiaid; ac felly y mae yr yspryd a ddengys Harris yn y difyniad uchod yn fawrfrydig anarferol.

Y mae y llythyr canlynol, a anfonwyd at arweinwyr y diwygiad gan aelodau seiat Mynyddislwyn, yn esbonio ei hun, ac yn taflu goleuni pruddaidd ar fywyd llygredig clerigwyr Eglwys Loegr ar y pryd:

Anwyl frodyr; yr ydym mewn cyfyngder yn ein meddyliau o herwydd ein bod yn ffaelu bod yn gyfranog o'r ordinhadau. O herwydd y mae ein cuwrad ni yn un ag y mae y gair am dano ei fod wedi ei dyngu yn odinebwr, ac oblegyd hyny yr ydym yn methu cael rhyddid i gydfwyta, heb dori gorchymyn Duw. Yr ydym yn dymuno cael eich barn chwi ar y mater. Yr ydym yn gweled fod yr ordinhadau yn foddion na ddylid eu hesgeuluso, ac na ddylid, ychwaith, bwyso arnynt yn ormod. Dymuno cael cynghor oddiwrthych yr ydym, gyda chofio am danom gerbron gorseddfainc y gras." Dyddiad y llythyr hwn yw Ionawr 2, 1744. Diau y bwriedid iddo gael ei ddarllen a'i ystyried yn Nghymdeithasfa Watford, eithr nid oes un cyfeiriad ato yn ei chofnodau. A gafodd efe sylw yno, ac os do, pa ateb a roddwyd, sydd yn gwbl anhysbys.

Dydd Mercher, Ionawr 11, 1744, y mae Howell Harris yn cychwyn am Lundain. Cyrhaeddodd Ross o gwmpas tri yn y prydnawn, wedi cymdeithas anarferol o fuddiol am ran o'r ffordd gyda y brawd Morgan John Lewis; dysgasant amryw wersi buddiol yn nghyd, gan weled mai trwy brofiad y mae adnabod Duw, ein hunain, Crist, a dichellion y diafol. Cyrhaeddodd Gaerloyw erbyn pump, a chwedi cael adgyfnerthiad i'w gorph aeth i'r seiat, lle y cafodd achlysur i lawenhau. Cododd boreu dranoeth am chwech, er mwyn anerch aelodau y seiat, yr hyn a wnaeth oddiar y geiriau: "Canys eiddot ti yw y deyrnas." Nos Sadwrn, daeth i Lundain, gan fyned ar ei union i dy Mr. Whitefield, lle y clywodd newyddion gogoneddus am lwyddiant y gwaith. Boreu y Sul, aeth tua St. Paul; nis gallai glywed yr offeiriad yn pregethu; ond cafodd nerth i weddïo dros Eglwys Loegr: "O Arglwydd, dychwel; y mae dy ogoniant ar riniog y drws, bron ymadael oddiwrthym. O tyred, ailadeilada yr adwyau; fel, os oes yma goffadwriaeth i'th enw, os oes genyt had yn ngweddill, os nad yw y gogoniant wedi llwyr adael, y gallwyf aros yn yr Eglwys druan hon." Teimlodd y fath gariad at yr eneidiau tywyll oedd yn yr Eglwys fel nas gallai eu gadael, ond gwnaed iddo lefain: "O Iesu, yr wyt wedi agor tai cyrddau (y mae llawer o dai cyrddau wedi eu hagor yn awr), ac yr wyf, Arglwydd, yn dy fendithio am hyny; ond ai ni wnei di ein bendithio ninau, ac agor drysau yr eglwysydd?" Teimlodd yspryd galar; cyffesodd ei bechodau ei hun, pechodau yr Eglwys, a phechodau y genedl, a llefodd: "O Arglwydd, yr wyt yn canfod ein bod yn farw, mewn trwmgwsg, ac nid yn unig hyny, ond yn gwrthryfela yn dy erbyn di. ac yn dy demtio yn mhob ryw fodd. O tosturia wrthym, a dychwel atom drachefn." Wedi i'r bregeth orphen aeth at fwrdd y cymun, a gwelodd yr oll y safai mewn angen am dano yn Nghrist. Y noson hono aeth i wrando Whitefield yn pregethu, yr hyn a wnaeth yn ardderchog, oddiar hanes Samson; ac yn y seiat a ddilynai anerchodd Harris y frawdoliaeth. Clywodd yno am Esgob Llundain yn ysgrifenu yn eu herbyn.

Boreu dydd Llun aeth efe a Whitefield at y cyfreithiwr, gyda golwg ar y cynghaws. Cafodd ar ddeall na wnai y terfysgwyr unrhyw ddiffyniad, yr hyn a barodd i Harris lefain allan: "Gogoniant!" Dydd Mawrth yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yn y Tabernacl; ymddengys nad oedd llawer o faterion yn galw am sylw; yr unig beth y cyfeirir ato yn y dydd-lyfr oedd, priodas rhai brodyr, i'r hyn nad oedd tadau eu darpar-wragedd yn foddlawn. Beth a benderfynwyd ar hyn ni ddywedir. Bu yn Llundain hyd Mawrth 15fed, yn pregethu, yn cynghori yn y cymdeithasau, ac mewn amryw gynadleddau o weinidogion. Ymwelodd a'r palas brenhinol yn Kensington; a charcharorion wedi eu dedfrydu i angau yn Newgate; a chawn ef amryw droiau ar ymweliad a'r Iarlles Huntington. Yr oedd Llundain yn ferw yr amser yma rhag i'r Ffrancod oresgyn y deyrnas; cyfranogai Harris ei hun o'r ofn, a dywed ddarfod i lynges elynol ddyfod unwaith i fynu y Thames. Ymddengys fod ei iechyd hefyd yn wael trwy yr holl amser; weithiau methai godi o'i wely hyd ganol dydd. Cyrhaeddodd Gaerloyw nos Wener, Mawrth 16, ac amcanai fod yn y brawdlys, yn mhrawf terfysgwyr Hampton. Ni wnaethant fawr o ddiffyniad, a dyfarnwyd hwy yn euog, ond gadawyd maint y ddirwy i'w thalu ganddynt i'w phenderfynu gan Lys y King's Bench, yn Llundain. Meddai Whitefield, yr hwn yntau hefyd. oedd yn bresenol: "Yr wyf yn clywed fod y terfysgwyr wedi dychrynu yn enbyd; ond nid ydynt yn gwybod mai ein hamcan yw dangos beth a allwn wneyd, ac yna maddeu iddynt." Ychydig o enghreifftiau a geir o ddynion mor alluog i faddeu i'w gelynion, a thrwy hyny gyflawni gorchymyn Crist, a'r Methodistiaid.

Nos Sul, Mawrth 19, y cyrhaeddodd Drefecca, yn lluddedig ac yn llesg. Dydd Mercher, yr wythnos ganlynol, yr ydym yn ei gael mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn y Fenni. Daethai Whitefield yno i gymeryd y gadair; yr oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn bresenol, yn nghyd â chryn nifer o'r arolygwyr. Y mae yn clywed, gyda ei fod yn cyrhaedd y lle, am gwymp rhai brodyr. "Rhoddodd yr Arglwydd "Rhoddodd yr Arglwydd i mi," meddai, "i deimlo baich o alar oblegyd ein bod yn pechu fel hyn yn erbyn ein hanwyl Dad; ein bod ni, sydd yn cael ein ffafrio mor fawr, yn pechu yn ei erbyn. Cyfarfyddais a brawd arall, Mr. William Evans, yr hwn oedd dan ryw feichiau, a theimlais yn fwy nag erioed fod ei faich yn gwasgu ar fy yspryd." Yna dywed iddo fyned yn mhell oddiwrth yr Arglwydd, i lygredd ei natur ymdori i'r golwg mewn llid, iddo golli ei dymher, a phoethi, a chlywodd ddarfod i'w boethder daflu rhywun i lewyg. Gwelodd mor anghyfaddas ydoedd i'w le, ac mor annheilwng i fod yn ŵr priod, yr hyn yn awr a bwysai yn drwm ar ei feddwl; ac aeth i'w ystafell i ymddarostwng ger bron yr Arglwydd. Bu yn drallodus iawn yno. Ond galluogwyd ef cyn dod allan i ddiolch i Dduw am guddio ei wyneb oddiwrtho, ac am adael i'w lygredd amlygu ei hun, gan fod tuedd yn hyn i'w gadw yn ostyngedig. Daeth yn foddlon rhoddi i fynu ei ddarpar-wraig, ei le yn yr eglwys, a phob rhodd a dawn a gawsai. Agorodd Whitefield y Gymdeithasfa trwy bregethu ar y geiriau, "A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn?" Dangosodd nodau cariad at Grist, ei fod yn llawenhau wrth glywed am lwyddiant yr efengyl, ei fod yn awyddu marw, yn gallu caru ei elyn, yn meddwl ac yn siarad am dano ef, ac yn caru plant Duw perthynol i bob plaid grefyddol. Ei fod yn ein galluogi i agor ein calonau i'n gilydd; nas gallwn garu Crist heb wybod hyny; a'i fod yn peri i ni roddi pob peth i fynu iddo ef. Wrth weddio ar derfyn y cyfarfod cafodd nerth anarferol. Yn y cyfarfod neillduol, gosodwyd ar Harris i weinyddu dysgyblaeth ar frawd oedd wedi troseddu; gwelai ei hun, wrth wneyd hyny, yn waeth na'r un a ddysgyblai, ond fod Duw yn cuddio. ei ddrwg, tra y daethai drwg y brawd oedd ger bron i'r golwg. Gwanai hyn ef fel pe ei trywanid a dagr yn ei galon. Tranoeth pregethodd gyda llawer o nerth.

Heblaw trefniad y Cyfarfodydd Misol am y misoedd dyfodol, yr unig benderfyniadau o eiddo y Gymdeithasfa a groniclir yn nghofnodau Trefecca yw a ganlyn:-

"Cydunwyd yn ddifrifol nad oes neb i fod yn absenol o Gymdeithasfa, oddigerth iddo allu rhoddi rheswm am hyny a ddeil yn nydd y farn.

"Fod y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf i gael ei chynal yn Nhrefecca, y dydd cyntaf wedi pen y chwarter.

"Fod y brawd John Richard i barhau i fyned o gwmpas hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac yn y cyfamser, fod Mr. Harris i ymweled a'i seiadau, er eu cymhell i ddwyn ffrwyth iddo. Yr oedd yn absenol, ond anfonodd adroddiad am y seiadau, yr hwn oedd yn hynod felus.

"Fod y brawd Dafydd Williams i ddyfod i'r Gymdeithasfa Chwarterol nesaf, i ateb i'r pethau a roddir i'w erbyn.

"Fod pregethu i gael ei gynal yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol; yr offeiriaid i weinyddu yn eu cylch; y Gymdeithasfa i ddechreu am ddeuddeg, a'r brodyr wedi cymeryd lluniaeth yn flaenorol. Mr. Rowland i bregethu y tro nesaf."

Ychydig sydd yn y cofnodau yma yn galw am sylw. Gwelwn fod yr hen frawd John Richard, Llansamlet, yn dlawd ei amgylchiadau, ac mai amcan ymweliad Harris a'i seiadau oedd eu cymhell i estyn cymhorth arianol iddo. Gwelwn hefyd y lle mawr a gaffai pregethu yn y Cymdeithasfaoedd o'r dechreu.

Ebrill 2, 1744, yr ydym yn cael Harris mewn Cymdeithasfa Saesnig, yn Wiltshire. Whitefield a lywyddai; ymddengys mai efe oedd cadeirydd sefydlog y Cymdeithasfaoedd Saesnig yn ogystal a'r rhai Cymreig. Ar y cyntaf teimlai Howell Harris ei hun yn galed ac yn gnawdol; ond pan ddechreuodd y cadeirydd weddïo dros y brenhin, a'r wlad, ac yn erbyn y Pabyddion, toddodd ei galon o'i fewn, a gollyngwyd ei yspryd yn rhydd. Eisteddwyd hyd o gwmpas pump yn trefnu rheolau cyffredinol, ac yn gosod pawb yn eu lle, offeiriaid, pregethwyr, cynghorwyr, a goruchwylwyr. Tra y gwneyd hyn, teimlai Harris awydd myned allan i'r rhyfel, i gael marw ar faes y gwaed. Dywed hefyd iddo gael ei wneyd yn offeryn i gymeryd cam yn mlaen tuag at ymwahanu oddiwrth y brawd J. W.; John Wesley, yn ddiau.

Ebrill 13, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nantmel, yn Sir Faesyfed; yr oedd Howell Harris yn bresenol, ond Williams, Pantycelyn, a lywyddai. Meddai Harris, yn ei ddydd-lyfr: "Yn wir fy ngenau a agorwyd i anerch y brodyr yn gyffredinol, gan ofyn a oeddynt yn teimlo y gwaith wedi ei osod yn ddwfn yn eu calonau; a oedd cariad at eneidiau wedi ei gynyrchu ynddynt; ac a oedd golwg ar fawredd a natur y gwaith, a gwerth eneidiau wedi peri iddynt ofyn am nerth a doethineb? Hefyd, a oedd yr Yspryd wedi dangos iddynt (1) Ogoniant Crist? (2) Drygedd y galon, nad yw y naill yn ddigon heb y llall? A ydyw Duw wedi rhoddi dwy ffydd iddynt, un er mwyn eu heneidiau, a'r llall er mwyn y gwaith? A ydyw teimlad o fawredd y gwaith yn eich gwasgu i'r llawr, a theimlad o'r anrhydedd a berthyn iddo yn eich gwneyd yn ostyngedig, ac yn eich cyffroi ? Yna y brodyr a atebasant yn hyfryd. Dangosodd y brawd Beaumont fel yr oedd Duw wedi ei waredu ef rhag hunan-gariad, trwy weled ei hun a'r gwaith yn Nuw am amser, ac i dragywyddoldeb. Yna, gwedi arholi y brodyr (gwelwn fod yr Arglwydd yn fy nghymhwyso ar gyfer y lle, ac yn fy mendithio ynddo), galluogwyd fi i'w cyffroi i ddiwydrwydd, ac i ddangos iddynt pa fodd i ymddwyn mewn teuluoedd. Ymddiddanais yn faith gyda y brawd gyda golwg ar ei briodas, a'i ragolygon mewn bywyd, gan ddangos na ddylai gweinidog ymrwystro gyda phethau'r byd ond mor lleied byth ag sydd yn bosibl. Cefais lawer o ffydd, a gwresawgrwydd, a zêl, a rhyddid i gynghori, ac yn neillduol i weddio, ac yna ymadewais yn hyfryd mewn cariad." Gwelir ddarfod i Howell Harris mor foreu a hyn weled mai dyledswydd gweinidogion y Gair oedd llwyr ymroddi i'r weinidogaeth, mor bell ag yr oedd hyny o fewn eu cyrhaedd.

A ganlyn yw penderfyniadau Cymdeithasfa Nantmel, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:

"Penderfynwyd fod y brawd Richard i gael ei neillduo yn hollol ac yn gyfangwbl i'r gwaith o ymweled a'r cymdeithasau, yr oll o honynt bob wythnos.

"Fod y brawd Edward Bowen i oedi ei briodas yn bresenol, am nad ydym yn glir ei bod o Dduw.

"Fod y cynghorwyr i ofalu, pan yn ymweled a theuluoedd, i gynghori ac addysgu y plant, y gweision a'r morwynion, &c. Cawsom lawer o wyneb yr Arglwydd, yn ein haddysgu, ac yn tanio ein calonau, gan roddi i ni lawer o oleuni ysprydol gyda golwg ar ein gwaith a'n lleoedd, a chan ddangos i ni fawredd y gwaith, ac ymweled â ni yn nglyn ag ef."

Ymadawodd Howell Harris yn nghwmni Williams, Pantycelyn, o gwmpas pump o'r gloch; melus odiaeth oedd y gyfeillach. rhwng y ddau gyfaill wrth groesi mynyddoedd Maesyfed a Brycheiniog; Williams yn cyfeirio ei gamrau tua chartref, heibio Llanwrtyd, lle y buasai yn guwrad gynt, a Harris yn myned i Ddolyfelin, lle yr oedd ei gyhoeddiad i bregethu. Meddai y dyddlyfr: "Cefais hyfrydwch dirfawr gyda y brawd Williams; ffafriwyd fi â golwg ar Dduw, oll yn oll, yn debyg i'r hyn a gefais yn y boreu." Treuliodd y Sul yn Llanwrtyd, ac aeth i'r eglwys yn y boreu; ond nid Williams a wasanaethai yno yn awr, ond rhywun hollol wahanol parthed dirnadaeth o wirioneddau yr efengyl, a dawn i'w traethu. Meddai Harris: "Cefais dosturi dirfawr at yr offeiriaid tlodion a dall, gan lefain drostynt fel dros ddeillion ar ochr y ffordd." Wedi i'r gwasanaeth ddarfod, pregethodd yntau, oddiar Salm xxiii.; cafodd ryddid mawr wrth lefaru ac wrth weddïo. Yn yr hwyr pregethodd i dyrfa fawr, yn rhifo llawer o ganoedd, mewn lle o'r enw Penylan, tua thair milltir allan o'r pentref. Dydd Llun y mae yn Llwynyberllan; aeth yn ei flaen oddiyno i Gilycwm, a phregethodd yn ymyl y dderwen fawr sydd yn nghanol y pentref oddiar Salm xxiii., i dorf o amryw ganoedd. Yr oedd yn odfa nerthol. Cyfarfyddodd yno a chlerigwr o'r enw Llewelyn Llewelyn, dyn galluog, llawn bywyd, ond yn llithro yn aml mewn modd ffiaidd. Teithiodd rhagddo i Gayo, wedi pregethu ar y ffordd cydrhwng, ac aeth y noson hono i seiat breifat. Dydd Mawrth y mae yn Nghwmygwlaw. Aeth oddiyno i gapel Abergorlech, lle y pregethai Daniel Rowland. Llefarai oddiar Jer. viii. 7, a chafodd nerth rhyfedd i egluro'r gwirionedd. Dydd Mawrth, Ebrill 17, ymgynullent mewn Cymdeithasfa Fisol, yn Glanyrafonddu; heblaw Rowland a Harris, yr oedd Williams, Pantycelyn, yno, yn nghyd a'r Parch. Benjamin Thomas, a nifer mawr o arolygwyr a chynghorwyr. Yr oedd yn chwech o'r gloch yn yr hwyr ar y cyfarfod yn dechreu; buont yn cydeistedd yn trefnu materion, ac yn cydweddïo hyd o gwmpas un-ar-ddeg. Yr oedd Harris mewn yspryd rhagorol; hawdd deall wrth ei sylwadau fod y Gymdeithasfa flaenorol yn yr un lle, pan y llywodraethwyd ei yspryd gan y gelyn, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl. "Yr oeddwn," meddai, "mewn yspryd gweddïgar, ac yn hyfryd at y brodyr; tueddai pob peth i'm darostwng; yr oeddwn yn isel, ac yn addfwyn, ac mɔr ddedwydd. Wrth weddio gwelais fod angau, uffern, rhyfel, a phob peth dychrynllyd i natur, o fewn awdurdod Crist; canfyddwn ef goruwch iddynt oll. Wrth gynghori gwnaed fi yn rhydd ac yn hyf; dangosais eu dyledswydd at yr wyn, ddarfod i'r Iesu eu llwyr brynu, fel y byddai iddynt ddefnyddio enaid, corph, amser, anadl, talent, ac arian yn ei wasanaeth, &c., ac nid i wasanaethu hunan. Cefais ryddid i lefain Arglwydd, y mae pob peth yn eiddot ti; eiddot ti yw fy enaid, a'm corph; felly nis gellir eu colli.' Gyda y goleuni hwn drylliwyd fy yspryd, fel y gallwn oddef cael fy ngwrthwynebu, ac ymostwng i bob peth." Yn sicr, prawf y difyniadau hyn ei fod mewn tymher nodedig o hyfryd. Yn canlyn wele y penderfyniadau a basiwyd:

"Penderfynwyd fod Dafydd William Rees i fyned a chyfaddef iddo lefaru ar fai wrth ymddiddan a Mr. Griffith Jones, ger bron Mr. Davies; a phan eu cymodir, ei fod i gael ei adfer i'w swydd fel cynghorwr, ond ei fod i ymatal hyd hyny.

"Fod Thomas Dafydd, gan ddarfod i'r Ymneillduwyr ei droi allan am gymdeithasu â ni, i gael ei uno yn llwyr â ni yn Erwd, ac i gynghori ar brawf, tan arolygiaeth James Williams, ond nid yw i adael ei orchwyl yn y cyfamser.

"Fod y cynghorwyr i lefaru yn y ffurf o anerchiad, ac nid yn y ffurf o bregeth.

"Fod y brawd Thomas Griffith i gael ei dderbyn fel cynghorwr preifat, tan arolygiaeth y Meistri Rowland a Williams.

"Fod Benjamin Rees i gael cynghori, fel brawd perthynol i'r Ymneillduwyr, hyd y Gymdeithasfa nesaf.

Fod John Dafydd i gynghori yn ei gymydogaeth ei hun, ar brawf, tan arolygiaeth y brawd James Williams, hyd nes ceir adroddiad gyda golwg ar ei ddoniau, a'i gymhwysderau, mewn trefn i arholiad.

"Fod y brawd Evan John i gael ateb i'w lythyr trwy Mr. Williams, sef nad ydym yn cael ein perswadio gyda golwg ar ei alwad i gynghori, fel y gallwn roddi iddo ddeheulaw cymdeithas, ac felly ein bod yn ei gyflwyno i'r Arglwydd."

Gwelwn fod y dull o brofi pregethwyr y dyddiau hyny yn gyffelyb iawn i'r dull presenol, gyda'r eithriad fod y rhai nad oedd gweledigaeth eglur gyda golwg ar eu cymhwysderau, nid yn cael eu hatal, ond yn cael eu cyflwyno i'r Arglwydd. Pa beth yw ystyr hyny, nid ydym yn hollol sicr. Efallai mai eu gadael tan fath o brawf hyd nes y ceid goleuni ar y mater oddiwrth Ben yr Eglwys.

Yn mhen dau ddiwrnod drachefn, sef Ebrill 19, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llandremore. Dylid cofio fod y Cyfarfodydd Misol hyn, sydd yn cael eu cynal ar sodlau eu gilydd, yn perthyn i wahanol randiroedd, ond y dysgwylid i Howell Harris, hyd ag y byddai hyny yn bosibl iddo, i bresenoli eu hunan ynddynt oll. Yma Howell Davies a lywyddai. Yr oedd y ddau Howell y pryd hwn ar bwynt priodi, a bu iddynt ymgynghoriad a chyfeillach felus yn nglyn a'r mater. Cymdeithasfa fechan ydoedd; ychydig a ddaethai yn nghyd, a chymharol ddibwys oedd y gweithrediadau. Ond ymddengys iddynt gael profion amlwg o foddlonrwydd Duw. I gychwyn, pregethodd Harris oddiar Matt. xxviii. 18, a chafodd nerth neillduol i lefaru wrth saint a phechaduriaid. Wrth agor y seiat breifat trwy weddi, daeth yr Arglwydd i lawr, gan eu gwneyd oll yn ostyngedig, a'u goleuo, a'u tanio. Wedi sefydlu y brawd William Cristopher yn gateceisiwr, siaradodd Harris yn bur blaen a rhyw frawd, gyda golwg ar iddo ymuno â'r Ymneillduwyr, neu a'r Methodistiaid. "Yna," meddai, "wedi trefnu pob un yn ei le, ymadawsom fel mewn fflam." Dau benderfyniad o'r Gymdeithasfa hon sydd ar y cofnodau; sef "Fod William Cristopher i fod yn gateceisiwr, i gateceisio yn unig, a'n bod i geisio sefydlu cateceisio yn mhob lle; a chan fod galwad daer ar y brawd Richard William Dafydd i Gorseinon, a bod dirfawr angen yno, ac yn Pembre, ein bod yn cydsynio iddo ef, a'i frawd, i fyned i ymweled a hwy hyd y Gymdeithasfa nesaf yn Abergorlech."

Wedi tramwy trwy ranau helaeth o Siroedd Caerfyrddin a Morganwg yr ydym yn cael Howell Harris mewn Cymdeithasfa Fisol yn Watford, a chan nad oedd yno yr un offeiriad urddedig, efe a lywyddai. Pregethodd yn y tŷ newydd, sef naill ai capel y Watford neu y Groeswen, y noson cynt, gydag arddeliad anghyffredin. Dangosodd, gyda nerth na chafodd ei gyffelyb erioed o'r blaen, y fath frenin yw Crist; pa mor ardderchog yw ei deyrnas; fod nefoedd, daear, ac uffern yn perthyn iddi; y modd y mae yn llywodraethu dros bob pethgras a phechod, goleuni a thywyllwch, bywyd ac angau, y byd ysprydol a'r byd naturiol. Yna eglurodd ddyogelwch deiliaid y deyrnas, fod gair Duw; llw Duw; ffyddlondeb, gallu, doethineb, trugaredd, a natur Duw, fel cadwynau cryfion yn eu cadw rhag syrthio; ac nad oedd dynion drwg, a phechod, a Satan, ond gweision Duw, wedi eu bwriadu i ddwyn y saint yn mlaen, trwy gyfarth fel cŵn wrth eu sodlau. "Yna," meddai, "mi a gadarnheais y rhai a ofnent gael eu pressio i fyned allan i'r rhyfel, gan ddangos y gwna pelen magnel y tro cystal a rhywbeth arall i'w hanfon adref. Bloeddiais! pe y gwelech mor gyfoethog ydych, mor ddyogel, ac mor ddedwydd; y fath Frenin sydd arnoch, byddai arnoch gywilydd o honoch eich hunain am eich ofnau a'ch diffrwythder; llefwch am i chwi, a'ch holl dalentau gael eu defnyddio ganddo, gan deimlo y fath anrhydedd ydyw; ewch lle y mynoch, ac i fysg unrhyw greaduriaid y mynoch, eich bod o hyd o fewn tiriogaethau Crist. O Frenin gogoneddus! Ychwaneged eich ffydd i weled gogoniant ei deyrnas!" Ymddengys ei bod yn odfa nerthol, tu hwnt; dywed efe na chafodd ei chyffelyb erioed o'r blaen, ac na chadd syniadau mor ardderchog erioed. Efallai hyny; ond y cof diweddaf yw y cof goreu. Cynyddodd yr hwyl wrth ganu a gweddio ar y diwedd. "Canfyddais ogoniant teyrnas yr Iesu," meddai, "yn y fath oleuni prydferth, fel y fflamiwyd ac y cadarnhawyd fy enaid, ac y parwyd i mi ymuno a'r côr fry i ganu, "Teilwng yw'r Oen a laddwyd! Teilwng yw yn wir!'"

O gwmpas deuddeg, dydd Mercher, agorwyd y Gymdeithasfa. Wrth weddïo ar y dechreu disgynodd ar yspryd Harris i ofyn a oedd yr Arglwydd yn myned i roddi y Methodistiaid i fynu? Cafodd ei berswadio i'r gwrthwyneb, a theimlai fod y cyfryw argyhoeddiad yn dyfod oddiwrth Dduw ei hun. Buont yn eistedd, gydag ychydig seibianf, hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Cawsant drafferth fawr gydag un cynghorwr, o'r enw William Rees, yn ceisio ei argyhoeddi o'i gyfeiliornadau. Maentymiai ef ei fod yn berffaith; ni addawai ychwaith fod yn ddystaw gyda golwg ar ei berffeithrwydd tybiedig yn y cymdeithasau; "felly," meddai Harris, "er mwyn gogoniant Duw, daioni yr ŵyn, a lles ei enaid ef ei hun, ni a'i troisom ef allan o'r seiat, gan yr ymddangosai wedi ymchwyddo yn fawr. Wrth ymgynghori â Duw gyda golwg ar hyn, cefais hyder gan mai yr Arglwydd oedd wedi fy anfon, y byddai iddo ofalu fy nghynysgaeddu â phob gwybodaeth a goleuni angenrheidiol." Eisteddasant i lawr hyd o gwmpas pedwar yn y boreu, yn rhydd ymddiddan am amryw bethau; am gymundeb Eglwys Loegr, ac yspryd erledigaethus ei hoffeiriaid, am briodas agoshaol Howell Harris, a phethau eraill. Barnai y brodyr hefyd, mai John Belsher oedd y cymhwysaf, mewn gwybodaeth o'r Ysgrythyr, doniau, a gras, i fod yn gynorthwywr i Mr. Harris yn ei waith mawr.

Y mae y penderfyniadau a basiwyd, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca, y modd a ganlyn:

"Cydunwyd fod i'r brawd Price ofalu am seiadau Sir Fynwy, ar y morfa, fel cynt, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Thomas Williams, mor bell ag y gall.

"Wedi cryn ymgynghoriad cydunwyd i drefnu y cynghorwyr anghyhoedd, na byddo iddynt gynghori yn gyhoedd, ond yn y seiadau preifat yn unig; gyda yr eithriad o William Edward, am yr hwn yr oedd galwad daer i Lantrisant a'r Groeswen. Joseph Simons i fod fel o'r blaen; Evan Thomas i fyned i Machen a Mynyddislwyn fel o'r blaen ar brawf; a'n bod yn chwilio am bersonau priodol i gateceisio y rhai oddifewn ac oddiallan, er mwyn sefydlu yr ŵyn a'r gwrandawyr mewn gwybodaeth iachus o egwyddorion crefydd, trwy gatecism Mr. Griffith Jones.

"Er mwyn gwell trefn yn nglyn â'r cateceisio, pan ei sefydlir, fod yr arolygwyr i fod yn bresenol, i gynorthwyo yn y gwaith.

"Fod Edward Lloyd yn cael ei gynyg i fod yn gateceisiwr yn y Groeswen, Samuel Jeremiah yn Llanedern, William Thomas yn Aberthyn a Llanharry, Edward Edwards in Dinas Powys a St. Nicholas, Cristopher Basset yn Aberddawen, Howell Griffith neu Morgan Howell yn Llantrisant, William Hughes yn Nottage, a Jenkin Lewis yn yr Hafod.

"Cydunwyd, gan fod cylchoedd yr arolygwyr yn rhy fawr, y gallant ymweled a'r seiadau unwaith y pythefnos yn unig; a chan fod y brawd Herbert Jenkins, a gawsai ei osod i gynorthwyo y brawd Harris fel arolygydd cyffredinol, yn treulio haner ei amser yn Lloegr, y rhaid dewis un i ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, i fyned o gwmpas fel cynorthwywr i'r brawd Harris, ac i helpio yr arolygwyr. Wedi ymgynghori gyda golwg ar ei gymhwysderau mewnol ac allanol, ein bod yn cynyg y brawd John Belsher fel y mwyaf cymhwys i lanw y lle hwn, yn y rhanau of Siroedd Mynwy, Morganwg, a Chaerfyrddin, ar làn y môr, a orweddant yn nghylchoedd y brodyr John Richard, Thomas William, Thomas Price, a rhan o gylch Morgan John; a bod yr arolygydd i gyfarfod ei gynorthwywyr, er mwyn sefydlu yr wyn, unwaith y pythefnos, ar nos Wener.

"Cydunwyd nad ydym yn cael ein perswadio am alwad y brawd William Rees i gynghori, a'n bod yn anfon ato i ddymuno arno roddi i fynu, hyd nes y caffom ragor o foddlonrwydd ynddo; ond fod y brawd William Powell i barhau i fyned yn mlaen, gan ddysgwyl i ba le y bydd yr Arglwydd yn ei alw ac yn ei sefydlu.

"Gan fod y brawd Richard Jones i'w feio, ar amryw gyfrifon, am ymlynu yn ormodol wrth y byd, a bod yn anffyddlawn i'r ymddiriedaeth a roddasid iddo, heb ymdeimlo a'i ddyledswydd tuag atom ni, ei frodyr, a'i fod wedi parhau yn y rhai hyn, yn nghyd a beiau eraill, ar ol aml gynghor a cherydd; ein bod yn cyduno i'w hysbysu oni wna edifarhau am ei golliadau, ac addaw diwygio, ein bod yn dymuno arno am beidio llefaru mwyach fel un o honom ni, a'n bod yn anfon at y seiadau i'w hysbysu o'r penderfyniad hwn. Ond os ymddengys yn edifeiriol, ein bod yn caniatau iddo fyned yn mlaen ar brawf hyd y Gymdeithasfa Gyffredinol nesaf.

"Cydunwyd y byddai i ni, trwy nerth. Duw, ddechreu llefaru, &c., yn fanwl o fewn i awr neu lai o'r amser a benodwyd.

"Fod y brawd Richard Thomas i ddyfod i'n Cymdeithasfa yn Llanfihangel i gael ei sefydlu.

"Traethasom ar amrywiol bynciau duwinyddol, a chydunwyd nad ydym yn Eglwys na Sect, ac nad ydym i alw ein hunain felly, ond seiadau oddifewn i'r Eglwys Sefydledig, hyd nes y'n troir allan; ac nad yw y llefarwyr i alw eu hunain yn weinidogion, ond cynghorwyr.

"Yr ydym yn gweled hefyd nad yw yr hyn sydd er gogoniant i Dduw, ac yn llesiol, mewn un man, yn ateb y pwrpas mewn man arall.

"Gan nad yw dawn y cynghorwyr anghyoedd ond byr, ei fod yn cael ei adael i ddoethineb yr arolygwyr i'w cyfnewid, fel y gwelant yn oreu yn eu cyfarfodydd pythefnosol, ac nad yw y cynghorwyr i drefnu eu lleoedd eu hunain heb ganiatad.

"Gwedi ymddiddan yn hir a William. Rees parthed rhai cyfeiliornadau Antinomaidd, yr oedd wedi syrthio iddynt, a chwedi cynyg iddo aros yn ein mysg, er hyny, os addewai beidio ein terfysgu, at therfysgu yr ŵyn, trwy ei gyfeiliornadau, a phan nad addewai (er ei fod yn addef y crwydrai yn aml ar weddi), ond y taerai nad oedd wedi pechu er ys dyddiau, ac nad oedd unrhyw bechod yn ei ddeall, ei ewyllys, na'i gydwybod, ni a benderfynasom ei droi allan o'r seiadau, ac o'r Gymdeithasfa, gan rybuddio yr holl seiadau rhag ei heresi, ac i beidio cael unrhyw gymundeb agos âg ef. Felly, darfu i ni yn ddifrifol, ar ol dwys ystyriaeth a gweddi, ei droi allan, ac yr oedd ein calonau yn doddedig o gariad ato, gofal am ogoniant Duw, a chydag ofn sanctaidd, a gofal am yr wyn."

Felly y terfyna cofnodau y Gymdeithasfa Fisol hon yn Watford, ac yr oedd yn un o'r rhai pwysicaf a gynhaliwyd. Cawn un, am y tro cyntaf yn hanes y Methodistiaid, yn cael ei esgymuno am gyfeiliornad mewn athrawiaeth, ac yr oedd calonau y brodyr yn mron myned yn ddrylliau wrth orfod ei ddisgyblu. Antinomiaeth oedd yr heresi a flinai y Methodistiaid cyntaf; efallai mai un rheswm am hyn oedd tuedd i fyned i'r eithafion cyferbyniol i'r Ymneillduwyr, y rhai a anrheithid gan Arminiaeth. Y mae yn sicr nad yr un William Rees a drowyd allan, a'r brawd o'r un enw a ataliwyd. rhag cynghori oblegyd byrder ei ddawn. Yr oedd y blaenaf yn bresenol, a chafwyd dadl faith ag ef; yr oedd yr olaf yn absenol, felly anfon cenadwri ato a wnaed. Yr ydym yn gweled ymlyniad cryf wrth. Eglwys Loegr yn ngwaith y Gymdeithasfa yn penderfynu peidio ymgyfenwi yn Eglwys nac yn Sect, ac yn gwarafun i'r cynghorwyr alw eu hunain yn weinidogion; Howell Harris, yn ddiau, oedd yn gyfrifol am y penderfyniadau hyn; yr oedd efe yn fwy ymlyngar wrth yr Eglwys na neb; yr oedd Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn absenol; ac yr oeddynt hwy yn llawer llai eu parch i'r Sefydliad, ac yn fwy parod i gefnu arno.

Y dydd Gwener canlynol cawn Harris yn Pentyrch, tua chwech milltir o Gaerdydd, ac y mae y nodiad yn ei ddydd-lyfr yn haeddu ei groniclo: "Yr oedd fy natur wedi ei llwyr weithio allan, ac ni chyfodais hyd gwedi deg. Wrth fod y brawd T. P. a minau yn agor ein calonau i'n gilydd, a chael fod fy ffaeleddau yn cael siarad am danynt yn ddirgel, cefais olwg ar natur hunan a balchder, gan ei weled ynof fel mynydd, yn ymddyrchafu yn erbyn Duw, a hyny i'r fath uchder fel nas gallai neb ond Duw ei faddeu a'i ddinystrio. Cefais galon i alaru o'i herwydd, a ffydd i gyf lwyno fy hunanoldeb a'm balchder i law Duw i gael eu dinystrio. Yr wyf yn cael fod y brodyr yn dyfod yn agosach ataf, gan deimlo fod eu hachos hwy yn debyg i'r eiddof fi.” Y mae yn glir mai yn mysg y Methodistiaid y siaredid am ffaeleddau Harris yn ddirgel; cyhoeddai ei elynion yr hyn a ganfyddent yn feius ynddo ar benau tai. Felly yr oedd tymher gyffrous y Diwygiwr, a felltenai allan pan ei gwrth wynebid, neu pan y sonid am ymadael ag Eglwys Loegr, wedi dyfod yn destun sylw yn mysg y cynghorwyr a'r aelodau cyffredin. Ymdeimlai yntau a'i ffaeledd, a gofidiai o'i herwydd, gan ei gymeryd at yr Arglwydd i gael maddeuant ac ymwared oddiwrtho. Dydd Sadwrn y mae yn Aberthyn. Boreu y Sul aeth i eglwys Wenfo, lle y gwasanaethai clerigwr efengylaidd o'r enw William Thomas; cyfranogodd o'r sacrament, a diolchai i Dduw ei fod wedi gadael yr ordinhad yn yr Eglwys. Llefai: "O Dduw, na fydded i ni gael ein troi allan o'r ordinhad yn yr Eglwys dlawd, amddifad hon; yn hytrach, bydded i ni ddyfod yn halen iddi. fydded i'n llygredigaethau ni, ein hunanoldeb, a'n balchder, a'n tuedd i ddirmygu eraill; nac i lygredigaethau rhai eraill, a'r yspryd erledigaethus sydd ynddynt, ein troi ni allan. O dychwel atom, a bydded i ni ddyfod yn oleuni yr holl dir."

Y mae y nodiad canlynol yn ei ddyddlyfr, wedi ei ysgrifenu yn Watford y dydd Mawrth dilynol, yn esbonio ei hun: "Y maent yn ceisio dwyn oddiarnaf yr hyn wyf yn barod wedi ei roddi ymaith, a'r hyn nad yw yn feddiant i mi, ond i Grist, sef fy mywyd. Gwelaf yn hyn brawf i fy ffydd. Y mae gwarant allan i fy mhressio i'r fyddin. Pan aethum i feddwl am y peth cefais ryddhad wrth lefain ar yr Arglwydd: Ó Arglwydd, yr hyn wyt ti yn wneyd a saif. Ti ydwyt frenhin. Nis gallant weithredu hebot ti. Yn awr, dysg fi yn unig i'th ogoneddu, ac i lawenychu fod genyfenaid a chorph i'w rhoi i ti. Ni chefais erioed brofiad mor felus. Y mae y newydd (am y warant) mor bell o fod yn boenus i mi, fel na chymerwn fil o fydoedd am fod heb ei glywed. Daeth y geiriau i fy meddwl a fendithiwyd i mi saith mlynedd yn ol, sef: 'Ni ddichon neb ei gau.' Gwelwn hwy oll yn llaw Crist." Profiad bendigedig. Nid ydym yn gweled Howell Harris yn ymddyrchafu mor uchel mewn gras, nac yn dangos yspryd mor ardderchog, un amser, a phan y mae yr ystorm yn rhuthro ar ei draws.

Cynhelid Cymdeithasfa Fisol, Mai 3, yn Llanfihangel; nid oedd yma eto yr un offeiriad urddedig yn bresenol, ac felly, Howell Harris a lywyddai. A ganlyn yw y penderfyniadau, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:

"Cydunwyd yma, fel yn Watford, gyda golwg ar gateceisio, ein bod yn ei argymhell ar y brodyr, a'n bod i ddefnyddio catecism Mr. Griffith Jones, yn neillduol y catecism ar y credo.

"Fod y brawd John Belsher i gynorthwyo y brawd Harris mewn helpio yr arolygwyr, fel y penderfynwyd yn Watford.

"Fod y cynghorwyr anghyoedd i gymeryd gofal uniongyrchol ymweled a'r cymdeithasau preifat, pan gyfarfyddant yn ddirgel, oddigerth ar amgylchiadau arbenig, pan fydd rhywrai i'w derbyn, neu i'w tori allan, neu ryw betrusder i'w symud, neu pan fyddo angen ymgynghoriad gyda golwg ar briodas.

"Cydunwyd fel yn Watford gyda golwg ar drefnu y cynghorwyr anghyoedd.

"Wedi ymddiddan a'n gilydd, a chyflwyno ein goleuni yn rhydd y naill i'r llall, gyda golwg ar ein dyledswydd at yr holl hil ddynol, a'r berthynas yr ydym yn sefyll ynddi at bawb yn gyffredinol fel cydgreaduriaid, at yr holl eglwys dros holl fyd yn neillduol, fel corph Crist, ac at y gangen hon o honi yn y wladwriaeth hon, ond yn fwyaf arbenig at y rhai sydd yn cymdeithasu â ni, cydunasom, er mwyn symud mor bell ag y medrwn bob maen tramgwydd, i gymuno yn ein heglwysydd plwyfol, ac i gynghori y bobl i wneyd hyny, fel na byddom yn ymddangos yn debyg i sect. Yr oeddem wedi cyduno yn flaenorol i beidio galw ein cymdeithasau yn eglwysi, ond seiadau o fewn yr Eglwys Sefydledig; ac i beidio galw y cynghorwyr yn weinidogion. Yn neillduol, gan ein bod yn gweled fod petrusder y rhan fwyaf (gyda golwg ar gymuno yn eu heglwysydd plwyfol) yn codi o'u tywyllwch a'u llygredd, ac nid o'u gras; yn (1), am eu bod yn edrych ar, ac yn tramgwyddo wrth feiau rhai eraill, sydd yn derbyn gyda hwy, yr hyn sydd yn sawri yn gryf o yspryd y Pharisead yn pwyntio at y Publican, ac yn bradychu anwybodaeth gormodol am danynt eu hunain, a rhy fach o dosturi at eraill; yn (2), am eu bod yn edrych ar waeledd neu bechadurusrwydd yr offeiriad, gan ddweyd: Pa fodd y gallwn ddysgwyl bendith, neu dderbyn lles trwy y cyfryw un? yr hyn sydd yn profi diffyg ffydd i edrych trwy y moddion at Dduw, ac yn dangos dibyniad ar ras y person sydd yn gweinyddu, ac nid ar y gras sydd yn Nghrist.

"Cydunodd y brawd Morgan John Lewis â hyn, mewn ffordd o gyd-ddwyn, hyd nes y byddai i'r Arglwydd ein gwthio allan, neu ynte ddwyn diwygiad i mewn. Yn unig, mynegai fod eu heglwys blwyfol hwy mewn annhrefn hollol, heb un trefniant sefydlog gyda golwg ar amser (yr ordinhad); a phan y cynygiai gael yr ordinhad yn St. Brides, i'r offeiriad ei dderbyn yn garedig, gan ddweyd nad oedd ganddo un gwrthwynebiad iddo, ond fod y canonau yn erbyn. Ni feddai y brawd Belsher ryddid llawn gyda golwg ar hyn, ond cadwai ei amheuaeth iddo ei hun. Yr oedd y lleill yn foddlon."

Gwelir fod yr un materion yn cael eu trin, a'r un penderfyniadau yn cael eu pasio, mewn gwahanol Gyfarfodydd Misol. Yr amcan oedd cael cyd-ddealltwriaeth ar ran yr holl gymdeithasau a'r holl gynghorwyr yn ngwahanol ranau y wlad. mae yn amlwg ddarfod i berthynas y Methodistiaid a'r Eglwys Sefydledig fod yn destun dadl faith yn y cyfarfod. Eithr ni chollodd Harris ei dymher, fel yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu. Yn hytrach, pwyswyd y rhesymau o blaid ac yn erbyn ymadael gyda gofal; ac yn y diwedd trodd y cyfarfod o blaid aros hyd nes y byddai iddynt gael eu bwrw allan. A ydyw Harris yn rhoddi rhyw gymaint o liw ei syniadau ei hun ar y cofnodau, pan yn crybwyll fod y cri am beidio cyd-dderbyn â dynion annuwiol o law offeiriad anfoesol, yn codi nid o ras, ond o lygredigaeth, ac yn sawri o yspryd Phariseaeth, nis gwyddom. Diau mai felly y teimlai efe, a naturiol tybio fod ei deimladau yn dylanwadu arno pan yn ysgrifenu.

Dydd y Gymdeithasfa, Iau Dyrchafael, sef Mai 3, 1744, ysgrifena yn y modd a ganlyn: "Saith mlynedd i'r dydd hwn, pan yr ymddangosai y drws fel yn cael ei gau yn fy erbyn i fyned o gwmpas, darfu i dad anfon ei fab i geisio genyf lefaru yn ei dŷ ef, yr hyn a brofodd yn foddion i agor y drws i mi i fyned o amgylch. Ac yn awr yr wyf yn myned i gael ei ferch." Gwelwn oddiwrth y difyniad hwn mai Mr. Williams, o'r Ysgrin, oedd y boneddwr o Sir Faesyfed a wahoddodd Harris i bregethu yn ei dŷ, yn y flwyddyn. 1737, ac a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i ledu y diwygiad dros y wlad. Ymddengys fod priodas agoshaol Howell Harris yn cyffroi mawrion Brycheiniog a Maesyfed yn ddirfawr. Yr oedd Williams, o'r Ysgrin, yn foneddwr, ac yn perthyn i'w cylch neillduol hwy; a byddai cael Miss Williams yn wraig yn dwyn Harris, y Methodist a ddirmygent yn eu calon, i fath o gysylltiad â hwy, yr hyn beth nis gallant ei oddef. Ei rwystro i briodi Miss Williams, o'r Ysgrin, oedd y prif amcan. wrth godi gwarant i'w bressio i fod yn filwr. "Yr wyf yn cael," ysgrifena, "fod llid yr ynadon yn cyffroi yn ddirfawr yn fy erbyn. Dywedai U.H. wrth dad y gwnai fy anfon i'r rhyfel, pe yn unig er fy rhwystro i gael ei ferch yn wraig." Darfu iddynt gynhyrfu brawd Miss Williams i fod yn wrthwynebol i'r briodas, ac i ymuno yn eu cynllwyn.

O'r diwedd dyma yr ystorm yn dechreu rhuthro arno. Dydd Mawrth, Mai 8, ysgrifena: "O gwmpas un o'r gloch daeth William Ga'r cwnstab i gymeryd Jemmi i fod yn filwr." James Morgan, golygwr ei dy, a chynghorwr gyda'r Methodistiaid, oedd "Jemmi." "Cawswn fy rhybuddio eu bod yn dyfod; felly rhedais i fynu y grisiau, a syrthiais gerbron yr Arglwydd. Ond am ychydig amser yr oeddwn wedi fy ngadael, fel nas gallwn weddïo, na thynu yn agos at Dduw. Yr oeddwn yn ymroddedig, ond gan fy mod wedi suddo i afael hunan ni theimlwn y nerth a'r bywyd a arferwn deimlo. Yr oeddwn mewn llyfethair gan ofn slafaidd, fel nas gallwn fod yn hyf. Cawswn fy narostwng fel petrysen; yr oedd y gelyn gerllaw; teimlwn y cnawd yn dychrynu rhag i'r tŷ o glai gael ei ddatod trwy ergyd ar fy mhen. Yn raddol, pa fodd bynag, daethum gymaint ataf fy hun fel ag i fyned i lawr at y gweithwyr." Yr oedd y gweithwyr hyn yn parotoi y tŷ yn Nhrefecca, a gawsai yn rhodd gan ei frawd Joseph, ar gyfer ei ddarpar-wraig ag yntau. Hawdd gweled ddarfod i ffydd Howell Harris ballu am enyd; y mae y cadarn, nad ofnai holl luoedd y fall, yn gwanychu am ychydig, nes dyfod fel gŵr arall. Nid ysgrifenu hanes dyn perffaith yr ydym, ond dyn duwiol, a'i ras ambell dro yn myned dan gwmwl. Ond nid yw y cwbl wedi ei adrodd eto. Rhag ofn i'r ustus a'r cwnstab ddychwelyd a'i gymeryd yntau, dihangodd i gyfeiriad Tynycwm, yn Sir Faesyfed. Mewn difrif, ai dyma Howell Harris! Nid rhyfedd ei fod yn croniclo ar y ffordd, ei fod o hyd mewn caethiwed, a'i fod yn gwaeddi: "O fy ngwendid!" Ond meddai, drachefn: "Y mae yr Arglwydd yn fy adwaen." Ni pharhaodd y ffit o ddigalondid yn hir, pa fodd bynag. "Llanwyd fy enaid à nerth," meddai; "gwelwn nad oedd fy mywyd, pe ei collwn ddeng mil o weithiau, yn ddim yn ymyl ei ogoniant ef. Gwelwn fy holl elynion fel dim." Aeth yn ei flaen i'r Ysgrin, i gysuro a gwroli Miss Williams, ar gyfer y prawf oedd o'i blaen, a thranoeth dychwelodd i Drefecca, i aros y canlyniadau, beth bynag a fyddent.

Dydd Iau, Mai 11, yr oedd ystad ei feddwl yn ogoneddus. Gwelais," meddai, "nad yw fy nghorph yn eiddof fi, ond eiddo yr Arglwydd. Gwell genyf ddisgyn i uffern filiwn o weithiau trosodd, na rhoddi lle am eiliad i syniad anfoddog, iddo ef lywodraethu fy enaid, a gwneyd â mi fel y mae yn ewyllysio, hyd yn nod pe bai iddo fy nifodi, neu osod cospedigaeth dragywyddol arnaf. Gan fy mod wedi cael fy mhrynu ganddo, ai ni chaiff wneyd à mi fel yr ewyllysia? Clywais heddyw drachefn a thrachefn y byddwn yn sicr o gael fy nghymeryd yfory, a bod yr holl ynadon yn llidiog yn fy erbyn, yn arbenig o herwydd fy mhriodas." Tranoeth i'r dydd yr ysgrifena yr oedd y Gymdeithasfa Fisol i gael ei chynal yn Nhrefecca; ac ymddengys ddarfod i'r erlidwyr benderfynu rhoddi y warant mewn grym pan fyddai Harris yn anerch y cyfarfod cyhoeddus, er mwyn gyru ofn ar bawb, ac yn neillduol ar y cynghorwyr fyddai wedi ymgynull o wahanol barthau y wlad. Ond yr oedd gŵr Duw yn hollol ddiofn.

"Cefais y fath olwg ar Dduw fel uwchlaw iddynt oll, a'r fath sicrwydd y gwnai roddi i mi ddrws agored nas dichon neb ei gau," meddai, "fel yr edrychwn ar fy ngwrthwynebwyr fel gwybed a gwagedd." Ni adawodd ei Arglwydd ef heb gysuron yn y cythrwfl hwn. Daeth un brawd yr holl ffordd o Gastellnedd er ceisio sirioli ei yspryd. Dygodd un arall y newydd iddo fod Maer Bryste wedi cyhoeddi na wnai ddanfon yr un o'r Methodistiaid i'r rhyfel. "Toddodd hyn fy nghalon yn llymaid," meddai; "gwelwn fod Duw o hyd yn ymddangos o'n plaid. Y mae llawer yn fy nghynghori i beidio llefaru yfory, gan fy mod yn sicr o gael fy nghymeryd; ond gwelaf mai fy nyledswydd yw myned yn y blaen gyda'r gwaith, a'm bod yn cael fy ngalw i ddyoddef ynddo. Llenwir fi yn fynych a llawenydd wrth weled fod fy nyoddefaint gerllaw; bryd arall yr wyf yn ofni ac yn crynu yn yr olwg ar Dduw, ac ar eu cynddaredd a'u llid hwy, yr hyn sydd wialen Duw, yn cael ei chymhwyso ganddo at ein cnawd; y mae yn myned fel brath cleddyf trwodd. Ond drachefn, gyda phob croes, yr wyf yn cael rhyw gymaint o ychwanegiad nerth i'r dyn newydd, a rhyw gymaint o hunan a natur yn cael ei gymeryd ymaith."

Dydd Gwener oedd y diwrnod i osod y warant mewn grym, pan fyddai y Gymdeithasfa wedi ymgynull. Cyfododd Harris yn siriol ei yspryd; gwelai Dduw yn eistedd ar y llifeiriant. "Ysgrifenais fy nydd-lyfr," meddai; "trefnais fy holl angylchiadau ar gyfer fy ngharchariad ; ac yr oeddwn yn hapus a dedwydd. Cadwyd fi rhag edrych am amddiffyn cnawdol gallwn ddianc pe yr ewyllysiwn; ond gwelwn mai fy nyledswydd oedd sefyll." I'r cyfarfod yr aeth, i sefyll i fynu dros ei Dduw. Cyn myned, gweddïai dros ei fam, na ddiffygiai ei ffydd. Bu yn y cyfarfod preifat gyda'r cynghorwyr hyd gwedi un, yna aeth i'r odfa gyhoeddus. Daeth torf fawr yn nghyd; cafodd yntau nerth anghyffredin wrth lefaru. Ei fater oedd y tŷ ar y tywod, a'r tŷ ar y graig. Cyn terfynu, agorodd ei galon i'r bobl; dywedai ei fod yn barod i ddyoddef, ac mai cariad at Dduw ac at eu heneidiau hwy a'u dygasai yno y dydd hwnw. Rywsut, ni roddwyd y warant mewn grym. Ai nerth y geiriau a lefarai gŵr Duw a wanhaodd freichiau yr erlidwyr; ynte a oedd arnynt fraw i afaelu mewn dyn mor enwog a Howell Harris, yr hwn a feddai eiddo rhydd—ddaliol, ac a noddid gan rai o brif bendefigion y deyrnas, nis gwyddom. Ond gofalodd Duw am ei was; diarfogodd yr erlidwyr mor effeithiol ag y cauodd safnau y llewod yn y ffau gynt.

Bychan oedd y Gymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca; nid oedd yr un o'r tri offeiriad yn bresenol, ac ond dau o'r arolygwyr, sef Morgan John Lewis, a Thomas James; efallai fod yr erledigaeth wedi cadw y gweddill i ffwrdd. Daethai, modd bynag, nifer da o gynghorwyr yn nghyd. Y prif benderfyniadau a basiwyd ydynt a ganlyn:—

"Rhoddasom ein barn i'r brawd Walter Hill, gyda golwg ar ei betrusder i dderbyn y sacrament gydag offeiriaid cnawdol, &c.; y dylem am y presenol, hyd nes y byddo i ni gael ein troi allan, neu i ddiwygiad gael ei ddwyn i mewn, oddef a chyd-ddwyn er mwyn y gwaith.

"Cydunwyd fod i'r brawd John Williams, fel y cynghorwyr anghyoedd eraill, beidio aros yn sefydlog i arolygu yr un seiadau, ond i gael ei anfon draw ac yma, yn ol doethineb yr arolygwr, fel y byddo efe yn canfod fod ei ddawn a chyflwr y bobl yn galw.

"Fod y brawd Thomas Jones i gyflogi ei hun gyda John Richard, ac i fod fel o'r blaen hyd y Gymdeithasfa gyffredinol nesaf, gan ymweled a Sir Faesyfed unwaith y mis.

"Wedi cryn ymgynghoriad parthed priodas y brawd Morgan John Lewis, cawsom ryddid i gydweled a'r peth.

"Cydunwyd fod i fater priodas y brawd Edward Bowen i gael ei benderfynu gan y brodyr Thomas James a Thomas Bowen, ar ol ymgynghori â'r seiadau y mae efe a hithau yn perthyn iddynt.

"Fod y brawd Walter Hill i fyned i wasanaeth y brawd William Evans, a bod Mr. Roberts i gael ysgrifenu ato, i ddymuno arno ei ollwng; a bod y brodyr i gael ymddiddan â hwy, fel y byddo iddynt ryddhau y brawd Evans o ran o'i gyflog.

"Fod y brawd William Evans i gyflwyno ei hun yn hollol i'r gwaith, mor bell ag y byddo hyny yn gyson â'i ofalon teuluaidd, a'i fod i arolygu yr holl seiadau sydd dan y brawd Beaumont yn ystod ei absenoldeb ef (Beaumont) yn Llundain, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Thomas James.

"Ein bod oll, yn ystod yr amser profedigaethus hwn, i arfer diwydrwydd dyblyg, ac i ymdrechu gyda chateceisio yn ein teuluoedd.

Meddyliem nad oedd bwriad y brawd Thomas i briodi o'r Arglwydd."

Yn mhen tri diwrnod wedi Cymdeithasfa Fisol Trefecca, sef Mai 15, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Brynbychan. Daeth lliaws yn nghyd yno, ac yn eu mysg Daniel Rowland, yr hwn a lywyddai, Williams, Pantycelyn, y Parch. Benjamin Thomas, Richard Tibbot, &c. Aeth Howell Harris tuag yno trwy gantref Buallt, gan lefaru mewn amrywiol fanau ar y ffordd. Am 10 o'r gloch, boreu y Gymdeithasfa, pregethai Daniel Rowland yn nghapel Eglwysig Abergorlech, tua phedair milltir o Brynbychan. Ei destun oedd, Salm ii. 6, a chafodd odfa hynod. Dangosai pa mor ddyogel oedd eglwys Dduw, mor anmhosibl oedd ei gorchfygu, er cymaint o lid a fodolai yn erbyn Crist. Gorphenodd trwy alw ar holl blant Duw i fuddugoliaethu mewn gobaith, ac i beidio cael eu cyffroi wrth glywed son am ryfeloedd, &c., gan fod ein Cesar (Crist) yn fyw. "Nid yn unig y mae yn fyw," meddai y pregethwr, "ond y mae yn teyrnasu. Gorfoleddwch; y mae Crist yn teyrnasu!" Gwaeddai enaid Harris oddifewn wrth wrando: " Gogoniant i Grist!" Yr oedd yn odfa ryfedd. A phan y gweddïai y pregethwr ar y diwedd dros bob dosparth o ddynion, ac yn eu mysg dros y brenhin, llewyrchodd goleuni anarferol ar y gynulleidfa. Meddai Harris: "Bendigai fy enaid Dduw am yr anwyl Rowland; am y dawn, y nerth, y ddoethineb, y gwroldeb, a'r awdurdod a roddodd iddo; a theimlwn yn foddlawn bod heb ddim (dawn) er mwyn iddynt hwy flaguro er gogoniant Duw." Cyrhaeddasant Brynbychan yn y prydnawn; am bump cyfarfyddodd y Gymdeithasfa, a buont yn cydeistedd hyd ddeg yn yr hwyr. Teimlai Harris yn bur sål, ond agorodd Duw ei enau i anerch y brodyr, gyda golwg ar natur gostyngeiddrwydd, ac yspryd drylliedig, ac ymgydnabyddiaeth â Duw. Cafodd y fath olwg yn y cyfarfod ar nerth y gelynion, mawredd y gwaith, ei anghymwysder ei hun ar ei gyfer, a'r angen oedd arno am bob gras, fel y llefai: "Arglwydd, ni wnai dim beri i mi fyned allan (i bregethu), ond dy fod di yn fy anfon; hyn, a hyn yn unig yw y sail yr wyf yn adeiladu arni, fy mod wedi cael fy anfon ganddo ef." Dranoeth, aeth yn nghwmni Rowland a Williams mor bell a Dygoedydd; yno pregethodd Daniel Rowland, ar Can. ii. 14, ac ymddengys iddo gael hwyl anarferol. Yna ymwahanodd y cyfeillion, Rowland a Williams yn myned tua Cheredigion, a Harris tua Threfecca.

Ychydig, a chymharol ddibwys, oedd penderfyniadau Cymdeithasfa Brynbychan:Cydunwyd, gwedi dadl faith, fod Evan John i gael ei adael i'r Arglwydd, hyd nes y caffom oleuni pellach i ganfod ei alwad; nid oedd ef yn teimlo ei hun yn rhydd i roddi i fynu.

"Fod enw yr hwn sydd i gynghori i gael ei hysbysu, pan y cyhoeddir fod cynghori i gymeryd lle mewn unrhyw le.

"Fod cateceisio i gael ei osod i fynu, a'i drefnu yn y fath fodd ag a fo fwyaf buddiol, er cyffroi pawb i chwilio yr Ysgrythyrau.

"Fod William Samuel i gynghori ar brawf o gwmpas cartref."

Fel yr oedd adeg priodas Harris yn agoshau, cynyddai y gwrthwynebiadau i'r undeb. Yr oedd teulu Miss Williams ei hun yn chwerw ac yn erlidgar. Cynygiai ei thad, a roddasai unwaith ei gydsyniad i'r briodas, bymtheg cant o bunoedd iddi am dynu yn ol; bygythiai ei mam ei churo; ac yr oedd ei brawd yn llawn cynddaredd. Yn ychwanegol, taenid chwedlau ar led oeddynt yn dra niweidiol i gymeriad y Diwygiwr, sef ei fod yn priodi yn unig er mwyn y gwaddol a gaffai gyda ei wraig, ac nad oedd ef a hithau yn myned i'r ystad briodasol mewn ffordd anrhydeddus. Pan glywid am gwymp tybiedig y dyn a elai o gwmpas i bregethu, gan fygwth digofaint Duw ar holl weithredwyr anwiredd, llawenychai ustusiaid Brycheiniog a Maesyfed fel pe wedi cael ysglyfaeth lawer. Eithr yr oedd rhuddin yn y ferch ieuanc; ac er pob gwrthwynebiad, unwyd hi a Howell Harris mewn glân briodas yn Nghapel Ystrad—ffin, Mehefin 18, 1744. Er rhoddi taw ar elynion crefydd, gwrthododd Harris gymeryd ceiniog o waddol gyda hi; ac yn y cyfnod priodol profodd amser fod y chwedl arall yn anwireddus.

Ar y 27ain o Fehefin, cynhelid y Gymdeithasfa Chwarterol yn Nhrefecca. Ymgynullodd y frawdoliaeth yn bur gryno, ac yn mysg eraill yr oedd Daniel Rowland, Howell Davies, Williams, Pantycelyn, wedi dyfod. Am un—ar—ddeg yn y boreu, pregethodd Rowland, oddiar Heb. vi. 18, gan ddangos yr angenrheidrwydd am ffydd o flaen gweithredoedd, a'r ddyledswydd o fyned at yr addewidion cyn myned at y gorchymyn. gorchymyn. Teimlai Harris eu hun yn drymaidd a chysglyd yn ystod y cyfarfod. Nid oedd hyd yn nod Rowland yn gallu tanio cynulleidfa bob amser. Gwedi hyny pregethodd Herbert Jenkins, oddiar Phil. iv. 4, a chafodd gryn afael ar y bobl. "Wedi iddo orphen,' meddai Harris, "aethom i giniaw, a chefais bleser mawr tra yn gwasanaethu ar y brodyr wrth y bwrdd, gan deimlo yn ddiolchgar fod genyf dŷ i groesawu cenhadau Duw. O gwmpas tri, aethum gyda'r gweddill o'r frawdoliaeth i'r Gymdeithasfa, lle yr arosasom hyd ddeg. Yr oedd genym faterion o bwys i'w hystyried, yn arbenig y priodoldeb i'r offeiriaid gyfranu y sacrament mewn tai. Yr oeddwn i, gyda mawr wres a zêl, wedi bod yn erbyn hyn; ond wrth weled cymaint o anesmwythder yn yr ŵyn, a bod llawer yn ein gadael o'r herwydd, ymddangosai i mi fod llais rhagluniaeth yn galw ar yr offeiriaid i fyned un cam yn mhellach. Ond gan na theimlent hwy yn rhydd, cydunasom i neillduo diwrnod yr wythnos nesaf i ymgynghori â Duw. Yr oeddem yn unfryd yn ein holl ymgynghoriadau a'n penderfyniadau. Mor raddol y mae yr Arglwydd yn ein harwain, fel y gallwn ei ddwyn. Wrth ddarllen hanes yr arolygwyr am yr ŵyn dan eu gofal, cawsom foddhad mawr. Ond yr oeddwn i yn sych. Yna swperasom, a chawsom gymdeithas felus yn nghyd, yn trefnu ein Cyfarfodydd Misol am y dyfodol." Dranoeth pregethodd Morgan John Lewis, gyda nerth mawr, oddiar Hab. iii. 19, ac yna ymwahanodd y brodyr.

Am unwaith, gwelwn fod Howell Harris yn fwy rhyddfrydig na Daniel Rowland, a Howell Davies, a Williams, Pantycelyn. Daethai ef yn foddlon i'r offeiriaid weinyddu y sacramentau mewn tai byw, yn y plwyfydd hyny lle yr oedd offeiriaid yn anfoesol, neu lle y gwrthodid y cymundeb i'r Methodistiaid. Nid oeddynt hwy eto yn barod i gymeryd cam mor bwysig. Diau y gwelent yr arweiniai hyn i beri i'r Esgob gymeryd eu trwyddedau oddiarnynt, yr hyn a allai wneyd yn hawdd, gan nad oedd un o honynt yn fwy na chuwrad.

Dyma y penderfyniadau a basiwyd, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:—

"Cydunwyd, wedi ymgynghoriad, parthed yr angenrheidrwydd am gynorthwywr i'r brodyr Morgan John, Thomas Price, Thomas William, a John. Ritichard, fod i'r brawd John Belsher ymroddi yn hollol i'w cynorthwo hyd y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf.

"Deallwyd fod y brawd Evan Williams am ein gadael, a myned i fysg yr Ymneillduwyr.

"Cydunwyd fod y brawd Morgan John i gyfnewid taith gyda y brodyr Thomas William a Thomas James.

"Atebwyd llythyr oddiwrth y brawd Richard Charles gyda golwg ar weithio ar y Sabbath, ar fod iddo ymgadw oddiwrth bob gwaith diangenrhaid, a chadw y dydd Sabbath yn sanctaidd.

"Cydunwyd fod y brawd (Herbert) Jenkins i ddyfod o Loegr fis cyn y Gym- deithasfa nesaf, ac yna i fod yn fwy arosol a sefydlog.

"Fod ein Cymdeithasfa. Chwarterol nesaf i íod yn Mhorthyrhyd, tair milltir o Lanymddyfri, y Mercher cyntaf wedi Gwyl Mihangel, a'r brawd Howell Davies i'w hagor, trwy bregethu am ddeg o'r gloch y boreu.

"Fod yr holl frodyr i gadw diwrnod o ympryd a gweddi yn yr wythnos nesaf ar eu penau euhunain, o herwydd amryw faterion.

"Darllenwyd yr holl adroddiadau, ac yr oeddynt yn hyfryd.

"Cydunwyd fod y brawd William Williams i ymweled â'r cymdeithasau yn mhen uchaf Sir Aberteifi, unwaith bob chwech wythnos, ar brawf, hyd y Gymdeithasfa Gyffredinol nesaf."

Diau mai Williams, Pantycelyn, oedd yr ymwelwr hwn. Eithr dealler mai nid efe, yr hwn oedd yn offeiriad ordeiniedig, a osodid ar ei brawf, ond y cynllun yn ol pa un yr oedd i ymweled bob chwech wythnos a'r cymdeithasau. Ni theimlai y Gymdeithasfa yn sicr pa fodd y gweithiai y cyfryw drefniant.

Arosodd Howell Harris yn Nhrefecca, yn adnewyddu tŷ ei breswylfod, ac yn pregethu yn yr ardaloedd o gwmpas, am ryw naw diwrnod wedi y Gymdeithasfa. Gorphenaf 7, y mae efe ai briod yn cychwyn am daith o dair wythnos trwy ranau o Maesyfed, Brycheniog, Caerfyrddin, Morganwg, a Phenfro, gan gyrhaedd Llangug, neu Llangwm, Gorph. 16. Yno cynhelid Cymdeithasfa Fisol. Eithr ar eu ffordd yno buont ar ymweliad â Howell Davies, yn y Parke. Teimlai Harris yn hyfryd wrth fyned tua'r Gymdeithasfa. "Cefais y fath serch at ogoniant Duw," meddai, "fel y llyncwyd yr holl achosion eraill fi fynu yn hyn. Nid oeddwn yn dymuno unrbyw ras na doniau, ond er mwyn ei ogoniant ef. Nid oedd fy iachawdwriaeth fy hunan yn ddim yn ymyl hyn. Llefais: "O Arglwydd, dyro i mi ras, ffydd, cariad, doethineb, gostyngeiddrwydd, a gwroldeb i ymddyrchafu uwchlaw pechod, angau, a Satan, yn unig er mwyn hyn, sef fel y gallaf ogoneddu dy enw, ac ymddwyn fel dy blentyn a'th weinidog di. Am danaf fy hunan, dyro i mi i'th wasanaethu, ac yna gwna fel y mynot a fi, am amser a thragywyddoldeb." Eisteddasom ynghyd yn ein cyfarfod hyd chwech, yn trefnu y cynghorwyr, ac yn penderfynu amryw faterion. Yr wyf yn credu i'r Arglwydd ein bendithio yn fawr, y naill i'r llall, gan roddi i ni gryn oleuni ar amryw bethau. Clywais oddiwrth y brawd William Richard pa mor arswydus yw myned o flaen yr Arglwydd gymaint a cham, a pha mor llym fydd ein dyoddefaint o'r herwydd; ac hefyd y fath farn yw peidio bod a'n hamser yn cael ei lanw gan yr Arglwydd gyda y naill ddyledswydd neu y llall. Sicr yw mai y cynghorwr o Landdewas brefi oedd y William Richard hwn; ac nid annhebyg mai efe ei hun, mewn rhyw amgylchiad neu gilydd, oedd wedi rhedeg o flaen yr Arglwydd, a chwedi cael ei gospi yn drwm am y rhyfyg. Am natur y cam a gymerodd, ynghyd a'r farn a ddisgynodd arno mewn canlyniad, nid oes genym yn awr ond dyfalu. "Dysgais gan amryw frodyr eraill," meddai "yn enwedig pan ddywedai y brawd Thomas Miles os na fydd genym oleuni tufewnol, mai da yw canlyn y llais allanol, sef eiddo rhagluniaeth. Dywedwyd llawer am William Edward (Rhydygele), a George Gambold." Yna ymadawodd Howell Harris am Hwlffordd, lle y pregethodd y noson hono gyda nerth anghyffredin oddiar eiriau yn Llyfr Job.

Y mae penderfyniadau Cyfarfod Misol Llangwm fel y canlyn :—

"Cydunwyd fod y brawd John Harry, gan ddarfod iddo dderbyn cymeradwyaeth, i gynghori fel o'r blaen hyd ein Cymdeithasfa Fisol nesaf, tan arolygiaeth y brawd William Richard.

"Fod y brawd George Bowen i lynu yn ddiwyd wrth ei alwedigaeth bresenol, ac i gynghori yn ei gymydogaeth dan y brawd John Harris.

"Fod y brawd W. Gambold, gan ddarfod iddo gael ei gymeradwyo fel cynghorwr, i fyned o gwmpas gymaint ag a fedr, gyda chymeryd gofal priodol am ei nain.

"Fod y brawd John Morris, gan ddarfod iddo gael ei gymeradwyo fel cynghorwr, i barhau i gadw ysgol, fel y mae yn gwneyd yn awr, hyd nes y bo i ragluniaeth agor drws arall iddo.

"Fod y brodyr John Sparks a John Evans, gan ddarfod eu derbyn a'u cymeradwyo fel cynghorwyr, i arfer eu doniau dan arolygiaeth y brawd Davies.

"Fod y brodyr John Lloyd a John Gibbon i gynghori yn breifat, fel y gwnaent o'r blaen, ac yn gyhoeddus dan arolygiaeth y brawd W. Richard.

"Yr un peth gyda golwg ar y brawd John Hugh.

"Fod y brawd John Griffiths i ymweled a'i gymydogion, ac i ddarllen iddynt ar y Sabbath, ac hefyd i gynghori yn breifat dan y brawd W. Richard.

"Fod y brawd John i gynghori fel o'r blaen ar brawf, a'r brawd William Jones dan arolygiaeth Thomas Miller.

"Fod y brodyr William Lewis a John Thomas i gynorthwyo y brawd John Harris yn ei waith preifat.'

Dyna fel y darllen y cofnodau. Nid ydym yn gwybod y nesaf peth i ddim am. amryw y crybwyllir eu henwau yma: eithr buddiol cadw ar glawr y penderfyniadau gyda golwg arnynt, fel esiampl o ddull y tadau yn cario y gwaith yn mlaen. Aeth Howell Harris a'i briod yn mlaen trwy ranau o Sir Aberteifi, gan alw yn Nghastellnewydd-Emlyn, Blaenporth, Llanwenog, a Chilfriw. Erbyn y 26, yr oeddynt yn Glanyrafonddu. Yna cyfarfyddodd Harris a phrofedigaeth, hanes pa un a gaiff adrodd. yn ei eiriau ei hun: "Ĉefais demtasiwn yn y lle hwn, trwy glywed am gynyg o eiddo Satan i beri rhaniad rhyngom a'r offeiriaid gyda golwg ar y tân sydd yn ein mysg. Neithiwr dygais fy nhystiolaeth yn erbyn ymddygiad eithafol rhai, yn chwerthin allan, yn llamu ac yn neidio, yr hyn y mae yr offeiriaid yn ei gondemnio. Gwedi i mi ddweyd fy meddwl, oddiwrth yr Arglwydd, fel y tybiwn, gwrthwynebwyd fi yn gryf gan y cnawd, a chan reswm daearol; minau a'i cyflwynais i Dduw, gwedi i mi gael nerth i ymddwyn fel Cristion. . . . Cefais atebiad gyda golwg ar yr hyn a ddywedais am y tân, sef fod yr hyn a lefarais yn boddio yr Arglwydd. O fel y mae Duw yn sefyll wrth fy ochr, gan fy nghlirio a'm cyfiawnhau, pan yr wyf yn dinystrio fy hun, a'm cymeriad, ac yn colli fy awdurdod, trwy beidio ymddwyn yn deilwng o lysgenhadwr y nef." Nid yw y difyniad yn hollol glir, ond gallwn feddwl ddarfod i Harris lefaru gyda gwres yn erbyn yr arddangosiadau gormodol o deimlad a wnelid gan rai; i rywrai feiddio ei wrthwynebu, a hawlio fod y cyfryw arddangosiadau yn gyfreithlon, ac iddo yntau mewn canlyniad golli ei dymer, ac ymddwyn, fel yr ystyriai efe yn ganlynol, yn annheilwng o weinidog Crist. Pan dawelodd ei gyffro, cyflwynodd yr holl fater i Dduw yn y nefoedd. Yn mhen enyd, cafodd atebiad ei fod yn iawn yn ei farn; eithr teimlai yn edifar oblegyd colli llywodraeth ar ei yspryd; ac yr oedd yn ymwybodol ddarfod iddo ymddwyn yn annheilwng o lysgenhadwr oddiwrth Dduw. Dyna y rheswm fod ei gydwybod yn ei gondemnio, er fod ei farn ar y mater mewn dadl yn gywir.

Prin y cafodd Howell Harris ddychwelyd i Drefecca nad oedd yn bryd iddo gychwyn drachefn i Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid yn Cwmbrith, ger Llandrindod, Awst 1, 1744. Yno, Williams, Pantycelyn, a lywyddai. Y mae y cofnodau am y cyfarfod fel y canlyn:

"Gwedi holi am ansawdd y cymdeithasau yn Sir Drefaldwyn, i'r brawd Richard Tibbot, cydunwyd, gan nad yw ei holl amser yn cael ei gymeryd i fynu, ei fod yn awr, dros amser y cynhauaf, i gynorthwyo'r brodyr, hyd nes y caffo ryw orchwyl arall.

"Ar ol arholiad manwl ar y brawd Edward Buffton am ei wybodaeth o dduwdod yr Iesu, a'i waith yn dwyn pechodau ei bobl ar y pren; am barhad y saint mewn gras; am ddatguddiad yr Yspryd Glân, a thrueni yr holl ddynoliaeth wrth natur, a chael ein boddloni gyda golwg ar ei ras, a'i alwad i lefaru dros y Duw mawr, cydunwyd ei fod i gynorthwyo y brawd Beaumont fel cynghorwr anghyoedd.

"Yn gymaint a bod gwrthwynebiad ac erlid mawr yn Llanllieni (Leominster), ac yn gymaint a bod yr Arglwydd yn rhoddi iddynt nerth ffydd yn eu heneidiau, cydunwyd fod y brodyr i gyfarfod fel arferol, gan orchymyn eu hunain i Dduw; ac os gwneir unrhyw gamwri, fel y byddo y Gair yn cael ei rwystro, a'u bywydau hwythau yn cael eu gosod mewn perygl, fod iddynt ddefnyddio y gyfraith mewn ffydd, a bod y brawd Beaumont i fyned i'w cynorthwyo gwedi i'w wraig gael ei dwyn i'w gwelyfod.'

Yn ychwanegol, gwelwn oddiwrth ddydd-lyfr Harris ddarfod i'r cyfarfod benderfynu fod Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, i fyned ar daith i Ogledd Cymru; neu i Williams hysbysu fod hyn yn eu bwriad. Meddai: "Teimlais fod holl alluoedd uffern wedi ymgynghreirio yn ein herbyn. Yna cefais gariad mawr at, a chydymdeimlad dwfn â y brodyr Rowland a Williams yn eu gwaith, gan eu bod yn myned yn fuan i Ogledd Cymru, i ganol peryglon; yn ganlynol cefais gydymdeimlad â'r holl Fethodistiaid a'r offeiriaid yn Nghymru, yna yn Lloegr, ac yna dros y byd, am fy mod yn gweled eu bod wedi ymuno mewn un yspryd yn erbyn uffern. O y gwahaniaeth rhwng deall a'r yspryd a dim ond dirnadaeth o wirionedd yn y llythyren!"

Yn mhen deng niwrnod, sef Awst 12, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llangeitho. Teithiodd Howell Harris tuag yno trwy Lanidloes a Llanbrynmair, gan bregethu mewn amryw fanau yn Sir Drefaldwyn. Cafodd Richard Tibbot yn gydymaith am beth amser, ac wrth ymddiddan a'r cynghorwr duwiolfrydig hwnw, gwelai mor fychan oedd ei ddirnadaeth ei hun o ogoniant a a dirgelwch pethau dwyfol. Daeth i Langeitho yn hwyr nos Sadwrn. Ar y ffordd, teimlai y fath gariad brawdol at Daniel Rowland fel nas gallai ymatal rhag llefain: "O Arglwydd, anfon genadwri o gariad a nerth drwof fi, greadur gwan, iddo ef, fy mrawd hynaf; ac O, gwared fi oddiwrth fy hen natur, er mwyn dy enw." Boreu y Sul, aeth i'r eglwys erbyn naw. Williams, Pantycelyn, oedd yn pregethu; a'i destun oedd Zechariah xiii. 9: "A dygaf y drydydd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur.” Difyna Harris yn helaeth o'r sylwadau, ac yr ydym yn cofnodi rhai o honynt fel esiampl o arddull gweinidogaeth Williams.

Dangosodd," meddai, "pa fath yw y tân yn mha un y mae yn puro ei bobl. Yn gyntaf, ei fod yn anfon yspryd caethiwed arnynt; nid caethiwed deddfol, yn codi o ofn slafaidd; ond cuddiad ei wyneb. Ei fod yn gadael ffydd iddynt, ond eto yn cuddio ei wyneb, yr hyn sydd yn waeth nag uffern i'r cyfryw ag sydd yn ei garu. Yn ail, ei fod yn puro trwy dân croesau rhagluniaethol, gan nodi Dafydd a Job fel esiamplau. Yn drydydd, trwy ollwng pechod a llygredigaeth yn rhydd ynom, yr hyn yw y tan dirgelaidd, a'r baich trymaf o bob peth i'r Cristion. Yr oedd ei sylwadau yma yn agos. Dangosodd, yn mhellach, effeithiau y tân, ei fod yn rhoddi goleuni, a'i fod yn llosgi pob pechod." Felly y pregethai Williams yn eglwys blwyfol Llangeitho. Meddai Harris: "Yr oedd yn bregeth hyfryd. O'r fath fendith yw gweinidogaeth y Gair!" Ond teimlai hefyd nad oedd yn ddigon clir ar rai pwyntiau. "Er mor rhagorol oedd yr ymadroddion," meddai; "traddodwyd rhai pethau yn y cyfryw fodd, pethau yn y cyfryw fodd, fel pe buaswn yn y cnawd, ac heb gael fy rhyddhau gan Un arall, y cawswn fy nwyn i gaethiwed, o eisiau gwahaniaethu yn fwy clir." Daethant allan o'r eglwys ychydig cyn deuddeg. Yn y prydnawn aethant i Eglwys Llancwnlle; pwy a weinyddai yno ni ddywedir. Yn yr hwyr pregethodd Howell Harris i gynulleidfa fawr oddiar y geiriau: "Fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn;" ac ymddengys fod yr odfa yn un dra grymus.

Yn ol y dydd-lyfr, nos Sabbath, wedi gwaith cyhoeddus y dydd, y cynhaliwyd y Gymdeithasfa Fisol. Meddai: "Daethom adref yn ddedwydd, ac yr oedd undeb hyfryd rhyngom. Eisteddasom i fynu hyd ddeuddeg mewn Cymdeithasfa, ymddiddanasom am lawer o bethau, ac yr oeddym yn hapus yn nghyd." Ychydig o arolygwyr a chynghorwyr oedd yn bresenol, a'r drafodaeth dilynol, yn ol y cofnodau, oedd yr unig fater y bu ymdriniaeth arno: “Wedi ymchwiliad manwl i helynt y brawd Morgan Hughes, ac heb fedru cyduno yn ein goleuni, ni a'i rhoddasom i bleidlais, a fyddai iddo gael llefaru yn breifat neu na fyddai, ac yr oeddem yn gyfartal ranedig. Árosasom am beth amser, a pharhäi pob un yn ei olygiad, un haner am iddo lefaru, a'r haner arall yn erbyn. Felly gadawyd y peth heb ei benderfynu, a'r seiadau i gael eu harolygu gan David Williams a Thomas Griffiths." Prawf sylwadau dydd-lyfr Harris, er fod y brodyr yn y Gymdeithasfa yn rhanedig, na fu dim drwgdeimlad rhyngddynt, ond y cydunent. gyda phob heddwch i wahaniaethu. Ymddengys hefyd i bethau eraill fod yn destunau ymddiddan. Meddai Harris: "Yr wyf yn hyderu fod yr Arglwydd yn myned. i gyflwyno i mi y fraint fawr o ddarllen ac ysgrifenu. Hyn nis gallaf ei wneyd hyd nes y caf ryddid." Ai ysgrifenu llyfrau at wasanaeth y dychweledigion a olyga, nis gwyddom. Eto; Yn awr, gan fod y brodyr Rowland a Williams yn myned i'r Gogledd, gwnaed i mi ddwyn cyfran fechan o'u beichiau, ac i ddadleu ar eu rhan, ar i'r Arglwydd gadw eu calonau mewn buddugoliaeth a rhyddid; gan fy ngweled fy hun yn rhy egwan i'r fath dreialon dirfawr, ac eto yn foddlawn myned, pe y cawn fy anfon. Llefwn: 'O Arglwydd, na âd i'th elynion fuddugoliaethu.'" Cafwyd pregeth yn Eglwys Llangeitho boreu. dydd Llun drachefn, a hyny gan Rowland, yn ol pob tebyg. Yn y prydnhawn, aeth Harris i Llanbedr Pontstephan, lle y pregethodd oddiar gareg yn yr heol i gynulleidfa fawr, oddiar y geiriau yn Job: "Mi a glywais a'm clustiau son am danat.” Dychwelodd drwy Gilycwm a Dolyfelin, gan gyrhaedd Trefecca prydnhawn dydd Gwener.

Yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yn Nhrefecca yn mhen llai nag wythnos, sef Awst 18. Cymdeithasfa fechan ydoedd; heb yr un offeiriad yn bresenol, a Howell Harris yn llywyddu. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Wedi darllen yr hyn y cytunasem arno yn flaenorol, ac ymgynghori yn nghyd, cydunwyd fod y brawd Thomas Jones i ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, ac i fod yn gynorthwywr i'r brodyr Thomas Jones, Richard Tibbot, James Beaumont, a Morgan John, a'i fod i ymweled a Siroedd Brycheiniog, Trefaldwyn, y rhan Gymreig o Faesyfed, yn nghyd a seiat Longtown, dan arolygiaeth y brawd Howell Harris.

"Yn gymaint a bod y brawd Evans mewn cyfyngder am ryw arian, eu bod i gael eu benthyca yn uniongyrchol, a bod y mater yn cael ei gyflwyno i'r cymdeithasau, er mwyn ysgafnhau ei faich.

"Fod y brawd Joseph Saunders, mor fuan ag y byddo ei amgylchiadau wedi dod i drefn, i roddi prydnhawn dydd Sadwrn, yn nghyd â'r Sabbath, i ymweled ar yn ail a'r seiadau cymydogaethol.

"Fod y brodyr i wneyd yr oll a allant i gael dau le i bregethu ynddynt bob Sul, a'u bod i drefnu eu cyfarfodydd yn y cyfryw fodd na byddont yn rhwystr ar ffordd neb i fyned i leoedd eraill o addoliad.

"Fod y brawd Thomas Bowen i aros yn Llanfair-muallt am haner blwyddyn heb symud, i aros clywed llais Duw yn fwy clir."

Ychydig sydd yn galw am sylw yn y cofnodau hyn. Dengys y penderfyniad am drefnu y cyfarfodydd fel na rwystrent neb i fyned i leoedd eraill o addoliad, mor benderfynol oedd y Methodistiaid i beidio ymffurfio yn blaid ar wahan. Prawf y trefniant gyda golwg ar gynorthwyo y brawd Evans, sef William Evans, y cynghorwr tanllyd ei yspryd o Nantmel, yn ddiau, mor llawn oedd eu mynwesau o gydymdeimlad, ac fel yr oedd baich un yn dod yn faich pawb.

Yr ydym wedi dangos yn flaenorol ddarfod i erledigaeth ar ran y werinos ddarfod agos yn hollol cyn hyn, yn y rhan fwyaf o'r Deheudir, ac yn neillduol yn Mrycheiniog; yr oedd y teimlad cyffredin wedi troi o du y Methodistiaid. Ond yr oedd yspryd erlid yn cyffroi y boneddigion yn fwy nag erioed. Yn y Sessiwn a gynhaliwyd yn Aberhonddu, Awst 28, 1744, cyflwynwyd y penderfyniad canlynol gan Uchel Reithwyr Brycheiniog i'r Barnwr a eisteddai ar y fainc: "Yn gymaint a'n bod ni, Uchel Reithwyr Sir Frycheiniog, wedi derbyn fel siars oddiwrth Anrhydeddus Farnwr y gylchdaith hon, yn mysg amryw bethau eraill dysgedig a chanmoladwy, y dylem alw sylw at bob. rhwystr ar ffordd ein crefydd sanctaidd, y darn mwyaf gwerthfawr o'n cyfansoddiad gwladol; ac yn gymaint a'i fod yn rhy wybyddus fod amryw (fel yr ydym yn cael ein hysbysu) o gyfarfodydd anghyfreithlon yn cael eu cynal ar y maes, a lleoedd eraill, gan bersonau sydd yn galw eu hunain yn Fethodistiaid, y rhai y mae eu pregethwyr yn honi eu bod yn esbonio yr Ysgrythyrau Sanctaidd tan ddylanwad ysprydoliaeth, trwy yr hyn y maent yn casglu yn nghyd dyrfaoedd. mawrion o bersonau afreolus, er mawr berygl i heddwch teyrnas ein harglwydd Frenhin, a'r hyn, oddigerth iddo gael ei osod i lawr yn fuan, a all beryglu heddwch yr holl ymherodraeth yn gyffredinol; ac yn gymaint a bod y pregethwyr, neu y dysgawdwyr ffugiol hyn, yn eu cyfarfodydd afreolaidd, trwy ei hathrawiaethau penboeth, yn dyrysu meddyliau llawer o ddeiliaid ei Fawrhydi, yr hyn, mewn amser, a eill brofi yn dra pheryglus, hyd yn nod er dinystr ein crefydd sefydledig, ac yn ganlynol dymchwel ein llywodraeth dda, yn eglwysig ac yn wladol; yr ydym, er mwyn bod mor fanwl ag y gallwn wrth ddynoethi y cynllun mileinig hwn, yn cyflwyno i sylw y tai canlynol, sef: Pontywal, plwyf Bronllys, tŷ John Watkins, a thŷ Howell Harris yn Nhrefecca, plwyf Talgarth, y ddau yn y sir hon, fel lleoedd sydd yn cynal ac yn cefnogi y cyfryw gynulliadau afreolaidd; ac yr ydym yn dymuno ar ein Anrhydeddus Farnwr, os nad yw awdurdod y llys yn ddigonol i ddarostwng yr afreoleidd-derau hyn, ar iddo appelio, er cyrhaedd hyny, at ryw awdurdod oruwch, fel y byddo i'n crefydd, heddwch y genedl yn gyffredinol, ac eiddo y sir hon yn neillduol, gael ei dyogelu ar sail ein Sefydliad henafol a chanmoladwy."

Byddai yn anhawdd dychymygu am gofeb mwy gyflawn o anwiredd, a thebycach o gyffroi yr awdurdodau gwladol yn erbyn y Methodistiaid. Nid oedd cofion y rhyfel cartrefol wedi myned ar ddifancoll eto, ac yr oedd y rhyfel rhwng y deyrnas a Ffrainc yn peri fod y llywodraeth yn gwylio gyda llygad eiddigus bob cynulliad, y tybid fod teimlad anniddig yn cael ei feithrin ynddo. Felly, yr oedd Uchel Reithwyr Brycheiniog yn llunio pluen i gyfateb i liw'r dwfr. Anhawdd meddwl na wyddent fod y Methodistiaid yn deyrngarol i'r carn; yr amcanent, hyd ag oedd ynddynt, i gadw yr heddwch cyffredin; na fyddent yn cyna! unrhyw gyfarfod heb weddïo dros y brenhin, a thros bawb oedd mewn awdurdod; ond yr oedd gelyniaeth y boneddigion atynt yn gyfryw, yr hyn yn ddiau a gyffroid gan falais yr offeiriaid erlidgar ac eiddigus, fel nad gormod ganddynt gyflwyno i'r barnwr gwladol, yn mhrif Sessiwn y sir, ddarluniad, y gwyddent ei fod yn gelwyddog, o bobl a geisient addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod. Pa beth a ddywedodd y barnwr ar yr achlysur, sydd anhysbys; ond sicr yw na ddaeth dim o'r peth.

Yr ydym yn cael Cymdeithasfa yn Abergorlech, Medi 4. Tebygol, oblegyd bychandra rhif y rhai a ddaethant yn nghyd, mai Cymdeithasfa Fisol ydoedd, er na ddywedir hyny yn y cofnodau. Y cymedrolwr oedd Daniel Rowland; ac yr oedd Williams, Pantycelyn, a Howell Harris, yn nghyd â nifer o'r arolygwyr yn bresenol. Pregethai Rowland yn nghapel Abergorlech ar Heb. ii. 11: "Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r un y maent oll." Dangosai y modd y daethai Crist i sancteiddio ei bobl; mor fawr yw gwaith sancteiddhad; fel yr oedd Crist wedi ymddiosg o'i ogoniant er ei ddwyn yn mlaen; a'r modd yr ydym yn cael ein gwneyd yn gyffelyb i Dduw, er nad yn anfeidrol mewn graddau fel efe. "Cafodd lewyrch anghyffredin," meddai Harris; "ac yn awr, pan yr ydym yn cael ein troi allan o'r capelau, gwnaed i fy enaid lawenychu o'i herwydd, gan fy mod yn gweled yr Arglwydd uwchlaw iddynt oll." Cyfeiria yr ymadrodd "troi allan o'r capelau" at helynt capel Eglwysig Abergorlech, yr hon a ddaw dan ein sylw yn y cofnodau. Yr oll a ddywed Harris am y Gymdeithasfa yn ei ddydd-lyfr yw iddynt gael cyfarfod melus yn nghyd. Y mae ei chofnodau fel y canlyn:

"Cydunwyd fod deiseb at yr Esgob yn cael ei thynu i fynu, gyda golwg ar gapel Abergorlech, yn datgan, gyda phob gostyngeiddrwydd, ein bwriad i barhau Mr. Williams fel bugail; ac, os bydd raid, i ddyoddef o'r herwydd.

Fod y brawd John Morgan i fod yn ddystaw, a pheidio llefaru, hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Fod rhyw gyfran o amser, yn yr wythnos ddyfodol, yn cael ei neillduo gan bob un o honom, er ymostyngiad ac ymbil.

"Fod tỷ i gael ei adeiladu yn Llansawel at ddybenion crefyddol, megys pregethu, a chadw ysgol."

Capel Eglwysig oedd Abergorlech; tebygol na chynelid gwasanaeth crefyddol ynddo yr adeg hon gan yr Eglwys, ac felly i'r Methodistiaid gymeryd meddiant o hono er pregethu, ac efallai gyfranu yr ordinhad, gan fod y lle wedi ei gysegru. Diau mai Williams, Pantycelyn, oedd "y bugail" a ofalai am y lle. Ymddengys fod yr Esgob am eu rhwystro, ac am gau y capel, dyna y rheswm am y ddeiseb, a'r penderfyniad i barhau i bregethu ynddo, hyd yn nod pe eu cospid am hyny. "Yna," ysgrifenai Harris, "daethom i Glanyrafonddu. Pan y clywais am lwyddiant anarferol y brawd Rowland, yn Ngogledd Cymru, llanwyd fy enaid a diolchgarwch." Aeth yn ei flaen, efe a'i wraig, i Langathen; clywodd ryw glerigwr ieuanc yn eglwys y plwyf yn pregethu ystwff rhyfedd yn lle efengyl; a rhwng gwendid corph a chlywed y fath ffwlbri, teimlai y fath wasgfa nas gall iaith ei ddesgrifio. Wedi i'r gwasanaeth orphen pregethodd yntau y tu allan; y testun oedd, y mab afradlon, ac yr oedd y clerigwr yn mysg y gwrandawyr. Cafodd nerth anghyffredin; eithr pan aeth i ddangos fel yr oedd plentyn Duw yn hiraethu am gartref, ac nad oedd yn ofni dydd y farn, marchogodd y clerigwr ieuanc i ffwrdd. Dydd Sadwrn yr oedd Harris yn ei ol yn Nhrefecca. Erbyn cyrhaedd yno cafodd fod cymylau duon yn hofran uwch ei ben; clywai sî fod yr erlidwyr eto am ei bressio i'r fyddin; ond ymgysurai yn nghanol yr oll wrth weled fod pob peth dan ofal yr Arglwydd, ac y gallai oruwch-lywodraethu y cyfan i'w ogoniant.

Y mae y dydd-lyfr yn dra dyddorol, ond rhaid i ni foddloni ar ychydig loffion o hono. Medi 10, ysgrifena Harris: "Heddyw ffafriwyd fi a dau lythyr o Sir Forganwg, yn mhob un o'r rhai y cefais bryd o fwyd gan Duw. Cynwysai un newydd am yr efengyl yn enill tir yn Morganwg, yn mysg y milwyr. Wrth ddarllen, yr oeddwn yn fflam o gariad at Dduw, ac at yr anwylaf Price." Tebygol mai Price, o'r Watford, a ysgrifenasai y llythyr. "Y llall a daer erfyniai arnaf fyned trosodd i borthi fy mhlant ysprydol. Llefwn am gael fy anfon yno, i borthi fy ŵyn, ac am gael fy anfon, ac nid yn waglaw."

Medi II, ysgrifena: "O gwmpas un-ar-ddeg aethum tua thy cwrdd Tredwstan (capel yr Annibynwyr); ofnwn fyned, rhag rhoddi tramgwydd i rywun, ac eto awyddwn am fyned, er cael cyfarfod â fy Nuw. Felly aethum, gyda phob symlrwydd, gan ymddiried y cwbl iddo ef. Er fod dyn yn pregethu nas gallwn farnu dim am ei ras; ac er fod yn ei bwnc fwy o reswm nag o Grist O na baent ddoethion'-eto, cefais symlrwydd i wrando, ac i dderbyn y cyfan mewn cariad a gostyngeiddrwydd. Ar y dechreu, llefais ar ran y gynulleidfa hon, a holl gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr perthynol i'r genedl, ar i'r Arglwydd ddychwelyd atynt, a'u llanw. Yn nesaf, pan y dywedai mai un ran o ddoethineb yw cael amcan cywir er gogoniant Duw, a chael cymdeithas ag ef, teimlais awyddfryd cryf am hyn, ac am hyn yn unig. Dengys y difyniad hwn (1) fod yn mysg y Methodistiaid rai mor llawn o ragfarn at yr Ymneillduwyr, fel ag i beri i Howell Harris ofni eu tramgwyddo wrth fyned i gapel Ymneillduol. (2) Nad oedd Harris. ei hun yn cyfranogi mewn un gradd o'r cyfryw ragfarn, er ei fod yn dra ymlyngar wrth yr Eglwys Sefydledig; ond yn hytrach y disgwyliai gyfarfod a'i Dduw dan weinidogaeth brawd o Annibynwr. (3) Fod y weinidogaeth Ymneillduol yr adeg hono, os oedd y bregeth yn Nhredwstan yn engrhaifft deg o honi, yn rhy amddifad o Grist, yn marn y Diwygiwr, ac yn pwyso yn ormodol ar ddyledswyddau. (4) Y teimlai Harris fod presenoldeb yr Arglwydd wedi gadael yr Ymneillduwyr yn Nghymru, y pryd hwnw, i raddau mawr beth bynag, a'i fod yntau yn llawn o yspryd gweddi ar i Dduw ddychwelyd i'w plith.

Dydd Sadwrn, Medi 17, cychwyna Howell Harris a'i wraig am daith faith, mewn rhan, o ufudd-dod i wahoddiad y brodyr yn Morganwg, ac mewn rhan, er bod yn bresenol mewn amryw Gymdeithasfaoedd. Pregethodd y noson hono yn nghapel Eglwysig Grwynefechan gyda nerth anghyffredin. Gwelai fod gan Dduw blant yno. Aeth yn ei flaen i Lanbedr, ger Crughywel; a boreu y Sul yr oedd yn Cwm Iau, yn gwrando yr offeiriad duwiol, Mr. Jones. Pregethodd yntau yn felus oddiar Dat. iii. 3, gan agor yr addewidion. Yn y prydnhawn, pregethai Harris; yr oedd ei wendid corphorol gymaint, fel y methai fyned yn ei flaen; llefodd ar yr Arglwydd mewn ffydd am nerth, gan ddweyd: “Pa beth bynag a gaf genyt, oni wariaf ef oll er dy fwyn di?" Mewn atebiad i'r weddi daeth nerth; testun y sylwadau oedd y geiriau yn loan: "Fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn;" ond yn lle bod yn fab dyddanwch, gwnaed iddo daranu, nes yr oedd yr holl dorf yn cael ei chyffroi. Oddiyno aethant i Aberbig; yr oedd mor sal fel mai o braidd y gallai siarad; ond wrth lefaru oddiar 1 Ioan iii. 1, cafodd nerth, enaid a chorph; daeth yr Arglwydd i'w mysg mewn modd anarferol iawn; agorwyd ei enau yntau yn rhyfedd i ddangos rhagorfreintiau y duwiolion, a natur cariad Duw tuag atynt. Dydd Llun y maent yn y Goetre, dydd Mawrth yn Llanheiddel, Mercher yn Tonsawndwr, Iau yn St. Bride, a nos Iau cyrhaedda Watford, lle y mae Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal. Harris oedd y cymedrolwr. Meddai: "Gwelwn y fath anrhydedd a osodid arnaf, fy mod yma fel cymedrolwr; darostyngwyd fi yn fy yspryd oblegyd hyn, a gwnaed i mi grynu rhag ofn balchder. Daeth yr Arglwydd i'n mysg, a thynodd i lawr lawer o waith Satan, megys rhagfarn, &c., a rhoddodd i mi ddoethineb rhyfedd, gan ddysgu i mi trwy bob peth lawer o wersi." Pregethodd ar y diwedd i gynulleidfa anarferol o fawr. Darllena cofnodau y Gymdeithasfa fel y canlyn:

"Gan fod y gelyn wedi dechreu creu peth rhagfarn rhwng rhai o'r llafurwyr, yr hyn a gododd oddiar ddiffyg rhagor o gariad a gostyngeiddrwydd wrth lefaru yn gyhoeddus, ac mewn ymddygiadau preifat, wedi dysgwyl yn ostyngedig wrth Dduw, pob un yn agor ei galon ac yn cyfaddef rhyw fai, a phawb wedi dysgu gwersi pwysig, gan weled yn neillduol nad digon fod y llygad yn syml, ond y rhaid i'r rheol a'r bwriad fod yn iawn, a'r oll mewn yspryd iawn, cyn y byddo ein hymddygiad yn ddyogel, cydunasom, ac yr oeddym yn un, bendigedig fyddo Duw, gan ganfod llawer o ddichellion y gelyn. Gan fod y brawd Howell Griffith wedi cael ei oddiweddid gan fai, a chwedi dangos profion digonol of edifeirwch gwirioneddol at y brodyr, cydunwyd ei fod i gael ei dderbyn drachefn ar brawf, ar yr amod ei fod yn cymeryd gofal am achos ei gwymp yn y dyfodol.

"Fod y brawd Richard Jones i gael ymddiddan ag ef gan y brawd Harris, ac i gael ei dderbyn yn unig ar arwyddion o wellhad oddiwrth ei ddifaterwch, yr hyn a ddangosodd yn mhen dau ddiwrnod wedi siarad ag ef gerbron yr holl seiadau yn St. Nicholas, pan y trefnwyd ei fod ef a'r brawd Thomas Lewis, Pwllymeirch, it gyfnewid bob yn ail Sabbath, ac i gadw yn ddifwlch eu cymundeb â'r brodyr.

"Trefnwyd y goruchwylwyr yn seiadau. St. Nicholas, ac hefyd yn seiadau St. Andrews, Aberthyn, ac Aberddawen.

"Gan ddarfod i Thomas Williams ddweyd rhywbeth yn erbyn y gŵn a'r cassog (cassock and gown), addefodd nad hwy eu hunain oedd mewn golwg ganddo, eithr gwneuthur eilunod o honynt.

"Addefodd y brawd Powell hefyd ei fai, ddarfod iddo gyfeirio at y brodyr Price a Belsher fel rhai heb fod yn uniongred mewn rhai egwyddorion; ac ystyrid ei fod yn ddiofal wrth anog y bobl i beidio parchu y pregethwyr yn fwy nag eraill; fod hyn. yn tueddu i wanhau dwylaw y pregethwyr, ac yn rhwystro y bobl i barchu y swydd; er mai ei amcan ef (Powell) oedd peidio gwneyd eilunod o honynt, neu dderbyn wyneb personau yn ol y cnawd."

Dengys y cofnodau hyn fod y Methodistiaid yn dechreu cyfarfod â rhwystrau mewnol; fod rhai o'r cynghorwyr a berchid fwyaf yn cael eu dal gan feiau, a mawr angen am eu hadgyweirio; ac nad oeddynt yn gwbl rydd oddiwrth eiddigedd a rhagfarn y naill at y llall. Y mae yn amlwg nad yw diwygiad grymus, a theimladau dyfnion a chyffrous, yn dinystrio yr hen ddyn yn y bobl oreu mewn diwrnod. Anhawdd peidio gwenu wrth weled y mawr ofal a gymerir rhag i neb lefaru gair condemniol am bethau perthynol i'r Eglwys, ac yn arbenig y gwisgoedd offeiriadol. Ond y mae yn deilwng o sylw nad oedd yr un offeiriad urddedig yn bresenol yn y Gymdeithasfa; ac felly nad neb o honynt. hwy oedd yn gyfrifol am yr eiddig. edd hwn. Aeth Howell Harris yn bur fanwl trwy ranau o Sir Forganwg a Sir Gaerfyrddin, gan gyfeirio ei gamrau tua Phorthyrhyd, lle y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol, Hydref 3 a 4. Prawf y difyniad canlynol ansawdd ei yspryd: Cefais nerth i ddymuno ar i mi gael fy ngwneyd yn fendith i bawb, y ffordd yr wyf yn teithio; i'r cynghorwyr, ac i'r ŵyn, fel y gallwn fendigo pob tŷ yr awn iddo, a bod o les i bawb sydd yn fy ngwrando. Gwelais y fath anrhydedd y mae Duw yn roddi arnaf trwy fy ngosod yn y fath safle. Gweddïais dros y gweithwyr, yn arbenig ar iddynt fod yn un.”

Y diwrnod cyn y Gymdeithasfa daethant i gapel Abergorlech, lle y pregethai Rowland, oddiar y geiriau: "Dos yn fy ol i, Satan." Ymddengys ei bod yn bregeth amserol, a thra miniog. Y "Satan' yr anogai y brodyr i ddweyd wrtho, "Dos yn fy ol i," oedd balchder. Ymhelaethai ar ymfalchio mewn doniau, ac mewn grasusau, gan ddangos i'r rhai na feddent ddawn mor ddedwydd ydynt, eu bod yn gyffelyb i lwyn isel, yn ddyogel rhag llawer o dreialon a phrofedigaethau at chwythant ar y rhai sydd wedi eu donio yn helaeth; ac fel yr oedd yr Arglwydd yn edrych ar ffydd yn hytrach nag ar ddoniau. Yna llefarai wrth y rhai a feddent ddoniau, gan ddangos yn (1) Nad yw y doniau wedi eu rhoddi er ein mwyn ni, ond er mwyn eraill; (2) Fod y rhai a feddant lawer o dalentau yn aml yn brin mewn gras; (3) Nad yw dawn yn ddim yn ngolwg Duw mwy na phe byddent hebddo; mai ar ffydd yr edrych efe; (4) Fod doniau yn cael eu rhoddi yn amodol; y gellir eu cymeryd ymaith, a bod hyn yn cael ei wneyd yn aml; (5) Fod doniau yn aml yn arwain i brofedigaethau, fel siaced fraith Joseph. Yna trodd at falchder mewn grasusau, gan egluro fod Duw yn erbyn pob ffurf ar falchder, nad oes dim a wneir mewn balchder yn llwyddo. Yn ddiweddaf, dangosodd arwyddion ymfalchio mewn gras, sef mawrhau ein gras, ac ymddiried ynddo, yn lle yn Nghrist. Pregeth i'r cynghorwyr ydoedd yn benaf; yr oedd pob gair yn dweyd ar Howell Harris. "Gwnaed i fy enaid blygu o dan y Gair," meddai; "llefwn am ostyngeiddrwydd i mi fy hunan ac i'r cynghorwyr. Pan y clywais fod y sacrament i gael ei weinyddu, wedi i'r capel fod yn nghau, llanwyd fy enaid at diolchgarwch, gan weled fod yr Arglwydd yn dychwelyd atom. Ond pwy sydd yn cael ei lethu gan y fath gorph o falchder a mi! Y fath gwympiadau wyf yn gael o'r herwydd!"

Gwelwn ddarfod i ymdrech y Methodistiaid gyda golwg ar gapel Abergorlech fod yn llwyddianus. Pregethai Rowland drachefn yn Glanyrafonddu, y nos flaenorol i'r Gymdeithasfa. Ei destun oedd, Datguddiad xiv. 1. Wrth fyned yn nghyd tua. Phorthyrhyd cyfarfyddasant a nifer mawr o frodyr a'u gwyneb ar y cyfarfod. Clywodd Harris amryw newyddion a'i llonodd yn fawr: (1) Fod yr Archesgob wedi cynyg ordeinio un o bobl Mr. Wesley; (2) Pan y tynwyd y cwyn yn erbyn ei dy yn Nhrefecca (gan yr Uchel Reithwyr yn Sessiwn Aberhonddu), i Mr. Joseph Hughes sefyll yn ei erbyn, a'i rwystro; (3) Fod yr Arglwydd wedi bendigo Mr. Gw. i agor ei ddrws i bregethu; (4) Fod yr efengyl yn enill tir mewn gwahanol ffurf mewn llawer o leoedd. Agorwyd y Gymdeithasfa trwy bregeth gan Daniel Rowland. Ei fater oedd, yr Arglwydd yn fur o dân o amgylch ei bobl. Yna anerchodd Howell Harris y cynghorwyr ar anrhydedd, mawredd, a phwysigrwydd y gwaith ; eu hanghymwysder ar ei gyfer, gan ddangos y fath rai oeddynt, a phwy a pha fath oedd eu gelynion; natur gwir ostyngeiddrwydd, ei fod yn golygu ein bod yn ddim yn ein golwg ein hunain, a'n bod mor ofalus am helynt y brodyr ag am ein helyntion ein hun; a'r angenrheidrwydd oedd arnynt oll am ddoethineb. "Wrth agoshau at Dduw," meddai, "cefais y fath oleuni yn fy yspryd, na chefais ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yna cawsom ymddiddan maith ar natur ymrwymiad (contract); a chawsom lawer o oleuni, yn neillduol i weled mor anwybodus ydym.”

Ymadawyd y noson hono mewn tymer hyfryd; ond boreu dranoeth cyfododd tymhest yn eu mysg. Caiff Howell Harris adrodd yr hanes. "Y boreu hwn," meddai, "cawsom groes. Ceryddais i y brawd Rowland, ac eraill, am hunanesmwythid, ac am beidio myned o gwmpas gymaint ag a ddylai. Digiodd yntau. Ond yn fuan drylliodd yr Arglwydd y fagl, ac ail unodd ni. Ymresymais i yn erbyn y ddau, a'r Arglwydd a ddrylliodd fy nghalon, ac a'm darostyngodd yn y fath fodd, fel yr oeddwn yn foddlawn nid yn unig i'r brodyr weled fy ngwendidau, ond yn llawenhau yn hyny; ac oddiar ymdeimlad o'm llygredigaethau a'm gwendid llefwn am gael fy ngosod o'r naill du, gan weled pob un o honynt yn llanw ei le yn well na mi. Yr oeddwn yn wir wedi fy narostwng; nis gallwn lai nag wylo ger eu bron, gan gyfaddef beth oedd allan o le; gallwn orwedd wrth eu traed hwy oll." Y mae yn bur amlwg ddarfod i dymherau poeth Harris ei orchfygu yma eto, a pheri iddo roddi briw i'w frodyr; ac yr ydym yn ei gael yntau yn y llwch. mewn canlyniad, yn gruddfan ac yn wylo, ac yn taer ddymuno maddeuant. Yn sicr, darfu canfod y dewr pan yn wyneb perygl, yn ei ddagrau gerbron ei frodyr, effeithio yn ddwys ar y frawdoliaeth, a gorchwyl hawdd a dedwydd oedd estyn maddeuant iddo. Ymadawyd yn y teimladau goreu. A ganlyn yw penderfyniadau y Gymdeithasfa, fel y maent wedi eu croniclo yn y cofnodau:

"Wedi cryn ymgynghoriad gyda golwg ar fawredd y gwaith, ac am weled a theimlo ei faich, cydunwyd i gadw dau ddiwrnod i fod yn nghyd.

"Fod un o'r offeiriaid urddedig i bregethu yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol, yn olynol; ac os rhwystra rhagluniaeth yr un benodwyd rhag bod yn bresenol, fod y nesaf ato i bregethu.

"Cydunwyd i ysgrifenu at y brodyr Davies, a John Harris, am na ddarfu iddynt anfon rheswm dros eu habsenoldeb; ac hefyd at y brawd Thomas Miller, oblegyd llwyr esgeuluso ein Cymdeithasfaoedd.

"Fod y brawd Jenkins, oblegyd yr angenrheidrwydd presenol, a'i alwad i Loegr, i fod yn gyfangwbl yno, oddigerth pythefnos bob tri mis, y rhai y mae i'w rhoddi i ni, adeg ein Cymdeithasfaoedd Chwarterol.

"Fod y brawd Benjamin Thomas i gynorthwyo y brawd Harris, yn lle y brawd Jenkins, yn arolygiaeth holl Gymru.

"Fod y brawd James Ingram, gwas cyflog gyda y brawd Harris, i'w gynorthwyo fel cynghorwr, ac ysgrifwas, ac i gael ei anfon ganddo i Loegr a Chymru, i gynorthwyo, fel y bo galw; efe a'r brawd Thomas ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Fod y brawd Roger Williams i fyned i Ferthyr, i ddilyn ei alwedigaeth, ac i gynorthwyo y brodyr Thomas James, a Morgan John, ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Fod y rhai hyny o'r arolygwyr a feddant oleuni a chymhwysder, i gael rhyddid i egluro yr Ysgrythyrau; ond am y cynghorwyr anghyoedd, nad ydynt i lefaru mewn ffordd o bregethu, oddiar destun, ond cynghori neu esbonio. Hyn i'w gadarnhau eto, pan y ceir rhagor o oleuni.

"Fod y brawd Harris i gario cerydd yn enw y brodyr at y brawd John Williams, oblegyd ei esgeulusdod i wylio dros y cymdeithasau sydd dan ei ofal; a'i fod i gael myned yn mlaen eto ar brawf am fis, ond ei fod i gael ei droi allan y pryd hwnw oddigerth iddo ddangos ffyddlondeb ac ufudd-dod."

Y mae amryw bethau teilwng o sylw yn y cofnodau hyn, ond nid oes genym hamdden i fanylu. Hyfryd deall, modd bynag, i Howell Harris ymweled ar ei ffordd adref a'r brawd John Williams, a chael ganddo blygu hyd y llawr. "Nid oeddwn fel y dylaswn," meddai Harris, "eto efe a ddarostyngwyd ac a doddwyd; a daeth arnaf yr hyn na theimlais erioed o'r blaen yr un fath, sef baich yr Arglwydd. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn agos atom ein dau; drylliodd ein calonau, ac wylasom."

Nid llawer o amser a gafodd Howell Harris yn Nhrefecca wedi dychwelyd; yn fuan yr ydym yn ei gael yn cychwyn am Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid yn Nantmel, Sir Faesyfed, Hydref 18. Ar ei ffordd tua Nantmel, cafodd ddwy odfa ryfedd, yn wir, odfaeon hynotaf ei oes. Meddai: "Gwnaeth yr Arglwydd y dydd hwn yn ddiwrnod mawr i mi. Mewn lle o'r enw Gwernfyddai, tua deng milltir o Dalgarth, gweddïais a phregethais oddiar 1 Ioan i. 7; cefais ryddid mawr; dysgwyd fi pa fodd i drywanu, a chlwyfo, ac argyhoeddi y rhai oeddynt heb Dduw, ac yn byw mewn pechod. Yr oedd y llewyrch yn anghyffredin. Yna, daethum i Trefilod, lle sydd tua dwy neu bedair milltir yn mhellach. Ar y ffordd cefais olwg eglurach nag erioed ar fawrhydi a gogoniant Duw, a hyny fel sicrwydd y gwnai fy nwyn trwy yr holl dreialon ato ei hun. Cefais ddatguddiad hefyd o ogoniant yr Iesu, a rhyddid mawr wrth lefaru oddiar Dat. xii. 1. Dangoswn fel yr oedd duwdod Crist yn cael ei amlygu i'r eglwys; y fath awdurdod sydd yn yr amlygrwydd a rydd Duw; effeithiau hyn ar ein heneidiau.

Yr oeddwn yn cyrhaedd hyd adref yma Dangosais y modd y dylem wrando a gweddïo; ein bod yn dyfod i gyfarfod â Duw, a'r modd pan y deuwn yn ddifater nad ydym yn ei weled. Yr oeddwn yn. awr yn trywanu i'r byw, ac yn llefaru gydag awdurdod mawr. Dangosais fod rhai pechodau a drwg arferion y geill plentyn syrthio iddynt, a rhai nas gall; a'r modd yr oeddynt yn gaethion iddynt eu hunain ac i'r byd. Yr oedd yn lle ofnadwy mewn gwirionedd. Cafodd llawer, mi a hyderaf, eu dychwelyd." Gwelir mai gwirioneddau amlwg a syml yr efengyl a gyhoeddai Howell Harris; nid yw yn ymddangos fod y sylwadau ychwaith yn nodedig am eu trefnusrwydd; ond yr oedd arddeliad dwyfol ar ei eiriau; teimlai y dorf oedd o'i flaen fod ganddo genadwri oddiwrth Arglwydd yr holl ddaear; a chrynent fel dail yr aethnen gerbron y nerth anorchfygol a deimlid.

Brysiodd Harris i Nantmel, lle y pregethai Daniel Rowland. Yr oedd y teimlad dolurus a gynyrchwyd yn Mhorthyrhyd wedi llwyr iachau erbyn hyn. Meddai y dydd-lyfr: "O gwmpas pump aethum i'r Gymdeithasfa, a theimlais yn fy enaid, trwy yr Yspryd Glân, undeb a'r brawd Rowland. O, y fath ddirgelwch sydd yn yr eglwys, na wyr y byd ddim am dano! Y fath gydgymundeb ag ef ei hun y mae yr Arglwydd yn roddi i'r creaduriaid tlawd sydd yn cael eu ffafrio ganddo! Cefais y fath undeb a'r holl frodyr, fel nas gallwn feddwl am eu gadael ar ol; yr oeddwn yn un â hwynt. Cefais oleuni anghyffredin wrth arholi cynghorwr ieuanc, a dangos iddo fawredd y gwaith. Ymdrinasom a llawer o bethau, gan drefnu diwrnod o ymostyngiad a gweddi, unwaith y mis, a chymorth i'r saint erlidiedig yn Llanllieni, a gwasgu ar yr ŵyn i rodio yn fwy agos, ac i ddwyn ffrwyth. Teimlwn fy nghalon yn llosgi ynof. Yna agorwyd fy ngenau gan yr Arglwydd i lefaru am y rhyddid Cristionogol, am fuddugoliaeth ar bechod a Satan, y fraint o fod yn gredinwyr, perygl clauarineb, a'r angenrheidrwydd am zel, tân, a bywyd; na ddylem fod mewn caethiwed, onide nas gallwn arwain yr ŵyn i ryddid. Ond hyd yn nod pe byddem ni ein hunain tan draed Satan, na ddylem dynu eraill yno, ond yn hytrach llawenychu wrth weled eraill yn gorchfygu. Yr oeddwn i yn yr Yspryd; ac yr oeddym oll yn hyfryd a dedwydd. Teimlwn fy hun yn fwy o goncwerwr ar ddiafol a phechod

MAP O DEITHIAU HOWELL HARRIS, WEDI EI DYNU GANDDO EF EI HUN.

[Cafwyd hwn yn mysg ei bapyrau rhyddion. Ar y tu cefn ceir taflen gyflawn, yn dangos pellder y gwahanol leoedd.]

nag erioed. Ysgrifenasai un brawd lythyr i'm ceryddu i a'r brawd Rowland am ein hysgafnder. Cefais nerth i'w ateb mewn cariad."

Felly yr ysgrifenai Howell Harris am Gymdeithasfa Nantmel; hawdd gweled fod cariad brawdol yn llifo yno. Yr oedd y Diwygiwr o Drefecca yn arbenig ar yr uchel fanau, y diafol a phechod tan ei draed, a'i galon yn nghlwm wrth eiddo ei frodyr. A ganlyn yw y cofnodau:—

"Wedi arholiad, a dangos natur a mawredd y gwaith o gynghori, penderfynwyd fod y brawd Thomas Meredith, Mochdre, i gynghori ar brawf yn ei seiadau ei hun.

"Gwedi hir ymddiddan parthed stâd y cymdeithasau, perygl clauarineb, a'r angenrheidrwydd am dân dwyfol, a bywyd, cydunwyd ar i'r holl frodyr gyffroi y bobl i wrando lle y mae arwyddion o fywyd, ac i dderbyn yn serchus bob cenad sydd a bywyd ynddo.

"Cydunwyd, gan fod esgeulusdra cyffredinol gyda golwg ar ddwyn ffrwyth i'r Arglwydd, ac hefyd yn rhodiad rhai, fod y bobl i gael eu hanog i ddwyn ffrwyth, ac i rodio yn addas.

"Fod dydd o ymostyngiad a gweddi i'w gynal unwaith yn y mis, i ymddarostwng oblegyd ein pechodau, a phechodau yr holl eglwys weledig, yn nghyd ag eiddo yr holl fyd, yn arbenig gyda golwg ar y rhyfel.

"Fod y dydd cyntaf o Dachwedd nesaf i gael ei gynal yn ddydd o ymostyngiad trwy yr holl seiadau, o herwydd yr erledigaeth yn Llanllieni.

"Fod y brawd Richard Tibbot i fyned at y brawd John Richard i ddysgu y grefft o rwymo llyfrau."

Yn mhen pum niwrnod cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Howell Harris a lywyddai. Yr holl gofnod a geir am dani yw hyn: "Wedi agor ein calonau i'n gilydd, a chydnabod ein clauarineb a'n difaterwch, yn nghyd ag arafwch ein cynydd mewn sancteiddrwydd, a hyny gyda chalonau drylliog i raddau, a than deimlad o ddrygedd ein pechodau ein hunain, a phechodau eraill, cadarnhawyd y penderfyniadau a basiwyd yn Nantmel."

Y mae y nodiad canlynol yn dra arwyddocaol o safle Howell Harris yn nglyn â'r diwygiad: "Ni chynhaliwyd rhagor o Gymdeithasfaoedd Misol y chwarter hwn. Aeth y brawd Harris i Lundain." Cychwynodd Howell Harris a'i briod tua'r brif—ddinas tua chanol Tachwedd, a dychwelasant yn eu holau dydd Sadwrn, Rhagfyr 29.

Nodiadau[golygu]